Rheoliadau cymeradwywyr cofrestredig rheolaeth adeiladu Cymru (WGC 012/2024)
Cylchlythyr yw hwn i roi gwybod bod Rheoliadau Adeiladu (Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu etc.) (Cymru) 2024 yn cael eu gweithredu.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cylchlythyr rheoliadau adeiladu
Rhif y Cylchlythyr: WGC 012/2024
Dyddiad cyhoeddi: 03/12/2024
Statws: Er gwybodaeth
Teitl: Rheoliadau Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu Cymru
Cyhoeddwyd gan: Kevin Davies, Rheolwr Cymhwysedd a Safonau Rheoli Adeiladu
Wedi'i gyfeirio at:
Brif Weithredwyr Awdurdodau Lleol
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Rheoli Adeiladu Awdurdodau Lleol
Cymdeithas Cymeradwywyr Rheolaeth Adeiladu
I'w anfon ymlaen at:
Swyddogion Rheoli Adeiladu yr Awdurdodau Lleol
Aelodau o'r Senedd
Crynodeb:
Cylchlythyr yw hwn i roi gwybod bod Rheoliadau Adeiladu (Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu etc.) (Cymru) 2024 yn cael eu gweithredu.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
Y Tîm Rheoliadau Adeiladu
2il Lawr
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Llinell uniongyrchol: 0300 060 4400
E-bost: enquiries.brconstruction@llyw.cymru
Gwefan: adeiladu a chynllunio
Cylchlythyr
- Rwyf wedi cael cyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru i dynnu'ch sylw at y newidiadau a wneir gan y Rheoliadau canlynol sy'n dod i rym ar 1 Ionawr 2025:
- Rheoliadau Adeiladu (Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu etc.) (Cymru) 2024
- Pwrpas y Cylchlythyr hwn yw tynnu sylw at yr is-ddeddfwriaeth newydd ac esbonio'r newidiadau y mae'n eu cyflwyno.
Cwmpas y cylchlythyr hwn
- Mae'r cylchlythyr hwn yn berthnasol i'r proffesiwn rheolaeth adeiladu yng Nghymru.
Is-ddeddfwriaeth newydd
- Fel rhan o'r gyfres barhaus o newidiadau mewn ymateb i Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022, mae Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) 2010 (“Rheoliadau 2010”) wedi cael eu dirymu i raddau helaeth a'u disodli gan Reoliadau Adeiladu (Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu etc.) (Cymru) 2024 (“Rheoliadau 2024”).
- Mae'r rheoliadau hyn yn nodi cyfrifoldebau a gofynion Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu (RBCAs) ac unrhyw gyrff cyhoeddus sydd wedi'u hawdurdodi gan Weinidogion Cymru i weithredu fel cyrff rheolaeth adeiladu. Mae'r rheoliadau hefyd yn nodi'r prosesau ar gyfer cyflwyno ffurflenni penodol sy'n ofynnol o dan Ddeddf Adeiladu 1984 a Rheoliadau Adeiladu 2010 yn ogystal â rhesymau dros dderbyn neu wrthod ffurflenni o'r fath.
- Tra bod Rheoliadau Adeiladu (Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu etc.) (Cymru) 2024 yn debyg yn fras i'r Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) 2010 y maent yn eu disodli, mae rhai gwahaniaethau sylweddol.
- Mae nifer o ddarpariaethau yn Rheoliadau 2010 nad ydynt wedi'u cynnwys yn Rheoliadau 2024. Fe'u rhestrir isod:
- 3: Dynodi cyrff i gymeradwyo arolygwyr
- 4: Cymeradwyo arolygwyr
- 5: Ffordd o gymeradwyo neu ddynodi
- 5A: Yswiriant arolygydd cymeradwy
- 6: Terfynu cymeradwyaeth neu ddynodiad
- 7: Rhestrau o gymeradwyaethau a dynodiadau
- 29: Tystysgrifau a roddir o dan adran 16(9) o'r Ddeddf
- 32: Cyflwyno dogfennau’n electronig
- 33: Darpariaethau trosiannol: dehongli
- 34: Darpariaethau trosiannol: gwaith sydd eisoes wedi dechrau cyn 1 Hydref 2010
- 35: Darpariaethau trosiannol: gwaith nad oes angen hysbysiad ar ei gyfer
- 36: Darpariaethau trosiannol: hysbysiad a roddwyd neu gynlluniau a adneuwyd cyn 1 Hydref 2010
- 37: Darpariaethau trosiannol ac arbed: Rheoliadau Adeiladu cynharach
- 38: Dirymiadau a diwygiadau canlyniadol
- Roedd rheoliadau 3 i 7 yn ymdrin â'r corff goruchwylio ar gyfer Arolygwyr Cymeradwy, a swyddogaeth Arolygwyr Cymeradwy. Mae darpariaethau tebyg i'r rhain mewn cysylltiad â Chymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu wedi cael eu deddfu mewn deddfwriaeth arall eisoes.
