Neidio i'r prif gynnwy

Nodau / Amcanion

1. Beth yw nod y Prosiect CPH?

Nod y prosiect yw symleiddio’r system CPH, i gyflwyno rheolau cofnodi cyson am symudiadau ar gyfer pob rhywogaeth, a lleihau’r gofynion gweinyddol i’r rhan fwyaf o ffermwyr.

Mae Taliadau Gwledig Cymru (RPW) yn casglu a chadw gwybodaeth hefyd am bob parsel tir sy’n rhan o ddaliad, a bydd hyn yn gwella’n sylweddol yr wybodaeth am y parseli tir hynny a ddefnyddir ar gyfer cynhyrchu da byw, gan wella’r gallu i ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i achosion o glefydau.

2. Beth yw’r prif newidiadau?

Prif ganlyniadau’r prosiect hwn yw:

  • Dileu pob Awdurdod Meddiannaeth Unigol (SOA) a Chytundeb Rheoli Cysylltiadau Tir Dros Dro (ILAM).
  • Cyflwyno rheol 10 milltir ar gyfer pob symudiad byw da.
  • Cyflwyno proses newydd ar gyfer cofrestru Cysylltiadau Tir Dros Dro (TLA) a CPH dros dro (tCPH) (hyd at 364 diwrnod).
  • Bydd gofyn i geidwaid sy’n cael tir parhaol neu dros dro roi gwybod i RPW amdano cyn symud da byw i’r tir er mwyn gallu diweddaru’r CPH neu roi CPH/tCPH newydd.
  • Bellach, mae system newydd RPW Ar-lein (Rheoli fy CPH) lle gallwch weld a chynnal y tir sydd yn eich CPH a hefyd creu / cau CPH ar-lein.

3. Ble byddant yn gymwys?

Bydd y newidiadau’n effeithio ar bob CPH yng Nghymru.

Rhif y Daliad (CPH)

4. Beth yw Rhif CPH?

Cyfeirnod daearyddol unigryw ar gyfer fferm neu grŵp o barseli tir yw Rhif CPH. Mae’n cynnwys rhif naw digid (er enghraifft, 12/345/0001). Mae’r ddau ddigid cyntaf yn cyfeirio at y sir, y tri nesaf yn cyfeirio at y plwyf a’r pedwar olaf yn cyfeirio at y daliad.

Y rhif CPH yw’r sail ar gyfer pob trefn cofnodi symudiadau da byw yn y DU. Os ydych chi’n cadw un neu fwy o’r rhywogaethau canlynol, rhaid i chi gofrestru’r lle rydych chi’n eu cadw fel daliad gyda’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA).

  • Gwartheg (gan gynnwys beison a byfflo)
  • Ceirw
  • Defaid
  • Geifr
  • Moch
  • Dofednod (mwy na 50 o adar).

5. Beth yw Cyfeirnod y Cwsmer (CRN)?

Rhif busnes unigryw a roddir gan RPW i gwsmeriaid yw Cyfeirnod y Cwsmer (CRN). Mae’n dechrau gydag “A” ac yna 7 digid.

6. Beth yw daliad?

Ystyr daliad yw unrhyw sefydliad/strwythur neu, yn achos ffermio maes, unrhyw amgylchedd lle mae anifeiliaid yn cael eu cadw, eu magu neu eu trafod yn barhaol neu dros dro, ac eithrio milfeddygfeydd neu glinigau milfeddyg.

Gall fod yn fferm neu eiddo arall megis marchnad, lloc, lladd-dy neu faes sioe. Efallai y bydd gan rai ceidwaid fwy nag un daliad ac efallai y bydd rhai daliadau’n cael eu defnyddio gan fwy nag un ceidwad.

7. Pa fathau o rifau CPH sy’n bodoli ar hyn o bryd – a fydd hyn yn newid?

Ceir rhifau CPH parhaol a thros dro ar hyn o bryd, ac ni fydd hynny’n newid. Defnyddir rhifau CPH dros dro ar gyfer tir a ddefnyddir dros dro (h.y. hyd at 364 diwrnod) pan na chaiff tenant ddefnyddio CPH parhaol y tir.

Bydd rhifau CPH dros dro yn cychwyn o’r rhif 6000 (h.y. xx/xxx/6xxx).

8. Beth yw Prif Leoliad Cynhyrchu (PPL)?

Y Prif Leoliad Cynhyrchu (PPL) yw prif leoliad y cyfeirnod CPH, a dylai fodloni’r meini prawf canlynol (yn nhrefn blaenoriaeth):

  • Y PPL yw lleoliad adeiladau da byw / parlwr godro / prif gyfleusterau trafod at ddibenion iechyd a lles anifeiliaid / hwsmonaeth. Fel arfer, bydd ganddo’r un cyfeiriad â’r cyfeiriad gohebu.
  • Os nad oes adeiladau / cyfleusterau (h.y. yn achos daliad eang), y PPL fydd man crynhoi’r anifeiliaid.
  • Ambell waith, os nad oes gan y ceidwad unrhyw dir caeedig ac mae ganddo hawliau pori tir comin yn unig, y PPL yw’r cyfeiriad gohebu (ni chaiff tir comin fod yn rhan o’r PPL).
  • Lleoliad y rhan fwyaf o’r tir sy’n eiddo neu sydd ar rent tymor hir.

Mae’r PPL hefyd yn cynnwys holl dir cyffiniol y cwsmer sydd o dan ei reolaeth barhaol.

