I rieni, gan gynnwys sut i weld, derbyn a newid cytundebau ar gyfer oriau wedi'u hariannu Cynnig Gofal Plant Cymru.
Cynnwys
Trosolwg
Unwaith y byddwch yn cael gwybod bod eich cais am Gynnig Gofal Plant Cymru wedi'i gymeradwyo, rhaid i chi greu cytundeb ar-lein ar wasanaeth digidol cenedlaethol Cynnig Gofal Plant Cymru i sicrhau bod y lleoliad(au) gofal plant rydych wedi dewis yn gallu hawlio arian ar gyfer yr oriau gofal plant a ddarperir.
Mae dwy elfen i'r Cynnig Gofal Plant yng Nghymru: addysg gynnar a gofal plant. Ar sail y ddwy elfen hon, cynigir 30 awr yr wythnos o ddarpariaeth a ariennir gan y Llywodraeth.
Efallai y byddai'n ddefnyddiol ichi weld yr animeiddiad canlynol cyn ichi ddechrau: Sut mae'r Cynnig Gofal Plant yn gweithio? - YouTube.
Lleoliad gofal plant
Gwasanaeth gofal plant sydd wedi’i gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), neu Ofsted yn Lloegr, ac sydd hefyd wedi'i gofrestru i ddarparu'r Cynnig Gofal Plant ar ran Llywodraeth Cymru yw lleoliad gofal plant. Gallai fod yn warchodwr plant, meithrinfa, grŵp chwarae, creche, Cylch Meithrin neu glwb gofal plant y tu allan i'r ysgol. Gallwch ddewis eich lleoliad gofal plant eich hun sy'n cyflawni anghenion eich plentyn chi.
Wrth ichi fynd ati i fanteisio ar eich oriau wedi’u hariannu yng Nghymru, bydd eich Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol yn gallu eich helpu i ddod o hyd i ddarparwr cofrestredig sy’n cynnig y gwasanaeth sy’n cyflawni eich anghenion chi.
Gwybodaeth y byddwch chi ei hangen
Os ydych chi’n bwriadu manteisio ar elfen addysg gynnar y Cynnig, mae angen i chi wneud cais yn uniongyrchol i’ch awdurdod lleol cyn i chi ddechrau cwblhau cytundeb Cynnig Gofal Plant Cymru ar y llwyfan digidol. Os ydych chi wedi cael cadarnhad o’r lleoliad addysg hwnnw, dylech sicrhau bod y manylion hynny wrth law. Bydd angen i chi wybod y dref a chod post y lleoliad addysg. Os byddwch, wrth fewnbynnu manylion eich lleoliad addysg gynnar, yn cael opsiwn ‘am’ neu ‘pm’ neu ar gyfer dechrau ym mis Medi/Ionawr/Ebrill, gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis yr un cywir.
Os nad ydych chi’n bwriadu manteisio ar hawl eich plentyn i gael addysg gynnar, byddwch yn dal i allu manteisio ar elfen gofal plant y Cynnig. Fodd bynnag, bydd nifer yr oriau addysg gynnar a fydd ar gael ichi yn cael eu didynnu'n awtomatig o’r oriau adeg tymor, i ddangos yr oriau gofal plant sydd ar gael i chi ar gyfer adeg tymor, adeg gwyliau, neu’r ddau. Yn yr achos hwn, dewiswch 'Dwi ddim am fanteisio ar yr hawl i gael addysg gynnar'.
Bydd angen ichi hefyd fod wedi nodi'r lleoliad gofal plant rydych am ei ddefnyddio a bod wedi cael sgwrs gyda'r lleoliad hwnnw am yr oriau a ariennir yr hoffech i'ch plentyn eu cael yno. Unwaith y byddwch wedi trafod a chytuno ar eich oriau gofal plant gyda'ch lleoliad, rhaid i chi greu cytundeb ar-lein i hawlio cyllid yn y lleoliad hwn. Bydd angen ichi wybod enw, tref a chod post cofrestredig y lleoliad yma er mwyn creu eich cytundeb ar-lein.
