Neidio i'r prif gynnwy

Gwnaed Rheoliadau Cyllido Ysgolion (Cymru) 2010 ar 16 Mawrth 2010 a byddant yn dod i rym ar 1 Medi 2010 ar gyfer blwyddyn ariannol 2011 i 2012 ymlaen.  Bydd y rheoliadau hyn yn cyfuno ac yn disodli'r rheoliadau presennol canlynol ar gyllido ysgolion a wnaed o dan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998:

  • Rheoliadau Cyllidebau ALl, Cyllidebau Ysgolion a Chyllidebau Ysgolion Unigol (Cymru) 2003
  • Rheoliadau Cyfrannau Cyllideb Ysgolion (Cymru) 2004
  • Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Ariannol ALl) (Cymru) 2004.

Dyma'r prif newidiadau:

  • gofyniad i'r awdurdodau lleol roi gwybodaeth i ysgolion am gyllid dros gyfnod o dair blynedd – gan bennu cyllideb flynyddol ar gyfer pob ysgol a darparu rhagolwg dros y ddwy flynedd ganlynol a
  • phwerau newydd i'r awdurdodau lleol gyfeirio gwariant neu adfachu arian pan fydd y cyllidebau sydd dros ben gan ysgolion yn fwy na £50k ar gyfer ysgolion cynradd, neu £100k ar gyfer ysgolion uwchradd ac ysgolion arbennig
  • mae'r dyddiad y mae gofyn i awdurdodau lleol hysbysu Gweinidogion Cymru ynghylch eu Cyllideb Ysgolion arfaethedig wedi newid o 31 Ionawr i 14 Chwefror.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi Canllawiau yn disgrifio'r hyn ddylai gael ei gynnwys yn y Cynlluniau.

Gofynnir i awdurdodau lleol ymgynghori â'u Fforwm Ysgolion am ddiwygiadau i Gynlluniau, a rhaid i Lywodraeth Cymru gymeradwyo'r diwygiadau.

Rhaid i bob awdurdod lleol gyhoeddi ei Gynllun.

Mae Rheoliadau Cyllidebau Ysgolion (Cymru) 2010 yn ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdodau lleol ddyrannu gwariant rhwng tair cyllideb.

Mae Cyllideb yr Awdurdod Lleol yn ymwneud â swyddogaethau canolog yr awdurdod lleol ac mae'n cynnwys costau darpariaeth arbenigol ei natur, gwella ysgolion, mynediad at addysg, addysg bellach a hyfforddiant ar gyfer pobl ifanc ac oedolion a rheoli strategol.

Mae'r Gyllideb Ysgolion yn cwmpasu gwariant a anelwyd yn uniongyrchol at roi cymorth i ysgolion.  Mae'n cynnwys gwariant ar wasanaethau y gall yr awdurdod lleol gadw arian yn ôl yn ganolog ar eu cyfer megis gwasanaethau anghenion addysgol arbennig, prydau ysgolion a llaeth. Bydd y swm o wariant a gedwir yn ganolog yn cael ei dynnu allan o'r Gyllideb Ysgolion a'r gweddill fydd y Gyllideb Ysgolion Unigol , h.y. cyllid a drosglwyddir i ysgolion.

Nid yw'r Gyllideb Ysgolion Unigol yn cynnwys unrhyw gyllid grant wedi'i neilltuo gan Lywodraeth Cymru neu o unrhyw ffynhonnell arall ond mae grantiau o'r fath yn rhan o gyllideb ddirprwyedig gyffredinol ysgol unigol.

O dan Reoliadau Cyllidebau Ysgolion (Cymru) 2010, rhaid i'r Gyllideb Ysgolion Unigol gael ei dyrannu ymhlith ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod ar ffurf cyfrannau cyllideb gan ddefnyddio fformiwla ariannu y penderfynwyd arni'n lleol. Yn ôl y rheoliadau mae 70% o'r cyllid i'w ddosbarthu ar sail nifer disgyblion.  Gall awdurdodau, yn eu fformiwla, bwysoli nifer y disgyblion yn unol ag unrhyw un o'r ffactorau canlynol neu'r cyfan ohonynt:

  • oedran, gan gynnwys pwysoliad yn unol â'r cyfnod allweddol neu grŵp blwyddyn
  • a yw disgybl yn cael ei addysg feithrin mewn ysgol
  • yn achos disgyblion o dan bump oed, eu hoedran yn union pan gânt eu derbyn i'r ysgol
  • yn achos disgyblion o dan bump oed, oriau presenoldeb
  • Anghenion Addysgol Arbennig
  • a yw disgybl mewn ysgol yn mynd hefyd i sefydliad o fewn y sector Addysg Bellach
  • a yw disgybl yn derbyn ei addysg drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae gan awdurdodau y disgresiwn i ddosbarthu'r 30% o gyllidebau dros ben ar sail ystod o ffactorau yn y rheoliadau, ee maint a chyflwr adeiladau a thir, trethi, glanhau, prydau ysgol a llaeth, cyflogau etc

Ac eithrio o dan rai amgylchiadau mae'r pŵer i wario'r gyfran o'r gyllideb wedi'i drosglwyddo i gorff llywodraethu'r ysgol sy'n rhydd i wario ei gyfran o'r gyllideb fel y gwêl yn dda, cyn belled ag y bo at ddibenion yr ysgol.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch cynllun awdurdod lleol i ariannu ysgolion, ei fformiwla ariannu leol neu gyllideb ysgol unigol dylech gysylltu â'ch awdurdod lleol.