- Caniataodd rheoliad 29 i Arolygwyr Cymeradwy a Chymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu gyflwyno tystysgrifau planiau o dan adran 16(9) o Ddeddf Adeiladu 1984 ar yr amod eu bod hefyd yn cyflwyno gwybodaeth yswiriant ragnodedig briodol. Cafodd y gofyniad am yswiriant rhagnodedig ei ddileu yn 2022 (gweler WGC 004/2022) felly nid oes angen y ddarpariaeth hon mwyach.
- Caniataodd rheoliad 32 i ddogfennau gael eu hanfon yn ddigidol o dan adran 94A o Ddeddf Adeiladu 1984. Mae'r adran hon wedi'i hepgor gan fod trosglwyddo dogfennau yn ddigidol bellach yn cael ei ystyried yn gyffredin ac nid oes angen deddfu ar ei gyfer mwyach, felly nid oedd angen cynnwys darpariaeth debyg yn Rheoliadau 2024.
- Roedd rheoliadau 34 i 38 yn ddarpariaethau trosiannol, darpariaethau arbed a dirymiadau neu ddiwygiadau canlyniadol sy'n angenrheidiol er mwyn i Reoliadau 2010 gymryd effaith. Nid oes angen y darpariaethau mwyach, felly ni chawsant eu trosglwyddo i Reoliadau 2024.
- Ar gyfer rheoliadau sydd wedi'u trosglwyddo, mae'r tabl hwn yn amlinellu pa ddarpariaethau yn Rheoliadau 2024 sy'n cyfateb yn fras i ddarpariaethau o'r hen gyfundrefn:
Rheoliad | Teitl yn Rheoliadau Adeiladu (Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu etc.) (Cymru) 2024 | Rheoliad cyfatebol o Reoliadau 2010 |
RHAN 1 CYFFREDINOL | ||
1 | Enwi, dod i rym a chymhwyso | 1 |
2 | Dehongli | 2 |
RHAN 2 CYMERADWYWYR COFRESTREDIG RHEOLAETH ADEILADU | ||
3 | Annibyniaeth cymeradwywyr | 9 |
4 | Swyddogaethau cymeradwywyr | 8 |
5 | Addasu Rheoliadau 2010 etc. | 20 |
RHAN 3 HYSBYSIADAU A THYSTYSGRIFAU ETC. | ||
6 | Ffurf yr hysbysiad cychwynnol, y seiliau dros ei wrthod a’r cyfnod ar gyfer ei wrthod | 10 |
7 | Ffurf yr hysbysiad diwygio, y seiliau dros ei wrthod a’r cyfnod ar gyfer ei wrthod | 11 |
8 | Ymgynghori â’r Awdurdod Tân ac Achub | 12 |
9 | Ymgynghori â’r ymgymerwr carthffosiaeth | 13 |
10 | Ffurf y dystysgrif blaniau, y seiliau dros ei gwrthod a’r cyfnod ar gyfer ei gwrthod | 14 |
11 | Effaith y dystysgrif blaniau | 15 |
12 | Ffurf y dystysgrif derfynol, y seiliau dros ei gwrthod a'r cyfnod ar gyfer ei gwrthod | 16 |
13 | Ffurf hysbysiad o dan adran 51C o Ddeddf 1984 | 16A |
14 | Digwyddiadau sy’n peri i’r hysbysiad cychwynnol beidio â bod mewn grym | 17 |
15 | Canslo hysbysiad cychwynnol: ffurflenni etc. | 18 |
16 | Canslo hysbysiad cychwynnol: hysbysiad o dorri rheoliadau adeiladu | 18A |
RHAN 4 TROSGLWYDDO PROSIECTAU YN ÔL I'R AWDURDOD LLEOL | ||
17 | Pwerau awdurdodau lleol mewn perthynas â gwaith sydd wedi ei gwblhau yn rhannol | 19 |
18 | Cyfnodau y mae rhaid darparu gwybodaeth am waith y mae hysbysiad cychwynnol yn ymwneud ag ef ynddynt | 19A |
