Neidio i'r prif gynnwy

Beth allwch chi a busnesau ei wneud yn ystod yr argyfwng a beth sy'n digwydd os byddwch yn torri'r Deddfau newydd hyn.

Cyffredinol

Pa gyfyngiadau sydd wedi cael eu rhoi ar waith?

Mae pedwar peth.

  1. Mae'n rhaid i rai busnesau penodol gau.
  2. Mae'n rhaid i bobl aros gartref oni bai bod ganddynt reswm da dros fynd allan.
  3. Lluniwyd rheolau o ran sicrhau pellter o 2m rhwng pobl pan fyddant yn mynd allan.
  4. Ni all pobl ymgynnull mewn mannau cyhoeddus.

Pam bod y cyfyngiadau hyn wedi cael eu rhoi ar waith?

Mae'r cyfyngiadau yn hanfodol er mwyn arafu lledaeniad y coronafeirws. Wrth deithio, cwrdd â'i gilydd a chyffwrdd â phethau mewn mannau cyhoeddus, gall pobl ledaenu'r coronafeirws. Rydym am i bobl aros gartref, diogelu'r GIG yng Nghymru ac achub bywydau.

Sut mae'r cyfyngiadau yn diogelu'r GIG ac yn achub bywydau?

Mae'r cyfyngiadau yn golygu y caiff lledaeniad y coronafeirws ei arafu, sy'n golygu y bydd llai o bobl yn mynd yn sâl. Os bydd gormod o bobl yn mynd yn sâl ar yr un pryd, ni fyddai'r GIG yn gallu trin pawb.

Sut mae Llywodraeth Cymru yn gallu gwneud hyn?

Mae iechyd y cyhoedd ac iechyd yn faterion sydd wedi eu datganoli. Felly mae gan Weinidogion Cymru bwerau eang o dan ddeddfwriaeth i ymateb i'r pandemig.

Am ba hyd y bydd y cyfyngiadau hyn ar waith?

Bydd y cyfyngiadau ar waith hyd nes y bydd y risg y bydd y coronafeirws yn lledaenu wedi lleihau. Bryd hynny, gellir eu llacio. Mae dyletswydd ar Weinidogion Cymru i adolygu’r cyfyngiadau hyn bob 3 wythnos.

A yw torri'r cyfyngiadau yn erbyn y gyfraith?

Ydy, fe'u gorfodir gan Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 a gallwch gael eich dirwyo am fethu â chydymffurfio â'r gyfraith.

Pam bod y cyfyngiadau yn newid?

Mae'r pwerau cyfreithiol ar gyfer llunio'r rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol sicrhau bod y cyfyngiadau yn gymesur â'r canlyniad y maent yn anelu at ei gyflawni. Mae'n rhaid eu hadolygu bob 21 diwrnod. Mae hyn yn golygu adolygu tystiolaeth wyddonol am ledaeniad y coronafeirws ac ystyried effaith y cyfyngiadau. Wedyn, bydd Gweinidogion Cymru yn ystyried pa weithgareddau y gellir eu hailddechrau.

Gwnaed mân newidiadau oherwydd yr effaith y mae'r cyfyngiadau (a'r ffaith bod pobl wedi cydymffurfio â chyngor Llywodraeth Cymru) wedi'i chael ar ledaeniad y coronafeirws yng Nghymru hyd yn hyn. Mae hyn wedi helpu i sefydlogi'r sefyllfa yng Nghymru – gan leihau nifer y bobl sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty â'r coronafeirws; nifer y bobl sy'n ddifrifol wael ar wardiau gofal dwys a nifer y bobl sy'n marw o'r coronafeirws.

A yw'r cyfyngiadau yn berthnasol i weithwyr hanfodol?

Ydynt. Mae'r Rheoliadau yn effeithio ar y ffordd y mae pobl yn byw eu bywydau bob dydd a ble y maent yn mynd. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi nodi categorïau o weithwyr hanfodol, a fydd yn pennu plant pwy all fynd i'r ysgol neu gael gofal plant. Fodd bynnag, nid yw'r Rheoliadau yn cyfeirio at 'weithwyr hanfodol' o gwbl, felly mae'n rhaid i bawb eu dilyn ni waeth beth fo'u statws 'gweithiwr hanfodol'.

Sut gallaf gael cyngor am yr hyn y gallaf ei wneud a'r hyn na allaf ei wneud?

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau i ategu'r rheoliadau sy'n gorfodi'r cyfyngiadau, yn ogystal â'r atebion hyn i gwestiynau cyffredin. Maent i'w gweld i gyd yma. Fodd bynnag, ni allwn ateb ymholiadau penodol gan unigolion gan y bydd yr ateb yn dibynnu ar yr amgylchiadau arbennig. Mae gwasanaethau cyngor cymunedol fel y Ganolfan Cyngor ar Bopeth ar gael o hyd ar-lein a thros y ffôn.

Aros gartref

A yw aros gartref yn golygu na allaf fynd allan o gwbl?

