Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae system o ‘gydsyniad tybiedig’ neu ‘optio allan’ ar gyfer rhoi organau wedi bod ar waith yng Nghymru ers 1 Rhagfyr 2015. Ym mis Mai 2020, cyflwynwyd system debyg yn Lloegr. Fel rhan o weithredu’r system yn Lloegr, pasiodd Senedd y DU yr Human Tissue (Permitted Material: Exceptions) (England) Regulations 2020 (‘Rheoliadau Lloegr’). Mae’r Rheoliadau hyn yn nodi’r deunyddiau hynny a fydd yn cael eu heithrio rhag cydsyniad tybiedig yn Lloegr, ac y bydd angen cael cydsyniad datganedig bob tro cyn eu trawsblannu.

Mae Rheoliadau Lloegr yn cyfateb yn fras i Reoliadau Trawsblannu Dynol (Deunydd Perthnasol a Eithrir) (Cymru) 2015 (‘Rheoliadau 2015’), sydd eisoes mewn grym yng Nghymru, er eu bod yn diweddaru’r rhestr drwy ychwanegu mwy o ddeunyddiau.

O ganlyniad, mae angen diwygio Rheoliadau 2015 i sicrhau cysondeb ledled system y DU gyfan o roi organau, ac i ystyried y datblygiadau mewn gwyddor feddygol. Roedd hyn yn destun ymgynghoriad diweddar gan Lywodraeth Cymru.

Beth oedd pwnc yr ymgynghoriad

Roedd yr ymgynghoriad yn gofyn am sylwadau ar set o Reoliadau diwygio a fyddai’n ychwanegu at y rhestr gyfredol o feinweoedd a oedd wedi’u heithrio o gydsyniad tybiedig yng Nghymru. Cyhoeddwyd y Rheoliadau Trawsblannu Dynol (Deunydd Perthnasol a Eithrir) (Cymru) (Diwygio) 2020 (‘y Rheoliadau diwygio’) ar ffurf drafft fel rhan o’r ymgynghoriad.
Byddai’r Rheoliadau diwygio yn ychwanegu’r canlynol at Reoliadau 2015 i’w cysoni â Rheoliadau Lloegr:

  • Ychwanegu ‘tracea’ at y rhestr o feinweoedd cyfansawdd yn Rheoliad 2(2)
  • Ychwanegu’r organau a’r meinweoedd rhywiol at atgenhedlol canlynol at y rhestr o ddeunydd perthnasol a eithrir yn Rheoliad 2(3):
    • ceg y groth
    • clitoris
    • tiwb ffalopaidd
    • labia
    • gwain
    • fwlfa
    • prostad
    • perinëwm
  • Ychwanegu adran newydd yn Rheoliad 2 i gynnwys y mathau canlynol o gelloedd a ddefnyddir mewn Cynhyrchion Meddyginiaethol Therapi Uwch (ATMPs) - meddyginiaethau sy'n cynnwys meinweoedd, celloedd neu enynnau ar ôl eu trin mewn labordy ac a ddefnyddir i drin anafiadau a chlefydau:
    • bôn-gelloedd limbal
    • celloedd yr afu/iau
    • celloedd epithelial yr ysgyfaint
    • celloedd pancreatig
    • celloedd epithelial yr arennau

Roedd yr ymgynghoriad yn gofyn nifer o gwestiynau, yn cynnwys a oedd y rhesymeg dros y newidiadau hyn yn glir ac a fyddent yn sicrhau cysondeb â’r system yn Lloegr. Mae hyn yn bwysig oherwydd natur drawsffiniol rhoi a thrawsblannu organau a meinweoedd, yn enwedig rhwng Cymru a Lloegr. Gofynnwyd hefyd a oedd pobl yn cytuno â’r ychwanegiadau arfaethedig. Gofynnwyd a ddylid cadw ‘llygad’ yn Rheoliadau 2015 o ystyried nad oedd wedi’i chynnwys yn Rheoliadau Lloegr. Yn ogystal, roedd nifer o gwestiynau ynghylch y Gymraeg.

