Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Felly, cafodd Rheoliadau Mabwysiadu a Maethu (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Coronafeirws) 2020 eu cyflwyno ar 1 Tachwedd 2020 i gefnogi’r sector yn ystod y pandemig.

Rheoliadau Diwygio Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005 – proses asesu cam 1 a 2

A. Cyflwynwyd hawddfreintiau ar rai gofynion gweithdrefnol a oedd yn galluogi cam 1 a cham 2 o’r broses asesu dau gam i gyd-redeg. Fodd bynnag, parhaodd y gofyniad bod angen i’r holl wiriadau angenrheidiol gael eu cwblhau’n llawn cyn i fabwysiadwr gael ei gymeradwyo.

Ni all ymgeiswyr gael mynediad at Fecanwaith Adolygu Annibynnol pan fo’u ceisiadau yn aflwyddiannus am resymau yn ymwneud â’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd neu wiriadau iechyd, fel byddai wedi digwydd pe bai’r gwiriadau hyn wedi’u cwblhau yng ngham 1.

Gall mabwysiadwyr gael mynediad at y Mecanwaith Adolygu Annibynnol ar ôl cam 2, os yw eu cais yn methu am unrhyw reswm arall nad yw’n ymwneud â’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd neu wiriadau iechyd.

B. Cyflwynwyd hawddfreintiau yn gysylltiedig â’r amserlenni ar gyfer cwblhau camau 1 a 2 a hyd y cyfnod y gall darpar fabwysiadwr oedi rhwng cam 1 a cham 2:

  • mae’r amserlenni ar gyfer cam 1 a cham 2 o’r broses o 2 fis (cam 1) a 4 mis (cam 2) yn parhau yn eu lle, ond dim ond pan fydd yn rhesymol ymarferol yn ystod y pandemig y bydd yn ofynnol i asiantaethau fodloni’r amserlenni
  • mae’r terfyn amser 6 mis ar y cyfnod o amser y gall darpar fabwysiadwr adael rhwng cam 1 a cham 2 wedi cael ei ddiddymu

Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015

Estynnwyd y cyfnod o 16 i 24 wythnos pan all person sy’n perthyn neu sy’n gysylltiedig fel arall â phlentyn dderbyn cymeradwyaeth dros dro i weithredu fel rhiant maeth awdurdod lleol ar gyfer y plentyn hwnnw.

Rydym yn ymwybodol bod y sectorau yn dal i brofi pwysau ar hyn o bryd yn sgil cyfyngiadau parhaus sy’n cael eu gosod yn sgil y pandemig.

Ysgrifennaf i’ch hysbysu, ac i ymgynghori â chi ar y cynnig i gyflwyno set o Reoliadau diwygio a fydd yn newid y dyddiad pan fydd y newidiadau a ddaw i rym drwy Reoliadau 2020 yn dod i ben. 31 Mawrth 2021 yw’r dyddiad hwn ar hyn o bryd.

Rydym yn ymwybodol bod y problemau parhaus sy’n gysylltiedig â’r pandemig a’r pwysau y mae awdurdodau lleol, y trydydd sector a thimau iechyd yn ei wynebu yn golygu y byddai estyniad yn fanteisiol er mwyn lleihau’r risg o darfu ar lif y ddarpariaeth gwasanaethau o fewn y sectorau o bosibl. Rydym felly’n cynnig ein bod yn estyn y Rheoliadau hyn am 6 mis yn rhagor hyd at 30 Medi 2021. Os bydd Llywodraeth Cymru yn credu bod y sefyllfa’n gwella, gall ddirymu’r Rheoliadau hyn yn gynt.

Felly, byddem yn croesawu eich sylwadau ar y cynnig hwn.

Amseriad yr ymateb

Oherwydd natur frys y sefyllfa, byddem yn ddiolchgar pe gallech ymateb gydag unrhyw sylwadau neu gwestiynau ar y cynigion hyn i flwch post PlantSynDerbynGofal@llyw.cymru erbyn 12:00am ar 2 Mawrth 2021 fel bod modd i ni eu hystyried cyn i’r Rheoliadau diwygio gael eu cwblhau.