Neidio i'r prif gynnwy

Pa gamau gweithredu mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham?

Yn dilyn trafodaethau gyda  Phenaethiaid Gwasanaethau Plant, Comisiynydd Plant Cymru ac adborth gan y sector, rhoddwyd hyblygrwydd dros dro i Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005 a Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018 i sicrhau bod gwasanaethau o fewn y sectorau mabwysiadu a maethu yn parhau yn ystod y pandemig.

Mae Llywodraeth Cymru bellach yn bwriadu cyflwyno is-ddeddfwriaeth (Rheoliadau Mabwysiadu a Maethu (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Coronafeirws) 2020)  er mwyn rhoi sail gyfreithiol i’r hyblygrwydd hwn am gyfnod penodol.

1. Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005

Mae’r Rheoliadau hyn yn nodi’r broses ar gyfer asesu addasrwydd pobl i fabwysiadu plentyn ac addasrwydd plant i gael eu mabwysiadu.

A.    Llacio gofynion gweithdrefnol penodol yng ngham 1 a cham 2

Daeth Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) (Diwygio) 2020 a Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 i rym ar 1 Ebrill 2020. Oherwydd y pandemig COVID-19, cydnabu Llywodraeth Cymru efallai na fydd rhanddeiliaid yn gallu cydymffurfio â rhai o’r gofynion a amlinellir yn y broses asesu dau gam newydd ar gyfer darpar fabwysiadwyr a gyflwynwyd gan y Rheoliadau newydd. 

Yn y broses newydd, dylid cynnal yr holl wiriadau statudol sylfaenol i ganfod ‘cymhwystra’ rhywun i gael ei asesu fel mabwysiadwr yng ngham un y broses newydd a dim ond pan fydd y rhain wedi’u cwblhau ac yn foddhaol y gellir dechrau asesu’n ffurfiol ‘addasrwydd’ a gynhelir yn ystod cam dau. Yn ddealladwy, nid yw busnes arferol fel asesiadau meddygol wedi cael blaenoriaeth gan y GIG yn y cyfnod presennol a gallai hyn greu oedi wrth brosesu ceisiadau mabwysiadwyr.

Rhoddwyd hyblygrwydd gweinyddol ar 1 Ebrill 2020 fel bod modd cynnal cam 1 a cham 2 y broses asesu dau gam ar yr un pryd. Gallai hyn olygu, er enghraifft, bod asesiadau iechyd yn cael eu cynnal yn ystod cam 2 y broses.

Fodd bynnag, erys y gofyniad i gwblhau’r holl wiriadau angenrheidiol yn llawn cyn i fabwysiadwr gael ei gymeradwyo.

Ni fydd ymgeiswyr yn gallu defnyddio’r Mecanwaith Adolygu Annibynnol (IRM) lle nad yw eu ceisiadau’n llwyddiannus am resymau’n ymwneud â gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, iechyd neu awdurdodau lleol sy’n arwain at ganfyddiadau sy’n gysylltiedig â materion amddiffyn plant, fel y byddai wedi digwydd pe bai’r gwiriadau hyn yn cael eu cwblhau yng ngham 1. Bydd mabwysiadwyr yn gallu defnyddio’r IRM ar ôl cam 2, os bydd eu cais yn methu am unrhyw reswm arall nad yw’n ymwneud â’r gwiriadau hyn.

Bydd Rheoliadau Mabwysiadu a Maethu (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Coronafeirws) 2020 arfaethedig yn rhoi grym deddfwriaethol i’r llacio gofynion am gyfnod penodedig.

B.    Llacio’r amserlenni ar gyfer cwblhau camau 1 a 2 a hyd yr amser y gall darpar fabwysiadwr oedi rhwng cam 1 a 2

Bydd Rheoliadau Mabwysiadu a Maethu (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Coronafeirws) 2020 hefyd yn llacio rhai o’r amserlenni sy’n ymwneud â’r broses dau gam fel a ganlyn:

  • mae amserlenni ar gyfer cam un a cham dau’r broses sef 2 fis (cam 1) a 4 mis (cam 2) yn parhau i fod ar waith ond dim ond pan fydd hynny’n rhesymol ymarferol yn ystod yr achos o’r coronafeirws y bydd gofyn i asiantaethau fodloni’r amserlenni
  • bydd y terfyn o 6 mis ar yr amser y gallai darpar fabwysiadwr ei adael rhwng cam 1 a cham 2 yn cael ei ddileu

2. Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018

Mae’r Rheoliadau (1) hyn yn pennu’r broses ar gyfer cymeradwyo person fel rhiant maeth awdurdod lleol. Maent yn cynnwys gofyniad y dylai darparwr gwasanaethau maethu, fel rhan o’r broses asesu ar gyfer darpar ofalwyr maeth, gael manylion iechyd (wedi’u hategu gan adroddiad meddygol). 