Nac ydy, gallwch fynd allan os bydd gennych "esgus rhesymol" dros wneud hynny. Mae hyn yn cynnwys yr angen i wneud pethau fel mynd i'r gwaith, siopa am fwyd a mynd i weld meddyg. Ond y neges sylfaenol yw ein bod am i bobl aros gartref gymaint â phosibl. Mae hyn yn arbennig o bwysig os ydych yn berson eithriadol o agored i niwed (pobl sydd wedi cael llythyr gan Brif Swyddog Meddygol Cymru yn gofyn iddynt fabwysiadu mesurau gwarchod caeth i'w diogelu rhag y feirws).

Os byddwch yn mynd allan, dylech gadw pellter o 2 fetr rhyngoch chi a phobl eraill a golchi eich dwylo yn aml. Gweler taflen ffeithiau Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael rhagor o wybodaeth.

Beth na allaf ei wneud?

Y gofyniad cyfreithiol yw na allwch adael y tŷ heb esgus rhesymol. Fodd bynnag, yn ogystal ag ystyried yr hyn na allwch ei wneud gan fod y gyfraith yn nodi hynny, byddem yn annog pobl i ystyried hefyd yr hyn na ddylech ei wneud gan y gallai gynyddu lledaeniad y coronafeirws. Felly hyd yn oed os gallwch adael eich cartref, dylech ystyried a oes dewisiadau amgen i hynny, fel gweithio o gartref, siopa ar-lein neu ymarfer corff yn yr ardd.

Beth gallaf i ei wneud?

There is a list of reasonable excuses to leave home, such as going to work, going to buy food and having medical treatment. Other reasons for leaving home that aren’t listed may, however, also be allowed if they are reasonable. Please more detailed guidance on the regulations.

Mae'n rhaid i mi fynd i'r llys – a ddylwn fynd o hyd?

Dylech. Os bydd eich achos llys yn mynd rhagddo o hyd, gallwch adael eich tŷ er mwyn mynd i'r llys, ar yr amod nad ydych yn hunanynysu – os felly, dylech gysylltu â'r llys i gael rhagor o wybodaeth. Dylai'r llysoedd eich helpu i sicrhau bod 2 fetr rhyngoch chi a phobl eraill. Nid yw'r rheolau sy'n nodi na ddylai mwy na 2 berson ymgynnull mewn man cyhoeddus yn berthnasol i achosion cyfreithiol.

Mae amodau fy mechnïaeth yn ei gwneud yn ofynnol i mi fynd i orsaf yr heddlu neu fodloni gofynion eraill, gaf i adael fy nghartref er mwyn gwneud hyn?

Cewch, ar yr amod nad ydych yn hunanynysu – os felly, dylech gysylltu â'r llys a osododd yr amodau i gael rhagor o wybodaeth.

Gaf i symud tŷ?

Cewch, cewch wneud hynny, ond ni ddylech wneud hynny os gellir gohirio eich dyddiad symud.

Teithio a thrafnidiaeth gyhoeddus

Gaf i yrru i'r arfordir neu i gefn gwlad?

Na chewch. Nid ystyrir bod hynny'n esgus rhesymol dros adael eich cartref. Mae llawer o ardaloedd o harddwch wedi cael eu cau er mwyn atal pobl rhag teithio ac ymgynnull.

Gaf i yrru i'm carafan wyliau er mwyn gwneud gwaith cynnal a chadw a thrwsio cyffredinol?

Na chewch.  Nid ystyrir bod hynny'n esgus rhesymol dros adael eich cartref. Beth bynnag, mae'n ofynnol i barciau carafannau a pharciau gwyliau fod ar gau, er bod rhai eithriadau – mae rhai pobl yn parhau ar safleoedd o'r fath gan y byddent yn ddigartref fel arall.

Gaf i yrru i aros yn fy ail gartref?

Na chewch. Nid ystyrir bod hynny'n esgus rhesymol dros adael eich cartref. Mae teithio i ail gartref yn cynyddu'r risg y byddwch yn lledaenu'r feirws ac mae hefyd yn rhoi pwysau ar y GIG mewn ardaloedd lle nad oes digon o allu ac adnoddau i ymdrin â mewnlif o bobl.

Mae fy mab/merch wedi gadael eiddo mewn llety myfyrwyr, ac mae angen ei wagio. Gawn ni deithio yno i gasglu'r eiddo?

Os na ellir gohirio hyn a bod angen gwneud hynny er mwyn cydymffurfio â thelerau cytundeb y llety, byddai'n esgus rhesymol.

Gaf i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus?

Cewch, os bydd gennych esgus rhesymol dros adael eich cartref. Fodd bynnag, mae llai o wasanaethau trên ac mae llai o le ar lawer o fysiau er mwyn sicrhau y gall pobl barhau i gadw pellter cymdeithasol.

Cau busnesau, gwaith a chadw pellter corfforol

Sut mae'r cyfyngiadau yn effeithio ar fusnesau?

