Neidio i'r prif gynnwy

1. Disgrifiad ac esboniad o effaith y cynnig ar blant a phobl ifanc

Effaith y cynnig ar fywydau plant

Bydd rôl statudol CADY, a gefnogir gan reoliadau sy’n rhagnodi’r cymwysterau y mae’n rhaid i CADY feddu arnynt a’r tasgau y mae’n rhaid i CADY eu gwneud neu drefnu i’w gwneud, yn gwella’r ffordd y cydlynir darpariaeth addysgol ar gyfer plant a phobl ifanc ag anawsterau dysgu. Yn wahanol i’r rôl SENCo bresennol, sy’n anstatudol, bydd y tasgau a nodir yn y rheoliadau CADW drafft yn sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc ag ADY yn cael cymorth cyson ac amserol a fydd yn cynnwys yr unigolyn yn y broses o ddeall ei anghenion a’r ddarpariaeth i’w rhoi yn ei lle i’w gefnogi. 

Mae rôl CADY yn un strategol gyda thasgau sydd nid yn unig yn cefnogi’r dysgwr ond yn cynnwys cynghori athrawon, cefnogi hyfforddiant staff a pharatoi gwybodaeth gyhoeddedig gan y lleoliad addysg ynghylch ADY. Bydd hyn yn helpu i sicrhau dull ysgol/SAB cyfan ar gyfer cefnogi’r rheini sydd ag ADY ac, yn ei dro, yn cefnogi lles y plentyn neu’r person ifanc a’i allu i gyrraedd ei botensial.

Dylanwadwyd ar y broses o ddatblygu'r cynigion ar gyfer y rheoliadau CADY drafft drwy roi effaith i'r bwriadau polisi y tu ôl i'r Ddeddf ac i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.

Cwblhawyd cyfres o asesiadau effaith wrth ddatblygu'r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) ('y Bil'), a oedd yn cynnwys asesiad o'r effaith ar hawliau'r plentyn. Cafodd yr asesiadau effaith eu cyhoeddi ym mis Rhagfyr 2016 pan gyflwynwyd y Bil, a chawsant eu diwygio'n gyson yn ystod y cyfnod o graffu'n ddeddfwriaethol ar y Bil. Gan fod y rheoliadau hyn yn cael eu gwneud o dan Ddeddf 2018, ystyriwyd effaith bosibl y darpariaethau sy'n ymwneud rôl y CADY fel rhan o'r gwaith o ddatblygu'r Bil, ac adlewyrchir hyn yn y gwahanol asesiadau effaith ar gyfer y Ddeddf.

Mae'r asesiad o'r effaith ar hawliau plant ar gyfer y rheoliadau CADY drafft yn asesu effaith cymwysterau a swyddogaethau'r CADYau a ragnodir yn y rheoliadau drafft, ar blant a phobl ifanc.

Bydd rhagnodi bod yn rhaid i CADY fod yn athro/athrawes cymwysedig neu, yn achos ysgolion yn unig, yn SENCo cyfredol cyn i’r rheoliadau ddod i rym, yn helpu i sicrhau bod gweithlu â sgiliau digonol ar gael i helpu i weithredu'r fframwaith deddfwriaethol newydd a chyfrannu at amcanion cyffredinol y diwygiadau ADY. 

Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod plant a phobl ifanc ag ADY yn cael cymorth i oresgyn rhwystrau i ddysgu ac yn gallu cyrraedd eu potensial llawn, a gwella’r broses o gynllunio a darparu cymorth ar gyfer plant a phobl ifanc ag ADY gan roi'r lle canolog i anghenion, safbwyntiau, dymuniadau a theimladau dysgwyr.

Bydd rhagnodi swyddogaethau cydlynwyr ADY mewn perthynas â darpariaeth i ddisgyblion neu fyfyrwyr ag ADY yn helpu i gydlynu DDY mewn ffordd gyson o fewn lleoliadau addysg ar draws Cymru, ac felly’n darparu profiad addysgol gwell i’r dysgwyr hyn.

