Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Mae'r ymgynghoriad hwn yn gofyn am eich barn ar reoliadau drafft o'r enw Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 2022 ("Rheoliadau drafft 2022") y bwriedir iddynt ddisodli Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 2010 ("Rheoliadau 2010”).

Diben Rheoliadau drafft 2022 yw nodi'r categorïau o bobl sydd wedi'u hanghymhwyso rhag cofrestru yng Nghymru fel gwarchodwr plant neu ddarparwr gofal dydd o dan ran 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 ("y Mesur”). Mae'r rheoliadau drafft hefyd yn berthnasol i bobl sy'n ymwneud â rheoli unrhyw ddarpariaeth gofal dydd yng Nghymru.  

Yn ymarferol, bydd Arolygiaeth Gofal Cymru ("AGC"), sy'n cofrestru darparwyr gofal plant yng Nghymru, yn gwirio nad yw rhywun sy'n dymuno cofrestru fel gwarchodwr plant neu ddarparwr gofal dydd wedi'i anghymhwyso o dan y rheoliadau hyn.

Mae'n drosedd o dan y Mesur i'r person cofrestredig gyflogi unrhyw un sydd wedi'i anghymhwyso o dan y rheoliadau hyn i ymwneud â gofal plant mewn lleoliad.

Beth sydd dan sylw yn yr ymgynghoriad hwn?

Mae Rheoliadau 2010 yn nodi'r categorïau o bobl sydd wedi'u hanghymhwyso rhag cofrestru yng Nghymru, fel gwarchodwr plant neu ddarparwr gofal dydd o dan Ran 10A o Ddeddf Plant 1989.[1] Ni chaiff pobl sydd wedi'u hanghymhwyso weithredu fel gwarchodwyr plant yng Nghymru, darparu gofal dydd na bod ynghlwm wrth reoli unrhyw ddarpariaeth gofal dydd. Ni ddylid eu cyflogi ychwaith mewn cysylltiad â darparu gwarchod plant neu ofal dydd.

Diben yr ymgynghoriad yw gofyn am eich barn ar Reoliadau drafft 2022 y bwriedir iddynt ddisodli Rheoliadau 2010.

Mae angen diweddaru Rheoliadau 2010 i adlewyrchu datblygiadau yn y gyfraith ac i sicrhau eu bod yn decach i bawb. Bydd Rheoliadau drafft 2022 hefyd yn cael eu gwneud o dan bwerau cyfreithiol newydd sydd wedi’u cynnwys ym Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010.

Dim ond i'r bobl hynny sy'n dymuno cael eu cofrestru neu sydd wedi'u cofrestru ar hyn o bryd fel gwarchodwyr plant a darparwyr gofal dydd y mae Rheoliadau drafft 2022 yn uniongyrchol berthnasol, ac i bobl sy'n ymwneud yn uniongyrchol â rheoli gwasanaeth gofal dydd yng Nghymru. Cyfrifoldeb y gwarchodwr plant neu'r darparwr gofal dydd cofrestredig o dan y ddeddfwriaeth bresennol yw sicrhau nad oes unrhyw un sydd wedi'i anghymhwyso o dan y rheoliadau hyn yn cael ei gyflogi i weithio gyda phlant, ac mae hyn yn rhan o'u dyletswyddau cyffredinol i sicrhau bod unrhyw un sy'n gweithio gyda nhw neu ar eu rhan yn addas.

Wrth roi eich barn a'ch adborth, cyfeiriwch at y dogfennau sydd wedi'u paratoi i gyd-fynd â'r ddogfen ymgynghori hon, sef:

[1] Mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn cadw cofrestr o warchodwyr plant a darparwyr gofal dydd, ac unwaith y bydd rhywun yn llwyddiannus yn eu cais i gofrestru i ddarparu'r gwasanaethau hyn, ychwanegir eu henw at y gofrestr. Mae'n drosedd i unrhyw un weithredu fel gwarchodwr plant neu ddarparwr gofal dydd yng Nghymru heb gofrestru gyda'r arolygiaeth.