9. A fydd ceidwad yn cael rhif CPH parhaol newydd pan fydd ei ddaliadau’n dod o dan y rheolau CPH newydd?

Fel arfer, bydd ceidwaid yn cael cadw eu CPH parhaol presennol, ond dim ond os yw’r PPL yn y plwyf cywir.
Os yw’r PPL mewn plwyf gwahanol i’r CPH presennol, bydd rhif newydd yn cael ei roi i sicrhau bod y rhif CPH yn adlewyrchu lleoliad y daliad yn gywir. Bydd RPW yn trefnu ag APHA i farciau presennol y fuches / diadellau gael eu trosglwyddo i’r rhif CPH newydd, ac â’r BCMS i sicrhau bod symudiadau gwartheg yn cael eu cofnodi â’r rhif CPH cywir ar y CTS.

Mae’r rhifau tCPH a chyfres 3000 (symudiadau defaid a geifr) presennol yn cael eu dileu a bydd rhifau newydd yn cael eu rhoi yn eu lle neu caiff rhifau dros dro eu troi’n rhifau parhaol lle bo’n briodol.

Y Rheol 10 Milltir

10. Beth yw’r rheol 10 milltir?

Er mwyn cysoni’r trefniadau ar gyfer pob rhywogaeth mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno rheol 10 milltir ar gyfer pob rhywogaeth da byw.

Caiff y 10 milltir ei fesur o ffin allanol y PPL (gweler uchod), ac mae’n cymryd lle’r rheol 5 milltir a ddefnyddiwyd ar gyfer daliadau defaid a geifr cyn hyn.

Gall parseli tir sydd o fewn 10 milltir i’r PPL greu un CPH, ac ni fyddai’n rhaid cofnodi symudiadau rhwng y parseli tir hynny. Nid oes rhaid cyfuno parseli tir nad ydynt yn ffinio â’r PPL ac sydd o fewn 10 milltir i’r PPL o dan un rhif CPH.
Rhaid bod gan barseli tir sy’n bellach na 10 milltir o’r PPL rif CPH ar wahân a bydd yn rhaid cofnodi symudiadau. Nid oes eithriadau i’r rheol 10 milltir.

11. Pam mae’r rheol pellter yn newid?

Ar hyn o bryd, mae rheolau gwahanol ar gyfer rhywogaethau gwahanol (er enghraifft, rheol 5 milltir ar gyfer daliadau defaid a geifr, ond nid oes pellter penodol ar gyfer daliadau gwartheg). Bydd y rheol newydd yn cysoni’r trefniadau ar gyfer pob rhywogaeth.

12. Sut bydd hyn yn lleihau’r gofynion gweinyddol i geidwaid?

O dan y rheolau newydd mae’n rhaid i geidwaid da byw gofrestru’r holl dir a ddefnyddir ganddynt at ddibenion cadw da byw, boed yn barhaol neu dros dro, gan ddefnyddio Rheoli fy CPH ar RPW Ar-lein.

Bydd ceidwaid yn cael dewis rheoli’r holl dir maent yn ei ddefnyddio o fewn 10 milltir i’r Prif Leoliad Cynhyrchu (PPL) (gweler cwestiwn 8 am ddiffiniad) o dan yr un rhif CPH. Nid oes rhaid cofnodi symudiadau anifeiliaid rhwng parseli tir sydd â’r un rhif CPH, sy’n lleihau gwaith gweinyddol y ceidwaid da byw.

Bydd y sector da byw yn elwa hefyd ar reolau cyson ar gyfer cofnodi symudiadau’r holl rywogaethau ac ar y mesurau rheoli clefydau anifeiliaid gwell a fydd yn deillio o’r newidiadau hyn.

Mae pob SOA a ILAM wedi cael eu cau’n llwyddiannus fel rhan o’r prosiect. Bydd llawer o geidwaid yn gallu cyfuno’r holl barseli tir maent yn eu defnyddio ar hyn o bryd (yn barhaol neu dros dro) yn un CPH. Bydd hyn yn golygu na fydd rhaid iddynt gofnodi symudiadau da byw rhwng parseli tir sydd wedi’u cofrestru o dan yr un rhif CPH, na chydymffurfio â rheolau gwahardd symud.

13. A yw hyn yn wirfoddol?

Mae cyfuno daliadau o fewn 10 milltir yn ddewisol, ond mae dileu SOA ac ILAM a hollti daliadau sydd fwy na 10 milltir o’r PPL yn orfodol.

Bydd yn rhaid i geidwaid sy’n cael tir ar gyfer da byw yn barhaol neu dros dro roi gwybod am hynny i RPW cyn symud da byw i’r tir er mwyn diweddaru’r CPH neu roi CPH/ tCPH newydd.

14. A fydd y newidiadau yn effeithio ar y tagiau diadell / buches y gall ceidwaid eu defnyddio?

Byddant, o dan amgylchiadau penodol.

Rhifau chwe digid sy’n unigryw i ddaliad yw marciau diadell / buches. Maent hefyd yn rhan o’r rhif adnabod sy’n cael ei argraffu ar dagiau clust.

Os yw ceidwad yn dewis cyfuno rhifau CPH, ni fydd yn cael defnyddio’r tagiau clust sy’n gysylltiedig â’r rhifau CPH sydd wedi’u cau. Dylai ceidwaid felly ystyried yn ofalus faint o dagiau clust sydd eu hangen ac archebu’r nifer angenrheidiol i osgoi gwastraff ac i leihau costau diangen.

15. A oes modd defnyddio dau rif buches / diadell gwahanol o dan yr un rhif daliad?

Oes. APHA sy’n gyfrifol am roi rhifau buches / diadell, felly bydd angen i geidwaid gysylltu ag APHA i drafod eu gofynion pan fydd eu daliad yn dod o dan y rheolau CPH newydd.

