Rheoliadau Teledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai (Cymru) 2024: canllawiau ar gyfer gweithredwyr
Sut i gydymffurfio â’r rheolau ynghylch y defnydd gorfodol o deledu cylch cyfyng (CCTV) yng Nghymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
- Mae'r canllawiau hyn i'ch helpu chi, fel gweithredwr busnes lladd-dy i gydymffurfio â Rheoliadau Defnydd Mandadol o Deledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai (Cymru) 2024. Byddwn yn cyfeirio at y rhain fel 'y Rheoliadau Teledu Cylch Cyfyng'.
- Er y dylai'r canllawiau hyn eich helpu i wybod beth sydd angen i chi ei wneud, nid yw'n ddehongliad diffiniol o'r Rheoliadau Teledu Cylch Cyfyng, a gyhoeddir yma: The Mandatory Use of Closed Circuit Television in Slaughterhouses (Wales) Regulations 2024 (legislation.gov.uk).
- Mae'r Rheoliadau Teledu Cylch Cyfyng ond yn berthnasol i ladd-dai yng Nghymru.
- Fel cwmni busnes lladd-dai yng Nghymru mae'n rhaid i chi:
- Osod a gweithredu system teledu cylch cyfyng (CCTV) ym mhob rhan o'r lladd-dy lle mae anifeiliaid byw yn bresennol
- Cadw’r delweddau CCTV am 90 diwrnod o’r dyddiad y cawsant eu ffilmio.
- Sicrhau bod y delweddau CCTV ar gael i arolygwyr er mwyn iddynt allu eu gweld, eu copïo neu gymryd meddiant ohonynt.
Erbyn pryd mae angen i chi gydymffurfio?
- Bydd y diwygiadau i’r prif Reoliadau yn dod i rym mewn dwy ran.
- Daeth Rhan Un i rym ar 1 Mehefin 2024; dyma'r gofynion i:
- osod a gweithredu'r System CCTV
- cadw lluniau a gwybodaeth CCTV
- Bydd Rhan Dau yn dod i rym ar 1 Rhagfyr 2024 – sef y troseddau a'r pwerau i archwilio, cymryd meddiant a gorfodi o fewn Rheoliadau 5 i 14 o'r Rheoliadau Teleddu Cylch Cyfyng.
- Daeth Rhan Un i rym ar 1 Mehefin 2024; dyma'r gofynion i:
- Gallwch osod a gweithredu system CCTV a chadw delweddau a gwybodaeth CCTV o 1 Mehefin 2024, ond mae'n rhaid eich bod wedi gosod a bod yn gweithredu'r system CCTV erbyn 1 Rhagfyr 2024.
- Bydd pwerau o dan Reoliadau Lles Anifeiliaid Adeg Eu Lladd (Cymru) 2014 (WATOK) yn dal i fod yn berthnasol. Gall arolygwyr archwilio a chymryd meddiant o gofnodion, a all gynnwys recordiadau CCTV lle mae systemau CCTV eisoes wedi'u gosod.
Dyletswydd i osod a gweithredu system CCTV
- Rhaid i chi osod a gweithredu system CCTV sy'n diwallu anghenion y Rheoliadau CCTV erbyn 1 Rhagfyr 2014.
- Rhaid gosod eich camerâu CCTV i sicrhau bod golwg gyflawn a chlir ar bob man lle mae anifeiliaid byw.
- Dylai eich camerâu cylch cyfyng gynnwys mannau dadlwytho, gwalfeydd, trin, ffrwyno, stynio, gwaedu a lladd. Dylech gymryd camau i sicrhau nad oes mannau dall. Efallai na fydd camerâu sy'n symud neu'n troi ar eu pennau eu hunain yn darparu darlun parhaus neu gyflawn o fan.
- Rhaid i'ch system CCTV fod yn gweithio ac yn recordio bob amser pan fo anifeiliaid byw yn y lladd-dy, gan gynnwys danfon anifeiliaid y tu allan i oriau gwaith arferol.
