Daeth Rheoliadau ar gyfer Systemau Draenio Cynaliadwy, neu SDCau, ar gyfer datblygiadau eiddo newydd yng Nghymru i rym heddiw (7 Ionawr).
Bydd y rheoliadau gorfodol a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru yn helpu i leihau y risg o lifogydd ac yn gwella ansawdd dŵr.
Bydd y rheoliadau hefyd yn helpu i sicrhau bod safonau amgylcheddol yn cael eu cynnal a'u gwella wedi Brexit, gyda phroblemau llifogydd yn cael eu datrys mewn ffordd ecogyfeillgar drwy ddulliau cynaliadwy.
Bydd manteision pellach y rheoliadau yn cynnwys gwella y bywyd gwyllt a bioamrywiaeth a helpu i leihau llygredd ar ddatblygiadau tai newydd drwy ddefnyddio SDCau sydd wedi'u cynllunio a'u hadeiladu yn effeithiol.
Mae SDCau yn defnyddio'r dirwedd a llystyfiant naturiol i reoli llif dŵr wyneb ac i leihau'r risg o lifogydd. Gall y cynlluniau gynnwys pyllau dŵr, palmentydd hydraidd a phantau sy'n arafu llif dŵr wyneb yn fwy na phibellau draenio confensiynol.
Gall dŵr wyneb ffo hefyd achosi llygredd arwyddocaol yn uniongyrchol a thrwy garthffosydd yn gorlifo i afonydd. Mae SDCau wedi'u dylunio nid yn unig i wella ansawdd dŵr ond hefyd i fod yn gryfach ac i bara'n hirach na systemau draenio confensiynol.
Mae oddeutu 163,000 o adeiladau yng Nghymru mewn perygl o lifogydd dŵr wyneb ac amcangyfrifir bod systemau draenio cynaliadwy yn lleihau y difrod o lifogydd hyd at 30%.
Meddai Lesley Griffiths, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:
Manylion ar draenio cynaliadwy."Gall llifogydd gael effaith ddinistriol ar berchnogion tai ac mae'n bwysig fod pob ymdrech yn cael ei wneud i amddiffyn tai ac i gyfyngu ar y difrod sy'n cael ei wneud o ganlyniad i lifogydd dŵr.
"Y llynedd gwelwyd sawl achos o lifogydd drwg yng Nghymru gan dynnu sylw at bwysigrwydd cyflwyno mesurau i fynd i'r afael â'r heriau sy'n cael eu hwynebu o ganlyniad i'r newid yn yr hinsawdd.
"Rydym yn gobeithio y bydd y rheoliadau hyn yn cael effaith bositif ar genedlaethau'r dyfodol ac yn helpu i sicrhau bod Cymru yn cynnal ei safonau amgylcheddol uchel wedi Brexit."