16. A oes angen i geidwad gysylltu ag APHA / BCMS ar ôl newid eu CPH o dan y rheolau newydd?

Bydd angen i gwsmeriaid sy’n creu CPH newydd gysylltu o hyd ag APHA i gofrestru fel ceidwad da byw ac i ofyn am rif buches/diadell newydd ar gyfer y CPH. Bydd angen hefyd i geidwaid gwartheg gofrestru ‘u CPH newydd â BCMS i sicrhau bod y System Olrhain Gwartheg (CTS) yn gyfredol.

Tir Parhaol

17. Beth yw’r diffiniad o dir ‘parhaol’?

‘Tir parhaol’ yw tir sydd at ddefnydd di-dor ceidwad am 365 diwrnod neu fwy.

(Nid yw cyfres o un ar ôl y llall o drefniadau gosod tymor byr (llai na 12 mis) yn golygu ‘parhaol’).

18. Sut bydd y rheolau newydd yn effeithio ar ddaliadau â thir parhaol?

a. Tir parhaol ychwanegol o fewn 10 milltir i’r PPL

Os oes gan geidwad fwy nag un CPH parhaol â pharseli tir o fewn 10 milltir i’r PPL, gall ddewis cyfuno’r tir hwnnw i greu un CPH.

Byddai hyn yn golygu na fyddai’n rhaid i’r ceidwad gofnodi symudiadau na chydymffurfio â rheolau gwahardd symud wrth symud da byw rhwng parseli tir sydd wedi’u cofrestru o dan yr un rhif CPH. Nid oes rheidrwydd arnoch i greu un CPH ar gyfer pob darn o dir o fewn 10 milltir.

Yn ogystal, bydd ceidwaid yn cael gwneud cais am rif CPH newydd ar gyfer tir hyd yn oed os yw e o fewn 10 milltir i’r prif CPH. Rhaid i unrhyw symudiadau da byw i CPH gwahanol gael eu cofnodi a bydd y rheolau gwahardd symud yn berthnasol.

b. Tir ychwanegol dros 10 milltir o’r PPL

Os oes gan geidwad dir parhaol sydd fwy na 10 milltir o’r PPL, bydd angen rhif CPH ychwanegol.

Os yw rhan o ddarn o dir o fewn 10 milltir i’r PPL, cewch ei uno â’r CPH.

Tir Rhent / Dros Dro

19. Beth yw’r diffiniad o dir dros dro?

Tir dros dro yw tir a ddefnyddir gan geidwad am dymor byr (364 diwrnod neu lai) e.e. pori dros yr haf neu dac gaeaf.

20. Beth sy’n rhaid i geidwad ei wneud os yw’n defnyddio tir dros dro (yn hytrach na thir parhaol)?

Os yw perchennog da byw am ddefnyddio tir dros dro ar gyfer cadw da byw, caiff ddefnyddio rhif CPH perchennog y tir. Os na fydd y perchennog tir yn caniatáu hynny gall
y perchennog da byw wneud cais i RPW i gael rhif CPH dros dro (tCPH) neu Gysylltiad Tir Dros Dro (TLA), cyn belled â’i fod bodloni’r amodau fel unig feddiannydd.

21. Beth yw CPH dros dro (tCPH)?

Mae tCPH yn cael ei roi i dir a ddefnyddir am 364 diwrnod neu lai mewn blwyddyn. Mae’n angenrheidiol at ddibenion cofnodi symudiadau da byw. Bydd pob rhif yn cychwyn o 6000 (xx/xxx/6xxx).

Bydd pob tCPH yn para hyd at 364 diwrnod. Bydd Llywodraeth Cymru’n ysgrifennu at geidwaid tua 30 diwrnod cyn i’r rhif ddod i ben. Ar ôl y dyddiad hwn, ni ddylid defnyddio’r tCPH ar gyfer cofnodi symudiadau da byw. Bydd angen i geidwaid wneud cais i gael rhif tCPH newydd ar gyfer y flwyddyn ganlynol.

Dim ond y ceidwaid fydd yn defnyddio’r tir ac ni chaiff ei dda byw gymysgu â da byw ceidwaid eraill (mae hyn yn cynnwys peidio â rhannu’r un sied neu fuarth).

22. Beth sy’n digwydd i rif CPH parhaol perchennog tir os bydd parsel tir yn cael tCPH o dan geidwad arall?

Bydd y parseli tir dan sylw yn cael eu dileu o’r CPH parhaol am weddill oes y ddaliadaeth ac yn cael rhif tCPH. Ni ddylai perchennog y tir ddefnyddio’r parseli tir hynny am weddill y cytundeb, a rhaid i berchennog y tir allu dangos nad yw’n cynnal unrhyw waith ar y tir hwnnw.

Bydd perchennog y tir yn gallu parhau i ddefnyddio gweddill ei barseli tir o dan y rhif CPH parhaol presennol.

23. A fydd perchenogion tir yn cael gwybod pan fydd RPW yn rhoi tCPH (neu TLA) ar gyfer eu tir?

Byddant. Bydd RPW yn anfon llythyr at berchenogion tir pan fydd CPH dros dro neu gysylltiad tir dros dro wedi’i roi i geidwad arall ar gyfer parseli tir sy’n rhan o’u CPH parhaol. Mae’r llythyr yn rhoi 14 diwrnod i berchennog y tir ddadlau yn erbyn hyn.

24. Beth yw Cysylltiad Tir Dros Dro (TLA)?

Bydd gan geidwad sy’n defnyddio tir fel tir dros dro sydd o fewn 10 milltir i’w CPH parhaol yr opsiwn o ‘gysylltu’ y tir hwnnw drwy TLA, cyn belled â’i fod yn bodloni’r amodau fel unig feddiannydd (gweler isod).

