Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau i ddiogelu eich hun yn ystod cyfnod y coronafeirws a pha reolau sydd yn eu lle i ddiogelu pobl.

Cyffredinol

Beth sy’n newid ar 4 Rhagfyr?

Rydym yn cyflwyno cyfyngiadau ychwanegol i gryfhau’r mesurau cenedlaethol gan fod nifer yr achosion o’r coronafeirws yn cynyddu ledled Cymru. Yn benodol:

  • bydd yn ofynnol i fwytai, caffis, bariau a thafarndai gau am 6pm ac ni chaniateir gweini alcohol unrhyw adeg
  • bydd yn ofynnol i leoliadau adloniant ac atyniadau twristaidd o dan do gau.

Pam gwneud hyn?

Ymyriad llym, byr oedd y cyfnod atal byr diweddar, a lwyddodd i arafu lledaeniad y coronafeirws. Ond mae’r feirws unwaith eto’n heintio niferoedd mawr o bobl ledled Cymru ac mae angen cymryd camau ychwanegol i ddiogelu iechyd pobl ac achub bywydau.

Mae nifer y bobl mewn ysbytai â symptomau’r coronafeirws yn cynyddu bob dydd ac, yn anffodus, mae nifer y bobl sy’n marw â’r coronafeirws yn cynyddu hefyd.

Mae’r GIG yn wynebu pwysau sylweddol a heb weithredu, bydd yn ei chael yn anodd ymateb i’n holl anghenion gofal.

Rhaid inni gyflwyno mesurau ychwanegol i reoli twf y feirws, yn enwedig wrth inni baratoi i lacio’r rheolau dros gyfnod y Nadolig.

Pa gyfyngiadau fydd mewn grym?

Y prif bethau rydym yn gofyn i bobl eu gwneud yw:

  • Aros allan o gartrefi eich gilydd, ac eithrio mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn
  • Cyfyngu ar faint rydych yn gadael eich cartref, a’r pellter rydych yn ei deithio
  • Pan fyddwch yn gadael eich cartref, ceisiwch gyfyngu ar faint o wahanol bobl yr ydych yn eu gweld. Mae'n well gweld un neu ddau o bobl yn rheolaidd na gweld llawer o wahanol bobl yn achlysurol
  • Cadwch bellter cymdeithasol, gan gynnwys yn yr awyr agored 
  • Ceisiwch gwrdd â phobl yn yr awyr agored yn hytrach nag o dan do lle bo hynny'n bosibl, hyd yn oed mewn amgylchiadau lle mae’r gyfraith yn caniatáu ichi gwrdd o dan do
  • Gweithio gartref os gallwch
  • Golchi eich dwylo'n rheolaidd a dilyn cyngor arall ar hylendid
  • Hunanynysu os oes gennych symptomau’r coronafeirws

A gaf i ddirwy os na ddilynaf y canllawiau hyn?

Nid yw’r rhai o'r canllawiau hyn yn gyfraith ac felly ni fyddant yn cael eu gorfodi gan yr heddlu. Fodd bynnag, hyd yn oed os oes hawl i wneud pethau, rydym yn gofyn ichi feddwl am beth sy’n synhwyrol i’w wneud i ddiogelu eich teulu, eich ffrindiau a’ch cymuned yn hytrach na meddwl am yr hyn a ganiateir.

Mae’r coronafeirws yn ffynnu pan fyddwn ni’n dod at ein gilydd. Dim ond os bydd pawb yn gwneud newidiadau bach i’w bywydau ac yn lleihau eu cysylltiad â phobl eraill y gallwn ddod â’r coronafeirws o dan reolaeth.

Mae rhai cyfreithiau o hyd hefyd i sicrhau nad yw pobl yn dewis cymryd risgiau yn ddiangen. Y prif ofynion yw:

  • ac eithrio mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn, rhaid i bobl beidio â mynd i mewn i gartrefi na gerddi ei gilydd
  • wrth gwrdd â phobl nad ydynt yn byw gyda chi, yn y rhan fwyaf o achosion y nifer uchaf o bobl a gaiff gyfarfod â’i gilydd yw pedwar (heb gynnwys plant o dan 11 oed)
  • rhaid gwisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus o dan do
  • rhaid ichi hunanynysu pan fydd gwasanaeth Profi Olrhain Diogelu’r GIG yn gofyn ichi wneud hynny

Am ba hyd y bydd y mesurau hyn mewn grym?

Bydd y mesurau hyn mewn grym o 6pm ddydd Gwener 4 Rhagfyr hyd nes y bydd y sefyllfa wedi newid. Bydd y cyfyngiadau yn cael eu llacio dros dro rhwng 23 a 27 Rhagfyr i ganiatáu i fwy o bobl weld ei gilydd gartref dros gyfnod y Nadolig.

Sut y bydd y rheolau yn wahanol rhwng 23 a 27 Rhagfyr?

Rhwng dydd Mercher 23 Rhagfyr a dydd Sul 27 Rhagfyr 2020, bydd y cyfyngiadau ar gymdeithasu a theithio o fewn y DU yn cael eu llacio dros dro. Bydd hyn yn caniatáu i bobl o dair aelwyd ffurfio swigen Nadolig unigryw a theithio unrhyw le o fewn y DU.

I gael rhagor o wybodaeth am y rheolau a fydd mewn grym dros gyfnod y Nadolig, gweler ein canllawiau Nadolig.

Gweld pobl eraill yn eich cartref

Pwy gaf i gwrdd â nhw yn fy nghartref?

Ni chaiff pobl nad ydych yn byw gyda nhw ddod i mewn i'ch cartref, oni bai eich bod wedi ffurfio aelwyd estynedig (neu “swigen”) gyda nhw (ac eithrio mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn, fel gweithwyr sy’n gwneud gwaith yn eich cartref). Hefyd, amgylchiadau cyfyngedig iawn sydd lle caniateir ichi fynd i gartrefi pobl eraill.

Mae llawer o ledaeniad y coronafeirws wedi digwydd yng nghartrefi pobl. Er bod rhai pobl yn gallu cadw eu tai'n gymharol ddiogel i ymwelwyr, bydd pobl yn ymddwyn yn wahanol gartref. Ni allwn wirio bod y rheolau yn cael eu dilyn yng nghartrefi preifat pobl, fel yr ydyn ni’n gallu ei wneud mewn siopau, caffis, gweithleoedd a mannau cyhoeddus eraill. Dyna pam mae'n rhaid i'r rheolau fod yn llymach mewn cartrefi preifat.

Mae hefyd gosb ychwanegol am gymryd rhan mewn partïon mewn tai a chosb uwch am drefnu partïon o’r fath.

Gweler y canllawiau ar weld pobl eraill mewn cartrefi preifat i gael rhagor o fanylion.

Beth yw ystyr aelwyd estynedig?

Caiff dwy aelwyd ddod ynghyd i ffurfio aelwyd estynedig (a elwir hefyd yn swigen). Mae hyn yn golygu y cewch dreulio amser gyda nhw yn eich cartref neu’ch gardd, neu yn eu cartref neu eu gardd nhw. Mae hyn yn cynnwys aros dros nos yn nhai eich gilydd. Mae hefyd yn caniatáu ichi gwrdd â nhw mewn grwpiau o fwy na phedwar yn eu mannau awyr agored.

Darllenwch y canllawiau ar weld pobl eraill mewn cartrefi preifat i gael gwybod beth yw’r rheolau ar bwy gaiff fod mewn aelwyd estynedig, sut i ddewis gyda phwy y dylech greu swigen, a sut mae hyn yn gweithio i bobl â gwahanol fathau o drefniadau byw.

A gaf i greu aelwyd estynedig gydag aelwyd mewn ardal awdurdod lleol wahanol?

Cewch, does dim cyfyngiad daearyddol ar bwy gaiff fod yn eich aelwyd estynedig. Ond rydym yn argymell eich bod yn ffurfio aelwyd estynedig gydag aelwyd leol os yw’n bosibl. Bydd hyn yn helpu i atal y feirws rhag lledaenu o ardal lle gall fod cyfradd haint uwch.

A gaf i greu aelwyd estynedig gydag aelwyd mewn rhannau eraill o’r DU?

Cewch, ond bydd angen i'r trefniadau gydymffurfio â'r rheolau yn y ddwy wlad. 

Gwiriwch pa reolau sydd mewn grym yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Rwy’n rhannu cyfrifoldeb rhiant am blentyn gyda rhywun nad yw’n byw gyda mi – a gaiff y plentyn ei drin fel rhan o’r ddwy aelwyd estynedig?

Os rhennir cyfrifoldeb rhiant, gall trefniadau presennol barhau a chaiff y plentyn symud rhwng tai’r ddau riant, ac felly rhwng aelwydydd y ddau riant.

Ni ddylai cyflwyno aelwydydd estynedig effeithio ar hyn, a dylid ystyried y plentyn yn rhan o aelwyd neu aelwyd estynedig y rhiant y mae gydag ef/hi ar yr adeg honno. Mewn geiriau eraill, os yw’r naill riant neu’r llall, neu’r ddau riant yn ffurfio aelwyd estynedig gydag aelwyd nad yw’n cynnwys y rhiant arall, caiff y plentyn barhau i symud yn rhydd rhwng tai’r rhieni, a bod yn rhan o’r ddwy aelwyd estynedig (h.y. nid oes rhaid i’r plentyn gadw pellter cymdeithasol o fewn aelwyd estynedig y naill riant na’r llall).

Dydw i ddim yn rhan o aelwyd estynedig gyda rhywun ond rwy'n credu bod arnynt angen gofal neu gymorth gen i – a gaf i ymweld â nhw?

Caniateir ichi ddarparu gofal neu gymorth i rywun sydd ei angen, fel person hŷn, plentyn neu oedolyn agored i niwed, hyd yn oed os nad yw'n rhan o'ch aelwyd estynedig. Mae hyn yn cynnwys bod mewn cartref preifat gyda nhw os oes angen. Cewch hefyd ymweld â rhywun ar sail dosturiol os bydd angen.

Wrth ystyried a oes angen ymweld â rhywun y tu allan i’ch aelwyd estynedig, yn enwedig o dan do, cofiwch fod cyfrifoldeb personol ar bob un ohonom i gydnabod y risgiau y mae’r feirws yn eu peri i ni ein hunain, i’n teuluoedd a’n ffrindiau, ac i’n cymunedau ehangach. Er enghraifft, dylech ystyried ffyrdd eraill o gyfathrebu megis galwad fideo ar eich ffôn neu’ch cyfrifiadur.

Bydd angen i bobl benderfynu beth sy'n rhesymol, yn unol â'r egwyddor gyffredinol honno. Cofiwch mai diben y cyfyngiadau sy’n parhau yw atal trosglwyddiad y feirws, gan gynnwys i’n hanwyliaid. Os gallwch gwrdd â phobl yn yr awyr agored neu mewn lleoliad diogel o ran COVID-19 yn hytrach nag mewn cartref preifat yna dylech wneud hynny.

A gaf i ymweld â phobl mewn cartrefi gofal neu leoliadau annomestig eraill?

Cewch – caniateir ymweliadau â chartrefi gofal, yn ogystal ag ymweliadau â hosbisau, sefydliadau troseddwyr ifanc a chyfleusterau llety diogel i blant. Bydd angen i'r ymweliadau hyn fod yn unol â'r rheolau a roddwyd ar waith gan y lleoliad unigol.

Gweler adran iechyd a gofal cymdeithasol y dudalen hon i gael rhagor o wybodaeth am gartrefi gofal yn benodol.

Beth ydych chi’n ei olygu wrth sail dosturiol?

Efallai y bydd gennych resymau tosturiol dros ymweld â rhywun os yw’r person hwnnw yn gweld pethau’n anodd yn gyffredinol yn ystod y cyfyngiadau, neu os yw’n byw gyda salwch corfforol neu feddyliol, wedi cael profedigaeth neu os ydych chi’n bryderus am ei les yn gyffredinol.

A yw'r rheolau'n wahanol i blant – a ydynt yn cael ymweld â’m cartref?