RHAN 5 TROSGLWYDDO PROSIECTAU I GYMERADWYWR ARALL | ||
19 | Adran 53(7): darpariaeth ragnodedig | 19B |
20 | Gwybodaeth i’w chynnwys mewn tystysgrifau trosglwyddo | 19C |
21 | Cyfnod ar gyfer ystyried tystysgrif drosglwyddo ac adroddiad trosglwyddo gan awdurdod lleol | 19D |
22 | Y seiliau dros wrthod tystysgrif drosglwyddo ac adroddiad trosglwyddo | 19E |
23 | Achosion pan ganiateir rhoi hysbysiad cychwynnol pellach ar ôl canslo hysbysiad cychwynnol o dan adran 53D | 19F |
RHAN 6 CYRFF CYHOEDDUS | ||
24 | Cymeradwyo cyrff cyhoeddus | 21 |
25 | Ffurf hysbysiad corff cyhoeddus, y seiliau dros ei wrthod a’r cyfnod ar gyfer ei wrthod | 22 |
26 | Ymgynghoriad corff cyhoeddus â’r awdurdod tân ac achub | 23 |
27 | Ymgynghoriad corff cyhoeddus â’r ymgymerwr carthffosiaeth | 24 |
28 | Ffurf tystysgrif blaniau corff cyhoeddus, y seiliau dros ei gwrthod a’r cyfnod ar gyfer ei gwrthod | 25 |
29 | Effaith tystysgrif blaniau corff cyhoeddus | 26 |
30 | Ffurf tystysgrif derfynol corff cyhoeddus, y seiliau dros ei gwrthod a’r cyfnod ar gyfer ei gwrthod | 27 |
31 | Digwyddiadau sy’n peri i hysbysiad corff cyhoeddus beidio â bod mewn grym | 28 |
RHAN 7 COFRESTRAU O HYSBYSIADAU ETC. | ||
32 | Cofrestr o hysbysiadau a thystysgrifau | 30 |
33 | Cyfnodau cofrestru | |
34 | Torri rheolau ymddygiad proffesiynol | |
35 | Atal dros dro interim am doriad difrifol a amheuir | |
36 | Apelio penderfyniad a wnaed gan Weinidogion Cymru | |
RHAN 8 AMRYWIOL | ||
37 | Torri rheoliadau penodol yn peidio â bod yn drosedd | 31 |
38 – 41 | Darpariaethau diwygiadau canlyniadol | |
42 | Dirymiadau, darpariaethau trosiannol a darpariaethau arbed | |
ATODLENNI | ||
Atodlen 1 | Ffurflenni | Atodlen 1 |
Atodlen 2 | Y Seiliau dros Wrthod Hysbysiad Cychwynnol, Hysbysiad Diwygio, neu Dystysgrif Blaniau wedi ei Chyfuno â Hysbysiad Cychwynnol | Atodlen 2 |
Atodlen 3 | Y seiliau dros wrthod tystysgrif blaniau, neu dystysgrif blaniau wedi ei chyfuno â hysbysiad cychwynnol | Atodlen 3 |
Atodlen 4 | Y seiliau dros wrthod tystysgrif derfynol | Atodlen 4 |
Atodlen 5 | Y seiliau dros wrthod tystysgrif drosglwyddo ac adroddiad trosglwyddo | Atodlen 3A |
Atodlen 6 | Y Seiliau dros Wrthod Hysbysiad Corff Cyhoeddus, neu Hysbysiad Corff Cyhoeddus wedi ei Gyfuno â Thystysgrif Blaniau | Atodlen 5 |
Atodlen 7 | Y Seiliau dros Wrthod Tystysgrif Blaniau Corff Cyhoeddus, neu Hysbysiad Corff Cyhoeddus wedi ei Gyfuno â Thystysgrif Blaniau | Atodlen 6 |
Atodlen 8 | Y Seiliau dros Wrthod Tystysgrif Derfynol Corff Cyhoeddus | Atodlen 7 |
- Mae mwyafrif y diweddariadau a wnaed i Reoliadau 2024 yn fân newidiadau i eiriad er mwyn eglurder a chysondeb. Mae'r newidiadau sylweddol wedi'u nodi isod.
