Neidio i'r prif gynnwy

Beth allwch chi a busnesau ei wneud yn ystod yr argyfwng a beth sy'n digwydd os byddwch yn torri'r deddfau newydd hyn.

Cyffredinol

Mae pedwar prif beth:

  • nid yw rhai busnesau penodol yn cael bod ar agor
  • mae'n rhaid i bobl aros yn lleol a pheidio â bod o dan do gydag unrhyw un nad yw’n byw yn eu cartref oni bai bod ganddynt reswm da
  • lluniwyd rheolau ynglŷn â sicrhau pellter o 2 fetr rhwng pobl pan fyddant yn mynd allan (cadw pellter cymdeithasol neu gorfforol)
  • ni chaiff pobl ymgynnull mewn mannau cyhoeddus ac eithrio gydag aelodau un cartref arall

Pam mae’r cyfyngiadau hyn wedi cael eu rhoi ar waith?

Mae'r cyfyngiadau yn hanfodol er mwyn arafu lledaeniad y coronafeirws. Wrth deithio, cwrdd â'i gilydd a chyffwrdd â phethau mewn mannau cyhoeddus, gall pobl ledaenu’r coronafeirws. Rydym am i bobl aros yn lleol a chadw pellter oddi wrth eraill i ddiogelu Cymru.

Sut mae'r cyfyngiadau yn diogelu'r GIG ac yn achub bywydau?

Bydd y cyfyngiadau yn helpu i arafu lledaeniad y coronafeirws, sy'n golygu y bydd llai o bobl yn mynd yn sâl. Mae hyn yn lleihau’r risg y bydd pobl yn marw oherwydd y coronafeirws. Os bydd gormod o bobl yn mynd yn sâl ar yr un pryd, ni fydd y GIG yn gallu trin pawb.

Sut mae Llywodraeth Cymru yn gallu gwneud hyn?

Mae iechyd y cyhoedd ac iechyd yn faterion sydd wedi’u datganoli. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau eang o dan ddeddfwriaeth i ymateb i'r pandemig.

Am ba hyd y bydd y cyfyngiadau hyn ar waith?

Bydd y cyfyngiadau ar waith hyd nes y bydd y risg bod y coronafeirws yn lledaenu wedi lleihau. Bryd hynny, gellir eu llacio. Mae dyletswydd ar Weinidogion Cymru i adolygu’r cyfyngiadau hyn bob tair wythnos.

A yw torri'r cyfyngiadau yn erbyn y gyfraith?

Ydy, fe'u gorfodir gan Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 a gallech gael eich dirwyo am fethu â chydymffurfio â'r gyfraith.

Pam mae’r cyfyngiadau yn newid?

Mae'r pwerau cyfreithiol ar gyfer llunio'r rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol sicrhau bod y cyfyngiadau yn gymesur â'r canlyniad y maent yn anelu at ei gyflawni. Mae'n rhaid eu hadolygu’n ffurfiol o leiaf bob 21 diwrnod. Mae hyn yn golygu adolygu tystiolaeth wyddonol am ledaeniad y coronafeirws ac ystyried effaith y cyfyngiadau. Wedyn, bydd Gweinidogion Cymru yn ystyried pa weithgareddau y gellir eu hailddechrau a chyhoeddi unrhyw newidiadau.

Gwnaed newidiadau oherwydd yr effaith y mae'r cyfyngiadau (a'r ffaith bod pobl wedi cydymffurfio â chyngor Llywodraeth Cymru) wedi'i chael ar ledaeniad y coronafeirws yng Nghymru hyd yn hyn. Mae hyn wedi helpu i sefydlogi'r sefyllfa – gan leihau nifer y bobl sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty â'r coronafeirws; nifer y bobl sy'n ddifrifol wael ar wardiau gofal dwys a nifer y bobl sy'n marw o'r coronafeirws.

A yw'r cyfyngiadau yn berthnasol i weithwyr hanfodol?

Ydynt. Mae'r rheoliadau yn effeithio ar y ffordd mae pobl yn byw eu bywydau bob dydd a ble maent yn mynd. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi nodi categorïau o weithwyr hanfodol, a fydd yn pennu plant pwy all fynd i'r ysgol neu gael gofal plant. Fodd bynnag, nid yw'r rheoliadau yn cyfeirio at 'weithwyr hanfodol' o gwbl, felly mae'n rhaid i bawb eu dilyn, waeth beth fo’u statws 'gweithiwr hanfodol'.

A oes cyngor ar gael ar yr hyn a gaf ei wneud ac na chaf ei wneud?

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau i ategu'r rheoliadau, yn ogystal â’r atebion hyn i gwestiynau cyffredin. Fodd bynnag, ni allwn ateb ymholiadau penodol gan unigolion gan y bydd yr ateb yn dibynnu ar yr amgylchiadau arbennig. Mae gwasanaethau cyngor cymunedol fel y Ganolfan Cyngor ar Bopeth ar gael ar-lein a thros y ffôn.

Aros yn lleol

Beth yw ystyr ‘lleol’?

Yn gyffredinol, rydym yn ystyried bod unrhyw beth o fewn pum milltir i’ch cartref yn lleol i’r rhan fwyaf o bobl. Mae’r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn byw o fewn pum milltir i siopau, gwasanaethau cyhoeddus a phethau eraill sy’n hanfodol at ddibenion bywyd pob dydd.

Ond rydym yn cydnabod y bydd y pethau hyn o bosibl wedi’u lleoli dros ardal ddaearyddol ehangach mewn ardaloedd gwledig, ac y gall hyn olygu y bydd angen ichi deithio ymhellach i wneud yr un mathau o bethau ag y gallech eu gwneud o fewn pum milltir mewn mannau eraill. 

Felly, er bod y rheol pum milltir yn synhwyrol i’r rhan fwyaf o bobl, os ydych chi’n byw mewn ardal wledig mae’n debygol y byddwch wedi arfer diffinio eich ardal leol ychydig yn fwy eang.

Pam mae’r rheolau yn dweud bod rhaid imi aros yn fy ardal leol?

Diben mynnu bod pobl yn aros yn eu hardal leol a pheidio â mynd ar siwrneiau hir yw cyfyngu ar y posibilrwydd y gallai’r feirws ledaenu rhwng cymunedau. Mae’r coronafeirws yn “lledaenu’n dawel” – gall pobl fod â’r feirws a heintio eraill heb arddangos unrhyw symptomau eu hunain. Felly, mae angen inni wneud popeth y gallwn i leihau’r risg y gall pobl gludo’r feirws o gymuned i gymuned drwy deithio.

Mae niferoedd coronafeirws yn lleihau ar draws Cymru ac mae’r Gweinidogion wedi dweud y bydd yr angen i aros yn lleol yn dod i ben ar 6 Gorffennaf, os yw’r amodau’n caniatáu.

A yw aros yn lleol yn golygu na chaf fynd y tu allan i fy ardal leol o gwbl?

Cewch fynd y tu allan i’ch ardal leol os bydd gennych "esgus rhesymol" dros wneud hynny - mae hyn yn cynnwys mynd i'r gwaith neu ddefnyddio gwasanaethau cyhoeddus nad ydynt ar gael yn lleol. Mae hefyd yn cynnwys gadael eich ardal leol i ymweld â theulu neu ffrindiau agos ar sail dosturiol os oes angen.

Ond y neges sylfaenol yw ein bod am i bobl aros yn lleol gymaint â phosibl. Mae hyn yn arbennig o bwysig os ydych yn berson eithriadol o agored i niwed – rhywun yn y grŵp a warchodir sydd wedi cael llythyr gan Brif Swyddog Meddygol Cymru yn gofyn iddynt ddilyn camau gwarchod caeth i'w diogelu rhag y feirws.

Pan fyddwch yn yr awyr agored, dylech gadw pellter o 2 fetr rhyngoch chi a phobl eraill a golchi eich dwylo yn aml. Dim ond aelodau o un cartref arall ar y tro y cewch gwrdd â nhw (yn yr awyr agored).

Beth na chaf i ei wneud?

Y gofyniad cyfreithiol yw na chewch adael eich ardal leol heb esgus rhesymol. Fodd bynnag, yn ogystal ag ystyried yr hyn na chewch ei wneud am fod y gyfraith yn nodi hynny, byddem yn annog pobl i ystyried hefyd yr hyn na ddylech ei wneud gan y gallai gynyddu lledaeniad y coronafeirws a’ch risg chi o’i ddal. Felly hyd yn oed os ydych yn cael teithio o fewn eich ardal leol, dylech ystyried a oes dewisiadau eraill yn lle hynny, fel gweithio o gartref neu ymarfer corff yn yr ardd. Yn yr un modd, er eich bod nawr yn cael cwrdd ag eraill mewn rhai amgylchiadau, nid gwahoddiad i bobl wneud hynny yw hyn. Er y caiff siopau ailagor os ydynt yn gallu cydymffurfio â’r ddyletswydd i gadw pellter o 2 fetr rhwng pobl, rydym yn annog pobl i osgoi teithio’n ddiangen os oes modd ac i osgoi llefydd prysur, yn enwedig dan do.

Beth gaf i ei wneud?

Mae rhestr o esgusodion rhesymol dros adael eich ardal leol, fel mynd i'r gwaith, mynd i brynu bwyd a chael triniaeth feddygol. Fodd bynnag, mae'n bosibl y caiff rhesymau eraill dros adael eich ardal leol nad ydynt wedi'u rhestru hefyd eu caniatáu os byddant yn rhesymol. Gweler y canllawiau manylach ar y rheoliadau.

Mae'n rhaid i mi fynd i'r llys – a ddylwn i fynd o hyd?

Dylech. Os yw eich achos llys yn cael ei gynnal o hyd, cewch adael eich ardal leol er mwyn mynd i'r llys, ar yr amod nad ydych yn hunanynysu – os felly, dylech gysylltu â'r llys i gael rhagor o wybodaeth. Dylai'r llysoedd eich helpu i sicrhau bod 2 fetr (3 cham) rhyngoch chi a phobl eraill. Nid yw'r rheolau sy'n atal aelodau mwy na dau gartref rhag ymgynnull yn berthnasol i achosion cyfreithiol.