Yn y rhan fwyaf o achosion, mae'r rheolau ynghylch ymweld â chartrefi pobl eraill yr un fath ar gyfer oedolion a phlant. Ond mewn rhai amgylchiadau caniateir gwarchod plant mewn tai preifat – gweler yr adran addysg a gofal plant i gael rhagor o fanylion.

A yw'r rheolau ar ymestyn aelwydydd yn wahanol os wyf yn byw mewn llety a rennir, fel tŷ amlfeddiannaeth neu dŷ â chymorth?

Nac ydynt. Os ydych yn aelwyd unigol (e.e. mae gennych eich tenantiaeth eich hun) o fewn y cartref hwnnw a rennir, mae'r un rheolau'n berthnasol; gallwch greu aelwyd estynedig gydag un aelwyd arall o'r tu allan i'ch cartref a rennir. Mae hyn hefyd yn berthnasol i fyfyrwyr sy'n byw mewn tai amlfeddiannaeth (HMO) ac i bobl mewn tai â chymorth.

Os ydych yn rhannu cyfleusterau fel ystafell ymolchi neu gegin gyda phobl eraill, does dim angen ichi greu aelwyd estynedig gyda nhw er mwyn treulio amser gyda nhw yn yr adeilad. Fodd bynnag, dylech fod yn ymwybodol bod mwy o risg o wneud hyn a chymryd gofal priodol i leihau'r risg honno. Cewch wneud hyn mewn grwpiau o ddim mwy na phedwar o bobl ar y tro, heb gynnwys unrhyw blant o dan 11 oed.

Mae’r canllawiau ar weld pobl mewn cartrefi preifat ac ar fyw â chymorth yn cynnwys rhagor o wybodaeth am y lleoliadau hyn.

Beth os nad oes gennyf gartref, neu os wyf yn byw mewn llety anaddas?

Dylai eich awdurdod lleol eich helpu i ddod o hyd i lety brys addas a’ch cefnogi os nad oes gennych gartref neu os ydych yn byw mewn llety anaddas: mae ganddynt gyllid ar gyfer hyn.

Os ydych chi angen cymorth, cysylltwch â’r tîm opsiynau tai yn eich ardal leol. Bydd eu manylion cyswllt ar wefan yr awdurdod lleol.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ariannu Shelter Cymru i ddarparu cyngor a chymorth tai annibynnol. Gallwch gael rhagor o wybodaeth, cyngor a chymorth ar wefan Shelter Cymru.

Cwrdd â phobl y tu allan i'r cartref

A gaf i gwrdd â phobl o'r tu allan i'm swigen?

Cewch, ond ni chewch gwrdd â nhw mewn cartref preifat neu mewn gardd breifat os nad ydych yn rhan o’u haelwyd estynedig neu swigen.

Mewn mannau eraill, cewch gwrdd ag eraill yn yr awyr agored. Fodd bynnag, gofynnwn ichi wneud y canlynol

  • ceisio lleihau nifer y bobl wahanol rydych chi'n eu gweld. Mae'n well gweld un neu ddau o bobl yn rheolaidd na gweld llawer o wahanol bobl yn achlysurol 
  • cadw pellter cymdeithasol, gan gynnwys yn yr awyr agored
  • ceisio cwrdd â phobl yn yr awyr agored yn hytrach nag o dan do os oes modd
  • ceisio osgoi gwneud gweithgareddau a allai gynyddu’r risg o drosglwyddo’r feirws, er enghraifft gweiddi i gael eich clywed dros gerddoriaeth uchel, neu   ganu yn agos at bobl eraill)

Os ydych yn cwrdd â phobl nad ydynt yn byw gyda chi, yn y rhan fwyaf o amgylchiadau y nifer mwyaf o bobl sy’n cael ymgynnull yw pedwar (heb gynnwys unrhyw blant o dan 11 oed). Fodd bynnag, uchafswm yw hwn ac nid targed – po leiaf o bobl sy’n ymgynnull, y lleiaf yw'r risg.

Darllenwch y canllawiau ar adael eich cartref a gweld pobl eraill i gael rhagor o fanylion.

A oes rhaid i mi gwrdd â'r un pedwar o bobl bob tro neu a gaf i amrywio pwy rwy'n eu cyfarfod?

Pedwar yw’r nifer uchaf o bobl, nad ydynt yn byw gyda’i gilydd (heb gynnwys plant o dan 11 oed) sy'n cael ymgynnull. Uchafswm yw hwn, nid targed. Po leiaf o bobl sy’n ymgynnull, y lleiaf yw'r risg.

Mae hynny'n golygu y gallwch, mewn theori, amrywio'r bobl yr ydych yn eu cyfarfod, ond gofynnwn ichi geisio cyfyngu ar faint o wahanol bobl yr ydych yn eu gweld. Mae'n well gweld un neu ddau o bobl yn rheolaidd na gweld llawer o wahanol bobl yn achlysurol.

Mae mynd allan gyda phobl yn eich aelwyd estynedig hefyd yn debygol o fod yn fwy diogel, gan y byddwch yn debygol o fod yn treulio amser yn agos atynt beth bynnag. Oherwydd hyn, tra byddwch yn yr awyr agored, nid yw’r uchafswm o bedwar yn berthnasol pan fydd pawb sydd wedi ymgynnull yn rhan o’r un aelwyd estynedig. Ond mae’r rheol uchafswm o bedwar person nad ydynt yn byw gyda’i gilydd yn berthnasol mewn ardaloedd awyr agored sy’n rhan o siopau, caffis, tafarndai ac ati – er enghraifft byddai’n berthnasol mewn ardaloedd awyr agored mewn garej gwerthu ceir, mewn canolfan arddio ac mewn gardd gwrw.

Yn gyffredinol, rydym yn gofyn i bobl feddwl beth yw’r peth synhwyrol i’w wneud i’ch diogelu chi, eich ffrindiau a’ch cymuned, yn hytrach na meddwl am beth y caniateir ichi ei wneud. Dim ond os yw pawb yn gwneud eu gorau i ddilyn y canllawiau hyn y gallwn osgoi cyfnodau atal pellach.

Os byddaf yn cwrdd ag un grŵp o bobl, a gaf i gwrdd â grŵp arall yn ddiweddarach yr un diwrnod?

Nid yw hyn yn cael ei wahardd yn ôl y gyfraith, ond nid yw'n cael ei argymell. Mae'n well gweld un neu ddau o bobl yn rheolaidd na gweld llawer o wahanol bobl yn achlysurol.

Os ydych am weld gwahanol grwpiau o bobl, yr hiraf yw’r cyfnod rhwng gweld gwahanol grwpiau o bobl, y mwyaf tebygol ydych chi o’u cadw nhw a chi eich hun yn ddiogel. Bydd hyn yn eich galluogi i fod yn gymharol hyderus nad ydych wedi datblygu symptomau coronafeirws ar ôl gweld y grŵp cyntaf o bobl.

A yw'r rheolau'n wahanol gan ddibynnu a ydych o dan do neu yn yr awyr agored?

Cyn belled â’ch bod yn yr awyr agored nid yw’r uchafswm o bedwar yn berthnasol os yw’r bobl i gyd yn rhan o’r un aelwyd estynedig.

Felly, er enghraifft, pe bai teulu o bedwar mewn swigen gyda theulu o bump, fe allai’r swigen gyfan fynd am dro gyda’i gilydd. Ond mae’r rheol uchafswm o bedwar person nad ydynt yn byw gyda’i gilydd yn berthnasol mewn ardaloedd awyr agored sy’n rhan o siopau, caffis, tafarndai ac ati – er enghraifft byddai’n berthnasol mewn ardaloedd awyr agored mewn garej gwerthu ceir, mewn canolfan arddio ac mewn gardd gwrw.

Mae cyfarfod yn yr awyr agored yn dal i fod yn fwy diogel na chyfarfod o dan do os oes modd. Fodd bynnag, er bod y risg o drosglwyddo’r haint yn is yn yr awyr agored nag o dan do, mae'r risg yn yr awyr agored yn uwch nawr nag yr oedd yn yr haf. Y rheswm am hyn yw bod golau'r haul yn chwarae rhan bwysig wrth chwalu’r feirws. Felly mae cadw pellter cymdeithasol a sicrhau hylendid da yn bwysicach nag erioed, p'un a ydych o dan do neu yn yr awyr agored.

Cofiwch hefyd na chewch fynd i gartref preifat nac i ardd breifat oni bai eich bod yn aelod o aelwyd estynedig rhywun, ac eithrio mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn.

Darllenwch y canllawiau ar adael eich cartref a gweld pobl eraill i gael rhagor o fanylion.

A gaf i gwrdd â phobl yn fy ngardd os nad ydw i'n byw gyda nhw?

Mae gerddi'n cael eu trin fel rhan o'r cartref. Y rheswm dros hyn yw ei bod yn llawer mwy tebygol yn y gaeaf y bydd pobl sy’n ymgynnull yn yr ardd eisiau neu angen mynd i mewn i’r tŷ. Mae hynny'n golygu mai dim ond y bobl yn eich aelwyd estynedig neu'ch swigod y cewch gwrdd â nhw yno. Mae'r un peth yn wir am ymweld â phobl eraill yn eu gerddi.

A gaiff faint fynnir o blant o dan 11 oed gwrdd?

Mae'r rheolau ar gyfarfod yng nghartrefi pobl yn berthnasol i blant yn ogystal ag oedolion. Felly, yn gyffredinol, ni chaniateir i blant chwaith fynd i gartref rhywun arall oni bai eu bod wedi ffurfio aelwyd estynedig â nhw.

Mewn lleoliadau eraill, nid oes cyfyngiad o fewn y gyfraith ar nifer y plant o dan 11 oed sy'n cael ymgynnull.

Nid yw plant ifanc wedi'u cynnwys yn ein rheol ar y nifer o bobl gaiff ymgynnull oherwydd bod astudiaethau wedi canfod bod plant ifanc yn llai tebygol o drosglwyddo'r feirws, i blant eraill neu i oedolion, ac mae'n ymddangos nad yw’r feirws mor ddifrifol mewn plant ag y mae mewn oedolion gan amlaf. Gwnaed hyn hefyd er mwyn peidio ag atal rhieni sydd â mwy o blant rhag cyfarfod ag oedolion eraill.

Fodd bynnag, oherwydd bod plant ifanc yn gallu trosglwyddo'r feirws, dylai rhieni plant ifanc barhau i ddefnyddio synnwyr cyffredin, a gofalu'n arbennig bod eu plant yn sicrhau hylendid dwylo da ac yn lleihau cysylltiad agos lle bynnag y bo modd. Hyd yn oed gyda phlant mae'n fwy diogel cwrdd mewn niferoedd llai, a chwrdd â'r un bobl yn rheolaidd yn hytrach nag amrywiaeth o wahanol bobl.

Mae’r un rheolau ag oedolion yn berthnasol i blant 11 oed a throsodd.

Darllenwch y canllawiau ar adael eich cartref a gweld pobl eraill i gael rhagor o fanylion.

A oes angen i blant o dan 11 oed gadw pellter cymdeithasol?

I blant ifanc (11 oed neu iau), mae'n llai hanfodol ceisio cadw pellter o 2m rhyngddynt bob amser, neu rhwng y plant ac unrhyw oedolion nad ydynt yn byw gyda nhw. Fodd bynnag, dylech barhau i wneud pob ymdrech i wneud yn siŵr eu bod yn cadw pellter.

A oes unrhyw amgylchiadau lle caniateir cynulliadau o fwy na phedwar o bobl?

Mae rhai sefyllfaoedd lle mae’n ddigon posibl y bydd angen i bobl ddod at ei gilydd mewn grwpiau o fwy na phedwar, ac os felly, byddai'r rheini'n cael eu caniatáu. Er enghraifft, er mwyn cael addysg, at ddibenion gwaith, i fynychu addoldy neu i gymryd rhan mewn achosion llys. Caniateir i fwy na phedwar o bobl ddod ynghyd hefyd i alluogi unrhyw weithgareddau a drefnir yn benodol ar gyfer datblygiad neu les plant.

Ar gyfer y gweithgareddau uchod i gyd, nid oes unrhyw gyfyngiadau cyfreithiol penodol ar nifer y bobl a ganiateir, er y bydd mesurau diogelwch eraill yn golygu y bydd safleoedd unigol yn gosod eu terfynau eu hunain. Ceir rhestr lawnach o'r amgylchiadau lle caniateir i bobl ymgynnull yn Rheoliad 6.

