Mae pum rhestr chwarae newydd wedi’u cyhoeddi ar gyfer enw da ar-lein ar Hwb.
Enw da ar-lein yw barn pobl eraill am berson yn seiliedig ar yr hyn maen nhw’n ei ddweud a’i wneud ar-lein.
Mae’r rhestri chwarae yn edrych ar y canlynol:
- sut mae’r enw da yn cael ei ffurfio
- sut y gall bywyd ar-lein gael effaith bositif a negyddol ar sut y mae pobl eraill yn meddwl am berson, ysgol neu goleg
- yr effaith y gall enw da ar-lein ei chael ar blant, teuluoedd a phroffesiynau
- rhai ffyrdd syml o reoli a gwella enw da ar-lein.
Mae’r rhestri chwarae yn cynnwys nifer o adnoddau, gwasanaethau cymorth ac asiantaethau.
Rhestri Chwarae
- Enw da ar-lein (Cynradd)
- Enw da ar-lein (Uwchradd)
- Enw da ar-lein (Rhieni a gofalwyr)
- Enw da ar-lein (Ymarferwyr addysgol)
- Enw da ar-lein (Llywodraethwyr)
Argymhellir bod yr adnoddau hyn yn cael eu defnyddio’n rhan o gynllun gwaith ehangach wrth addysgu dysgwyr am y risg sy’n bodoli ar-lein a dinasyddiaeth ddigidol.