Pa newidiadau rydym yn eu cynnig?

Gellir crynhoi'r prif newidiadau polisi fel a ganlyn.

Troseddau ychwanegol

Gwnaed newidiadau technegol i'r cyfeiriadau at orchmynion, penderfyniadau a throseddau yn y tair Atodlen i Reoliadau drafft 2022 i adlewyrchu'r sefyllfa gyfreithiol bresennol yn y DU a’r tiriogaethau sy’n ddibynnol ar y Goron sef Ynys Manaw, Jersey a Guernsey.

Rydym wedi ychwanegu at Reoliadau drafft 2022 (yn Atodlen 3) droseddau newydd a gynhwyswyd yn y rheoliadau cyfatebol sy'n gymwys yn Lloegr pan ddiweddarwyd y rhain yn 2018[2] ar y sail ei bod yn cael ei hystyried yn briodol i unrhyw un sy'n cael ei rybuddio neu ei gollfarnu o'r troseddau hyn gael ei anghymhwyso rhag gweithio ym maes gofal plant a reoleiddir yng Nghymru, yn ogystal ag yn Lloegr. Mae Atodlen 3 i Reoliadau drafft 2022 yn cynnwys dwy drosedd ychwanegol yn ogystal â’r rhai sydd i’w gweld ar hyn o bryd yn y rheoliadau cyfatebol sy'n gymwys yn Lloegr, sef:

  • Deddf Voyeuriaeth (Troseddau) 2019, a ddaeth yn gyfraith yng Nghymru a Lloegr o 12 Ebrill 2019. Mae Deddf 2019 yn diwygio Deddf Troseddau Rhywiol 2003 i gyflwyno dwy drosedd newydd sy'n gysylltiedig â thynnu lluniau i fyny sgert, sef y weithred o osod offer fel camera neu ffôn symudol islaw dillad rhywun er mwyn tynnu llun voyeuristig heb eu caniatâd.
  • Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014, adran 121 sy'n ei gwneud yn drosedd defnyddio trais, bygythiadau neu unrhyw fath o orfodaeth i orfodi person arall i briodi.

Gorchmynion gofal a goruchwylio

Mae rheoliad 3 ynghyd ag Atodlen 1 i Reoliadau drafft 2022 yn esbonio sut mae'r gyfraith yn gymwys mewn sefyllfaoedd lle y gwnaed Gorchmynion gofal a goruchwylio.

Y rhesymau dros wneud Gorchmynion gofal a goruchwylio yw bod plentyn yn dioddef neu'n debygol o ddioddef niwed sylweddol.

Mae Rheoliadau 2010 yn cynnwys darpariaethau sy'n anghymhwyso rhai pobl rhag cofrestru yng Nghymru yn awtomatig yn seiliedig ar orchmynion gofal a goruchwylio, er, o dan y ddeddfwriaeth bresennol, gall unrhyw un sy'n ystyried ei fod wedi'i anghymhwyso'n annheg o dan yr amgylchiadau hyn wneud cais i wrthdroi’r penderfyniad i'w anghymhwyso rhag gweithio ym maes gofal plant.

Dyma'r senarios lle mae pobl wedi'u hanghymhwyso ar hyn o bryd:

  • Gofalwyr maeth (gan gynnwys gofalwyr maeth sy’n berthnasau) a'r rhai sy'n mabwysiadu plant – lle maent yn gofalu am blentyn sy’n destun Gorchymyn gofal neu oruchwylio o ganlyniad i weithredoedd pobl eraill;
  • Pobl a oedd unwaith yn destun gorchymyn gofal neu oruchwylio eu hunain – lle roedd gweithredoedd pobl eraill yn golygu eu bod yn destun Gorchymyn gofal neu oruchwylio i'w hamddiffyn.

