Neidio i'r prif gynnwy

Daeth cadarnhad gan Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, y bydd deddfwriaeth frys yn rhan o ymdrechion i ddiogelu iechyd cyhoeddus ac amddiffyn pobl sy’n rhentu y Nadolig hwn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno ar fesurau i atal achosion o droi allan o lety rhent cymdeithasol a phreifat rhwng 11 Rhagfyr ac 11 Ionawr eleni fel rhan o'i hymateb i fynd i'r afael â lledaeniad COVID-19. 

Dywedodd Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol:

Rydym yn cymryd camau i ddiogelu iechyd y cyhoedd a chefnogi tenantiaid Cymru y Nadolig hwn. Mae hwn yn gyfnod eithriadol o anodd i lawer o bobl ac ni ddylid gorfodi rhentwyr allan o'u cartrefi ar adeg pan fydd llai o fynediad at gyngor, cymorth a llety arall. Gwyddom hefyd fod mwy o berygl i bobl sy'n ddigartref ddal y coronafeirws.

Un o'r ffyrdd gorau o fynd i'r afael â digartrefedd yw ei atal rhag digwydd i ddechrau, ac mae hyn yn un o'r camau rydym yn eu cymryd gan fod llawer o bobl yn wynebu ansicrwydd.

Eleni rydym yn buddsoddi hyd at £50 miliwn i fynd i'r afael â digartrefedd, nid yn unig i sicrhau nad oes angen i neb gysgu allan, ond i helpu i drawsnewid gwasanaethau er mwyn sicrhau bod cartrefi parhaol i bobl sydd mewn perygl o fod yn ddigartref.

Yn gynharach eleni darparodd Llywodraeth Cymru £1.4m yn ychwanegol drwy'r Gronfa Cynghori Sengl i gefnogi pobl i reoli dyledion problemus a gwella incwm eu haelwyd. Defnyddiwyd rhan o'r arian hwn i greu'r Cynllun Rhybudd Cynnar ar gyfer ôl-ddyledion rhent a dyledion eraill aelwydydd yn y sector rhentu preifat. Mae hyn yn helpu llawer o bobl sy'n byw mewn llety rhent preifat i gael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt. 

Yn ogystal, mae Cynllun Benthyciadau Arbed Tenantiaeth Llywodraeth Cymru yn cynnig benthyciad cost isel i denantiaid yn y sector preifat sydd mewn ôl-ddyledion rhent. Telir yr arian hwn yn uniongyrchol i'r landlord, i fynd i'r afael â dyled ac i atal achosion o droi allan.  

Dywedodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt:

Mae'n hanfodol bod gan y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau fynediad at gyngor diduedd am ddim y gallant ymddiried ynddo, a'r cymorth ariannol drwy'r system fudd-daliadau y mae arnynt ei hangen, yn enwedig yn ystod y cyfnod anodd hwn. Nid yw'r materion y mae pobl wedi'u hwynebu yn diflannu.

Mae'r Gronfa Cynghori Sengl yn parhau i alluogi pobl ledled Cymru i gael gafael ar y cyngor a'r cymorth sydd eu hangen arnynt i wneud y mwyaf o'u hincwm, datrys materion tai, a rheoli dyled.