Yn ystod y pandemig rydym yn ymwybodol bod gan y GIG lai o allu o lawer i ddarparu’r asesiadau iechyd hyn ar gyfer darpar rieni maeth gan mai’r flaenoriaeth yw mynd i’r afael â’r argyfwng. 

Sylweddolwyd yr effaith y byddai hyn yn ei chael ar drefnu lleoliadau ar gyfer plant sy’n agored i niwed yn ystod ac ar ôl yr argyfwng a bod angen cyflwyno rhywfaint o hyblygrwydd i alluogi’r gwaith o asesu darpar rieni maeth barhau yn ystod y cyfnod hwn. 

Ar 11 Mai 2020 cyflwynwyd hyblygrwydd gweinyddol a oedd yn caniatáu i ddwy broses ar wahân gael eu mabwysiadu yng Nghymru ar gyfer asesiadau meddygol darpar ofalwyr maeth:

  • i’r unigolion hynny sy’n gallu cael ymgynghoriad meddygol wyneb yn wyneb, dylid dilyn y broses wreiddiol a dylai’r darpar ofalwr maeth barhau i gael asesiad gan feddyg teulu
  • i’r darpar ofalwyr maeth hynny nad ydynt yn gallu cael ymgynghoriad wyneb yn wyneb â meddyg teulu, gellir llenwi ffurflen hunanddatgan feddygol

Gellir cyfyngu’r telerau cymeradwyo ar gyfer yr ymgeiswyr hynny lle mae asesiadau’n dod i ben heb adroddiad meddygol llawn i fod yn rhai tymor byr i adlewyrchu’r cyfyngiadau sydd ar waith adeg yr asesiad. 

Bydd yr holl gymeradwyaethau a wneir gan wasanaethau sy’n defnyddio’r ffurflen hunanddatgan iechyd yn destun proses adolygu flynyddol gynnar. Bydd hyn yn cael ei wneud cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ac o fewn chwe mis, ar ôl codi’r cyfyngiadau presennol. Dylai’r adolygiad blynyddol cynnar gynnwys asesiad ac adroddiad llawn ar iechyd yr oedolyn, i lywio’r adolygiad ac unrhyw argymhelliad mewn perthynas â pharhau i gymeradwyo’r oedolyn a statws cymeradwyaeth o’r fath.

Bydd y Rheoliadau Mabwysiadu a Maethu (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Coronafeirws) 2020 arfaethedig yn dod â’r broses hunanddatgan ar gyfer asesiadau meddygol o fewn y fframwaith deddfwriaethol am gyfnod penodol.

3. Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015

Bydd y Rheoliadau Mabwysiadu a Maethu (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Coronafeirws) 2020 arfaethedig yn ymestyn o 16 i 24 wythnos y cyfnod y gall person sy’n perthyn i blentyn neu sydd fel arall yn gysylltiedig â phlentyn gael cymeradwyaeth dros dro i weithredu fel rhiant maeth awdurdod lleol ar gyfer y plentyn hwnnw. 

Hirdymor

  • pa dueddiadau, heriau a chyfleoedd hirdymor a allai effeithio ar y cynnig?
  • sut mae’r cynnig yn atal / lliniaru’r effeithiau gwael yn y tueddiadau hyn neu’n hwyluso / yn gwneud y gorau o’r effeithiau da?

Caiff y Rheoliadau arfaethedig eu cyflwyno am gyfnod dros dro a byddant mewn grym hyd at ddiwedd mis Mawrth 2021. Gellir eu dirymu ar unrhyw adeg os bydd y sefyllfa gyda’r pandemig yn gwella. Bydd methu â chymeradwyo darpar fabwysiadwyr neu ofalwyr maeth yn ystod y pandemig yn cael effaith andwyol ar blant mewn gofal. 

Mae oedi wrth leoli plant gyda theuluoedd mabwysiadol yn ystod achosion gofal yn golygu bod yn rhaid i blant fyw’n hirach gyda sefyllfa ansicr a phrofi mwy o ansicrwydd ar hyd y broses oherwydd byddant yn treulio rhagor o amser yn y system faethu. Mae’n mynd yn anos lleoli plant po hynaf ydyn nhw.