Pennu dyddiad dechrau’r cytundeb
Dim ond ar gyfer dyddiad yn y dyfodol y gellir pennu dyddiad dechrau’r cytundeb, a rhaid dechrau ar ddydd Llun. Bydd angen ichi ddewis pa wythnos yr hoffech i'ch cytundeb ddechrau. Y dyddiad cynharaf a fydd yn ymddangos fydd y dyddiad cynharaf y byddwch yn gymwys i dderbyn cyllid y Cynnig Gofal Plant.
Os nad dydd Llun fydd diwrnod cyntaf eich plentyn mewn lleoliad gofal plant, dewiswch yr wythnos honno fel yr wythnos y bydd eich cytundeb ar-lein yn dechrau. Er enghraifft, os bydd y plentyn yn mynd i'r lleoliad am y tro cyntaf ar ddydd Mercher, dewiswch ddydd Llun yr wythnos honno.
Er mwyn sicrhau bod eich gofal plant yn cael ei ariannu o'r dyddiad y dewiswyd gennych, rhaid creu a chyflwyno eich cytundeb ar-lein cyn y dydd Llun cyntaf o ofal plant a ariennir. Rhaid i'ch lleoliad gadarnhau'r cytundeb ar-lein erbyn y dydd Iau yn yr wythnos gyntaf fan bellaf.
Pennu dyddiad diwedd y cytundeb
Bydd dyddiad diwedd eich cytundeb ar-lein yn cael ei osod yn awtomatig i’r dyddiad y daw eich cymhwysedd i ben. Os ydych chi’n gwybod y byddwch am ddod â'r cytundeb penodol yma i ben yn gynharach na dyddiad diwedd eich cymhwysedd wrth sefydlu'r cytundeb, cadarnhewch y gofyniad yma pan ofynnir i chi. Rhaid i chi wedyn nodi dyddiad diwedd eich cytundeb yn y fformat cywir (dd/mm/bbbb).
Os byddwch chi’n dymuno newid dyddiad diwedd y cytundeb ar ôl i'r cytundeb ddechrau, gallwch chi wneud hynny drwy eich Dangosfwrdd. Rhaid i chi nodi dyddiad newydd eich cytundeb yn y fformat cywir (dd/mm/bbbb). Gall eich lleoliad gofal plant neu'ch awdurdod lleol hefyd ddiwygio dyddiad diwedd y cytundeb ar eich rhan os oes angen.
Byddwch yn gallu canslo neu ddod â'ch cytundeb i ben ar unrhyw adeg yn ystod eich cyfnod cymhwysedd. Mae’r opsiwn ‘Diwygio dyddiad diwedd y cytundeb’ ar gael drwy glicio ar y weithred Gweld a Newid ar sgrin grynodeb y plentyn.
Lleoliad addysg gynnar
Mae gan bob plentyn hawl i addysg gynnar (neu ddarpariaeth feithrin y Cyfnod Sylfaen fel yr arferid ei galw) o’r tymor yn dilyn eu pen-blwydd yn dair oed fel arfer.
Mae pob awdurdod lleol yn darparu o leiaf 10 awr yr wythnos o addysg gynnar, naill ai yn yr ysgol leol neu mewn lleoliad fel grŵp chwarae, meithrinfa ddydd neu Gylch Meithrin.
Yn ystod y tymor ysgol, bydd yr addysg gynnar hon yn rhan o 30 awr y Cynnig. Yn ystod y gwyliau pan na ddarperir addysg gynnar, bydd y Cynnig yn darparu 30 awr yr wythnos o ofal plant i rieni cymwys, am hyd at naw wythnos y flwyddyn.