- Mae'n rhaid i'ch system CCTV ddarparu delwedd gyflawn a chlir; rhaid i'r llun fod yn ddigon eglur er mwyn i chi allu adnabod pobl yn y lluniau a delweddau wedi'u recordio.
- Rhaid i chi sicrhau bod y system CCTV yn gallu dangos lluniau clir yn y golau sydd ar gael. Mewn ardaloedd o oleuadau isel, er enghraifft llinellau gefynnu dofednod, dylech ystyried a oes angen camerâu isgoch.
- Dylai eich system CCTV gynhyrchu recordiadau mor agos at amser real ag sy'n ymarferol bosibl (isafswm 15 ffrâm yr eiliad a argymhellir).
- Dylid gosod eich camerâu CCTV mewn mannau lle mae'n anodd i arolygwyr gael mynediad atynt, er enghraifft mewn ardaloedd lladd cyfyng a systemau stynio a nwy.
- Rhaid cadw eich camerâu CCTV mewn cyflwr da. Dylech sicrhau eu bod yn cael eu cadw'n lân ac yn cael eu cynnal a'u cadw'n rheolaidd i sicrhau bod delweddau'n glir. Dylai eich camerâu cylch cyfyng gael eu lleoli mewn lle hawdd i'w gwasanaethu, ond eto eu hamddiffyn rhag difrod. Dylech gael amserlen gynnal a chadw wedi'i chynllunio a'i chofnodi.
- Mae'n rhaid i'ch system CCTV allu recordio yn barhaus. Rhaid iddo allu cynhyrchu delweddau a gwybodaeth i'w harchwilio neu i'w cludo i ffwrdd gan archwilydd, heb atal gweithrediad cyffredinol y system.
- Rhaid i chi drwsio'r system CCTV cyn gynted â phosibl os bydd yn torri. Os na fyddwch yn gwneud hyn, bydd hysbysiad gorfodi yn cael ei anfon atoch.
- Os oes gennych gamerâu CCTV eraill, er enghraifft am resymau diogelwch neu ganfod namau, ni fyddai'r rhain yn cael eu hystyried yn rhan o'r "system CCTV" fel y'i diffinnir yn y Rheoliadau Teledu Cylch Cyfyng ac ni fyddent yn dod o dan ofynion y Rheoliadau CCTV. Fodd bynnag, hyd yn oed os nad yw camera yn rhan o'r system CCTV gall Milfeddyg Swyddogol yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ddefnyddio'r pwerau presennol o dan Reoliadau Lles Anifeiliaid ar Adeg Lladd (Cymru) 2014 (WATOK) i archwilio, copïo neu gymryd meddiant o gofnodion os yw'r camera'n cofnodi digwyddiad lles anifeiliaid.
Manylebau technegol
- Dylech ddewis system CCTV briodol i gydymffurfio â'r Rheoliadau Teledu Cylch Cyfyng.
- Nid yw'r Rheoliadau Teledu Cylch Cyfyng yn diffinio gofynion system CCTV, felly rydym yn argymell eich bod yn talu sylw i Safonau Prydeinig perthnasol. Gallwch ddod o hyd i fanylion Safonau Prydeinig ar gyfer gosodiadau CCTV yn Recommended standards for the surveillance camera industry - GOV.UK (www.gov.uk)
Dyletswydd i gadw delweddau a gwybodaeth CCTV
- Mae'n rhaid i chi gadw a storio recordiadau CCTV bob dydd am o leiaf 90 diwrnod. Ar ôl i chi storio delwedd am 90 diwrnod gellir ei ddileu.
- Rhaid i'ch system CCTV allu storio, prosesu a throsglwyddo (er enghraifft, symud i ddyfeisiau storio symudol neu ddangos ar fonitor teledu) delweddau a gwybodaeth o'r un ansawdd â'r recordiad gwreiddiol.
