Neidio i'r prif gynnwy

Prif ddiben y swydd

Cefnogi'r gwaith o gyflawni Rhaglen Seilwaith Digidol Gwerth £55 miliwn Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn Sir Gaerfyrddin drwy weithredu rhaglen o weithgareddau a gynlluniwyd i fynd i'r afael â materion strategol a gweithredol, er mwyn cyflymu a hwyluso'r defnydd o seilwaith sefydlog a symudol ledled Sir Gaerfyrddin.

Bydd y gwaith hwn yn sicrhau bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn cael ei gydnabod fel partner rhagweithiol gan ddiwydiant a'r Llywodraeth ym mhob mater sy'n ymwneud â gwelliannau i Seilwaith Digidol. 

Y Prif Ddyletswyddau

  1. Arwain a chefnogi'r gwaith o weithredu argymhellion Adolygiad Seilwaith Telathrebu'r Dyfodol Llywodraeth y DU, a holl argymhellion eraill Llywodraeth y DU a/neu Lywodraeth Cymru, yn Sir Gaerfyrddin yn unol â chyfarwyddyd Tîm y Rhaglen Seilwaith Digidol Rhanbarthol, aelodau Bwrdd y Rhaglen ac arweinwyr lleol ym maes digidol/Adfywio strategol.
  2. Cefnogi holl fuddsoddiad Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU mewn Seilwaith Digidol (Cysylltedd Ffibr a Symudol) a galluogi hyn i gael ei gyflawni ledled Sir Gaerfyrddin, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i Brosiectau'r Gronfa Band Eang Lleol, Prosiect Gigabit Llywodraeth y DU, Cyflymu Cymru 2 Llywodraeth Cymru ac ati.
  3. Gweithredu fel pwynt cyswllt canolog Cyngor Sir Caerfyrddin rhwng diwydiant a/neu lywodraethau ar lefelau lleol, cenedlaethol a'r DU ar gyfer gweithgarwch sy'n gysylltiedig â seilwaith digidol a chefnogi portffolio digidol y Cyngor mewn cydweithrediad â Bargen Ddinesig Bae Abertawe.
  4. Dwyn ynghyd ac arwain penderfyniadau gweithredol gyda thimau cyngor lleol sy'n ymwneud â defnyddio seilwaith digidol, h.y. Cynllunio, priffyrdd, eiddo, materion cyfreithiol ac ati
  5. Nodi meysydd cymhleth a heriol i awdurdodau lleol a darparwyr allanol wrth ddefnyddio seilwaith digidol. Cydweithio â thimau yng ngwasanaethau mewnol allweddol y Cyngor i ailgynllunio'r broses o ddarparu gwasanaethau er mwyn sicrhau bod y defnydd o seilwaith digidol yn effeithlon, yn integredig ac yn cael ei herio a'i wella'n barhaus. 
  6. Gweithio'n agos gyda chynllunwyr a chydweithwyr eraill yn y broses gynllunio i sicrhau bod manteision a phwysigrwydd seilwaith digidol yn cael eu hadlewyrchu yn y Cynllun Datblygu Lleol a'r Cynllun Datblygu Strategol.
  7. Nodi a mapio asedau a seilwaith addas y gellid eu darparu i gefnogi'r gwaith o osod rhwydweithiau ffibr a symudol. Mireinio a dadansoddi setiau data a gweithio gyda charfanau ar draws y rhanbarth i greu set ddata gyson, model masnachol a phroses gaffael i brydlesu asedau'r sector cyhoeddus  er mwyn i weithredwyr symudol eu defnyddio ar gyfer technoleg ddi-wifr. 
  8. Cael a chyfathrebu'r wybodaeth ddiweddaraf am gyfleoedd ar gyfer buddsoddi rhanbarthol a lleol mewn Seilwaith Digidol (Cysylltedd Ffibr a Symudol) a, lle bo'n briodol, manteisio ar gyfleoedd o'r fath mewn cydweithrediad â Thîm y Rhaglen Seilwaith Digidol Rhanbarthol, aelodau Bwrdd y Rhaglen a thimau digidol lleol.
  9. Hyrwyddo'r defnydd o dechnoleg ddigidol a'r cyfle i ddatblygu ffyrdd newydd, arloesol o weithio a hwyluso newid drwy sicrhau cefnogaeth ar bob lefel ar draws y sefydliad a chan randdeiliaid allanol.
  10. Darparu data a gwybodaeth o Sir Gaerfyrddin i Dîm y Rhaglen Seilwaith Digidol Rhanbarthol yn ôl y gofyn i hwyluso ffrydiau gwaith rhanbarthol a lleol a buddsoddi mewn Seilwaith Digidol.