Mae plant fel arfer wedi dod i ofal o ganlyniad i gamdriniaeth neu esgeulustod, a byddant wedi profi profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs) neu ryw fath o drawma cynnar. Gall hyn arwain at broblemau ymlyniad, patrymau ymddygiad aflonyddgar neu anghenion therapiwtig, a allai waethygu os nad yw’r plentyn yn cael y gofal a’r cymorth sydd ei angen arno. Mae lleoliadau maeth sefydlog yn darparu amgylchedd diogel lle gall y plant hyn ddatblygu a ffynnu, a chyflawni eu canlyniadau personol. Felly, mae’n hanfodol bod oedi cyn lleoli plentyn gyda rhieni maeth gofalgar yn cael ei leihau cymaint â phosibl yn ystod yr argyfwng COVID-19. 

Byddai unrhyw bwysau hefyd yn cael effaith andwyol ar y system leoli ehangach, yn enwedig capasiti gofal maeth. Os na all plant symud ymlaen i’w teuluoedd parhaol, er enghraifft drwy leoliad mabwysiadu, yna nid ydynt yn rhyddhau lleoliadau gofal maeth ar gyfer plant agored i niwed eraill sy’n dod i mewn i’r system ofal. Bydd hyn yn arwain at gyflenwad negyddol o leoliadau gofal i ddiwallu anghenion plant sy’n agored i niwed. 

Bydd y Rheoliadau arfaethedig yn llacio’r pwysau ar y gwasanaethau mabwysiadu a maethu yn ystod y pandemig a fydd yn caniatáu i blant yn y system ofal gael eu lleoli gyda mabwysiadwyr a gofalwyr maeth cymeradwy fel yr amlinellir yn eu cynllun gofal. 

Atal

  • sut mae’r cynnig yn cefnogi torri cylchoedd negyddol fel tlodi, iechyd gwael, difrod amgylcheddol a cholli bioamrywiaeth?
  • a yw’r cynnig yn trin symptom neu’r achos sylfaenol? Os felly, sut? Os yw’n trin symptom, beth y gellir ei wneud am yr achos sylfaenol?
  • sut y gallai’r cynnig leihau ei effeithiau negyddol ei hun e.e. lleihau’r defnydd o wastraff ac adnoddau, allyriadau ac effaith ar ansawdd aer, effaith negyddol ar gydlyniant cymdeithasol / cymunedol?

Prif nod gwasanaethau maethu a mabwysiadu yw darparu lleoliadau sefydlog i blant sy’n derbyn gofal, fel y gellir diwallu eu hanghenion gofal a chymorth a chyflawni eu canlyniadau llesiant personol. Mae’r plant hyn fel arfer wedi dod i ofal o ganlyniad i gamdriniaeth neu esgeulustod, a byddant wedi profi profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs) neu ryw fath o drawma cynnar. Gall hyn arwain at broblemau ymlyniad, patrymau ymddygiad aflonyddgar neu anghenion therapiwtig, a allai waethygu os nad yw’r plentyn yn cael y gofal a’r cymorth sydd ei angen arno. Mae lleoliadau maethu/mabwysiadu da yn darparu amgylchedd teuluol cefnogol lle mae plant yn cael eu cadw’n ddiogel ac yn cael y cariad a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i ffynnu. 

Bydd amgylchiadau’r plant hyn yn wahanol yn ôl eu hanghenion a’u hamgylchiadau teuluol unigol. Gall lleoliadau fod yn opsiwn tymor byr neu hirdymor/parhaol i blentyn yn y lleoliad gofal maeth a pharhaol ar gyfer lleoliadau mabwysiadu. Mae angen i wasanaethau maethu yn arbennig fod yn ddigon hyblyg i ddiwallu’r anghenion a’r amgylchiadau unigol amrywiol hyn. 

Bydd y ddeddfwriaeth yn atal effaith andwyol ar blant mewn gofal gan y byddai ‘tagfeydd’ yn y system ofal pe na ellid cymeradwyo darpar fabwysiadwyr a gofalwyr maeth. Byddai hyn yn atal y gwasanaeth mabwysiadu rhag symud ymlaen a byddai hefyd yn effeithio ar leoliadau gofal maeth gan na fyddai plant yn gallu symud drwy’r system i ryddhau’r lleoliadau hyn. Os na fydd gofalwyr maeth yn cael eu cymeradwyo, mae perygl na fydd digon o leoliadau yng Nghymru i gefnogi ein plant yn y system ofal. Mae llif parhaus o gymeradwyaethau gofalwyr maeth yn hanfodol er mwyn sicrhau bod y system ofal yn gweithredu’n effeithiol.

