Neidio i'r prif gynnwy

Ceisio sylwadau ar reoliadau drafft i wahardd cyflenwi fêps untro yng Nghymru.

Darllen manylion ar y ddalen hon

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Gorffennaf 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dogfennau

Rheoliadau Diogelu’r Amgylchedd (Fëps Untro) (Cymru) 2024 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 382 KB

PDF
382 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Manylion

Yn dilyn ymgynghoriad ledled y DU, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod yn bwriadu gwahardd fêps untro yng Nghymru o 1 Ebrill 2025. Nid effeithir ar fêps y gellir eu hailddefnyddio gan y newid hwn. 

Ein nod yw lleihau'r difrod amgylcheddol a achosir gan ddefnyddio a gwaredu fêps untro ac annog pobl i ddefnyddio cynhyrchion eraill y gellir eu hailddefnyddio.

Cyflwynwch eich sylwadau

Os oes gennych farn neu unrhyw sylwadau ar y rheoliadau drafft, anfonwch nhw aton ni yn: isadrandiogeluramgylchedd@llyw.cymru erbyn dydd Gwener 26 Gorffennaf 2024. 

Mae'r Deyrnas Unedig yn rhan o Gonfensiwn Fframwaith Sefydliad Iechyd y Byd ar Reoli Tybaco ac felly mae rhwymedigaeth arni i amddiffyn datblygiadau polisi iechyd y cyhoedd rhag buddiannau breintiedig y diwydiant tybaco.

Er mwyn cyflawni'r rhwymedigaeth hon, gofynnwn i'r holl ymatebwyr ddatgelu a oes ganddynt unrhyw gysylltiadau uniongyrchol neu anuniongyrchol â’r diwydiant tybaco neu a ydynt yn derbyn cyllid ganddo.