Mae llawer o fusnesau wedi gorfod cau ac mae angen i bob busnes arall gymryd pob mesur rhesymol i gadw pobl ar wahân. Dylai pobl weithio o gartref ble bynnag y gallant wneud hynny. Caiff hyn o bosibl amrywiaeth eang o effeithiau ar fusnesau. Gweler y canllawiau i fusnesau a chyflogwyr.

Gaf i agor fy musnes?

Mae'r cyfyngiadau yn cynnwys rhestr o'r holl fusnesau y mae'n rhaid iddynt fod ar gau – mae'r rhain yn cynnwys bariau a bwytai; cyfleusterau hamdden a gwestai. Mae'n ofynnol i'r rhan fwyaf o allfeydd manwerthu fod ar gau, ond gallant dderbyn archebion dros y rhyngrwyd a'r ffôn, gan gynnwys gwasanaeth "clicio a chasglu". Gweler y canllawiau ar gau busnesau.

Os byddaf yn mynd i'r gwaith, beth y mae'n rhaid i'm cyflogwr ei wneud?

Lle y bo'n bosibl, dylai pobl weithio o gartref. Lle nad yw hynny'n bosibl, mae'n rhaid i gyflogwyr gydymffurfio â dyletswydd i gadw pellter corfforol, sy'n golygu bod yn rhaid cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau pellter o 2 fetr rhwng pobl wrth iddynt weithio. Gweler y canllawiau ar fesurau rhesymol i gael rhagor o wybodaeth.

Mae fy nghyflogwr am i mi fynd i'r gwaith. A oes rhaid i mi wneud hynny?

Dim ond os nad yw'n rhesymol ymarferol iddynt weithio o gartref y dylai pobl deithio i'r gwaith. Os oes gennych symptomau'r coronafeirws, os ydych yn byw yn yr un tŷ â rhywun â symptomau neu os ydych yn perthyn i grŵp sy'n wynebu risg neu grŵp eithriadol o agored i niwed, mae'n rhaid i chi aros gartref.

Dylai cyflogwyr a chyflogeion drafod eu trefniadau gweithio. Dylai cyflogwyr gymryd pob cam posibl i helpu eu cyflogeion i weithio o gartref, gan gynnwys darparu cyfarpar TG addas. Mae dyletswydd gyfreithiol ar wahân ar gyflogwyr hefyd i gymryd camau rhesymol i sicrhau na chaiff eu cyflogeion eu hamlygu i risgiau i'w hiechyd.

Gaf i wneud gwaith adeiladu neu drwsio yng nghartref rhywun?

Cewch. Gall gwaith a wneir yng nghartrefi pobl, er enghraifft gan weithwyr fel plymwyr a thrydanwyr, barhau. Fodd bynnag, ein cyngor yw y dylai gweithwyr o’r fath ac aelodau'r aelwyd fod yn iach ac na ddylai fod ganddynt unrhyw symptomau'r coronafeirws. Gweler y canllawiau hunanynysu i gael rhagor o wybodaeth. Fel busnesau eraill, mae'n rhaid i weithwyr sy’n gweithio yng nghartrefi pobl eraill gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau bod pellter o 2 fetr rhwng pobl bob amser. Gweler y canllawiau ar fesurau rhesymol i gael rhagor o wybodaeth.

Rydym yn argymell na ddylid gwneud unrhyw waith mewn unrhyw aelwyd sy'n hunanynysu neu lle mae person yr ystyrir ei fod yn eithriadol o agored i niwed yn ymgymryd â mesurau 'gwarchod', onid yw'r gwaith hwnnw er mwyn trwsio nam sy'n peri risg uniongyrchol i ddiogelwch pobl – er enghraifft, gwaith plymio brys. Yn yr achosion hyn, gall Iechyd Cyhoeddus Cymru roi cyngor i weithwyr ac aelodau aelwydydd. Ond ni ddylai gweithiwr sydd â symptomau’r coronafeirws wneud unrhyw waith o gwbl, ni waeth pa mor ysgafn yw’r symptomau.

Gaf i wneud gwaith gwirfoddol?

Cewch. Nid oes unrhyw gyfyngiad ar fynd allan i ddarparu gofal neu help i berson agored i niwed, gan gynnwys help brys. Mae hyn yn cynnwys mynd i nôl bwyd a meddyginiaethau iddynt. Ond mae'n bwysig na fyddwch yn achosi unrhyw risg i chi eich hun na'r person rydych yn gofalu amdano. Gweler y canllawiau gwirfoddoli i gael rhagor o wybodaeth.

Nid yw fy nghyflogwr wedi cymryd unrhyw gamau i sicrhau pellter o 2 fetr rhwng pobl wrth weithio, beth y dylwn ei wneud?

Dylech godi hyn â'ch undeb llafur neu gynrychiolwyr eraill – neu'n uniongyrchol â'r cyflogwr. Gobeithio y gallwch ddatrys unrhyw broblemau drwy eu trafod, ond gallwch roi gwybod i adran iechyd yr amgylchedd eich awdurdod lleol am fethiannau i gymryd camau rhesymol.

