Neidio i'r prif gynnwy

Bydd y myfyrwyr o Gymru sy’n mynd i brifysgolion mewn rhannau eraill o’r DU, lle mae disgwyl i’r ffioedd gynyddu, yn cael cymorth ariannol ychwanegol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Medi 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y myfyrwyr o Gymru sy’n mynd i brifysgolion mewn rhannau eraill o’r DU, lle mae disgwyl i’r ffioedd gynyddu, yn cael cymorth ariannol ychwanegol.

Bydd y pecyn cymorth yn cynnwys:

  • Cymorth ffioedd dysgu, sef grant o hyd at £4,954 a benthyciad o hyd at £4,046 yn ystod blwyddyn academaidd 2017/18 i’r rheini sy’n astudio yng Nghymru.
  • Bydd benthyciad ffioedd ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd fel arfer yn byw yng Nghymru, y mae eu ffioedd yn cynyddu o ganlyniad i newidiadau mewn rhannau eraill o’r DU. Yn achos cwrs llawnamser sy’n costio £9250, felly, bydd Grant Ffioedd Dysgu o £4954 ar gael tuag ato, a Benthyciad Ffioedd Dysgu o hyd at £4,296.
  • Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (grant cynhaliaeth), a roddir ar sail prawf modd, o hyd at £5,161, yn dibynnu ar incwm y cartref. 
  • Dylai cynllun benthyciadau i ôl-raddedigion sydd fel arfer yn byw yng Nghymru fod ar gael i’r rheini sy’n astudio yn 2017/18, os caiff y rheoliadau priodol eu dwyn ymlaen.

Dywedodd Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Addysg:

“Mae’r penderfyniad hwn yn rhoi sicrwydd i’r rheini sydd am fynd i’r brifysgol ym mlwyddyn academaidd 2017/18, ac yn rhoi’r opsiwn i bobl gael astudio lle bynnag maen nhw’n dewis, gan gynnwys Lloegr lle mae disgwyl i’r ffioedd dysgu gynyddu. Mae’n bleser cael cyhoeddi ein bod ni hefyd yn datblygu cynllun benthyciadau newydd i ôl-raddedigion yn dilyn ein hymgynghoriad diweddar.”

Ddydd Mawrth, 27 Medi, caiff casgliadau adolygiad Syr Ian Diamond o drefniadau cyllido addysg uwch a chyllid myfyrwyr eu cyhoeddi.