Wrth ichi fynd ati i fanteisio ar eich 30 awr yng Nghymru, bydd eich Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol yn gallu eich helpu i ddod o hyd i leoliad gofal plant cofrestredig sy’n cynnig y gwasanaeth sy’n cyflawni eich anghenion chi wrth fantesisio ar eich oriau wedi’u hariannu yng Nghymru
Dydw i ddim yn gwybod ble bydd fy mhlentyn yn mynd i gael addysg gynnar
Os nad ydych yn gwybod i ba leoliad y bydd eich plentyn yn mynd i gael addysg gynnar pan fyddwch yn creu eich cytundeb, bydd yr oriau diofyn o addysg gynnar a gynigir gan eich awdurdod lleol yn cael eu nodi ar eich cytundeb.
Cyn gynted ag y byddwch yn gwybod eich lleoliad addysg gynnar bydd angen i chi fewngofnodi, gweld a newid eich oriau Cynnig Gofal Plant a diweddaru manylion y lleoliad addysg gynnar ar sgrin grynodeb eich plentyn. Bydd eich awdurdod lleol yn cysylltu â chi os bydd hyn yn parhau i fod yn ‘anhysbys’ yn y system.
Sylwch, pan fyddwch yn diweddaru eich lleoliad addysg, os yw eich lleoliad addysg gynnar yn cynnig mwy na’r oriau a nodwyd ar gyfer addysg gynnar ar adeg creu’r cytundebau, bydd yr oriau gofal plant a ariennir sydd ar gael i chi yn ystod y tymor yn lleihau yn unol â hynny, a bydd angen diwygio unrhyw gytundebau. Bydd angen i chi ofyn i'ch Awdurdod Lleol neu leoliad gofal plant eu lleihau gan y swm gofynnol fel nad ydynt yn fwy na 30 awr o addysg gynnar a gofal plant ar y cyd. Os yw eich lleoliad gofal plant yn gwneud hyn, bydd angen i chi gymeradwyo'r cais. Os yw'r Awdurdod Lleol yn gwneud hyn ar eich rhan, nid oes angen i chi gymeradwyo'r cais.
Nid yw fy lleoliad gofal plant/addysg gynnar yn ymddangos fel opsiwn
Os nad yw eich lleoliad gofal plant neu addysg yn ymddangos ar y rhestr, cysylltwch â'ch Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd. Efallai nad yw’r lleoliad wedi cofrestru ar y gwasanaeth digidol i ddarparu'r Cynnig Gofal Plant i Gymru.
Rwy'n defnyddio mwy nag un lleoliad gofal plant yn ystod y tymor neu yn ystod y gwyliau
Gallwch ddefnyddio hyd at ddau leoliad gofal plant gwahanol (yn ogystal â'ch lleoliad addysg gynnar) yn ystod y tymor, a hyd at ddau leoliad ychwanegol yn ystod y gwyliau. Os ydych yn defnyddio mwy nag un lleoliad gofal plant, llenwch ffurflen gytundeb ar-lein wahanol ar gyfer pob lleoliad. Bydd gweddill yr oriau a ariennir a fydd ar gael ichi ar ôl creu pob cytundeb yn dangos yn y system.
Mae fy mhlentyn yn mynychu mwy nag un lleoliad addysg gynnar
Nid yw rhai lleoliadau addysg gynnar yn gallu darparu’r isafswm lwfans llawn o 10 awr o addysg gynnar. Os bydd eich lleoliad addysg gynnar yn rhoi gwybod i chi am hyn, byddwch yn gallu cael mynediad at yr oriau sy'n weddill mewn lleoliad addysg gynnar arall. Bydd eich awdurdod lleol yn eich helpu gyda hyn. Dim ond un lleoliad addysg y gallwch chi ei ddewis ar hyn o bryd felly bydd angen i chi ddewis y lleoliad addysg lle rydych chi'n defnyddio'r rhan fwyaf o'ch oriau addysg a fydd, at ddibenion cyfrifo, yn dangos fel 10 awr.