- Dylai fod gan staff lladd-dy a ddewisir gennych chi, fel y Swyddog Lles Anifeiliaid, wybodaeth weithredol o alluoedd storio, prosesu a throsglwyddo'r system CCTV.
- Dylech fod â'r holl godau mynediad a chyfrineiriau angenrheidiol ar gael i hwyluso mynediad i'r delweddau CCTV sydd wedi'u storio a gwybodaeth i'r arolygydd. Er eich sicrwydd eich hun, efallai y byddwch am gael cynrychiolydd yn bresennol pan fydd archwilwyr yn gweld, copïo neu gymryd meddiant o recordiadau neu offer.
- Dylech ofyn am gyngor gan gyflenwr eich system CCTV am atebion storio priodol sy'n bodloni gofynion y Rheoliadau Teledu Cylch Cyfyng.
Pŵer i archwilio a chymryd meddiant
- Mae'n rhaid i chi, neu staff a ddewiswyd gennych sydd â gwybodaeth weithredol o'ch system CCTV, ddarparu mynediad i offer, delweddau a gwybodaeth CCTV i arolygydd. Gall yr arolygydd weld delweddau a gwybodaeth fyw neu wedi'u storio. Gall yr arolygydd ofyn am help y dylech ei ddarparu yn ddi-oed a gallant ofyn am ddogfennau a chofnodion i'w harchwilio neu eu copïo. Os byddwch yn cadw unrhyw ran o'ch data a gedwir oddi wrth eich safle, rhaid i chi barhau i sicrhau ei fod ar gael yn ddi-oed.
- Y Milfeddyg Swyddogol (OV) yn y lladd-dy sy'n arwain ar les anifeiliaid fydd yr archwilydd a fydd yn gofyn am weld y lluniau CCTV fel arfer. Gall y Milfeddyg Swyddogol ofyn am weld lluniau wedi'u storio o unrhyw ddiwrnod neu amser yn ystod y 90 diwrnod diwethaf pan oedd y lladd-dy yn gweithredu. Gallai hyn fod oherwydd eu bod yn ymwybodol o ddigwyddiad lles anifeiliaid neu i wirio prosesau ac arferion lladd-dai yn y gorffennol.
- Yn ôl y gyfraith, caniateir i archwilydd archwilio'r system CCTV ac unrhyw ddelweddau a gwybodaeth a gofnodir ganddi. Caiff yr arolygydd—
- gopïo delweddau a gwybodaeth
- gymryd meddiant o offer system CCTV, os oes angen, gan gynnwys cyfrifiaduron ac offer arall a ddefnyddir fel rhan o'r system CCTV.
- Os byddwch yn gwneud copïau o ddelweddau neu wybodaeth ar gyfer yr archwilydd, maent yn llai tebygol o fod angen cymryd meddiant o offer. Os bydd yr arolygydd yn cymryd yr offer, bydd yr arolygydd neu'r person sy'n ymchwilio yn gyfrifol am ddiogelu'r data personol ar y ffilm.
- Pan fydd arolygydd yn cymryd unrhyw ran o'r system CCTV, rhaid iddo ddarparu derbynneb ysgrifenedig o'r eitemau a gymerir a'u dychwelyd pan nad oes eu hangen mwyach. Pan ddefnyddir eitemau fel tystiolaeth mewn achos llys, byddant yn cael eu dychwelyd atoch cyn gynted â phosibl ar ôl i'r achos llys ddod i ben.
- Dylech sicrhau bod offer wrth gefn ar gael, fel cyfryngau storio, rhag ofn y bydd arolygydd yn cymryd unrhyw offer sy'n gysylltiedig â CCTV. Bydd hyn yn galluogi'r system CCTV i barhau i gofnodi a ffilmio data a delweddau a gallwch barhau i gydymffurfio â'r Rheoliadau CCTV.