Mae amodau fy mechnïaeth yn golygu bod rhaid imi fynd i orsaf yr heddlu neu fodloni gofynion eraill - gaf i adael fy ardal leol i wneud hyn?

Cewch, ar yr amod nad ydych yn hunanynysu – os felly, dylech gysylltu â'r llys a osododd yr amodau i gael rhagor o wybodaeth.

A gaf i deithio i faes awyr i gasglu aelod o'm cartref neu deulu sy'n dychwelyd i Gymru?

Cewch. Os yw’r person yn dychwelyd i Gymru o’r tu allan i’r DU, bydd angen iddynt ddilyn y canllawiau ynglŷn â sut i hunanynysu ar ôl dychwelyd o dramor. Mae'r canllawiau hyn yn berthnasol i bobl sy'n cyrraedd Cymru yn uniongyrchol ac i'r rheini sy'n cyrraedd man arall yn y DU ac yna'n teithio i Gymru.

Mae'n well osgoi rhannu car gyda rhywun nad ydych yn byw gyda nhw. Os ydych yn rhannu car, eisteddwch mor bell â phosibl oddi wrth eich gilydd yn y car a chadw’r ffenestri ar agor. Dilynwch y canllawiau hyn ar deithio'n ddiogel.

A gaf i symud tŷ?

Cewch. Rydym yn argymell y dylai’r tŷ gael ei lanhau’n drylwyr cyn ichi fynd yno os nad yw wedi bod yn wag am o leiaf dri diwrnod cyn hynny.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y canllawiau ar symud tŷ.

A gaf i fynd i weld eiddo?

Cewch fynd i weld eiddo os yw’n wag ac wedi bod yn wag ers tri diwrnod, neu os yw wedi’i lanhau’n drylwyr. Mae’n bwysig nad yw aelodau mwy nag un cartref y tu mewn i’r eiddo ar yr un pryd wrth fynd i weld yr eiddo oherwydd bod hyn yn cynyddu’r risg o drosglwyddo coronafeirws. Mae’n rhaid ichi gadw pellter cymdeithasol a sicrhau arferion hylendid dwylo da bob amser.

Caiff asiantau gosod, gwerthwyr tai a landlordiaid ddal i arddangos eiddo yn rhithwir.

A gaf i drefnu i gynnal arolwg morgais yn fy eiddo nawr?

Cewch. Mae gwerthwyr tai, syrfewyr a gweithwyr symud dodrefn yn cael mynd i eiddo pobl eraill. Mae angen iddynt ddilyn y canllawiau ar gadw pellter cymdeithasol a chorfforol yn y gweithle.

A gaf i ymweld ag aelodau o’m teulu neu ffrindiau agos sy’n byw y tu allan i fy ardal leol?

Yn gyffredinol, dim eto, gan fod y gofyniad i aros yn lleol yn parhau tan 6 Gorffennaf pan fydd y Gweinidogion yn ei godi os yw’r amodau’n caniatáu.

Ond cewch adael eich ardal leol i ddarparu gofal i rywun neu i helpu rhywun sydd angen cymorth, fel person hŷn, plentyn neu oedolyn sy’n agored i niwed. Ond dylech ystyried a oes ffynonellau cymorth eraill ar gael. Cewch hefyd adael eich ardal leol i ymweld â rhywun ar sail dosturiol os oes angen.

Wrth ystyried a oes angen teithio y tu allan i’ch ardal leol, cofiwch fod cyfrifoldeb personol ar bob un ohonom i gydnabod y risgiau y mae’r feirws yn eu peri i ni ein hunain, i’n teuluoedd a’n ffrindiau, ac i’n cymunedau ehangach. Bydd angen i bobl farnu drostynt eu hunain beth sy’n rhesymol, yn unol â’r egwyddor gyffredinol honno.

Cofiwch mai diben y cyfyngiadau sy’n parhau yw atal trosglwyddiad y feirws, gan gynnwys i’n hanwyliaid.

Beth ydych chi’n ei olygu wrth “sail dosturiol”?

Gallech fod â rhesymau tosturiol dros ymweld â rhywun os ydynt yn cael anhawster yn sgil y cyfyngiadau. Er enghraifft, rhywun sy’n dioddef salwch corfforol neu feddyliol; rhywun sydd wedi dioddef profedigaeth neu rywun y mae ei les yn peri pryder ichi.

Ymhlith y pethau eraill a allai gael eu caniatáu mae ymweld â phobl mewn cartrefi gofal, mewn gwasanaethau byw â chymorth, neu mewn cartrefi gofal plant neu sefydliadau troseddwyr ifanc. Ym mhob achos, bydd rhaid i'r darparwr gwasanaeth gymryd camau diogelwch a chadw pellter priodol cyn caniatáu ymweliadau. Dylech gysylltu â nhw cyn ichi deithio yno.

Pryd y byddaf yn cael ymweld â phobl y tu hwnt i’m hardal leol yn fwy cyffredinol?

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i adolygu’r holl gyfyngiadau yn rheolaidd, gan gynnwys y gofyniad i aros yn lleol. Gan fod y sefyllfa’n gwella, bydd y Gweinidogion yn codi’r gofyniad aros yn lleol mewn pythefnos ar 6 Gorffennaf, os bydd yr amodau’n caniatáu.

A fyddaf i’n cael dirwy gan yr heddlu os byddaf yn teithio y tu allan i fy ardal leol heb esgus rhesymol?

Byddwch, caiff yr heddlu roi dirwyon.

Teithio a thrafnidiaeth gyhoeddus

A gaf i yrru i'r arfordir neu i gefn gwlad?

Dim ond os yw yn eich ardal leol y cewch wneud hyn ar hyn o bryd. Ni chaniateir teithio i barciau, traethau ac atyniadau sydd y tu allan i’ch ardal leol. Mae llawer o atyniadau a llecynnau hardd (gan gynnwys meysydd parcio a thoiledau cyhoeddus) yn dal i fod ar gau.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i adolygu’r holl gyfyngiadau yn rheolaidd, gan gynnwys y gofyniad i aros yn lleol. Gan fod y sefyllfa’n gwella, bydd y Gweinidogion yn codi’r gofyniad aros yn lleol mewn pythefnos ar 6 Gorffennaf, os bydd yr amodau’n caniatáu.

A gaf i yrru i'm carafán wyliau er mwyn gwneud gwaith cynnal a chadw a thrwsio cyffredinol?

Dim ar hyn o bryd (gan gymryd nad yw yn eich ardal leol). Nid yw hynny’n cael ei ystyried yn esgus rhesymol dros adael eich ardal leol. Beth bynnag, mae'n ofynnol i barciau carafannau a pharciau gwyliau fod ar gau, er bod rhai eithriadau – mae rhai pobl yn parhau ar safleoedd o'r fath gan y byddent yn ddigartref fel arall.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i adolygu’r holl gyfyngiadau yn rheolaidd, gan gynnwys y gofyniad i aros yn lleol. Gan fod y sefyllfa’n gwella, bydd y Gweinidogion yn codi’r gofyniad aros yn lleol mewn pythefnos ar 6 Gorffennaf, os bydd yr amodau’n caniatáu

A gaf i yrru i aros yn fy ail gartref?

Na chewch (gan gymryd nad yw yn eich ardal leol). Nid yw hynny’n cael ei ystyried yn esgus rhesymol dros adael eich ardal leol. Mae teithio i ail gartref yn cynyddu'r risg y byddwch yn lledaenu'r feirws ac mae hefyd yn rhoi pwysau ar y GIG mewn ardaloedd lle nad oes digon o allu ac adnoddau i ymdrin â mewnlif o bobl.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i adolygu’r holl gyfyngiadau yn rheolaidd, gan gynnwys y gofyniad i aros yn lleol. Gan fod y sefyllfa’n gwella, bydd y Gweinidogion yn codi’r gofyniad aros yn lleol mewn pythefnos ar 6 Gorffennaf, os bydd yr amodau’n caniatáu.

Mae fy mab neu ferch wedi gadael eiddo mewn llety myfyrwyr, ac mae angen ei wagio. Gawn ni deithio yno i gasglu'r eiddo?

Os na ellir gohirio hyn a bod angen gwneud hynny er mwyn cydymffurfio â thelerau cytundeb y llety, byddai'n esgus rhesymol. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth i fyfyrwyr a’u teuluoedd. Rhagor o wybodaeth i fyfyrwyr a'u teuluoeddd.

A gaf i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus?

Cewch. Fodd bynnag, mae llai o wasanaethau trên ac mae llai o le ar lawer o fysiau er mwyn sicrhau y gall pobl barhau i gadw pellter cymdeithasol. Rydym yn argymell eich bod yn gwisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus. Dilynwch y canllawiau ar ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

A fydd disgyblion a gyrwyr yn gorfod gwisgo masgiau wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus?

Gweler ein cyngor ar orchuddion wyneb.

A gaf i rannu car gyda rhywun neu roi lifft iddynt?

Mae'n well osgoi rhannu car gyda rhywun nad ydych yn byw gyda nhw. Os ydych yn rhannu car, eisteddwch mor bell â phosibl oddi wrth eich gilydd yn y car a chadw’r ffenestri ar agor. Dilynwch y canllawiau hyn ar deithio'n ddiogel.

A yw rheolau Cymru yn berthnasol i bobl sy’n dod i Gymru o rannau eraill o’r DU?

Ydynt, mae’r rheolau yn berthnasol i bawb yng Nghymru. Ni ddylai pobl fod yn teithio y tu allan i’w hardal leol yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae hyn yn golygu, yn gyffredinol, na chaniateir teithio i Gymru, yn amodol ar yr un eithriadau ag sy’n berthnasol i breswylwyr Cymru. I gael rhagor o wybodaeth darllenwch ein canllawiau ar aros yn lleol.