- Yn rheoliad 3 (Annibyniaeth Cymeradwywyr) nid oes eithriad ar gyfer mân waith mwyach.
- Yn rheoliad 5 (Addasu Rheoliadau 2010 etc.), mae rheoliad 5(8) yn peri i reoliad 38 o Reoliadau Adeiladu 2010 gael ei ddarllen mewn modd sy'n diweddaru'r gofynion a'r amserlenni ar gyfer rhoi gwybodaeth sy'n ymwneud â hysbysiadau cychwynnol.
- Yn rheoliad 18 (Cyfnodau y mae rhaid darparu gwybodaeth am waith y mae hysbysiad cychwynnol yn ymwneud ag ef ynddynt), mae'r rheoliad wedi'i ddiweddaru i gwmpasu mwy o sefyllfaoedd o dan adran 54(4A) i 54(4C) o Ddeddf Adeiladu 1984.
- Mae rheoliad 33 yn ddarpariaeth newydd nad yw wedi'i chynnwys yn Rheoliadau 2010. Mae'n cyfuno rheoliadau 2 a 3 o Reoliadau Adeiladu (Y Proffesiwn Rheolaeth Adeiladu) (Cofrestru, Sancsiynau ac Apelau) (Cymru) 2023 (“Rheoliadau'r proffesiwn rheolaeth adeiladu”) drwy osod hyd y cofrestriad fel pedair blynedd ar gyfer arolygwyr cofrestredig adeiladu a phum mlynedd ar gyfer Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu sy'n dechrau ar y diwrnod y mae'r cofrestriad yn cael effaith.
- Yn yr un modd, mae rheoliad 34 yn ddarpariaeth newydd sy'n symud rheoliad 4 o Reoliadau'r proffesiwn rheolaeth adeiladu i Reoliadau 2024. Mae'r rheoliad hwn yn ei gwneud yn ofynnol i orchmynion disgyblu a roddir i Gymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu gael eu dosbarthu i awdurdodau lleol os oedd y gorchymyn yn amrywio, yn atal neu'n canslo cofrestriad y Cymeradwywr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu.
- Mae rheoliad 35 yn symud rheoliad 5 o Reoliadau'r proffesiwn rheolaeth adeiladu i mewn i Reoliadau 2024. Mae hyn yn pennu os caiff Cymeradwywr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu ei gosbi a'r canlyniad yw bod ei gofrestriad yn cael ei amrywio, ei atal dros dro neu ei ganslo, bydd pob awdurdod lleol yng Nghymru yn cael copi o orchymyn atal dros dro interim am amheuaeth o dorri'r Rheolau Ymddygiad Proffesiynol yn ddifrifol, pan fo'r amheuaeth o dorri'r Rheolau Ymddygiad Proffesiynol mor ddifrifol fel y bydd cofrestriad unigolyn yn debygol o gael ei ganslo os penderfynir bod achos o dorri rheolau wedi digwydd.
- Mae rheoliad 36 yn symud rheoliad 6 o Reoliadau'r proffesiwn rheolaeth adeiladu i mewn i Reoliadau 2024. Mae'r rheoliad yn darparu y gall ceisydd wneud apêl i'r Llys Ynadon, ac mae'n rhoi'r sail dros apêl. Mae hefyd yn nodi bod yn rhaid gwneud apelau o fewn 21 diwrnod o'r diwrnod drannoeth i Weinidogion Cymru yn hysbysu'r ceisydd am y penderfyniad. Fodd bynnag, gellir ymestyn y cyfnod hwn ar unrhyw adeg os cytunir arno yn ysgrifenedig gan y ceisydd a Gweinidogion Cymru.
