Neidio i'r prif gynnwy

Beth allwch chi a busnesau ei wneud yn ystod yr argyfwng a beth sy'n digwydd os byddwch yn torri'r deddfau newydd hyn.

Canllawiau cenedlaethol yw’r rhain sy’n berthnasol i Gymru gyfan. 

Ystyriwch a oes cyfyngiadau lleol yn eu lle wrth ddarllen a rhoi’r canllawiau hyn ar waith.

Cyfnod atal o 23 Hydref

Bydd cyfyngiadau newydd yn dod i rym o 6pm ddydd Gwener 23 Hydref. Darllenwch fwy am y cyfyngiadau cyfnod atal byr a sut byddant yn effeithio arnoch.

Cyffredinol

Pa gyfyngiadau sydd ar waith?

Mae bump prif beth:

  • ni chaiff pobl gwrdd yn gymdeithasol o dan do gydag unrhyw un nad ydynt yn byw gyda nhw, boed hynny gartref, yn y dafarn neu yn unrhyw le arall. Os ydych chi wedi ffurfio aelwyd estynedig, cewch gwrdd o dan do gyda hyd at chwe aelod o’r aelwyd estynedig ar unrhyw adeg (nid yw plant o dan 11 oed yn cyfrif yn y chwech). Ni chaniateir aelwydydd estynedig mewn ardaloedd sy’n destun cyfyngiadau lleol.
  • ni chaiff pobl ymgynnull yn yr awyr agored mewn grwpiau o fwy na 30.
  • mae’n rhaid gwisgo gorchuddion wyneb mewn mannau cyhoeddus o dan do (yn amodol ar rai eithriadau), gan gynnwys ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mewn tacsis
  • ni chaiff eiddo trwyddedig werthu alcohol ar ôl 10pm
  • mae cyfyngiadau ar waith yn rhai rhannau o Gymru

Cwrdd â phobl o dan do

Pwy y caf i gwrdd â nhw yn gymdeithasol o dan do?

Dim ond y bobl sy’n byw gyda chi (eich aelwyd), ac (os nad oes cyfyngiadau lleol yn gwahardd hyn) aelodau o’ch aelwyd estynedig os ydych wedi ffurfio un, y cewch chi gwrdd â nhw yn gymdeithasol o dan do. O 14 Medi, rhaid cyfyngu ar gynulliadau a chyfarfodydd o dan do, hyd yn oed o fewn eich aelwyd estynedig, i 6 o bobl yn unig (nid yw hyn yn cynnwys unrhyw blant o dan 11 oed).

Mae hyn yn berthnasol mewn mannau fel tafarndai a bwytai yn ogystal ag yng nghartrefi pobl.

Beth yw aelwyd estynedig?

Os nad yw cyfyngiadau lleol yn ei wahardd, mae hyd at bedair aelwyd yn cael dod ynghyd i ffurfio aelwyd estynedig. Mae hynny’n golygu bod y bobl sy’n byw yn y gwahanol aelwydydd yn dod yn rhan o un aelwyd estynedig, o dan y rheoliadau coronafeirws.

Mae ganddynt yr un rhyddid cyfreithiol ag sydd gan bobl sy’n byw mewn aelwyd unigol ar hyn o bryd – er enghraifft cael cwrdd â’i gilydd o dan do, cael cyswllt corfforol ac aros yn nhai ei gilydd. Ond o 14 Medi, rhaid cyfyngu ar gynulliadau o dan do, hyd yn oed o fewn eich aelwyd estynedig, i 6 o bobl yn unig (nid yw hyn yn cynnwys unrhyw blant o dan 11 oed). Mae hyn yn gymwys mewn llefydd fel tafarndai a bwytai yn ogystal â chartrefi pobl.

Rwy’n byw ar fy mhen fy hun mewn ardal sy’n destun cyfyngiadau lleol. A gaf i gwrdd ag aelwyd?

Cewch. Os ydych chi’n oedolyn sy’n byw ar eich pen eich hun, neu yn riant sengl, o 3 Hydref cewch ymweld neu gwrdd ag un aelwyd arall o dan do. Ond mae’n rhaid i chi a’r aelwyd arall fod yn byw yn yr un ardal sydd o dan gyfyngiadau (a elwir o’r blaen yn ardal diogelu iechyd lleol).

Felly bydd pobl sy’n byw ar eu pen eu hunain, gan gynnwys rhieni sengl, mewn ardaloedd o dan gyfyngiadau lleol yn gallu uno ag aelwyd arall yn ardal i greu aelwyd estynedig neu swigen dros dro.

Dim ond gydag un aelwyd arall yr ydych chi’n cael creu swigen, ac ni chewch newid yr aelwyd honno. Ni chewch gwrdd ag unrhyw un arall o dan do.

Dim ond hyd at chwech o bobl o aelwyd estynedig gaiff gwrdd o dan do – ai dyna’r uchafswm bob amser?

Nid yw plant o dan 11 oed yn cael eu cynnwys yn y chwech – felly gallai cynulliad o bobl o aelwyd estynedig gynnwys pedwar oedolyn, dau o blant yn eu harddegau ac unrhyw nifer o blant ieuengach o dan 11 oed.

Nid yw gofalwyr – boed yn weithwyr gofal neu’n ofalwyr di-dâl yn cyfrif tuag at yr uchafswm o chwech o bobl dros 11 oed mewn grŵp. Ond gallant barhau i roi pa bynnag gymorth yr ydych chi ei angen, a mynd i unrhyw le gyda chi os ydych chi angen eu cymorth.

Yn olaf, mae rheolau ychydig yn wahanol ar gyfer aelwydydd mawr sy’n cynnwys mwy na chwech o bobl 11 oed a throsodd.

Mae eisoes dros chwech o bobl 11 oed a throsodd yn byw yn fy aelwyd – a ydym wedi ein heithrio o’r rheol sy’n nodi mai ond chwech o bobl gaiff ymgynnull?

I raddau helaeth, ydych. Yn amlwg mae’n rhaid i bob aelod o’r aelwyd fedru bod gartref gyda’i gilydd, a does dim mantais i iechyd y cyhoedd o atal aelodau o’r un aelwyd rhag mynd allan i lefydd gyda’i gilydd. Felly, gallai aelwyd o (dyweder) 8 o bobl 11 oed a throsodd fynd i fwyty, caffi, bar neu dafarn gyda’i gilydd fel grŵp.

Ond os yw rhai aelodau o’r aelwyd yn dymuno cwrdd â phobl o’u haelwyd estynedig, ni ddylai unrhyw un o’r cyfarfodydd hyn gynnwys mwy na 6 o bobl 11 oed a throsodd.

Er enghraifft, os yw teulu o 6 o bobl 11 oed a throsodd mewn trefniant aelwyd estynedig gyda’u cymydog sy’n byw ar ei ben ei hun, ac yn dymuno mynd allan am fwyd gyda’u cymydog, dim ond hyd at bump o bobl o’r teulu hwnnw fyddai’n cael mynd.

Rwyf wedi archebu ar gyfer mwy na chwech o bobl – gawn ni fynd?

Mae’n rhaid i unrhyw archebion grŵp na fyddant yn cael eu caniatáu yn y dyfodol, gan gynnwys ar gyfer teithio, atyniadau ymwelwyr, bwytai neu fannau eraill, gael eu gohirio neu, os yw’n bosibl, eu newid i gyd-fynd â’r gofynion cyfreithiol newydd (h.y. grŵp o hyd at chwech o bobl heb gynnwys plant o dan 11 oed, a rhaid i’r grŵp gynnwys pobl o’ch aelwyd neu’ch aelwyd estynedig yn unig).

Beth yw diben creu aelwyd estynedig?

Y syniad yw caniatáu i deuluoedd neu ffrindiau agos sydd wedi bod ar wahân dros y misoedd diwethaf ddod ynghyd a mwynhau cwmni ei gilydd unwaith eto.

Bydd y trefniadau hyn ar gyfer aelwydydd estynedig yn help ar gyfer trefniadau gofal hefyd. Yn arbennig, gallent helpu rhieni sy’n gweithio drwy ddarparu gofal plant anffurfiol dros fisoedd yr haf wrth i fwy o fusnesau agor eu drysau a dychwelyd i drefniadau gwaith ffurfiol. Gallai’r trefniadau hyn hefyd helpu pobl eraill sydd â chyfrifoldebau gofal.

A oes terfyn ar nifer y bobl a gaiff fod mewn aelwyd estynedig? 

Nac oes. Nid oes terfyn ar nifer y bobl a gaiff fod mewn aelwyd estynedig, ar yr amod eu bod i gyd yn byw yn yr aelwydydd sy’n uno (uchafswm o 4).

Ond, rhaid cyfyngu ar gynulliadau a chyfarfodydd o dan do, hyd yn oed o fewn eich aelwyd estynedig, i 6 o bobl yn unig (nid yw hyn yn cynnwys unrhyw blant o dan 11 oed). Mae hyn yn gymwys mewn llefydd fel tafarndai a bwytai yn ogystal â chartrefi pobl.

A gaf i chwalu fy aelwyd estynedig bresennol er mwyn ymuno ag aelwyd wahanol?

Na chewch. Unwaith y byddwch wedi ffurfio aelwyd estynedig gydag aelwyd arall, ni chewch newid y trefniant ac ymuno ag aelwyd arall yn ei lle. Diben hyn yw lleihau'r risg o ledaenu’r coronafeirws.

Os ydych chi’n byw mewn ardal sydd o dan gyfyngiadau lleol, ni chaniateir unrhyw aelwydydd estynedig a ffurfiwyd yn flaenorol. Ond os ydych chi’n oedolyn sy’n byw ar eich pen eich hun, neu’n riant sengl, caniateir ichi uno ag un aelwyd arall yn eich ardal i greu aelwyd estynedig, neu swigen, dros dro.

Dim ond gydag un aelwyd arall y caniateir i chi greu swigen, ac ni chewch newid pa aelwyd yr ydych yn uno â hi na chwrdd ag unrhyw un arall o dan do.

A gaf i ffurfio aelwyd estynedig gydag aelwyd yn Lloegr?

Cewch, ond mae angen i'r trefniadau gydymffurfio â'r rheolau yn y ddwy wlad. Mae'r rheolau sy'n berthnasol yn Lloegr ar gael yma.

Rwy’n byw mewn tŷ amlfeddiannaeth (HMO) – a oes rhaid i bawb yn y tŷ gytuno i fod yn rhan o’r un aelwyd estynedig?

Nac oes - yn yr amgylchiadau hyn mae pob un ohonoch yn aelwyd ar wahân ac fe ganiateir i bob un ohonoch ffurfio eich aelwydydd estynedig eich hunain oni bai eich bod yn byw mewn ardal sydd o dan gyfyngiadau lleol. Ond os oes gan bobl eu lle preifat eu hunain ond eu bod yn rhannu cyfleusterau fel ystafelloedd ymolchi, neu geginau, mae’r gyfraith hefyd yn caniatáu ichi ymgynnull o dan do gyda’r bobl yr ydych yn rhannu’r cyfleusterau hynny â nhw, mewn grwpiau o hyd at chwech.

Golyga hynny y cewch dreulio amser yn eich cartref, neu mewn mannau o dan do, gyda NAILL AI

  • aelodau o’ch aelwyd estynedig os ydych wedi ffurfio un, mewn grŵp o hyd at chwech o bobl (heb gynnwys unrhyw blant o dan 11 oed) NEU
  • grŵp o hyd at chwech o bobl sy’n byw yn eich cartref ac sy’n rhannu cyfleusterau coginio neu ystafell ymolchi gyda chi. 

Golyga’r rhyddid ychwanegol hwn bod risg uwch y gallai’r coronafeirws ledaenu drwy’r tŷ hwnnw – ac yna ymlaen i’ch aelwydydd estynedig

Felly dylech fod yn ymwybodol, os bydd pob un ohonoch yn creu aelwydydd estynedig, y gallech fod yn cynyddu’r risg i chi eich hun (ac i eraill). Ein cyngor yw y dylech ystyried yn ofalus iawn a ydych am greu aelwyd estynedig yn yr amgylchiadau hyn.