Caiff uchafswm o 15 o bobl fynychu derbyniad priodas neu bartneriaeth sifil neu wylnos ar ôl angladd, cyn belled â bod hyn yn digwydd mewn safle a reoleiddir. Mae nifer y bobl sy'n gallu mynychu angladd neu seremoni priodas neu bartneriaeth sifil yn dibynnu ar y safle y mae'n digwydd ynddo.

Yn olaf, caiff mwy na phedwar o bobl nad ydynt i gyd yn byw gyda'i gilydd hefyd ddod ynghyd ar gyfer unrhyw weithgaredd arall wedi’i drefnu (gweler y cwestiwn nesaf).

Beth yw ystyr gweithgaredd wedi’i drefnu?

Gall gweithgaredd wedi'i drefnu fod yn unrhyw weithgaredd na chaniateir ymgynnull ar ei gyfer o dan unrhyw ran arall o'r Rheoliadau. Gellir cynnal gweithgareddau wedi’u trefnu yn yr awyr agored neu o dan do.  Rhaid i drefnydd y digwyddiad gynnal asesiad risg a chymryd pob mesur rhesymol i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws. Ni ddylid gwerthu nac yfed alcohol yn y digwyddiadau ac ni ddylid eu cynnal yng nghartrefi pobl.

Enghreifftiau o weithgareddau wedi’u trefnu fyddai gweithgareddau chwaraeon ac ymarfer corff, grwpiau cymorth a grwpiau eraill i gefnogi iechyd neu les pobl, fel dosbarthiadau bwydo ar y fron neu grwpiau colli pwysau.

Uchafswm o 15 o unigolion a gaiff gymryd rhan yn y gweithgareddau hyn o dan do, neu 30 os ydynt yn yr awyr agored. Nid yw hyn yn cynnwys plant o dan 11 oed neu bobl sy’n gweithio. Mae rheolau ar wahân hefyd yn gymwys i weithgareddau a drefnir ar gyfer datblygiad neu les plant.

Wrth gymryd rhan yn y gweithgareddau hyn, dylai pobl ddal i gadw pellter cymdeithasol oddi wrth bobl eraill y tu allan i’w haelwyd.

Er na fydd hyn yn bosibl ym mhob amgylchiad, mae'n dal i fod yn fwy diogel cynnal y gweithgareddau hyn ar-lein lle bo modd.

Darllenwch y canllawiau ar adael eich cartref a gweld pobl eraill i gael rhagor o fanylion.

Sut y bydd caffis, bwytai, tafarndai a bariau yn gallu gweithio'n ddiogel o dan do?

Darllenwch y canllawiau ar adael eich cartref a gweld pobl eraill i gael rhagor o fanylion.

Hunanynysu

Beth yn union y mae hunanynysu yn ei olygu?

Hunanynysu yw pan ydych yn aros adref ac yn cyfyngu ar bob cyswllt diangen ag eraill y tu allan i'ch cartref. Mae hyn yn cynnwys peidio â mynd i weithio y tu allan i’ch cartref. Diben hyn yw sicrhau nad yw pobl sydd wedi cael prawf COVID-19 positif yn ei basio i’w ffrindiau, eu teulu a'u cymuned ehangach, gan gynnwys eu cydweithwyr yn y gwaith.

Rwyf wedi cael prawf coronafeirws positif. Am ba hyd y mae angen imi hunanynysu?

Os ydych wedi cael prawf coronafeirws positif ac yn gwybod pa bryd y dechreuodd eich symptomau, mae angen ichi hunanynysu nes y bydd o leiaf 10 o ddiwrnodau wedi pasio ers diwrnod cyntaf eich symptomau.

Ond os ydych wedi cael prawf coronafeirws positif ac na allwch roi gwybod i’r swyddogion olrhain cysylltiadau pa bryd y dechreuodd eich symptomau, neu os nad oes gennych symptomau, rhaid ichi hunanynysu am 10 diwrnod ar ôl cael y prawf.

Nid wyf wedi cael prawf coronafeirws positif ond mae’r swyddogion olrhain cysylltiadau wedi dweud wrthyf am hunanynysu. Am ba mor hir y bydd angen imi wneud hyn?

Bydd angen ichi hunanynysu am 14 diwrnod.

Os nad ydych yn byw gyda’r person sydd wedi cael prawf coronafeirws positif, mae’r 14 diwrnod yn dechrau o’r tro diwethaf y cawsoch gysylltiad agos â’r person hwnnw. Dylai swyddogion olrhain cysylltiadau roi gwybod ichi beth oedd y dyddiad hwn.

Os ydych yn byw gyda’r person sydd wedi cael prawf positif, mae’r 14 diwrnod yn dechrau ar y diwrnod pan wnaethant roi gwybod am eu symptomau. Neu, os nad oes ganddynt symptomau, mae’r 14 diwrnod yn dechrau o’r amser y cawsant y prawf.

Rwyf wedi cael cyfarwyddyd i hunanynysu – a oes unrhyw sefyllfaoedd lle gallaf adael fy nghartref o hyd?

Mae rhai eithriadau prin lle cewch adael eich cartref pan ydych yn hunanynysu:

  • i geisio cyngor meddygol brys, neu ar gais gweithiwr meddygol proffesiynol
  • os oes risg o niwed difrifol ichi, fel i osgoi camdriniaeth ddomestig neu drais rhywiol
  • i ddiwallu rhwymedigaeth gyfreithiol neu i gymryd rhan mewn achos llys, os na ellir gwneud hyn o gartref
  • am resymau tosturiol fel mynd i angladd aelod o’r teulu neu ffrind agos
  • i siopa am hanfodion, ond dim ond os nad oes unrhyw un arall a all wneud hyn ac na allwch gael danfoniad bwyd
  • i symud tŷ, os oes rhaid gwneud hyn gan nad yw bellach yn bosibl ichi aros yn eich cartref presennol
  • i gael gwasanaethau milfeddygol, os na all unrhyw un arall gludo’r anifail i gael y gwasanaethau hynny

Fodd bynnag, er bod gennych hawl i adael eich cartref at y dibenion hyn, dylech feddwl yn ofalus a oes dewis arall ar gael yn lle gwneud hyn.

Os oes rhaid ichi adael eich cartref ac nad oes gennych ddewis arall, yn yr holl achosion uchod, rhaid i chi fod i ffwrdd o’ch cartref am gyn lleied â phosibl o amser a dylech gymryd pob cam posibl i osgoi’r risg o ledaenu’r feirws. Mae hyn yn cynnwys cadw’r pellter mwyaf oddi wrth bobl, osgoi defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a gwisgo gorchudd wyneb.

Pa gymorth sydd ar gael i bobl y mae’n rhaid iddynt hunanynysu?

Gall pobl ar incwm isel wneud cais i dderbyn taliad o £500 os ydynt wedi cael prawf coronafeirws neu os yw swyddogion Profi Olrhain Diogelu GIG Cymru wedi gofyn iddynt hunanynysu gan eu bod wedi dod i gysylltiad agos gyda rhywun sydd wedi cael prawf coronafeirws positif.

Mae’r taliad ar gael i bobl ar incwm isel nad ydynt yn gallu gweithio gartref ac a fyddai’n colli incwm o ganlyniad i hunanynysu. I fod yn gymwys, mae’n rhaid i bobl fod yn hunanynysu ac yn derbyn Credyd Cynhwysol neu fudd-dal penodedig arall.

Mae’r cynllun Taliad Hunanynysu bellach ar gael. Gall pobl wneud cais am y taliadau ar wefan eu hawdurdod lleol a bydd y taliadau’n cael eu hôl-ddyddio i 23 Hydref. Gweler tudalen y cynllun cymorth hunanynysu i gael gwybod mwy.

Mae fy mhlentyn wedi cael cyfarwyddyd i hunanynysu. A oes dyletswydd arno i hunanynysu?

Bydd plant 16 ac 17 oed fel arfer yn cael cyfarwyddyd uniongyrchol gan wasanaeth Profi Olrhain Diogelu GIG Cymru. Yn yr amgylchiadau hynny bydd y plentyn yn cael ei drin fel oedolyn ac mae’n rhaid iddo hunanynysu yn unol â’r un rheolau.

Gyda phlant iau, rhiant, gwarcheidwad neu oedolyn cyfrifol arall a fydd yn cael gwybod bod angen i blentyn hunanynysu. Yn yr achosion hyn y rhiant, gwarcheidwad neu oedolyn cyfrifol sy'n gyfrifol am sicrhau bod y plentyn yn cydymffurfio â’r gofyniad i hunanynysu. Mewn rhai amgylchiadau, os yw rhiant, gwarcheidwad neu oedolyn cyfrifol yn cael gwybod am blentyn 16 neu 17 oed, bydd angen iddynt gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod y plentyn yn hunanynysu.

Os oes rhaid i blentyn hunanynysu oherwydd ei fod wedi dod i gysylltiad â pherson o’r tu allan i’r cartref sydd wedi cael prawf COVID-19 positif, dim ond y plentyn hwnnw sy’n gorfod cwblhau cyfnod o hunanynysu (nid yr aelwyd gyfan).

A oes rhaid i'm cyflogwr adael imi hunanynysu?

Oes. Dylai cyflogwyr alluogi i unrhyw weithiwr sy’n gorfod hunanynysu wneud hynny.

A gaf i weithio gartref pan wyf yn hunanynysu?

Os ydych chi’n gallu gweithio gartref, rydym yn annog pobl i barhau i wneud hyn os yw’n bosibl, ac os ydynt yn teimlo’n ddigon da i wneud hynny. Dylai eich cyflogwr eich cefnogi i weithio gartref cymaint â phosibl pan ydych yn hunanynysu. Os na allwch weithio gartref, efallai y byddwch yn gymwys i gael taliad hunanynysu neu dâl salwch statudol oherwydd COVID-19 (ar GOV.UK).

Gwaith

Beth yw'r rheolau ynghylch gweithio gartref?

Rydym yn annog pobl yn gryf i weithio gartref os yw’n bosibl. Fodd bynnag, gall pobl nad ydynt yn gallu gweithio gartref, ond sy'n gallu gweithio'n ddiogel yn eu gweithleoedd, wneud hynny, ar yr amod bod eu gweithle yn dal yn agored.

Ein canllawiau i gyflogwyr yw na ddylai gweithwyr gael eu rhoi o dan bwysau i ddychwelyd i weithle os nad oes angen busnes clir iddynt wneud hynny. Dylai cyflogwyr sy'n ystyried ei gwneud yn ofynnol i'w staff ddychwelyd i’r gweithle asesu’n gyntaf a fyddai modd gwneud trefniadau eraill a fyddai’n diwallu’r rhan fwyaf o anghenion y cyflogwr. Dylid trafod hyn gyda staff neu gynrychiolwyr staff.

Beth allaf i ei wneud os wyf yn poeni am y mesurau diogelwch yn fy ngweithle?

Mae'r cyfyngiadau coronafeirws yn gosod rhwymedigaethau ar bobl sy'n gyfrifol am safleoedd lle mae gwaith yn digwydd i gymryd pob cam rhesymol i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws. Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl bod busnesau ac eraill yn deall mor ddifrifol yw’r sefyllfa rydym ni fel cymdeithas yn ei hwynebu, ac y byddant yn cymryd y camau rhesymol sydd eu hangen. Rydym yn annog cyflogwyr a gweithwyr i ddod at ei gilydd bob amser i ddatrys problemau. Fodd bynnag, os ydych yn parhau i bryderu am y mesurau diogelwch mewn unrhyw leoliad, gallwch roi gwybod i wasanaethau diogelu'r cyhoedd yr awdurdod lleol perthnasol.

A gaf i wneud gwaith adeiladu, trwsio neu gynnal a chadw yng nghartref rhywun?

Caiff gwaith yng nghartrefi pobl, er enghraifft gan weithwyr, barhau cyn belled â'i fod yn cael ei reoli mewn ffordd ddiogel a bod y gweithiwr ac aelodau'r cartref yn iach ac nad oes ganddynt unrhyw symptomau coronafeirws.