Sut y bydd busnesau yn ymwybodol o’r gyfraith?

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyhoeddusrwydd eang i’r cyfreithiau brys hyn ac, yn y ffordd arferol, mae’r Rheoliadau ar gael ar wefan www.legislation.gov.uk ac mae’r canllawiau cysylltiedig ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.   Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi fersiwn wedi ei chydgrynhoi o'r Rheoliadau.

Gofal iechyd a gofalwyr

Mae angen gwasanaethau iechyd arnaf, beth y dylwn ei wneud?

Gallwch adael eich cartref er mwyn defnyddio gwasanaethau iechyd lleol, ond dylech ffonio cyn gwneud hynny. Dilynwch unrhyw ganllawiau y mae eich meddygfa neu'ch gwasanaeth iechyd lleol wedi'u rhoi ar waith i'ch diogelu chi a'r staff, gan gynnwys sicrhau bod 2 fetr rhyngoch chi a chleifion eraill sy'n aros i weld meddyg teulu neu nyrs. Os gallwch aildrefnu eich apwyntiad, dylech wneud hynny, a defnyddiwch wasanaethau ar-lein GIG 111 Cymru lle y bo'n bosibl.

Os bydd gennych symptomau'r coronafeirws, peidiwch â mynd i weld eich meddyg teulu, i'r ysbyty na'r fferyllfa. I gael rhagor o wybodaeth, defnyddiwch wiriwr symptomau GIG 111 Cymru.

Beth y dylwn ei wneud os bydd gennyf apwyntiad ysbyty neu feddyg teulu?

Rydym yn cynghori pawb i gael cymorth meddygol o bell, lle bynnag y bo'n bosibl. Fodd bynnag, os oes gennych apwyntiad ysbyty neu apwyntiad meddygol arall wedi’i drefnu yn ystod y cyfnod hwn, siaradwch â'ch meddyg teulu neu'ch clinigydd er mwyn sicrhau eich bod yn parhau i gael y gofal sydd ei angen arnoch ac i ystyried pa apwyntiadau y gellir eu gohirio.

Mae angen gofalwr arnaf, a all fy ngofalwr fy helpu o hyd?

Gall, mae eithriadau amrywiol i'r cyfyngiadau sy'n golygu y gall pobl gael gofal o hyd.

Pobl agored i niwed a'r digartref

A yw'r cyfyngiadau yn berthnasol i bobl agored i niwed?

Ydynt, mae'n arbennig o bwysig bod pobl eithriadol o agored i niwed yn aros gartref gymaint â phosibl. Pobl eithriadol o agored i niwed yng Nghymru yw'r rheini sydd ag un o blith rhestr benodol iawn o gyflyrau iechyd difrifol hirdymor a oedd ganddynt eisoes. Mae effaith eu cyflwr iechyd hirdymor a oedd ganddynt eisoes ar eu system imiwnedd yn golygu bod risg uchel y cânt salwch difrifol os byddant yn dod i gysylltiad â'r coronafeirws. Mae'r rheini yn y sefyllfa hon wedi cael llythyr gan Brif Swyddog Meddygol Cymru yn gofyn iddynt fabwysiadu mesurau gwarchod caeth i'w diogelu rhag y feirws. Cyhoeddwyd canllawiau ar sut y gallwn ddiogelu ein hunain ac eraill rhag y coronafeirws.

Beth yw'r cyngor os wyf yn byw â pherson agored i niwed?

If you live in a house with a vulnerable person refer to our household guidance.

Rwy'n ddigartref, beth y dylwn ei wneud?

Darparwyd cyllid ychwanegol i awdurdodau lleol yng Nghymru er mwyn helpu pobl sy'n ddigartref neu'n cysgu allan. Os oes angen cymorth arnoch, dylech gysylltu â'r tîm opsiynau tai yn eich ardal leol. Bydd manylion cyswllt y tîm ar wefan eich awdurdod lleol.

Sicrhewch fod 2 fetr rhyngoch chi a phobl eraill a darllenwch daflen ffeithiau Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael rhagor o wybodaeth. Ni ddylech ymgynnull mewn man cyhoeddus â mwy nag un person arall.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ariannu Shelter Cymru er mwyn darparu cyngor a chymorth annibynnol ar dai. Ceir rhagor o wybodaeth, cyngor a chymorth ar wefan Shelter Cymru.

Teuluoedd a chwrdd ag eraill

Rwy'n rhannu cyfrifoldeb rhieni ar gyfer fy mhlentyn, a all ymweld â'r person arall â chyfrifoldeb rhieni?

Gall. Gallwch barhau â'r trefniadau sy'n bodoli eisoes ar gyfer mynediad a chyswllt os byddwch yn rhannu cyfrifoldeb rhieni ar gyfer eich plentyn â pherson arall. Dylech sicrhau eich bod yn dilyn y canllawiau ar olchi dwylo'n rheolaidd ac ni ddylech achosi risg i eraill os byddwch chi neu aelod o'ch aelwyd yn hunanynysu. Fodd bynnag, os oes gennych symptomau'r coronafeirws, os ydych yn byw yn yr un tŷ â rhywun â symptomau, neu os ydych yn perthyn i grŵp sy'n wynebu risg neu grŵp eithriadol o agored i niwed, dylech aros gartref ac ni ddylai plant ymweld.