Teimlir ei bod yn afresymol i bobl gael eu hanghymhwyso rhag gweithio ym maes gofal plant am y ddau reswm a nodir uchod. Felly, mae Rheoliadau drafft 2022 wedi'u datblygu mewn ffordd sy'n dileu'r cyfyngiadau hyn ar bobl, y gellid dadlau eu bod yn annheg, ond yn bwysig iawn mae'n cadw'r ddarpariaeth anghymhwyso mewn perthynas â gofalwyr maeth (gan gynnwys gofalwyr maeth sy’n berthnasau), mabwysiadwyr a gweithwyr gofal plant lle mae Gorchmynion gofal neu oruchwylio wedi'u gwneud o ganlyniad i’w gofal nhw am blentyn.

Penderfyniadau

Mae rheoliad 3 ynghyd ag Atodlen 1 i Reoliadau drafft 2022 hefyd yn esbonio sut y mae'r gyfraith yn gymwys mewn sefyllfaoedd lle y gwnaed penderfyniadau ynghylch addasrwydd person i ddarparu gofal. Wrth y gair "penderfyniadau" rydym yn golygu penderfyniadau a wnaed o'r blaen ynghylch addasrwydd person i ddarparu gofal plant, er enghraifft gwrthod cais yn y gorffennol i’w gofrestru i weithredu fel gwarchodwr plant neu ddarparwr gofal dydd, neu waharddiadau ar ei allu i weithredu fel gofalwr maeth preifat.

Anghymhwyso ar sail cysylltiad

Mae rheoliad 8 o Reoliadau drafft 2022 yn disgrifio sut y gellir anghymhwyso rhywun yn seiliedig ar drosedd a gyflawnwyd gan rywun sy'n byw neu'n gweithio yn ei gartref neu'n seiliedig ar orchymyn neu benderfyniad sy’n gysylltiedig â’r person hwnnw, h.y. ar sail cysylltiad.

O dan Reoliadau 2010, gall person cofrestredig sy'n gweithio ar safle domestig (fel arfer byddai hwn yn warchodwr plant sy'n gweithio o'i gartref) a pherson cofrestredig sy'n gweithio ar safle annomestig (fel arfer person sy'n darparu gofal i ffwrdd o'i gartref, h.y. y rhai sy'n gweithio mewn lleoliad gofal dydd) gael ei anghymhwyso rhag gweithio ym maes gofal plant yng Nghymru yn seiliedig ar ei gysylltiad â rhywun sy'n byw neu'n gweithio yn ei gartref sydd wedi cyflawni trosedd neu sydd wedi bod yn destun gorchymyn neu benderfyniad a gwmpesir gan Reoliadau 2010.

Mae'r ddarpariaeth anghymhwyso ar sail cysylltiad yn gymwys yng Nghymru ar hyn o bryd i ddarparwyr gofal plant sy'n gweithio ar safleoedd domestig ac annomestig (h.y. i warchodwyr plant ac unigolion sy’n gweithio mewn lleoliadau gofal dydd).

Rydym yn bwriadu dileu'r ddarpariaeth anghymhwyso ar sail cysylltiad yn Rheoliadau drafft 2022 mewn perthynas â gofal plant ar safleoedd annomestig (h.y. pobl sy'n darparu gwasanaethau gofal plant i ffwrdd o'r cartref, er enghraifft mewn lleoliad gofal dydd).

Fodd bynnag, byddwn yn cadw'r ddarpariaeth anghymhwyso ar sail cysylltiad ar gyfer personau cofrestredig sy'n gweithio ar safleoedd domestig, sy'n golygu y bydd y ddarpariaeth yn dal i fod yn berthnasol i'r rhan fwyaf o warchodwyr plant sy'n gweithio o'u cartref.