- Os nad oes gennych system CCTV ddigon da ar waith ar ôl cymryd meddiant o'r offer, gall yr arolygydd gyhoeddi hysbysiad gorfodi, i'w gwneud yn ofynnol i chi newid offer a nodi pa mor gyflym y mae'n rhaid gosod yr offer newydd.
Hysbysiadau gorfodi
- Gall arolygydd gyhoeddi hysbysiad gorfodi sy'n ei gwneud yn ofynnol i chi a/neu eich staff gymryd camau os yw'r arolygydd yn credu eich bod yn torri'r Rheoliadau Teledu Cylch Cyfyng. Mae enghreifftiau o'r math o weithredu y gallai arolygydd ei geisio, gynnwys: atgyweiriadau neu newidiadau eraill i'r system CCTV i gydymffurfio â'r Rheoliadau CCTV, arafu neu atal gweithrediad, neu atal defnyddio offer penodol, nes bod y broblem gyda'r system CCTV yn cael ei gywiro.
- Gall arolygydd gyflwyno hysbysiad gorfodi yn y ffyrdd canlynol:
- Ei gyflwyno'n bersonol;
- Ei adael yng nghyfeiriad y person,
- Ei anfon drwy'r post.
Os bydd arolygydd yn methu â chael cyfeiriad, gellir atodi hysbysiad i'r safle dan sylw.
- Bydd yr hysbysiad gorfodi yn cynnwys:
- Eich enw;
- Amser a dyddiad yr hysbysiad;
- Sut rydych chi wedi torri'r Rheoliadau CCTV;
- Beth sy'n rhaid i chi ei wneud i gywiro pethau;
- Erbyn pryd fydd yn rhaid i chi wneud hynny;
- Sut allwch chi apelio.
- Rhaid i'r person sy'n derbyn yr hysbysiad dalu unrhyw gostau sy'n deillio o hysbysiad gorfodi. Os na chydymffurfir â'r hysbysiad gorfodi, caiff arolygydd drefnu i'r mater gael ei ddatrys, a'r person y cafodd yr hysbysei gyflwyno iddo i dalu am hynny.
- Unwaith y bydd arolygydd yn fodlon bod cydymffurfio a'r hysbysiad, bydd yn cyflwyno hysbysiad cwblhau.
- Os yw'r arolygydd yn credu bod gennych fwy i'w wneud o hyd, dywedir wrthych pam a beth i'w wneud yn ysgrifenedig, a sut y gallwch apelio.
- Gall arolygydd newid neu dynnu hysbysiad gorfodi yn ôl, yn ysgrifenedig, ar unrhyw adeg.
Apelau yn erbyn hysbysiadau gorfodi
- Gallwch apelio os ydych chi'n meddwl:
a) na ddylech fod wedi derbyn hysbysiad gorfodi
b) y dylech fod wedi derbyn hysbysiad cwblhau - bydd gwybodaeth ar sut i apelio yn yr hysbysiad gorfodi, neu yn yr hysbysiad yn eich hysbysu o'r penderfyniad i beidio â rhoi hysbysiad cwblhau.
- Rhaid i chi apelio o fewn 28 diwrnod. Defnyddiwch y ffurflen apel a dilynwch y broses.
- Mae'n rhaid i'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ymateb i chi a'r tribiwnlys o fewn 28 diwrnod. Unwaith y byddant wedi gwneud hyn, rhaid i chi ymateb i'r tribiwnlys a'r ASB o fewn 14 diwrnod.
- Os bydd eich apêl yn mynd i wrandawiad tribiwnlys, bydd y Llys yn pennu dyddiad ar gyfer y gwrandawiad sy'n addas i bawb. Bydd y Barnwr yn rhoi cyfle teg i bawb siarad. Gallwch ofyn i'r Barnwr gadw gwrandawiad neu wybodaeth benodol yn y gwrandawiad yn breifat ond mater i'r Barnwr yw penderfynu ar hyn.