Gaf i gwrdd â ffrindiau neu deulu os gwnaf hynny yn yr awyr agored?

Na chewch. Ni chaniateir i chi adael eich cartref yn benodol er mwyn cwrdd â ffrindiau a theulu ar hyn o bryd. Ein cyngor cyffredinol yw y dylech aros gartref. Mae angen esgus rhesymol arnoch er mwyn mynd allan, ac nid yw trefnu i gwrdd â ffrindiau a theulu yn esgus rhesymol. Yn ogystal, mae'r rheoliadau yn nodi na ddylai pobl ymgynnull mewn man cyhoeddus.

Gaf i gwrdd ag eraill neu ymarfer corff ag eraill os byddaf yn cadw pellter cymdeithasol?

Na chewch. Ni chaniateir i chi adael eich cartref yn benodol er mwyn cwrdd â ffrindiau a theulu ar hyn o bryd, ni waeth pa un a fyddwch yn cadw pellter cymdeithasol ai peidio. Ni chewch wneud hynny wrth ymarfer corff ychwaith – dim ond ar eich pen eich hun neu ag aelod o'ch aelwyd y gallwch ymarfer corff.

Gaf i fynd am bicnic yn y parc?

Na chewch. Ni chaniateir i chi adael eich cartref yn benodol er mwyn mynd am bicnic ar hyn o bryd. Gallwch adael eich cartref er mwyn ymarfer corff ac rydym hefyd o'r farn bod gweithgareddau sy'n "gysylltiedig" ag ymarfer corff, sydd o fudd i iechyd neu lesiant pobl, yn rhesymol. Felly gallech fynd am dro (fel eich ymarfer corff) ac aros i gael rhywbeth i'w fwyta neu eistedd yn y parc. Ond dylech dreulio'r rhan fwyaf o'r amser y tu allan i'ch cartref yn ymarfer corff, a'ch rheswm dros adael eich cartref fydd er mwyn ymarfer corff.

Mae unrhyw weithgareddau "cysylltiedig" yn ddarostyngedig i'r gofyniad i beidio ag ymgynnull gydag eraill, a dylid dilyn y cyngor ar gadw pellter cymdeithasol hefyd.

Siopa a bwyd

Gaf i fynd i siopa?

Cewch. Mae'n ofynnol i lawer o siopau fod ar gau ond mae archfarchnadoedd, siopau nwyddau haearn a rhai siopau eraill ar agor – mae gadael eich cartref er mwyn mynd i un o'r siopau hyn yn esgus rhesymol. Mae'n ofynnol i'r siopau sydd ar agor roi mesurau ar waith i sicrhau bod pellter o 2 fetr rhwng pobl.

Os byddaf yn prynu rhywbeth ar-lein, gaf i ei gasglu o'r siop?

Ar yr amod nad yw'r pellter a gaiff ei deithio i gasglu'r eitem yn afresymol, caniateir i chi wneud hyn. Mae'n rhaid i'r siop sy'n darparu'r gwasanaeth roi mesurau ar waith i sicrhau bod pellter o ddau fetr rhwng pobl wrth iddynt gasglu'r eitem a brynwyd.

Pam bod canolfannau garddio yn cael agor?

Ar y cyfan, mae'r rhan fwyaf o ganolfannau garddio yn yr awyr agored, ac mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod y risg o ledaenu'r coronafeirws yn sylweddol is yn yr awyr agored nag o dan do. Mae hefyd yn ofynnol iddynt roi mesurau ar waith i sicrhau bod pellter o 2 fetr rhwng pobl.

Pam bod bwytai bwyd brys drwy ffenestr y car yn agor?

Caniatawyd prynu cludfwyd o'r cychwyn. Penderfynodd llawer o siopau cludfwyd y dylent gau er gwaethaf hyn, ond maent bellach yn ailagor.

Mannau addoli, mynwentydd ac angladdau

Gaf i fynd i'm man addoli?

Na chewch, mae mannau addoli ar gau ac eithrio ar gyfer angladdau.

Rwy'n arweinydd crefyddol, gaf i fynd i'm man addoli?

Cewch, ond ni fyddwch yn gallu cynnal gwasanaethau gyda phobl eraill yn bresennol, ac eithrio angladdau.

Fodd bynnag, gallwch ddarlledu gweithred o addoli (heb gynulleidfa), boed hynny dros y rhyngrwyd neu fel rhan o ddarllediad radio neu deledu.

Mae aelod agos o'r teulu wedi marw ac mae angen i mi drefnu'r angladd – beth y dylwn ei wneud?

Gall angladdau fod yn brofiad gofidus, ac mae effaith y coronafeirws yn ei gwneud yn anoddach fyth i wneud trefniadau ymarferol. Cyhoeddwyd canllawiau i awdurdodau lleol ac i unigolion.