Rwy’n rhannu cyfrifoldeb rhieni gyda rhywun nad ydw i’n byw gydag ef – a fydd y plentyn yn cael ei ystyried yn rhan o’r ddwy aelwyd estynedig?

Os yw cyfrifoldeb rhieni yn cael ei rannu, gall y trefniadau presennol barhau a chaiff y plentyn symud rhwng y ddau riant, ac felly rhwng aelwydydd y ddau riant, hyd yn oed pan fo’r ddau riant yn byw mewn ardaloedd sydd o dan gyfyngiadau lleol.

Dylid ystyried bod y plentyn yn rhan o aelwyd neu aelwyd estynedig y rhiant y mae gydag ef ar unrhyw adeg benodol. Mewn geiriau eraill os yw un o’r ddau riant, neu’r ddau, yn ffurfio aelwyd estynedig gydag aelwyd nad yw'n cynnwys y rhiant arall, gallai'r plentyn barhau i symud yn rhydd rhwng y rhieni a bod yn rhan o'r ddwy aelwyd estynedig (hynny yw, nid oes rhaid i'r plentyn gadw pellter cymdeithasol o fewn yr aelwyd estynedig, pa riant bynnag y mae gydag ef).

Gweld pobl nad ydynt yn rhan o’ch aelwyd estynedig

Beth yw'r cyfyngiadau newydd ar bwy y caf i gwrdd â nhw yn yr awyr agored?

Caniateir i bobl ddod at ei gilydd mewn grwpiau o 30 yn yr awyr agored. Ond dylech barhau i gadw pellter corfforol a chymdeithasol oddi wrth bobl nad ydynt yn aelodau o’ch aelwyd neu eich aelwyd estynedig os ydych wedi creu un (yn amodol ar yr hyn a ddywedir isod am blant ifanc).

A yw'r rheolau ar weithgareddau awyr agored wedi’u trefnu yn berthnasol o hyd?

Nid oes angen i gynulliadau yn yr awyr agored o fwy na dwy aelwyd neu aelwydydd estynedig gael eu trefnu bellach gan fusnes, corff cyhoeddus neu sefydliad elusennol, clwb, neu'r gorff llywodraethu cenedlaethol y gamp neu’r gweithgaredd. Dylid parhau i gadw pellter cymdeithasol rhwng pobl nad ydynt yn rhan o'r un aelwyd (neu aelwyd estynedig).

Fodd bynnag, rydym wedi darparu canllawiau ar gyfer gweithgareddau awyr agored wedi'u trefnu, er enghraifft chwaraeon tîm, lle nad yw bob amser yn bosibl cynnal pellter corfforol. Mae'r canllawiau'n ei gwneud yn glir bod yn rhaid cymryd pob cam rhesymol i leihau unrhyw risgiau, a bod y gweithgareddau’n cael eu goruchwylio gan gorff llywodraethu cenedlaethol pob camp.

Yn gyffredinol, bydd gan y rhai sy'n trefnu digwyddiadau o'r fath y ddyletswydd gofal dros y rhai sy'n dod ynghyd, sy'n golygu y dylent sicrhau bod y digwyddiad mor ddiogel â phosibl. Rydym hefyd wedi treialu rhai digwyddiadau mwy yn yr awyr agored ar gyfer hyd at 100 o bobl.

A oes amgylchiadau lle caniateir i grwpiau o fwy na 30 o bobl ymgynnull?

Mae rhai amgylchiadau cyfyngedig iawn lle caniateir i fwy na 30 o bobl ymgynnull. Er enghraifft, mae gweithgareddau hamdden dan oruchwyliaeth i blant yn ddiben dilys ar gyfer grwpiau o fwy na 30 o bobl. Mae hyn yn cynnwys darpariaeth gofal plant a gwersylloedd haf. Rydym hefyd wedi cynnal cynlluniau peilot o ddigwyddiadau awyr agored mawr ar gyfer hyd at 100 o bobl.

Mae trefnu digwyddiad cerddorol heb drwydded gyda mwy na 30 o bobl ynddo yn drosedd benodol. Digwyddiadau yw’r rhain sydd heb drwydded neu heb awdurdod arall o dan Ddeddf Trwyddedu 2003. Mae mynd yn groes i’r gwaharddiad hwn yn drosedd y gellir ei chosbi drwy euogfarn a dirwy ddiderfyn, neu drwy gosb amgen i euogfarn sef cosb benodedig sydd wedi’i gosod ar £10,000.

Mae’r ddirwy ddiderfyn neu’r gosb benodedig sylweddol ar gyfer trefnwyr y digwyddiadau anghyfreithlon hyn yn adlewyrchu’r canlyniadau difrifol posibl i iechyd y cyhoedd pan fydd pobl yn dod at ei gilydd mewn niferoedd mawr, gan ddawnsio, gweiddi neu ganu dros gerddoriaeth uchel a pheidio â chadw pellter cymdeithasol. Gall rhywun heintus mewn digwyddiad o’r fath ledaenu’r feirws yn hawdd i eraill, sydd wedyn yn ei basio ymlaen i’w teulu a’u ffrindiau.

A gaiff ffrindiau neu deulu o aelwyd estynedig arall ddod i’m cartref?

Ni chaniateir hyn fel arfer, oni bai mai cerdded drwy’r tŷ i gyrraedd man arall sydd yn yr awyr agored y maen nhw, neu os oes ganddynt reswm dilys dros fod yno, fel rhoi gofal. Y rheol gyffredinol yw y cewch ond gyfarfod yn gymdeithasol o dan do gyda’r bobl sy’n rhan o’ch aelwyd estynedig.

Mae hynny’n rhan o’r rheswm pam yr ydym wedi cynyddu nifer yr aelwydydd sy'n cael ymuno ag aelwyd estynedig.

Pam mae’r rheolau yn dweud y caiff pobl gwrdd yn yr awyr agored ond nid o dan do?

Rydym yn dysgu rhagor am y feirws bob dydd, ac rydym yn gwybod bod y risg o’i drosglwyddo yn is yn yr awyr agored nag o dan do – mae’r feirws yn goroesi am funudau yn yr awyr agored ond yn gallu goroesi am oriau ar arwynebau o dan do. Fodd bynnag, nid yw risg is yn yr awyr agored yn golygu nad oes dim risg. Mae’n hollbwysig o hyd ein bod yn cadw pellter corfforol.

Os wyf yn cwrdd â rhywun o aelwyd estynedig arall yn eu gardd, a gaf i ddefnyddio eu toiled?

Dylech geisio peidio â gwneud hyn – po fwyaf y byddwn yn mynd i mewn i gartrefi pobl eraill ac yn cyffwrdd â phethau, y mwyaf yw’r risg o ledaenu’r feirws. Os oes rhaid ichi ddefnyddio’r cyfleusterau mewn cartref arall, dylech lanhau’r toiled a’r sinc yn drylwyr cyn ac ar ôl eu defnyddio. Dylech olchi’ch dwylo yn drylwyr ac ni ddylid rhannu tywelion llaw.

Nid wyf yn rhan o’r un aelwyd estynedig â rhywun, ond rwy’n credu bod arnynt angen gofal neu gymorth gen i – a gaf i ymweld â nhw?

Mae gennych hawl i roi gofal neu gymorth i rywun sydd ei angen, fel person hŷn, plentyn neu oedolyn agored i niwed, hyd yn oed os nad ydynt yn rhan o’ch aelwyd estynedig a hyd yn oed os oes cyfyngiadau lleol ar waith a fyddai’n eich gwahardd rhag eu cwrdd fel arall. Mae hyn yn cynnwys bod o dan do gyda nhw. Cewch hefyd ymweld â rhywun ar sail dosturiol os oes angen.

Yn benodol, mae’r gyfraith nawr yn ei gwneud yn glir (lle nad oes cyfyngiadau lleol ar waith) y caniateir ymweliadau dan do â chartrefi gofal, yn ogystal ag ymweliadau â hosbisau a chyfleusterau llety diogel ar gyfer plant. Mae angen i’r ymweliadau hyn gael eu cynnal yn unol â’r rheolau a gyflwynir gan y lleoliad yr ydych yn ymweld ag ef.

Wrth ystyried a oes angen ymweld â rhywun y tu allan i’ch aelwyd estynedig, yn enwedig o dan do ac yn enwedig os yw hynny’n golygu mynd i mewn i ardal sydd o dan gyfyngiadau lleol, neu gadael yr ardal honno, dylech gofio bod cyfrifoldeb ar bob un ohonom i sylweddoli’r risgiau i ni, ein teuluoedd, ein ffrindiau ac i’n cymunedau ehangach yn sgil y feirws.

Mae angen i bobl benderfynu beth sy’n rhesymol iddyn nhw, yn unol â’r egwyddor gyffredinol. Cofiwch mai diben y cyfyngiadau parhaus yw atal y feirws rhag lledaenu, gan gynnwys i’r bobl sy’n bwysig inni.

Beth ydych chi’n ei olygu wrth ‘sail dosturiol’?

Efallai fod gennych resymau tosturiol dros ymweld â rhywun. Er enghraifft, efallai fod y person hwnnw'n cael trafferth gyda'r cyfyngiadau ar gwrdd ag eraill yn gyffredinol, yn dioddef o salwch corfforol neu feddyliol, wedi cael profedigaeth, neu eich bod yn pryderu am ei les yn gyffredinol.

Ymhlith y pethau eraill a allai gael eu caniatáu mae ymweld â phobl sy’n byw neu’n aros mewn lleoliad byw â chymorth, cartref gofal plant neu sefydliad troseddwyr ifanc. Ym mhob achos, mae’n rhaid i'r darparwr gwasanaeth gymryd camau diogelwch a chadw pellter priodol cyn caniatáu ymweliadau. Dylech gysylltu â nhw cyn ichi deithio yno.

Os oes angen ichi gwrdd â rhywun ar sail dosturiol, cewch wneud hynny, hyd yn oed os yw hynny’n golygu mynd i mewn i ardal sydd o dan gyfyngiadau lleol, neu adael yr ardal honno.

A oes rhaid inni gadw pellter cymdeithasol yn yr awyr agored?

Oes, dylid gwneud pob ymdrech o hyd i gadw pellter cymdeithasol os yw’n ymarferol.

Er enghraifft, ei bod yn anochel na fydd pobl sy'n chwarae pêl-fasged neu bêl-droed yn gallu cadw 2 fetr ar wahân drwy’r amser yn ystod gêm. Rydym wedi darparu canllawiau ar gyfer gweithgareddau awyr agored wedi'u trefnu, megis chwaraeon tîm, lle nad yw bob amser yn bosibl cadw pellter corfforol ond lle dylid cymryd pob mesur rhesymol i leihau unrhyw risgiau (er enghraifft, osgoi ysgwyd llaw neu gofleidio wrth gyfarch eich gilydd neu ar ôl sgorio gôl).

Mae egwyddor debyg yn berthnasol wrth fynd i siop trin gwallt neu siop barbwr – mae'n amlwg nad oes modd cadw pellter cymdeithasol wrth i’ch gwallt gael ei dorri, ond mae’n bosibl gwneud hynny cynt ac wedyn. Mae gwneud hynny yn lleihau’r risg o ledaenu’r feirws. 

Beth am blant?

Mewn amgylchiadau lle mae plant ifanc yn cymysgu ag eraill, mae'n bosibl na fydd yn ymarferol ceisio cynnal pellter o 2 fetr drwy’r amser (rhwng plant a’i gilydd neu hyd yn oed rhwng plant ac oedolion). Mae hyn yn rhannol oherwydd ei bod yn anoddach i blant iau ddeall y cysyniad o gadw pellter corfforol, ac yn rhannol oherwydd y bydd angen cyswllt agosach yn aml er mwyn i ofalwyr roi cymorth priodol iddynt. 