Os ydw i'n byw'n agos i’r ffin â Lloegr, a gaf i deithio at y ffin ac yna teithio unrhyw bellter a fynnaf yr ochr draw?

Os yw'r ffin â Lloegr yn eich ardal leol, gallwch deithio drosti ond mae gofyniad i aros yn lleol sydd yng Nghyfraith Cymru yn parhau i fod yn berthnasol.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i adolygu’r holl gyfyngiadau yn rheolaidd, gan gynnwys y gofyniad i aros yn lleol. Gan fod y sefyllfa’n gwella, bydd y Gweinidogion yn codi’r gofyniad aros yn lleol mewn pythefnos ar 6 Gorffennaf, os bydd yr amodau’n caniatáu.

Mae gen i wyliau wedi’i archebu – a gaf i deithio i’r maes awyr?

Ddim eto. Cyhyd ag y mae’r gofyniad “aros yn lleol” yn parhau mewn grym nid yw hyn yn rheswm dilys dros adael eich ardal leol. Os ydych i fod i deithio cyn 6 Gorffennaf, dylech ganslo’ch gwyliau a cheisio am ad-daliad. Pan godir y gofyniad “aros yn lleol”, byddwch yn cael teithio i fynd ar wyliau tramor ond bydd hyn yn amodol ar reolau’r wlad yr ydych am fynd iddi ac ar reoliadau ffiniau’r DU, sy’n cynnwys cyfnod cwarantin o hunanynysu pan fyddwch yn dychwelyd o dramor. Dylid hefyd ddilyn cyngor y Swyddfa Dramor a Chymanwlad.

Bydd y Gweinidogion yn codi’r gofyniad “aros yn lleol” mewn pythefnos ar 6 Gorffennaf, os bydd yr amodau’n caniatáu.

Cau busnesau, gwaith a chadw pellter corfforol

A gaf i agor fy musnes?

Mae'r rhan holl siopau nad ydynt yn hanfodol wedi cael ailagor ers 22 Mehefin os ydynt yn gallu cydymffurfio â’r ddyletswydd i gadw pellter corfforol (gweler ein canllawiau Diogelu Cymru yn y Gwaith).

Mae'n rhaid i gyflogwyr gymryd pob cam rhesymol i gydymffurfio â’r ddyletswydd i gadw pellter corfforol, sy'n helpu i ddiogelu gweithwyr a’r cyhoedd rhag bygythiad coronafeirws.

Ond mae’n rhaid i rai busnesau aros ar gau ar hyn o bryd, gan gynnwys bariau a bwytai, cyfleusterau hamdden a gwestai.

Rydym yn gweithio gyda’r sector twristiaeth i baratoi ar gyfer ailagor lletyau hunangynhwysol dros y tair wythnos nesaf. Bydd penderfyniad yn cael ei wneud ynglŷn ag ailagor yn adolygiad nesaf y rheoliadau ar 9 Gorffennaf.

Os byddaf yn mynd i'r gwaith, beth mae'n rhaid i'm cyflogwr ei wneud?

Lle bo'n bosibl, dylai pobl barhau i weithio o gartref. Lle nad yw hynny'n bosibl, mae'n rhaid i gyflogwyr gydymffurfio â dyletswydd i gadw pellter corfforol, sy'n golygu bod rhaid cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau pellter o 2 fetr rhwng pobl wrth iddynt weithio. Gweler y canllawiau ar fesurau rhesymol i gael rhagor o wybodaeth.

Mae fy nghyflogwr am i mi fynd i'r gwaith. A oes rhaid i mi wneud hynny?

Dim ond os nad yw'n rhesymol ymarferol iddynt weithio o gartref y dylai pobl deithio i'r gwaith. Os oes gennych symptomau'r coronafeirws, os ydych yn byw yn yr un tŷ â rhywun â symptomau neu os ydych yn y grŵp gwarchod neu wedi eich nodi fel rhywun sydd wedi dod i gyswllt â rhywun â symptomau, mae'n rhaid i chi aros gartref. Cynghorir y bobl hynny sy’n agored i niwed i beidio â theithio i’r gwaith, gweler y canllawiau ar bobl a warchodir.

Dylai cyflogwyr a gweithwyr drafod eu trefniadau gweithio. Dylai cyflogwyr gymryd pob cam posibl i helpu eu gweithwyr i weithio o gartref, gan gynnwys darparu cyfarpar technoleg gwybodaeth addas. Mae dyletswydd gyfreithiol ar wahân ar gyflogwyr hefyd i gymryd camau rhesymol i sicrhau nad yw eu gweithwyr yn cael eu hamlygu i risgiau i'w hiechyd. Gweler ein canllawiau Diogelu Cymru yn y Gwaith yn y Sector Manwerthu

A gaf i wneud gwaith adeiladu neu drwsio yng nghartref rhywun?

Cewch. Gall gwaith a wneir yng nghartrefi pobl, er enghraifft gan weithwyr fel plymwyr a thrydanwyr, barhau. Fodd bynnag, ein cyngor yw y dylai gweithwyr o’r fath ac aelodau'r cartref fod yn iach ac na ddylai fod ganddynt unrhyw symptomau'r coronafeirws. Gweler y canllawiau ar canllawiau ar hunanynysu i gael rhagor o wybodaeth. Fel busnesau eraill, mae'n rhaid i weithwyr sy’n gweithio yng nghartrefi pobl eraill gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod pellter o 2 fetr rhwng pobl bob amser a dylent ddilyn y cyngor yn ein canllawiau cadw pellter cymdeithasol. Gweler y canllawiau ar gamau rhesymol i gael rhagor o wybodaeth.

Rydym yn argymell na ddylid gwneud unrhyw waith mewn unrhyw gartref lle mae’r aelodau'n hunanynysu neu lle mae person yr ystyrir ei fod yn eithriadol o agored i niwed yn dilyn camau 'gwarchod', oni bai fod y gwaith hwnnw er mwyn trwsio nam sy'n peri risg uniongyrchol i ddiogelwch pobl – er enghraifft, gwaith plymio brys. Yn yr achosion hyn, gall Iechyd Cyhoeddus Cymru roi cyngor i weithwyr ac aelodau cartrefi. Ond ni ddylai gweithiwr sydd â symptomau’r coronafeirws wneud unrhyw waith o gwbl, waeth pa mor ysgafn yw’r symptomau

A gaf i wneud gwaith gwirfoddol?

Cewch. Nid oes unrhyw gyfyngiad ar fynd allan i ddarparu gofal neu gymorth i berson agored i niwed, gan gynnwys cymorth brys. Mae hyn yn cynnwys mynd i nôl bwyd a meddyginiaethau iddynt. Ond mae'n bwysig nad ydych yn achosi unrhyw risg i chi eich hun na'r person rydych yn gofalu amdano. Gweler y canllawiau gwirfoddoli i gael rhagor o wybodaeth.

Nid yw fy nghyflogwr wedi cymryd unrhyw gamau i sicrhau pellter o 2 fetr rhwng pobl wrth weithio – beth ddylwn i ei wneud?

Dylech godi hyn â'ch undeb llafur neu gynrychiolwyr eraill – neu'n uniongyrchol â'r cyflogwr. Gobeithio y gallwch ddatrys unrhyw broblemau drwy eu trafod, ond gallwch roi gwybod i adran iechyd yr amgylchedd eich awdurdod lleol am fethiannau i gymryd camau rhesymol. Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys llinell chwythu’r chwiban, ar gael ar wefan y TUC.

Sut bydd busnesau yn ymwybodol o’r gyfraith?

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyhoeddusrwydd eang i’r cyfreithiau brys hyn ac, yn y ffordd arferol, mae’r rheoliadau ar gael ar wefan www.legislation.gov.uk ac mae’r canllawiau cysylltiedig ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi fersiwn o’r rheoliadau wedi’u cydgrynhoi yn ogystal ag amryw o ganllawiau Diogelu Cymru ar gyfer y gweithle, sy’n rhoi cyngor i gyflogwyr, gweithwyr a’r hunangyflogedig.

Gofal plant

A yw’n ddiogel imi anfon fy mhlentyn yn ôl i’w leoliad gofal plant?

Risg isel sydd i anfon eich plentyn i leoliad gofal plant. Rydym wedi cyhoeddi canllawiau i helpu lleoliadau i baratoi i gynyddu nifer y plant y maent yn rhoi gofal iddynt. Yn y pen draw, penderfyniad y rhieni yw anfon eu plant yn ôl i leoliad gofal plant neu beidio.

Sut bydd y mesurau cadw pellter cymdeithasol yn gweithio mewn lleoliad gofal plant?

Dylid cadw at fesurau cadw pellter cymdeithasol cyn belled ag sy’n ymarferol ond bydd hyn yn anoddach mewn lleoliad gofal plant gyda phlant ifanc iawn. Yn yr achosion hyn, mae’n rhaid cynyddu mesurau rheoli ac atal haint. Rydym wedi cyhoeddi canllawiau i leoliadau ynglŷn â sut i roi’r mesurau hyn ar waith.

Darllenwch y canllawiau ar fesurau diogelu mewn lleoliadau gofal plant: cadw gofal plant yn ddiogel i gael rhagor o wybodaeth.

Beth os yw fy mhlentyn yn cymryd camau gwarchod?

Ni ddylai plant sydd yn y grŵp gwarchod oherwydd cyflyrau meddygol sy’n bodoli eisoes, ac sydd wedi’u cynghori i gymryd mesurau ‘gwarchod’ penodol i’w diogelu rhag y coronafeirws, fynd i leoliad gofal plant ar hyn o bryd. Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru wedi cynghori y dylai camau gwarchod barhau yng Nghymru tan 16 Awst.

Y cyngor gwyddonol yw y dylai plant aros yn yr un grwpiau bach cyson yn yr ysgol neu mewn lleoliad gofal plant. Beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer lleoliadau gofal plant a gofal cofleidiol?