- Gallwch ofyn i rywun eich cynrychioli yn y gwrandawiad. Nid oes angen iddynt feddu ar gymhwyster cyfreithiol, ond rhaid i chi ddweud wrth y tribiwnlys a'r ASB os nad ydynt.
- Os ydych am arbed amser gallwch gytuno i'r tribiwnlys wneud penderfyniad ar eich achos heb wrandawiad. Gelwir hyn yn 'orchymyn cydsynio'. Fodd bynnag, gall y gwrandawiad barhau os ydych chi neu'r ASB yn mynnu hynny.
- Gallwch ysgrifennu at y tribiwnlys os penderfynwch nad ydych am barhau â'ch apêl. Fel arfer, bydd y tribiwnlys yn cytuno i ganslo eich apêl - efallai na fydd yn ei ganslo os yw'n credu bod ganddo reswm da dros fwrw ymlaen.
Troseddau
- Rydych yn cyflawni trosedd os na fyddwch yn:
- Gosod system CCTV sy'n darparu delweddau cyflawn a chlir o bob rhan o'r lladd-dy lle mae anifeiliaid byw yn bresennol;
- Gweithredu system CCTV sy'n gallu gweithredu'n ddi-dor;
- Cadwch eich system CCTV yn weithredol ac mewn cyflwr da pan fydd anifeiliaid byw yn bresennol;
- Cadw a storio data, recordiadau neu ddelweddau am 90 diwrnod o'r dyddiad casglu.
- Cyflawnir trosedd os nad ydych chi neu'ch staff yn cydymffurfio â hysbysiad gorfodi.
- Rydych hefyd yn cyflawni trosedd os:
- Ydych yn atal arolygydd rhag cyflawni ei ddyletswyddau;
- Nad ydych yn darparu gwybodaeth neu gymorth yn ddi-oed;
- Nad ydych yn caniatáu i arolygydd gael mynediad at y system CCTV;
- Ydych yn darparu gwybodaeth a allai fod yn ffug neu achosi i archwilydd gael ei gamarwain yn ei ymchwiliad;
- Ydych yn methu â darparu dogfen, cofnod, delweddau, gwybodaeth neu ddata i arolygydd pan ofynnir amdanynt.
Cosbau
- Os cewch eich dyfarnu'n euog o drosedd, efallai y bydd gofyn i chi dalu dirwy ar gollfarn. Ni fydd y ddirwy hon yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.
Diogelu data
- Pan fo recordiadau CCTV yn cynnwys delweddau neu sain o bobl y gellir eu hadnabod, rhaid i'r rheolwr data (hynny yw, fel gweithredwr y busnes) sicrhau bod y data personol hwn yn cael ei brosesu yn unol â gofynion diogelu data.
- Deddf Diogelu Data 2018 (DPA 2018) a GDPR y DU yw'r prif ddarnau o ddeddfwriaeth diogelu data i Gymru ac mae angen cadw at eu gofynion ar ddiogelu personau naturiol o ran prosesu a dileu data personol bob amser. Gellir dod o hyd i ofynion DPA 2018 yma: Mae Deddf Diogelu Data 2018 (legislation.gov.uk) a gofynion GDPR y DU yma: GDPR y DU. Gallwch gael arweiniad ar eich cyfrifoldebau o wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO): https://ico.org.uk.
- Efallai y byddai'n ddefnyddiol i chi hefyd gyfeirio at Gyngor yr ICO ar gyfer sefydliadau bach sy'n torri diogelu data i lawr yn rannau y gellir eu rheoli.
- Ymhellach, mae gan yr ICO ganllawiau sy'n ymwneud yn benodol â CCTV a gwyliadwriaeth sy'n addas ar gyfer busnesau mawr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector.
- Rhaid i reolwyr data sy'n prosesu data personol gofrestru gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth a thalu ffi iddynt. Gallwch gael cyngor ar sut mae hyn yn effeithio arnoch yn: Cwestiynau Cyffredin Cofrestru | ICO.
