Neidio i'r prif gynnwy

Cylchlythyr rheoliadau adeiladu

Rhif y cylchlythyr:    WGC 007/2024

Dyddiad cyhoeddi:    20/05/2024

Statws:    Er gwybodaeth

Teitl: Rheoliadau cychwyn a throsiannol newydd i gefnogi Deddf Diogelwch Adeiladau 2022

Cyhoeddwyd gan:  Kevin Davies, Rheolwr Cymhwysedd a Safonau Rheoli Adeiladu 

Ar gyfer:    

Brif Weithredwyr yr Awdurdodau Lleol
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru 
Cymdeithas yr Arolygwyr Corfforaethol Cymeradwy

I'w anfon ymlaen at:

Swyddogion Rheolaeth Adeiladu yr Awdurdodau Lleol
Aelodau Senedd Cymru

Crynodeb:

Cylchlythyr yw hwn i roi gwybod bod rheoliadau penodol a wnaed o dan Ddeddf Diogelwch Adeiladau (Cymru) 2022 yn cael eu gweithredu.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

Y Tîm Rheoliadau Adeiladu
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru
Merthyr Tudful
CF10 3NQ  

Llinell uniongyrchol:   0300 060 4400

E-bost:    enquiries.brconstruction@llyw.cymru
Gwefan:   Adeiladu a chynllunio

Cyflwyniad

  1. Rwyf wedi cael cyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru i dynnu'ch sylw at y newidiadau a fydd yn cael eu cyflwyno gan y rheoliadau a ganlyn, a fydd yn dod i rym ar 25 Ebrill 2024:  

•    Rheoliadau Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Cychwyn Rhif 5 a Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2024

  1. Pwrpas y Cylchlythyr hwn yw tynnu sylw at yr is-ddeddfwriaeth newydd ac esbonio'r newidiadau y mae'n eu cyflwyno.

Cwmpas y Cylchlythyr hwn

  1. Mae'r Cylchlythyr hwn yn berthnasol i adeiladau a gwaith adeiladu yng Nghymru, yn ogystal ag i weithwyr rheolaeth adeiladu proffesiynol sy'n gweithredu yng Nghymru.

Is-ddeddfwriaeth newydd

Rheoliadau Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Cychwyn Rhif 5 a Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2024

  1. Nod Rheoliadau Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Cychwyn Rhif 5 a Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2024, sy'n rhan o gyfres o ddeddfwriaeth a wnaed  yn ddiweddar, yw ategu'r newid i'r drefn rheolaeth adeiladu lle mae arolygwyr cymeradwy yn cael eu newid i gymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu.
     
  2. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau (Arolygwyr Cymeradwy etc.) 2010 (“Rheoliadau 2010”), Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 a Rheoliadau Perfformiad Ynni Adeiladau (Cymru a Lloegr) 2012, er mwyn rhoi effaith i'r ddarpariaeth ar drosglwyddo swyddogaethau arolygwyr cymeradwy o dan Ddeddf Adeiladu 1984 i gymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu.
     
  3. Yn rheoliad 2, mae'r Rheoliadau hyn yn cychwyn adran 49(1) ac adran 49(2) o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 i addasu adran 50 o Ddeddf Adeiladu 1984. Mae hynny'n caniatáu i gymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu gyflawni'r swyddogaeth o ddyroddi tystysgrifau cynlluniau pan fo amodau penodol yn cael eu bodloni.
     
  4. Mae rheoliad 3 yn darparu'r mannau yn Rheoliadau 2010 lle mae'r term “approver” (diffinnir yn rheoliad 2 mai ystyr "approver” yw cymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu) yn cael ei roi yn lle “approved inspector”. Mae hynny'n caniatáu i gymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu gyflawni swyddogaethau a gyflawnid gynt gan arolygwyr cymeradwy, ac mae'n cymhwyso gofynion penodol yn Rheoliadau 2010 iddyn nhw. Dyma restr o'r mannau lle mae'r term yn cael ei ddiweddaru:

i.    pennawd Rhan 3;
ii.    rheoliad 8, gan gynnwys yn y pennawd;
iii.    rheoliad 9, gan gynnwys yn y pennawd;
iv.    rheoliad 12, gan gynnwys yn y pennawd;
v.    rheoliad 13, gan gynnwys yn y pennawd;
vi.    rheoliad 16;
vii.    rheoliad 18;
viii.    rheoliad 20(1);
ix.    rheoliad 20(5)(a);
x.    rheoliad 20(6), ym mharagraff 4(a) a amnewidir;
xi.    rheoliad 20(6A), ym mharagraff 3 a amnewidir;
xii.    Atodlen 2;
xiii.    Atodlen 3, gan gynnwys ym mhennawd paragraff 5;
xiv.    Atodlen 4, gan gynnwys ym mhennawd paragraff 4.

  1. Mae rheoliad 4 yn mewnosod yr ymadrodd “or registered building control approver” yn erthygl 30(5)(c) o Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 sy'n rhoi dyletswydd ar awdurdod gorfodi i ymgynghori â chymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu a oedd wedi cyhoeddi hysbysiad cychwynnol cyn cyflwyno hysbysiad gorfodi.
     
  2. Mae rheoliad 4 hefyd yn disodli'r diffiniad o arolygydd cymeradwy, gan roi'r diffiniad o gymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu yn ei le yn erthygl 46(3) o Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005.
     
  3. Mae rheoliad 5 yn disodli'r ymadrodd “an approved inspector for the purposes of the inspector’s” gyda “a registered building control approver for the purposes of the approver’s” yn rheoliad 32(1)(c) o Reoliadau Perfformiad Ynni Adeiladau (Cymru a Lloegr) 2012 fel y bo modd datgelu gwybodaeth benodol i gymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu perthnasol i'w alluogi i gyflawni ei swyddogaethau gofynnol.
     
  4. Mae rheoliad 6 yn ddarpariaeth drosiannol sy'n sicrhau nad yw rheoliadau 3, 4(3) a 5 yn gymwys i arolygwyr cymeradwy sy'n parhau i weithredu ar ôl 6 Ebrill 2024, gan gadw'r gallu i arolygwyr cymeradwy gyflawni swyddogaethau penodol yn ystod y cyfnod o bontio (hyd at 1 Hydref) at y drefn newydd.

Ymholiadau

Anfonwch unrhyw ymholiadau am y Cylchlythyr hwn at:

Rheoliadau Adeiladu, 
2il Lawr, 
Llywodraeth Cymru, 
Parc Cathays, 
Caerdydd CF10 3NQ

E-bost  enquiries.brconstruction@llyw.cymru

Yn gywir,

Mark Tambini 

Pennaeth Polisi Rheoliadau Adeiladu