Mae’r trefniadau yn y Rheoliadau yn newid systematig, ac ni fyddant yn cael unrhyw effaith uniongyrchol ar y plentyn; mae llacio rhai darpariaethau yn sicrhau bod llif cyson o fabwysiadwyr a gofalwyr maeth o fewn y system i sicrhau y gellir paru plant â’u teuluoedd parhaol neu eu lleoli mewn cartref maeth sefydlog.

Integreiddio

  • sut y gallai’r cynnig hwn gysylltu â gwahanol agendâu polisi cyhoeddus a chyfrannu atynt, a chreu manteision lluosog e.e. sut y gall prosiect trafnidiaeth gefnogi gwelliannau mewn iechyd neu ddiwylliant neu leihau nifer y bobl sydd heb waith?
  • pa gamau ymarferol rydych wedi’u cymryd i integreiddio eich cynnig â Ffyniant i Bawb - y Strategaeth Genedlaethol, ein hamcanion llesiant a’n cynlluniau, yn ogystal â rhai cyrff cyhoeddus eraill a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, i wneud y mwyaf o gyfraniad y cynnig ar draws y saith nod llesiant? 

Bydd gwasanaethau maethu a mabwysiadu sy’n cael eu rhedeg yn dda ac sy’n diwallu anghenion y plant a’r bobl ifanc yn y system ofal yn cael effaith fuddiol ar rannau eraill o’r sector gofal a thu hwnt. Mae lleoliad gofal maeth/mabwysiadu sefydlog yn lleihau’r tebygolrwydd y bydd anghenion plentyn yn gwaethygu. Mae’n darparu amgylchedd cartref diogel a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd a llesiant corfforol, meddyliol ac emosiynol y plentyn (gan leihau’r angen am ymyriadau iechyd), ac mae’n darparu sylfaen sefydlog i’r plentyn ymgysylltu ag addysg a hyfforddiant (gan arwain at lefelau uwch o gyrhaeddiad addysgol a mwy o gyflogadwyedd). Gall hefyd leihau’r angen am ymyriadau cyfiawnder ieuenctid; a thrwy alluogi pontio mwy esmwyth o ofal (yn enwedig ar gyfer lleoliadau parhaol fel mabwysiadu), gall leihau nifer yr achosion o ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc neu anghenion tai ar ôl iddynt droi’n 18 oed. 

Cydweithio

  • pwy yw’r partneriaid sydd â buddiant cyffredin yn y cynnig hwn?
  • sut y mae’r partneriaid hynny wedi bod yn rhan o’r gwaith o ddatblygu’r cynnig a chynllunio’r modd y caiff ei gyflawni, a beth fydd eu cyfraniad ato?

Y partneriaid allweddol sydd â buddiant yw awdurdodau lleol ac asiantaethau eraill fel iechyd ac addysg sy’n rhan o’r rhiant corfforaethol sy’n gyfrifol am y plentyn. Rhanddeiliaid allweddol eraill yw’r Asiantaethau Mabwysiadu Rhanbarthol; darparwyr Gwasanaethau Maethu Annibynnol; Darparwyr y trydydd sector ar gyfer sefydliadau maethu a mabwysiadu a hefyd darparwyr gofal maeth preifat/gwarcheidwaid arbennig/gofalwyr sy’n berthynas. Bydd gan blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, rhieni plant mewn gofal, rhieni maeth, rhieni mabwysiadol a’r sefydliadau hynny sy’n eirioli ar eu rhan, fuddiant hefyd. Mae’r Rheoliadau hyn yn cael eu cyflwyno mewn ymateb i’r pryderon y mae’r partïon â buddiant hyn wedi’u codi. Mae’r dull rydym wedi’i ddefnyddio yn mynd i’r afael â’r pryderon hyn. Cynhaliwyd ymgynghoriad ffurfiol ar y Rheoliadau arfaethedig. Ceir manylion yr ymgynghoriad hwn yn yr adroddiad cryno ar yr ymgynghoriad ac yn ymateb Llywodraeth Cymru. 