Bydd TLA yn para am hyd at 364 diwrnod (gydag opsiwn i’w adnewyddu’n awtomatig bob blwyddyn), ac yn ystod yr amser hwnnw byddant yn cael eu trin fel rhan o CPH parhaol y tenant at unrhyw ddibenion cofnodi ac adrodd da byw.

25. Beth yw’r amodau fel unig feddiannydd?

Er mwyn cael eich ystyried yn unig feddiannydd, rhaid ichi fodloni’r amodau a ganlyn:

  • Ar safle sy’n eiddo neu ar rent i unigolyn, partneriaeth neu gwmni bydd yr holl anifeiliaid o dan reolaeth lwyr yr unigolyn/partneriaeth/cwmni.
  • Mae’n rhaid i gaeau neu adeiladau unigol sy’n eiddo iddynt fod o dan reolaeth lwyr yr unigolyn/partneriaeth/cwmni.
  • Mae’n rhaid i gaeau neu adeiladau unigol sy’n cael eu rhentu iddynt fod o dan reolaeth lwyr yr unigolyn/partneriaeth/cwmni gydol oes y denantiaeth.
  • Mae caeau neu adeiladau (sy’n eiddo neu sy’n cael eu rhentu) a ddefnyddir gan unigolion, partneriaethau neu gwmnïau ar wahân, yn cael eu hystyried o dan feddiant unigol ar wahân hyd yn oed os oedd y caeau unigol ac ati yn rhan o’r un rhif CPH gwreiddiol.
  • Os bydd unigolyn arall sydd â’r hawl i fynd ar dir yn defnyddio’r hawl hwnnw i symud gwartheg ar droed drwy’r tir hwnnw, ni fydd yr unigolyn/partneriaeth/cwmni, sy’n berchen neu’n rhentu’r tir hwnnw yn unig feddiannydd.
  • Mae’n rhaid bod gan gaeau neu adeiladau unigol (sy’n eiddo neu’n cael eu rhentu):
  • fynedfeydd ar wahân i gaeau neu adeiladau eraill nad ydynt o dan reolaeth yr unig feddiannydd.
  • Ffin sy’n ddiogel rhag da byw e.e. ffens/perth/gwrych/wal , sy’n briodol i’r anifeiliaid ar y tir, i gadw anifeiliaid unig feddiannydd gwahanol ar wahân .
  • Ni chaiff da byw gymysgu’n rhydd â da byw eraill o CPH arall.

26. Beth yw ffin sy’n ddiogel rhag da byw?

Dylai ceidwaid da byw sicrhau bod ffiniau rhwng parseli caeau sydd o dan unig feddiannydd arall yn ddiogel rhag da byw ac yn briodol i’r anifeiliaid sydd ar y tir. Er enghraifft, nid yw ffensys dros dro / ffensys trydan yn dderbyniol ar gyfer da byw ac nid ydynt yn bodloni’r amodau ar gyfer unig feddiannydd.

27. Os bydda i’n rhentu adeilad ar fuarth a rennir â cheidwaid eraill, a alla i gael TLA / tCPH?

Na allwch. Oni bai bod yr amodau uchod wedi’u bodloni, dylai ceidwaid gofnodi symudiadau i CPH parhaol perchennog y tir (â’i ganiatâd).

Dylai ceidwaid ddeall os ydynt yn rhentu sied sy’n rhannu buarth â cheidwad / perchennog tir arall, ni fyddem yn ystyried bod hynny’n feddiant unigol, gan fod y buarth a’r adeilad yn yr un parsel tir. Er mwyn cael bod o dan feddiant unigol, dim ond un ceidwad gaiff ddefnyddio’r parsel tir cyfan.
Dylai ceidwaid ddeall os caiff anifeiliaid eu symud i rif CPH parhaol perchennog y tir, bydd gwaharddiad symud ar bob ceidwad sy’n defnyddio’r un rhif CPH. Yn ogystal, byddai pawb yn gorfod cadw at unrhyw gyfyngiadau TB pe bai adweithydd TB yn cael ei ddarganfod. Dylai ceidwaid ystyried goblygiadau’r cyfyngiadau hyn ar eu busnes yn ofalus.

28. Beth os nad oes gennyf unrhyw dir parhaol (ceidwaid heb dir)?

O dan y prosiect CPH, ystyrir bod ceidwad sydd heb dir parhaol yn geidwad ‘heb dir’. Yn yr achos hwn, bydd y ceidwad yn gallu nodi ei gyfeiriad gohebu fel ei PPL. Byddai’r radiws 10 milltir wedyn yn cael ei fesur o’r lleoliad hwnnw, a rhoddir rhif CPH parhaol.

Os yw’r tir rhent o fewn 10 milltir, bydd y ceidwad yn cael ei gysylltu â’r rhif CPH parhaol fel TLA (gyda’r opsiwn o’i adnewyddu bob blwyddyn). Os yw’r tir dros 10 milltir, bydd yn rhaid cael tCPH.

Rheoli Tir

29. Pam mae angen i geidwaid ddarparu gwybodaeth am barseli tir gan fod yr wybodaeth gan Lywodraeth Cymru eisoes drwy’r Ffurflen Cais Sengl flynyddol?

Pwrpas yr ymarfer hwn yw sicrhau bod gan Lywodraeth Cymru gofnodion cyfredol am yr holl dir sydd ar gael i geidwaid at ddibenion cadw da byw. Er y gall ceidwaid gyflwyno Ffurflen Cais Sengl flynyddol, dim ond y tir sydd ar gael ar 15 Mai a ddangosir ar y ffurflen ac nid yw’n ystyried unrhyw newidiadau a allai godi yn ystod y flwyddyn.
Felly nid yw’n cynnwys gosodiadau tymor byr nad oedd ar waith ar 15 Mai, neu dir a ddefnyddir o dan drwydded bori.