Mae cyfyngu ar gyswllt cymdeithasol yn rhan bwysig o leihau’r tebygolrwydd o gael nifer fawr o achosion o’r feirws. Mae’n bwysig ein bod yn parhau i leihau unrhyw gymysgu rhwng pobl a grwpiau o bobl. Mae creu grwpiau bach, cyson o blant (a’r oedolion sydd gyda nhw) a chadw’r rhain yr un fath drwy’r wythnos, gan eu cadw oddi wrth grwpiau eraill, yn helpu i wneud hyn ac yn osgoi creu cadwyni trosglwyddo. 

Os yw plentyn yn mynd i fwy nag un lleoliad gofal plant, er enghraifft i ysgol ac i leoliad gofal plant ar ôl ysgol, dylai’r plentyn aros yn yr un grŵp bychan yn y ddau leoliad os yw’n bosibl.

A fydd y Cynnig Gofal Plant yn ailddechrau ar yr un pryd?

Mae’r Cynnig wedi’i atal i ymgeiswyr newydd tan fis Medi 2020. Gall plant a oedd yn defnyddio’r Cynnig yn barod barhau i wneud hynny.

A fydd y cyllid i weithwyr hanfodol yn parhau o dan y Cynllun Cymorth Gofal Plant: Coronafeirws?

Byddwn yn parhau i ariannu costau gofal plant ar gyfer plant gweithwyr allweddol cyn oed ysgol a phlant agored i niwed cyn oed ysgol, ac eithrio unrhyw ffioedd cadw lle a godir gan ddarparwyr gofal plant, tan 31 Awst 2020 o dan y cynllun.

A fydd darpariaeth gofal plant ar gael dros yr haf?

Bydd. Mae lleoliadau gofal plant yn cynyddu eu darpariaeth o 22 Mehefin. Bydd lleoliadau sydd wedi bod ar gau yn gallu gofalu am fwy o blant a bydd lleoliadau sydd wedi bod ar gau dros dro yn gallu ailagor. Rydym eisoes yn gweld bod nifer yn gwneud hyn ac rydym yn disgwyl i’r niferoedd gynyddu dros yr haf.

Gwyliau yng Nghymru

A gaf i fynd ar wyliau yng Nghymru nawr?

Ddim eto, ond rydym yn gobeithio y cewch ar ôl 13 Gorffennaf. Mae paratoadau wedi dechrau i ailagor yr economi ymwelwyr yn ddiogel, gan gynnwys llety hunangynhwysol ac atyniadau awyr agored. Bydd penderfyniad yn cael ei wneud ynglŷn â hyn yn yr adolygiad nesaf o’r rheoliadau ar 9 Gorffennaf. Ni fydd modd ichi fynd ar wyliau yng Nghymru hyd nes bydd y gyfraith yn cael ei newid. Os caiff y gyfraith ei newid, mae’r newid hwnnw’n debygol o ddod i rym ar 13 Gorffennaf.

A gaf i archebu llety gwyliau?

Mae modd ichi wneud archeb ar gyfer arhosiad a fydd yn digwydd ar ôl 13 Gorffennaf 2020. Serch hynny, dim ond os caiff y newid disgwyliedig i’r gyfraith ei wneud y bydd modd bwrw ymlaen â’r archeb. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fonitro sefyllfa iechyd y cyhoedd ac mae perygl y gallai unrhyw archeb a wneir gael ei chanslo. Cofiwch holi’ch darparwr llety ynglŷn â’i bolisi canslo.

Pa fath o lety sy’n cael ei ystyried i’w ailagor?

Llety heb gyfleusterau a rennir – sef llety sy’n hollol hunangynhwysol gyda chegin ac ystafell ymolchi nad yw gwesteion eraill yn eu defnyddio. Mae hyn yn cynnwys bythynnod a fflatiau hunanarlwyo a charafannau sydd â’u cyfleusterau ystafell ymolchi eu hunain.

Mae gwestai a mathau eraill o lety â gwasanaeth, megis llety gwely a brecwast a hostelau, sydd ag ystafelloedd gwely â’u hystafelloedd ymolchi eu hunain ac a all ddarparu prydau bwyd yn yr ystafell wely, hefyd yn perthyn i’r categori hwn. 

Pryd ydych chi’n bwriadu ailagor sŵau, ardaloedd gwlyptir a gerddi botaneg?

Mae’n gyfreithlon i’r atyniadau hyn agor ond mae sawl un wedi aros ar gau oherwydd y gofyniad i bobl aros yn lleol neu oherwydd rhesymau eraill. Gan fod y sefyllfa’n gwella, bydd y Gweinidogion yn codi’r gofyniad aros yn lleol mewn pythefnos ar 6 Gorffennaf, os bydd yr amodau’n caniatáu.

A fydd parciau carafannau teithiol yn cael ailagor?

Rydym yn gweithio gyda’r diwydiant twristiaeth i edrych ar sut y gallwn ddechrau ailagor rhannau o’r sector dros y tair wythnos nesaf cyn adolygiad nesaf y rheoliadau erbyn 9 Gorffennaf. Bydd hyn yn cael ei ystyried fel rhan o’r adolygiad hwnnw.

Pobl agored i niwed a'r digartref

A yw'r cyfyngiadau yn berthnasol i bobl agored i niwed?

Ydynt, mae'n arbennig o bwysig bod pobl eithriadol o agored i niwed (y grŵp a warchodir) yn dal ati i ddilyn y canllawiau a roddwyd gan Brif Swyddog Meddygol Cymru. Pobl eithriadol o agored i niwed yng Nghymru yw'r rheini sydd ag un o blith rhestr benodol iawn o gyflyrau iechyd difrifol hirdymor a oedd ganddynt eisoes. Mae effaith y cyflwr iechyd hirdymor a oedd ganddynt eisoes ar eu system imiwnedd yn golygu bod risg uchel y cânt salwch difrifol os byddant yn dod i gysylltiad â'r coronafeirws.

Mae'r bobl sydd yn y sefyllfa hon wedi cael llythyr gan Brif Swyddog Meddygol Cymru yn gofyn iddynt ddilyn camau gwarchod caeth i'w diogelu rhag y feirws.

Gwnaethpwyd dau newid i’r cyngor ar gyfer y grŵp hwn ar 1 Mehefin:

  • caniateir i bobl wneud cymaint ag y maent yn dymuno o ymarfer corff yn yr awyr agored, cyn belled â bod unigolion yn cadw’n gaeth at reolau cadw pellter cymdeithasol ac arferion hylendid
  • caiff y bobl hynny a warchodir gwrdd ag aelodau o un cartref arall yn yr awyr agored – ond ni chaniateir iddynt fynd i dŷ rhywun arall neu rannu bwyd gyda nhw

Dylai pobl a warchodir barhau i ddilyn yr holl gyngor arall a roddwyd yn flaenorol. Ni ddylent fynd i siopa na gweithio y tu allan i’r cartref. Dylai bwyd a meddyginiaethau barhau i gael eu danfon iddynt.  

Beth yw'r cyngor os wyf yn byw gyda pherson agored i niwed?

Os ydych yn byw mewn tŷ gyda pherson a warchodir, darllenwch ein canllawiau ar bobl a warchodir.

Rwy'n ddigartref, beth ddylwn i ei wneud?

Darparwyd cyllid ychwanegol i awdurdodau lleol yng Nghymru er mwyn helpu pobl sy'n ddigartref neu'n cysgu allan. Os oes angen cymorth arnoch, dylech gysylltu â'r tîm opsiynau tai yn eich ardal leol. Bydd manylion cyswllt y tîm ar wefan eich awdurdod lleol.

Sicrhewch fod 2 fetr rhyngoch chi a phobl eraill. Ni ddylech ymgynnull mewn man cyhoeddus gyda mwy nag un person arall.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ariannu Shelter Cymru er mwyn darparu cyngor a chymorth annibynnol ar dai. Ceir rhagor o wybodaeth, cyngor a chymorth ar wefan Shelter Cymru.

Teuluoedd a chwrdd ag eraill

Pwy gaf i gwrdd â nhw yn yr awyr agored?

Caiff aelodau dau gartref gwahanol (ac unrhyw ofalwyr) gwrdd yn yr awyr agored, cyn belled â’u bod yn cadw at reolau cadw pellter cymdeithasol. Nid oes rhaid cwrdd â’r un bobl o’r un cartref bob tro. Mae’r risg o gael eich heintio yn isel os cedwir at y rheol 2 fetr yn yr awyr agored, ond nid yw risg isel yn golygu dim risg o gwbl, felly er y cewch wneud hyn, ystyriwch a ddylech ei wneud.  

A gaiff aelodau o un cartref gwrdd ag aelodau o fwy nag un cartref arall yn yr awyr agored ar yr amod eu bod yn gyfarfodydd ar wahân?

Cânt. Dim ond aelodau un cartref y cewch gwrdd â nhw ar y tro. Ond cewch drefnu cyfarfodydd ar wahân gydag eraill (yn yr awyr agored a gan gadw pellter cymdeithasol).

Faint o bobl mae gen i hawl i’w gweld ar y tro?

Ar yr amod mai dim ond aelodau o ddau gartref sy’n cwrdd, nid oes cyfyngiad ar nifer y bobl sy’n cael cwrdd yn yr awyr agored ar unrhyw adeg. Er hynny, mae’n dal yn anghyfreithlon o dan reoliadau’r coronafeirws ichi ymgynnull ag aelodau o fwy nag un cartref arall ar yr un pryd.

A gaf i greu swigen gymdeithasol gyda chartref arall?

Na chewch – nid ydym wedi caniatáu hyn yng Nghymru ar hyn o bryd. Dylai aelodau o wahanol gartrefi ddal i gwrdd yn yr awyr agored yn unig.

Pam mae’r rheolau yn dweud y caiff pobl gwrdd yn yr awyr agored ond nid o dan do?