Manylion yr ymgynghoriad a throsolwg o’r ymatebion

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 27 Chwefror a 30 Ebrill 2020. Roedd y ddogfen ymgynghori ar gael mewn fformat safonol dwyieithog ac yn cynnwys ffurflen ymateb y gellid ei chyflwyno ar e-bost neu ar ffurf copi caled. Darparwyd y Rheoliadau diwygio yn Gymraeg a Saesneg ar gyfer yr ymgynghoriad. Darparwyd pob fersiwn ar y tudalennau gwe canlynol:

Diwygiadau i’r rheoliadau ar gyfer rhoi organau

Amendments to the organ donation regulations

Dosbarthwyd yr ymgynghoriad i nifer o randdeiliaid allweddol hefyd.

Daeth deg ymateb i’r ymgynghoriad i law, wedi’u dosbarthu fel a ganlyn:

  • 6 gan unigolion
  • 1 gan sefydliad proffesiynol
  • 1 gan sefydliad academaidd
  • 1 gan sefydliad GIG
  • 1 gan sefydliad cynrychioli dinasyddion

Derbyniwyd dau ymateb ar e-bost ac 8 ar y ffurflen ar-lein.

Cydnabyddir bod yr ymateb i’r ymgynghoriad wedi bod yn isel. Efallai mai’r rheswm rhannol am hyn yw bod y cyfnod clo ar gyfer Covid-19 wedi dechrau fis ar ôl i’r ymgynghoriad ddechrau. Er bod hyn yn siom, dylid nodi fodd bynnag mai dim ond 17 o ymatebion a ddaeth i law pan ymgynghorwyd ar y Rheoliadau gwreiddiol yn 2015, felly nid oeddem yn disgwyl llawer o ymatebion i’r ymgynghoriad diweddaraf hwn. Gan fod llawer o sylw wedi’i roi ac ymgynghoriad cyhoeddus wedi’i gynnal ar roi organau yng Nghymru ers cyflwyno’r system o optio allan yn 2011, credwn fod y boblogaeth yn fwy cyfarwydd â’r system sydd ar waith ac nad ydynt yn teimlo angen penodol i roi sylwadau ar newidiadau cymharol fychan.

Crynodeb o’r ymatebion a ddaeth i law ac ymateb Llywodraeth Cymru

Cwestiwn1: Ydych chi’n credu bod y newidiadau yr ydym yn bwriadu eu gwneud i Reoliadau Trawsblannu Dynol (Deunydd Perthnasol a Eithrir) (Cymru) 2015 yn glir, yn sicrhau cysondeb ar draws y systemau rhoi organau sydd ar waith yn y DU, ac yn sicrhau ein bod yn gweithredu mewn modd sy’n adlewyrchu’r datblygiadau diweddaraf mewn gwyddoniaeth feddygol?

Crynodeb o’r ymatebion i Gwestiwn 1

Cytunodd mwyafrif llethol yr ymatebwyr fod y newidiadau a oedd i’w cyflwyno i’r Rheoliadau yn glir ac yn sicrhau cysondeb. Dim ond un ymatebydd a oedd yn anghytuno er ni roddwyd rheswm am yr ymateb hwnnw. Teimlai un ymatebydd, er bod y newidiadau yn glir, y gallai Llywodraeth Cymru fod wedi manteisio ar y cyfle i ddarparu mwy o wybodaeth am y trawsblaniadau penodol a restrwyd ar gyfer eu heithrio, hyd yn oed y rhai nad oedd yn bosibiliadau trawsblannu eto. Teimlent hefyd y gallai Llywodraeth Cymru fod wedi gwneud mwy i gasglu barn y cyhoedd ar roi meinweoedd penodol yn hytrach na chymryd yn ganiataol y byddai pobl am eu gweld yn cael eu heithrio o gydsyniad tybiedig ac y dylai’r newidiadau hynny fod yn seiliedig ar a oedd y nodau polisi gwreiddiol yn cael eu gwasanaethu. Roedd yr un ymatebydd yn teimlo na allai aelod o’r cyhoedd ateb y cwestiwn ynghylch a oedd y newidiadau’n ‘sicrhau cysondeb’ yn rhesymol heb gael esboniad manylach o systemau eraill y DU.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Er ein bod ni’n gwerthfawrogi’r pwyntiau a godwyd yn yr ymatebion i’r ymgynghoriad, byddem yn dweud nad oedd hi’n fwriad gennym i gychwyn trafodaeth eang ar y deunydd y dylid ei roi fel rhan o drefn cydsyniad tybiedig wrth gynnig y diwygiadau hyn i Reoliadau 2015, na cheisio gwneud newidiadau ar raddfa eang i’r Rheoliadau cyfredol neu wthio’r ffiniau o beth allai fod yn dderbyniol. Trafodwyd y syniad o gael eithriadau i gydsyniad tybiedig yn fanwl fel rhan o’r gwaith o graffu ar Ddeddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013 (‘Deddf 2013’) pan roedd y sensitifrwydd a oedd yn gysylltiedig â rhai deunyddiau, a’r angen i gynnal hyder y cyhoedd mewn system o’r fath yn amlwg.