30. Os yw ceidwad yn cael tir newydd neu’n ildio parsel o dir, i bwy dylai roi gwybod?

Mae’n rhaid hysbysu Taliadau Gwledig Cymru am unrhyw newidiadau i berchnogaeth / daliadaeth tir o fewn 30 diwrnod i’r newid, yn unol â gofynion cynnal caeau.

Os yw’r tir yn cael ei ddefnyddio at ddibenion da byw, rhaid ichi ddweud wrth RPW am hyn cyn i anifeiliaid gael eu symud i’r tir. Dylai cwsmeriaid ddefnyddio’r gwasanaeth Rheoli fy CPH ar RPW Ar-lein ar gyfer:

c. Gwneud cais am CPH newydd
d. Ychwanegu tir at CPH am gyfnod dros dro drwy TLA (o fewn 10 milltir)
e. Newidiadau i dir sy’n cael ei gynnwys o fewn CPH (ychwanegu / dileu)

31. Beth os oes mwy nag un busnes da byw yn cael ei gynnal yn yr un lleoliad (gan gynnwys da byw sy’n eiddo i aelodau eraill o’r teulu neu dda byw sy’n cael eu cadw yn yr un sied ond sy’n eiddo i fusnesau gwahanol)?

Os nad yw’r da byw wedi’u gwahanu’n gorfforol dylai’r ddau fusnes ddefnyddio’r un rhif CPH, ac mae’n rhaid iddynt gydymffurfio â’r un rheolau cofnodi symudiadau a gofynion gwahardd symud.

Os yw da byw wedi’u gwahanu’n gorfforol (h.y. maent yn defnyddio parseli tir gwahanol) gellir cofrestru’r busnesau ar wahân a rhoi rhif CPH parhaol i bob un. Bydd rhaid nodi pa barseli tir sy’n perthyn i ba CPH a bydd angen i unrhyw symudiadau rhwng CPH gydymffurfio â’r gofynion cofnodi symudiadau a gwahardd symud.

Ni ellir gwahanu casgliad o adeiladau o fewn PPL (er enghraifft, adeiladau sy’n rhannu’r un buarth), a dim ond un CPH y gellir ei roi iddynt.

32. Sut bydd ceidwaid yn gallu diweddaru manylion eu parseli tir yn y dyfodol?

Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu system ar-lein o’r enw Rheoli fy CPH fel y gall cwsmeriaid ddiweddaru manylion tir eu CPH. Mae’r gwasanaeth ar-lein wedi bod ar gael ar RPW Ar-lein ers mis Chwefror 2018.

Mae Rheoli Fy CPH yn galluogi cwsmeriaid i weld maint daearyddol eu daliad a rhoi gwybod i RPW yn electronig am:

  • Cais am CPH newydd
  • Ychwanegu tir dros dro at CPH drwy TLA (o fewn 10 milltir)
  • Newidiadau i dir sy’n cael ei gynnwys o fewn CPH (ychwanegu / dileu)

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch defnyddio RPW Ar-lein cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004.

Cyfyngiadau TB / Effeithiau Profion TB

33. Pa effaith fydd y prosiect CPH yn ei chael ar statws TB ceidwad?

Efallai na fydd gan ddaliadau sydd o dan gyfyngiadau TB gwartheg ar hyn o bryd yr hawl i hollti a/neu gyfuno CPH (nes i’r daliad gael Statws heb TB Swyddogol). Yn y sefyllfaoedd hynny, bydd RPW yn holi APHA cyn caniatáu unrhyw newidiadau i’ch daliadau.

Os yw ceidwaid yn dewis uno daliadau o fewn 10 milltir i’r PPL, bydd profion TB yn cael eu cynnal yr un pryd ar yr holl barseli tir sydd wedi’u huno, cyn belled â phosibl.
Pan fydd ceidwaid yn dewis hollti daliadau neu pan fydd daliadau’n cael eu hollti o ganlyniad i’r rheol 10 milltir, gallai APHA reoli profion TB ac unrhyw achosion o heintio â TB ar y daliadau hynny ar wahân, oni bai bod cysylltiad epidemiolegol rhwng y safleoedd. Yn achos buches wedi’i heintio â TB ar ddaliad sydd wedi’i hollti ac sydd â CPH gwahanol, mae APHA yn cadw’r hawl i osod cyfyngiadau ar unrhyw CPH arall lle mae cysylltiad epidemiolegol â safle’r fuches sydd wedi’i heintio.

Pan fydd unrhyw ddaliad wedi’i hollti ac yna’n cael ei reoli o dan ddau neu fwy o rifau CPH gwahanol, bydd pob buches newydd yn etifeddu’r un hanes profion TB i ddechrau.
Dylai ceidwaid drafod unrhyw newidiadau i’w daliadau â milfeddyg achos APHA.

34. A fydd hollti yn arwain at brofion TB ychwanegol?

Os bydd CPH parhaol newydd yn cael ei roi oherwydd bod gan geidwad dir dros 10 milltir o’r PPL, neu am ei fod wedi penderfynu cael CPH newydd o fewn 10 milltir, bydd unrhyw CPH ychwanegol yn cael ei raglen brofion TB annibynnol ei hun. Mae’n bosibl y gellir cynnal y profion hyn yr un pryd â’r prif CPH gwreiddiol.

Bydd gofyn i geidwaid gydymffurfio â rheolau Profion Cyn-Symud TB wrth symud gwartheg rhwng rhifau CPH gwahanol.