- Mae cynnwys darpariaethau sy'n ffurfio rheoliadau 33 i 36 o fewn Rheoliadau 2024 wedi caniatáu ar gyfer dirymu Rheoliadau'r proffesiwn rheolaeth adeiladu. Pwrpas cynnwys hwn, a dirymu yw gosod yr holl reoliadau sy'n ymwneud â Chymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu mewn un set o reoliadau.
- Mae rheoliadau 38 i 41 yn ddiwygiadau canlyniadol:
- Mae rheoliad 38 yn dileu'r term arolygydd cymeradwy (“approved inspector”) o Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005.
- Mae rheoliad 39 yn diweddaru'r cyfeiriadau at Reoliadau 2010 yn Rheoliadau Adeiladu (Taliadau Awdurdodau Lleol) 2010 i ddarpariaethau yn Rheoliadau 2024.
- Mae rheoliad 40 yn gwneud yr un peth ar gyfer Rheoliadau Adeiladu 2010.
- Mae rheoliad 41 yn diweddaru Rheoliadau Adeiladu (Gweithgareddau a Swyddogaethau Cyfyngedig) (Cymru) 2024 gyda chyfeiriadau at Reoliadau 2024.
Mae'r newidiadau hyn i gyd yn sicrhau bod deddfwriaeth ategol yn cyfeirio'n gywir at Reoliadau 2024 yn hytrach na Rheoliadau 2010.
- Mae rheoliad 42 yn dirymu rhan o'r rheoliadau neu'r rheoliadau cyfan a ganlyn pan fo'r darpariaethau hynny wedi dyddio, yn cefnogi Rheoliadau 2010, neu wedi'u hymgorffori yn Rheoliadau 2024:
- Y rhan fwyaf o Reoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) 2010
- Rheoliadau Rheoliadau Adeiladu etc. (Diwygio) (Cymru) 2013
- Rheoliadau Rheoliadau Adeiladu etc. (Diwygio) (Cymru) 2014
- Rheoliadau Adeiladu (Diwygio) (Cymru) 2014
- Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) (Diwygio) (Cymru) 2014
- Rheoliadau Rheoliadau Adeiladu etc. (Diwygio) (Cymru) 2016
- Rheoliadau Rheoliadau Adeiladu etc. (Diwygio) (Adeiladau Ynni a Eithrir) (Cymru) 2018.
- Rheoliadau Adeiladu (Diwygio) (Cymru) 2022
- Rheoliadau Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Diwygiadau Canlyniadol) (Arolygwyr Cymeradwy) (Cymru) 2022
- Rheoliadau Adeiladu (Y Proffesiwn Rheolaeth Adeiladu) (Cofrestru, Sancsiynau ac Apelau) (Cymru) 2023
- Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) (Diwygio) (Cymru) 2024
Ni chafodd rhai rhannau o Reoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) 2010 eu dirymu os oeddent yn ymwneud â chyflwyno tystysgrifau o dan adran 16(9) o Ddeddf Adeiladu 1984 er mwyn caniatáu i'r broses honno barhau i gael effaith.
- Mae rheoliad 42 hefyd yn cynnwys darpariaethau trosiannol a darpariaethau arbed: mae'r cyfuniad o 42(3) a 42(4) yn caniatáu cyflwyno hysbysiadau diwygio a allai gynnwys gwaith adeiladu risg uwch mewn sefyllfaoedd pan fo Cymeradwywr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu eisoes yn gweithio ar brosiect sy'n cynnwys gwaith adeiladu risg uwch.
- Mae rheoliadau 42(5) a 42(6) yn sicrhau y gellir prosesu ffurflenni a gyflwynir o dan Reoliadau 2010 o hyd pan ddaw Rheoliadau 2024 i rym.
- Mae rheoliad 42(7) yn cefnogi parhad rheoliad 29 o Reoliadau 2010, gan ganiatáu i blaniau gael eu cyflwyno o dan adran 16(9) o Ddeddf Adeiladu 1984.