Rydym yn dysgu rhagor am y feirws bob dydd, ac rydym yn gwybod bod y risg o’i drosglwyddo yn is yn yr awyr agored nag o dan do – mae’r feirws yn goroesi am funudau yn yr awyr agored ond yn gallu goroesi am oriau ar arwynebau o dan do. Fodd bynnag, nid yw risg is yn gyfystyr â dim risg. Hyd yn oed yn yr amgylchiadau hyn, mae’n hollbwysig ein bod yn cadw pellter cymdeithasol er mwyn inni allu parhau i fynd i’r afael â lledaeniad y feirws.

A oes hawl cael picnic neu farbeciw gydag aelodau o gartrefi eraill?

Oes, ar yr amod eu bod yn yr awyr agored a’ch bod yn aros yn lleol (ar hyn o bryd. Dylech gadw pellter cymdeithasol a sicrhau nad ydych yn rhannu eitemau na’n defnyddio’r un eitemau ag aelodau’r cartref arall, er enghraifft platiau, cwpanau a phecynnau bwyd. Bydd unrhyw eitem sy’n cael ei throsglwyddo rhwng aelodau dau gartref yn cynyddu’r risg o ledaenu’r feirws.

A oes angen cadw pellter cymdeithasol o hyd?

Oes. Mae’n dal i fod yn hanfodol cadw pellter cymdeithasol wrth gwrdd ag unrhyw un o gartref gwahanol i’ch un chi, er mwyn atal y feirws rhag lledaenu.

A gaf i yrru i weld pobl o gartref arall?

Cewch, ar yr amod bod hynny o fewn eich ardal leol, eich bod yn eu gweld yn yr awyr agored a’ch bod yn cadw pellter cymdeithasol.

Mae’r achosion o coronafeirws yn lleihau yng Nghymru ac os yw’r amodau’n caniatáu, mae’r Gweinidogion wedi dweud y byddant yn codi’r gofyniad i aros yn lleol ar 6 Gorffennaf.

Pam na chaf i ymweld ag aelodau o’m teulu sy’n byw y tu allan i fy ardal leol?

Cewch adael eich ardal leol i ddarparu gofal i rywun neu i helpu rhywun sydd angen cymorth, fel person hŷn, plentyn neu oedolyn sy’n agored i niwed. Ond dylech ystyried a oes ffynonellau cymorth eraill ar gael. Cewch hefyd adael eich ardal leol i ymweld â rhywun ar sail dosturiol os oes angen.

Wrth ystyried a oes angen teithio y tu allan i’ch ardal leol, dylech gofio bod cyfrifoldeb personol ar bob un ohonom i gydnabod y risgiau y mae’r feirws yn eu peri i ni ein hunain, i’n teuluoedd a’n ffrindiau, ac i’n cymunedau ehangach.

Bydd angen i bobl farnu drostynt eu hunain beth sy’n rhesymol, yn unol â’r egwyddor gyffredinol honno. Cofiwch mai diben y cyfyngiadau sy’n parhau yw atal trosglwyddiad y feirws, gan gynnwys i’n hanwyliaid.

A gaf i deithio i barciau, traethau, atyniadau i ymwelwyr a llecynnau hardd i gwrdd ag aelodau cartref arall?

Ar hyn o bryd, gyda’r gofyniad i aros yn lleol yn parhau, dylech geisio cwrdd ag aelodau cartref arall mor agos at eich cartref eich hun ag y bo modd, er enghraifft mewn parc lleol. Os oes mannau eraill i ymwelwyr yn yr awyr agored yn eich ardal leol, cewch deithio i’r rhain, ond dylech ofalu eich bod yn parhau i gadw pellter cymdeithasol a golchi eich dwylo’n rheolaidd. Dylech hefyd geisio peidio â defnyddio toiledau a chyfleusterau eraill a rennir (os ydynt ar gael).

Ni chaniateir teithio i gwrdd ag aelodau cartref arall mewn parciau ac atyniadau, neu ar draethau y tu allan i’ch ardal leol ar hyn o bryd. Mae nifer o atyniadau a llecynnau hardd (gan gynnwys meysydd parcio a thoiledau cyhoeddus) ar gau felly gwnewch yn siŵr cyn teithio.

Mae’r achosion o coronafeirws yn lleihau yng Nghymru ac os yw’r amodau’n caniatáu, mae’r Gweinidogion wedi dweud y byddant yn codi’r gofyniad i aros yn lleol ar 6 Gorffennaf.

A ddylwn i wisgo gorchudd wyneb wrth gwrdd ag aelodau o gartref arall?

Gweler ein cyngor ar orchuddion wyneb.

Rwy'n rhannu cyfrifoldeb rhieni ar gyfer fy mhlentyn – a gaiff ymweld â'r person arall â chyfrifoldeb rhieni?

Caiff. Cewch barhau â'r trefniadau sy'n bodoli eisoes ar gyfer mynediad a chyswllt os byddwch yn rhannu cyfrifoldeb rhieni ar gyfer eich plentyn â pherson arall. Dylech sicrhau eich bod yn dilyn y canllawiau ar olchi dwylo'n rheolaidd ac ni ddylech achosi risg i eraill os byddwch chi neu aelod o'ch cartref yn hunanynysu. Fodd bynnag, os oes gennych symptomau'r coronafeirws, os ydych yn byw yn yr un tŷ â rhywun â symptomau, neu os ydych yn perthyn i grŵp sy'n wynebu risg neu grŵp eithriadol o agored i niwed, dylech aros gartref ac ni ddylai plant ymweld â chi.

Gofal iechyd a gofalwyr

Mae angen gwasanaethau iechyd arnaf, beth ddylwn i ei wneud?

Cewch adael eich cartref er mwyn defnyddio gwasanaethau iechyd, ond dylech ffonio cyn gwneud hynny. Dilynwch unrhyw ganllawiau y mae eich meddygfa neu'ch gwasanaeth iechyd lleol wedi'u rhoi ar waith i'ch diogelu chi a'r staff, gan gynnwys sicrhau bod 2 fetr rhyngoch chi a chleifion eraill sy'n aros i weld meddyg teulu neu nyrs. Os gallwch aildrefnu eich apwyntiad, dylech wneud hynny, a defnyddiwch wasanaethau ar-lein GIG 111 Cymru lle y bo'n bosibl.

Os bydd gennych symptomau'r coronafeirws, peidiwch â mynd i weld eich meddyg teulu, i'r ysbyty na'r fferyllfa. I gael rhagor o wybodaeth, defnyddiwch wiriwr symptomau GIG 111 Cymru.

Beth ddylwn i ei wneud os bydd gennyf apwyntiad ysbyty neu feddyg teulu?

Rydym yn cynghori pawb i gael cymorth meddygol o bell, lle bynnag y bo'n bosibl. Fodd bynnag, os oes gennych apwyntiad ysbyty neu apwyntiad meddygol arall wedi’i drefnu yn ystod y cyfnod hwn, siaradwch â'ch meddyg teulu neu'ch clinigydd er mwyn sicrhau eich bod yn parhau i gael y gofal sydd ei angen arnoch ac i ystyried pa apwyntiadau y gellir eu gohirio.

Mae angen gofalwr arnaf - a gaiff fy ngofalwr fy helpu o hyd?

Caiff, mae eithriadau amrywiol i'r cyfyngiadau sy'n golygu y gall pobl gael gofal o hyd.

Mynd i gartrefi pobl eraill

A gaiff ffrindiau neu deulu o gartref arall ddod i mewn i fy nhŷ i?

O dan y rheolau, ni chaniateir cwrdd â phobl yn gymdeithasol o dan do gan fod hynny’n cynyddu’n sylweddol y risg o ledaenu’r feirws. Ond os bydd aelodau dau gartref yn cwrdd yng ngardd breifat un tŷ, caiff ymwelwyr fynd trwy’r tŷ i gyrraedd yr ardd. Ni ddylech aros yn y tŷ na defnyddio’r gegin, cyllyll a ffyrc na dim arall. Os oes modd, dylech hefyd geisio osgoi cyffwrdd â phethau yn y cartref fel switsys golau a handlenni drysau.

Rydym yn dysgu mwy am y feirws bob dydd ac rydym yn gwybod bod cyfradd trosglwyddo’r feirws yn is yn yr awyr agored nag ydyw o dan do – mae’r feirws yn goroesi am funudau yn yr awyr agored ond gall fyw am oriau ar arwynebau o dan do.

Os wyf yn cwrdd ag aelodau o gartref arall yn eu gardd, a gaf i ddefnyddio eu toiled?

Dylech geisio peidio â defnyddio’r toiled – po fwyaf y byddwn yn mynd i mewn i gartrefi pobl eraill ac yn cyffwrdd â phethau, y mwyaf yw’r risg o ledaenu’r feirws. Rhan o’r rheswm dros ofyn i bobl aros yn lleol yw ein bod eisiau lleihau’r angen i ddefnyddio cyfleusterau fel toiledau. Os oes rhaid ichi ddefnyddio’r cyfleusterau mewn cartref arall, dylech lanhau’r toiled a’r sinc yn drylwyr cyn ac ar ôl eu defnyddio. Ni ddylid rhannu tywelion llaw.

A yw gweithwyr yn cael dod i’m cartref?

Ydynt. Gall gwaith a wneir yng nghartrefi pobl, er enghraifft gan weithwyr fel plymwyr a thrydanwyr, barhau. Fodd bynnag, ein cyngor yw y dylai gweithwyr o’r fath ac aelodau'r cartref fod yn iach ac na ddylai fod ganddynt unrhyw un o symptomau'r coronafeirws. Gweler y canllawiau ar hunanynysu i gael rhagor o wybodaeth. Fel busnesau eraill, mae'n rhaid i weithwyr sy’n gweithio yng nghartrefi pobl eraill gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod pellter o 2 fetr rhwng pobl bob amser. Gweler y canllawiau ar gamau rhesymol i gael rhagor o wybodaeth.