35. A fyddwch yn gorfod hollti CPH ar ddaliadau sydd â chyfyngiadau TB gyda thir mwy na 10 milltir?

Bydd. Bydd y rheol 10 milltir yn berthnasol hyd yn oed os oes cyfyngiadau TB ar ddaliad. Cynghorir ceidwaid i drafod goblygiadau hyn â’u milfeddyg achos. Bydd cyfyngiadau ar bob safle nes y bydd gan bob daliad Statws heb TB swyddogol (OTF).

36. A ellir rhoi CPH parhaol newydd i dir o fewn 10 milltir i’r PPL os yw daliad o dan gyfyngiadau TB?

Byddai hynny’n fater i APHA ei ystyried, er ei bod yn debygol y byddai’r cais yn cael ei wrthod nes i’r daliad gael Statws heb TB swyddogol.

37. A gaiff ceidwad o dan gyfyngiadau TB gyfuno tir tymhorol dros dro (e.e. pori dros yr haf / tac gaeaf)?

f. Safle ychwanegol o fewn 10 milltir i’r PPL

Byddai angen i’r ceidwad drafod hyn â milfeddyg achos APHA cyn cymryd y , ond fel rheol gyffredinol, os yw’r safle rhent eisoes wedi’i gynnwys o fewn hysbysiad cyfyngu TB, gellir uno’r tir fel Cysylltiad Tir Dros Dro (TLA).
Os nad yw’r tir dros dro o dan gyfyngiadau TB ar hyn o bryd efallai y bydd angen cynnal archwiliad o’r safle.

g. Mae’r safle ychwanegol y tu allan i’r terfyn 10 milltir

Ni chewch eu huno gan y byddai angen tCPH. Os oedd y safle ychwanegol wedi’i gynnwys ar hysbysiad cyfyngiadau TB o’r blaen, byddai angen creu rhaglen brofion TB
newydd ar gyfer y gwartheg yn y tCPH, ac mae’n debyg y byddai’r profion yn cael eu cynnal yr un pryd â’r brif fuches.

38. Beth sy’n digwydd os caiff cyfyngiadau TB eu gosod ar fy naliad tra mod i o dan drefniant TLA ailadroddus (rTLA)?

Os bydd ceidwad sy’n cymryd tir dros dro naill ai fel TLA/rTLA neu tCPH a’i fod o dan gyfyngiadau TB neu ei fod yn dod o dan gyfyngiadau TB tra bod trefniant TLA/rTLA yn ei le, rhaid rhoi gwybod i RPW ac APHA. Bydd peidio â gwneud yn torri’r rheolau o dan Orchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2010.

39. A fydd ceidwaid yn gallu trefnu profion TB yr un pryd?

Pan fydd daliadau â thir o fewn 10 milltir i’r PPL yn cael eu huno, bydd APHA yn trefnu i brofion TB gael eu cynnal yr un pryd cyn belled â phosibl ar draws yr holl barseli tir sydd wedi’u cynnwys.

Pan fydd ceidwad yn dewis hollti daliad neu pan fydd daliadau’n cael eu hollti yn sgil y rheol pellter 10 milltir, bydd APHA yn rheoli profion TB ac unrhyw achos o TB yn annibynnol, oni bai bod cysylltiad epidemiolegol rhwng y safleoedd. Os felly, bydd profion dilynol ar ôl achosion o TB yn debygol o gael eu cynnal yr un pryd gan APHA.

Gwaharddiad Symud Chwe Niwrnod

40. Beth yw’r Gwaharddiad Symud Chwe Niwrnod?

Cyflwynwyd y rheolau gwahardd symud am y tro cyntaf yn dilyn argyfwng clwy’r traed a’r genau yn 2001. Cyn hyn, ystyriwyd mai symud da byw oedd yn bennaf gyfrifol am ledaenu’r clefyd.

Pan fydd gwartheg, defaid, geifr neu foch yn cael eu symud i ddaliad bydd cyfnod gwahardd yn dechrau rhag symud unrhyw rai o’r rhywogaethau hynny o’r daliad, ac eithrio’n syth i gael eu lladd (mae eithriadau eraill). Chwe niwrnod yw’r cyfnod gwahardd ar gyfer gwartheg, defaid a geifr, sef y Gwaharddiad Symud Chwe Niwrnod. Os bydd moch yn symud i ddaliad, bydd hynny’n sbarduno gwaharddiad symud 20 niwrnod, gyda gwaharddiad 6 niwrnod o ran unrhyw wartheg, defaid a geifr ar y daliad.

Tir Comin

41. Beth fydd yn digwydd os yw PPL yn ffinio â thir comin (h.y. mae’n rhannu ffin â’r tir comin?)

Gall ceidwaid y mae eu PPL yn ffinio â thir comin uno’r tir comin o dan eu rhif CPH. Mae’n rhaid i geidwaid fod â hawl cofrestredig i bori comin. Mae hyn yn cymryd lle’r trefniant blaenorol lle'r oedd ceidwaid yn cofrestru cysylltiadau tir comin ar gyfer tir comin cyffiniol.

Bellach, y sefyllfa ddiofyn yw bod yn rhaid cael Prawf Cyn-Symud dilys cyn symud gwartheg i ac o dir comin. Mae gofyn i geidwaid sy’n pori gwartheg ar dir comin gysylltu ag APHA cyn symud unrhyw wartheg er mwyn trafod gofynion profi TB.

42. A fydd angen i geidwad roi gwybod ei fod yn symud anifeiliaid i ac o dir comin cyffiniol sydd wedi’i uno â CPH y PPL?

Na fydd. Bydd ceidwaid da byw yn gallu symud anifeiliaid rhwng tir sydd wedi’i gofrestru o dan yr un CPH heb fod angen cofnodi’r symudiadau hynny.