Meini prawf hanfodol

Cymwysterau, Hyfforddiant Galwedigaethol, Aelodaethau Proffesiynol

  • Addysg hyd at lefel gradd neu gymhwyster proffesiynol cyfwerth

Sgiliau sy'n Ymwneud â'r Swydd a Galluoedd

  • Gallwch nodi rhwystrau posibl a'u disgrifio mewn ffyrdd sy'n berthnasol i gymheiriaid uniongyrchol ac i randdeiliaid lleol. Gallwch weithio ar y cyd wrth argymell penderfyniadau a'r rhesymu y tu ôl iddynt.
  • Rydych yn gwybod am gyd-destun strategol eich gwaith a pham ei fod yn bwysig.
  • Gallwch wrando ar anghenion y sector preifat a rhanddeiliaid mewnol a'u dehongli'n glir ar gyfer y ddwy gynulleidfa. Rydych yn gwybod sut i reoli disgwyliadau rhanddeiliaid. Gallwch fod yn hyblyg, ac rydych yn gallu cyfathrebu'n rhagweithiol ac yn adweithiol. Rydych yn gwybod sut i hwyluso trafodaethau anodd o fewn y tîm neu gydag uwch randdeiliaid amrywiol. 
  • Gallwch feithrin consensws rhwng gwasanaethau neu randdeiliaid annibynnol. Rydych yn cymryd rhan mewn gwahanol fathau o adborth gan ddewis y math cywir ar yr adeg briodol a sicrhau bod y drafodaeth a'r penderfyniad yn aros. Gallwch ddod â phobl at ei gilydd i ffurfio tîm brwdfrydig a helpu i greu'r amgylchedd cywir i dîm weithio ynddo. 
  • Gallwch wneud penderfyniadau a nodweddir gan lefelau risg a chymhlethdod a reolir. Gallwch ddatrys anghydfodau technegol rhwng cymheiriaid ehangach a rhanddeiliaid anuniongyrchol, gan ystyried pob safbwynt a barn.
  • Rydych yn gwybod sut i gyfleu cynlluniau, rhagdybiaethau cynllunio a chynnydd i amrywiaeth o randdeiliaid. Gallwch gynnal y gwaith o ddarparu a rheoli'r berthynas rhwng gwahanol bobl o fewn ac ar draws timau.

Gwybodaeth

  • Mae gennych wybodaeth helaeth am reoli prosiectau, dylunio gwasanaethau (prosesau o'r dechrau i'r diwedd), a dealltwriaeth gadarn o reoli newid mewn amgylchedd digidol. 
  • Byddwch yn monitro, yn gwerthuso ac yn adrodd ar welliannau busnes.
  • Rydych yn ymwybodol o werth economaidd-gymdeithasol seilwaith digidol sy'n gallu trosglwyddo ar gyfradd gigabeit a chymhwyso technolegau digidol newydd a'u manteision.
  • Rydych yn deall prosesau cynllunio a deddfwriaeth gysylltiedig
  • Rydych yn ymwybodol o ymyriadau seilwaith digidol Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU a'r blaenoriaethau a'r rhaglenni cysylltiedig.
  • Mae gennych wybodaeth a dealltwriaeth gadarn o'r diwydiant telathrebu a thechnolegau cysylltiedig.

Profiad

  • Mae gennych brofiad o weithio mewn partneriaeth a chydweithio ar draws sawl sefydliad, dylanwadu, a chyd-drafod newid yn llwyddiannus
  • Mae gennych brofiad o ddatrys problemau trawsadrannol
  • Rydych wedi cynrychioli nifer o randdeiliaid ar lefel uwch ac wedi cyfleu'r fethodoleg i nodi'r ffordd orau ymlaen sy'n dderbyniol i bob ochr 
  • Mae gennych brofiad o weithredu rhaglenni newid a gweithio mewn amgylchedd ystwyth.

Rhinweddau personol

  • Gallwch ddatblygu perthynas waith gadarnhaol ag ystod eang o unigolion, grwpiau a rhanddeiliaid.
  • Rhaid i chi allu gweithio heb gyfarwyddyd
  • Mae gennych sgiliau cyfathrebu effeithiol, ar lafar ac yn ysgrifenedig a gallwch gyfathrebu'n effeithiol ar lefel strategol a gweithredol
  • Rydych yn dangos ymagwedd frwdfrydig a chadarnhaol
  • Mae gennych sgiliau rhyngbersonol, cyd-drafod a dylanwadu rhagorol
  • Mae gennych sgiliau arwain a chymell effeithiol.

Meini prawf dymunol

  • Gwybodaeth am Fethodoleg y Prosiect neu hyfforddiant ynddi, e.e. PRINCE2 (ffurfiol neu anffurfiol). 
  • Profiad profedig a / neu gymhwyster perthnasol ym maes cynllunio neu amgylcheddol  
  • Profiad o weithio mewn timau cynllunio awdurdod lleol neu gyda hwy 
  • Profiad o weithio gyda'r diwydiant telathrebu a thechnolegau cysylltiedig
  • Ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol