Neidio i'r prif gynnwy

Adran 1: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham?

Cyd-destun

Darparodd Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 ('Deddf 2022') ar gyfer sefydlu Comisiwn newydd ar gyfer Addysg Drydyddol ac Ymchwil ('y Comisiwn'). Y Comisiwn fydd y corff rheoleiddio sy'n gyfrifol am ariannu, goruchwylio a rheoleiddio addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru. Mae Rhan 2 o Ddeddf 2022 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiwn sefydlu a chynnal cofrestr o ddarparwyr addysg drydyddol yng Nghymru. Mae angen cyfres o reoliadau i alluogi'r gofrestr a'r system oruchwylio reoleiddiol gysylltiedig i weithredu fel y bwriadwyd.

Ers cyflwyno'r Ddeddf, mae ymarfer brandio sefydliadol wedi'i gynnal a phenderfyniad wedi'i wneud i ddisodli'r acronym 'CTER' gyda'r gair 'Medr', gan olygu sgil a gallu, fel enw'r brand. Cafodd yr awgrym hwn dderbyniad da yn ystod ymgysylltiad diweddar â rhanddeiliaid, oherwydd ei gysylltiad clir ag uchelgais a blaenoriaethau'r Comisiwn, gan hefyd gael ei ystyried yn ddigon syml i weithio'n dda ar lefel ryngwladol. Felly, penderfynwyd defnyddio ei enw cyfreithiol - Y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil / Commission for Tertiary Education and Research, a ddefnyddir yn y dyfodol o dan 'y Comisiwn' bob amser wrth gyfathrebu. 

Gosodwyd dwy set gyntaf y rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru i'w cymeradwyo ar 1 Hydref 2024. Mae angen y rhain er mwyn i'r Comisiwn allu sefydlu a rhedeg y gofrestr a chael y rhyddid gweithredol i ddatblygu ei ddisgwyliadau ei hun o ran yr hyn sydd ei angen gan ddarparwyr i fodloni gofynion rheoleiddio.

  1. Rheoliadau’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cofrestru Darparwyr Addysg Drydyddol yng Nghymru) 2024

Mae'r rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch y categorïau cofrestru, yr wybodaeth y mae'n rhaid ei chynnwys yng nghofnod darparwr yn y gofrestr, amodau cofrestru cychwynnol a pharhaus pellach, y categori y mae terfyn ffioedd yn gymwys iddo, a chymhwystra darparwyr cofrestredig i dderbyn cyllid gan y Comisiwn at ddibenion addysg uwch neu ymchwil ac arloesi. Yn bwysig, maent yn rhagnodi set graidd o wybodaeth o ddiddordeb i fyfyrwyr a rhanddeiliaid eraill ynghylch darparwyr cofrestredig, y mae'n rhaid i'r Comisiwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt a sicrhau bod yr wybodaeth ar gael i'r cyhoedd.

  1. Rheoliadau Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Dynodi Darparwyr) (Cymru) 2024

Mae'r rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch dynodi darparwr fel sefydliad at ddiben gwneud cais cofrestru. Maent yn darparu'r sylfaen i ddarparwr addysg drydyddol wneud cais i gael ei ddynodi'n sefydliad. Maent yn nodi bod yn rhaid gwneud ceisiadau am gael eu dynodi fel "sefydliad" yn ysgrifenedig i Weinidogion Cymru ac maent yn pennu'r gofynion gwybodaeth y mae'n rhaid eu cynnwys yn rhan o gais am ddynodiad. Mae'r rheoliadau hefyd yn nodi'r broses o wneud penderfyniadau ar gyfer tynnu'n ôl dynodiad fel "sefydliad".

I wneud cais am gofrestru gyda'r Comisiwn, mae angen i ddarparwyr addysg drydyddol fod yn "sefydliad". Gall darparwyr nad ystyrir eu bod yn sefydliadau wneud cais i Weinidogion Cymru gael eu dynodi'n sefydliad cyn gwneud cais cofrestru. Gall darparwyr sydd wedi'u dynodi'n "sefydliad" wneud cais cofrestru ond bydd yn dal i fod angen iddynt fodloni disgwyliadau'r Comisiwn o ran yr amodau cofrestru cychwynnol ar gyfer y categori yn y gofrestr y maent yn ceisio cofrestru ynddi.

Os ydynt wedi cofrestru'n llwyddiannus, bydd darparwyr yn elwa o gael dynodi eu cyrsiau addysg uwch perthnasol yn awtomatig at ddibenion cymorth Llywodraeth Cymru i fyfyrwyr. Yn y pen draw, bydd hyn yn cael effaith gadarnhaol ar ddysgwyr gan y byddant yn gallu gwneud cais am gyllid benthyciad myfyrwyr ar gyfer astudio. Gan ddibynnu ar eu categori cofrestru, gall darparwyr hefyd fod yn gymwys i gael cyllid gan y Comisiwn at ddibenion addysg uwch, ymchwil neu arloesi.

Effaith

Mae ymgysylltu â rhanddeiliaid wedi bod yn rhan hanfodol o ddatblygu'r rheoliadau a cheisiodd ymarfer ymgynghori ffurfiol nodi unrhyw effeithiau cadarnhaol neu negyddol posibl. Ar ôl ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad, penderfynodd Llywodraeth Cymru nad oedd angen gwelliannau pellach i'r rheoliadau ar hyn o bryd. Mae Llywodraeth Cymru yn fodlon bod y gofynion a bennir yn y rheoliadau yn ddigonol i roi gwybodaeth i ddefnyddwyr y gofrestr sy'n berthnasol i oruchwyliaeth reoleiddiol y Comisiwn o ddarparwyr cofrestredig. Bydd llawer o'r ymatebion a dderbynnir yn llywio'r gwaith o baratoi'r rheoliadau pellach sydd eu hangen a bydd yr asesiad effaith hwn yn cael ei ddiwygio yn unol â hynny. Disgwylir hefyd y bydd y Comisiwn yn cynnal ei asesiadau ymgynghori ac effaith ei hun wrth ddatblygu ei ddisgwyliadau ar gyfer sefydlu'r gofrestr ac amodau cysylltiedig.

Ni fydd y Rheoliadau hyn yn sefydlu'r gofrestr ond byddant yn darparu'r sail ddeddfwriaethol i alluogi'r Comisiwn i sefydlu'r gofrestr. Bydd y gofrestr yn galluogi rheoleiddio priodol a chymesur ar gyfer darparwyr addysg uwch sy'n derbyn arian cyhoeddus, gan gynnwys cyllid grant gan y Comisiwn a chymorth Llywodraeth Cymru i fyfyrwyr . Mae hyn yn hanfodol gan na ellir rheoleiddio darparwyr y mae eu darpariaeth addysg uwch yn cael ei hariannu'n bennaf gan ffioedd dysgu trwy delerau ac amodau'r Comisiwn o ran cyllid yn unig. Mae hyn oherwydd bod taliadau ffioedd dysgu yn ymrwymiad cytundebol rhwng darparwyr a'u myfyrwyr. Bydd y system gofrestru'n creu cysylltiad clir rhwng y manteision sy'n deillio o gael mynediad at y cyllid hwn a'r angen i sicrhau bod darparwyr addysg drydyddol yn atebol i’r cyhoedd ac yn gallu cyfrannu at flaenoriaethau strategol y Comisiwn. 

Y nod hirdymor yw symleiddio'r trefniadau presennol ar gyfer darparwyr o Gymru sy'n dymuno i'w cyrsiau addysg uwch gael eu dynodi'n awtomatig ar gyfer cymorth i fyfyrwyr trwy ddibynnu ar un porth rheoleiddio y darperir ar ei gyfer gan y gofrestr a goruchwyliaeth reoleiddiol y Comisiwn o ddarparwyr cofrestredig.

Nid yw cofrestr y Comisiwn yn effeithio ar y trefniadau dynodi cyrsiau ar gyfer darparwyr yng ngweddill y DU, gan mai dim ond darparwyr addysg uwch yng Nghymru fydd angen cofrestru, os ydynt yn dymuno elwa o ddynodi eu cyrsiau perthnasol yn awtomatig at ddibenion cymorth i fyfyrwyr. Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu adolygu'r trefniadau presennol ar gyfer dynodi cyrsiau'n awtomatig a bydd yn ymgynghori ar wahân ar hyn.

Mae sail ddeddfwriaethol y gofrestr a'r system oruchwylio reoleiddiol gysylltiedig wedi'i alluogi i addasu i anghenion y dyfodol drwy ganiatáu ehangu'r gofrestr yn y dyfodol pe bai angen polisi dros hynny yn codi. Yn y lle cyntaf, bydd darparwyr addysg bellach neu hyfforddiant yn cael eu rheoleiddio trwy delerau ac amodau cyllido. Fodd bynnag, bydd angen i ddarparwyr addysg bellach sy'n dymuno i'w cyrsiau addysg uwch gael eu dynodi'n awtomatig ar gyfer cymorth i fyfyrwyr gofrestru gyda'r Comisiwn.

Mae'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn nodi'r gost amcangyfrifedig ar gyfer galluogi'r Comisiwn i sefydlu system gofrestru i fodloni'r gofynion rheoleiddiol hynny, ac i ddatblygu ei ddull penodol ei hun o fonitro ac ymyrryd. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, nid yw'r Comisiwn wedi sefydlu'r gofrestr na'i disgwyliadau o ddarparwyr mewn perthynas â'r amodau cofrestru cychwynnol a pharhaus. O'r herwydd, nid yw'n bosibl amcangyfrif yn llawn y costau a godir i sefydlu'r gofrestr, gwahodd ceisiadau i gofrestru a phenderfynu arnynt, gosod amodau cofrestru ac ymgymryd ag ymyriadau rheoleiddiol.

Unwaith y'i rhoddir ar waith, bydd y system reoleiddio newydd yn disodli'r drefn reoleiddio addysg uwch bresennol y darperir ar ei chyfer gan Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015. Ni fydd yn ofynnol cael Cynllun Ffioedd a Mynediad mwyach ac yn lle hynny bydd angen i ddarparwyr cofrestredig gydymffurfio ag ystod o amodau cofrestru parhaus. I ddechrau, bydd angen adnoddau staff ychwanegol ar gyfer datblygu'r system reoleiddio newydd. Unwaith y bydd yn weithredol, bydd y system reoleiddio newydd o bosibl yn gosod baich rheoleiddiol ychwanegol ar y darparwyr hynny nad ydynt yn ddarparwyr rheoleiddiedig ar hyn o bryd, gan y byddant yn ddarostyngedig i ystod ehangach o ofynion rheoleiddiol nag ar hyn o bryd. Bydd cofrestru yn wirfoddol ond bydd angen cofrestru ar ddarparwyr sy'n dymuno elwa ar ddynodiad awtomatig i'w cyrsiau addysg uwch perthnasol at ddibenion cymorth i fyfyrwyr.

Mae Llywodraeth Cymru yn rhagweld y caiff y gofrestr effaith gadarnhaol yn y tymor hir. Bydd yr amodau cofrestru yn fecanwaith allweddol ar gyfer annog a mesur cyfranogiad mewn addysg drydyddol ac ymchwil o fewn grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, ac i helpu i ddymchwel y rhwystrau sy'n bodoli o fewn y system. Byddant yn sicrhau bod gan ddarparwyr brosesau, gwasanaethau a pholisïau priodol ar waith i gefnogi lles, llesiant a diogelwch myfyrwyr a staff. Bydd darparwyr monitro yn helpu dros amser i nodi problemau posibl sydd angen gweithredu arnynt ac yn sbarduno newid cadarnhaol.

Adran 8: Casgliadau

Wrth ddatblygu'r cynigion hyn, ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ag ystod eang o randdeiliaid wrth baratoi sefydlu'r Comisiwn a'r ddwy set gyntaf o reoliadau.

Ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar gynigion polisi a rheoliadau drafft yn ymwneud â sefydlu'r gofrestr darparwyr addysg drydyddol yng Nghymru o dan Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil 2022. Bydd y rheoliadau, pan gânt eu gwneud, yn galluogi'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil i sefydlu'r system gofrestru ar gyfer darparwyr addysg drydyddol addysg uwch yng Nghymru.

Roedd yr ymgynghoriad yn fyw rhwng 31 Hydref 2023 a 5 Chwefror 2024. Tynnwyd sylw cynulleidfa eang o randdeiliaid allweddol sydd â diddordeb mewn addysg a hyfforddiant ôl-orfodol at yr ymgynghoriad. Cynhaliwyd dwy sesiwn friffio i randdeiliaid ar-lein ym mis Tachwedd 2023 i gefnogi'r ymgynghoriad. Eu prif amcan oedd cynorthwyo dealltwriaeth rhanddeiliaid o gwmpas a diben yr ymgynghoriad, fel bod rhanddeiliaid yn cael eu galluogi i ystyried a rhoi sylwadau ar yr wybodaeth yn well. Denodd 21 o ymatebion, yn bennaf gan sefydliadau, ac roedd y rhain wedi'u lleoli yng Nghymru yn bennaf. Gwahoddwyd ymatebwyr i adolygu'r ddogfen ymgynghori a'r wybodaeth ategol ar-lein ac ymateb i bob un o'r cwestiynau. Ar ôl cael cytundeb Gweinidogol, cyhoeddwyd crynodeb o'r ymatebion ar 2 Ebrill 2024. Roedd yr ymatebwyr yn croesawu'r cynigion yn fras. Roedd hyn yn cynnwys cynrychiolwyr o ddarparwyr addysg uwch ac addysg bellach, CCAUC, a rheoleiddwyr.

Beth yw’r effeithiau cadarnhaol a negyddol mwyaf arwyddocaol

Mae Llywodraeth Cymru yn rhagweld y caiff y gofrestr effaith gadarnhaol yn y tymor hir. Effaith fwyaf arwyddocaol y cynigion fydd eu heffaith ar gydlyniad y ddarpariaeth. Bydd y Comisiwn yn gallu cymryd ymagwedd 'systemau cyfan' at y sector addysg drydyddol, gan sicrhau bod darpariaeth a chyllid yn cael eu cyfeirio lle mae eu hangen. Unwaith y'i rhoddir ar waith, bydd y system reoleiddio newydd yn disodli'r drefn reoleiddio addysg uwch bresennol y darperir ar ei chyfer gan Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015. Ni fydd yn ofynnol cael Cynllun Ffioedd a Mynediad mwyach ac yn lle hynny bydd angen i ddarparwyr cofrestredig gydymffurfio ag ystod o amodau cofrestru parhaus. Bydd yr amodau cofrestru yn fecanwaith allweddol ar gyfer annog a mesur cyfranogiad mewn addysg drydyddol ac ymchwil o fewn grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, ac i helpu i ddymchwel y rhwystrau sy'n bodoli o fewn y system. Byddant yn sicrhau bod gan ddarparwyr brosesau, gwasanaethau a pholisïau priodol ar waith i gefnogi lles, llesiant a diogelwch myfyrwyr a staff. Bydd darparwyr monitro yn helpu dros amser i nodi problemau posibl sydd angen gweithredu arnynt ac yn sbarduno newid cadarnhaol. 

Bydd sefydlu'r corff newydd hwn yn ei gwneud yn bosibl i gynllunio’n genedlaethol ac yn rhanbarthol mewn ffordd gryfach a mwy cadarn, bydd yn cryfhau'r cysylltiad rhwng ymchwil ac addysg, ac yn darparu system addysg drydyddol sydd mewn sefyllfa well i ymateb i facro-newidiadau, i gynllunio llwybrau ar gyfer dysgwyr ac i dynnu'r sector ynghyd mewn ffordd sy'n caniatáu dysgu a datblygu sgiliau gydol oes go iawn.

Bydd y gofrestr hefyd yn sicrhau bod sefydliadau sy'n derbyn cyllid grant ymchwil y Comisiwn yn parhau i gael eu llywodraethu a'u rheoli'n dda. Bydd Cymru'n cynnal a datblygu gwaith ymchwil rhagorol o fewn y sector addysg drydyddol, gan gydweithio â sefydliadau, yn y DU ac yn rhyngwladol, i fanteisio ar gyfleoedd. Bydd gwaith ymchwil mewn darparwyr cofrestredig yn cefnogi busnesau a sefydliadau Cymru yn y sector cyhoeddus a'r trydydd sector. Bydd sefydliadau'n gweithio i gynnal a gwella partneriaethau yn eu cymuned leol a ledled Cymru, y DU a'r byd.

Bydd gan y Comisiwn ddyletswydd hefyd i hyrwyddo cenhadaeth ddinesig gan sefydliadau yng Nghymru yn y sectorau addysg uwch ac addysg bellach. Bydd hefyd yn cael ei alluogi i hyrwyddo cenhadaeth ddinesig mewn eraill, megis cyrff ymchwil ac arloesi y mae'n eu hariannu, os yw'n ystyried hynny'n briodol. Dylai'r system addysg drydyddol hefyd ddarparu arweiniad, dewis effeithiol, mynediad teg a llwybrau priodol at gyfleoedd dysgu i bawb. Dylid cryfhau economi Cymru, drwy annog menter, ymateb i anghenion cyflogwyr a galluogi sylfaen ymchwil berthnasol sy'n tyfu.

Bydd y Comisiwn yn annog y sector addysg drydyddol i gydweithredu'n effeithiol trwy fabwysiadu dull system gyfan o ymdrin â dysgwyr, lle mae addysg bellach, addysg uwch a chweched dosbarth ysgolion yn ymgysylltu â'i gilydd i wella'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Bydd y system yn darparu system sy'n canolbwyntio ar y dysgwr sy'n hyrwyddo dysgu gydol oes ac sy'n darparu dewis ac arweiniad effeithiol.

Bydd y dyletswyddau o dan Ddeddf 2022 yn chwarae rhan hanfodol yn hyn ac ar draws y system drydyddol gyfan drwy waith y Comisiwn yn datblygu cynllun i gynyddu a gwella'r ddarpariaeth, gan gynnwys hyrwyddo addysg ac asesu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae Deddf 2022 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiwn fonitro cydymffurfiaeth pob darparwr cofrestredig â'u hamodau cofrestru parhaus a bydd y system gofrestru yn ganolog o ran casglu gwybodaeth am gyrsiau ar gyfer goruchwyliaeth reoleiddiol. Rhaid iddo hefyd baratoi adroddiad blynyddol a chynnwys sut y mae wedi arfer ei swyddogaethau yn ystod y flwyddyn academaidd. Mae'r gofyniad hwn hefyd yn cynnwys i ba raddau y darparwyd addysg drydyddol yng Nghymru drwy gyfrwng y Gymraeg, ac i ba raddau y cafodd y Gymraeg ei dysgu i bobl dros oedran ysgol gorfodol yng Nghymru.

I ddechrau, bydd angen adnoddau staff ychwanegol ar gyfer datblygu'r system reoleiddio newydd. Unwaith y bydd yn weithredol, bydd y system reoleiddio newydd o bosibl yn gosod baich ychwanegol ar y darparwyr hynny nad ydynt yn ddarparwyr rheoleiddiedig ar hyn o bryd, gan y byddant yn ddarostyngedig i ystod ehangach o ofynion rheoleiddiol nag ar hyn o bryd.

Cefnogi pobl a busnesau i sbarduno ffyniant

Bydd datblygiad y Comisiwn yn cryfhau lles a seiliau economaidd Cymru, drwy annog menter, ymateb i anghenion cyflogwyr a galluogi sylfaen ymchwil berthnasol sy’n tyfu. Bydd Medr yn gyfrifol am hyrwyddo ymchwil yng Nghymru a gwneud ceisiadau am arian ar ran sefydliadau yng Nghymru yn y DU a thu hwnt. Mae'r system Gofrestru yn ganolog o ran casglu gwybodaeth am gyrsiau ar gyfer goruchwyliaeth reoleiddiol o ansawdd a safonau addysg a hyfforddiant yn y sector addysg drydyddol, hyfforddiant ac ymchwil, a ddarperir gan, neu ar ran, y sefydliadau hynny, o fewn ei gylch gwaith ynghylch sicrhau ansawdd.

Mynd i'r afael ag anghydraddoldeb rhanbarthol a hyrwyddo gwaith teg

Bydd y system gofrestru newydd yn casglu gwybodaeth am ansawdd a safonau addysg a hyfforddiant yn y sector addysg drydyddol. Bydd hyn yn caniatáu i Medr herio anghydraddoldebau trwy gael darparwyr trydyddol i ganolbwyntio ar anghenion yr ardal leol ac annog darparwyr addysg drydyddol lleol i fod yn fwy cydgysylltiedig yn eu darpariaeth a sicrhau bod amrywiaeth eang o feysydd addysgol yn adlewyrchu'r anghenion o ran sgiliau.