Gaf i fynd i angladd?

Cewch, ond mae'n rhaid i chi gael gwahoddiad. Mae'r niferoedd wedi'u cyfyngu gan yr angen i sicrhau bod mesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith.

Gaf i fynd i fynwent i ymweld â bedd aelod o'r teulu?

Cewch. Ond dylech sicrhau eich bod yn dilyn yr arferion cadw pellter cymdeithasol wrth wneud hynny.

Ymarfer corff a chwaraeon

Pa fath o ymarfer corff gallaf i ei wneud?

Nid yw'r rheoliadau yn atal unrhyw fath penodol o ymarfer corff, ond yn ymarferol, mae'r math o ymarfer corff a ganiateir wedi'i gyfyngu gan rai o'r cyfyngiadau eraill a roddwyd ar waith i reoli'r coronafeirws. Er enghraifft, mae pyllau nofio dan do wedi cael eu cau; mae cyrtiau chwaraeon a chanolfannau hamdden ar gau ac mae rhai llwybrau troed, ardaloedd o harddwch a rhannau o gefn gwlad ar gau. Mae'n rhaid i chi hefyd aros yn lleol.

Er mwyn osgoi cynyddu'r baich ar y GIG, rydym hefyd yn cynghori pobl i beidio â chymryd risgiau diangen wrth ymarfer corff.

Gyda phwy y gallaf ymarfer corff?

Mae'n rhaid i chi ymarfer corff ar eich pen eich hun neu gydag aelodau o'ch aelwyd.

Gaf i ymarfer corff â ffrindiau os byddwn yn cadw pellter cymdeithasol?

Na chewch. Mae'n rhaid i chi ymarfer corff ar eich pen eich hun neu gydag aelodau o'ch aelwyd. Fe'ch cynghorir i gadw eich pellter oddi wrth bobl eraill wrth ymarfer corff ond nid yw hynny'n golygu y gallwch ymarfer corff gydag eraill.

Beth am feicio?

Disgwylir i bobl sicrhau mai dim ond ar lwybrau y maent yn gyfarwydd â nhw ac sydd o fewn eu lefel gallu y byddant yn beicio. Dylai beicwyr ar lwybrau a rennir fod yn ystyriol o gerddwyr, rhedwyr a phobl eraill sy'n beicio: dylent sicrhau bod dau fetr rhyngddynt a phobl eraill, arafu eu cyflymder ac aros er mwyn i bobl allu pasio fel y bo'n briodol. Ystyrir hefyd bod beicio i'r gwaith, neu mewn perthynas â'r gwaith, yn esgus rhesymol i fod allan, os na allwch weithio gartref.

Mae'n rhaid i chi aros yn lleol (ni ddylech deithio pellter sylweddol o'ch cartref) ac mae'n rhaid i chi feicio ar eich pen eich hun neu gydag aelodau o'ch aelwyd. Ni chaniateir i chi feicio gydag eraill mewn grwpiau, p'un a fyddwch yn cadw pellter cymdeithasol ai peidio.

Gaf i yrru i rywle er mwyn ymarfer corff?

Yn gyffredinol, ni ddylai pobl yrru o'u cartref er mwyn ymarfer corff. Ni ddylid teithio y tu allan i'ch ardal leol i ymarfer corff yng nghefn gwlad, ar yr arfordir nac mewn ardaloedd eraill o harddwch, er enghraifft – mae sawl ardal o harddwch wedi cael eu cau er mwyn atal pobl rhag ymgynnull.

Mae gennyf broblemau symudedd ac mae angen i mi yrru i ymarfer corff – gaf i wneud hynny?

Cewch. Mae'n bosibl y bydd angen i bobl â phroblemau iechyd neu symudedd penodol deithio yn y car o'u cartref er mwyn ymarfer corff. Er enghraifft, mae'n bosibl na fydd rhai defnyddwyr cadair olwyn yn gallu ymarfer corff yn union y tu allan i'w cartref am resymau ymarferol. O dan amgylchiadau o'r fath, dylid teithio i'r lleoliad hygyrch cyfleus agosaf. Fodd bynnag, mae'n rhaid i chi aros yn lleol.

Beth yw ystyr aros yn lleol?

Ni ddylai pobl deithio pellter sylweddol o'u cartref i ymarfer corff. Nid ydym wedi darparu diffiniad manylach yn fwriadol, gan y gellid ei ystyried yn fympwyol, a bydd hefyd yn dibynnu ar yr amgylchiadau – gallai'r hyn sy'n "lleol" yng Nghaerdydd ar y naill law, ac yn y canolbarth ar y llaw arall, fod yn gwbl wahanol. Gofynnir i bobl fod yn gall. Os ydych yn byw yng Nghaerdydd a'ch bod wedi gyrru i Borthcawl i ymarfer corff ar y traeth, byddwch yn gwybod nad ydych wedi aros yn lleol.

A all campfeydd agor?