Nod cyffredinol y rheoliadau CADY drafft yw sicrhau bod anghenion plant a phobl ifanc ag ADY yn cael eu hadnabod yn gynnar a'u bod yn cael DDdY briodol drwy gydlynu darpariaeth o'r fath yn effeithiol. Mae'r gofynion yn canolbwyntio ar atal plant a phobl ifanc rhag colli cyfleoedd addysgol a'r cyfle i gyflawni eu potensial, drwy sicrhau eu bod yn cael y ddarpariaeth y mae eu ADY yn galw amdani a hynny'n amserol ac yn effeithlon, er mwyn eu galluogi i gymryd rhan mewn dysgu ac elwa arno. 

Ynghyd â buddsoddiad mewn hyfforddiant CADY, dylai’r rôl statudol newydd hon gael effaith gadarnhaol ar blant a phobl ifanc.

Effaith y cynnig ar wahanol grwpiau o blant

Mae’r rheoliadau hyn yn berthnasol i blant a phobl ifanc ag ADY yn unig. Mae plant a phobl ifanc ag ADY o dan anfantais bendant o gymharu â'r rheini heb ADY. Mae lefelau cyrhaeddiad addysgol ymhlith y rheini ag ADY yn sylweddol is na'r cyfartaledd, ac mae hyn yn amharu'n sylweddol ar y rhagolygon ar eu cyfer. Yn ogystal, mae plant a phobl ifanc y cofnodir bod ganddynt AAA ar hyn o bryd ddwywaith yn fwy tebygol o fod yn gymwys am brydau ysgol am ddim na'u cyfoedion heb AAA.

Mae darpariaethau Deddf 2018 a'r is-ddeddfwriaeth yn y Cod ADY drafft a'r rheoliadau arfaethedig (gan gynnwys y rheoliadau CADY) yn darparu system gymorth i blant a phobl ifanc ag ADY sy'n rhoi'r lle canolog iddynt ac sy'n sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu nodi, a'r ddarpariaeth angenrheidiol i ddiwallu'r anghenion hynny yn cael ei chynllunio mewn modd mwy amserol, cydweithredol, cyson a theg na’r hyn a wneir o dan y system bresennol. 

Nod ein cynigion yw cael gwared ag anghydraddoldeb ym maes addysg drwy sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn gallu cyflawni eu potensial addysgol, gan sicrhau effaith gadarnhaol anghymesur ar blant a phobl ifanc o aelwydydd incwm isel.

Y dystiolaeth a ddefnyddir wrth asesu

Mae'r penderfyniad i ddiwygio'r system anghenion addysgol arbennig (AAA) bresennol yn seiliedig ar ystod eang o dystiolaeth o gyfres o adroddiadau ac adolygiadau yn ogystal â gwaith ymgynghori ac ymgysylltu blaenorol â rhanddeiliaid a amlinellir mewn rhannau eraill o'r asesiad effaith integredig hwn.

Rhwng 2003 a 2007 cynhaliwyd adolygiad tair rhan o AAA gan gyn-Bwyllgor Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a chafodd adroddiadau cysylltiedig eu cyhoeddi yn y drefn ganlynol:

  1. Adnabod ac Ymyrryd yn Gynnar, Tachwedd 2004
  2. Fframwaith Asesu Statudol (Datganiadau), Mai 2006
  3. Trosglwyddo, Mawrth 2007

Roedd y dystiolaeth a gyflwynwyd yn adroddiadau'r Pwyllgor yn seiliedig ar adroddiadau cynharach gan y Comisiwn Archwilio (Anghenion addysgol arbennig: Mater prif ffrwd, 2002) ac Estyn (Cymorth i Blant ag Anghenion Addysgol Arbennig: Trosolwg Estyn, 2003). Gyda'i gilydd, daeth yr adroddiadau hyn i'r casgliadau canlynol mewn perthynas â'r system bresennol ar gyfer AAA:

