Rheoliadau Cwmnïau RTM (Erthyglau Enghreifftiol) (Cymru) (Diwygio) 2025: asesiad effaith integredig
Asesiad effaith integredig (IIA) ar newidiadau i reoliadau cwmnïau Hawl i Reoli.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Adran 1. Pa gamau gweithredu y mae llywodraeth cymru yn ystyried eu cymryd a pham?
Ar ffurf naratif, disgrifiwch y mater a’r camau gweithredu a gynigir gan Lywodraeth Cymru. Sut rydych wedi cymhwyso/sut byddwch yn cymhwyso’r pum ffordd o weithio a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 i'r camau arfaethedig, drwy gydol y polisi a'r cylch cyflawni?
Mae Rheoliadau Cwmnïau RTM (Erthyglau Enghreifftiol) (Cymru) (Diwygio) 2025 yn diwygio'r dull ar gyfer dyrannu hawliau pleidleisio mewn cwmnïau Hawl i Reoli ('RTM'), yn dilyn newid i feini prawf cymhwyso’r Hawl i Reoli wedi'i wneud yn Neddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024.
Bydd Rheoliadau Diwygio 2025 yn diogelu gallu aelodau-denant o gwmni RTM i arfer mwyafrif dros aelodau-landlord, a allai gael eu tanseilio fel arall o ganlyniad i'r newid mewn deddfwriaeth sylfaenol.
Cynhaliodd Comisiwn y Gyfraith brosiect ar yr Hawl i Reoli, a oedd yn cynnwys ystyried y problemau wrth weithredu'r gyfraith ar hyn o bryd, ymgynghori ar newidiadau posibl a gwneud argymhellion i'r Llywodraeth. Roedd y prosiect yn ystyried amrediad eang o faterion, gan gynnwys meini prawf cymhwyso ar gyfer RTM, yr oedd Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 yn eu cyfyngu i adeiladau gyda llai na 25% o ofod amhreswyl.
Cynhaliodd Llywodraeth y DU, mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru, ymgynghoriad arall a oedd yn ystyried meini prawf cymhwyso yn ogystal â'r angen i ddiwygio hawliau pleidleisio pe bai'r terfyn amhreswyl yn cael ei ddiwygio. Cafodd Reforming the leasehold and commonhold systems in England and Wales - GOV.UK ei gynnal rhwng 11 Ionawr a 22 Chwefror 2022. Cyhoeddwyd ymateb y Llywodraeth ar 27 Tachwedd 2023, ar yr un pryd â chyflwyno'r Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad i Senedd y DU.
Cadarnhaodd yr ymateb y byddai'r cynnig i gynyddu'r terfyn amhreswyl i 50% yn cael ei weithredu. O ran hawliau pleidleisio, cytunodd y rhan fwyaf o unigolion (89%) y dylid diwygio hawliau pleidleisio, ac roedd y mwyafrif (80%) yn cefnogi'r opsiwn sy'n cael ei ystyried (sef cyfyngu cyfanswm y pleidleisiau a ddyrennir i landlordiaid i draean o gyfanswm y pleidleisiau a ddyrennir i denantiaid cymwys). Nid oedd eraill, yn enwedig landlordiaid, yn cytuno â'r opsiwn, ond roedd yr ymateb i'r ymgynghoriad yn nodi sail resymegol i gefnogi mabwysiadu'r opsiwn hwnnw, hyd yn oed o ystyried diffyg cefnogaeth unfrydol gan bawb y gellir effeithio arnynt. Mae'r Rheoliadau Diwygio hyn 2025 yn rhoi effaith i'r polisi a gadarnhawyd.
Costau ac Arbedion
Mae'r Memorandwm Esboniadol yn cynnwys Asesiad Effaith Rheoleiddiol.
Adran 8. Casgliad
8.1 Sut mae’r bobl y mae'r cynnig yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt wedi cael eu cynnwys yn y gwaith o’i ddatblygu?
Fel y cyfeirir ato yn Adran 1, cynhaliwyd ymgynghoriad ar y dull arfaethedig o ddiwygio erthyglau enghreifftiol i ddarparu ar gyfer y newid i'r terfyn amhreswyl wedi'i wneud yn Neddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024. Roedd yr ymateb i'r ymgynghoriad, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2023, yn cadarnhau'r newidiadau a fyddai'n cael eu gwneud. Nid oes unrhyw newidiadau eraill yn cael eu gwneud i'r rheoliadau.
8.2 Beth yw'r effeithiau cadarnhaol a negyddol mwyaf arwyddocaol?
Bydd y rheoliadau hyn yn newid y ffordd mae pleidleisiau'n cael eu dyrannu er mwyn diogelu gallu aelodau-denant i arfer mwyafrif mewn penderfyniadau cwmni RTM, a allai fel arall ffafrio pleidleisiau landlordiaid mewn eiddo sydd â chyfran uwch o ofod amhreswyl. Bydd y diwygiad i gyfyngu ar gyfanswm y pleidleisiau y gallai landlordiaid eu harfer o dan les – i draean o gyfanswm y pleidleisiau y gallai tenant cymwys eu harfer – yn cadw nod yr Hawl i Reoli, drwy gadw'r sefyllfa bresennol a gallu aelodau-denant cwmni RTM i arfer mwyafrif dros aelodau-landlord.
Ar ôl ymgymryd â'r asesiadau effaith gorfodol sydd eu hangen, ni nodwyd unrhyw effeithiau negyddol sylweddol. Mae'r effeithiau cadarnhaol a nodwyd yn gyffredinol yn ymwneud â chadw bwriad polisi'r RTM (yn dilyn estyn meini prawf cymwys i gynnwys eiddo sydd â chyfran uwch o ofod amhreswyl gan Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024), a fyddai fel arall yn cael ei danseilio gan yr erthyglau enghreifftiol pe na baent yn cael eu diwygio.
8.3 Yng ngoleuni'r effeithiau a nodwyd, sut bydd y cynnig:
- yn cyfrannu cymaint â phosibl at ein hamcanion llesiant a’r saith nod llesiant; a/neu,
- yn osgoi, yn lleihau, neu’n lliniaru unrhyw effeithiau negyddol?
Mae Rheoliadau Diwygio 2025 yn cadw polisi presennol. Maent yn mynd i'r afael â'r effaith negyddol bosibl ar y ffordd mae cwmnïau RTM sydd newydd eu creu yn cael eu gweithredu o dan yr hawliau pleidleisio presennol a amlinellir yn yr erthyglau enghreifftiol presennol. O ystyried cylch gwaith cyfyngedig a natur dechnegol y rheoliadau, nid ystyrir bod cyfleoedd i hyrwyddo amcanion polisi ehangach.
8.4 Sut y caiff effaith y cynnig ei monitro a'i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo ac wedi iddo gael ei gwblhau?
Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i adolygiad ôl-weithredu ar ôl gweithredu Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024, a ysgogodd y newid i erthyglau enghreifftiol a gyflawnir drwy'r rheoliadau hyn. Nid oes unrhyw adolygiad penodol pellach wedi'i gynllunio.