- Mae'r gyfraith diogelu data yn ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau gynnal asesiad effaith ar ddiogelu data (DPIA) pan fydd prosesu yn debygol o arwain at risg uchel i hawliau a rhyddid unigolion. Mae gan yr ICO ganllawiau ar DPIAs a templed DPIA y gallwch eu defnyddio os dymunwch.
- Chi sy'n gyfrifol am sicrhau, pan fydd eich cyflogeion yn cael eu monitro fel sy'n ofynnol gan y Rheoliadau Teledu Cylch Cyfyng, y gwneir hyn yn unol â chyfreithiau diogelu data. Os ydych yn monitro cyflogeion mewn ffordd nad yw yn ofynnol o dan y Rheoliadau Teledu Cylch Cyfyng, byddwch yn gyfrifol am nodi'r sail gyfreithiol berthnasol a sicrhau bod unrhyw fonitro yn angenrheidiol, yn gymesur ac yn unol â'r deddfau diogelu data hynny. Mae gan yr ICO ganllawiau ar arferion cyflogaeth a diogelu data: monitro gweithwyr.
- Mae'r Hawl i gael gwybod yn ofyniad allweddol o dan GDPR y DU, ac mae canllawiau Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn awgrymu nifer o ddulliau y gellir hysbysu unigolion am sut y bydd eu data personol yn cael eu defnyddio. Mae hyn yn cynnwys hysbysiadau preifatrwydd a hysbysu'r holl bersonél am osod y systemau CCTV, trwy ysgrifennu atynt a gosod arwyddion. Mae canllawiau'r ICO yn nodi, pan fyddwch yn penderfynu defnyddio gwyliadwriaeth sain, bod angen cymryd camau ychwanegol i'w gwneud hi'n glir i unigolion bod hyn yn digwydd yn ogystal ag unrhyw recordiad gweledol sydd eisoes yn digwydd.
- Hawliau unigol – Mae gan unrhyw un y mae eu data personol yn cael ei ei brosesu gennych hawliau mewn perthynas â'u data personol, fel yr hawl i gael mynediad. Mae'r adran hon o ganllawiau'r ICO yn esbonio beth yw'r hawliau hynny.
- Diogelwch – Un o brif egwyddorion GDPR y DU yw eich bod yn prosesu data personol yn ddiogel drwy fesurau technegol a sefydliadol priodol. Mae gwneud hyn yn gofyn i chi ystyried pethau fel dadansoddi risg, polisïau sefydliadol, a mesurau corfforol a thechnegol.
Comisiynydd Camerau Gwyliadwriaeth
- Mae gan y Comisiynydd Camerâu Gwyliadwriaeth rôl statudol o dan Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012 i ddarparu Cod Ymarfer sydd wedi argymell safonau. Mae'r Cod hwn yn berthnasol i'r rhai sy'n gweithredu systemau camerâu gwyliadwriaeth mewn mannau cyhoeddus, ac felly ni fydd yn uniongyrchol berthnasol i ladd-dai. Fodd bynnag, mae'r Comisiynydd yn annog mabwysiadu Cod Camera Gwyliadwriaeth yr Ysgrifennydd Cartref yn wirfoddol fel canllaw defnyddiol ar osod a defnyddio'r systemau CCTV. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn: Cod Ymarfer Camera Gwyliadwriaeth
Gwybodaeth bellach a dogfennau cysylltiedig
Gellir gwneud cais am fersiynau o’r ddogfen hon mewn print bras, mewn Braille neu mewn ieithoedd eraill.
Manylion cyswllt
I gael rhagor o wybodaeth:
Y Gangen Lles Anifeiliaid
Swyddfa’r Prif Swyddog Milfeddygol
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CF10 3NQ
E-bost: llesanifeiliaidcymru@llyw.cymru
Cyhoeddir y ddogfen ganllaw hon ar ffurf electronig yn unig a gellir ei chyrchu ar wefan Llywodraeth Cymru Lles anifeiliaid | Is-bwnc | LLYW.CYMRU