Cynnwys

  • sut y mae pobl y mae’r cynnig yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt wedi’u cynnwys yn y gwaith o’i ddatblygu?
  • beth sy’n bwysig i’r bobl y mae’r cynnig yn effeithio arnynt a sut y gallent fod yn rhan o’r broses o’i gyflawni?

Mae’r newidiadau wedi’u cyflwyno mewn ymateb i geisiadau gan randdeiliaid o fewn y sector mabwysiadu a maethu i sicrhau bod llif y lleoliadau mabwysiadu a maethu yn parhau yn ystod y pandemig Covid-19. Gwahoddwyd asiantaethau maethu a mabwysiadu awdurdodau lleol, darparwyr gwasanaethau maethu annibynnol, a sefydliadau’r Trydydd Sector sy’n eirioli ar ran plant a phobl ifanc i rannu eu barn fel rhan o’r broses ymgynghori. 

Cydweithiodd Llywodraeth Cymru ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, swyddogion Iechyd Sylfaenol, Comisiynydd Plant Cymru, Arolygiaeth Gofal Cymru, Cymdeithas Mabwysiadu a Maethu (AFA) Cymru a’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol i ddatblygu’r newidiadau sydd yn y ddeddfwriaeth.

Effaith

  • beth yw’r prif ddadleuon o blaid ac yn erbyn y cynnig? Cyfeiriwch at dystiolaeth; dylech gydnabod bylchau sylweddol yn ein gwybodaeth a disgrifio unrhyw gynlluniau i’w llenwi
  • pa mor eang ydych chi wedi archwilio’r dadleuon hyn drwy gynnwys a chydweithredu?

Nodir y dadleuon dros gyflwyno’r rheoliadau hyn yn yr Asesiad Effaith Integredig llawn.

Costau ac arbedion

  • beth fydd cost y cynnig a sut y caiff ei ariannu?
  • sut y gellid lleihau costau drwy gynnwys a chydweithredu, ar draws Llywodraeth Cymru a/neu gyda rhanddeiliaid allanol?
  • a oes arbedion a sut y caiff y rhain eu gwireddu?

Mae’r Rheoliadau’n ymwneud â hyblygrwydd gweithdrefnol i alluogi’r system fabwysiadu a maethu i lifo yn ystod y pandemig. 

Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1313 (Cy. 95)

Mae posibilrwydd y bydd costau ychwanegol mewn perthynas â chynnal cam 2, sef rhan asesu ddwys y broses, ond bod y wybodaeth o gam 1 yn arwain at atal y broses. Byddai’n amhosibl mesur y costau hyn gan y byddai’n dibynnu’n llwyr ar faint o waith a wneir yng ngham 2 cyn bod y wybodaeth o gam 1 ar gael. 

O ystyried y sefyllfa bresennol gyda’r pandemig a’r angen i sicrhau bod y broses fabwysiadu’n parhau, mae budd y gwelliant yn fwy o lawer na’r risg o unrhyw gostau uwch. Ymgynghorwyd â’r sector ac maent wedi gofyn am i’r gwelliant ddod i rym dros dro er mwyn sicrhau y gellir parhau i asesu a chymeradwyo darpar fabwysiadwyr.

Buddiannau

Gall yr asiantaethau mabwysiadu gynnal eu hasesiadau mor amserol â phosibl. Pe baent yn ymgymryd â’r broses asesu dau gam yn unol â Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005, byddai oedi enfawr cyn cwblhau gwiriadau cam 1 cyn gallu ymgymryd â cham 2. Byddai’r oedi’n cael effaith andwyol ar nifer y darpar fabwysiadwyr sydd ar gael i’r plant sy’n parhau i ddod drwy’r llysoedd drwy orchmynion lleoli.

Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015 (O.S. 2015/1818 (Cy. 261)

Bydd y diwygiad i Reoliadau 26 a 27 yn caniatáu i awdurdod cyfrifol gymeradwyo person cysylltiedig dros dro, tra’n aros am asesiad maethu llawn a chymeradwyaeth, am hyd at 24 wythnos. Fel y mae, mae’r Rheoliadau’n caniatáu hyd at 16 wythnos o dan Reoliad 26 ac yna’n caniatáu wyth wythnos ychwanegol, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau Rheoliad 27.