O ran gwarchodwyr plant, mae Rheoliadau drafft 2022 yn gosod dyletswydd ar bobl sydd am gofrestru fel gwarchodwyr plant, yn ogystal â'r rhai sydd eisoes wedi'u cofrestru fel gwarchodwyr plant, i ddatgelu gwybodaeth berthnasol am bobl y maent yn byw gyda nhw neu sy'n gweithio gyda nhw os ydynt yn bwriadu darparu, neu eisoes yn darparu, gwasanaethau gofal plant o'u cartref. Maent wedi'u hanghymhwyso os yw rhywun y maent yn byw gydag ef neu sy'n gweithio yn eu cartref wedi bod yn destun unrhyw un o'r gorchmynion, y penderfyniadau neu'r troseddau yn Rheoliadau drafft 2022. Drwy wneud hyn, ein nod yw diogelu ac amddiffyn plant rhag pobl eraill a allai fod yn byw ac yn gweithio ar yr un safle â'r gwarchodwr plant, lle mae mwy o risg iddynt ddod i gysylltiad agos a dioruchwyliaeth â'r plant. Mae methu â chydymffurfio â'r ddyletswydd hon i ddatgelu gwybodaeth berthnasol yn drosedd.

Mynd i'r afael ag unrhyw anghyfiawnderau canfyddedig

Mewn rhai amgylchiadau, gall AGC wrthdroi anghymhwysiad, sy'n golygu eu bod yn gallu penderfynu nad yw rhywun wedi'i anghymhwyso ar ôl ystyried yn fanwl amgylchiadau penodol yr achos dan sylw. Mae Rheoliadau drafft 2022 yn cadw'r llwybr hwn ar agor i bobl wneud cais i Weinidogion Cymru wrthdroi eu hanghymhwysiad o dan rai amgylchiadau, ac mae mecanwaith hefyd i wneud apêl i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf os gwrthodir cais i AGC i wrthdroi anghymhwysiad.

[2] Y rheoliadau cyfatebol sy'n gymwys yn Lloegr yw Rheoliadau Gofal Plant (Anghymhwyso) a Gofal Plant (Darpariaeth Blynyddoedd Cynnar yn Rhad ac am Ddim) (Ymestyn Hawliau) (Diwygio) 2018

Beth fydd y newidiadau hyn yn ei olygu i mi?

Gwarchodwyr plant

  • Rwyf am gofrestru fel gwarchodwr plant

Os ydych yn dymuno bod yn warchodwr plant cofrestredig sy'n gweithio o'ch cartref eich hun, ni fydd y newidiadau hyn yn effeithio arnoch chi oni bai bod un o'r Gorchmynion, y penderfyniadau neu'r troseddau penodedig newydd yn berthnasol i chi'n bersonol neu i rywun sy'n byw gyda chi neu sy'n gweithio yn eich cartref.

Os ydych yn byw gyda rhywun dros 16 oed ar adeg cofrestru, neu am weithio gyda chynorthwy-ydd, bydd AGC yn cynnal rhai gwiriadau mewn perthynas â'r person hwn a bydd angen ichi gwblhau datganiad i gadarnhau eich bod wedi trafod gyda'r person hwn a oes unrhyw beth a allai arwain at ei anghymhwyso.

  • Rwyf eisoes yn warchodwr plant cofrestredig

Os ydych eisoes yn warchodwr plant cofrestredig sy'n gweithio o'ch cartref eich hun, ni fydd y newidiadau hyn yn effeithio arnoch chi oni bai bod un o'r Gorchmynion, y penderfyniadau neu'r troseddau penodedig newydd yn berthnasol i chi'n bersonol neu i rywun sy'n byw gyda chi (ac sydd dros 16 oed) neu i rywun sy'n ymwneud â gofalu am blant ar eich safle. Os ydych eisoes yn cyflogi cynorthwy-ydd neu'n byw gyda rhywun dros 16 oed, dylech wirio nad oes yr un o'r Gorchmynion, y penderfyniadau na'r troseddau penodedig newydd yn berthnasol iddynt.

  • Rwy'n gynorthwy-ydd gwarchod plant

Mae’n ddyletswydd arnoch i ddatgelu unrhyw wybodaeth berthnasol mewn perthynas â'r Gorchmynion, y penderfyniadau a'r troseddau cyni chi ddechrau gweithio ac yn ystod eich cyflogaeth.

