Neidio i'r prif gynnwy

Mae Cadw wedi cyhoeddi ei fwriad i restru Capel Coffa Capel Celyn, ar lan Llyn Celyn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mehefin 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae ymgynghoriad ar y rhestru bellach yn cael ei gynnal, gyda'r nod o roi Gradd II* i'r capel ar sail ei ddiddordeb pensaernïol a hanesyddol.

Cafodd y capel coffa ei ddylunio gan y cerflunydd o Gymro R.L. Gapper o Aberystwyth. Mae’n eiddo i Ddŵr Cymru ac wedi'i leoli ar lan ogledd-orllewinol Llyn Celyn. Cafodd ei adeiladu ar safle'r fferm a gollwyd, Gwern Delwau, gan ddefnyddio cerrig o'r fferm hon ac adeiladau a gafodd eu dymchwel er mwyn adeiladu'r gronfa ddŵr, gan gynnwys y Capel Celyn gwreiddiol.

Mae'r ardd goffa yn gartref i'r beddfeini a gafodd symud o'r Capel Celyn gwreiddiol – ac mae'r waliau o'i hamgylch wedi'u gwneud o glogfeini o'r caeau ac yn cynnwys y maen dyddio o'r capel gwreiddiol. Bwriad Gapper oedd i'r adeilad fod yn debyg i gwch, a fyddai'n symboleiddio diwylliant a chrefydd yn goroesi'r dilyw ac yn cyrraedd y lan – a chafodd cerrig lleol a oedd wedi cael eu hailgylchu eu defnyddio er mwyn rhoi gwreiddiau i'r adeilad. Mae'r ffenestr onglog nodedig yn un o nodweddion cryf y dyluniad, a chafodd ei lleoli i edrych tuag at safle'r capel gwreiddiol.

Mae Gradd II* wedi cael ei rhoi i'r adeilad, ar sail ei ddiddordeb pensaernïol a hanesyddol, ac mae Cadw o'r farn bod y capel o ddiddordeb pensaernïol arbennig fel capel coffa, capel hardd sy'n gweddu i'r ardal o'i gwmpas – ac yn mynegi hanes yr adeilad mewn modd pwerus ond cynnil.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas:

"Drwy restru'r adeilad mae ei ddiddordeb hanesyddol arbennig yn cael ei gydnabod. Mae hefyd yn cael ei gydnabod fel teyrnged hardd gan R.L. Gapper i Gapel Celyn, i'r gymuned a oedd yn byw yno ac i le arwyddocaol Capel Celyn yn hanes diweddar Cymru.

Dywedodd Chris Jones, Prif Weithredwr Dŵr Cymru:

"Fel gwarcheidwaid yr adeilad, rydym yn croesawu cynlluniau i roi statws rhestredig i Gapel Coffa Capel Celyn, sy'n adlewyrchu ei arwyddocâd diwylliannol a'i bwysigrwydd hanfodol i'r gymuned leol a hanes ein gwlad.

"Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod yr adeilad yn cael ei gynnal a'i wella fel ei fod yn parhau'n hygyrch i'r cyhoedd – ac rydym wedi bod yn gweithio gyda grwpiau ymgyrchu lleol a Cadw ar y ffordd orau o gyflawni hyn.

Mae'r ymgynghoriad ar restru Capel Celyn bellach wedi dechrau, gyda'r nod o restru'r adeilad yn dilyn y cyfnod ymgynghori o 28 diwrnod. Mae'r strwythur yn cael ei ddiogelu dros dro o dan Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016. Mae peri difrod i'r strwythur yn drosedd.