Felly, caiff darpariaethau Rheoliad 27 eu dileu sy’n cynnwys ar hyn o bryd:

(a) yr Awdurdod Lleol yn ystyried ai dyma’r lleoliad mwyaf priodol o hyd
(b) ceisio barn y panel maethu
(c) hysbysu’r Swyddog Adolygu Annibynnol (IRO)
(d) y swyddog enwebedig (penderfynwr) sy’n gwneud y penderfyniad i ymestyn o 16 wythnos i hyd at 24 wythnos

Bydd y gwelliant yn darparu arbedion cost bras fel a ganlyn:

  • amser gweithiwr cymdeithasol i ddarparu adroddiad wedi’i ddiweddaru (hyd at ddwy awr)
  • sicrhau ansawdd yr adroddiad gan reolwr yr asesydd (hyd at awr)
  • aelodau’r panel (cworwm o 5) yn darllen ac yn mynychu panel ar gyfer yr eitem benodol honno (hyd at ddwy awr)
  • amser gweinyddol (hyd at awr)
  • amser Swyddog Adolygu Annibynnol yn darllen yr adroddiad ac argymhelliad y panel (hyd at awr)
  • uwch swyddog yn darllen yr adroddiad ac argymhelliad y panel ac yn gwneud penderfyniad (awr neu ddwy)

Buddiannau

Bydd y gwelliant yn arbed amser yn y broses sy’n gysylltiedig â chymeradwyo person cysylltiedig dros dro fel gofalwr maeth. 

Dull gweithredu

  • a gynigir deddfwriaeth? 

Mae’r angen am y Rheoliadau wedi’i nodi fel rhan o’r cynllunio wrth gefn ar gyfer problemau a allai godi yn sgil lledaeniad COVID-19. Oherwydd yr amser cyfyngedig sydd ar gael i baratoi Rheoliadau Mabwysiadu a Maethu (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Coronafeirws) 2020 ac mai rhai dros dro yw’r newidiadau a wneir (byddant yn para llai na 6 mis), ni chynhyrchwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol. 

Er mai awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am y system gofal cymdeithasol plant, ni ragwelir y bydd y newidiadau arfaethedig yn arwain at unrhyw gostau ychwanegol helaeth na newidiadau sylweddol i arferion gwaith. 

Mae anghenion busnesau yn y sector gofal cymdeithasol ar hyn o bryd wedi’u hystyried wrth baratoi’r Rheoliadau; bydd y diwygiadau’n lleihau neu’n dileu beichiau ar asiantaethau a’u bwriad yw cynorthwyo gwasanaethau gofal cymdeithasol plant i gyflawni eu rhwymedigaethau statudol yn fwy hyblyg yn ystod y pandemig.

Casgliad

Sut y mae pobl y mae’r cynnig yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt wedi’u cynnwys yn y gwaith o’i ddatblygu?

Amlinellodd Cymdeithas Mabwysiadu a Maethu Cymru (AfA Cymru) a’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yng Nghymru y sefyllfa sy’n gysylltiedig â chymeradwyo darpar fabwysiadwyr a gofalwyr maeth oherwydd y pandemig Covid-19 a chafwyd data ganddynt yn gysylltiedig â nifer y darpar fabwysiadwyr a gofalwyr maeth a phlant yn y system ofal y byddent yn cael eu heffeithio pe bai symudiad lleoliadau plant o fewn y system ofal (gan gynnwys lleoliadau gyda theuluoedd mabwysiadol) yn dod i stop.

Cydweithiodd Llywodraeth Cymru ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, Arolygiaeth Gofal Cymru, Swyddogion Iechyd Sylfaenol, y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, AFA Cymru a Chomisiynydd Plant Cymru i ddatblygu cynigion i sicrhau y gallai asesu darpar fabwysiadwyr a gofalwyr maeth barhau yn ystod y pandemig.

Ymgynghorwyd â rhanddeiliaid i gael rhagor o safbwyntiau ar y ddeddfwriaeth arfaethedig yn ystod misoedd Gorffennaf ac Awst 2020. 

Bydd y Rheoliadau’n sicrhau y gellir defnyddio trefniadau hyblyg lle bo angen er mwyn i wasanaethau mabwysiadu a maethu allu parhau yn ystod y pandemig. 

Beth yw’r effeithiau cadarnhaol a negyddol mwyaf arwyddocaol?