Rydym yn argymell na ddylid gwneud unrhyw waith mewn unrhyw gartref lle mae’r aelodau'n hunanynysu neu lle mae person yr ystyrir ei fod yn eithriadol o agored i niwed yn dilyn camau 'gwarchod', oni bai fod y gwaith hwnnw er mwyn trwsio nam sy'n peri risg uniongyrchol i ddiogelwch pobl – er enghraifft, gwaith plymio brys. Yn yr achosion hyn, gall Iechyd Cyhoeddus Cymru roi cyngor i weithwyr ac aelodau cartrefi. Ond ni ddylai gweithiwr sydd â symptomau’r coronafeirws wneud unrhyw waith o gwbl, waeth pa mor ysgafn yw’r symptomau.

Siopa a bwyd

Pa siopau fydd ar agor?

Caiff pob siop manwerthu nad yw’n hanfodol agor o 22 Mehefin os ydynt yn gallu cydymffurfio â’r ddyletswydd i gadw pellter corfforol yng nghyfraith Cymru. Ar hyn o bryd, mae’r gofyniad i aros yn lleol yn parhau i fod mewn grym. Mae Gweinidogion wedi dweud y bydd y gofyniad hwn yn dod i ben ar 6 Gorffennaf os yw’r amodau’n caniatáu. Dylai pobl osgoi teithio yn ddiangen ac osgoi mannau prysur, yn enwedig dan do.

A gaf i deithio mor bell ag y mynnaf i fynd i’r siopau?

Mae’r gofyniad cyfreithiol i aros yn lleol yn dal i fod mewn grym. Fel rheol gyffredinol mae hyn yn golygu peidio â theithio mwy na phum milltir o’ch cartref. Mae Gweinidogion wedi dweud y bydd y gofyniad hwn yn dod i ben ar 6 Gorffennaf os yw’r amodau’n caniatáu.

Cewch fynd y tu allan i’ch ardal leol i brynu bwyd a nwyddau hanfodol eraill os na fyddai’n rhesymol ichi wneud hyn yn lleol. Ond mewn achosion eraill mae’n rhaid ichi aros yn lleol. Ni chaniateir ichi deithio o Bontypridd i Gaerdydd i fynd i siop ddillad, er enghraifft.

A gaf i fynd i siopa gyda fy ffrindiau? 

Dim ond yn yr awyr agored, gan gadw 2 fetr ar wahân, y cewch chi gwrdd â phobl o gartrefi eraill, gan fod y risg o drosglwyddo’r feirws yn llawer mwy dan do. Felly, dim ond yn yr awyr agored y cewch chi siopa gyda phobl o gartrefi eraill, er enghraifft mewn marchnad awyr agored (gan barhau i gadw pellter cymdeithasol). Ni ddylech ond siopa dan do ar eich pen eich hun neu gyda phobl sy’n byw gyda chi.

A gaf i ddefnyddio gwasanaethau archebu a chasglu y tu allan i fy ardal leol?

Yn y rhan fwyaf o achosion, ni chaniateir hyn tra bydd y gofyniad i aros yn lleol mewn grym. Mae casglu pethau sydd wedi’u harchebu ar-lein fel arfer wedi’i gyfyngu i’ch ardal leol. Bydd angen ichi gael esgus rhesymol dros deithio y tu allan i’ch ardal i gasglu rhywbeth yr ydych ei angen. Mae hynny’n annhebygol os gellir ei ddanfon yn gyfleus ichi.

A gaf i fynd i’r siopau os wyf yn cymryd camau gwarchod?

Nid ydym yn argymell y dylech fynd i siopa os ydych yn cymryd camau gwarchod.

A gaf i ymweld â chanolfan arddio y tu allan i fy ardal leol?

I’r rhan fwyaf o bobl, yr ateb fydd na chewch tra bydd y gofyniad i aros yn lleol mewn grym. Byddwch ond yn cael gadael eich ardal leol i fynd i ganolfan arddio os na allwch brynu’r hyn yr ydych am ei brynu yn eich ardal leol neu bod rheswm da dros beidio â’i brynu yn eich ardal leol.

Pryd bydd siopau trin gwallt yn ailagor?

Bydd hyn yn cael ei adolygu dros y tair wythnos nesaf wrth inni baratoi i adolygu’r rheoliadau ar 9 Gorffennaf. Rydym wedi gofyn i weithwyr trin gwallt a gwasanaethau gofal personol eraill i ddechrau cymryd camau i baratoi yn awr, rhag ofn y bydd yr amodau’n iawn i wneud newidiadau pellach i’r rheoliadau.

A fydd gweithwyr trin gwallt sy’n mynd i dai pobl yn cael ailddechrau gweithio pan fydd siopau trin gwallt yn ailagor?

Rydym yn dal i ystyried hyn. Dros y tair wythnos nesaf cyn ein hadolygiad nesaf o’r rheoliadau ar 9 Gorffennaf, rydym yn gweithio i benderfynu sut y gall gweithwyr trin gwallt ddechrau cynnig gwasanaethau yn ddioge l– mae angen inni edrych yn ofalus ar weithwyr trin gwallt sy’n mynd i dai pobl fel rhan o hyn.

Pryd fydd tafarndai, caffis a bwytai yn ailagor?

Mae tafarndai, caffis a bwytai eisoes yn cael agor i ddarparu gwasanaethau bwyd i fynd. Dros y tair wythnos o 18 Mehefin, cynhelir trafodaethau manwl rhwng Llywodraeth Cymru a’r sector am y dewisiadau a’r camau posibl ar gyfer agor y sector lletygarwch, gan gynnwys tafarndai, caffis a bwytai, o dan reolau cadw pellter cymdeithasol, os bydd lleihad yn lledaeniad y coronafeirws.

Ydych chi’n meddwl y bydd tafarndai gydag ardaloedd awyr agored mawr yn cael agor yn fuan, gan fod digon o le i gadw pellter cymdeithasol?

Ar hyn o bryd, nid yw’r gyfraith yn caniatáu i bobl ymgynnull – dim ond pobl o un cartref arall y caiff bobl gwrdd â nhw.

Caiff tafarndai, caffis a bwytai agor i ddarparu gwasanaethau bwyd i fynd. Dros y tair wythnos o 18 Mehefin, cynhelir trafodaethau manwl rhwng Llywodraeth Cymru a’r sector am y dewisiadau a’r camau posibl ar gyfer agor y sector lletygarwch, gan gynnwys tafarndai, caffis a bwytai, o dan reolau cadw pellter cymdeithasol, os bydd lleihad yn lledaeniad y coronafeirws.

Mannau addoli, mynwentydd ac angladdau

A gaf i fynd i'm man addoli?

Cewch fynd i fannau addoli ar gyfer gweddi preifat. Mae hyn yn cynnwys gweddïo gydag aelodau o’ch cartref chi, ond rhaid cadw at reolau cadw pellter cymdeithasol.

Pa wasanaethau neu seremonïau eraill sy’n cael eu caniatáu?

Ni chaniateir unrhyw wasanaethau neu seremonïau eraill ac eithrio angladdau ac o bosib seremonïau priodas a phartneriaethau sifil.

A fydd fy man addoli yn agor yn syth?

Bydd pob man addoli yn penderfynu a yw’n bwriadu agor at y dibenion cyfyngedig hyn. Bydd rhai’n penderfynu peidio ag agor a bydd eraill yn penderfynu agor yn ddiweddarach neu barhau i ddefnyddio technoleg i addoli. Dylech gysylltu â’ch man addoli i wirio a yw ar agor cyn mynd yno.

Rwy'n arweinydd crefyddol, a gaf i fynd i'm man addoli?

Cewch, ond ni fyddwch yn cael cynnal gwasanaethau gyda phobl eraill yn bresennol, ac eithrio angladdau, priodasau neu bartneriaethau sifil.

Fodd bynnag, cewch ddarlledu gweithred o addoli (heb gynulleidfa), boed hynny dros y rhyngrwyd neu fel rhan o ddarllediad radio neu deledu.

Mae aelod agos o'r teulu wedi marw ac mae angen i mi drefnu'r angladd – beth ddylwn i ei wneud?

Gall angladdau fod yn brofiad gofidus, ac mae effaith y coronafeirws yn ei gwneud yn anoddach fyth i wneud trefniadau ymarferol. Cyhoeddwyd canllawiau ar angladdau i awdurdodau lleol ac i unigolion.

A gaf i fynd i angladd?

Cewch, ond mae'n rhaid i chi gael gwahoddiad. Mae'r niferoedd wedi'u cyfyngu oherwydd yr angen i gadw pellter cymdeithasol.  

A gaf i fynd i fynwent i ymweld â bedd aelod o'r teulu?

Cewch. Ond dylech sicrhau eich bod yn dilyn yr arferion cadw pellter cymdeithasol wrth wneud hynny.

Chwaraeon a gweithgareddau awyr agored

Pa gyfleusterau chwaraeon a hamdden sydd ar agor bellach?

Caiff pob cyfleuster chwaraeon a hamdden awyr agored, ac eithrio meysydd chwarae a champfeydd awyr agored, fod ar agor. Disgwylir i weithredwyr y cyfleusterau gymryd pob cam angenrheidiol i reoli risg a chadw pellter cymdeithasol.

Ni chaniateir chwaraeon tîm na chwaraeon cyswllt, nac i grwpiau mawr o bobl ymgymryd â gweithgareddau hamdden.

Dyma rai o’r mathau o gyfleusterau sy’n gallu ailagor bellach, ar yr amod bod yr holl gamau eraill yn cael eu cymryd:

  • cyrtiau tennis awyr agored
  • lawntiau bowlio awyr agored
  • cyrtiau pêl-fasged awyr agored
  • meysydd ymarfer golff awyr agored
  • felodromau seiclo awyr agored
  • traciau athletau awyr agored
  • rhwydi criced awyr agored

Pa gyfleusterau chwaraeon a hamdden sy’n gorfod aros ar gau?

Mae'r rheoliadau cyfyngiadau coronafeirws yn nodi rhestr o’r holl fusnesau sy’n gorfod cau – maent yn cynnwys meysydd chwarae a champfeydd awyr agored. Mae'r cyfyngiadau ar ymgynnull mewn grwpiau mawr o bobl yn golygu, yn ymarferol, na chaiff caeau chwaraeon a reolir (fel caeau pêl-droed 5 bob ochr) agor.