Gofal dydd 

  • Rwyf am gofrestru fel darparwr gofal dydd

Os ydych am wneud cais i fod yn ddarparwr gofal dydd cofrestredig, ni fydd y newidiadau hyn yn effeithio arnoch oni bai bod un o'r Gorchmynion, y penderfyniadau neu'r troseddau penodedig newydd yn berthnasol i chi'n bersonol neu i rywun yr ydych yn ei gyflogi i ymwneud â gofalu am blant ar eich safle.  O dan Reoliadau drafft 2022, ni fydd yn gwneud unrhyw wahaniaeth i'ch cais i gofrestru os yw rhywun rydych yn byw gydag ef neu sy'n gweithio yn eich cartref wedi'i anghymhwyso o dan y rheoliadau hyn. Fodd bynnag, pan fyddwch yn gwneud cais, bydd AGC yn gwirio nad yw'r Person â Gofal a'r Unigolyn Cyfrifol, os yw'n wahanol i'r person cofrestredig, wedi'i anghymhwyso o dan y rheoliadau.

  • Rwyf eisoes wedi cofrestru i ddarparu gofal dydd

Os ydych eisoes yn ddarparwr gofal dydd cofrestredig, y prif newid yw y gallech gael eich anghymhwyso os yw un o'r Gorchmynion, y penderfyniadau neu’r troseddau penodedig newydd yn berthnasol i chi'n bersonol neu i rywun yr ydych yn ei gyflogi i ymwneud â gofalu am blant ar eich safle. Fodd bynnag, ni fydd yn cyfrif yn eich erbyn bellach os bydd rhywun rydych yn byw gydag ef neu sy'n gweithio yn eich cartref wedi'i anghymhwyso o dan Reoliadau drafft 2022. Bydd angen ichi wirio nad oes yr un o'r gorchmynion, y penderfyniadau na'r troseddau penodedig newydd yn berthnasol i bobl sy'n gweithio ichi ac sy'n ymwneud â gofalu am blant.

  • Rwyf am weithio mewn lleoliad gofal dydd ond nid fi fydd y person cofrestredig, y Person Cyfrifol na'r Person â Gofal

Byddwch yn gallu gweithio mewn lleoliad gofal dydd oni bai bod un o'r Gorchmynion, y penderfyniadau neu'r troseddau penodedig newydd yn berthnasol i chi'n bersonol. Bydd eich cyflogwr yn gwirio hyn.

Gorchmynion gofal a goruchwylio

  • Fe'm gwnaed yn destun gorchymyn gofal neu oruchwylio fel plentyn i'm hamddiffyn fy hun, a nawr rwyf am gofrestru fel gwarchodwr plant neu ddarparwr gofal dydd

Os oeddech yn destun Gorchymyn gofal neu oruchwylio fel plentyn, ni fyddwch bellach yn cael eich anghymhwyso'n awtomatig rhag cofrestru am y rheswm hwnnw yn unig o dan Reoliadau drafft 2022.

  • Rwy'n ofalwr maeth (neu ofalwr maeth sy’n berthynas) neu wedi mabwysiadu plentyn a wnaed yn destun Gorchymyn gofal neu oruchwylio o ganlyniad i weithredoedd pobl eraill, a nawr rwyf am gofrestru fel gwarchodwr plant neu ddarparwr gofal dydd

Os ydych yn ofalwr maeth (neu ofalwr maeth sy’n berthynas) neu wedi mabwysiadu plentyn a oedd neu sy'n destun Gorchymyn gofal neu oruchwylio o ganlyniad i weithredoedd pobl eraill, ni fyddwch bellach yn cael eich anghymhwyso'n awtomatig rhag cofrestru o dan Reoliadau drafft 2022.

Dim ond os yw'r Gorchmynion o ganlyniad i’ch gofal chi o blentyn y cewch eich anghymhwyso'n awtomatig.

Arall

  • Pa wybodaeth y mae angen imi ei datgelu?