O ran plant ifanc (oed ysgol gynradd neu iau), mae'n llai hanfodol beth bynnag i geisio cadw’n gaeth at bellter o 2 fetr rhyngddynt, neu rhwng y plant ac unrhyw oedolion nad ydynt yn perthyn i’w haelwyd neu eu haelwyd estynedig. Mae astudiaethau wedi canfod bod plant ifanc yn llai tebygol o drosglwyddo'r feirws, boed i blant eraill neu i oedolion, ac ymddengys fod y feirws yn cael llai o effaith ar blant nag ar oedolion gan amlaf.

Fodd bynnag, gan fod modd i blant drosglwyddo’r feirws, dylai rhieni plant ifanc ddal i ddefnyddio’u crebwyll, a gwneud yn siŵr eu bod yn annog eu plant i olchi eu dwylo ac i gael cyn lleied â phosibl o gyswllt agos ag eraill.

A gaiff plant ymweld â chartrefi ei gilydd neu gwrdd o dan do?

Yn yr un modd ag oedolion, caiff plant ond gwrdd yn gymdeithasol o dan do gyda’r bobl sy’n byw gyda nhw (eu haelwyd) ac aelodau o’u haelwyd estynedig os ydynt wedi ffurfio un. Felly, ni chaniateir yn gyffredinol iddynt fynd i gartref rhywun arall oni bai eich bod wedi creu aelwyd estynedig gyda nhw. Ni chaniateir ychwaith drefnu i blant fynd i rywle o dan do gyda'i gilydd, er enghraifft siopau, caffis, sinemâu neu arcedau difyrion, oni bai eu bod yn rhan o'r un aelwyd neu aelwyd estynedig. Felly, nid oes hawl o hyd i gynnal parti plant o dan do gyda phobl heblaw aelodau o'ch aelwyd neu’ch aelwyd estynedig.

Fodd bynnag, caiff oedolion a phlant gwrdd â'i gilydd yn yr awyr agored fel rhan o grwpiau o hyd at 30 o bobl, ac nid oes angen i blant iau ddilyn yn gaeth y cyngor i aros 2 fetr oddi wrth ei gilydd. Felly, er enghraifft, gall plant iau chwarae gyda'i gilydd mewn parc neu faes chwarae. Dylai rhieni ei hannog i olchi eu dwylo'n drwyadl cyn ac ar ôl ymweliadau â'r parc ac i osgoi bwyta/cyffwrdd â'u hwyneb heb olchi eu dwylo.

Gorchuddion wyneb

Ble y bydd angen gorchuddion wyneb?

Bydd angen gorchuddion wyneb ym mhob man cyhoeddus o dan do ac ar drafnidiaeth gyhoeddus (gan gynnwys mewn tacsis). Mae hyn yn cynnwys ystod eang iawn o leoliadau, megis siopau a chanolfannau siopa, addoldai, trinwyr gwallt a salonau, sinemâu ac amgueddfeydd, campfeydd a chanolfannau hamdden, ac unrhyw le sy'n agored i aelodau'r cyhoedd. Maehefyd yn cynnwys unrhyw lefydd y byddwch yn mynd iddynt i yfed neu fwyta, fel bwytai, tafarndai neu gaffis (nes y byddwch wedi eistedd).

Mae hefyd yn cynnwys unrhyw fannau cyhoeddus mewn adeiladau sydd fel arall ar gau i'r cyhoedd – er enghraifft derbynfa mewn adeilad swyddfa.

A oes angen gwisgo gorchudd wyneb mewn ysgolion a lleoliadau gofal plant?

Nid yw ysgolion yn fannau cyhoeddus. Bydd y penderfyniad ynghylch a ddylid gorfodi’r defnydd o orchuddion wyneb mewn ysgolion uwchradd ac ym mha fannau y cânt eu gwisgo yn benderfyniad lleol i'r ysgol neu'r lleoliad yn dibynnu ar eu hasesiad o'r risg ac yng nghyd-destun amgylchiadau lleol.

A oes angen imi wisgo gorchudd wyneb os wyf i’n prynu neu’n casglu cludfwyd?

Oes. Lle nad yw bwyd a diod ond yn cael eu gweini i'w bwyta mewn rhan o'r safle – er enghraifft, bwyty sydd hefyd yn cynnig gwasanaethau cludfwyd neu gaffi mewn amgueddfa – mae angen ichi wisgo gorchudd wyneb yn y rhannau o'r safle lle nad yw pobl yn bwyta nac yn yfed.

Oes rhaid imi wisgo gorchudd wyneb yn fy ngweithle?

Nid oes unrhyw ganllawiau cyffredinol i weithleoedd ar wisgo gorchuddion wyneb oherwydd bod amgylchiadau gwaith yn amrywio rhwng gwahanol ddiwydiannau. Os ydych yn gweithio mewn ardal gyhoeddus dan do, bydd bendant angen i chi wisgo gorchudd wyneb (oni bai bod gennych esgus rhesymol dros beidio).

Fodd bynnag, os ydych yn gweithio mewn lleoliad dan do, hyd yn oed os nad ydych yn gweithio mewn ardal gyhoeddus, rhaid i’ch cyflogwr ystyried a yw’n ofynnol i staff wisgo gorchuddion wyneb ai peidio. Bydd angen gwisgo gorchuddion wyneb pan nad oes modd cadw pellter cymdeithasol, oni bai bod rheswm da i beidio.

Felly, efallai y bydd rhaid ichi wisgo gorchudd wyneb yn y gwaith hyd yn oed mewn mannau nad ydynt yn agored i'r cyhoedd.

I bwy y  mae’r gofyniad yn berthnasol?

Mae’r gofyniad yn berthnasol i bawb sy’n 11 oed a throsodd – gan gynnwys cwsmeriaid a staff. Er hynny, mae rhai eithriadau y gellir eu gweld yn ein canllawiau ar orchuddion wyneb.

Pan fydd y gofyniad yn berthnasol i mi, a oes yn rhaid imi wisgo fy ngorchudd wyneb bob amser?

Yn gyffredinol, bydd, ond efallai y bydd gennych esgus rhesymol dros dynnu gorchudd wyneb dros dro os (er enghraifft) oes angen i chi gymryd meddyginiaethau neu os oes angen i chi fwyta neu yfed. I gael esboniad pellach am pryd y caniateir hyn darllenwch ein canllawiau ar orchuddion wyneb.

Beth yw "gorchudd wyneb" a sut y dylid ei wisgo?

Er mwyn lleihau lledaeniad y coronafeirws (COVID-19), mae gorchudd wyneb yn golygu rhywbeth sy’n gorchuddio’r trwyn a’r geg yn ddiogel. Gallwch brynu gorchuddion wyneb i’w hail-ddefnyddio, neu rai untro. Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn argymell y dylid cael o leiaf dair haen mewn gorchudd wyneb.

I gael rhagor o wybodaeth ar y gwahanol fathau o orchuddion wyneb, lefel yr amddiffyniad y maent yn ei gynnig, sut y dylid eu gwisgo a sut i ofalu amdanynt, ewch i’n tudalen sy’n rhoi canllawiau ar orchuddion wyneb.

 

Sut y gallaf ddangos nad yw'n ofynnol i mi wisgo gorchudd wyneb?

Ni fydd y cwestiwn a oes gan rywun esgus rhesymol dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb bob amser yn amlwg. Nid yw anableddau a namau bob amser yn weladwy i eraill, megis cyflyrau niwroddatblygiadol fel awtistiaeth ac ADHD, a dylid dangos parch a dealltwriaeth i'r rhai sydd â rhesymau da dros beidio â gwisgo gorchuddion wyneb.

Nid ddylai pobl sydd â rheswm yn ymwneud ag oedran, iechyd neu anabledd dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb gael eu holi’n rheolaidd am unrhyw dystiolaeth ysgrifenedig i ddangos hyn. Nid oes rhaid i unrhyw berson geisio cyngor na gofyn am lythyr gan weithiwr meddygol proffesiynol ynghylch ei reswm dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb.

Efallai y bydd rhai pobl yn teimlo’n fwy cyfforddus dangos rhywbeth sy’n dweud nad oes yn rhaid iddynt wisgo gorchudd wyneb. Gallai hyn fod yn gerdyn, yn fathodyn neu hyd yn oed yn arwydd wedi’i wneud â llaw.

Mae nifer o sefydliadau wedi creu cardiau y gellir eu lawrlwytho o'u gwefannau a'u hargraffu, gan gynnwys Llywodraeth Cymru.

Mae cario cerdyn yn ddewis personol ac nid yw’n angenrheidiol yn ôl y gyfraith.

Ymweld â lleoedd

Pa fath o lety sydd ar agor yng Nghymru?

Gall pob math o lety agor yn awr, ond mae cyfyngiadau lleol yn golygu na ddylai unrhyw lety dderbyn pobl o du allan i’r ardal oni bai bod ganddynt reswm da dros fod yno, megis eu bod yn gweithio neu’n mynd i angladd. Rhaid rhoi mesurau ar waith i ddiogelu pobl rhag y coronafeirws.

A fydd unrhyw gyfyngiadau ar y math o wasanaethau a gynigir ganddynt?

Bydd y rhan fwyaf o wasanaethau yn gweithredu fel arfer, er y bydd angen gwisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus.

A yw bwytai a bariau mewn gwestai yn cael agor nawr?

Ydynt.

A gaf i fynd yn fy ngharafán/cartref modur i aros mewn maes carafanau?

Cewch, cyn belled nad oes unrhyw gyfyngiadau lleol yn atal hyn Gall parciau agor eu toiledau, cawodydd, ac ardaloedd golchi llestri a golchi dillad ar gyfer carafanwyr a gwersyllwyr, ar yr amod bod mesurau ar waith i sicrhau y cydymffurfir â mesurau cadw pellter corfforol a mesurau glanhau priodol.

A gaf i fynd i wersylla?

Cewch, cyn belled nad oes unrhyw gyfyngiadau lleol yn atal hyn.Bydd y blociau toiledau/cawodydd, ac ardaloedd golchi llestri a golchi dillad ar gyfer gwersyllwyr hefyd ar agor ar yr amod bod mesurau ar waith i sicrhau y cydymffurfir â mesurau cadw pellter corfforol ac y glanheir y cyfleusterau yn briodol.

Gyda phwy y caf i fynd ar fy ngwyliau?

Cyn belled nad oes unrhyw gyfyngiadau lleol lle rydych yn byw, ar hyn o bryd, cewch fynd ar wyliau i unrhyw le arall sydd heb gyfyngiadau lleol gydag unigolion yr ydych yn byw gyda nhw (y rheini sy’n byw ar yr un aelwyd â chi) neu aelod o’ch aelwyd estynedig os ydych wedi cytuno i lunio aelwyd o’r fath. Ond oes ydych yn teithio fel aelwyd estynedig, rhaid cyfyngu ar niferoedd y grŵp sy’n cyd-deithio i 6 o bobl (heb gynnwys unrhyw blant o dan 11 oed).

Mae hyn o gymorth i leihau’r perygl y caiff y coronafeirws ei drosglwyddo rhwng unigolion.

Dylech gadw pellter cymdeithasol a chorfforol rhyngoch chi ag unigolion nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â chi nac yn aelod o’ch aelwyd estynedig.

Os ydych yn byw mewn ardal o dan gyfyngiadau lleol, nid yw mynd ar wyliau yn cael ei ystyried fel esgus rhesymol i adael yr ardal.

Pa atyniadau fydd ar agor a beth fydd yn parhau i fod ar gau?

Caiff yr holl atyniadau i ymwelwyr agor yn awr, ond gallai cyfyngiadau lleol olygu mai dim ond trigolion lleol all fynd yno Bydd mesurau i ddiogelu ymwelwyr, gan gynnwys mesurau cadw pellter cymdeithasol a chorfforol ar waith.

A gaf i fynd ar wyliau dramor?

Cewch, os nad ydych yn byw mewn ardal o dan gyfyngiadau lleol, ond dylech fod yn ymwybodol y gallai fod angen ichi hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl dychwelyd i’r Deyrnas Unedig, os byddwch wedi ymweld â rhai gwledydd penodol y mae’r gofyniad hwn o ran cwarantin yn berthnasol iddynt. Mae’r canllawiau hyn yn nodi pwy ddylai hunanynysu a beth i’w wneud.