Cefnogi pobl ifanc i gyflawni hyd eithaf eu potensial

Unwaith y bydd wedi'i sefydlu, bydd y system gofrestru yn helpu'r Comisiwn i sbarduno ffyrdd newydd ac arloesol o weithio, gan ddod â darparwyr addysg a hyfforddiant yn nes at ei gilydd. Bydd hyn yn cael ei gefnogi gan y dulliau cynllunio strategol a chyllido mwy cadarn, perfformiad ac atebolrwydd cryfach, a threfniadau ar gyfer gwella ansawdd. Bydd system gofrestru'r Comisiwn hefyd yn ei gefnogi i fonitro darparwyr, gan sicrhau bod ganddynt brosesau, gwasanaethau a pholisïau priodol ar waith i gefnogi lles, llesiant a diogelwch myfyrwyr a staff. Bydd monitro darparwyr dros amser yn helpu i nodi problemau posibl y mae angen gweithredu arnynt ac yn sbarduno newid cadarnhaol.

Meithrin uchelgais ac annog dysgu gydol oes

Bydd y Comisiwn yn darparu system sy’n canolbwyntio ar y dysgwr sydd yn hyrwyddo dysgu gydol oes ac yn cynnig dewis ac arweiniad effeithiol, ynghyd â mynediad teg at gyfleoedd a llwybrau dysgu priodol, Bydd y system gofrestru yn cefnogi'r Comisiwn i annog y sector addysg drydyddol i gydweithio'n effeithiol trwy fabwysiadu dull system gyfan tuag at ddysgwyr, lle mae addysg bellach, addysg uwch a chweched dosbarth ysgolion a gynhelir yn ymgysylltu â'i gilydd i wella'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Bydd y system yn darparu system sy'n canolbwyntio ar y dysgwr sydd yn hyrwyddo dysgu gydol oes ac sy'n darparu dewis ac arweiniad effeithiol.

O ran Ymchwil ac Arloesi, bydd y Comisiwn yn ymgysylltu ar ran sefydliadau Cymru i wneud ceisiadau am gyllid Ymchwil a Datblygu ledled y DU ar sail gyfartal i sefydliadau ar draws y DU ac yn fyd-eang.

Sicrhau bod gan bawb y sgiliau cywir ar gyfer byd sy’n newid

Rhagwelir y bydd y system gofrestru yn cefnogi'r Comisiwn i gydweithio â sefydliadau, busnesau, y trydydd sector a chyrff eraill, gan ddefnyddio'r wybodaeth am gyrsiau y mae'n ei chasglu i gynyddu gallu i gynllunio ar y cyd ac addasu gyda'i gilydd i newidiadau economaidd a chymdeithasol yn y dyfodol, gan gynnwys y sgiliau sy'n ofynnol gan y gweithle.

Datblygu cymunedau, diwylliant ac iaith sy’n gydnerth

Ar ôl ei sefydlu, bydd y Gofrestr yn cefnogi nodau strategol y Comisiwn i sicrhau nad oes unrhyw effaith andwyol o ran addysg cyfrwng Cymraeg nac i ddysgwyr o bob oed trwy ddisodli'r trefniadau presennol sy'n dod o fewn Deddf Addysg Uwch 2015, unwaith y bydd honno wedi'i diddymu. Bydd y Comisiwn yn gallu defnyddio ei bwerau a'i ddyletswyddau ehangach o dan Ddeddf 2022 i gynyddu mynediad a darpariaeth. Mae darparu system addysg drydyddol yn ein rhoi mewn gwell sefyllfa i ymateb i facro-newidiadau, i gynllunio llwybrau ar gyfer dysgwyr ac i dynnu'r sector ynghyd mewn ffordd sy'n darparu ar gyfer dysgu a datblygu sgiliau gydol oes go iawn, gan gynnwys trwy gyfrwng y Gymraeg.