  • mae'r broses asesu sy'n gysylltiedig â datganiadau'n aneffeithlon, yn fiwrocrataidd, yn gostus, nid yw'n canolbwyntio'n ddigonol ar y plentyn ac nid yw'n hawdd ei defnyddio
  • yn aml caiff anghenion eu nodi'n hwyr ac nid yw ymyriadau'n ddigon prydlon nac effeithiol
  • mae teuluoedd yn teimlo bod yn rhaid iddynt yn aml frwydro i sicrhau'r gefnogaeth gywir ar gyfer eu plentyn ac nad ydynt yn gwybod at bwy y gallant droi i gael cyngor a gwybodaeth

Mewn ymateb i adroddiad y Pwyllgor, cynhaliodd Llywodraeth Cynulliad Cymru ar y pryd ymgynghoriad cychwynnol ac eang ei gwmpas ar ddiwygiadau posibl i'r system bresennol o gefnogaeth ar gyfer AAA ac AAD (Datganiadau neu Rywbeth Gwell, 2007). Wedi hynny, sefydlwyd amryw o brosiectau peilot i ddatblygu a threialu systemau a ffyrdd newydd o lywio polisi a deddfwriaeth yn y dyfodol.

Mae'r ymatebion i ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru ar Ymlaen mewn Partneriaeth dros Blant a Phobl Ifanc ag Anghenion Ychwanegol (2012), y Papur Gwyn (2014) a'r Bil drafft (2015), yr ystyriaethau a'r sylwadau a wnaed mewn perthynas â Deddf 2018 yn ystod proses graffu'r Cynulliad Cenedlaethol a'r gwaith ymgysylltu ehangach â rhanddeiliaid, i gyd wedi ategu'r camau i ddatblygu'r Ddeddf, y Cod ADY drafft a'r rhaglen ehangach i drawsnewid y system ADY.

Ymgynghori â phlant a phobl ifanc

Y prif ymgynghoriad a gynhaliwyd mewn perthynas â'r system ADY newydd oedd yr ymgynghoriad mewn perthynas â'r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) drafft. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 6 Gorffennaf ac 18 Rhagfyr 2015.

Cafodd dogfen ymgynghori ar gyfer plant a phobl ifanc ei chyhoeddi ynghyd ag esboniad hawdd ei ddeall o'r Bil drafft. Roedd y dogfennau hyn yn cefnogi gweithdai penodol i blant, pobl ifanc a'u rhieni/gofalwyr. Cynhaliwyd 23 o weithdai i gyd.

Yn y gweithdai, aethpwyd ati i gasglu safbwyntiau plant a phobl ifanc ar wahân i safbwyntiau eu rhieni/gofalwyr er mwyn sicrhau bod eu barn yn cael ei gofnodi'n gywir. Roedd yna 19 o weithdai i blant a phobl ifanc mewn 16 o leoliadau, a chymerodd 222 ran ynddynt. Cynhaliwyd gweithdai mewn ysgolion arbennig, ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd, lleoliadau addysg bellach ac uned cyfeirio disgyblion, yn ogystal â chyda grŵp o blant sy'n derbyn gofal a phlant sy'n cael eu haddysgu gartref.

Roedd yna bedwar gweithdy i oedolion a oedd â diddordeb uniongyrchol yn y ddeddfwriaeth; cymerodd 45 ran. Roedd y sesiynau hyn yn cynnwys grŵp o ofalwyr maeth, grŵp cymorth rhieni plant a oedd yn destun datganiad, grŵp blynyddoedd cynnar a grŵp o rieni a oedd yn addysgu eu plant gartref.

Yn ogystal â'r gyfres o weithdai gyda phlant, pobl ifanc a'u gofalwyr, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ddau ddigwyddiad cenedlaethol yn y De a'r Gogledd. Aeth 158 o bobl i'r rhain. Cyflwynwyd rhaglen o sesiynau anffurfiol, penodol gyda rhanddeiliaid allweddol o bob rhan o'r gwasanaethau cyhoeddus a'r trydydd sector.