Fel busnesau eraill, rhaid i bobl sy'n gweithio yng nghartref rhywun arall gymryd pob cam rhesymol i leihau’r risg o ledaenu’r coronafeirws wrth weithio yng nghartrefi pobl eraill. Gweler y canllawiau ar fesurau rhesymol ac ar weithio yng nghartrefi pobl eraill i gael rhagor o wybodaeth.

Argymhellir hefyd na ddylai unrhyw waith gael ei wneud mewn cartref lle mae rhywun yn hunanynysu, heblaw os yw’n argyfwng fel trwsio nam sy'n peri risg uniongyrchol i ddiogelwch pobl – er enghraifft, gwaith plymio brys neu wneud addasiad i alluogi’r preswylwyr i aros yn eu cartref. Os na ellir osgoi cael gweithwyr i’r tŷ (oherwydd sefyllfa frys neu argyfwng), dylid cymryd pob gofal ychwanegol i gadw’r gweithwyr ac aelodau’r cartref ar wahân yn llwyr. Mewn achosion o’r fath, gall Iechyd Cyhoeddus Cymru roi cyngor i weithwyr ac aelwydydd. Ond ni ddylai unrhyw waith gael ei wneud gan weithiwr sydd â symptomau coronafeirws, waeth pa mor ysgafn ydyn nhw.

Rwy'n gweithio i fusnes a fydd yn gorfod cau/a fydd yn cael ei effeithio gan y rheoliadau hyn. A fydd cymorth ariannol ar gael i gefnogi fy swydd?

Bydd, dylai busnesau cymwys y mae COVID-19 wedi effeithio arnynt gael mynediad i’r cymorth sydd ar gael gan Lywodraeth y DU drwy'r Cynllun Cadw Swyddi (ar GOV.UK) a fydd nawr yn parhau tan ddiwedd mis Mawrth 2021.

A oes cymorth ar gael i bobl sydd wedi gweld lleihad yn eu hincwm, er enghraifft pobl ar gontractau dim oriau?

Mae amryw o ddewisiadau cymorth ariannol ar gael os ydych yn cael llai o waith neu ddim gwaith o gwbl oherwydd COVID-19. Mae’n bosibl y gallwch gael helpu drwy’r Gronfa Cymorth Dewisol a gwneud cais am Gredyd Cynhwysol.

Pa gymorth sydd ar gael i bobl hunangyflogedig a llawrydd?

Efallai y gall pobl hunangyflogedig hawlio cymorth ariannol drwy'r Cynllun Cymorth Incwm i'r Hunangyflogedig (ar GOV.UK).

Gall unigolion llawrydd sy'n gweithio yn y sectorau diwylliannol a chreadigol wneud cais drwy'r Gronfa Adferiad Diwylliannol (ar GOV.UK)

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn sicrhau bod cyllid ar gael i awdurdodau lleol ddarparu grant dewisol i fusnesau sydd ar gau neu sydd wedi dioddef effaith sylweddol. Gallwch gofrestru a gwneud cais am y cymorth hwn ar wefan eich awdurdod lleol.

Mae cymorth coronafeirws i fusnesau hefyd ar gael ar wefan Busnes Cymru

Pa gymorth sydd ar gael i fusnesau y mae’r newidiadau diweddaraf i’r rheoliadau yn effeithio arnynt?

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu £340m arall o gymorth i fusnesau drwy’r Gronfa Cadernid Economaidd i gefnogi busnesau y mae’r newidiadau newydd i’r rheoliadau yn effeithio arnynt. Bydd yn cynnwys cronfa benodol i gefnogi busnesau lletygarwch a thwristiaeth.

Mae cymorth newydd Llywodraeth Cymru wedi cael ei rannu yn ddwy gronfa: y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau sy’n werth £160m a chynllun grant penodol i sector gwerth £180m o dan y Gronfa Cadernid Economaidd.

Mae’r Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau yn caniatáu i fusnesau cymwys yn y sectorau lletygarwch, twristiaeth a hamdden sy’n talu ardrethi annomestig gael mynediad at grantiau hyd at £5000.

Bydd busnesau nad ydynt ar y system ardrethi annomestig yn dal i allu gwneud cais i awdurdodau lleol ar gyfer grant dan Grant Dewisol y Cyfyngiadau a gallent gael hyd at £2,000 o gymorth.

Yn ogystal â hynny, gall busnesau twristiaeth a hamdden hefyd gael mynediad at gynllun grant penodol i sector o dan y Gronfa Cadernid Economaidd.

Gallai busnesau bach a chanolig sy'n bodloni'r meini prawf dderbyn hyd at £100,000. Gan ddibynnu ar yr amgylchiadau, gallai busnesau mwy o faint yng Nghymru dderbyn hyd at uchafswm o £150,000.

Mae rhagor o wybodaeth am y cyllid a sut y gellir cael gafael arno ar gael ar wefan Busnes Cymru.

Mae fy nghyflogwr wedi cael arian gan Lywodraeth Cymru ond mae’n dileu swyddi nawr. Beth ddylwn i ei wneud?

Bydd rhaid i unrhyw gyflogwr sy’n cael arian gan Lywodraeth Cymru barhau i fodloni’r amodau sy’n berthnasol i’r arian hwnnw. Mae’r amodau sy’n gysylltiedig ag arian yn amrywio ac nid ydynt o reidrwydd yn atal cyflogwr rhag diswyddo staff, Os ydych chi mewn perygl o golli eich swydd, dylech siarad â’ch undeb llafur, neu geisio cyngor pellach gan Acas ynglŷn â’ch hawliau ar ôl colli eich gwaith.  

Rwy’n byw yn Lloegr ond yn gweithio yng Nghymru - a gaf i deithio o hyd?

Os oes angen, mae teithio i weithle yng Nghymru yn esgus rhesymol dros ddod i Gymru o dan y rheolau, gan gynnwys teithio o ardal haen 3. Yn yr un modd, mae’r rheolau’n caniatáu i bobl sy'n byw yng Nghymru deithio i unrhyw le yn Lloegr at ddibenion gwaith lle bo hynny'n angenrheidiol ac na allant weithio gartref.

Fodd bynnag, ni all Llywodraeth Cymru roi cyngor ar y gyfraith yn Lloegr. Darllenwch ganllawiau Llywodraeth y DU ar y cyfyngiadau yn Lloegr (ar GOV.UK) i gael rhagor o wybodaeth.

A gaf i wneud gwaith gwirfoddol?

Cewch, er y dylech wneud hynny o'ch cartref os yw'n rhesymol ymarferol. Os ydych yn chwilio am fwy o gyfleoedd gwirfoddoli lleol gallwch gysylltu â Chyngor Gwirfoddol eich sir.

Cewch hefyd fynd allan i roi gofal neu gymorth i berson agored i niwed, gan gynnwys cymorth brys. Mae hyn yn cynnwys mynd i nôl bwyd a meddyginiaethau iddynt. Ond mae'n bwysig nad ydych yn achosi unrhyw risg i chi eich hun na'r person rydych yn gofalu amdano.

Addysg a gofal plant

A fydd ysgolion yn aros ar agor?

Byddant. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud drwy'r amser fod sicrhau bod plant yn gallu parhau i gael eu haddysgu yn yr ysgol yn flaenoriaeth. Mae ysgolion yn defnyddio’r canllawiau gweithredol ar gyfer ysgolion fel fframwaith i sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl.

Sut y gall ysgolion reoli disgyblion y mae'n ofynnol iddynt hunanynysu?

Mae mesurau yn y canllawiau cadw dysgwyr yn ddiogel mewn addysg y dylai ysgolion eu cymryd i leihau’r nifer o gysylltiadau posibl ac atal trosglwyddo’r feirws – mae’r rhain yn cynnwys cadw pellter cymdeithasol, lleihau cymysgu heb fod angen a sicrhau hylendid dwylo a hylendid anadlol.

Bydd ysgolion sy’n gweithio’n agos gyda gwasanaeth Profi Olrhain Diogelu GIG Cymru yn gweithio drwy’r broses olrhain cysylltiadau i ganfod y disgyblion sydd wedi bod mewn cysylltiad agos ag achos positif yn unig, ac felly yn gorfod hunanynysu. Mae canllawiau ychwanegol ar olrhain cysylltiadau ar gael i ysgolion.

Os oes angen i ddisgybl hunanynysu, bydd yn cael gwaith priodol a digonol i sicrhau ei fod yn parhau i ddysgu. Dylai ysgolion gadw mewn cysylltiad â disgyblion gan gynnwys cysylltu â nhw yn unigol lle bo’n briodol.

A yw lleoliadau addysg bellach yn cael bod ar agor?

Ydynt. Caiff colegau addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith a dysgu oedolion barhau i weithredu.

Beth yw’r rheolau ynglŷn â dysgu mewn prifysgolion?

Gall prifysgolion barhau i ddarparu cyfuniad o ddysgu personol a dysgu cyfunol.

Er bod yr achosion o COVID-19 wedi cynyddu ymysg y boblogaeth fyfyrwyr, mae tystiolaeth yn dangos bod hyn yn digwydd y tu allan i'r amgylchedd addysgu a dysgu. Mae prifysgolion yn gweithredu i ddiogelu eu campysau rhag COVID ac yn cadw at reolau llym o ran cadw pellter cymdeithasol.

Mae hi hefyd yn llawer mwy diogel i fyfyrwyr aros yn eu cyfeiriad yn ystod y tymor yn hytrach na theithio adref.

Mae Llywodraeth Cymru’n gweithio gyda’r gweinyddiaethau datganoledig eraill a’r sector Prifysgolion i gynllunio a pharatoi ar gyfer cefnogi myfyrwyr, eu teuluoedd a’u cyfeillion i sicrhau ei bod yn ddiogel i fyfyrwyr deithio adref yn ddiogel ar gyfer y Nadolig

A gaf i deithio i Loegr i fynd i'r ysgol, i’r coleg neu i'r brifysgol?

Cewch. Mae addysg yn un o’r rhesymau lle caniateir i bobl deithio o Gymru i Loegr, neu o Loegr i Gymru. Mae hyn yn berthnasol i unrhyw ran o Loegr, gan gynnwys ardaloedd haen 3. Caiff athrawon ac aelodau eraill o staff yn y sector addysg hefyd deithio dros y ffin i fynd i’r gwaith.

A yw darparwyr gofal plant yn cael gweithio o hyd?

Ydynt. Caiff plant barhau i fynd at eu darparwr gofal plant arferol, a chewch deithio i ddarparu gofal plant, i gael gafael ar ofal plant neu i dderbyn gofal plant. Caiff plant barhau hefyd i fynychu darpariaeth gwaith chwarae wedi'i staffio, er enghraifft sesiynau chwarae mynediad agored.

Caiff pob darparwr gofal plant a gwaith chwarae, gan gynnwys gofal plant Dechrau'n Deg, aros ar agor a chynnig eu gwasanaethau arferol, gan gynnwys darpariaeth drwy'r gwyliau hanner tymor. Mae hyn yn cynnwys darparwyr gofal plant a gwaith chwarae sy'n gweithredu ar safleoedd ysgolion, canolfannau cymunedol ac addoldai. Caiff nanis hefyd barhau i ddarparu gofal plant. Dylai lleoliadau ddilyn y mesurau yn y canllawiau diogelu mewn lleoliadau gofal plant: cadw gofal plant yn ddiogel i sicrhau eu bod yn lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.

Os ydych chi’n byw yng Nghymru ond yn darparu neu’n defnyddio gofal plant yn Lloegr, gallwch barhau i wneud hyn. Gallwch hefyd deithio i Gymru i ddarparu neu i ddefnyddio gofal plant.

Rwy'n dibynnu ar aelodau o'm teulu ehangach a'm ffrindiau i ddarparu gofal plant pan fyddaf yn y gwaith. A ydyn nhw’n cael gwneud hyn?

Ydynt, mae teulu a ffrindiau yn cael gofalu am eich plentyn ond - oni bai eu bod yn rhan o’ch aelwyd estynedig - dim ond os nad oes unrhyw ddewis rhesymol arall y dylech ofyn iddynt wneud hyn. Mae hyn yn adlewyrchu’r awydd cyffredinol i leihau ymweliadau â chartrefi pobl eraill cymaint ag y bo modd, gan gynnwys ymweliadau gan blant. Dylai pawb sy’n cymryd rhan mewn trefniadau gofal plant wneud popeth posibl i atal lledaeniad y feirws.

Gellir darparu gofal plant anffurfiol yn yr amgylchiadau hyn yng nghartref y plentyn neu yng nghartref y person sy’n rhoi’r gofal. Ni ddylid gofalu am blant y tu allan i'r cartref os oes ganddynt symptomau COVID-19, neu os ydynt yn gorfod hunanynysu. Ni ddylai unrhyw un â symptomau COVID-19 neu sy’n gorfod hunanynysu ofalu am blant.

A oes hawl i gynnal gweithgareddau a chlybiau i blant?

Oes – caniateir cynnal gweithgareddau ar gyfer datblygiad a lles plant, fel clybiau chwaraeon, dosbarthiadau drama, grwpiau rhieni a phlant bychain, grwpiau ieuenctid a grwpiau crefyddol yn yr awyr agored ac o dan do. Mae hyn yn cynnwys plant o 18 oed.

Mae dyletswydd ar drefnwyr i gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau bod y gweithgareddau hyn yn cael eu cynnal mewn modd sy’n lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws. Felly, dylent ystyried y gwagle sydd ar gael i alluogi cadw pellter cymdeithasol cyhyd ag y bo modd gyda phlant, yn hytrach na gwahodd yr uchafswm nifer o blant. Dylid defnyddio’r canllawiau mesurau diogelu mewn lleoliadau gofal plant: cadw gofal plant yn ddiogel fel canllaw ar gyfer cadw plant ac oedolion yn ddiogel yn ystod gweithgareddau wedi’u trefnu i blant.

Dylai trefnwyr ystyried mai cyfarfodydd rhithwir yw’r rhai diogelaf ac y dylid defnyddio’r dulliau hyn lle bo modd, er nad yw bob amser yn ddelfrydol ar gyfer y grŵp oedran hwn, ac mae cynulliadau awyr agored yn fwy diogel na chynulliadau o dan do.

Iechyd a gofal cymdeithasol

A gaf i ddefnyddio gwasanaethau iechyd o hyd?

Mae gwasanaethau GIG Cymru ar gael i helpu os oes angen gofal arnoch, ac mae'n bwysig eich bod yn parhau i fynychu apwyntiadau, gan gynnwys ar gyfer sgrinio a brechu, ac yn gofyn am help ar gyfer materion meddygol brys. Cewch adael eich cartref i ddefnyddio gwasanaethau iechyd lleol, gan gynnwys eich meddygfa, eich deintydd, eich optometrydd, eich clinig sgrinio neu unrhyw wasanaeth iechyd arall. Os bydd eich apwyntiad yn newid, bydd eich bwrdd iechyd neu'ch gweithiwr iechyd proffesiynol yn cysylltu â chi. Mae cyngor ar wasanaethau sy'n dal i weithredu ar gael ar wefan eich bwrdd iechyd neu'ch ymddiriedolaeth. Rydym yn eich cynghori i ffonio ymlaen llaw a dilyn unrhyw ganllawiau sydd gan eich meddygfa, eich deintydd, eich optometrydd, eich clinig sgrinio neu'ch gwasanaeth iechyd lleol i'ch amddiffyn chi a'r staff, gan gynnwys yr angen i gadw 2 fetr oddi wrth gleifion eraill wrth aros i gael eich gweld.

Os oes gennych symptomau coronafeirws, peidiwch ag ymweld â meddyg teulu, ysbyty, fferyllfa, deintydd nac optometrydd. I gael rhagor o wybodaeth, defnyddiwch wiriwr symptomau GIG Cymru.

A gaf i ymweld â rhywun yn yr ysbyty?

Fe’ch cynghorir chi i gysylltu â'r bwrdd iechyd neu'r ymddiriedolaeth i gael gwybodaeth leol cyn ymweld â rhywun yn yr ysbyty.

A gaf i ymweld â rhywun mewn cartref gofal?

Cewch – caniateir ymweliadau â chartrefi gofal.

Awdurdodau lleol yng Nghymru sy’n gyfrifol am gynghori darparwyr cartrefi gofal am sut y dylid ymdrin ag ymweliadau â chartrefi gofal yn ardal yr awdurdod lleol. Bydd angen i ddarparwyr unigol wneud yn siŵr eu bod yn gallu cefnogi ymweliadau’n ddiogel. Rydym yn argymell holi’r cartref gofal perthnasol beth yw eu trefniadau penodol o ran ymweliadau.

Hyd yn oed lle rhoddwyd cyfyngiadau ar ymweliadau o dan do, rydym yn gofyn i awdurdodau lleol a darparwyr cartrefi gofal i sicrhau bod trefniadau priodol a sensitif yn cael eu gwneud i gefnogi ymweliadau o dan do mewn amgylchiadau eithriadol gan gynnwys, ond heb eu cyfyngu i, ymweliadau diwedd oes. Dylid trafod hyn a chytuno gyda'r cartref gofal ymlaen llaw cyn teithio.

A fydd y cynllun gwarchod yn ailddechrau?

Nid oes unrhyw gynlluniau i ailddechrau’r cynllun gwarchod ar hyn o bryd.

Pan wnaethom gynghori pobl sy'n agored iawn i niwed i gymryd camau gwarchod llym ar ddechrau'r pandemig, roedd y sefyllfa'n wahanol iawn – nid oedd unrhyw fesurau mewn unrhyw sector o gymdeithas i leihau lledaeniad y feirws ac nid oedd unrhyw reolau na rheoliadau ar waith. Erbyn hyn, gan fod mesurau cyson wedi’u sefydlu, nid gofyn i bobl warchod eu hunain gartref eto yw'r opsiwn gorau ar hyn o bryd gan y gallai achosi niwed i iechyd meddwl a chorfforol pobl.

Beth yw'r cyngor diweddaraf i bobl a oedd yn gwarchod eu hunain?

Mae'r cyngor i bobl a fu’n gwarchod eu hunain yr un fath i bawb. Dylech gadw’r cysylltiad â phobl eraill i'r eithaf, cadw pellter o 2m oddi wrth eraill, golchi’ch dwylo'n rheolaidd, gwisgo gorchudd wyneb lle bo angen ac osgoi cyffwrdd ag arwynebau y mae eraill wedi'u cyffwrdd, os oes modd. Ystyriwch pa adeg o'r dydd rydych chi'n mynd allan a ble rydych chi'n mynd, er enghraifft osgoi ymweld â siopau ar adegau prysur.

Os yw hynny’n bosibl, dylech barhau i weithio o gartref.

Ymweld â lleoedd

Dydw i ddim yn byw yng Nghymru - a gaf i deithio yno ar wyliau neu i ymweld â theulu a ffrindiau?

Ni chaniateir teithio i mewn i Gymru o ardaloedd haen 3 yn Lloegr, ardaloedd lefel 3 a 4 yn yr Alban nac o Ogledd Iwerddon ar hyn o bryd, heb esgus rhesymol, er enghraifft teithio at ddibenion gwaith. Nid yw ymweld â theulu a ffrindiau (ac eithrio fel rhan o aelwyd estynedig) neu gael gwyliau yn cael ei ystyried yn esgus rhesymol ar hyn o bryd, er ein bod yn gobeithio gallu eich croesawu yn y dyfodol agos.

Nid yw ymwelwyr o rannau eraill o'r DU nad ydynt o dan y cyfyngiadau Covid uchaf, nac ymwelwyr tramor, wedi’u gwahardd dan y gyfraith rhag dod i Gymru. Ond gan fod achosion o’r coronafeirws yn uchel yng Nghymru, rydym yn annog pawb i feddwl yn ofalus am ein bywydau ein hunain a pha newidiadau y gallwn eu gwneud i leihau ein risg. Mae hyn yn cynnwys meddwl yn ofalus am deithio. Mae'r feirws yn ffynnu ble bynnag a phryd bynnag yr ydym mewn cysylltiad agos ag eraill.

Yn benodol, rydym yn cynghori'n gryf na ddylai pobl sy’n byw mewn ardaloedd haen 2 yn Lloegr neu ardaloedd lefel 2 yn yr Alban deithio i Gymru oherwydd y risg ehangach o ddal y feirws a’i ledaenu i ardaloedd lle mae’r risg yn is.

Os ydych yn ymwelydd o wlad dramor, yn dibynnu ar ba wlad yr ydych yn teithio ohoni, efallai y bydd gofyn ichi hunanynysu ar ôl cyrraedd. Mae hyn yn berthnasol os ydych wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth nad yw wedi'i heithrio. Mae rhagor o fanylion am y gofynion i’w gweld yn y canllawiau ar hunanynysu ar ôl teithio.

Rwy’n byw yng Nghymru - a gaf i fynd ar wyliau yng Nghymru neu rywle arall yn y Deyrnas Unedig?

Rydych yn cael mynd ar wyliau yng Nghymru os ydych yn byw yma. Ni chaiff pobl sy’n byw yng Nghymru deithio i ardaloedd lle mae nifer yr achosion yn uchel o fewn y DU (gan gynnwys ardaloedd haen 3 yn Lloegr, ardaloedd lefel 3 neu uwch yn yr Alban a Gogledd Iwerddon) i fynd ar wyliau.

Rhaid ichi ddilyn unrhyw gyfyngiadau cyfreithiol sydd mewn grym mewn rhannau eraill o’r DU pan fyddwch yn ystyried teithio. Rydym hefyd yn cynghori’n gryf na ddylai pobl sy’n byw yng Nghymru deithio i ardaloedd haen 2 yn Lloegr nac ardaloedd lefel 2 yn yr Alban oherwydd y risg o ledaenu’r feirws i ardaloedd lle mae’r niferoedd yn is.

Os ydych wedi trefnu gwyliau ymlaen llaw – ac eisoes wedi talu amdano – byddem yn eich cynghori i gysylltu â'r asiant neu’r cwmni teithio i drafod y sefyllfa yng Nghymru a'r canllawiau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru i annog pobl i beidio â theithio os nad yw'n hanfodol.

Dylech hefyd gysylltu â'ch yswiriwr teithio i drafod y sefyllfa – er bod sawl yswiriwr wedi llunio polisïau gyda chymalau eithrio o ran y coronafeirws, mae'n bosibl y bydd rhai polisïau blynyddol yn cynnwys y sefyllfa hon.

A gaf i fynd ar wyliau dramor?

Rydym yn cynghori’n gryf na ddylai pobl sy'n byw yng Nghymru deithio dramor oherwydd y risg o ddal neu ledaenu'r feirws tra byddant ar wyliau. Nid yw rhai gwledydd yn caniatáu i ymwelwyr ddod ar wyliau ar hyn o bryd. 

Os byddwch yn teithio dramor, yn dibynnu ar ble rydych yn mynd, efallai y bydd gofyn ichi hunanynysu pan fyddwch yn dychwelyd i'r DU. Mae hyn yn berthnasol os byddwch wedi ymweld â gwlad neu diriogaeth sydd heb ei heithrio (sy'n cynnwys y rhan fwyaf o'r gwledydd yr ymwelir â nhw amlaf o'r DU). Mae rhagor o fanylion am y gofynion i’w gweld yn y canllawiau ar hunanynysu ar ôl teithio.

Os ydych wedi trefnu gwyliau ymlaen llaw – ac eisoes wedi talu amdano – byddem yn eich cynghori i gysylltu â'r asiant neu’r cwmni teithio i drafod y sefyllfa yng Nghymru ar hyn o bryd a chanllawiau Llywodraeth Cymru ar deithio nad yw'n hanfodol.

Dylech hefyd gysylltu â'ch yswiriwr teithio i drafod y sefyllfa – er bod sawl yswiriwr wedi llunio polisïau gyda chymalau eithrio o ran y coronafeirws, mae'n bosibl y bydd rhai polisïau blynyddol yn cynnwys y sefyllfa hon.

A gaf i ymweld â ffrindiau a theulu y tu allan i Gymru?