Bydd y gwasanaeth digidol ond yn caniatáu ichi fewnbynnu un lleoliad addysg gynnar. Felly, bydd angen i chi fewnbynnu'r lleoliad lle rydych chi'n defnyddio’r nifer fwyaf o oriau. Bydd y system yn dyrannu’r oriau addysg gynnar sydd ar gael i chi yn awtomatig, sy’n golygu y bydd y balans sy’n weddill at ddibenion trefnu oriau gofal plant a ariennir yn gywir.
Mae fy lleoliad neu oriau addysg gynnar yn newid
Os yw'ch plentyn yn symud i leoliad addysg gynnar gwahanol neu os yw'ch lleoliad addysg yn cynyddu'r oriau addysg ar ddechrau tymor newydd bydd angen i chi ddiweddaru'r system ar-lein gyda'r wybodaeth hon.
Er enghraifft, bydd ysgolion/lleoliadau gofal plant sydd ag oriau gwahanol bob tymor yn cael eu dangos fel dechrau ym mis Medi ‘enw’r ysgol/lleoliad’, neu dechrau ym mis Ionawr ‘enw’r lleoliad/ysgol’. Mae gofyn i chi ddiweddaru hwn wrth i'r telerau newid. Bydd eich awdurdod lleol yn cysylltu â chi os na chaiff hwn ei ddiweddaru yn y system.
Mae rhai awdurdodau lleol yn cynnig nifer wahanol o oriau addysg gynnar ar gyfer tymor yr hydref. Yn yr achosion hyn, pan nad yw rhiant yn manteisio ar ei hawl i gael addysg gynnar ar gyfer ei blentyn, bydd y system yn diweddaru nifer yr oriau addysg gynnar yn awtogmatig y mae gan y plentyn hawl iddynt ar gyfer tymor yr hydref, fel bod modd cyfrifo nifer yr oriau o ofal plant a ariennir y mae gan y rhiant hawl iddynt. Pan fydd y newid hwn yn golygu bod nifer cyfun yr oriau addysg gynnar a gofal plant a ariennir y mae gan y rhiant hawl iddynt yn fwy na 30 awr, bydd yr awdurdod lleol yn cysylltu â’r rhiant i leihau nifer yr oriau gofal plant a ariennir yn nghytundeb y Cynnig Gofal Plant.
Os nad yw’r awdurdod lleol yn gallu cysylltu â’r rhiant neu os yw’r rhiant wedi methu â gwneud y newid, bydd yr awdurdod lleol yn diweddaru’r cytundeb Cynnig Gofal Plant ar ran y rhiant.
Mewn rhai ardaloedd awdurdodau lleol, bydd plant yn symud i leoliad addysg gynnar newydd yn nhymor yr hydref. Mae angen i’r rhieni hynny yr effeithir arnynt ddiweddaru’r lleoliad addysg gynnar ar ôl i dymor yr haf ddod i ben fel na fydd hyn yn effeithio ar Gytundebau sydd ar waith ar gyfer tymor yr haf. Gall rhieni wneud hyn trwy glicio ar y ddolen Newid wrth ymyl y lleoliad addysg gynnar sy'n cael ei arddangos ar hyn o bryd ar y dudalen crynodeb plentyn.
Os yw’r newid i’ch lleoliad addysg gynnar yn golygu bod nifer cyfun yr oriau addysg gynnar a gofal plant a ariennir yn fwy na 30 awr, bydd neges gwall yn ymddangos, a bydd angen i chi drafod gyda’ch lleoliad gofal plant i leihau nifer yr oriau gofal plant a ariennir yn eich cytundeb. Bydd angen i’r lleoliad wneud y newid ar-lein, a bydd angen i’r rhiant wedyn gymeradwyo’r newid hwn cyn newid y lleoliad addysg gynnar ar y system.
Os na fydd y newidiadau hyn wedi cael eu gweithredu 1 wythnos cyn dechrau tymor mis Medi, bydd yr awdurdod lleol yn gwneud y newidiadau, gyda hysbysiadau'n mynd i'r rhiant a'r lleoliad gofal plant.
Os oes gennych gytundeb amser tymor a gwyliau cyfunol ar waith gyda’r un lleoliad gofal plant, lle mae uchafswm y 30 awr wedi’u dyrannu’n llawn, a bod eich plentyn yn symud rhwng lleoliadau addysg a gofal plant ym mis Medi, cysylltwch â’ch awdurdod lleol drwy’r llinell gymorth genedlaethol am ragor o wybodaeth.
Nodi’r lleoliad gofal plant rydw i wedi’i ddewis ar y system
Er mwyn sicrhau eich bod yn sefydlu cytundeb ar-lein gyda'r lleoliad gofal plant yr ydych wedi’i ddewis, gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis yr enw, y dref a’r cod post cywir. Mae gan rai lleoliadau gofal plant yr un enw ledled Cymru, felly bydd sicrhau bod y cyfeiriad yn gywir yn bwysig er mwyn i’r lleoliad iawn dderbyn y cais am gytundeb.
Sylwch, rhaid ichi drafod nifer yr oriau i'w defnyddio gyda'r lleoliad gofal plant cyn cwblhau'r cytundeb ar-lein.
Nifer mwyaf yr oriau
Dyma lle byddwch yn nodi'r nifer mwyaf o oriau y byddwch am eu defnyddio mewn unrhyw wythnos gyda lleoliad gofal plant penodol.
Mae'r nodwedd hon yn darparu ar gyfer rhieni sydd angen hyblygrwydd i sicrhau oriau gwahanol bob wythnos (os bydd y lleoliad yn caniatáu hynny). Er enghraifft, os yw eich lleoliad yn caniatáu i batrymau gwaith shifft gael eu darparu ar eu cyfer, efallai y gallech sicrhau mwy o oriau un wythnos na'r un nesaf, o fewn terfynau nifer mwyaf yr oriau a ganiateir.
Felly, nid system archebu yw'r broses hon – ei diben yw sicrhau eich bod yn gymwys i oriau a ariennir. Bydd angen ichi archebu eich oriau gofal plant yn uniongyrchol gyda'ch lleoliad gofal plant. Ni ddylai'r oriau ar gyfer gofal plant a ariennir rydych chi'n eu harchebu gyda'r lleoliad fod yn fwy na'r uchafswm a bennwyd yma.
Sylwch fod rhai lleoliadau'n cynnig lle ar sail hanner diwrnod neu ddiwrnod llawn yn unig, a dyna beth sy'n cael ei godi amdano (neu y gellir manteisio arno o dan y Cynnig), p'un a yw'r oriau hynny'n cael eu defnyddio ai peidio. Mae hwn yn fater cytundebol/busnes rhyngoch chi a'r lleoliad gofal plant i gytuno arno.
Gall lleoliadau gofal plant weithredu eu busnes fel y mynnent, ond rhaid iddyn nhw beidio â thrin plant o dan y Cynnig mewn ffordd wahanol i blant nad ydyn nhw o dan y Cynnig.
Creu cytundeb ar gyfer wythnosau gwyliau’r ysgol
I greu cytundeb ar-lein ar gyfer wythnosau gwyliau’r ysgol, byddwch yn dilyn yr un broses ag ar gyfer wythnosau yn ystod y tymor. Bydd angen ichi yn gyntaf drafod yr oriau gofal plant rydych chi eu hangen gyda’r lleoliad rydych chi wedi’i ddewis, cyn creu cytundeb ar-lein. I sicrhau bod eich gofal plant wedi’i ariannu o’r dyddiad rydych wedi’i ddewis, rhaid ichi greu a chyflwyno eich cytundeb ar-lein cyn dydd Llun cyntaf y gofal plant a ariennir. Rhaid i’ch lleoliad gadarnhau’r cytundeb ar-lein erbyn dydd Iau wythnos gyntaf y cyllid fan bellaf.
Felly, nid system archebu yw’r broses hon – ei diben yw sicrhau eich bod yn gymwys i oriau gofal plant a ariennir. Bydd angen ichi archebu eich oriau gofal plant yn uniongyrchol gyda’ch lleoliad gofal plant. Ni ddylai’r oriau gofal plant rydych chi’n eu harchebu gyda’ch lleoliad fod yn fwy na’r uchafswm a nodir yn y cytundeb ar-lein. Fodd bynnag, mae modd ichi ddewis ariannu’r oriau gofal plant sy’n mynd y tu hwnt i’r uchafswm hwn eich hun pe dymunwch.
Gallwch hawlio hyd at 3 wythnos o wyliau a ariennir bob tymor, a hyd at uchafswm o 9 wythnos o wyliau y flwyddyn ysgol. Felly bydd 4 wythnos o wyliau y bydd angen ichi eu hariannu eich hun. Mae'n bwysig trafod gyda'ch darparwr pa wythnosau yr hoffech eu defnyddio fel rhan o'ch hawliad ar gyfer wythnosau gwyliau, a pha wythnosau gwyliau yr hoffech dalu amdanynt eich hun. Sylwch, os bydd un awr o ofal plant a ariennir yn cael ei hawlio neu 30 awr o ofal plant a ariennir yn cael eu hawlio mewn wythnos wyliau, bydd eich hawl i wythnosau gwyliau a ariennir yn cael ei lleihau un wythnos os bydd hawliad dan y Cynnig Gofal Plant yn cael ei wneud am yr wythnos honno gan y darparwr gofal plant.
Mae'r lleoliad rydw i wedi’i ddewis wedi gwrthod yr oriau cytundeb rydw i wedi gofyn amdan nhw
Os yw'ch lleoliad gofal plant wedi gwrthod eich cytundeb, byddwch yn derbyn e-bost hysbysu i wirio'r system ar-lein a fydd hefyd yn dangos hysbysiad gwrthod. Gofynnir i chi gysylltu â'ch lleoliad am y rhesymau gwrthod. Bydd dewis y botwm ‘Dileu cais’ yn tynnu'r cytundeb o'ch dangosfwrdd, adfer yr oriau gofal plant yn ôl i chi a rhoi cyfle i chi gyflwyno cais am gytundeb newydd.
Mae'r lleoliad rydw i wedi’i ddewis wedi gwneud newidiadau i'r oriau cytundeb rydw i wedi gofyn amdanyn nhw
Os yw’r lleoliad gofal plant wedi gwneud awgrym newydd o oriau i’w darparu, byddwch yn derbyn hysbysiad i wirio’r system ar-lein a bydd cytundeb diwygiedig yn ymddangos ar eich dangosfwrdd i chi adolygu a derbyn newidiadau neu wrthod y cytundeb. Byddwch yn cael hysbysiad gwrthod a bydd yr oriau'n cael eu credydu i chi greu cytundeb newydd.
Mae'r lleoliad rydw i wedi’i ddewis wedi derbyn yr oriau cytundeb rydw i wedi gofyn amdanyn nhw
Pan fydd gosodiad yn derbyn eich cais am gytundeb, anfonir hysbysiad e-bost atoch i'ch hysbysu bod newidiadau wedi bod ar eich system ac i fewngofnodi. Byddwch yn cael eich dangosfwrdd lle byddwch yn gweld rhagor o fanylion. Ar ôl cymeradwyo cais am gytundeb, byddwch yn gweld statws CYMERADWY yng nghrynodeb cytundeb eich plentyn. Gallwch weld neu ganslo cytundebau o'r fan hon. Os oes gennych fwy nag un plentyn gyda chytundebau, dewiswch y plentyn a gweld ei fanylion ar ei sgrin gryno ei hun
Rydw i am ganslo fy Nghytundeb neu newid dyddiad diwedd y Cytundeb
I ganslo eich cytundeb neu newid ei ddyddiad gorffen, dylech siarad â'r lleoliad gofal plant yn gyntaf. Os nad ydych wedi cadw at y cyfnod rhybudd a gontractiwyd, efallai y byddwch yn atebol am daliadau.
Unwaith y byddwch wedi hysbysu'r gosodiad, gallwch ddiwygio dyddiad diwedd eich cytundeb fel a ganlyn:
- edrychwch ar y cytundeb yn eich cyfrif Cynnig Gofal Plant
- dewiswch y ddolen 'Gweld a Newid'
- dewiswch ‘Diwygio dyddiad diwedd y Cytundeb’
- nodwch y dyddiad newydd (rhaid i hyn fod cyn dyddiad diwedd y cyfnod y daw eich cymhwystra i ben)
Rhaid i chi beidio â chanslo'r cytundeb cyn 12:01yb ar ddydd Mawrth wythnos olaf y gofal. Bydd hyn yn galluogi'r lleoliad i hawlio unrhyw oriau a ddarperir yr wythnos honno.
Gallwch ryddhau'r oriau mewn cytundeb presennol fel y gallwch eu defnyddio mewn cytundeb newydd. I wneud hyn rhaid i chi ganslo'r cytundeb presennol ddim hwyrach na 11:59yp ar y dydd Llun yn dilyn wythnos olaf y gofal a ddarperir o dan y cytundeb hwnnw.
Os ydych wedi gwneud camgymeriad neu angen newid i ddyddiad cynharach, dilynwch yr un broses.
Rydw i am ddiwygio nifer yr oriau a nodir yn y cytundeb gweithredol sydd gennyf yn ei le gyda fy lleoliad(au)
Os ydych chi am ddiwygio nifer mwyaf yr oriau a nodir yn eich cytundeb(au), rhaid ichi drafod hyn gyda’r lleoliad i gytuno eich gofynion newydd. Yna bydd y lleoliad yn diwygio’r cytundeb ar-lein yn unol â hynny. Os wnaethoch chi yn y lle cyntaf greu cytundeb yn cyfuno wythnosau yn ystod y tymor ac wythnosau gwyliau’r ysgol gyda lleoliad gofal plant, gallwch ofyn am ddiwygio y naill neu’r llall neu’r ddau o’r rhain. Pan fydd y lleoliad wedi cyflwyno’r diwygiad, bydd angen ichi gymeradwyo neu wrthod y newidiadau y gwnaed cais amdanynt drwy’r dangosfwrdd erbyn diwedd dydd Iau yr wythnos dan sylw yn y newidiadau.. Hyd nes y caiff yr oriau newydd eu cymeradwyo gennych chi, bydd y cytundeb presennol ar gyfer yr oriau a ariennir yn parhau yn ei le. Bydd newidiadau sydd wedi’u cymeradwyo yn dod i rym yn syth.
Os hoffech ddiwygio’r cytundeb i roi terfyn ar amser yn ystod y tymor neu amser yn ystod y gwyliau yn unig, neu os hoffech ychwanegu amser yn ystod y tymor neu amser yn ystod y gwyliau, yna bydd angen ichi ganslo eich cytundeb cyfunol presennol a chreu dau gytundeb unigol ar gyfer amser yn ystod gwyliau’r ysgol a/neu amser yn ystod y tymor.
Rydw i am symud lleoliadau gofal plant
Os ydych chi’n dymuno symud lleoliad gofal plant, dylech gael sgwrs â’r lleoliad gofal plant ac yna ddiwygio dyddiad diwedd y cytundeb ar gyfer y lleoliad presennol drwy eich dangosfwrdd.
Bydd angen i chi wedyn greu'r cytundeb ar-lein ar gyfer y lleoliad newydd erbyn 12pm ar ddydd Llun yr wythnos gyntaf yn y lleoliad newydd. Hyd yn oed os nad ydych yn bwriadu dechrau gofal plant tan ganol yr wythnos, mae angen creu'r cytundeb erbyn y dydd Llun. Bydd hefyd angen i'r lleoliad newydd gadarnhau'r cytundeb ar-lein erbyn dydd Iau'r wythnos honno er mwyn hawlio arian.
Mae gan fy mhlentyn anghenion cymorth ychwanegol
Unwaith y byddwch wedi cael eich cymeradwyo ar gyfer lleoliad y Cynnig Gofal Plant, cysylltwch â’r llinell gymorth genedlaethol i gael gwybod pa gymorth y gellir ei rhoi ar waith i ganiatáu i'ch plentyn fanteisio ar ofal plant o dan y Cynnig.
Cadw golwg ar faint o wythnosau wedi'u hariannu sydd gen i
Byddwch yn gallu gweld ar eich dangosfwrdd faint o oriau y mae'r lleoliad gofal plant yn ei hawlio ar gyfer eich plentyn bob wythnos. Dylai'r oriau hynny gyd-fynd â'r oriau sydd wedi'u trefnu rhyngoch chi a'r lleoliad gofal plant.
Faint o wythnosau gwyliau wedi'u hariannu sydd gen i ar ôl
Gallwch weld faint o wythnosau gwyliau sydd wedi'u neilltuo ar eich dangosfwrdd.
Wrth i'r lleoliad gofal plant hawlio'r cyllid, bydd gweddill yr wythnosau sy'n weddill yn lleihau.
Os nad yw eich lleoliad wedi cyflwyno hawliad ar gyfer wythnos wyliau flaenorol eto, efallai na fydd y ffigur hwn yn gywir.
Byddwch yn gallu gweld a oes unrhyw hawliadau wythnos wyliau heb eu talu drwy edrych ar yr hawliadau a wnaed ar eich dangosfwrdd. Rydych hefyd yn derbyn hysbysiadau e-bost pan wneir cais am ofal plant wedi'i ariannu i'ch plentyn. Gallwch fonitro a yw lleoliad eto i gyflwyno hawliad wythnos wyliau a allai o bosibl effeithio ar gyfanswm yr wythnosau gwyliau sy'n weddill.
Wythnosau nad ydyn nhw’n cael eu hariannu
Mae 4 wythnos yn y flwyddyn nad ydyn nhw’n cael eu hariannu o dan y Cynnig. Dim ond yn ystod gwyliau’r ysgol y bydd modd cymryd y rhain. Os oes gennych gytundeb ar gyfer wythnosau yn ystod y tymor yn unig gyda’ch lleoliad, mae’n debygol na fydd raid ichi ariannu unrhyw wythnosau eich hun. Er hynny, os oes gennych gytundeb wythnosau yn ystod y gwyliau gyda’ch lleoliad, bydd angen i 4 o’r wythnosau hyn gael eu hariannu gennych chi. Bydd modd ichi gadw golwg ar yr wythnosau hyn drwy’r hawliadau y mae’r lleoliad yn eu cyflwyno’n wythnosol. Bydd y lleoliad yn hawlio 0 ar gyfer yr wythnosau hyn a fydd yn golygu mai’r rhain yw’r wythnosau y bydd yn ofynnol ichi eu hariannu’n llawn.
Mae'n bwysig trafod gyda'ch darparwr pa wythnosau yr hoffech eu defnyddio fel rhan o'ch hawliad ar gyfer wythnosau gwyliau, a pha wythnosau gwyliau yr hoffech dalu amdanynt eich hun. Sylwch, os bydd un awr o ofal plant a ariennir yn cael ei hawlio neu 30 awr o ofal plant a ariennir yn cael eu hawlio mewn wythnos wyliau, bydd eich hawl i wythnosau gwyliau a ariennir yn cael ei lleihau un wythnos os bydd hawliad dan y Cynnig Gofal Plant yn cael ei wneud am yr wythnos honno gan y darparwr gofal plant.
Cyfeirnod cytundeb - cadwch yn ddiogel
Unwaith y byddwch wedi cyflwyno'ch cais cytundeb ar-lein yn llwyddiannus i'ch lleoliad gofal plant, bydd angen i'r lleoliad naill ai dderbyn neu wrthod y cais hwn am gyllid. Byddwch yn cael rhif cyfeirnod unigryw e.e. G8044034. Cadwch hwn yn ddiogel.