Yn 2019 fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddatblygu fersiwn i blant a phobl ifanc a hawdd ei deall o'r ddogfen ymgynghori ar y Cod ADY drafft a'r rheoliadau drafft, gan gynnwys y rheoliadau CADY drafft. Hefyd, yn ystod y cyfnod ymgynghori, cynhaliwyd cyfres o weithdai pwrpasol i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd. Cafodd yr holl sylwadau ac adborth a ddaeth i law gan blant a phobl ifanc yn ystod y cyfnod ymgynghori eu hystyried a'u defnyddio i lywio’r fersiwn ddrafft ddiweddaraf o’r Rheoliadau CADY drafft a’r bennod ar CADY yn y Cod ADY. Roedd y mwyafrif o’r rhai a ymatebodd i’r ddogfen ymgynghori ar gyfer plant a phobl ifanc, a phob un o’r rhai a ymatebodd i’r ddogfen ymgynghori hawdd ei deall, yn cytuno â’r tasgau a nodwyd yn y Rheoliadau CADY drafft. 

Cytunodd pob un o’r rhai a gymerodd ran yn y gweithdai ar gyfer plant a phobl ifanc, ac fe wnaeth y rhan fwyaf o’r rhieni yn y gweithdai hyn gytuno hefyd. Cafwyd llai o gefnogaeth i’r cynigion y dylai CADY fod yn athro/athrawes cymwysedig. Teimlwyd nad oes digon o amser gan athrawon ar gyfer y rôl hon. Er bod y rhan fwyaf o’r SENCo yn athrawon ar hyn o bryd, mae’r pryder hwn ynghyd â phryderon eraill a nodwyd yn ystod y broses ymgynghori wedi arwain at newidiadau i’r bennod ar CADY yn y Cod ADY er mwyn rhoi mwy o eglurder ar y cymorth y dylai CADY ei dderbyn er mwyn gallu cyflawni’r tasgau a nodir yn y gyfraith.

2.  Esboniad sut mae'r cynnig yn debygol o effeithio ar hawliau plant Effaith gyffredinol ar hawliau plant

Effaith gyffredinol ar hawliau plant

Fel sy'n ofynnol gan Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, mae’r Cod ADY drafft wedi’i ddatblygu gan Weinidogion Cymru gan roi sylw dyledus i ofynion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a’i Brotocolau Dewisol

Mae Deddf 2018 yn ceisio gwella'n sylweddol y gwasanaethau i blant a phobl ifanc a gwella hawliau'r plentyn o ran addysg a dysgu. Datblygwyd darpariaethau'r rheoliadau CADY drafft â hawliau plant a phobl ifanc mewn golwg. Er enghraifft, bydd y dasg o gysylltu â’r disgybl/myfyriwr a rhiant y disgybl/myfyriwr a darparu gwybodaeth am ADY y disgybl/myfyriwr, ei CDU a’r DDdY sy’n cael ei ddarparu ar ei gyfer, yn helpu i sicrhau bod y disgybl/ myfyriwr yn ymgysylltu â’r system ac yn deall yn llawn y gefnogaeth a ddarperir iddo.

Mae Deddf 2018 a'r Cod ADY yn rhoi effaith i egwyddorion y Confensiynau ac, felly, wrth gyflawni eu swyddogaethau o dan Ddeddf 2018, ac wrth gydymffurfio â Deddf 2018, mae awdurdodau lleol, ysgolion, SABau a chyrff GIG yn debygol o fod yn rhoi effaith i'r erthyglau perthnasol o dan y Confensiynau. Yn ogystal, wrth ddatblygu'r Cod ADY drafft, ystyriwyd gofynion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl.

