Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, wedi croesawu newyddion bod caniatâd cynllunio bellach wedi'i roi ar gyfer Cyfleuster Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gyda'r broses o benodi Contractwr wedi dechrau, mae'r caniatâd cynllunio yn golygu y gall y gwaith o adeiladu'r Athrofa gychwyn cyn hir. Mae Llywodraeth Cymru'n gobeithio y bydd adran gynta'r Athrofa'n gallu agor yn haf 2019. 


Nod y Rhaglen AMRI yw gwneud Cymru'n fwy cynhyrchiol ac arloesol, datblygu sgiliau a throi syniadau'n fusnesau, a rhagwelir y gallai gynyddu GVA Cymru gymaint â £4bn dros 20 mlynedd.  


Bydd yr Athrofa yn rhoi sylw mawr i'r sectorau gweithgynhyrchu uwch gan gynnwys awyrofod, modurol, niwclear a bwyd gyda help fydd yn newid byd cwmnïau gweithgynhyrchu allweddol ynghyd â chwmnïau'r gadwyn gyflenwi amlsector a busnesau bach a chanolig. 


Disgwylir i'r Athrofa helpu i ddatblygu sylfaen o ddiwydiannau cystadleuol ffyniannus gan ysgogi twf a swyddi hefyd ar draws y gadwyn gyflenwi yng Nglannau Dyfrdwy, y Gogledd, y Northern Powerhouse a thu hwnt. 


Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi: 


"Rwy'n falch iawn bod caniatâd cynllunio wedi'i roi ar gyfer safle ein Hathrofa Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch newydd ym Mrychdyn. Mae hynny'n golygu y caiff gwaith fynd yn ei flaen yn unol â'r bwriad ar brosiect fydd yn cynyddu cyfleoedd economaidd yr ardal ac sydd â'r potensial i gynyddu GVA Cymru gymaint â £4bn dros yr 20 mlynedd nesaf. 


"Er mwyn cystadlu â'r byd, rhaid i Gymru'n bara'n gystadleuol. Fel y dywed ein Cynllun Gweithredu ar yr Economi, mae gofyn addasu i dechnegau modern a deall y cyfleoedd y gall cydweithio a newidiadau i'r economi, fel y pedwerydd chwyldro diwydiannol, eu cynnig. 


"Yr amcanion hyn fydd calon yr Athrofa newydd. Rwyf wir wedi nghyffroi o feddwl am ei heffaith ar yr economi ac rwy'n disgwyl ymlaen at weld y gwaith yn mynd rhagddo a gweld yr Athrofa'n agor, gobeithio, yn haf 2019." 


Cadarnhawyd mai Airbus fydd aelod cyntaf safle Brychdyn. 

Dywedodd Uwch Is-Lywydd Airbus Paul McKinlay, Pennaeth Safle Brychdyn: 

"Mae cael y caniatâd yn newyddion rhagorol nid yn unig i Airbus ac i awyrofod ond i ddiwydiannau eraill hefyd, fel y diwydiant modurol. 

"Bydd yr Athrofa'n hwb anferth i allu cadwyn gyflenwi'r sector gweithgynhyrchu uwch yng Nghymru i gystadlu ac rwyf mor falch bod Airbus yn rhan o'r fenter gyffrous hon o'r dechrau'n deg. 

"Rwy'n disgwyl ymlaen at weld technolegau a thechnegau newydd yn cael eu datblygu o dan do AMRI a'r manteision mawr a ddaw yn sgil hynny."