Mae newyddion am gais llwyddiannus Prifysgol Abertawe i sefydlu Canolfan Ragoriaeth ar gyfer y DU mewn datblygu adeiladau newydd wedi'i groesawu gyda £6.5m o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru.
Enillodd consortiwm dan arweiniad Prifysgol Abertawe, a oedd yn dwyn ynghyd brifysgolion a diwydiant, gystadleuaeth ledled y Deyrnas Unedig i sefydlu Canolfan Adeiladau Ynni Gweithredol i arwain ar y gwaith o ddefnyddio adeiladau sy'n gallu cynhyrchu a storio eu hynni eu hunain - adeiladau ynni gweithredol - ar raddfa llawer ehangach.
Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Tai ac Adfywio:
“Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu tai fforddiadwy sy'n arbed ynni, wrth i ni fwrw ati i gyrraedd ein targedau newid yn yr hinsawdd heriol a chyrraedd ein targed o adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy ychwanegol cyn diwedd tymor y Cynulliad hwn.
“Mae llwyddiant Prifysgol Abertawe yn gydnabyddiaeth o'i gwaith yn y maes hwn drwy Ganolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECFIC heb sôn am yr egni a'r arbenigedd yn ein sector adeiladu tai yng Nghymru. Mae hefyd yn adlewyrchu ein hymrwymiad i gefnogi datblygiad adeiladau sy’n gallu lleihau biliau ynni a chynhyrchu trydan.
“Rydym yn neilltuo £5m o'r Rhaglen Tai Arloesol dros gyfnod o ddwy flynedd i gefnogi prosiectau cymwys a allai gael eu datblygu yn y Ganolfan Adeiladau Ynni Gweithredol. Rydym yn edrych am brosiectau a allai fod o gymorth i ni ddiwallu ein hanghenion o ran tai fforddiadwy - prosiectau sy'n mynd i'r afael â thlodi tanwydd ac yn gwella bywyd y bobl sy'n byw ynddynt.
“Mae'n bleser gennyf gynnig y cymorth hwn i'r Ganolfan Adeiladu Ynni Gweithredol gyffrous hon sy'n cael ei sefydlu ym Mhrifysgol Abertawe.”
Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi:
“Rydym wedi cynnig £1.5m i gefnogi'r Ganolfan Adeiladau Ynni Gweithredol, sy'n cefnogi uchelgeisiau ein Cynllun Gweithredu Economaidd i ysgogi twf cynhwysol er mwyn lleihau allyriadau carbon a denu mwy o gyllid ymchwil ac arloesi i Gymru.
“Ar hyn o bryd rydym yn edrych ar sut i gynorthwyo i ddatblygu cadwyn gyflenwi i ddarparu cynnyrch a gwasanaethau adeiladu arloesol a helpu i drawsnewid y sector adeiladu. Rydym yn cydweithio â'r brifysgol i ddod o hyd i safle priodol i fwrw ymlaen â'r gwaith hwn.
“Mae gan yr arloesedd yn y maes adeiladu tai y potensial i greu sgiliau a swyddi newydd a fydd yn caniatáu i ni arwain y ffordd yn y maes hwn. Rwy'n edrych ymlaen at weld y prosiect hwn yn tyfu ac yn ffynnu.”