- Mae Atodlen 1 i Reoliadau 2024 yn cyfateb i Atodlen 1 i Reoliadau 2010 ac yn manylu ar y ffurflenni rhagnodedig i'w defnyddio gan reolaeth adeiladu ar gyfer amrywiaeth o sefyllfaoedd. O dan reoliad 2(2) caniateir defnyddio ffurflen “y mae ei heffaith yn sylweddol debyg iddi” o hyd yn lle'r ffurflenni fel y manylir. Bydd hyn yn caniatáu i Gymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu ac awdurdodau lleol addasu ffurflenni i ddiwallu eu hanghenion. Mae ffurflenni 1(W) i 5(W) wedi cael eu diweddaru i adlewyrchu gofynion y gyfundrefn newydd. Mae ffurflen 6(W) wedi'i hepgor yn fwriadol i sicrhau parhad o ran rhifo ar draws gwahanol ranbarthau lle gall Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu weithredu. Nid yw ffurflenni 7(W) i 17(W) wedi newid o Reoliadau 2010. Nid yw ffurflenni PB1(W) i PB4(W) wedi newid yn sylweddol o Reoliadau 2010.
- Mae Atodlen 2 yn cyfateb i Atodlen 2 i Reoliadau 2010 ac mae'n manylu ar y seiliau dros wrthod hysbysiadau cychwynnol, hysbysiadau diwygio, a thystysgrifau planiau wedi eu cyfuno â hysbysiad cychwynnol. Mae'r gofynion ynghylch cymeradwywyr yn gallu llofnodi hysbysiadau wedi cael eu diweddaru i adlewyrchu'r angen i'w cofrestriad fod yn gyfredol ac o fewn y cwmpas ar gyfer y gwaith, ac yn achos hysbysiad diwygio i'w gwneud yn ofynnol mai'r cymeradwywr yw'r cymeradwywr a roddodd yr hysbysiad cychwynnol. Mae darpariaethau tebyg wedi'u hychwanegu fel rheswm dros wrthod hysbysiadau os nad oedd yr Arolygydd Cofrestredig Adeiladu a roddodd gyngor yn Arolygydd Cofrestredig Adeiladu ar y dyddiad y cyflwynwyd yr hysbysiad, neu os nad yw eu cofrestriad yn cwmpasu'r holl waith mewn hysbysiad.
- Mae Atodlen 3 yn cyfateb i Atodlen 3 i Reoliadau 2010 ac mae'n rhoi seiliau dros wrthod tystysgrif blaniau neu dystysgrif blaniau wedi ei chyfuno â hysbysiad cychwynnol. Os nad yw'r ardal lle mae gwaith i'w wneud yn ardal yr awdurdod lleol y rhoddwyd y dystysgrif iddo, yna mae hyn bellach yn sail dros wrthod. Fel yn Atodlen 2, mae'r gofynion i Gymeradwywr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu fod wedi'i gofrestru ac i gwmpas eu cofrestriad gwmpasu'r gwaith wedi'u diweddaru, ac mae peidio â bod â'r gallu wedi'i ychwanegu fel rheswm pam y gellir gwrthod tystysgrifau. Yn yr un modd, mae'r rhesymau wedi'u diweddaru i ganiatáu gwrthod os nad oedd y person oedd yn rhoi cyngor yn Arolygydd Cofrestredig Adeiladu neu nid oedd wedi'i gofrestru i roi'r cyngor hwnnw ar yr adeg y cyflwynwyd ffurflen.
- Mae Atodlen 4 yn cyfateb i Atodlen 4 i Reoliadau 2010 ac yn rhoi sail dros wrthod tystysgrif derfynol. Fel gyda'r ddwy atodlen flaenorol, mae lleoliad y tu allan i'r ardal, capasiti cymeradwywyr, a gofynion ar gyfer Arolygwyr Cofrestredig Adeiladu wedi'u hychwanegu fel rhesymau dros wrthod.
Ymholiadau
Anfonwch unrhyw ymholiadau am y Cylchlythyr hwn at:
Rheoliadau Adeiladu, 2il Lawr, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ
E-bost: enquiries.brconstruction@llyw.cymru
Yn gywir,
Mark Tambini
Pennaeth Polisi Rheoliadau Adeiladu