Pam na chaiff rhai cyfleusterau dan do ac awyr agored agor o hyd?

Rydym yn dysgu mwy am y feirws bob dydd ac rydym yn gwybod bod y risg o’i drosglwyddo yn is yn yr awyr agored na dan do, Fodd bynnag, nid yw llai o risg yn golygu dim risg. Hyd yn oed o dan yr amgylchiadau hyn, mae’n hanfodol ein bod i gyd yn cadw pellter er mwyn parhau i atal y feirws rhag lledaenu.

Mae mwy o risg trosglwyddo yn gysylltiedig â rhai cyfleusterau awyr agored pan fo arwynebau neu offer yn cael eu rhannu rhwng pobl, megis meysydd chwarae a champfeydd awyr agored. Dylai caeau chwaraeon caeedig a reolir barhau i fod ar gau nes bydd chwaraeon tîm yn gallu ailddechrau.

A gaiff cyrtiau pêl-fasged ailagor?

Cânt, ond mae’r cyfyngiadau ar nifer y bobl sy’n gallu ymarfer corff gyda’i gilydd yn parhau am na chaniateir gemau tîm am y tro. Gallwch chwarae ar gwrt ar eich pen eich hun neu gydag aelod o’ch cartref neu un cartref arall.

A gaiff parciau sglefrio agor?

Mae pob cyfleuster chwaraeon a hamdden awyr agored, ac eithrio meysydd chwarae, campfeydd awyr agored a chaeau chwaraeon caeedig, yn cael agor os yw gweithredwyr y cyfleusterau yn barod i’w hagor. Dylent gymryd pob cam rhesymol i reoli risg a chadw pellter cymdeithasol. Fodd bynnag, ni chaniateir chwaraeon tîm nac i grwpiau o bobl o fwy na 2 gartref ymgymryd â gweithgareddau hamdden gyda'i gilydd.

A gaiff athletwyr elît ailgydio mewn hyfforddiant?

Mae rhai athletwyr elît, fel ymgeiswyr Gemau Olympaidd a Pharalympaidd, bellach yn gallu ailgydio yn eu rhaglenni hyfforddiant. Rhaid i’r athletwyr hyn ailgydio yn eu hyfforddiant strwythuredig a chael mynediad i gyfleusterau priodol i baratoi ar gyfer yr amser pan fydd cystadlaethau chwaraeon yn ailddechrau. Bydd Chwaraeon Cymru yn rheoli rhaglen ar gyfer carfan fach o athletwyr sydd wedi cael eu henwebu i gymryd rhan yn y rhaglen gan gorff llywodraethu cenedlaethol eu chwaraeon.

Mae protocolau pendant yn eu lle i ganiatáu i athletwyr hyfforddi a pharatoi’n ddiogel, heb beryglu eu hiechyd eu hunain nac iechyd a diogelwch pobl eraill.  

Mae’r newidiadau i’r rheoliadau ar 22 Mehefin yn caniatáu i athletwyr elît wneud y canlynol:

  • teithio at ddibenion hyfforddiant yng Nghymru ac ar draws y DU
  • hyfforddi mewn grwpiau bach a hyfforddi gyda hyfforddwyr nad ydynt yn aelodau o’u cartref
  • cael mynediad i gyfleusterau (er enghraifft pyllau nofio, campfeydd bocsio, campfeydd codi pwysau, cyrtiau sboncen) at ddibenion ymgymryd â hyfforddiant.

Gyda phwy y caf i wneud chwaraeon neu ymarfer corff?

Mae'n rhaid i chi wneud chwaraeon neu ymarfer corff ar eich pen eich hun, neu gydag aelodau un cartref arall. Ni chaniateir ymarfer corff neu wneud chwaraeon mewn grwpiau gyda ffrindiau.

A yw dosbarthiadau chwaraeon awyr agored yn cael ailddechrau?

Ydynt, ond aelodau o ddau gartref yn unig fydd yn cael cymryd rhan ar yr un pryd, a rhaid sicrhau y cedwir pellter cymdeithasol rhwng aelodau’r ddau gartref pob amser.

Beth am feicio?

Caniateir beicio ond mae’n rhaid ichi feicio ar eich pen eich hun neu gydag aelodau o’ch cartref neu un cartref arall. Ni chaniateir beicio mewn grwpiau mwy na hynny, waeth pa arferion cadw pellter cymdeithasol sy’n cael eu dilyn.

Disgwylir i bobl sicrhau mai dim ond ar lwybrau y maent yn gyfarwydd â nhw ac sydd o fewn eu lefel gallu y byddant yn beicio. Dylai beicwyr ar lwybrau a rennir fod yn ystyriol o gerddwyr, rhedwyr a phobl eraill sy'n beicio: dylent sicrhau bod 2 fetr rhyngddynt a phobl eraill, arafu eu cyflymder ac aros er mwyn i bobl allu pasio fel y bo'n briodol.

Caniateir beicio i'r gwaith, neu at ddibenion gwaith, os na allwch weithio gartref.

Oes rhaid imi aros yn fy ardal leol drwy gydol fy amser ar y beic?

Nac oes. Rydym yn cydnabod bod rhai mathau o ymarfer corff a fydd yn mynd â chi ymhellach oddi cartref er eich bod yn dechrau yn lleol. Er enghraifft, efallai y bydd beiciwr cryf yn gwneud ymarfer corff drwy fynd ar daith feicio o 40 milltir neu fwy.

Erbyn hyn, caniateir ymarfer corff fel math o deithio “llesol” yn y modd hwn (taith feicio hir, rhedeg neu gerdded), ond mae’n rhaid i’r ymarfer corff ddechrau a gorffen yn y cartref.

I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein canllawiau ar aros yn lleol ac ymgynnull.

Mae’r Gweinidogion wedi dweud y byddant yn codi’r cyfyngiad i aros yn lleol ar 6 Gorffennaf os bydd amodau’n caniatáu.

A gaf i yrru i rywle er mwyn ymarfer corff neu wneud chwaraeon?

Cewch, cyn belled â’ bod yn aros yn eich ardal leol. Ni ddylid teithio y tu allan i'ch ardal leol i ymarfer corff yng nghefn gwlad, ar yr arfordir nac mewn llecynnau hardd, er enghraifft – mae sawl llecyn hardd wedi cael ei gau er mwyn atal pobl rhag ymgynnull.

Dylech hefyd beidio â theithio (gyda char neu feic modur neu ar drafnidiaeth gyhoeddus) i gyrraedd pen draw eich ardal leol, i’ch galluogi i deithio ymhellach y tu allan i’ch ardal leol cyn dechrau eich ymarfer corff. Mae’r eithriad sy’n caniatáu i bobl ymarfer corff y tu allan i’w hardal leol yn nodi bod rhaid i’r ymarfer corff ddechrau a gorffen yn y cartref.

Mae’r Gweinidogion wedi dweud y byddant yn codi’r cyfyngiad i aros yn lleol ar 6 Gorffennaf os bydd amodau’n caniatáu.

Mae gennyf broblemau symudedd ac mae angen i mi yrru i ymarfer corff – a gaf i wneud hynny?

Cewch. Mae'n bosibl y bydd angen i bobl â phroblemau iechyd neu symudedd penodol deithio yn y car o'u cartref er mwyn ymarfer corff, gan gynnwys y tu allan i’w hardal leol o bosibl. Er enghraifft, mae'n bosibl na fydd rhai defnyddwyr cadair olwyn neu sgwteri symudedd yn gallu ymarfer corff yn union y tu allan i'w cartref am resymau ymarferol. O dan amgylchiadau o'r fath, dylid teithio i'r lleoliad hygyrch cyfleus agosaf.

A gaiff campfeydd agor?

Ni chaniateir i gampfeydd agor ar hyn o bryd.

A gaf i deithio i gymryd rhan mewn chwaraeon y tu allan i fy ardal leol?

Os yw eich hoff chwaraeon, ymarfer corff neu hamdden yn un na ellir ond ei wneud mewn lleoliadau penodol, mae angen gwneud hyn yn lleol o hyd. Gallai enghreifftiau o hyn gynnwys golff, pysgota neu chwaraeon dŵr. Os oes yna fan lle gallwch wneud y rhain o fewn eich ardal leol, mae croeso ichi wneud hynny, ond ni fyddai’n dderbyniol gyrru y tu allan i’ch ardal leol at y dibenion hyn.

Mae’r Gweinidogion wedi dweud y byddant yn codi’r cyfyngiad i aros yn lleol ar 6 Gorffennaf os bydd amodau’n caniatáu.

A gaf i chwarae golff?

Cewch, ond mae’n rhaid gwneud hyn yn lleol, sy’n golygu na chaiff pobl yrru i chwarae golff y tu allan i’w hardal leol, ac mae’n rhaid ichi chwarae golff ar eich pen eich hun neu gydag aelodau o’ch cartref chi neu un cartref arall yn unig.

Mae’r Gweinidogion wedi dweud y byddant yn codi’r cyfyngiad i aros yn lleol ar 6 Gorffennaf os bydd amodau’n caniatáu.

A gaf i bysgota?

Cewch. Ond mae’n rhaid ei wneud yn lleol, sy'n golygu na chaiff pobl yrru y tu allan i'w hardal leol, ac mae'n rhaid gwneud hynny ar eich pen eich hun neu gydag aelodau o'ch cartref chi neu un cartref arall.

Mae’r Gweinidogion wedi dweud y byddant yn codi’r cyfyngiad i aros yn lleol ar 6 Gorffennaf os bydd amodau’n caniatáu.

Pam mae fy mharc lleol ar gau?

