Neidio i'r prif gynnwy

The First Minister Carwyn Jones pays tribute to Rhodri Morgan.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mai 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

“Yn ogystal â cholli cawr o wleidydd, mae Cymru wedi colli un o ffigurau tadol y genedl. Mewn llawer iawn o ffyrdd, nid oedd Rhodri fel gwleidyddion eraill, a dyna pham yr oedd mor annwyl gan bobl. Roedd pobl yn ymddiried ynddo ac yn teimlo fel eu bod yn ei adnabod yn dda. Roedd yn ddyn doniol, deallus a oedd yn gallu trafod pob math o bynciau mewn ffordd ddifyr, ac roedd yn gwbl angerddol dros bopeth sy’n ymwneud â Chymru.

“Mawr yw fy nyled iddo, fel pawb arall yng Nghymru. Gwnaeth gymaint i ymladd dros ddatganoli, ac yna ymwreiddio datganoli yng nghalonnau a meddyliau trigolion ein gwlad. Roedd ei hyder hwyliog yn heintus, ac mae meddylfryd ymarferol Rhodri wedi cael dylanwad enfawr ar y Gymru fodern. Bydd y degawd cyntaf hwnnw o hunan-lywodraethu a gwneud penderfyniadau pendant dros Gymru yn cael ei gysylltu â’i arweinyddiaeth gref yn oes oesoedd.

“Bydd colled enfawr ar ei ôl, ac rwy’n cydymdeimlo â Julie a’r teulu oll ar yr adeg drist hon.”