Neidio i'r prif gynnwy

Mae Cyllid Cymru wedi creu rhestr fer o leoedd yn y Gogledd all fod yn gartref i'r 50 a rhagor o bobl ddaw i weithio ym mhrif swyddfa Banc Datblygu newydd Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mai 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Datgelodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, bod safleoedd yn Wrecsam a'r cyffiniau wrthi'n cael eu hystyried fel lleoliad ar gyfer prif swyddfa'r banc newydd. 

Daw'r newyddion wrth i Cyllid Cymru, fydd yn esblygu i fod yn Fanc Datblygu Cymru, gadarnhau mai llynedd oedd ei blwyddyn brysuraf erioed yn rhanbarth y Gogledd. 

Dywedodd Ken Skates: 

"Mae fy mhenderfyniad i leoli prif swyddfa ein Banc Datblygu newydd yn y Gogledd yn rhan o ymrwymiad ehangach Llywodraeth Cymru i wasgaru ffyniant a swyddi i bob rhanbarth yng Nghymru. Trwy leoli'r banc yn y Gogledd, bydd yn y lle delfrydol i wneud y gorau o'r cyfleoedd anferth sy'n gysylltiedig â thwf y sector Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol bob ochr i'r ffin. 

"Mae  Cyllid Cymru eisoes yn gwneud gwaith mawr yn y Gogledd ac mae newydd gadarnhau mai'r llynedd oedd eu blwyddyn brysuraf erioed yn y rhanbarth. 

"Rydym wrthi'n ystyried dau safle posib yn Wrecsam a'r cyffiniau ar gyfer prif swyddfa'r Banc Datblygu a bydd hynny, yn ein barn ni, yn gyfle inni adeiladu ar y llwyddiant hwn." 

Dywedodd Giles Thorley, Prif Weithredwr Cyllid Cymru:

"Mae'r awydd cryf i fuddsoddi rydym wedi'i weld yn y flwyddyn ddiwethaf yn dyst i'r uchelgais yn economi'r Gogledd. Ond nid dyna ddiwedd y stori yn ein barn ni.  Rydym yn teimlo bod potensial anferth i'r rhanbarth dyfu ymhellach. Yn ystod y flwyddyn, gwnaethon ni gryfhau'r tîm buddsoddi sy'n gweithio yn y Gogledd ac rydym nawr yn ystyried cyflogi rhagor gan arwain yn y pen draw at ddyblu'n presenoldeb." 

"Buddsoddodd Cyllid Cymru £26.6m y llynedd mewn 43 o fusnesau ac er bod hynny'n ganlyniad ardderchog, rhaid peidio â llaesu dwylo. Wrth inni symud at sefydlu Banc Datblygu Cymru, mae'n hanfodol bod gan y corff newydd bresenoldeb cryf ym mhob rhanbarth wrth inni ymroi i helpu mwy o fusnesau micro i ganolig." 

Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod Cyllid Cymru wedi buddsoddi £7.7m yn y Gogledd, gan sbarduno'r preifat sector i fuddsoddi £19m.

Amcan Banc Datblygu Cymru fydd buddsoddi £1 biliwn i helpu busnesau Cymru dros y pum mlynedd nesaf a'i gwneud hi'n haws i fusnesau micro i ganolig yng Nghymru gael gafael ar gyllid, gwasanaethau cymorth a chyngor rheoli. 

Bydd yn creu ac yn diogelu dros 5,500 o swyddi bob blwyddyn tan 2022 a bydd disgwyl iddo sicrhau bod buddsoddiad uniongyrchol yn codi i £80 miliwn y flwyddyn erbyn hynny. 

Cadarnhaodd Ysgrifennydd yr Economi hefyd y bydd uwch swyddogion yn gweithio yn y brif swyddfa, gan gynnwys Cyfarwyddwr Risg, Cydymffurfiaeth a Chyfreithiol presennol Cyllid Cymru. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno y caiff unrhyw wasanaethau newydd a gynigir gan y Banc Datblygu eu lleoli yn y Gogledd.

Mae'r Banc Datblygu yn barod ar gyfer ei lansio yn ddiweddarach eleni, cyn belled â'i fod yn cael ei gymeradwyo gan y rheoleiddwyr.