A gaf i fynd ar wyliau yng Nghymru?

Mae cyfyngiadau lleol mewn grym mewn rhai rhannau o Gymru.

Ni chaniateir i unrhyw un deithio mewn ac allan o’r ardaloedd hyn ar wahân i’r rheini sydd ag “esgus rhesymol” dros wneud hynny – mae hyn yn cynnwys mynd i’r gwaith pan nad ydych yn gallu gweithio gartref, neu ddefnyddio gwasanaethau cyhoeddus nad ydynt ar gael yn lleol. Nid yw mynd ar wyliau yn cael ei ystyried fel esgus rhesymol.

Mae twristiaeth yn hynod o bwysig yng Nghymru, ac nid oes unrhyw gyfyngiadau cyfreithiol ar bobl i deithio i rannau o Gymru lle na cheir cyfyngiadau lleol.

Nid ydym yn dweud wrth bobl na ddylent ddod i’r rhannau hyn o Gymru, ond rydym yn gofyn i bobl feddwl yn ofalus iawn cyn gwneud y teithiau hyn. Yn amlwg, ni ddylai pobl deithio os ydych yn sâl gyda symptomau’r coronafeirws, ac mae’n bwysig iawn edrych ar yr wybodaeth ddiweddaraf am yr ardal y maent yn bwriadu teithio iddi.

Bwytai, caffis, tafarndai a gwerthu alcohol

Sut y mae caffis, bwytai, tafarndai a bariau yn gallu gweithio'n ddiogel o dan do?

Mae nifer o fesurau yn eu lle:

  • dim ond gwasanaeth wrth y bwrdd bydd y rhan fwyaf o safleoedd, gan gynnwys y safleoedd hynny sy’n gwerthu alcohol, yn ei gynnig; 
  • rhaid rhoi’r gorau i werthu alcohol am 10pm
  • dylai popeth gael ei fwyta a’i yfed wrth y bwrdd
  • bydd yn ofynnol i chi wisgo gorchudd wyneb ac eithrio pan fyddwch yn eistedd i fwyta neu i yfed
  • bydd mesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith, er enghraifft mwy o le rhwng y byrddau
  • bydd gofyn i chi roi manylion cyswllt fel bod modd cael gafael arnoch os bydd achos yn cael ei gysylltu â'r lleoliad
  • ni fydd cerddoriaeth fyw a bydd y sŵn ar setiau teledu yn cael ei gadw’n isel.

Gyda phwy y caf i fynd i gaffis, bwytai, tafarndai neu fariau?

Cewch fwyta neu yfed yn yr awyr agored gydag unrhyw un, yn amodol ar gyfyngiadau lleol, cyn belled nad yw maint y grŵp yn fwy na 30 o bobl. Dylech gadw pellter cymdeithasol oddi wrth unrhyw un y tu allan i’ch aelwyd neu aelwyd estynedig.

O dan do, yr unig rai y cewch fwyta ac yfed gyda nhw yw’r bobl rydych yn byw gyda nhw (aelodau eich aelwyd eich hun) neu aelodau o’ch aelwyd estynedig os ydych wedi cytuno i greu un. Ni chaniateir cael aelwyd estynedig mewn ardaloedd o dan gyfyngiadau lleol. Hyd yn oed o fewn eich aelwyd estynedig, dim ond fel grŵp o hyd at 6 o bobl y cewch chi fwyta neu yfed allan (heb gynnwys unrhyw blant o dan 11 oed).

A oes angen imi wisgo gorchudd wyneb mewn caffis, bwytai, tafarndai neu fariau?

Oes. Mae bellach yn ofynnol i gwsmeriaid sy’n mynd i fwytai, tafarndai a chaffis, sy’n gadael y safleoedd hyn neu sy’n cerdded o gwmpas y safleoedd hyn, a staff sy’n gweithio yn y safleoedd hyn wisgo gorchudd wyneb. Mae hawl gan gwsmeriaid dynnu gorchuddion wyneb wrth eistedd wrth fwrdd i fwyta neu yfed.

A oes angen imi wisgo gorchudd wyneb wrth gasglu cludfwyd?

Oes, mae angen i chi wisgo gorchudd wyneb os ydych yn prynu ac yn casglu bwyd o siop gludfwyd neu ardal cludfwyd mewn bwyty.

A oes unrhyw gyfyngiad ar pryd y caf brynu alcohol?

Oes. O ddydd Iau 24 Medi am 6pm, mae angen i fusnesau lletygarwch yng Nghymru – megis tafarndai, caffis, bwytai, clybiau chwaraeon a chasinos – roi’r gorau i werthu alcohol am 10pm. Mae hefyd angen i leoliadau sy’n gwerthu alcohol i’w yfed ar y safle ddarparu gwasanaeth wrth y bwrdd yn unig.

Mae angen i bob lleoliad sydd â thrwydded i werthu alcohol i’w yfed ar y safle gau erbyn 10.20pm.

Nid oes angen i safleoedd nad oes ganddynt drwydded i werthu alcohol gau erbyn 10.20pm.

Mae angen i siopau diodydd trwyddedig, gan gynnwys archfarchnadoedd, roi’r gorau i werthu alcohol erbyn 10pm. Mae hyn hefyd yn gymwys i ddanfoniadau alcohol, megis drwy ap cludo i’r cartref.

Ni chaniateir i safleoedd trwyddedig a siopau diodydd trwyddedig ddechrau gwerthu alcohol eto tan 6am y diwrnod canlynol.

A yw’n ofynnol i leoliadau eraill, ar wahân i dafarndai a bariau, roi’r gorau i werthu alcohol am 10pm?

Oes. Mae’r rheol yn berthnasol i fwytai ac unrhyw leoliadau eraill sydd â thrwydded i wrthu diodydd alcoholaidd i’w hyfed ar eu heiddo.

Oes yn rhaid i archfarchnadoedd a siopau diodydd trwyddedig roi’r gorau i werthu diodydd alcoholaidd ar ôl 10pm?

Oes. Rhaid i bob siop ddiodydd drwyddedig, gan gynnwys archfarchnadoedd roi’r gorau i werthu alcohol am 10pm.

A oes modd cael diod mewn bwyty ar ôl 10pm?

Nac oes - mae’n ofynnol i unrhyw fwyty sydd â thrwydded i werthu diodydd alcoholaidd roi’r gorau i werthu alcohol am 10pm.

A gaf sefyll wrth y bar mewn tafarn neu far i gael diod?

Na chewch. Rhaid i bob busnes lletygarwch yng Nghymru sy’n gwerthu alcohol – gan gynnwys tafarndai, caffis, bwytai a chasinos – ddarparu gwasanaeth wrth y bwrdd yn unig.

A fydd modd i mi gael bwyd o archfarchnad, gan gynnwys alcohol, wedi’i gludo i’m cartref ar ôl 10pm?

Caniateir danfoniadau ar-lein o archfarchnadoedd a darparwyr eraill ar ôl 10pm ond ni chaniateir iddynt gynnwys alcohol.

A gaf archebu bwyd i’m hystafell mewn gwesty ar ôl 10pm?

Cewch, ond ni chaniateir gweini alcohol.

Oes angen i fusnesau, megis siopau coffi, nad ydynt yn gwerthu alcohol ddarparu gwasanaeth wrth y bwrdd?

Nac oes.

Oes angen i fwytai bwffe ddarparu gwasanaeth wrth y bwrdd?

Nac oes, ond mae angen i’r holl ddiodydd gael eu gweini wrth y bwrdd. Dylai aelodau o staff weini’r bwyd i bobl yn y bwffe yn hytrach na bod y cwsmeriaid yn helpu eu hunain ac yn cyffwrdd â’r un offer.

Oes y rhaid i eiddo sy’n gwerthu alcohol mewn meysydd awyr a phorthladdoedd gau erbyn 10:20?

Nac oes, caniateir iddynt aros ar agor ond ni chaniateir i alcohol gael ei werthu rhwng 10pm a 6am.

Oes yn rhaid i sinemâu gau erbyn 10.20pm?

Nac oes, caniateir iddynt aros ar agor os yw’r ffilm wedi cychwyn cyn 10.20pm er mwyn caniatáu i’r ffilm orffen, ond ni ddylid gweini alcohol ar ôl 10pm.

Mae gan y ffreutur yn fy mhrifysgol/gwaith drwydded, oes yn rhaid iddo ddarparu gwasanaeth wrth y bwrdd nawr?

Nac oes, caniateir i ffreutur mewn gweithle a ffreutur mewn sefydliad addysgol weithredu gwasanaeth dros y cownter (ond rhaid iddynt barhau i gymryd pob mesur rhesymol i leihau’r risg o ledaenu’r coronafeirws). Os oes ganddynt drwydded, ni chaniateir iddynt weini alcohol ar ôl 10pm.

Gwarchod

A fydd y gofyniad i warchod yn cael ei ail-gyflwyno?

Nid oes cynlluniau i ail-gyflwyno’r gofyniad i warchod ar hyn o bryd.

Pan wnaethom gynghori pobl sy’n eithriadol o agored i niwed i gymryd mesurau gwarchod llym ar ddechrau’r pandemig, roedd y sefyllfa’n wahanol iawn – nid oedd unrhyw fesurau yn eu lle mewn unrhyw sector o’r gymdeithas i leihau lledaeniad y feirws, ac nid oedd unrhyw reolau neu reoliadau yn eu lle. Erbyn hyn, gyda mesurau cyson yn eu lle, nid gofyn i bobl warchod eu hunain yn y cartref unwaith eto yw’r opsiwn orau ar hyn o bryd, oherwydd gallai achosi niwed i iechyd meddyliol a chorfforol pobl.

Beth yw’r cyngor diweddaraf i bobl sy’n gwarchod?

Mae’r cyngor i’r boblogaeth sy’n cael eu gwarchod yr un fath i bawb. Dylech sicrhau eich bod yn cael cyn lleied â phosibl o gyswllt â phobl eraill, cadw pellter o 2 fetr oddi wrth eraill, golchi eich dwylo’n rheolaidd, gwisgo gorchudd wyneb pan mae’n ofynnol ac osgoi cyffwrdd ag arwynebeddau y mae eraill wedi cyffwrdd â nhw, lle bynnag y bo’n bosibl. Dylech ystyried pa amser o’r dydd rydych yn mynd allan a ble rydych yn mynd h.y. dylech osgoi mynd i siopau ar amseroedd prysur.

Lle y bo’n bosibl, dylech barhau i weithio gartref.

Casglu gwybodaeth gyswllt

Pa fusnesau sydd angen casglu gwybodaeth gyswllt gan ymwelwyr?

Mae gofyn i unrhyw fusnes sy’n gweithredu yn rhywle lle mae risg uchel gasglu gwybodaeth gyswllt. Lleoliadau risg uchel yw’r rhai lle mae cwsmeriaid ac ymwelwyr yn treulio amser hir yn y safle a/neu o bosibl yn dod i gysylltiad agos â phobl y tu allan i'w haelwyd (neu eu haelwyd estynedig os ydynt wedi ffurfio un).

Dyma enghreifftiau o leoliadau risg uchel y byddem yn disgwyl iddynt gasglu a chadw gwybodaeth gyswllt:

  • Busnesau lletygarwch, gan gynnwys tafarndai, bariau, bwytai a chaffis
  • Sinemâu
  • Gwasanaethau cysylltiad agos, gan gynnwys siopau trin gwallt, siopau barbwr, gwasanaethau harddwch, gwasanaethau tatŵio, a therapyddion chwaraeon a thylino
  • Pyllau nofio, stiwdios ffitrwydd o dan do, campfeydd, sbâs a chanolfannau neu gyfleusterau hamdden eraill o dan do. 
  • Neuaddau bingo
  • Casinos

Pam mae busnesau’n gorfod casglu'r wybodaeth hon?

Mae casglu gwybodaeth gyswllt yn helpu i ganfod pobl a allai fod wedi dod i gysylltiad â'r feirws ac sy'n asymptomatig (h.y. heb ddangos symptomau eto). Mae cyfyngu ar achosion yn hanfodol er mwyn lleihau lledaeniad y coronafeirws, gan ddiogelu'r GIG yng Nghymru ac achub bywydau. Bydd hyn yn helpu’r wlad i ddychwelyd at ffordd fwy arferol o fyw a sicrhau bod hynny’n parhau. 

Pa wybodaeth fydd yn cael ei chasglu oddi wrthyf?

Y gofyniad cyfreithiol yw casglu enwau unigolion a digon o wybodaeth (gan gynnwys rhif ffôn a'r dyddiad a'r amser pan oedd y person yn y lleoliad) i allu cysylltu â nhw i’w hysbysu y gallent fod wedi dod i gysylltiad â’r coronafeirws yn y safle.

Sut y byddaf yn gwybod bod fy nata personol yn ddiogel ac na chaiff ei drosglwyddo yn groes i’m dymuniad?

Mae'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data yn gosod rhwymedigaethau cyfreithiol ar fusnesau sy'n trin eich data personol, ac mae canllawiau wedi'u darparu hefyd i sefydliadau sy'n casglu'r data, yn seiliedig ar waith Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Er enghraifft, os na fyddai'r wybodaeth wedi cael ei chasglu a'i chadw fel arall, rhaid gwaredu neu ddileu eich gwybodaeth gyswllt yn ddiogel ar ôl 21 diwrnod. Mae gwaredu diogel yn golygu rhwygo dogfennau papur yn lle eu rhoi mewn biniau cyhoeddus, a sicrhau bod ffeiliau electronig yn cael eu dileu'n barhaol.

Beth sy'n digwydd os nad ydw i’n dymuno rhoi fy manylion?

Os yw'r lleoliad rydych yn ceisio cael mynediad iddo o dan ddyletswydd i gasglu eich manylion ac nad ydych yn fodlon eu rhannu, ni chaniateir ichi fynd i mewn i’r safle.  

Teithio a thrafnidiaeth gyhoeddus

A oes cyfyngiadau ar bobl sydd am deithio i Gymru?

O 6pm ddydd Gwener 16 Hydref, ni fydd pobl sy'n byw mewn ardaloedd yn y DU lle mae lefelau heintiad y coronafeirws yn uchel yn cael teithio i Cymru oni bai bod hynny ar gyfer gwaith, addysg neu reswm hanfodol arall (esgus rhesymol). Dyma’r ardaloedd perthnasol:

Mae rhestr lawn o’r ardaloedd ar gael drwy’r dolenni uchod.

Mae gwaharddiad eisoes ar deithio i’r rhannau o Gymru lle mae cyfyngiadau lleol (ac mae hyn yn berthnasol i bawb, boed yn byw yng Nghymru ai peidio).

A yw’r cyfyngiadau newydd yn fy atal hefyd rhag teithio o Gymru i unrhyw un o’r ardaloedd hyn?

Ydyn – mae’r cyfyngiadau yn gweithio’r dddwy ffordd. Felly, er enghraifft, nid oes hawl i deithio o Sir Benfro i Lannau Mersi heb esgus rhesymol.

Beth yw’r eithriadau i’r gwaharddiad cyffredinol hwn?

Caiff pobl ddal i deithio os oes ganddynt esgus rhesymol dros wneud hynny. Mae hyn yn cynnwys mynd i’r gwaith os na allwch weithio gartref, neu os oes gennych gyfrifoldebau gofalu.

I gael rhagor o fanylion am yr hyn sy'n esgus rhesymol, trowch at ein tudalennau am y cyfyngiadau lleol mewn gwahanol rannau o Gymru. Mae’r rhain yn nodi’r gwahanol amgylchiadau lle caniateir i drigolion yr ardaloedd hynny adael eu hardal.

A gaf i ffurfio aelwyd estynedig gydag aelwyd yn Lloegr?

Cewch, os ydych yn byw mewn rhan o Gymru lle caniateir aelwydydd estynedig o hyd, ond mae angen i'r trefniadau gydymffurfio â'r rheolau yn y ddwy wlad. Mae'r rheolau sy'n berthnasol yn Lloegr ar gael yma.

Fodd bynnag, os yw'r aelwyd yn Lloegr mewn ardal Haen 2 neu Haen 3 (gweler uchod) nid oes hawl i deithio rhwng yr aelwydydd heb esgus rhesymol, felly yn ymarferol bydd eich trefniant aelwyd estynedig yn cael ei atal tra bo'r cyfyngiadau lleol hynny ar waith.

Oes cyfyngiadau teithio yn eu lle yng Nghymru?

Mae cyfyngiadau lleol mewn grym mewn rhai rhannau o Gymru. Mae teithio i mewn ac allan o’r ardaloedd hyn sydd o dan gyfyngiadau lleol wedi’i gyfyngu i deithiau hanfodol yn unig. Mae hyn yn golygu na allwch deithio i mewn neu allan o ardal sydd o dan gyfyngiadau lleol am wyliau.

Mae pobl sy’n byw yn rhywle heb gyfyngiadau lleol yn rhydd i deithio i unrhyw le arall sydd heb gyfyngiadau lleol. Mae hynny’n golygu mynd ar wyliau yng Nghymru, neu y tu allan i Gymru.

Fodd bynnag, rydym yn gofyn i bawb feddwl yn ofalus am y teithiau maent yn eu gwneud a’r bobl maent yn cyfarfod â nhw. Dylai pob un ohonom feddwl yn ofalus am ble rydym yn mynd ac â phwy rydym yn cwrdd, oherwydd po fwyaf o leoedd yr awn iddynt, a pho fwyaf o bobl rydym yn cwrdd, y mwyaf yw’r siawns o ddal y coronafeirws a’i ledaenu.

Beth yw gweithgaredd wedi’i drefnu ar gyfer plant?

Gweithgareddau yw’r rhain sy’n cael eu trefnu gan gorff cyfrifol, er enghraifft busnes, corff cyhoeddus, elusen neu glwb, ar gyfer pobl o dan 18 oed. Rhaid i'r gweithgaredd ddigwydd mewn lleoliad sy’n cael ei reoleiddio, fel canolfan gymunedol neu ganolfan hamdden. Ni ddylid cynnal y gweithgaredd yng ngartrefi neu erddi pobl. Trefnydd y gweithgaredd sy'n gyfrifol am gynnal asesiad risg a sicrhau bos pob mesur rhesymol yn cael ei gymryd i atal pobl rhag cael eu heintio ac atal y coronafeirws rhag lledaenu.

Gallai hyn gynnwys:

  • Gweithgareddau ar gyfer datblygiad neu lesiant plant. Er enghraifft, gweithgareddau chwaraeon a hamdden.
  • Gweithgareddau a ddarperir y tu allan i oriau ysgol ac yn ystod gwyliau'r ysgol. Er enghraifft, clybiau ar ôl ysgol.

Ni chaniateir i bartïon plant gael eu cynnal fel rhan o'r gweithgareddau hyn.

A gaf i deithio i ardal sydd dan gyfyngiadau lleol, neu ei gadael, er mwyn i’m plentyn gael cymryd rhan mewn gweithgaredd sydd wedi’i drefnu?  

Cewch. Mae cymryd rhan mewn gweithgareddau sydd wedi'u trefnu ar gyfer plant yn esgus rhesymol dros fynd i ardal sydd dan gyfyngiadau lleol, neu adael ardal o’r fath. Fodd bynnag, dim ond os na ellir disgwyl yn rhesymol i chi wneud hyn y tu mewn i'ch ardal leol y dylech wneud hynny.

Ble mae angen gwisgo gorchuddion wyneb wrth deithio?

Mae gwisgo gorchuddion wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus – gan gynnwys bysiau, trenau, tramiau, tacsis, cychod ac awyrennau – yn ofyniad cyfreithiol. Mae angen i bawb sy’n 11 oed a throsodd sy'n teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus wisgo gorchudd wyneb.

Nid ydynt yn orfodol mewn cerbydau preifat megis eich car eich hun.

A oes rhaid imi wisgo gorchudd wyneb mewn gorsafoedd trenau, mewn arosfannau bysiau neu yn unrhyw le arall lle nad wyf ar gerbyd?

O 14 Medi, bydd rhaid ichi wisgo gorchuddion wyneb mewn ardaloedd o dan do mewn gorsafoedd bws, gorsafoedd trenau, meysydd awyr a phorthladdoedd. Does dim angen ichi wisgo gorchudd wyneb ar blatfform trenau nac mewn safle bws, ond rydym yn eich cynghori i wneud hynny os nad yw’n bosibl cadw pellter cymdeithasol.

Oes angen gorchudd arnaf os wyf am gamu i mewn i gerbyd, er enghraifft, os nad wyf ond yn helpu i gludo bagiau rhywun ar drên?

Mae'r gofyniad cyfreithiol yn berthnasol i deithwyr yn unig, ond os yw'r trên yn brysur rydym yn eich cynghori i wisgo gorchudd wyneb os ydych yn helpu rhywun.

Oes rhaid imi wisgo gorchuddion wyneb mewn tacsis?

Oes. Mae hyn er mwyn diogelu pawb yn y tacsi gan y byddwch i gyd yn agos iawn at eich gilydd drwy gydol y daith.

Oes rhaid imi wisgo gorchuddion wyneb ar fferi?

Nac oes yn y rhan fwyaf o achosion. Dim ond pan fyddwch mewn ardal sy'n rhannol neu'n gyfan gwbl o dan do y mae angen gorchuddion wyneb ar fferïau, a lle na ellir cadw pellter o 2 fetr gyda phobl y tu allan i'ch aelwyd (neu aelwyd estynedig os oes gennych un).

Ond bydd angen gorchuddion wyneb ar gychod llai lle nad yw'n bosibl cadw pellter cymdeithasol o 2 fetr.

A fydd angen i'm plentyn wisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus?

Rhaid i blant wisgo gorchudd wyneb os ydynt yn 11 oed neu'n hŷn oni bai fod ganddynt esgus rhesymol dros beidio â gwneud hynny – er enghraifft, anabledd neu anawsterau anadlu. Mae rhagor o wybodaeth am yr amgylchiadau pan na fydd gorchuddion wyneb yn ofynnol ar gael yn yr adran "esgusodion rhesymol" yn ein canllawiau ar orchuddion wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Gofalwch fod eich plentyn yn gwisgo gorchudd wyneb o faint addas i wneud yn siŵr ei fod yn cael ei ddiogelu’n iawn.  

O ran anableddau cudd, mae modd defnyddio’r laniard ‘blodyn haul’ i ddangos i bobl, gan gynnwys staff a chyd-deithwyr, y gallai fod angen rhoi cymorth a chefnogaeth ychwanegol i’r unigolyn. 

Pa fath o orchudd wyneb y mae’n rhaid imi ei wisgo?

Rydym yn cynghori pobl i wisgo gorchudd wyneb sy'n cynnwys tair haen o ddefnydd sydd wedi'i blethu'n agos fel cotwm o grys-t neu orchudd gobennydd. Mae rhagor o ganllawiau ar gael yma, gan gynnwys sut i wneud un eich hun.

A oes pobl eraill nad ydynt yn gorfod gwisgo gorchudd wyneb?

Efallai y bydd gan rai pobl esgus rhesymol i beidio â gwisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus – er enghraifft os oes ganddynt reswm meddygol neu anabledd, sy'n golygu na allant wisgo na thynnu gorchudd wyneb. Mae rhagor o ganllawiau ar bobl nad ydynt efallai yn gorfod gwisgo gorchuddion wyneb ar gael yma.

A oes sefyllfaoedd lle gallaf dynnu fy ngorchudd dros dro?

Oes, efallai y bydd gan bobl esgus rhesymol i wneud hyn. Mae enghreifftiau o'r sefyllfaoedd hyn yn cynnwys:

  • cyfathrebu â rhywun sy'n cael anhawster i gyfathrebu, megis darllenydd gwefusau
  • mewn argyfwng, er enghraifft i gael sylw rhywun
  • i gymryd meddyginiaeth os nad oes modd osgoi hyn

Mae rhagor o ganllawiau ar gael yma.