Mae’r Rheoliadau hyn yn cyflwyno trefniadau dros dro i alluogi’r broses fabwysiadu a maethu i barhau yn ystod y pandemig Covid-19. Bydd y darpariaethau rheoleiddio yn rhoi hyblygrwydd drwy lacio gofynion gweithdrefnol penodol sy’n gysylltiedig â cham 1 a cham 2 Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005, a fydd yn galluogi cam 1 a cham 2 y broses asesu dau gam i gael eu cynnal ar yr un pryd. 

Byddant hefyd yn caniatáu ar gyfer llacio amserlenni ar gyfer cwblhau camau asesu 1 a 2, a’r cyfnod y gall darpar fabwysiadwr oedi rhwng cam 1 a 2. Er enghraifft: 

  • bydd y terfyn o 6 mis ar yr amser y gallai darpar fabwysiadwr ei adael rhwng cam 1 a cham 2 yn cael ei ddileu

Bydd y rheoliadau (1) hefyd yn caniatáu llacio’r gofynion sy’n llywodraethu’r broses ar gyfer cael manylion iechyd neu adroddiad meddygol ar gyfer darpar ofalwyr maeth. Mae’r trefniadau’n caniatáu i ddarpar ofalwr maeth (os na all weld ei feddyg teulu ei hun) gynnal hunanasesiad meddygol hyd nes y gall ei feddyg teulu a’i ddarparwr gofal maeth a reoleiddir adolygu a chadarnhau’r asesiad. 

Mae’r darpariaethau hefyd yn caniatáu ymestyn y cyfnod y caiff person sy’n perthyn i blentyn sy’n derbyn gofal neu sy’n gysylltiedig â phlentyn sy’n derbyn gofal mewn unrhyw ffordd arall gael cymeradwyaeth dros dro (o 16 i 24 wythnos) i weithredu fel rhiant maeth awdurdod lleol ar gyfer y plentyn hwnnw. 

Yn sgil yr effeithiau a nodwyd, sut y bydd y cynnig:

  • yn sicrhau’r cyfraniad mwyaf posibl at ein hamcanion llesiant a’r saith nod llesiant; a/neu
  • yn osgoi, leihau neu liniaru unrhyw effeithiau negyddol?
  • Cymru lewyrchus – effaith niwtral
  • Cymru gydnerth – effaith niwtral
  • Cymru iachach – bydd y Rheoliadau’n cael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl a ffyrdd o fyw pobl sy’n defnyddio gwasanaethau mabwysiadu a maethu gan ganiatáu i ddarparwyr gwasanaethau barhau i leoli plant yn y sector gofal mewn lleoliad mabwysiadu neu ofal maeth, heb achosi unrhyw oedi angenrheidiol o ganlyniad i gyfyngiadau cymdeithasol y pandemig
  • Cymru sy’n fwy cyfartal – mae’r Rheoliadau’n caniatáu i bobl barhau i allu cael gafael ar wasanaethau mabwysiadu a gofal maeth a reoleiddir sydd o ansawdd uchel, sy’n galluogi plant, pobl ifanc i gyflawni eu potensial mewn lleoliad teuluol cefnogol
  • Cymru o gymunedau cydlynus – effaith niwtral
  • Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu – mae’r Rheoliadau’n ystyried Darpariaeth Gymraeg wrth asesu darpar ofalwyr maeth a mabwysiadwyr. Maent hefyd yn caniatáu ystyried parhad ac ystyriaeth o dreftadaeth a diwylliant plant wrth eu rhoi mewn lleoliad teuluol
  • Cymru sy’n gyfrifol yn fyd-eang – effaith niwtral
  • bydd y Rheoliadau’n llacio gofynion er mwyn lleddfu’r pwysau ar y gwasanaethau mabwysiadu a maethu yn ystod y pandemig a fydd yn caniatáu i blant yn y system ofal gael eu lleoli gyda mabwysiadwyr a gofalwyr maeth cymeradwy, gan gael effaith gadarnhaol felly ar y meysydd a grybwyllir uchod

Sut y caiff effaith y cynnig ei monitro a’i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo ac ar ôl iddo gael ei gwblhau?

Bydd swyddogion yn monitro’r trefniadau a nodir yn y ddeddfwriaeth mewn ymgynghoriad â’r sectorau maethu a mabwysiadu, er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau a ddarperir yn parhau i fod yn effeithlon ac yn gadarn. Yn ogystal, caiff canlyniadau’r Rheoliadau hyn eu mesur fel rhan o’r rhaglen waith ehangach i fesur effaith/canlyniadau’r pandemig COVID-19.