Mae’r system optio allan o gydsyniad i roi organau wedi bod ar waith yng Nghymru am bron i bum mlynedd, ac yn y cyfnod hwnnw mae’r system wedi’i derbyn a’i chroesawu; ond mae’n rhaid i ni gofio bod y system yn dal yn gymharol newydd, a bod y rhaid iddi weithredu ochr yn ochr â’r systemau mwy newydd a gyflwynir mewn mannau eraill o’r DU. Felly, nid ydym yn credu mai dyma’r amser priodol i gynnal adolygiad o’r deunyddiau a eithrir fel yr awgrymwyd.

O ran sicrhau cysondeb, credwn fod yr ymgynghoriad wedi datgan yn glir ein bod yn sicrhau cysondeb gweithredol, gyda Lloegr yn bennaf, ac i’r diben hwnnw, cafodd sefyllfa bolisi Lloegr ei hegluro, gyda dolen i’w Rheoliadau drafft.

Cwestiwn 2: Ydych chi’n cytuno â’r ychwanegiadau newydd arfaethedig at reoliadau 2015 (hy ychwanegu’r tracea at reoliad2(2); rhagor o feinweoedd rhywiol ac atgenhedlu at reoliad2(3) a pharagraff newydd at reoliad 2 ynglŷn â chelloedd a ddefnyddir mewn Cynhyrchion Meddyginiaethol Therapi Uwch)?

Crynodeb o’r ymatebion i Gwestiwn 2

Cafwyd ymateb cymysg i’r cwestiwn hwn. Roedd y rhan fwyaf yn cytuno â’r ychwanegiadau newydd i Reoliadau 2015. Fodd bynnag, roedd un ymatebydd yn teimlo bod angen mwy o eglurder o ran celloedd yr afu/iau a’r pancreas gan y gallai rhai o gelloedd yr afu/iau a’r pancreas gael eu cynnwys o dan gydsyniad tybiedig fel rhan o dynnu organau solet. Dywedodd ymatebydd arall nad oedd yn gweld y rhesymeg dros ychwanegu’r tracea i’r rhestr o ddeunyddiau a eithrir gan nad yw’n cael ei eithrio fel rhan o drawsblaniad calon-ysgyfaint ar hyn o bryd; roedd yn teimlo na fyddai rhoddwyr a’u teuluoedd yn gweld arwahanrwydd trawsblaniad y tracea fel math newydd o drawsblannu a fyddai’n bwysig o gwbl. Nid oedd yr ymatebydd hwnnw’n gwrthwynebu ychwanegu mwy o organau a meinweoedd rhywiol ac atgenhedlol at y rhestr o ddeunyddiau a eithrir ond roedd yn teimlo ei bod hi’n annhebygol iawn y byddai unrhyw un o’r strwythurau hyn yn cael eu trawsblannu neu fod hynny hyd yn oed yn bosibl.

Cyflwynodd ymatebydd arall y ddadl, gan fod mwy o rannau o systemau rhywiol ac atgenhedol dynion a menywod yn cael eu hychwanegu, y gellid ychwanegu rhannau sensitif eraill o’r anatomi at y rhestr o eithriadau, fel yr anws, rectwm, bronnau a thethi. Dywedodd hefyd na ddylai ychwanegiadau i’r rhestr fod yn seiliedig ar ba mor ddadleuol ydynt yn unig, ond ar ystyriaethau megis a fyddai pobl yn barod i roi’r math o organau neu feinweoedd dan sylw pe bai’r cwestiwn hwnnw’n cael ei egluro’n briodol iddynt a phe bai’r trawsblaniad yn achub bywyd neu’n gwella ansawdd bywyd rhywun.