A gaf i dynnu fy ngorchudd wyneb i fwyta ac yfed?

Cewch wneud hyn os yw'n rhesymol ac os caniateir bwyta ac yfed ar y drafnidiaeth gyhoeddus yr ydych yn teithio arni. Mae enghreifftiau o sefyllfaoedd lle mae hyn yn debygol o gael ei ganiatáu yn cynnwys os ydych ar daith hir neu os yw' hi’n boeth. Efallai y bydd angen i rai pobl, ee os oes diabetes arnynt, fwyta neu yfed yn amlach hefyd. Er hynny, dylech dynnu eich gorchudd wyneb am gyn lleied o amser â phosibl.

Pam nad yw gweithwyr trafnidiaeth yn gorfod gwisgo gorchuddion wyneb?

Fel arfer, nid oes yn rhaid i weithwyr trafnidiaeth aros yn agos i’r un bobl am gyfnodau sylweddol o amser, yn wahanol i deithwyr ar sawl math o drafnidiaeth. Er hynny, mae'n ofynnol i weithredwyr trafnidiaeth gymryd pob mesur rhesymol i gadw teithwyr a staff yn ddiogel. Gall hyn olygu darparu sgriniau, er enghraifft, rhwng gyrrwr bws a theithwyr ond gallai hefyd olygu bod gweithwyr trafnidiaeth yn gwisgo gorchuddion wyneb.

Sut y caiff y rheolau eu gorfodi?

Gall y gyrrwr, y gard neu eraill sy’n gweithredu trafnidiaeth gyhoeddus ddweud wrth deithwyr am beidio â mynd i mewn i’r cerbyd os nad ydynt yn gwisgo gorchudd wyneb. Mae anwybyddu cyfarwyddyd fel hyn yn drosedd ynddi ei hun. Os oes angen, gall yr heddlu gamu i mewn, a gallai teithwyr nad ydynt yn cydymffurfio gael eu gorchymyn i ddod oddi ar y cerbyd.

Gall hysbysiadau cosb benodedig gael eu rhoi hefyd, gyda dirwy o £60 am drosedd gyntaf; caiff hyn ei gynyddu i £120 am ail drosedd ac mae'n parhau i ddyblu ar gyfer troseddau pellach, hyd at uchafswm o £1,920.

Rydym yn gobeithio y bydd pobl yn deall difrifoldeb y sefyllfa sy'n ein hwynebu ac y byddant yn cydymffurfio â'r rheoliadau, heb i gamau gorfodi gael eu cymryd.

A gaf i rannu car neu roi lifft i rywun?

Mae'n well osgoi rhannu car gyda rhywun nad yw’n rhan o’ch aelwyd (neu’ch aelwyd estynedig os oes gennych un). Os ydych yn rhannu car, eisteddwch mor bell â phosibl oddi wrth eich gilydd yn y car a gadael y ffenestri’n agored. Dilynwch y canllawiau hyn ar deithio'n ddiogel.

A gaf i gymryd gwersi gyrru nawr?

Cewch. Yn dilyn atal profion a gwersi gyrru ym mis Mawrth, ailddechreuodd gwersi gyrru ddydd Llun 27 Gorffennaf yng Nghymru er mwyn rhoi cyfle i ddysgwyr ymarfer cyn i’r profion gyrru ailgychwyn.

A gaf i barhau i ddefnyddio Maes Awyr Caerdydd er bod cyfyngiadau ar bwy all fynd mewn i’r ardal leol?

Cewch. Mae Maes Awyr Caerdydd yn parhau ar agor, gan ei fod yn ganolfan drafnidiaeth ac yn lleoliad cyfreithiol i bobl basio drwyddo. Fodd bynnag, i drigolion ardaloedd sydd o dan gyfyngiadau lleol, nid yw gwyliau yn reswm dilys i deithio, felly ni ddylai pobl o ardaloedd sydd o dan gyfyngiadau lleol fod yn defnyddio’r maes awyr i hedfan. Caniateir i bobl o ardaloedd eraill, pobl sy’n teithio i’r gwaith neu’r rheini sydd â rheswm dilys arall dros deithio barhau i ddefnyddio’r maes awyr.

Siopa ac adloniant

Pa siopau sydd ar agor?

Caiff pob busnes manwerthu agor os ydynt yn gallu cydymffurfio â’r ddyletswydd i gadw pellter corfforol yng nghyfraith Cymru. Dylai pobl osgoi teithio’n ddiangen ac osgoi mannau prysur, yn enwedig o dan do.

A gaf i deithio mor bell ag y mynnaf i fynd i’r siopau?

Cewch, os nad ydych yn byw mewn ardal lle ceir cyfyngiadau lleol, ond ni ddylech deithio i unrhyw un o’r ardaloedd hyn i siopa, oni bai bod rheswm da dros wneud hynny. Hefyd, mae pobl yn dal i gael eu cynghori i osgoi teithio diangen ac osgoi mannau poblog, yn enwedig o dan do.

A gaf i fynd i siopa gyda fy ffrindiau?

Os ydych am gwrdd â phobl nad ydynt yn perthyn i’ch aelwyd neu’ch aelwyd estynedig i fynd i siopa, dim ond yn yr awyr agored a chan gadw pellter corfforol y cewch wneud hynny, gan fod y risg o drosglwyddo'r feirws yn llawer mwy o dan do.

Dylech siopa o dan do ar eich pen eich hun neu gydag aelodau o’ch aelwyd neu’ch aelwyd estynedig (os ydych chi wedi ffurfio un). Ni chaniateir i bobl mewn ardaloedd o dan gyfyngiadau lleol fod yn rhan o aelwyd estyniedig. Hyd yn oed o fewn eich aelwyd estynedig, dim ond o dan do mewn grŵp o hyd at 6 o bobl (heb gynnwys plant o dan 11 oed) y cewch siopa. Bydd rhaid ichi wisgo gorchudd wyneb hefyd.

A gaf i fynd i’r siopau os ydw i wedi bod yn gwarchod fy hun?

Cewch – mae’r cyngor i warchod eich hun wedi cael ei ‘rewi’, felly nid oes angen ichi gadw draw o bob siop. Er hynny, dylech fod yn ofalus iawn o hyd, felly cofiwch siopa ar adegau tawelach, gwneud yn siŵr eich bod yn cadw 2 fetr i ffwrdd oddi wrth bobl eraill a golchi eich dwylo neu ddefnyddio diheintydd dwylo yn aml.

Pa leoliadau adloniant sydd yn dal i fod ar gau?

Mae dal yn ofynnol i theatrau a neuaddau cyngherddau, clybiau nos a lleoliadau adloniant rhywiol fod ar gau. Rydym wedi cyhoeddi canllawiau ar ail-agor cyrchfannau diwylliant a threftadaeth fesul cam,

sy’n cynnwys canllawiau ar gyfer ail-agor theatrau a neuaddau cyngherddau pan fydd yr amodau’n caniatáu hynny.

Caniateir i ganolfannau sglefrio ail-agor o 3 Hydref ymlaen.

Gwasanaethau cysylltiad agos

Pa fesurau sydd ar waith ar gyfer salonau harddwch?

Rydym yn adolygu ein canllawiau yn rheolaidd ac yn argymell bod y diwydiant yn edrych ar ein gwefan yn gyson i weld y fersiwn fwyaf diweddar. Rydym yn parhau i weithio gyda’r diwydiant harddwch i wneud yn siŵr bod y canllawiau’n glir ac yn adlewyrchu’r dulliau priodol o weithio. 

Wrth ddarparu gwasanaethau cysylltiad agos nid yw’n bosibl, yn gyffredinol, cydymffurfio â’r canllawiau cadw pellter cymdeithasol. O ganlyniad, bydd rhaid i’r rhan fwyaf o ddarparwyr gwasanaethau wisgo rhyw fath o gyfarpar diogelu personol, fel feisor. Bydd angen i chi wisgo gorchudd wyneb hefyd a bydd disgwyl ichi ddarparu manylion cyswllt.

A oes rhai pethau nad ydynt yn cael eu caniatáu mewn salonau harddwch? 

Rydym yn disgwyl i bob mesur rhesymol gael ei gymryd i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â’r feirws. Mae hyn yn golygu cadw pellter corfforol a chyfyngu ar ryngweithio wyneb yn wyneb, a gwell hylendid (glanhau a rhannu offer, golchi dwylo a hylendid anadlol ac ati).

Mae cyngor iechyd cyhoeddus cryf yn erbyn ymgymryd ag unrhyw fath o driniaeth, oherwydd y cysylltiad agos sydd ei angen rhwng y cleient a'r ymarferwr. Rhestrir y meysydd dan sylw yn y canllawiau - busnesau gwasanaethau cysylltiad agos. Fel cam rhesymol, rydym yn cynghori na ddylent ddigwydd oni bai bod yr hyfforddiant priodol wedi’u wneud a bod modd gwisgo cyfarpar diogelu addas.

Mae'r canllawiau (busnesau gwasanaethau cysylltiad agos) wedi'u diweddaru i sicrhau bod busnesau'n gwbl ymwybodol o'r mesurau diogelwch gofynnol.

Pa ganllawiau sydd ar waith ar gyfer gwasanaethau tylino, acwbigo ac electrolysis?

Fel yn achos salonau harddwch, rydym wedi gweithio gyda’r darparwyr i lunio canllawiau clir ar ddulliau priodol o weithio - busnesau gwasanaethau cysylltiad agos: canllawiau’r coronafeirws i weithleoedd.

Rydym yn cynghori’n gryf na ddylid cynnal triniaethau i’r wyneb ar hyn o bryd oni bai bod yr hyfforddiant priodol wedi’i wneud a bod modd gwisgo cyfarpar diogelu addas. Bydd disgwyl ichi ddarparu manylion cyswllt.

Pa fesurau sydd ar waith i’w gwneud yn ddiogel i wasanaethau tylino, acwbigo ac electrolysis ailagor?

Fel yn achos salonau harddwch, rydym wedi gweithio gyda’r darparwyr i sicrhau y bydd canllawiau clir ar ddulliau priodol o weithio.
Rydym yn cynghori’n gryf na ddylid cynnal triniaethau i’r wyneb ar hyn o bryd oni bai bod yr hyfforddiant priodol wedi’i wneud a bod modd gwisgo cyfarpar diogelu addas. Bydd disgwyl ichi ddarparu manylion cyswllt.

A gaf i ymgymryd ag unrhyw un o’r triniaethau hyn yn fy nghartref?

Cewch, ond gyda’r un cyfyngiadau a drafodir uchod ar y gwasanaethau a ddarperir ganddynt. Gofynnwyd i unigolion sy’n darparu’r gwasanaethau hyn siarad â’u cwsmeriaid cyn iddynt gyrraedd i drafod y camau sy’n ofynnol i ddarparu gwasanaethau cysylltiad agos yn ddiogel yn y cartref. 

A gaf i fynd i gael y triniaethau hyn gyda’m ffrindiau?

Oni bai eu bod yn mynd gyda phlant neu oedolyn agored i niwed, byddai’n well gennym pe bai cwsmeriaid yn mynd i’r apwyntiad a drefnwyd ganddynt ar eu pennau eu hunain pan fo hynny’n bosibl er mwyn sicrhau ei bod yn haws cadw pellter corfforol. Mae ein canllawiau ar gyfer busnesau sy’n darparu gwasanaethau cysylltiad agos yn dweud, wrth iddynt drefnu apwyntiadau ymlaen llaw, y dylent ofyn i gwsmeriaid ddod i’r apwyntiad ar eu pennau eu hunain.

Mae fy salon trin gwallt wedi agor, felly a gaiff gynnig gwasanaethau eraill fel trin fy ewinedd yn awr?

Caiff, mae’n bosibl i salonau ddarparu amrywiol fathau o wasanaethau yn awr. Fodd bynnag, rydym yn argymell yn gryf na ddylid cynnal triniaethau wyneb ar hyn o bryd.

