Heddiw, diolchodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan, i bawb, yn staff ac yn rhieni, a fu’n rhan o gyrraedd y garreg filltir hon.
“Alla i ddim diolch ddigon i’r rhaglen. Mae wedi rhoi’r hyder sydd ei angen imi gyrraedd fy nod”, diffoddwr tân, Adele.
“O’r diwedd, rwy’n gallu rhoi’r bywyd maen nhw’n ei haeddu i ‘mhlant”, Morgan, mam i ddau.
“Allwn i ddim bod yn fwy balch o’r hyn rwy wedi’i wneud dros fy merch a minnau”, Chanelle, peintiwr hunangyflogedig.
Dyma sylwadau rhai o’r 1000 o rieni sydd wedi cael help i fynd yn ôl i’r gwaith, diolch i raglen Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth.
Mae Cronfa Gymdeithasol Ewrop yn cefnogi’r cynllun ac mae’n cael ei weithredu mewn partneriaeth â’r Adran Gwaith a Phensiynau. Mae’n chwarae rhan allweddol yng Nghynllun Cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru, a’i nod yw rhoi cymorth i rieni sy’n anweithgar yn economaidd i oresgyn problem gofal plant, gan eu galluogi i baratoi ar gyfer cyfleoedd gwaith a manteisio ar y cyfleoedd hynny.
Mae’r cynllun wedi helpu rhieni fel Adele, mam ifanc â babi bach. Roedd hi am wneud rhywbeth a fyddai’n gwneud gwahaniaeth, ac ymrestrodd ar gwrs diogelwch tân lle cafodd wybod am Raglen Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth. Fe wnaeth ei chynghorydd ei helpu i ennill y cymwysterau yr oedd eu hangen arni i fod yn ddiffoddwr tân. Bellach mae hi’n gweithio i Wasanaeth Tân ac Achub y Canolbarth a’r Gorllewin.
Mae Morgan yn unig riant arall sydd wedi cael help gan y Rhaglen. Ar ôl cyfnod o ddiweithdra, cysylltodd ag un o gynghorwyr Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth, a wnaeth ei helpu i ddod o hyd i ofal plant i’w dau blentyn, a hyfforddiant i fynd yn ôl i’r gwaith. Cafodd gyngor ymarferol hefyd ar dechnegau cyfweliad a drafftio CV. Daeth o hyd i waith o fewn dwy filltir i’w chartref a oedd yn golygu bod modd iddi gadw cydbwysedd rhwng ei bywyd a’i gwaith. Yn y pen draw, cafodd ddyrchafiad, ac mae ei chyflogwr, Al-Met, yn caniatáu iddi gael ei rhyddhau am un diwrnod yr wythnos i ddilyn cwrs Diploma Lefel 3 mewn Cyfrifyddu, sydd wedi’i ariannu’n llawn.
Roedd Chanelle yn rhiant sengl di-waith a oedd yn arfer gweithio fel gyrrwr. Roedd angen swydd fwy hyblyg arni ac roedd am ddechrau ei busnes peintio ac addurno ei hun. Fe wnaeth y rhaglen Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth ei helpu i gyflawni hyn drwy roi cymorth iddi ymuno â chwrs coleg, cael grant cychwyn busnes a chyngor ar gael benthyciad am gerbyd cwmni. Mae nawr yn rhedeg cwmni The Lady Paint and Decor a enillodd y wobr aur yng nghystadleuaeth beintio ymgeiswyr newydd Crown y llynedd.
Dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes,
“Mae hyn yn gryn gamp ac rwy’n diolch i bawb am eu gwaith caled yn cefnogi 1000 o rieni i ailgydio mewn gwaith. Mae ein Cynllun Cyflogadwyedd yn sôn am ein hymrwymiad i gael gwared â’r rhwystrau sy’n atal pobl rhag gweithio a sicrhau bod unigolion yn cael eu hyfforddi, eu haddysgu a’u paratoi ar gyfer byd gwaith.
“Mae Adele, Morgan a Chanelle yn enghreifftiau o’r ffordd y mae Rhaglen Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth yn llwyddo i gyflawni’r ymrwymiad hwnnw drwy helpu rhieni i ddod o hyd i ofal plant fforddiadwy, cyfloedd hyfforddi priodol a swyddi diogel cynaliadwy ag oriau gwaith hyblyg. Rwy’n falch o weld bod y cynllun hwn yn cael effaith mor fawr, gan ei gwneud yn bosibl i rieni weithio er mwyn cyfrannu at gymdeithas.”
Mae cynghorwyr Rhaglen Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth wedi bod yn cydweithio’n agos â Chynnig Gofal Plant Cymru i sicrhau bod gofal plant ar gael i rieni unwaith y byddan nhw mewn gwaith cynaliadwy. Mae’r Cynnig Gofal Plant yn cael ei dreialu ar hyn o bryd mewn nifer o awdurdodau lleol, a bydd ar gael i bob rhiant cymwys o fis Medi 2020.