Rhestr defnyddwyr Arolwg Cenedlaethol Cymru: hysbysiad prefiatrwydd
Mae gan y rhai sydd ar y rhestr hawl i wybod sut yr ydym yn prosesu, defnyddio a storio gwybodaeth amdanynt.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Bydd rhai defnyddwyr yr Arolwg Cenedlaethol yn ymuno â'n rhestr defnyddwyr er mwyn cael gwybodaeth reolaidd am yr arolwg. Mae gan y rhai sydd ar y rhestr hawl i wybod sut yr ydym yn prosesu, defnyddio a storio gwybodaeth amdanynt.
Ein dull gweithredu
Rydym yn cadw rhestr o ddefnyddwyr yr Arolwg Cenedlaethol er mwyn medru anfon negeseuon e-bost am unrhyw ddatblygiadau, fel cyhoeddi adroddiadau am y canlyniadau. O bryd i'w gilydd, byddwn hefyd yn gofyn i ddefnyddwyr yr arolwg os hoffent ddarparu adborth yn ymwneud â'r arolwg neu ein cyhoeddiadau.
Rydym yn cadw manylion fel enw, cyfeiriad e-bost, sefydliad a rôl yr aelodau ar y rhestr. Ni fyddwn yn rhannu'r wybodaeth hon gyda sefydliadau eraill.
Gall y rhai sydd ar y rhestr ddatdanysgrifio ar unrhyw adeg drwy:
- e-bost at arolygon@llyw.cymru
- cysylltu â thîm yr Arolwg Cenedlaethol ar 0300 025 6685.
Os ydych ar y rhestr, a bod gennych unrhyw bryderon ynghylch sut y cafodd eich gwybodaeth ei thrin, gallwch gysylltu â'r swyddog diogelu data ar gyfer Llywodraeth Cymru ar:
Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru
Os nad ydych yn fodlon â'r ymateb, gallwch gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef rheoleiddiwr annibynnol Llywodraeth Cymru ar ddiogelu data.
Gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ar:
Y Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF
Rhif ffôn: 0303 123 1113
Gwefan: Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth