Daeth yr ymgynghoriad i ben 29 Medi 2023.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 210 KB
PDF
210 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym yn awyddus i glywed eich barn ar y rhestrau arfaethedig o undebau llafur a chyrff a all enwebu unigolion i gael eu penodi'n aelodau cyswllt o'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydym yn ymgynghori ar:
- restr o undebau llafur a all enwebu ymgeiswyr i'w penodi fel aelodau cyswllt o'r gweithlu i gynrychioli'r gweithlu trydyddol academaidd
- restr o undebau llafur a all enwebu ymgeiswyr i'w penodi fel aelodau cyswllt o'r gweithlu i gynrychioli'r gweithlu trydyddol anacademaidd
- restr o un corff i gynrychioli buddiannau dysgwyr sy'n ymgymryd ag addysg drydyddol yng Nghymru er mwyn penodi aelod cyswllt y dysgwyr