A gaiff sbas agor?

Mae sbas yn cael ailagor ers 27 Gorffennaf, ond dim ond er mwyn darparu triniaethau harddwch a lles neu driniaethau holistig. Rydym yn argymell yn gryf na ddylid darparu triniaethau wyneb ar hyn o bryd. O 10 Awst ymlaen, mae sbas yn cael ailagor eu pyllau nofio, ond nid sawnas ac ystafelloedd stêm. Mae cyngor llawn ar gael yn yr adran ar ganolfannau hamdden a phyllai nofio.

Pa ganllawiau sydd ar waith ar gyfer gwasanaethau tatŵio a thyllu'r corff?

Rydym wedi gweithio gyda’r diwydiant i sicrhau y bydd canllawiau clir ar ffyrdd priodol o weithio.

Yn amlwg, wrth ddarparu gwasanaethau cyswllt agos, yn gyffredinol nid yw'n bosibl cadw pellter cymdeithasol. O ganlyniad, bydd angen i ddarparwyr gwasanaethau wisgo cyfarpar diogelu personol a bydd angen ichi wisgo gorchudd wyneb. Bydd disgwyl ichi hefyd ddarparu manylion cyswllt.

Rydym yn cynghori'n gryf yn erbyn cael tatŵs ar yr wyneb neu gael gwared â thatŵs ar yr wyneb, a hefyd tyllu'r tafod, y geg, y gwefusau, y trwyn, yr aeliau neu’r foch.

Chwaraeon a gweithgareddau awyr agored

A yw cyfleusterau chwaraeon a hamdden yn cael aros ar agor?

Ydynt, cyn belled eu bod yn bodloni’r holl ofynion diogelwch i ddiogelu pobl rhag y risg o ddal coronafeirws. Mae campfeydd a chanolfannau hamdden yn gorfod rhoi mesurau ar waith i sicrhau y cedwir pellter cymdeithasol, hylendid da, gwisgo gorchuddion wyneb (os yw’n briodol) ac na chaiff grŵp o bobl sy’n ymarfer corff neu’n cymryd rhan mewn chwaraeon fod yn fwy na 30 o bobl. Efallai y bydd angen iddynt hefyd atal gweithgareddau penodol lle bydd pobl mewn cysylltiad agos â’i gilydd oherwydd bod y risg o ledaenu’r feirws yn uwch yn yr ardal.   

A yw’r cyfyngiadau ar gyfer cynulliadau o fwy na 6 o bobl o dan do yn berthnasol i gyfleusterau chwaraeon?

Nac ydynt. Mae cymryd rhan mewn chwaraeon neu ymarfer corff yn esgus rhesymol i ymgynnull mewn grŵp o hyd at 30 o bobl.

A yw dosbarthiadau ymarfer corff yn cael eu caniatáu, hyd yn oed gyda mwy na 6 o bobl? 

Ydynt. Gellir cynnal dosbarthiadau ymarfer corff, ond dylid cadw maint dosbarthiadau mor fach â phosibl, gan ystyried maint yr ystafell a’r angen i gynnal 2 fetr o bellter corfforol.  Rydym yn disgwyl i bob mesur rhesymol gael ei gymryd i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â’r feirws. Mae hyn yn golygu cadw pellter corfforol a chyfyngu ar ryngweithio wyneb yn wyneb, a gwell hylendid (glanhau a rhannu offer, golchi dwylo a hylendid anadlol ac ati). O ganlyniad, efallai na fydd rhai dosbarthiadau yn gallu ailddechrau ar hyn o bryd.

A oes angen imi wisgo gorchudd wyneb pan fyddaf yn ymarfer corff mewn canolfan hamdden neu gampfa?

Oherwydd bod campfeydd a chanolfannau hamdden yn fannau cyhoeddus o dan do, bydd angen ichi wisgo gorchudd wyneb pan fyddwch yn mynd yno a bydd rhaid i chi ei wisgo bob amser, yn ddibynnol ar ba weithgaredd yr ydych yn ei wneud. Os ydych yn paratoi i ymarfer corff, yn newid neu’n gwneud gweithgaredd nad yw’n egnïol iawn, yn enwedig pan fyddwch yn agos at bobl eraill, mae’n rhaid ichi wisgo gorchudd wyneb.

Ond bydd rhai amgylchiadau lle bydd cynllun yr adeilad a natur yr ymarfer corff yn golygu na fyddai’n rhesymol i ddisgwyl ichi wisgo gorchudd wyneb. Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn cynghori yn erbyn gwisgo gorchudd wyneb wrth ymarfer corff gan y gallai chwys wlychu’r gorchudd wyneb yn gyflymach, gan ei gwneud yn anodd ichi anadlu a hyrwyddo twf micro-organebau. Mae’n cynghori mai’r mesur ataliol pwysig yn ystod ymarfer corff yw cadw pellter corfforol oddi wrth eraill.

Fel rhan o’r mesurau y bydd angen i weithredwr y gampfa neu ganolfan hamdden eu rhoi ar waith i leihau’r risg o ddal coronafeirws, bydd angen iddynt ystyried pa bryd y byddai’n amhriodol i wisgo gorchudd wyneb a pha gamau lliniaru sydd eu hangen. Bydd disgwyl iddynt roi rhagor o wybodaeth ichi am y systemau sydd ar waith a’r hyn sy’n ofynnol gennych chi.

A oes rhaid i staff a’r cyhoedd wisgo gorchuddion wyneb mewn canolfan hamdden neu gampfa?

Oes. Mae’n rhaid i staff sy’n gweithio mewn mannau o dan do sy’n agored i’r cyhoedd hefyd wisgo gorchudd wyneb, yn unol â’r gyfraith, pan fyddant yn yr ardaloedd hynny, yn amodol ar yr un eithriadau ag sy’n berthnasol i gwsmeriaid.

Pa fesurau sydd ar waith i'w gwneud yn ddiogel i ganolfannau hamdden a phyllau nofio agor?

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau ym mis Mehefin i helpu’r rhai sy’n gyfrifol am gyfleusterau i baratoi ar gyfer rheoli cyfleusterau o dan do ac yn yr awyr agored yn ddiogel.  Ers hynny rydym wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Chwaraeon Cymru, Cymdeithas Chwaraeon Cymru, cyrff llywodraethu fel Nofio Cymru, a'r sector, i sicrhau y bydd y canllawiau yn helpu cyfleusterau hamdden a phyllau nofio i agor yn ddiogel. Mae’r rhai sy’n gyfrifol am gyfleusterau hamdden hefyd wedi cytuno i rannu'r arferion gorau a'r gwersi a ddysgir gyda'i gilydd pan fyddant yn ailagor, er budd pawb sy'n gweithio yn eu cyfleusterau ac yn eu mynychu.

Bydd rhaid bob cyfleuster sy'n gymwys i ailagor sicrhau bod y canllawiau hyn yn cael eu dilyn, a bydd rhaid iddynt gynnal asesiadau risg er mwyn sicrhau bod eu cyfleusterau a'r gweithgareddau y maent yn eu cynnig yn ddiogel. Rydym yn disgwyl i bob mesur rhesymol gael ei gymryd i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â’r feirws. Mae hyn yn golygu cadw pellter corfforol a chyfyngu ar ryngweithio wyneb yn wyneb, a gwell hylendid (glanhau a rhannu offer, golchi dwylo a hylendid anadlol ac ati). O ganlyniad, efallai na fydd rhai gweithgareddau hyfforddi yn gallu ailddechrau ar hyn o bryd ac ni ddylai ystafelloedd sawna a stêm agor. Bydd disgwyl ichi ddarparu manylion cyswllt.

Sut mae meysydd chwarae’n cael eu cadw’n ddiogel?

Mae gofyn i bob perchennog neu weithredwr gymryd pob mesur rhesymol i leihau lledaeniad y coronafeirws. Rydym wedi darparu canllawiau a fydd yn gofyn i berchenogion a gweithredwyr gynnal asesiad risg a chyflwyno camau ymarferol i leihau’r risg o drosglwyddo’r coronafeirws - ailagor meysydd chwarae plant a mannau chwarae awyr agored. Mae angen i bob perchennog neu weithredwr roi’r canllawiau hynny ar waith ar gyfer y cyfleusterau y maent yn gyfrifol amdanynt, gan ddibynnu ar yr amgylchiadau ac ar sut y mae’r cyfleusterau hynny wedi’u gosod a’u cynllunio. Bydd angen ystyried maint y maes chwarae a’r math o gyfarpar sydd yno a sut y mae’n cael ei drefnu, ei redeg a’i reoli.

Does dim modd dileu risg yn llwyr. Er hynny, mae chwarae yn yr awyr agored o fudd mawr i blant ac mae ailagor parciau’n helpu plant gyda’u hiechyd meddwl, eu hiechyd corfforol a’u lles. Mae llai o risg o drosglwyddo coronafeirws mewn amgylcheddau awyr agored.

Mae rhieni a gwarcheidwaid yn cael eu hannog i ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros gadw pellter cymdeithasol ac arferion da o ran hylendid, er enghraifft drwy annog y plant i olchi neu ddiheintio’u dwylo, i beidio â bwyta nac yfed mewn parciau, i lanhau cyfarpar â’u clytiau glanhau eu hunain, ac i sicrhau mai dim ond niferoedd bach fydd yn y parciau ac yn defnyddio’r cyfarpar ar yr un pryd, gan wneud hynny drwy ddefnyddio’r cyfarpar yn eu tro a mynd i’r parciau ar adegau llai prysur.

Symud tŷ

A gaf i symud tŷ?

Cewch. Mae hyn yn cynnwys symud i mewn neu allan o ardal o dan gyfyngiadau lleol. Rydym yn argymell y dylai’r tŷ gael ei lanhau’n drylwyr cyn ichi symud yno os nad yw wedi bod yn wag am o leiaf dri diwrnod cyn hynny. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y canllawiau ar symud tŷ yn ystod y pandemig.

A oes unrhyw gyfyngiadau o hyd ar fynd i weld eiddo a thrafodion eraill y farchnad dai?

Nac oes. Cafodd y cyfyngiadau ar fynd i weld eiddo sydd wedi'i feddiannu eu codi ddydd Llun 27 Gorffennaf a gall darpar brynwyr a thenantiaid wneud trefniadau priodol yn awr gyda landlordiaid, asiantwyr neu berchnogion eiddo i  fynd i weld eiddo. Fodd bynnag, os bydd angen i chi fynd mewn neu adael ardal o dan gyfyngiadau lleol er mwyn mynd i weld tai, gofynnwn i chi i ystyried yn y lle cyntaf a oes opsiynau ymarferol eraill ar gael megis gweld y tai mewn ffordd rithiol neu ofyn i rywun fynd i weld yr eiddo ar eich rhan.

Dylai pawb sy'n ymwneud â'r broses ddilyn canllawiau ar gadw pellter cymdeithasol a golchi dwylo a hylendid anadlol.

A gaf i drefnu i gynnal arolwg morgais yn fy eiddo nawr?

Cewch. Mae gwerthwyr tai, syrfewyr a gweithwyr symud dodrefn yn cael mynd i dai. Mae angen iddynt ddilyn y canllawiau ar gadw pellter corfforol yn y gweithle.

Mannau addoli, priodasau a phartneriaethau sifil, mynwentydd ac angladdau

Beth yw’r rheolau ar gyfer gwasanaethau crefyddol?

Caiff addoldai agor ar gyfer addoli cymunedol, ond mae dyletswydd ar y rhai sy'n gyfrifol am y man addoli i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws ac i roi gwybod i’r bobl sy'n bresennol sut y gallant leihau'r risg. Gellir cynnal seremonïau hefyd, naill ai fel rhan o addoliad cymunedol neu fel digwyddiadau ar wahân. Bydd disgwyl i bobl gadw pellter cymdeithasol a chorfforol a dilyn arferion da o ran hylendid dwylo a hylendid anadlol. 

Os yw addoldy yn rhy fach i allu cynnwys cynulleidfa yn ddiogel, mae’n bosibl y bydd modd iddo drefnu cynulliad mwy o hyd at 30 o fynychwyr yn yr awyr agored gyda’r mesurau priodol.

