Neidio i'r prif gynnwy

Sut i fanteisio ar y rhestrau chwarae sydd ar gael yn y parth diogelwch ar-lein i'w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Mehefin 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Canllawiau i athrawon ddefnyddio rhestrau chwarae ar-lein yn yr ystafell ddosbarth i'w gweld ar Hwb.

Mae rhestrau chwarae yn caniatáu ichi gasglu deunydd o wahanol ffynonellau ar y we i greu un adnodd y gellir ei rannu ag eraill. Gellir eu troi'n aseiniad i gasglu sgoriau cwis defnyddwyr a'u dangos mewn llyfr marcio ar gyfer yr athro.

Mae gennym restrau chwarae sy'n barod i'w defnyddio, ond bydd y canllawiau hyn yn cynnig syniadau newydd i'ch helpu i fanteisio i'r eithaf ar y parth diogelwch ar-lein, gan gynnwys:

  • defnyddio'r rhestrau chwarae i bennu aseiniadau
  • defnyddio'r rhestrau chwarae fel dulliau asesu gwerthfawr
  • hyrwyddo cydweithrediad rhwng cymheiriaid ac asesiadau gan gymheiriad
  • creu cwisiau a llawer mwy.

Mae rhestrau chwarae'r parth diogelwch ar-lein yn cynnig ffordd ddibynadwy, diogel a hygyrch o drefnu a rhannu adnoddau ar Hwb. Mae modd addasu'r adnoddau a gallwch gadw copi i'w olygu a'i ddefnyddio rywdro arall gyda dosbarth gwahanol.