Darparu seilwaith modern a chysylltiedig

Bydd y system gofrestru yn cynyddu capasiti i gynllunio ac addasu ar y cyd i newidiadau economaidd a chymdeithasol yn y dyfodol. Bydd y Comisiwn yn annog sefydliadau i weithio gyda'i gilydd i ddarparu'r cyrsiau sydd eu hangen ar gymunedau, lleihau dyblygu a chanolbwyntio ar sgiliau sy'n ofynnol gan gyflogwyr i adeiladu'r economi.

Hyrwyddo a diogelu lle Cymru yn y byd

Mae sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach yn rhan hanfodol o ymgysylltiad Cymru â'r byd ehangach, gan gynnwys eu darpariaeth addysg i fyfyrwyr o dramor a'u gweithgareddau ym meysydd ymchwil ac arloesi gyda phartneriaid byd-eang ac effaith y rheini. Bydd y gofrestr yn galluogi'r Comisiwn i gefnogi a rheoleiddio darparwyr yn iawn, er enghraifft drwy'r amodau ynghylch llywodraethu a rheoli effeithiol. Bydd hyn yn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn gynaliadwy a bod partneriaethau byd-eang hanfodol a hyrwyddo lle Cymru yn y byd ehangach yn parhau.

Mae'r Comisiwn wedi ei osod o dan ddyletswydd i roi sylw i'r angen i gynyddu'r ddarpariaeth o addysg drydyddol cyfrwng Cymraeg, gan gynnwys cyrsiau addysg uwch ac addysg bellach a phrentisiaethau. Bydd hyn yn helpu i gynnal defnydd o'r iaith drwy gydol addysg ac yn galluogi'r Gymraeg i gael ei hymgorffori ymhellach mewn cymunedau a fydd yn ei dro yn cynorthwyo Llywodraeth Cymru i gyflawni'r targedau a nodir yn Cymraeg 2050. Mae'r Comisiwn hefyd o dan ddyletswydd i hyrwyddo meddylfryd byd-eang mewn addysg drydyddol ac ymchwil.

Sut y bydd effaith y cynnig yn cael ei fonitro a'i werthuso wrth iddo fynd rhagddo a phan ddaw i ben

Mae'r Ddeddf yn ymdrin â nifer o feysydd sy'n ymwneud â darpariaeth addysg drydyddol. Mae'r darpariaethau hyn yn ymwneud â sefydlu corff newydd i oruchwylio addysg drydyddol ac ymchwil ac arloesi. Eu bwriad yw gwella addysg drydyddol yng Nghymru a galluogi darparwyr i wneud y defnydd gorau o gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg, ymchwil ac arloesi.

Bydd y rheoliadau hyn yn caniatáu i'r Comisiwn greu'r systemau a'r prosesau manwl sydd eu hangen i weithredu a rheoleiddio'r sector addysg drydyddol. Felly, mae'r asesiadau effaith wedi'u seilio ar yr wybodaeth sydd ar gael ar hyn o bryd, cyn i'r system gofrestru gael ei datblygu a dechrau gweithredu. 

Fel rhan o'i broses o greu adroddiad blynyddol bydd gofyn i'r Comisiwn fyfyrio ar gynnydd yn erbyn ei gynllun strategol a fydd yn cael ei lunio mewn ymgynghoriad â rhanddeiliaid i gyflawni yn erbyn blaenoriaethau strategol Gweinidogion Cymru.

Bydd Llywodraeth Cymru'n cynnal gwerthusiad ôl-weithredol, ac yn yr un modd â rheoliad 2015 byddwn yn parhau i weithio gyda'r Comisiwn, darparwyr a chyrff cynrychiadol. Bydd angen cynllun hirdymor i gasglu tystiolaeth o gostau a manteision er mwyn darparu asesiad gwerth am arian pan fydd y rheoliadau wedi'u gwreiddio. Awgrymir bod y rhain yn cael eu hadolygu ar gyfnodau o dair blynedd a phum mlynedd. Wrth i fanylion pellach ddodi law drwy werthusiad ôl-weithredol o'r ddeddfwriaeth, a thrwy weithrediad y corff a'r system gofrestru, bydd gwell dealltwriaeth o'r canlyniadau posibl sy'n gysylltiedig ag unrhyw newidiadau sy'n cael eu cynnig yn cael ei ddal ar y cam hwnnw mewn asesiadau effaith wedi'u diweddaru.