Ymateb Llywodraeth Cymru

O ran celloedd yr afu/iau, credwn fod y Rheoliadau diwygiedig fel y maent wedi’u drafftio yn gwneud darpariaeth glir ar gyfer eithrio’r celloedd hynny dim ond os ydynt yn cael eu defnyddio’n gyfan gwbl neu’n rhannol fel Cynnyrch Meddyginiaethol Therapi Uwch. Nid yw’r defnydd o’r celloedd hyn fel rhan o drawsblaniadau organau solet wedi’i eithrio o gydsyniad tybiedig. Felly, nid oes angen datgan hyn yn y Rheoliadau.

Mae trawsblaniad tracea ynddo’i hun yn fath newydd a thechnegol iawn o drawsblannu, felly credwn y dylid ei nodi ar wahân i’r broses fwy reolaidd o dynnu rhan o’r tracea fel rhan o drawsblaniad calon-ysgyfaint. Darparwyd ar gyfer hyn yn glir yn y Rheoliadau diwygiedig.

Rydym yn derbyn y gallai fod yna ddadleuon dros ychwanegu mwy o ddeunyddiau at y rhestr bob amser, ond yn teimlo ar y cyfan ei bod yn taro’r cydbwysedd cywir o blaid yr organau rhywiol ac atgenhedlol hynny a drafodwyd yn ystod y gwaith craffu ar Ddeddf 2013 ac fel rhan o’r ymgynghoriad ar Reoliadau Lloegr, heb ddadansoddi’r holl strwythurau anatomegol yn fanwl. Hefyd, byddai ychwanegu’r meinweoedd hynny at y rhestr yng Nghymru’n gallu golygu y byddai angen i Loegr ailedrych ar y Rheoliadau a wnaed yn gynharach yn 2020. Byddai’n well gennym ystyried unrhyw organau neu feinweoedd i’w hychwanegu neu eu tynnu o’r rhestr yn y dyfodol gyda Lloegr er mwyn lleihau diwygiadau i’r ddwy set o Reoliadau.

Cwestiwn 3: Ydych chi’n credu y dylid parhau i gynnwys y llygad o fewn rheoliad 2(4), gan y byddai hynny’n golygu y byddai angen cydsyniad datganedig ar gyfer trawsblaniad llygad/llygaid bob amser pe bai’n dod yn bosibl trawsblannu’r llygaid fel rhan o drawsblaniad wyneb?

Crynodeb o’r ymatebion i Gwestiwn 3

Cafwyd ateb cadarnhaol i’r cwestiwn hwn gan fwyafrif llethol yr ymatebwyr. Mynegodd un ymatebydd farn, gan fod y llygaid a’r wyneb yn nodweddion gwahaniaethol, y dylid parhau i gael cydsyniad ar gyfer trawsblannu’r llygaid fel rhan o drawsblaniad wyneb er mwyn cynnal hyder y cyhoedd, ac y gallai rhai pobl fod yn bryderus am y tebygrwydd i’r rhoddwr. Roedd un ymatebydd yn teimlo y dylid trin y llygad yn yr un ffordd ag organau eraill ac na ddylai fod ar y rhestr o eithriadau.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Gan nad oedd teimladau cryf i’w cael am y mater hwn bydd y llygad yn parhau i gael ei restru fel eithriad os yw’n rhan o drawsblaniad wyneb.

Cwestiwn 4: Hoffem glywed eich barn am yr effeithiau y byddai’r newidiadau arfaethedig i reoliadau 2015 yn eu cael ar y Gymraeg, ac yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac ar sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg. Beth fyddai’r effeithiau yn eich barn chi? Sut y gallwn gynyddu’r effeithiau cadarnhaol a lleihau unrhyw effeithiau negyddol?

Cwestiwn 5: Hefyd eglurwch sut y gallai’r newidiadau arfaethedig gael eu llunio neu eu newid mewn modd a fyddai’n golygu y byddent yn cael effeithiau cadarnhaol neu fwy o effeithiau cadarnhaol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg, gan sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg, ac osgoi unrhyw effeithiau negyddol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg, gan sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Crynodeb o ymatebion i Gwestiynau 4 a 5

