Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad i rianta corfforaethol i helpu plant â phrofiad o ofal i fyw bywydau annibynnol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Mehefin 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Rhianta corfforaethol yw'r cydgyfrifoldeb sydd gan bartneriaid pan fydd plentyn yn dod i ofal. Mae'n cynnwys awdurdodau lleol, aelodau etholedig, gweithwyr ac asiantaethau partner. Mae gan bob aelod a gweithiwr y cyngor gyfrifoldeb statudol i weithredu ar ran y plentyn hwnnw.

Fodd bynnag, nid yw'n gyfyngedig i awdurdodau lleol a'r sector cyhoeddus. Ein nod yw i rianta corfforaethol fod yn gydgyfrifoldeb dros ein plant mwyaf agored i niwed. Gall y sector preifat a'r trydydd sector hefyd chwarae rhan hollbwysig i sicrhau bod plentyn â phrofiad o ofal yn ffynnu.

Mae bod yn rhiant corfforaethol yn ymwneud â bod eisiau'r gorau i blentyn, er mwyn iddyn nhw:

  • fod yn ddiogel ac yn hapus
  • llwyddo yn yr ysgol
  • mwynhau perthnasoedd da â'u cyfoedion
  • cyfrannu at eu cymunedau
  • manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd hamdden, gwasanaethau gwaith ieuenctid, hobïau a diddordebau
  • datblygu i fod yn oedolion sy'n barod i fyw bywyd annibynnol
  • llywio'u ffordd fel oedolion drwy addysg ffurfiol ac anffurfiol a swyddi a gyrfaoedd o'u dewis
  • bod yn sefydlog yn ariannol

Yn gryno, mae'n ymwneud â thrin plentyn â phrofiad o ofal gyda'r cariad a'r cymorth y byddech chi'n trin eich plentyn eich hun.

Os gall eich sefydliad gynnig cymorth i blant a phobl ifanc â phrofiad o ofal, gallwch ddod yn rhiant corfforaethol. Rydym yn croesawu ceisiadau gan sefydliadau yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector.

Beth mae rhianta corfforaethol yn ei olygu

Mae rhianta corfforaethol yn ymwneud â 2 beth:

  • beth allwch chi ei wneud i helpu a meithrin plentyn neu berson ifanc â phrofiad o ofal
  • beth fyddech chi'n ei ddymuno i'ch plentyn eich hun

Gallai hyn edrych fel:

  • cynnwys y plentyn mewn penderfyniadau am ei ofal, os ydych chi'n awdurdod lleol
  • cynnwys pobl ifanc â phrofiad o ofal wrth ddylunio eich gwasanaeth, os ydych chi'n sefydliad yn y trydydd sector
  • ailwerthuso arferion o ran penodi gweithwyr i annog cyflogi unigolion â phrofiad o ofal, os ydych chi'n gwmni preifat

Beth sydd ei angen ar blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal gan riant corfforaethol

Mae angen ar blant a phobl ifanc i riant corfforaethol weithredu mewn modd sy'n seiliedig ar hawliau. Mae hyn yn golygu:

  • gweithredu er eu budd gorau, gan eu helpu i:
    • arfer eu hawliau
    • hybu eu hiechyd corfforol, eu hiechyd meddwl a'u llesiant meddyliol
  • gweithredu yn unol â Chyfamod y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn ym mhopeth rydych chi'n ei wneud
  • ystyried eu barn, eu dymuniadau a'u teimladau a'u hannog i fynegi'r rhain yn eu dewis iaith
  • deall a helpu pobl ifanc o ran cwestiynau a materion sy'n ymwneud â phethau sy'n bwysig iddyn nhw, gan sicrhau bod staff yn deall ac yn gallu eu cyfeirio at gymorth pellach
  • eu helpu i gael gafael ar wasanaethau a gwneud y defnydd gorau o wasanaethau a ddarperir gan:
    • yr awdurdod lleol a'i bartneriaid
    • y sector gwirfoddol a'r trydydd sector
    • y gymuned
  • eu hannog i fod â dyheadau uchel ac i sicrhau'r canlyniadau gorau iddyn nhw eu hunain
  • sicrhau eu bod yn ddiogel a bod ganddyn nhw sefydlogrwydd o ran eu bywydau cartref, eu perthnasoedd, a'u haddysg neu eu gwaith
  • eu paratoi i fod yn oedolyn a byw bywydau iach ac annibynnol

Dod yn rhiant corfforaethol

Os ydych chi'n barod i ddod yn rhiant corfforaethol, dilynwch y camau isod.

Cam 1

Ymrwymo i'r siarter rhianta corfforaethol.

Cam 2

Ar ôl ymrwymo i'r siarter, byddwch yn cael llythyr croeso a thempled addewid gan Lywodraeth Cymru. Cwblhewch eich addewid a'i anfon i rhiantacorfforaethol@llyw.cymru.

Cam 3

Rhowch wybod inni am hynt eich taith fel rhiant corfforaethol gan anfon e-bost atom ar rhiantacorfforaethol@llyw.cymru.