43. Beth yw’r gofynion gwahardd symud ar gyfer symudiadau i ac o dir comin cyffiniol?

Pan fydd anifeiliaid yn dychwelyd o dir comin i’r PPL, daw gwaharddiad chwe niwrnod ar y CPH ar gyfer symudiadau i unrhyw le heblaw yn ôl i’r tir comin.

44. Beth fyddai’n digwydd pe bai cyfyngiadau TB yn cael eu gosod ar CPH sy’n cynnwys tir comin cyffiniol?

Os ceir achos o TB mewn unrhyw ran o ddaliad sydd wedi uno, gan gynnwys tir comin cyffiniol, bydd unrhyw gyfyngiadau symud a gofynion am brofion TB cysylltiedig yn gymwys i’r holl barseli tir yn y CPH. Bydd APHA yn cychwyn asesiadau o achosion TB ar dir comin fel arfer.

Byddai cyfyngiadau TB a phrofion ychwanegol ar fuchesi gwartheg sy’n cyd-bori yn cael eu cychwyn hefyd.

45. Beth fydd yn digwydd os bydd gan geidwad hawliau pori ar dir comin ond nad yw’r tir comin yn ffinio â’r PPL?

Os nad yw’r tir comin yn ffinio â’r PPL, ni fydd hawl ei uno. Felly, byddai angen CPH ar wahân ar y tir comin, a byddai angen cynnal prawf Cyn-Symud cyn symud da byw rhwng y prif CPH a CPH y tir comin.

Bydd angen i geidwaid sicrhau bod symudiadau da byw i CPH tir comin yn cael eu cofnodi, a bydd rheolau gwahardd symud yn gymwys hefyd.

Os oes nant/lôn yn hollti’r tir sy’n ffinio â’r PPL, dylai’r ceidwaid gysylltu â chanolfan gyswllt i gwsmeriaid RPW yn y lle cyntaf am gyngor.

46. A fydd angen i geidwad gofnodi symudiadau defaid i ac o dir comin nad yw’n ffinio â’r PPL?

Bydd. Mae’n rhaid cofnodi symudiadau defaid a geifr o dir comin nad yw’n ffinio yn llyfr y ddiadell a rhoi gwybod amdanynt drwy EIDCymru neu drwydded / dogfen symud (AML1).

Dylai symudiadau defaid gael eu cofnodi ar y CPH perthnasol sy’n benodol i ddefaid (00/000/XXXX) ar gyfer y tir comin. Dylai ceidwaid anfon neges ar-lein at RPW sy’n cynnwys manylion y tir comin nad yw’n ffinio.

47. A fydd angen i geidwad gofnodi symudiadau gwartheg i ac o dir comin nad yw’n ffinio â’r PPL?

Bydd. Mae’n rhaid cofnodi symudiadau gwartheg i ac o dir comin nad yw’n ffinio ar gofrestr y daliad a rhoi gwybod i BCMS amdanynt. Bydd angen i geidwad sy’n pori gwartheg ar dir comin nad yw’n ffinio â’r PPL gael CPH ar gyfer Tir Comin Gwartheg er mwyn cofnodi’r symudiadau hynny.
Dylai ceidwad anfon neges ar-lein at RPW sy’n cynnwys manylion y tir comin nad yw’n ffinio fel y gellir rhoi CPH tir comin gwartheg iddo.

48. A fydd angen i geidwaid gydymffurfio â gofynion gwahardd symud wrth symud anifeiliaid o dir comin nad yw’n ffinio?

Bydd anifeiliaid sy’n dychwelyd o dir comin nad yw’n ffinio i CPH y PPL yn cychwyn cyfnod gwahardd symud ar PPL y CPH o ran symudiadau i unrhyw le heblaw yn ôl i’r tir comin.

49. Beth sy’n digwydd i gysylltiadau tir comin hanesyddol?

Gall ceidwad sydd â hawliau pori ar dir comin sy’n ffinio â’i PPL uno’r tir comin â’i CPH o ganlyniad i’r rheolau CPH newydd. Mae hyn yn cymryd lle’r trefniant blaenorol lle’r oedd angen i gwsmeriaid wneud cais am gyswllt tir comin.
Mae cysylltiadau tir comin hanesyddol yn dod i ben wrth i’r rheolau CPH newydd ddod i rym. Os nad yw tir comin yn ffinio â’r PPL, mae’n rhaid cofnodi symudiadau da byw yn erbyn rhif CPH y tir comin sy’n benodol i rywogaeth.

50. Beth yw’r rheolau os mai un porwr sydd ar y tir comin a bod y comin wedi’i amgáu?

Gall tir comin sydd wedi’i amgáu ac sydd ag un porwr o fewn 10 milltir i’r PPL gael ei uno â’r daliad, cyn belled â bod ceidwad y da byw yn datgan y canlynol:

  • Bod y darn dan sylw o’r tir comin wedi’i amgáu gan ffens atal stoc sydd wedi bod yn ei lle am 10 mlynedd neu fwy, neu fod caniatâd Adran 38 (neu’i gyfatebol) dilys wedi’i roi;
  • Dim ond un porwr cofrestredig sy’n pori’r tir comin sydd wedi’i amgáu, neu os oes mwy nag un porwr, y ceidwad sy’n datgan yw’r unig borwr sy’n troi neu wedi ceisio troi anifeiliaid allan i’r darn wedi’i amgáu yn y 10 mlynedd diwethaf;
  • Mae’r darn o’r tir comin sydd wedi’i amgáu ar gael i’w ddefnyddio gan y nifer sydd â hawliau cofrestredig i bori’r darn hwnnw;
  • Mae’n rhaid i’r rhan sy’n weddill o’r tir comin y tu allan i’r darn sydd wedi'i amgáu fod yn addas ar gyfer hawliau cofrestredig gweddill y tir comin yn gyfan, ond gan gyfeirio’n benodol at y difrod amgylcheddol y gall ei bori ei achosi;
  • Bydd y ceidwad yn rhoi gwybod i RPW os bydd yr amgylchiadau’n newid, yn enwedig os bydd porwr arall yn troi neu’n ceisio troi anifeiliaid allan ar y darn sydd wedi’i amgáu.