Nid oedd gan hanner yr ymatebwyr farn neu ni wnaethant unrhyw sylw ar y naill gwestiwn na’r llall. Dywedodd rhai ymatebwyr nad oeddynt yn gweld sut y byddai’r Gymraeg yn cael ei heffeithio mewn unrhyw fodd gan y newidiadau arfaethedig gydag ymatebydd arall yn dweud bod y GIG yn brin o arian yng Nghymru ac nad oedd yn gweld fawr o bwynt mewn dyblygu popeth yn Gymraeg. Dywedodd un ymatebydd y byddai siaradwyr Cymraeg, yn enwedig pobl hŷn, yn cael gwybod am dechnolegau newydd, yn eu mamiaith drwy’r Rheoliadau. Roedd ymatebydd arall yn teimlo y dylai pobl allu cael gafael ar wasanaethau yn Gymraeg ar bob cyfle posibl.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Ni fynegwyd unrhyw faterion sylweddol ynglŷn â’r Gymraeg. Byddwn yn parhau i weithio gyda Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG i annog penodi staff sy’n siarad Cymraeg a all siarad â theuluoedd rhoi yn eu mamiaith, sy’n bwysig ar amser mor emosiynol. Byddai cyfieithu’r deunyddiau yn y ddeddfwriaeth yn helpu staff dan yr amgylchiadau hyn.

Cwestiwn 6: Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os ydych yn teimlo bod unrhyw faterion perthnasol nad ydym wedi rhoi sylw iddynt, defnyddiwch y gofod hwn i’w nodi.

Crynodeb o’r ymatebion i Gwestiwn 6

Gadawodd y rhan fwyaf o ymatebwyr yr adran hon yn wag. Manteisiodd un ymatebydd ar y cyfle i ailadrodd ei farn, a fynegwyd yn gynharach, y gallai Llywodraeth Cymru fod wedi casglu mwy o sylwadau ar y rhestr a’r polisi a’i fod yn teimlo bod cyfle wedi’i golli. Ar y llaw arall, dywedodd ymatebydd arall ei fod wedi’i galonogi fod y rhestr heb newid yn sylweddol, gan y byddai llawer o’r trawsblaniadau, os oeddynt yn bosibl, yn codi problemau technegol a moesegol y byddai angen eu trafod yn llawn gyda theuluoedd rhoi. Dywedodd yr ymatebydd cynharach hefyd fod y cyfnod ymgynghori’n fyrrach na’r 12 wythnos arferol a allai fod wedi effeithio ar nifer yr ymatebion, yn enwedig yn sgil pandemig Covid-19. Awgrymodd yr un ymatebydd y dylid diweddaru’r Gofrestr Rhoi Organau i alluogi pobl i gofnodi eu dewisiadau rhoi mewn perthynas â deunyddiau a eithrir gan y byddai hyn yn ffordd well o gael cydsyniad ar gyfer trawsblaniadau newydd neu ddadleuol. Roedd un ymatebydd yn teimlo nad oedd angen unrhyw fath o restr eithrio ac y dylai pob rhan o’r corff fod ar gael oni bai bod y person wedi optio allan.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Roedd yr ymgynghoriad ychydig yn llai na’r 12 wythnos arferol gan y teimlwyd nad oedd y materion yn ddadleuol a bod hyn yn adlewyrchu ymgynghoriad tebyg a oedd newydd ei gynnal yn Lloegr. Nid oeddem yn rhagweld llawer o ymatebion ychwaith - gweler y sylwadau ar dudalen 7 uchod. Byddai diweddaru’r Gofrestr Rhoi Organau i alluogi pobl i gofnodi dewisiadau rhoi mewn perthynas â deunyddiau a eithrir yn gorfod cael ei wneud ar lefel y DU gyfan ac nid ydym yn ymwybodol o unrhyw fwriad i wneud newidiadau o’r fath. Fodd bynnag, byddwn yn cyflwyno’r sylwadau hyn i Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG.

Y camau nesaf

Yn dilyn y dadansoddiad uchod a’r ystyriaeth i ymatebion yr ymgynghoriad, nid ydym yn bwriadu gwneud unrhyw newidiadau pellach i’r rheoliadau diwygio fel y maent yn yr ymgynghoriad. Bydd Llywodraeth Cymru’n gosod y Rheoliadau diwygio gerbron y Senedd cyn gynted ag sy’n ymarferol. Mae’r dyddiadau cyflwyno a thrafod yn ddibynnol ar y gofynion cyfredol i flaenoriaethu COVID-19 a deddfwriaeth hanfodol arall ac felly mae’n annhebygol o fod yn ystod gweddill y tymor hwn.