Oes rhaid imi wisgo gorchudd wyneb mewn gwasanaeth crefyddol?

Oes, mae mannau addoli yn fannau cyhoeddus o dan do, ac felly mae’r gofynion yn berthnasol yno fel mewn mannau cyhoeddus eraill. Rydym yn credu y bydd gan y sawl sy’n arwain yr addoliad neu’r seremoni esgus rhesymol dros beidio gwisgo gorchudd wyneb os na allent wneud eu gwaith yn effeithiol tra’n gwisg un. Ond rhaid iddynt gymryd camau digonol eraill fel cadw dros 2 fetr oddi wrth eraill a gwisgo feisor.

A yw pob lleoliad posibl ar gyfer priodas neu bartneriaeth sifil ar agor erbyn hyn?

Ydyn. Mae pob eiddo sydd wedi’u trwyddedu i weinyddu priodas neu i gynnal partneriaeth sifil yn awr yn cael agor i gynnal seremonïau priodas a phartneriaethau sifil. Fodd bynnag, mae hyn yn amodol ar yr angen i gymryd pob mesur rhesymol i leihau'r risg o ledaenu'r feirws yn y safle.

A oes cyfyngiadau ar nifer y bobl sy'n cael mynd i’r seremoni?

Bydd y nifer a fydd yn cael mynd i seremoni o dan do yn dibynnu ar gapasiti’r safle lle caiff ei gynnal, gan ystyried y mesurau cadw pellter corfforol. Nid yw hyn wedi’i effeithio gan y cyfyngiad cyffredinol ar gynulliadau o dros chwech o bobl, a chaniateir i bobl fynd mewn neu adael ardal o dan gyfyngiadau lleol er mwyn mynd i’r seremoni (ond nid i dderbyniadau).

Er mwyn sicrhau y cedwir at y canllawiau ynglŷn a chyfyngu’r niferoedd, dim ond trwy wahoddiad y gellir mynychu’r seremoni. Gweler y canllawiau perthnasol ar briodasau/seremonïau partneriaeth sifil.

A oes angen gwisgo gorchudd wyneb mewn seremonïau priodas a phartneriaethau sifil?

Bydd angen i westeion wisgo gorchudd wyneb, ond oherwydd pwysigrwydd y seremoni i’r cwpl a lefel y risg, rydym yn credu ei bod yn rhesymol i’r cwpl dynnu eu gorchudd wyneb i gusanu, i ddweud eu haddunedau ac ar gyfer y “ddawns gyntaf”, cyn belled bod mesurau eraill ar waith i ddiogelu’r bobl sy’n bresennol yn y seremoni rhag y risg o ddal coronafeirws, er enghraifft, bod y gwesteion yn aros 2 fetr oddi wrth y cwpl bob amser.

Beth yw'r rheolau o ran cynnal derbyniadau?

Gellir cynnal derbyniad ar gyfer hyd at 30 o bobl yn yr awyr agored, neu pan fydd y briodas yn cael ei chynnal ar 22 Awst neu wedi hynny, gellir eu cynnal o dan do. Pan fydd y derbyniad yn cael ei gynnal dan do, bydd angen iddo gael ei gynnal mewn lleoliad wedi’i reoleiddio (megis tafarndai, bwytai, gwestai neu ganolfannau cymunedol) a bydd cyfyngiadau ar y math o weithgarwch a all ddigwydd – er enghraifft ni ddylid chwarae cerddoriaeth uchel, a dylid gweini unrhyw fwyd wrth y bwrdd yn hytrach nag fel bwffe.

I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein canllawiau ar gynnal derbyniadau priodas.

Mewn ardaloedd sydd o dan gyfyngiadau lleol, dim ond trigolion o’r ardal honno caiff fynd. Os caiff y derbyniad ei gynnal mewn ardaloedd heb gyfyngiadau lleol, ni chaniateir i bobl o ardaloedd sydd o dan gyfyngiadau lleol fynd.

Mae aelod agos o'r teulu wedi marw ac mae angen i mi drefnu'r angladd – beth ddylwn i ei wneud?

Gall angladdau fod yn brofiad gofidus, ac mae effaith y coronafeirws yn ei gwneud yn anoddach fyth i wneud trefniadau ymarferol. Cyhoeddwyd canllawiau ar angladdau.

A gaf i fynd i angladd?

Cewch, ond mae'n rhaid ichi gael gwahoddiad. Mae'r niferoedd wedi'u cyfyngu oherwydd yr angen i gadw pellter corfforol. Nid yw’r cyfyngiad cyffredinol ar gynulliadau o dros chwech o bobl yn berthnasol i angladdau, a chaniateir i bobl fynd mewn neu adael ardal sydd o dan gyfyngiadau lleol neu adael yr ardal honno er mwyn mynd i angladdau (ond nid i dderbyniad neu gynulliadau eraill yn dilyn angladd).

A gawn ni drefnu i ymgynnull ar ôl angladd?

Caiff hyd at 30 o bobl ymgynnull at y dibenion hyn. Os yw hynny o dan do, bydd angen ymgynnull mewn eiddo wedi’i reoleiddio (megis gyda chyfarwyddwr angladdau, mewn tafarndai, bwytai, gwestai neu ganolfannau cymunedol) a bydd cyfyngiadau ar y math o weithgarwch a all ddigwydd – er enghraifft ni ddylid chwarae cerddoriaeth uchel, a dylid gweini unrhyw fwyd wrth y bwrdd yn hytrach nag fel bwffe.

Rhoddir mwy o fanylion ar beth a ganiateir yn ein canllawiau ar angladdau.

Mewn ardaloedd lle ceir cyfyngiadau lleol, dim ond trigolion o’r ardal honno caiff fynd. Os caiff y digwyddiad ei gynnal mewn ardaloedd heb gyfyngiadau lleol, ni chaniateir i bobl o ardaloedd sydd o dan gyfyngiadau lleol fynd.

Y gofynion ar fusnesau a pherchnogion safleoedd

Mae’r gofynion i fusnesau gadw pellter o 2 fetr rhwng pobl wedi cael eu newid – beth mae hynny’n ei olygu?

Rhaid i fusnesau, a phob adeilad a safle arall sydd ar agor i’r cyhoedd, barhau i gymryd pob mesur rhesymol i gadw pellter o 2 fetr mewn safle, neu wrth aros i fynd i mewn i safle, heblaw’r rhai sy’n perthyn i’r un aelwyd neu aelwyd estynedig.

Fodd bynnag, wrth i fwy o fathau o fusnesau a safleoedd ailagor, rydym wedi cyflwyno gofynion ychwanegol y mae'n rhaid i fusnesau eu dilyn er mwyn lleihau'r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.

Mae'r rhain yn cynnwys cadw at safonau hylendid ac osgoi ymwneud yn agos â phobl, wyneb yn wyneb, os oes modd. Rydym hefyd wedi cyflwyno dyletswydd i ddarparu gwybodaeth i'r rhai sy’n mynd i mewn i safleoedd neu sy’n gweithio ynddynt ynglŷn â’r camau i’w cymryd osgoi dod i gysylltiad â’r feirws.  

Mae angen cadw at y dyletswyddau hyn, boed yn bosibl cymryd camau rhesymol i sicrhau pellter o 2 fetr rhwng pobl ai peidio. 

Os nad yw'n rhesymol cadw pellter o 2 fetr, bydd rhaid i unrhyw un y mae’r ddyletswydd yn berthnasol iddo gymryd camau eraill i leihau'r risg. Gallai hynny gynnwys gosod rhwystrau corfforol neu aildrefnu cynllun yr ystafell neu’r dodrefn er mwyn lleihau cysylltiad agos wyneb yn wyneb. Mae rhagor o ganllawiau yma ar y mesurau y dylid eu cymryd.

Nid yw gweithio o gartref yn ofyniad cyfreithiol bellach – a yw hynny'n golygu y gall fy nghyflogwr ei gwneud yn ofynnol imi fynd yn ôl i'r swyddfa?

Mae gweithio o gartref lle y bo hynny’n bosibl yn parhau i fod yn ofyniad cyfreithiol mewn ardaloedd lle ceir cyfyngiadau lleol.

Yng ngweddill y wlad, rydym yn parhau i gynghori pobl i weithio gartref oni bai bod angen busnes clir iddynt ddychwelyd i’r gweithle. Mae gan gyflogwyr hefyd ddyletswydd i gymryd pob mesur rhesymol i leihau lledaeniad y coronafeirws. Bydd hyn yn cynnwys sicrhau nad ydynt yn ei gwneud yn ofynnol i staff ddychwelyd i weithleoedd os nad oes angen busnes sydd wedi'i ddangos yn glir.

Gorfodi a dirwyon

Pwy sy'n gorfodi'r cyfyngiadau?

Caiff y cyfyngiadau eu gorfodi gan swyddogion iechyd yr amgylchedd awdurdodau lleol a'r heddlu.

Beth gaiff swyddogion gorfodi ei wneud?

Cânt gyhoeddi hysbysiadau cosb benodedig neu argymell erlyn mewn llys ynadon. Yn ogystal, mae ganddynt bwerau eang i gymryd camau ymarferol i wasgaru cynulliadau, ei gwneud yn ofynnol i bobl fynd adref a chael mynediad i eiddo.

Beth os nad oes mesurau rhesymol yn cael eu cymryd mewn safle neu weithle i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws?

Mae swyddogion gorfodi awdurdodau lleol bellach yn cael cyhoeddi "hysbysiad gwella mangre".  Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i'r person sy'n gyfrifol am y safle gymryd camau penodedig, ac os na chymerir y mesurau hynny caiff swyddog roi "hysbysiad cau mangre" sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r safle gau. Lle bo angen, caiff  swyddog hefyd roi hysbysiad cau mangre, hyd yn oed os nad oedd wedi rhoi hysbysiad gwella mangre cyn hynny.

Felly, os nad yw pobl yn cydymffurfio, gellir cau'r safle.

Beth fydd yr heddlu yn ei wneud?

Bydd yr heddlu yng Nghymru yn ymgysylltu â phobl, yn esbonio beth sydd angen iddynt ei wneud ac yn eu hannog i gydymffurfio. Ond rhoddwyd pwerau i'n heddluoedd a byddant yn eu defnyddio – caiff y cyfyngiadau eu gorfodi os na fydd pobl yn ymateb.

Beth yw'r cosbau ariannol?

Mae rheoliadau'r coronafeirws yn cynnwys darpariaethau ar gyfer cyhoeddi hysbysiad cosb benodedig ar gyfer y rhan fwyaf o achosion o dorri’r rheoliadau, gan gynnwys dirwy o £60; bydd hyn yn codi i £120 am ail drosedd ac yn parhau i ddyblu ar gyfer troseddau dilynol, hyd at uchafswm o £1,920. Fodd bynnag, os caiff yr unigolyn ei erlyn, caiff llys orfodi unrhyw ddirwy (nid oes uchafswm).

Mae trefnu digwyddiad cerddorol heb drwydded gyda mwy na 30 o bobl ynddo yn drosedd ar wahân. Digwyddiadau yw’r rhain sydd heb drwydded neu heb awdurdod arall o dan Ddeddf Trwyddedu 2003. Bydd mynd yn groes i’r gwaharddiad hwn yn drosedd y gellir ei chosbi drwy euogfarn a dirwy ddiderfyn, neu gosb amgen i euogfarn sef cosb benodedig sydd wedi’i gosod ar £10,000.  

Mae’r ddirwy ddiderfyn neu’r gosb benodedig sylweddol ar gyfer trefnwyr y digwyddiadau anghyfreithlon hyn yn adlewyrchu’r canlyniadau difrifol posibl i iechyd y cyhoedd yn y cyfnod hwn.

Rydym yn gobeithio y bydd pobl yn deall difrifoldeb y sefyllfa rydym yn ei hwynebu ac y byddant yn cydymffurfio â'r rheoliadau, heb orfod eu cosbi.

Rhannu’r dudalen hon