Erthyglau perthnasol Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn a sut y caiff hawliau o dan yr erthyglau hyn eu cefnogi

Mae'r rheoliadau CADY drafft yn cefnogi ystod o erthyglau CCUHP. Yr erthyglau canlynol sydd fwyaf perthnasol:

Erthygl 3: Dylai pob sefydliad sy’n ymwneud â phlant weithio tuag at yr hyn sydd orau i bob plentyn

Bydd y rôl CADY newydd, ynghyd â'r ystod o rolau newydd eraill a ragnodir yn Neddf 2018, yn helpu i feithrin gwell cysylltiadau ac arferion gwaith rhwng asiantaethau sy'n gweithio gyda phlant er mwyn sicrhau'r canlyniad gorau i'r plentyn neu'r person ifanc. Mae'r Cod ADY drafft yn rhoi canllawiau pellach i weithwyr proffesiynol i gefnogi gwaith amlasiantaethol effeithiol. Mae'r swyddogaethau rhagnodedig yn y rheoliadau CADY yn cynnwys y gofyniad i sicrhau gwasanaethau perthnasol a fydd yn cefnogi DDdY disgybl yn ôl y gofyn.

Erthygl 12: Mae gan blant yr hawl i ddweud eu barn ynghylch yr hyn a ddylai ddigwydd pan fo oedolion yn gwneud penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw, ac i’w barn gael ei hystyried.

Un o amcanion y diwygiadau ADY yw gwella’r broses o gynllunio a darparu cymorth ar gyfer plant a phobl ifanc ag ADY, gan roi'r lle canolog i anghenion, safbwyntiau, dymuniadau a theimladau dysgwyr. Bydd nodi'r anghenion a'r cymorth angenrheidiol mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn helpu plant a phobl ifanc i gael darpariaeth addysgol addas. Yn unol â'r swyddogaethau rhagnodedig, bydd y CADYau yn chwarae rôl hollbwysig o ran nodi anghenion a chydlynu darpariaeth o'r fath. Wrth wneud hynny, bydd gofyn iddynt gadw mewn cysylltiad â phlentyn, person ifanc neu riant plentyn ag ADY a darparu gwybodaeth iddynt am ADY y dysgwr a'r DDdY. Mae cyfranogiad a safbwyntiau'r plentyn a'r person ifanc yn cefnogi'r erthygl hon.

Erthygl 13: Mae gan blant yr hawl i gael a rhannu gwybodaeth onid yw’r wybodaeth yn niweidiol iddyn nhw neu i eraill

Er mwyn hwyluso hyn, mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol wneud trefniadau i roi gwybodaeth a chyngor i blant, pobl ifanc ac eraill am ADY a’r system a amlinellir yn Neddf 2018. Bydd gofyn i awdurdodau lleol gymryd camau rhesymol i roi gwybod i bobl amrywiol am y trefniadau hyn. 

Mae dyletswyddau hefyd ar gyrff llywodraethu i roi gwybod am y trefniadau hyn i'w dysgwyr ac i eraill. Mae'r Cod ADY drafft yn cynnig adegau gwahanol pan fydd
yn rhaid rhoi manylion y trefniadau hyn i blant a phobl ifanc. Mae'r rheoliadau CADY yn gofyn i CADYau gadw mewn cysylltiad â phlentyn, person ifanc neu riant plentyn ag ADY a darparu gwybodaeth iddynt am ADY y dysgwr a DDdY y dysgwr hwnnw.

Bydd y trefniadau hyn yn cefnogi plant a phobl ifanc i gael dweud eu dweud am yr hyn ddylai ddigwydd yn eu barn nhw (gweler erthygl 12). Yn gyffredinol, mae'n rhaid rhoi gwybodaeth o'r fath i blant sydd â'r galluedd i ddeall, ac mae yna ddarpariaeth i'w rhoi i gyfeillion achos lle nad oes gan y plentyn alluedd digonol.

