Daeth yr ymgynghoriad i ben 16 Awst 2018.
Crynodeb o’r canlyniad
Mae'r y crynodeb o ymatebion bellach ar gael.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o’r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 536 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym yn gofyn am eich barn ar newidiadau i'r ffordd y caiff gwasanaethau lleoli oedolion eu rheoleiddio, fel rhan o gam 3 y broses o weithredu Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Bwriad yr ymgynghoriad hwn yw gofyn am eich barn ar set newydd o reoliadau lleoli oedolion a fydd yn disodli Rheoliadau Cynlluniau Lleoli Oedolion (Cymru) 2004 a Rheoliadau Cynlluniau Lleoli Oedolion (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2010.
Mae'r rheoliadau arfaethedig yn cynnwys gofynion dan adrannau 27 a 28 o'r ddeddf ynghylch:
- darparwyr gwasanaethau
- unigolion cyfrifol cynlluniau lleoli oedolion awdurdodau lleol ac annibynnol.
Rydym hefyd yn gofyn am eich barn ar ganllawiau statudol drafft a fydd yn cyd-fynd â'r rheoliadau ac ar yr egwyddor o ymestyn y cynlluniau lleoli oedolion i gynnwys pobl ifanc 16 a 17 oed.
Dogfennau ymgynghori
Dogfen ymgynghori , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 701 KB
Atodiad A , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 276 KB
Canllawiau statudol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 959 KB
Rheoliadau , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 452 KB
Gwybodaeth ychwanegol
Rydym yn cynnal y digwyddiadau rhannu gwybodaeth canlynol:
- Wrecsam, 16 Gorffennaf 2018
- Caerdydd, 19 Gorffennaf 2018
Er mwyn bod yn bresennol, cysylltwch â RISCAct2016@llyw.cymru erbyn dydd Gwener 6 Gorffennaf.
Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig ac yn dibynnu ar argaeledd.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn dod i ben hanner nos, ddydd Iau 16 Awst 2018.