Ni chaniateir i gampfeydd agor ar hyn o bryd. Am y tro, rydym yn parhau i gynghori pobl i ymarfer corff yn eu cartref neu yn yr awyr agored.

Gaf i ymarfer corff drwy chwarae golff?

Caniateir i chi chwarae golff ar eich pen eich hun neu ag aelod o'ch aelwyd ar gwrs sy'n lleol i'ch cartref. Ar hyn o bryd, nid yw cyrsiau golff wedi'u rhestru yn y rheoliadau fel busnes neu safle y mae'n rhaid iddo gau, ond rydym yn cydnabod na fydd llawer ohonynt yn gallu aros ar agor yn seiliedig ar y cyfyngiadau ar weithgareddau.

Rydym yn parhau i baratoi ar gyfer y dyfodol. Byddem yn disgwyl i Golff Cymru, gan weithio gyda'r R&A a chyrff llywodraethu eraill y DU, fonitro'r sefyllfa yn Lloegr, lle caiff golff ei ganiatáu o 13 Medi, yn ofalus a llunio protocolau manwl ar gyfer penderfyniad posibl i ailagor cyrsiau golff yn rhannol yng Nghymru pan fydd yr amodau yn briodol.

Gaf i bysgota?

Os byddwch yn cael eich ymarfer corff drwy bysgota, yna ar yr amod eich bod yn cydymffurfio â'r gofynion eraill, cewch wneud hynny. Mae'r rheoliadau yn datgan y dylid ymarfer corff yn lleol, sy'n golygu na all pobl yrru i ymarfer corff y tu allan i'w hardal leol, ac mae'n rhaid i chi ymarfer corff ar eich pen eich hun neu gydag aelod o'ch aelwyd. Dylech sicrhau mai prif ddiben gadael eich cartref yw ymarfer corff.

Gaf i fynd i'r parc lleol?

Nid yw'r rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i barciau gau. Awdurdodau lleol fydd yn gwneud penderfyniadau ar agor parciau lleol. Rydym yn annog pobl i fynd allan i ymarfer corff ond wrth wneud hynny, dylai pobl osgoi mannau a all fod yn brysur (boed hynny'n rhannau penodol o barciau, llwybrau troed neu fannau eraill).

Anifeiliaid

Gaf i fynd at y milfeddyg?

Cewch, mae hyn yn esgus rhesymol dros adael eich cartref. Fodd bynnag, dylech ohirio unrhyw driniaeth nad yw'n driniaeth frys.

Gaf i fynd allan er mwyn mynd â'r ci am dro?

Cewch, ymarfer corff yw hyn (ac wrth gwrs mae hynny o fudd i chi a'r ci).

Gaf i deithio i gasglu anifeiliaid anwes newydd?

Nid yw casglu anifail anwes newydd wedi'i restru fel esgus rhesymol dros adael eich cartref, ond ar sail lles anifeiliaid, rydym o'r farn y dylid caniatáu i chi deithio pellter rhesymol i gasglu anifail.

Y gwahaniaethau rhwng Cymru a Lloegr ac ati

Pam bod gwahanol gyfreithiau ledled y DU?

Nid yw'r coronafeirws yn parchu ffiniau, a lle y bo'n bosibl, bydd camau gweithredu cydgysylltiedig ar gyfer "y pedair gwlad" yn cael eu cymryd ledled y DU. Fodd bynnag, mae iechyd a gofal cymdeithasol yn feysydd sydd wedi eu datganoli, felly hefyd feysydd cysylltiedig fel ysgolion a thwristiaeth. Caiff y GIG yng Nghymru ei redeg gan Lywodraeth Cymru ac mae angen i ni reoli effaith y coronafeirws. Yn ogystal, ceir rhai materion sy'n benodol i Gymru a dylid ymdrin â nhw er budd pobl Cymru.

Pam bod rhai cyfyngiadau yng Nghymru yn wahanol i'r cyfyngiadau yn Lloegr?

Cyflwynwyd y rhan fwyaf o'r cyfyngiadau ar yr un pryd yng Nghymru a Lloegr ac roeddent yn cynnwys llawer o ddarpariaethau tebyg. Fodd bynnag, roedd rhai gwahaniaethau arwyddocaol – er enghraifft, nid yw'r ddeddfwriaeth yn Lloegr wedi gosod gofynion ar gyflogwyr i gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau arferion cadw pellter corfforol lle mae pobl yn gweithio, ac ni wnaed unrhyw ddarpariaeth yn y ddeddfwriaeth yn Lloegr i'w gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ac awdurdodau parciau cenedlaethol gau ardaloedd o harddwch.

Mae'n ofynnol i bob llywodraeth adolygu'r rheoliadau bob 21 diwrnod, yn seiliedig ar amgylchiadau unigryw eu gwlad – gan gynnwys tystiolaeth wyddonol benodol. Mae Llywodraeth Cymru yn asesu i ba raddau y mae'r coronafeirws yn lledaenu, a'i effaith, yng Nghymru ac yn gwneud penderfyniadau yn unol â hynny.