Os ydych yn gwneud cais i fod yn berson cofrestredig (gwarchodwr plant neu ddarparwr gofal dydd) mae'n ddyletswydd arnoch i ddatgelu gwybodaeth berthnasol am y gorchmynion, y penderfyniadau a'r troseddau yn y rheoliadau fel y maent yn berthnasol i chi.  Bydd angen i unrhyw un sydd am gofrestru i ddarparu gofal plant o'i gartref fel gwarchodwr plant hefyd ddatgelu gwybodaeth berthnasol am y gorchmynion, y penderfyniadau a'r troseddau yn y rheoliadau fel y maent yn berthnasol i unrhyw un sy'n byw neu'n gweithio yn ei gartref, ac sydd dros 16 oed. Mae peidio â gwneud hynny yn drosedd.

  • A allaf herio fy anghymhwysiad o dan Reoliadau drafft 2022?

Bydd gennych yr hawl i wneud cais i Weinidogion Cymru am i’r anghymhwysiad gael ei wrthdroi os teimlwch ei fod yn annheg oherwydd, mewn rhai amgylchiadau ac o ystyried achosion penodol, gall rhai pobl ofyn i AGC wrthdroi anghymhwysiad (h.y. gwneud eithriad). Fodd bynnag, mewn rhai amgylchiadau, nid oes opsiwn i wneud cais i’w wrthdroi, er enghraifft os bydd rhywun wedi’i enwi ar restr amddiffyn plant.

  • Hawl i apelio

Os na chytunwyd i wrthdroi’r anghymhwysiad, bydd gennych hawl i apelio i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan Reoliadau drafft 2022 fel sy'n digwydd ar hyn o bryd.

Atodiad

Troseddau a gorchmynion newydd a gynhwyswyd yn Rheoliadau drafft 2022 ond nad oeddent yn Rheoliadau 2010

Math o drosedd

Deddfwriaeth berthnasol

Yn y Rheoliadau cyfatebol yn Lloegr?

Cyfathrebu maleisus gan anfon llythyrau ac ati gyda'r bwriad o achosi gofid neu bryder, a defnydd amhriodol o'r rhwydwaith cyfathrebu electronig cyhoeddus

Deddf Cyfathrebu Maleisus 1988

Deddf Cyfathrebu 2003

Ydy

Creu ofn trais, gan gynnwys stelcian

Deddf Amddiffyn rhag Aflonyddu 1997

Ydy

Cymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n ymwneud â therfysgaeth

Deddf Terfysgaeth 2000

Deddf Terfysgaeth 2006

Ydy

Cyfathrebu’n rhywiol gyda phlentyn

Deddf Troseddau Rhywiol 2003

Ydy

Meddu ar ddelweddau gwaharddedig o blant

Deddf Crwneriaid a Chyfiawnder 2009

Ydy

Triniaeth wael neu esgeulustod bwriadol wrth ddarparu gofal a datgelu ffotograffau a ffilmiau rhywiol preifat gyda'r bwriad o achosi gofid

Deddf Cyfiawnder Troseddol a’r Llysoedd 2015

Ydy

Meddu ar lawlyfr pedoffiliaid / ymddygiad rheolgar neu orfodaeth o fewn perthynas agos neu deuluol

Deddf Troseddau Difrifol 2015

Ydy

Cymryd rhan mewn caethwasiaeth a masnachu pobl

Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015

Ydy

Cyflenwi, neu gynnig cyflenwi, sylwedd seicoweithredol

Deddf Sylweddau Seicoweithredol 2016

Ydy

Anffurfio organau cenhedlu benywod

Deddf Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod 2003

Ydy

Voyeuriaeth

Deddf Troseddau Rhywiol 2003

Nac ydy

Helpu i orfodi rhywun i briodi

Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014

Nac ydy

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu'r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy’n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, yna gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Ymgymerir â gwaith o'r fath o dan gontract yn unig. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu data personol a'u cadw'n ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi'i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ddogfen hon. Mae'n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi'r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda'r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i'ch enw a'ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth.

Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data
  • (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu 'dileu'
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data:

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ

e-bost: Data.ProtectionOfficer@llyw.cymru

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 neu
0303 123 1113

Gwefan: https://ico.org.uk/