Erthygl 23: Dylai plant sydd ag anabledd o unrhyw fath gael gofal arbennig a chefnogaeth fel y gallant fyw bywyd llawn ac annibynnol

Mae Deddf 2018 yn darparu bod gan berson ADY os oes ganddo anhawster neu anabledd dysgu sy'n galw am DDdY. Os bydd gan blentyn ADY, bydd yn ofynnol i ysgol neu awdurdod lleol lunio a chynnal CDU ar ei gyfer a sicrhau'r DDdY a nodir ynddo yn ogystal â lle mewn ysgol neu sefydliad arall penodol, os oes angen, neu fwyd a llety. 

Mae'r Cod ADY drafft yn darparu canllawiau ar adnabod ADY a DDdY (ym Mhennod 7) ac mae'n rhagnodi neu'n disgrifio nifer fawr o ofynion ar awdurdodau lleol, ysgolion a SABau mewn perthynas â llunio a chynnal CDUau a chyflwyno DDdY i blant ag ADY. O dan y rheoliadau CADY, mae'n rhaid i CADYau nodi ADY dysgwr a chydlynu'r DDdY sy'n diwallu ADY y dysgwr. Yn ogystal, mae'n rhaid iddynt fonitro effeithiolrwydd darpariaeth o'r fath, ac felly sicrhau bod y DDdY yn briodol o hyd i ddiwallu ADY y dysgwr a'i helpu i weithio tuag at annibyniaeth a chyrraedd ei botensial llawn.

Erthygl 28: Mae gan blant yr hawl i addysg. Dylai disgyblaeth mewn ysgolion barchu hunan-barch dynol plant. Dylai addysg gynradd fod am ddim. Dylai gwledydd cyfoethog helpu gwledydd tlotach i gyflawni hyn.

Bydd canolbwyntio ar yr unigolyn yn helpu gweithwyr proffesiynol i ddeall safbwyntiau a dymuniadau'r dysgwr. Bydd hyn, ynghyd â chydlynu DDdY addas yn fwy effeithiol, yn helpu i sicrhau mynediad at addysg i blant a phobl ifanc ag ADY ac yn datgloi eu potensial. Bydd y swyddogaeth ragnodedig yn y rheoliadau CADY i hyrwyddo'r arfer o gynnwys y dysgwr yng nghymuned yr ysgol/SAB a hwyluso mynediad iddo i gwricwlwm, cyfleusterau a gweithgareddau allgyrsiol y lleoliad yn help i roi cyfle cyfartal i'r plentyn/person ifanc gael addysg.

Erthygl 29: Dylai addysg ddatblygu personoliaeth a thalent pob plentyn yn gyflawn. Dylai annog plant i barchu eu rhieni, a’u diwylliant nhw ac eraill.

Mae darpariaethau Deddf 2018 yn seiliedig ar yr egwyddor y dylid cefnogi pob plentyn a pherson ifanc i gyflawni ei botensial addysgol. Bydd y CDU statudol yn help i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc, sydd ag ADY ac mewn addysg orfodol a phellach, yn derbyn y ddarpariaeth ofynnol i wneud hynny. Bydd y swyddogaethau ar gyfer CADYau a ragnodir yn y rheoliadau CADY yn helpu i ddarparu DDdY ar gyfer plant a phobl ifanc ag ADY. Yn ogystal â chydlynu a monitro DDdY dysgwyr ag ADY, mae'n rhaid i CADYau oruchwylio a hyfforddi gweithwyr cymorth dysgu sy'n gweithio gyda dysgwyr ag ADY. 

Bydd yn rhaid i CADYau hefyd gyfrannu at yr hyfforddiant mewn swydd i athrawon er mwyn eu helpu i gyflawni tasgau. Bydd hyn yn helpu i sicrhau dull ysgol/SAB cyfan ar gyfer cefnogi'r rheini sydd ag ADY ac, yn ei dro, yn cefnogi'r plentyn i gyrraedd ei botensial, yn addysgol ac yn gymdeithasol.

Effaith negyddol ar hawliau plant sy'n deillio o'r cynnig

Nid ydym wedi nodi unrhyw effeithiau negyddol ar blant a phobl ifanc yn sgil y cynigion hyn.