Yn Lloegr, caniateir i bobl gwrdd ag un person o'r tu allan i'w haelwyd, pam na chawn ni wneud hynny?

Penderfynodd Llywodraeth Cymru beidio â newid y gyfraith yn yr un ffordd â Lloegr. Yn Lloegr, caniateir bellach i chi fynd allan at unrhyw ddiben hamdden, a chwrdd ag un person arall nad yw'n byw yn eich cartref. Yn ein barn ni, gallai hyn arwain at gynnydd mewn cynulliadau anghyfreithlon ac at bobl yn cymysgu'n fwy cyffredinol, ac nid yw'n gydnaws â'r gofyniad sylfaenol i aros gartref lle y bo'n bosibl er mwyn helpu i gyfyngu ar ledaeniad y feirws.

Fodd bynnag, fel yn achos yr holl agweddau eraill ar y cyfyngiadau, caiff yr agwedd hon ei hadolygu'n barhaus.

Mae'r rheoliadau yn Lloegr yn caniatáu i bobl adael eu cartref at unrhyw ddiben hamdden – a fydd hyn yn golygu y bydd mwy o bobl yn dod i Gymru?

Rydym yn cael diweddariadau wythnosol gan y pedwar heddlu yng Nghymru, sy'n monitro cydymffurfiaeth â'r rheoliadau; rydym hefyd yn monitro llif traffig ar bob prif lwybr yng Nghymru ac i mewn i Gymru. Rydym yn deall y gall cael rheolau ychydig yn wahanol yng Nghymru o gymharu â Lloegr fod yn ddryslyd i rai, yn enwedig ar hyd y ffin, ac rydym yn gweithio'n galed iawn i wneud yn siŵr bod pobl yn ymwybodol mai rheolau Cymru sy'n berthnasol yng Nghymru.

Ni chaniateir i bobl deithio i Gymru er mwyn treulio amser yng nghefn gwlad neu ar yr arfordir o dan gyfraith Cymru. Byddwn yn defnyddio pa ddulliau bynnag sydd ar gael i gyfleu'r neges hon, gan gynnwys gosod arwyddion ar y prif ffyrdd a'r traffyrdd ac erthyglau mewn papurau newydd lleol ar hyd ein ffiniau.

Beth mae'r rheolau newydd yn ei olygu i bobl sy'n byw yng Nghymru ond yn gweithio yn Lloegr?

Nid yw ein cyngor cyffredinol wedi newid – dylai pobl weithio o gartref lle bynnag y bo'n bosibl a pharhau i osgoi unrhyw deithiau diangen. Os yw eich gweithle arferol yn Lloegr, dylech drafod eich trefniadau gweithio gyda'ch cyflogwr. Fodd bynnag, mae'r un "esgus rhesymol" i adael eich cartref i fynd i'r gwaith yn berthnasol yng Nghymru ac yn Lloegr.

Gorfodi a dirwyon

Pwy sy'n gorfodi'r cyfyngiadau?

Caiff y cyfyngiadau eu gorfodi gan swyddogion iechyd yr amgylchedd awdurdodau lleol a'r heddlu.

Beth gall swyddogion gorfodi ei wneud?

Gallant gyhoeddi hysbysiadau cosb benodedig neu argymell erlyn yn y Llys Ynadon. Yn ogystal, mae ganddynt bwerau eang i gymryd camau ymarferol i wasgaru cynulliadau, ei gwneud yn ofynnol i bobl fynd adref a chael mynediad i eiddo.

Beth fydd yr heddlu yng Nghymru yn ei wneud?

Bydd yr heddlu yng Nghymru yn ymgysylltu â phobl, yn esbonio beth sydd angen iddynt ei wneud ac yn eu hannog i gydymffurfio. Ond rhoddwyd pwerau i'n heddluoedd a byddant yn eu defnyddio – caiff y cyfyngiadau eu gorfodi os na fydd pobl yn ymateb.

Beth yw'r cosbau ariannol?

Mae rheoliadau'r coronafeirws yn cynnwys darpariaethau ar gyfer cyhoeddi hysbysiad cosb benodedig os bydd unigolion yn torri'r rheoliadau, gan gynnwys dirwy o £60; caiff y ddirwy hon ei dyblu ar gyfer pob tramgwydd ddilynol hyd at uchafswm o £1,920 ar gyfer y chweched ac unrhyw achosion pellach.  Fodd bynnag, os caiff yr unigolyn ei erlyn, caiff llys osod unrhyw ddirwy (nid oes uchafswm).

Rydym yn gobeithio y bydd pobl yn deall difrifoldeb y sefyllfa rydym yn ei hwynebu ac y byddant yn cydymffurfio â'r rheoliadau, heb orfod eu cosbi.

A gaiff lefel y dirwyon ei chynyddu yng Nghymru?

Rydym yn adolygu dirwyon yn barhaus ac, os bydd yr heddlu o'r farn bod angen dirwyon uwch, caiff hyn ei ystyried.

Rhannu’r dudalen hon