Mae cyfyngiadau ar deithio i mewn ac allan o Gymru. Ni chaiff pobl sy'n byw yng Nghymru deithio i ardaloedd haen 3 yn Lloegr, ardaloedd lefel 3 neu uwch yn yr Alban nac i Ogledd Iwerddon heb esgus rhesymol. Nid yw ymweliadau cymdeithasol â ffrindiau a theulu yn esgus rhesymol

Fodd bynnag, mae rhai amgylchiadau lle gallai fod gennych esgus rhesymol dros ymweld â phobl y tu allan i Gymru, hyd yn oed mewn ardaloedd lle mae nifer fawr o achosion – er enghraifft os oes gennych gyfrifoldebau gofalu, os ydych wedi ffurfio aelwyd estynedig gyda nhw, neu bod gennych sail dosturiol dros fynd i'w gweld.

Nid oes gwaharddiad cyfreithiol ar ymweld â rhannau eraill o'r DU nad ydynt o dan y cyfyngiadau Covid uchaf, nac ar ymweliadau tramor. Fodd bynnag, rydym yn cynghori'n gryf yn erbyn teithio ac yn annog pawb i feddwl yn ofalus am ein bywydau ein hunain a pha newidiadau y gallwn i gyd eu gwneud i leihau ein risg. Mae hyn yn cynnwys meddwl yn ofalus am deithio. Mae'r feirws yn ffynnu ble bynnag a phryd bynnag yr ydym mewn cysylltiad agos ag eraill.

Yn benodol, rydym yn cynghori'n gryf yn erbyn teithio am resymau cymdeithasol pur i ardaloedd haen 1 a haen 2 yn Lloegr neu ardaloedd lefel 2 yn yr Alban, oherwydd y risg o ledaenu'r feirws i ardaloedd â chyfraddau is.

Os byddwch yn teithio dramor, yn dibynnu ar ble rydych yn mynd, efallai y bydd gofyn ichi hunanynysu ar ôl dychwelyd. Mae hyn yn berthnasol os byddwch wedi ymweld â gwlad neu diriogaeth nad yw wedi'i heithrio. Mae rhagor o fanylion am y gofynion i’w gweld yn y canllawiau ar hunanynysu ar ôl teithio.

Bydd angen hefyd ichi ystyried y rheolau yn y lle yr ydych yn ymweld ag ef.

A gaf i fynd i faes awyr i ddanfon neu gasglu rhywun os ydynt yn teithio i mewn neu allan o Gymru am reswm sy’n cael ei ganiatáu?

Cewch, os mai'r unig ddewis arall fyddai iddynt ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu dacsi. Dilynwch y canllawiau ar deithio'n ddiogel.

Pa fath o lety sydd ar agor yng Nghymru?

Caiff pob math o lety fod ar agor nawr, ond rhaid rhoi mesurau ar waith i ddiogelu pobl rhag y coronafeirws.

A yw bwytai a bariau mewn gwestai yn cael agor nawr?

Ydynt. Fodd bynnag, fel bwytai a bariau eraill, ni chânt weini alcohol, a rhaid iddynt gau erbyn 6pm i’r rhai nad ydynt yn breswylwyr. Gweler yr adran nesaf ar fwytai, caffis a bariau i gael rhagor o wybodaeth.

A gaf i fynd yn fy ngharafán/cartref modur i aros mewn maes carafannau?

Cewch – caiff meysydd carafannau agor ar eu menter eu hunain. Mae meysydd yn cael agor eu toiledau, cawodydd, a mannau golchi llestri a golchi dillad ar gyfer carafanwyr a gwersyllwyr, ar yr amod bod mesurau ar waith i sicrhau’ch bod yn cadw pellter corfforol ac y caiff y safle ei lanhau’n briodol.

Dydw i ddim yn byw yng Nghymru. A gaf i deithio i Gymru i wneud fy nghwch/carafán/cartref gwyliau yn saff ar gyfer y gaeaf?

O dan y rheolau yng Nghymru, caiff perchennog cwch/carafán/cartref gwyliau o rywle arall yn y DU ddychwelyd i gasglu’i eiddo a gwneud y cwch/carafán/cartref gwyliau yn saff at y gaeaf, hyd yn oed os yw’n byw mewn ardal haen 3 yn Lloegr, ardal lefel 3 neu 4 yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon.

Os ydych yn byw yn un o’r ardaloedd uchod, dylech gytuno ar amser a dyddiad pryd i ymweld â’r safle. Ar y safle, rhaid cadw at y rheolau cadw pellter ac ni chewch aros dros nos tra bo’r cyfyngiadau teithio hyn mewn grym.

Bydd hefyd angen ichi wirio a ganiateir ichi wneud hyn o dan y rheolau yn eich ardal chi. Ni all Llywodraeth Cymru eich cynghori ynglŷn â’r rhain.

A gaf i fynd i wersylla?

Cewch – caiff meysydd gwersylla agor ar eu menter eu hunain. Bydd y blociau toiledau/cawodydd, ac ardaloedd golchi llestri a golchi dillad ar gyfer gwersyllwyr hefyd ar agor ar yr amod bod mesurau ar waith i sicrhau’ch bod yn cadw pellter corfforol ac y caiff y safle ei lanhau'n briodol (ar GOV.UK).

Gyda phwy y caf i aros mewn llety gwyliau fel gwestai, pebyll, carafannau neu lety hunanddarpar?

Yr unig bobl y cewch rannu llety gwyliau â nhw yw’r bobl rydych yn byw gyda nhw  (neu rywun sydd yno i roi gofal neu gymorth i unigolyn agored i niwed). Bydd hynny’n helpu i leihau’r risg o drosglwyddo’r coronafeirws yn fawr gan fod risg uchel o drosglwyddo’r feirws wrth gysgu’n agos at bobl eraill, hynny oherwydd yr amser hir y byddwch yn ei dreulio’n agos i’ch gilydd.

Pa atyniadau fydd ar agor a beth fydd yn dal ar gau?

Rhaid i bob atyniad o dan do i ymwelwyr, megis amgueddfeydd, orielau, atyniadau addysg a threftadaeth a safleoedd treftadaeth fel plastai a mannau o dan do atyniadau awyr agored i ymwelwyr, gau. Er enghraifft, ni chaniateir teithiau o dan do mewn cestyll ond caiff teithiau o amgylch tir y castell aros ar agor. Caiff atyniadau awyr agored i ymwelwyr aros ar agor pan fo mesurau ar waith i ddiogelu ymwelwyr, gan gynnwys mesurau cadw pellter cymdeithasol a chorfforol .

Bwytai, caffis a thafarndai

Sut y bydd caffis, bwytai, tafarndai a bariau yn gallu gweithio'n ddiogel o dan do?

Ni chaiff lleoliadau lletygarwch weini alcohol a rhaid iddynt gau erbyn 6pm. Mae’n ofynnol hefyd i leoliadau roi nifer o fesurau ar waith i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws. Er enghraifft:

  • yn y rhan fwyaf o leoedd mae'n debyg y bydd gofyn i chi archebu ymlaen llaw a rhoi manylion holl aelodau'r grŵp
  • bydd mynediad i'r safle yn cael ei reoli
  • dim ond gwasanaeth wrth y bwrdd fydd yn cael ei gynnig mewn safleoedd trwyddedig, fel tafarndai
  • dylai popeth gael ei fwyta a’i yfed wrth y bwrdd
  • bydd mesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith, er enghraifft mwy o le rhwng y byrddau
  • dim ond grwpiau o hyd at bedwar o bobl a ganiateir (heb gynnwys plant o dan 11 oed) oni bai eu bod i gyd o’r un aelwyd.
  • bydd gofyn gwisgo gorchudd wyneb, heblaw pan fyddwch yn eistedd i fwyta neu i yfed
  • bydd gofyn ichi roi manylion cyswllt fel bod modd cael gafael arnoch os bydd  achos yn cael ei gysylltu â'r lleoliad
  • ni ddylid cynnal cerddoriaeth fyw oni bai bod y lleoliad yn gallu dangos ei fod yn gallu lleihau’r risg. Mae canllawiau ar ymarfer, perfformio a chymryd rhan yn y celfyddydau perfformio bellach wedi’u cyhoeddi.
  • bydd angen cadw’r sŵn yn isel wrth ddarlledu ar deledu.

Gyda phwy y caf i fynd i gaffis, bwytai, tafarndai neu fariau?

Cewch fynd i’r lleoedd hyn gyda phobl o’r tu allan i’ch aelwyd, cyn belled ag nad oes mwy na phedwar o bobl yn eich grŵp (heb gynnwys plant o dan 11 oed neu rywun sy’n gofalu am aelod o’r grŵp). Os bydd hyd at bedwar o bobl o aelwydydd gwahanol yn eistedd wrth yr un bwrdd, dylent wneud pob ymdrech i gadw mor bell ag sy’n bosibl oddi wrth ei gilydd wrth y bwrdd. 

Os yw pawb yn byw gyda’i gilydd, caiff mwy na phedwar fod yn y grŵp.

Ond, fel ymhob sefyllfa, rydyn ni’n gofyn i chi feddwl beth yw’r peth mwyaf synhwyrol i’w wneud i ddiogelu’ch teulu, eich ffrindiau a’ch cymuned, yn lle meddwl beth rydych chi’n cael ei wneud.  Rydyn ni’n gofyn yn arbennig ichi:

  • geisio lleihau nifer y bobl wahanol rydych chi’n eu gweld. Mae’n well gweld un neu ddau o bobl yn rheolaidd na gweld llawer o bobl wahanol yn achlysurol.
  • cadw pellter cymdeithasol, gan gynnwys yn yr awyr agored
  • ceisio cwrdd â phobl y tu allan yn hytrach nag o dan do, os medrwch
  • peidio â gwneud pethau allai gynyddu’r risg o drosglwyddo’r feirws (er enghraifft, gweiddi er mwyn cael eich clywed dros gerddoriaeth uchel, neu ganu yn agos i rywun)

A fydd gofyn imi roi tystiolaeth o’m manylion cyswllt?

Os byddwch yn archebu lle fel grŵp o hyd at bedwar o bobl (ac eithrio plant o dan 11 oed), gofynnir i chi ddangos prawf o’ch enw, er enghraifft trwy ddangos trwydded yrru, cerdyn banc neu gerdyn credyd. Os byddwch yn archebu lle fel grŵp o aelwyd breifat o fwy na phedwar o bobl (heb gynnwys plant o dan 11 oed), bydd hefyd yn ofynnol i leoliadau ofyn i oedolion yn y grŵp ddarparu prawf o’u cyfeiriad.

A oes angen i mi wisgo gorchudd wyneb mewn caffis, bwytai, tafarndai neu fariau?

Oes, rhaid gwisgo gorchudd wyneb bob amser heblaw pan fyddwch yn eistedd wrth eich bwrdd. Mae hyn yn golygu y dylech ei wisgo wrth gyrraedd a gadael y safle, oni bai bod gennych esgus rhesymol. Dylid ei wisgo hefyd wrth symud o gwmpas y safle. Darllenwch y canllawiau ar orchuddion wyneb i weld yr esgusodion rhesymol.

A oes cyfyngiadau ynghylch pryd y caf i brynu alcohol?

Ni chaiff busnesau lletygarwch yng Nghymru – megis tafarndai, caffis, bwytai, clybiau chwaraeon – werthu alcohol i’w yfed ar y safle. Caniateir gwasanaethau cludfwyd, gan gynnwys gwerthu alcohol tan 10pm.

Bydd rhaid i siopau diodydd trwyddedig, gan gynnwys archfarchnadoedd, roi'r gorau i werthu alcohol am 10pm. Mae hyn hefyd yn berthnasol i archebion clicio a chasglu a dosbarthu alcohol, er enghraifft drwy ap danfon i’r cartref.

Ni chaiff safleoedd sy’n darparu gwasanaethau cludfwyd na siopau trwyddedig ailddechrau gwerthu alcohol tan 6am y diwrnod canlynol.

A oes lleoliadau eraill y mae'n ofynnol iddynt roi'r gorau i werthu alcohol, heblaw tafarndai a bariau?

Oes. Mae'r rheol yn berthnasol i fwytai ac unrhyw leoliadau eraill sydd wedi'u trwyddedu i werthu diodydd alcoholaidd i'w hyfed ar y safle. Rhaid i siopau diodydd trwyddedig ac archfarchnadoedd roi'r gorau i werthu alcohol am 10pm.