Ni fydd angen cynnal profion TB cyn symud os yw’r comin un porwr yn bodloni’r amodau hyn.

Bydd y darn sydd wedi’i amgáu yn cael ei drin fel unrhyw ddarn o dir arall ar gyfer rhoi gwybod am symudiadau da byw o ran rheolau CPH. Bydd hynny’n cynnwys y diffiniad o ‘unig feddiannydd’.

Cofnodi a Rhoi Gwybod am Syniadau

51. A fydd prosesau cofnodi a rhoi gwybod yn newid i geidwaid da byw?

Ni fydd prosesau cofnodi symudiadau da byw yn newid. Yr hyn fydd yn newid yw pa symudiadau sydd angen eu cofnodi.

Pan fydd gan geidwad ddaliadau wedi’u huno efallai y bydd am ddechrau cofrestr daliad newydd ar gyfer y daliad sydd newydd ei uno. Bydd angen i geidwad gadw ei gofnodion blaenorol am y cyfnod gofynnol o hyd (tair blynedd ar gyfer defaid a geifr, deng mlynedd ar gyfer gwartheg).


 

AMSERLEN

52. Sut bydd y newidiadau’n cael eu cyflwyno?

Cafodd y prosiect ei lansio ym mis Medi 2016 ac mae pob SOA ac ILAM bellach wedi cau.

Mae gofyn i bob cwsmer newydd fapio ei dir ar Rheoli Fy CPH wrth ofyn CPH.

Bydd gofyn i gwsmeriaid sy’n gwneud newidiadau i’r tir maen nhw’n ei ddefnyddio e.e. ychwanegu tCPH/TLA, fapio eu daliad ar Rheoli Fy CPH.

Mae RPW wrthi’n cysylltu gan bwyll â phob cwsmer arall i’w gwahodd i fewngofnodi i’w cyfrif RPW Ar-lein i drosglwyddo’u daliad i’r rheolau newydd, ac i gynnal eu CPH ar-lein.

53. Unwaith y bydd cwsmer wedi trosglwyddo i’r rheolau CPH newydd, a oes unrhyw gamau pellach iddo?

Oes – mae’n ofynnol i gwsmeriaid sicrhau bod manylion eu cofnod Rheoli fy CPH yn gywir er mwyn sicrhau bod yr holl dir a ddefnyddir at ddibenion da byw wedi’i gofrestru o dan rif CPH.

Partneriaid Darparu

54. Beth yw rôl RPW yn y prosiect hwn?

RPW yw’r prif ddarparwr ar gyfer y prosiect hwn. Mae’n gyfrifol am roi gwybod i gwsmeriaid am y newidiadau a newid daliadau yn unol â cheisiadau cwsmeriaid.

55. Beth yw rôl APHA yn y prosiect hwn?

Mae APHA yn cydweithio â RPW i roi’r newidiadau hyn ar waith a bydd yn gyfrifol am ddiweddaru cofnodion profion TB.

Daliadau / Tir y Tu Allan i Gymru

56.Oes rhywbeth tebyg yn digwydd mewn rhannau eraill o’r DU?

Mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) yn cynnal prosiect ar wahân ond tebyg yn Lloegr hefyd, a dechreuwyd ar y broses o gyfathrebu â cheidwaid da byw ym mis Gorffennaf 2016.

57. Beth os oes gen i dir parhaol neu dros dro yn Lloegr?

Gall tir yn Lloegr sydd o fewn 10 milltir gael ei gyfuno mewn CPH yng Nghymru (ac i’r gwrthwyneb) i greu un CPH at ddibenion symud da byw a chofnodi. Nid oes rhaid i symudiadau da byw o fewn un CPH cyfunol gael eu cofnodi na’u hadrodd. Yn ogystal, gall tir dros dro yn Lloegr gael ei gysylltu â CPH yng Nghymru trwy TLA os yw o fewn 10 milltir.

58. Sut bydd daliad trawsffiniol yn effeithio ar fy hawliad o dan Gynllun y Taliad Sylfaenol?

I hawlio Cynllun y Taliad Sylfaenol a Chynlluniau Datblygu Gwledig ar dir, bydd angen i geidwaid â thir yn y ddwy wlad barhau i gyflwyno Ffurflen Cais Sengl i RPW ar gyfer tir yng Nghymru a’r ffurflen gyfatebol i’r Rural Payments Agency (RPA) yn Lloegr ar gyfer y tir yn Lloegr, waeth a oes CPH sengl at ddibenion symud da byw ai peidio.

Rhagor o Wybodaeth

59. Pa wybodaeth sydd ar gael?

Ewch i wefan Llywodraeth Cymru am ragor o wybodaeth am y Prosiect CPH.

60. Ble alla i gael rhagor o wybodaeth?

Llywodraeth Cymru
Canolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW
0300 062 5004

Gwasanaeth Cysylltwyr Fferm
farmliaisonservice@llyw.cymru

APHA
Tîm cofrestru cwsmeriaid
0300 303 8268
apha.cymruwales@apha.gov.uk

BCMS
0345 050 3456
bcmsctsonline@rpa.gov.uk

EIDCymru
01970 636959
contact@eidcymru.org

BPEX
0844 335 8400