Nid yw'r rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i barciau gau. Awdurdodau lleol fydd yn gwneud penderfyniadau ar agor parciau lleol. Rydym yn annog pobl i fynd allan i ymarfer corff ond wrth wneud hynny, dylai pobl osgoi mannau a all fod yn brysur (boed hynny'n rhannau penodol o barciau, llwybrau troed neu fannau eraill). Rydym hefyd yn cynghori pobl i osgoi defnyddio offer campfa mewn parciau oherwydd bod y risg o drosglwyddo’r feirws yn uwch pan fydd arwynebau neu offer yn cael eu rhannu.

Pwy fydd yn sicrhau bod y cyfleusterau’n cael eu defnyddio’n ddiogel ac yn gyfrifol?

Gweithredwyr cyfleuster neu dir chwaraeon sy’n gyfrifol am wneud yn siŵr ei fod yn cael ei ddefnyddio’n ddiogel ac yn gyfrifol. Mae hyn yn cynnwys atal pobl rhag ymgynnull a gorfodi mesurau cadw pellter cymdeithasol. Bydd llawer o’r cyfleusterau yn cael eu llywodraethu gan brotocolau llym a ddatblygwyd gan y corff llywodraethu cenedlaethol perthnasol – er enghraifft, mae gan y cyrff llywodraethu ar gyfer tennis, criced a bowlio ganllawiau i sicrhau y gall eu chwaraeon ailddechrau gan gadw pellter cymdeithasol a sicrhau hylendid dwylo.

A gaf i fynd allan yn y nghwch?

Cewch, os oes modd i chi wneud hynny’n lleol. Mae gweithgareddau hamdden yn yr awyr agored yn cael eu caniatáu o dan y rheoliadau os oes modd eu gwneud yn eich ardal leol, gan gynnwys hwylio, bordhwylio a mynd ar gwch modur. Yn gyffredinol, mae hyn yn golygu peidio â theithio'n bellach na phum milltir i farina neu borthladd.

Ni ddylid aros dros nos ar gychod, ac ni ddylid glanio yn unrhyw le y tu hwnt i'r ardal leol gyfagos, gan ddychwelyd i bwynt cychwyn y daith bob tro. Dylid ond gwneud gweithgareddau gyda chriw o bobl o'r un cartref. Rydym yn cynghori pobl sy'n defnyddio cychod i fod yn ystyrlon o'r effaith bosibl y gallech ei chael ar bobl eraill sy'n defnyddio'r dŵr, ac i beidio â gosod pwysau diangen ar yr RNLI, gwylwyr y glannau a'r gwasanaethau brys.

A gaf i fynd i wersylla?

Na chewch. Caniateir i chi wersylla yn eich gardd eich hun, ond rydym yn cynghori yn erbyn gwersylla yn unrhyw le arall, gan gynnwys gardd breifat person arall. Mae mannau gwersylla yn parhau ar gau i ymwelwyr.

Anifeiliaid

A gaf i ddefnyddio milfeddyg y tu allan i fy ardal leol?

Cewch, os nad oes gwasanaeth addas yn lleol ichi neu os ydych eisoes wedi cofrestru gyda milfeddyg y tu allan i’ch ardal leol. Fodd bynnag, dylech ohirio unrhyw driniaeth nad yw'n driniaeth frys.

A gaf i deithio i gasglu anifeiliaid anwes?

Nid yw casglu anifail anwes wedi'i restru fel esgus rhesymol dros adael eich ardal leol, ond ar sail lles anifeiliaid, rydym o'r farn y dylid caniatáu i chi deithio pellter rhesymol i gasglu anifail.

Y gwahaniaethau rhwng Cymru a Lloegr ac ati

Pam mae gwahanol gyfreithiau mewn gwahanol rannau o’r DU?

Nid yw’r coronafeirws yn parchu ffiniau, a lle y bo'n bosibl, bydd camau gweithredu cydgysylltiedig ar gyfer "y pedair gwlad" yn cael eu cymryd ledled y DU. Fodd bynnag, mae iechyd a gofal cymdeithasol yn feysydd sydd wedi’u datganoli, felly hefyd feysydd cysylltiedig fel ysgolion a thwristiaeth. Caiff y GIG yng Nghymru ei redeg gan Lywodraeth Cymru ac mae angen i ni reoli effaith y coronafeirws. Yn ogystal, mae rhai materion sy'n benodol i Gymru a dylid ymdrin â nhw er budd pobl Cymru.

Pam mae rhai cyfyngiadau yng Nghymru yn wahanol i'r cyfyngiadau yn Lloegr?

Cyflwynwyd y rhan fwyaf o'r cyfyngiadau ar yr un pryd yng Nghymru a Lloegr ac roeddent yn cynnwys llawer o ddarpariaethau tebyg. Fodd bynnag, roedd rhai gwahaniaethau arwyddocaol – er enghraifft, nid yw'r ddeddfwriaeth yn Lloegr wedi gosod gofynion ar gyflogwyr i gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau arferion cadw pellter corfforol lle mae pobl yn gweithio, ac ni wnaed unrhyw ddarpariaeth yn y ddeddfwriaeth yn Lloegr i'w gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ac awdurdodau parciau cenedlaethol gau llecynnau hardd.  

Mae'n ofynnol i bob llywodraeth adolygu'r rheoliadau bob 21 diwrnod, yn seiliedig ar amgylchiadau unigryw eu gwlad – gan gynnwys tystiolaeth wyddonol benodol. Mae Llywodraeth Cymru yn asesu i ba raddau y mae'r coronafeirws yn lledaenu, a'i effaith, yng Nghymru ac yn gwneud penderfyniadau yn unol â hynny.

Mae'r rheoliadau yn Lloegr yn caniatáu i bobl adael eu hardal leol at unrhyw ddiben hamdden – a fydd hyn yn golygu y bydd mwy o bobl yn dod i Gymru?

Rydym yn cael diweddariadau wythnosol gan y pedwar heddlu yng Nghymru, sy'n monitro cydymffurfiaeth â'r rheoliadau; rydym hefyd yn monitro llif traffig ar bob prif lwybr yng Nghymru ac i mewn i Gymru. Rydym yn deall y gall cael rheolau ychydig yn wahanol yng Nghymru o gymharu â Lloegr fod yn ddryslyd i rai, yn enwedig ar hyd y ffin, ac rydym yn gweithio'n galed iawn i wneud yn siŵr bod pobl yn ymwybodol mai rheolau Cymru sy'n berthnasol yng Nghymru.

Ni chaniateir i bobl deithio i Gymru er mwyn treulio amser yng nghefn gwlad neu ar yr arfordir o dan gyfraith Cymru ar hyn o bryd. Mae’r un rheolau yn berthnasol i bobl sy’n byw yng Nghymru ac i’r bobl nad ydynt yn byw yma.  Byddwn yn defnyddio pa ddulliau bynnag sydd ar gael i gyfleu'r neges hon, gan gynnwys gosod arwyddion ar y prif ffyrdd a'r traffyrdd ac erthyglau mewn papurau newydd lleol ar hyd ein ffiniau.

Does dim byd yn atal pobl sy’n byw ger ffin Cymru rhag dod i Gymru, ond fel pawb arall, mae’n rhaid iddynt aros yn lleol ar hyn o bryd. Mae Gweinidogion wedi dweud y byddant yn codi’r gofyniad i aros yn lleol ar 6 Gorffennaf os bydd amodau’n caniatáu.

Beth mae'r rheolau newydd yn ei olygu i bobl sy'n byw yng Nghymru ond yn gweithio yn Lloegr?

Nid yw ein cyngor cyffredinol wedi newid – dylai pobl weithio o gartref lle bynnag y bo'n bosibl a pharhau i osgoi unrhyw deithiau diangen. Os yw eich gweithle arferol yn Lloegr, dylech drafod eich trefniadau gweithio gyda'ch cyflogwr. Fodd bynnag, mae'r un "esgusodion rhesymol" i adael eich cartref i fynd i'r gwaith yn berthnasol yng Nghymru ac yn Lloegr.

Gorfodi a dirwyon

Pwy sy'n gorfodi'r cyfyngiadau?

Caiff y cyfyngiadau eu gorfodi gan swyddogion iechyd yr amgylchedd awdurdodau lleol a'r heddlu.

Beth gaiff swyddogion gorfodi ei wneud?

Cânt gyhoeddi hysbysiadau cosb benodedig neu argymell erlyn mewn llys ynadon. Yn ogystal, mae ganddynt bwerau eang i gymryd camau ymarferol i wasgaru cynulliadau, ei gwneud yn ofynnol i bobl fynd adref a chael mynediad i eiddo.

Beth fydd yr heddlu yn ei wneud?

Bydd yr heddlu yng Nghymru yn ymgysylltu â phobl, yn esbonio beth sydd angen iddynt ei wneud ac yn eu hannog i gydymffurfio. Ond rhoddwyd pwerau i'n heddluoedd a byddant yn eu defnyddio – caiff y cyfyngiadau eu gorfodi os na fydd pobl yn ymateb.

Beth yw'r cosbau ariannol?

Mae rheoliadau'r coronafeirws yn cynnwys darpariaethau ar gyfer cyhoeddi hysbysiad cosb benodedig os bydd unigolion yn torri'r rheoliadau, gan gynnwys dirwy o £60; bydd hyn yn codi i £120 am ail drosedd ac yn parhau i ddyblu ar gyfer troseddau dilynol, hyd at uchafswm o £1,920. Fodd bynnag, os caiff yr unigolyn ei erlyn, caiff llys orfodi unrhyw ddirwy (nid oes uchafswm).

Rydym yn gobeithio y bydd pobl yn deall difrifoldeb y sefyllfa rydym yn ei hwynebu ac y byddant yn cydymffurfio â'r rheoliadau, heb orfod eu cosbi.

A gaiff lefel y dirwyon ei chynyddu yng Nghymru?

Rydym wedi cynyddu dirwyon ar gyfer troseddau dilynol, ac yn adolygu’r dirwyon yn barhaus. Os bydd yr heddlu o'r farn bod angen dirwyon uwch, caiff hyn ei ystyried.

Rhannu’r dudalen hon