A gaf i ddal i archebu gwasanaeth yn fy ystafell mewn gwesty ar ôl 6pm?

Cewch, ond ni chaniateir gweini alcohol ichi ar ôl 10pm. Caiff preswylwyr yn y gwesty hefyd ddal i fwyta mewn unrhyw fwytai yn y gwesty ar ôl 6pm.

A oes rhaid i fwytai sy’n cynnig bwffe ddarparu gwasanaeth gweini wrth y bwrdd?

Nac oes, ond dylai aelod o staff fod wrth law i weini’r bwffe, yn hytrach na’r cwsmeriaid yn helpu eu hunain ac yn cyffwrdd â'r un offer.

A oes rhaid i fwytai a bariau mewn meysydd awyr a phorthladdoedd gau erbyn 6pm?

Nac oes, mae eithriad wedi’i gwneud i ganiatáu i'r lleoliadau hyn aros ar agor ar ôl 6pm. Fodd bynnag, ni chaniateir gweini alcohol.

Casglu gwybodaeth gyswllt

Pa fusnesau y mae’n ofynnol iddynt gasglu gwybodaeth gyswllt gan ymwelwyr?

Mae angen i unrhyw fusnesau sy'n gweithredu mewn lleoliadau risg uchel gasglu gwybodaeth gyswllt. Mae lleoliadau risg uchel yn cynnwys mannau lle bydd cwsmeriaid ac ymwelwyr yn treulio amser hir ar y safle, a/neu efallai’n dod i gysylltiad agos â phobl y tu allan i'w haelwyd (neu eu haelwyd estynedig os ydynt wedi ffurfio un).

Dyma enghreifftiau o leoliadau risg uchel y byddem yn disgwyl iddynt gasglu a chadw gwybodaeth gyswllt:

  • mannau lletygarwch, gan gynnwys tafarndai, bariau, bwytai a chaffis
  • gwasanaethau cysylltiad agos, gan gynnwys siopau trin gwallt, harddwch, tatŵs, barbwr, therapyddion chwaraeon a thylino
  • pyllau nofio, stiwdios ffitrwydd o dan do, campfeydd, sbaon, neu ganolfannau neu gyfleusterau hamdden o dan do eraill

Pam y mae'n ofynnol i fusnesau gasglu'r wybodaeth hon?

Mae casglu gwybodaeth gyswllt yn helpu i nodi pobl a allai fod wedi dod i gysylltiad â’r feirws ac sy'n asymptomatig (h.y. nid ydynt yn arddangos symptomau eto). Mae cyfyngu achosion yn hollbwysig er mwyn lleihau lledaeniad y coronafeirws, diogelu’r GIG yng Nghymru ac achub bywydau. Bydd hyn yn helpu’r wlad i ddychwelyd at ffordd o fyw fwy normal, ac i gynnal hynny.

Pa wybodaeth fydd yn cael ei chasglu gennyf fi?

Y gofyniad cyfreithiol yw casglu enw’r person a gwybodaeth sy’n ddigonol i allu cysylltu â’r person, i roi gwybod iddo y gall fod wedi dod i gysylltiad â’r coronafeirws yn y safle (gan gynnwys rhif ffôn a’r dyddiad a’r amser yr oedd y person yn y safle).

Sut y byddaf i'n gwybod bod fy nata personol yn ddiogel ac na fydd yn cael ei drosglwyddo yn groes i’m dymuniad?

Mae'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data yn gosod rhwymedigaethau cyfreithiol ar fusnesau sy'n ymdrin â'ch data personol, a darparwyd canllawiau hefyd i sefydliadau sy'n casglu'r data, gan ddefnyddio gwaith Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Er enghraifft, lle na fyddai'r wybodaeth wedi'i chasglu a'i chadw fel arall, rhaid i'ch gwybodaeth gyswllt gael ei gwaredu neu ei dileu'n ddiogel ar ôl 21 diwrnod. Ystyr gwaredu diogel yw malurio dogfennau papur yn hytrach na’u rhoi mewn biniau cyhoeddus, a sicrhau bod ffeiliau electronig yn cael eu dileu'n barhaol.

Beth sy'n digwydd os nad ydw i eisiau rhoi fy manylion?

Os yw'r lleoliad yr ydych yn ceisio'i ddefnyddio o dan ddyletswydd i gasglu eich manylion ac nad ydych yn fodlon eu rhannu, ni chaniateir ichi ddod i mewn i’r safle.

Celfyddadau ac adloniant

A fydd lleoliadau y celfyddydau ac adloniant ar agor?

Rhaid i bob lleoliad y celfyddydau ac adloniant gau. Mae hyn yn cynnwys:

  • sinemâu
  • alïau bowlio
  • canolfannau chwarae meddal
  • rinciau sglefrio
  • amgueddfeydd
  • orielau
  • neuaddau bingo
  • casinos
  • arcedau difyrrwch
  • theatrau a neuaddau cyngerdd
  • clybiau nos
  • lleoliadau adloniant rhywiol

A yw digwyddiadau Nadolig yn cael eu caniatáu?

Nid yw llawer o ddigwyddiadau Nadolig yn cael eu caniatáu, ond mae hawl i gynnal rhai digwyddiadau bach fel sioe oleuadau, llwybr ceirw, groto Siôn Corn a gweithgareddau tebyg eraill os yw’r trefnwyr yn cynllunio'n ofalus ac yn cymryd pob mesur rhesymol i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws. Bydd angen i bobl fynd mewn grwpiau bach, felly gallai hynny effeithio ar bwy y gallwch fynd gyda nhw i’r digwyddiadau hyn. Holwch drefnwyr y digwyddiad am fanylion ymlaen llaw, a dilyn unrhyw gyngor a roddir.

A yw marchnadoedd Nadolig yn cael eu caniatáu?

Mae gan farchnadoedd Nadolig hawl i agor a rhaid i’r rhai sy’n gyfrifol amdanynt gymryd pob mesur rhesymol i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.

Ein cyngor yw na ddylech fynd i farchnadoedd Nadolig gydag unrhyw un heblaw aelodau eich aelwyd neu (os yw’r digwyddiad yn cael ei gynnal yn awyr agored) eich aelwyd estynedig. Ond, os byddwch yn gwneud hyn, rydym yn gofyn ichi:

  • Geisio cyfyngu ar nifer y bobl wahanol rydych chi’n eu gweld. Mae’n well gweld un neu ddau o bobl yn rheolaidd na gweld llawer o bobl wahanol yn achlysurol.
  • Cadw pellter cymdeithasol, gan gynnwys yn yr awyr agored
  • Treulio amser yn yr awyr agored yn hytrach nag o dan do, gymaint ag sy’n bosibl
  • Peidio â gwneud pethau a allai gynyddu’r risg o drosglwyddo’r feirws (er enghraifft, gweiddi er mwyn cael eich clywed dros gerddoriaeth uchel)

Gweler y canllawiau ar adael eich cartref a gweld pobl eraill i gael rhagor o wybodaeth. 

Os byddwch yn mynd i’r marchnadoedd hyn gyda phobl nad ydynt yn rhan o’ch aelwyd estynedig, y nifer uchaf o bobl a all fynd yno gyda’i gilydd, neu ymgynnull yno, yw pedwar (heb gynnwys plant o dan 11 oed neu rywun sy’n gofalu am aelod o’r grŵp).

Gweler y canllawiau ar ymweld â phobl mewn cartrefi preifat i gael rhagor o wybodaeth am hyn, gan gynnwys beth yw ystyr ‘aelwyd estynedig’.

Teithio a thrafnidiaeth gyhoeddus

A oes cyfyngiadau ar deithio o fewn Cymru?

Nid oes cyfyngiadau ar deithio yng Nghymru. Fodd bynnag, rydym yn gofyn i bawb feddwl yn ofalus am y teithiau y maent yn eu gwneud a'r bobl y maent yn eu cyfarfod. Dylem i gyd feddwl yn ofalus ynghylch ble'r ydyn ni’n mynd a phwy rydym yn cwrdd â nhw, oherwydd po fwyaf o leoedd yr awn iddynt a'r mwyaf o bobl yr ydym yn cwrdd â nhw, y mwyaf yw'r siawns sydd o ddal y coronafeirws. Yn benodol, mae hefyd yn synhwyrol osgoi teithio i mewn ac allan o ardaloedd sydd â chyfraddau uwch o achosion os gallwch.

A oes cyfyngiadau ar deithio allan o Gymru, er enghraifft i fynd i Loegr?

Oes. Mae cyfyngiadau mewn grym ar deithio allan o Gymru. Ni chaiff pobl sy’n byw yng Nghymru deithio i ardaloedd haen 3 yn Lloegr nac ardaloedd lefel 3 neu uwch yn yr Alban. Yn y sefyllfaoedd hyn, dim ond o dan amgylchiadau cyfyngedig y caniateir teithio allan o Gymru, megis ar gyfer gwaith neu addysg.

Nid yw teithio i rannau eraill o’r DU wedi’i wahardd gan y gyfraith. Ond rydym yn parhau i annog pawb i feddwl yn ofalus am ein bywydau ein hunain a pha newidiadau y gallwn ni eu gwneud i leihau ein risg. Mae hyn yn cynnwys meddwl yn ofalus am deithio. Mae’r feirws yn ffynnu ble bynnag a phryd bynnag yr ydym yn dod i gysylltiad agos â phobl eraill.

Yn benodol, rydym yn cynghori’n gryf yn erbyn teithio nad yw’n hanfodol i ardaloedd haen 1 a 2 yn Lloegr neu ardaloedd lefel 2 yn yr Alban oherwydd y risg o ledaenu’r feirws.

Os byddwch yn teithio dramor, gan ddibynnu ar ble y byddwch yn mynd, mae’n bosibl y bydd yn ofynnol ichi hunanynysu am 14 o ddiwrnod ar ôl dychwelyd. Bydd hyn yn berthnasol os ydych wedi ymweld â gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt. Mae rhagor o fanylion ar gael yn y canllawiau hunanynysu ar ôl teithio i Gymru.

A gaf i deithio i Gymru, neu o Gymru i bleidleisio?

Cewch. Efallai y bydd angen ichi deithio i Gymru, neu o Gymru i arfer eich hawl i bleidleisio (er enghraifft, gwladolion tramor). Ond dylech wneud hyn dim ond os nad oes unrhyw ddewis arall, er enghraifft os na allwch drefnu pleidlais bost. Os ydych chi’n teithio allan o Gymru, bydd angen ichi ddilyn cyfreithiau’r wlad yr ydych yn teithio iddi.

Rwy’n byw mewn rhan o’r DU sydd â nifer uchel o achosion. A gaf i deithio drwy Gymru i gyrraedd rhywle arall?

Caiff pobl sy'n byw mewn ardaloedd sydd â nifer uchel o achosion (haen 3 yn Lloegr, lefel 3 neu uwch yn yr Alban a Gogledd Iwerddon) ddal i deithio drwy Gymru os oes ganddynt esgus rhesymol dros wneud hynny. Gallai hyn gynnwys teithio ar hyd ffordd sy'n mynd drwy Gymru (e.e. i deithio o Loegr i Iwerddon) lle nad oes dewis rhesymol arall i deithio i'w cyrchfan. Mae hyn hefyd yn berthnasol i ymwelwyr sy'n teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, er enghraifft newid trenau mewn gorsafoedd yng Nghymru.  Fodd bynnag, bydd angen i unrhyw un nad yw'n byw yng Nghymru fod yn ymwybodol o unrhyw gyfyngiadau sydd mewn grym lle maent yn byw.

Pryd mae angen gwisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus?

Mae’n ofyniad cyfreithiol i wisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus – gan gynnwys bysiau, trenau, tramiau, tacsis, cychod ac awyrennau (pan fyddant yn cychwyn o Gymru neu'n glanio yma). Mae angen i bawb sy'n 11 oed a throsodd sy'n teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus wisgo gorchudd wyneb.

Nid ydynt yn orfodol mewn cerbydau preifat fel eich car eich hun, nac yn unman arall y tu allan i gerbyd trafnidiaeth gyhoeddus (fel arosfannau bysiau a gorsafoedd rheilffordd) – ond rydym yn eich cynghori i wisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyfyng neu brysur lle mae’n anodd cadw pellter corfforol.

I gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys yr eithriadau rhag y gofynion hyn a chyngor ar ba fath o orchuddion sy’n cael eu hargymell, gweler yr adran ar orchuddion wyneb mewn mannau cyhoeddus neu ein canllawiau llawnach ar wisgo gorchuddion wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus.

A gaf i rannu car gyda rhywun neu roi lifft iddynt?

Mae'n well osgoi rhannu car gyda pherson arall y tu allan i'ch aelwyd (neu’ch aelwyd estynedig os oes gennych un) os oes modd. Os ydych yn rhannu car, eisteddwch mor bell â phosibl oddi wrth eich gilydd yn y car, gwisgo gorchudd wyneb a chadw’r ffenestri’n agored. Gallwch ddilyn y canllawiau hyn ar deithio'n ddiogel.

A ydw i’n dal i gael trefnu gwersi gyrru?

Ydych.

A fydd profion gyrru a theori yn parhau?

Byddant. Mae’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVSA) wedi cyhoeddi canllawiau ar yr hyn y gall hyfforddwyr a disgyblion ei ddisgwyl wrth gael profion theori (ar GOV.UK) and profion gyrru (ar GOV.UK).

Siopa a bwyd

Pa siopau sydd ar agor?

Caiff pob siop fanwerthu agor, os gall gydymffurfio â'r ddyletswydd  i gymryd pob mesur rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r feirws ac i atal y coronafeirws rhag lledaenu. Dylai pobl osgoi teithio’n ddiangen ac osgoi mannau prysur, yn enwedig o dan do.

Gweler y canllawiau i fanwerthwyr i gael rhagor o wybodaeth.

A gaf i deithio mor bell ag y mynnaf i fynd i siopa?

Nid oes cyfyngiadau cyfreithiol ar deithio o fewn Cymru, ond cynghorir pobl o hyd i osgoi teithio diangen ac osgoi mannau gorlawn, yn enwedig o dan do.

A gaf i fynd i siopa gyda fy ffrindiau?

Nid ydym argymell eich bod yn mynd i siopa gyda’ch ffrindiau na neb arall nad ydych yn byw gyda nhw. Ond, os ydych yn dewis gwneud hyn, gofynnwn ichi:

  • geisio lleihau nifer y bobl wahanol rydych chi'n eu gweld. Mae'n well gweld un neu ddau o bobl yn rheolaidd na gweld llawer o wahanol bobl yn achlysurol
  • cadw pellter cymdeithasol, gan gynnwys yn yr awyr agored
  • treulio cymaint o amser yn yr awyr agored ag sy’n bosibl yn hytrach nag o dan do
  • osgoi gwneud gweithgareddau a allai gynyddu'r risg o drosglwyddo’r feirws (er enghraifft gweiddi i gael eich clywed dros gerddoriaeth uchel).

Os byddwch yn cwrdd â phobl nad ydych yn byw gyda nhw, y nifer uchaf o bobl sy'n cael ymgynnull, o dan y rhan fwyaf o amgylchiadau, yw pedwar (heb gynnwys plant o dan 11 oed). Fodd bynnag, uchafswm yw hwn ac nid targed – po fwyaf o bobl sy’n ymgynnull, y mwyaf yw'r risg.

A gaf i fynd i siopa os ydw i wedi bod yn gwarchod fy hun?

Cewch, mae'r cyngor i warchod eich hun wedi dod i ben am y tro, felly nid oes angen ichi osgoi pob siop mwyach. Ond mae angen ichi fod yn ofalus iawn o hyd, felly dylech siopa ar adegau tawelach, gwneud yn siŵr eich bod yn cynnal pellter o 2 fetr oddi wrth eraill a golchi eich dwylo neu ddefnyddio hylif diheintio dwylo yn aml.

Rwy’n byw'n agos at y ffin rhwng Cymru ac ardal haen 3 yn Lloegr – a gaf i groesi'r ffin i fynd i siopa?

O dan gyfraith Cymru, caniateir hyn os oes angen ichi brynu bwyd, cyflenwadau meddygol neu gynhyrchion ar gyfer cynnal a chadw'r cartref (naill ai eich cartref eich hun, neu gartref rhywun rydych yn gofalu amdano).

Ond bydd angen ichi hefyd ddilyn y cyfreithiau sydd mewn grym yn Lloegr (ar GOV.UK).

Gorchuddion wyneb

Ble mae angen gwisgo gorchudd wyneb?

Rhaid gwisgo gorchudd wyneb ym mhob man cyhoeddus o dan do. Mae hyn yn cynnwys trafnidiaeth gyhoeddus a thacsis, a mannau lle gweinir bwyd a diod, ac eithrio pan fyddwch yn eistedd i fwyta neu yfed. Mae hyn yn berthnasol i bawb sy’n 11 oed a throsodd, oni bai bod eithriad yn berthnasol. Nid oes rhaid i blant o dan 11 oed wisgo gorchudd wyneb.

Gweler ein canllawiau ar orchuddion wyneb i weld y rheolau ynghylch pryd y mae angen gorchudd wyneb a manylion am eithriadau. 

A oes modd i mi gael fy eithrio rhag gwisgo gorchudd wyneb?

Nid oes rhaid i rai pobl wisgo gorchudd wyneb, ac mae nifer o sefyllfaoedd lle gall pobl dynnu eu gorchudd dros dro.  Edrychwch ar ein canllawiau i weld a allech fod wedi’ch eithrio.

Oes angen gorchuddion wyneb mewn lleoliadau addysg a gofal plant?

Dylai dysgwyr a staff ysgolion uwchradd wisgo gorchuddion wyneb ym mhob man y tu allan i’r ystafell ddosbarth. Dylai disgyblion ysgolion uwchradd hefyd wisgo gorchuddion wyneb ar gludiant i’r ysgol, ac fe ddylai ymwelwyr a rhieni eu gwisgo ar safle’r ysgol.

A oes rhaid i mi wisgo gorchudd wyneb yn fy ngweithle?

Os ydych yn gweithio mewn ardal sy'n agored i'r cyhoedd, oes. Os nad ydych chi, dylai eich cyflogwr eich cynghori.

Disgwylir i gyflogwyr orfodi'r defnydd o orchuddion wyneb mewn gweithleoedd eraill o dan do lle nad oes modd cadw pellter cymdeithasol, oni bai bod rhesymau cryf dros beidio. Felly, efallai y bydd yn rhaid ichi wisgo gorchudd wyneb yn y gwaith, hyd yn oed mewn mannau nad ydynt yn agored i'r cyhoedd.

Gweler y canllawiau ar orchuddion wyneb i gael rhagor o wybodaeth.

Gwasanaethau cysylltiad agos

A gaiff siopau trin gwallt a siopau barbwr aros ar agor?

Cânt, cyn belled â'u bod yn cymryd pob mesur rhesymol i atal y feirws rhag lledaenu.  

Wrth ddarparu gwasanaethau cysylltiad agos nid yw’n bosibl, yn gyffredinol, cydymffurfio â’r canllawiau cadw pellter cymdeithasol. O ganlyniad, bydd rhaid i’r rhan fwyaf o ddarparwyr gwasanaethau wisgo cyfarpar diogelu personol. Bydd angen gwisgo gorchudd wyneb o leiaf, ond mae’n bosibl y byddai hi’n werth gwisgo cyfarpar arall fel feisor. Gweler ein canllawiau ychwanegol (gorchuddion wyneb: canllawiau i'r cyhoedd).

Bydd disgwyl ichi ddarparu manylion cyswllt wrth fynd i siop trin gwallt neu siop barbwr, a chynghorir chi i fynd i’r apwyntiad ar eich pen eich hun os oes modd.

A gaiff salonau harddwch aros ar agor?

Cânt. Bydd salonau harddwch a busnesau tebyg yn cael agor cyn belled â'u bod yn cymryd pob mesur rhesymol i atal y feirws rhag lledaenu.  

Gweler y canllawiau wedi’u diweddaru ar gyfer y sector hwn, a fydd yn cael eu hadolygu’n rheolaidd (busnesau gwasanaethau cysylltiad agos: canllawiau’r coronafeirws i weithleoedd) - rydym yn argymell bod y diwydiant yn parhau i gadw llygad ar ein gwefan i weld y fersiwn ddiweddaraf. Rydym yn parhau i weithio gyda'r diwydiant harddwch i sicrhau bod y canllawiau'n glir ac yn adlewyrchu ffyrdd priodol o weithio.

Wrth ddarparu gwasanaethau cysylltiad agos nid yw’n bosibl, yn gyffredinol, cadw pellter cymdeithasol. O ganlyniad, bydd rhaid i’r rhan fwyaf o ddarparwyr gwasanaethau wisgo cyfarpar diogelu personol, fel masg wyneb a/neu feisor. Bydd angen gwisgo gorchudd wyneb o leiaf, ond mae’n bosibl y byddai hi’n werth gwisgo cyfarpar arall fel feisor. Gweler ein canllawiau ychwanegol (gorchuddion wyneb: canllawiau i'r cyhoedd).

Bydd disgwyl hefyd ichi ddarparu manylion cyswllt wrth fynd i’r salon a  chynghorir chi i fynd i’r apwyntiad ar eich pen eich hun os oes modd.

A oes rhai pethau nad ydynt yn cael eu caniatáu mewn salonau harddwch? 

Rydym yn disgwyl i bob mesur rhesymol gael ei gymryd i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â’r feirws. Mae hyn yn golygu cadw pellter corfforol a chyfyngu ar ryngweithio wyneb yn wyneb, a gwell hylendid (glanhau a rhannu offer, golchi dwylo a hylendid anadlol ac ati).

Mae cyngor iechyd cyhoeddus cryf yn erbyn cynnal rhai mathau o driniaethau oherwydd y cysylltiad agos sydd ei angen rhwng y cleient a'r ymarferwr. Mae’r meysydd dan sylw wedi’u rhestru yn y canllawiau i fusnesau sy'n cynnig gwasanaethau cysylltiad agos. Fel mesur rhesymol, rydym yn cynghori na ddylent gael eu cynnal os nad yw’r ymarferwr wedi cael hyfforddiant priodol a bod modd gwisgo cyfarpar diogelu addas,

Pa fesurau sydd ar waith i’w gwneud yn ddiogel i wasanaethau tylino, acwbigo ac electrolysis ailagor?

Fel yn achos salonau harddwch, rydym wedi gweithio gyda’r darparwyr i wneud yn siŵr bod canllawiau clir ar gael ar ddulliau priodol o weithio (busnesau gwasanaethau cysylltiad agos: canllawiau’r coronafeirws i weithleoedd) .

Rydym yn cynghori'n gryf na ddylai triniaethau ar yr wyneb digwydd ar hyn o bryd oni bai bod hyfforddiant priodol wedi'i gynnal ac y gellir gwisgo offer diogelu addas. Bydd disgwyl ichi roi manylion cyswllt.

A oes modd imi gael trin fy ngwallt neu gael triniaeth harddwch neu driniaethau eraill yn fy nghartref?

Oes, ond gyda’r un cyfyngiadau ag a nodir uchod ar y gwasanaethau a ddarperir. Gofynnwyd i unigolion sy’n darparu’r gwasanaethau hyn siarad â’u cwsmeriaid ymlaen llaw i drafod y camau sy’n ofynnol i ddarparu gwasanaethau cysylltiad agos yn ddiogel yn y cartref. 

A gaf i fynd i gael y triniaethau hyn gyda’m ffrindiau?

Oni bai eu bod yn mynd gyda phlant neu oedolyn bregus, byddai’n well gennym pe bai cwsmeriaid yn mynd i’r apwyntiad a drefnwyd ganddynt ar eu pen eu hunain os oes modd, i sicrhau ei bod yn haws cadw pellter cymdeithasol. Mae ein canllawiau ar gyfer busnesau sy’n darparu gwasanaethau cysylltiad agos yn eu cynghori i ofyn i gwsmeriaid, pan fyddant yn trefnu’r apwyntiad, i ddod ar eu pen eu hunain.

A gaiff sbas agor?

Mae sbas yn cael agor ond mae’n bosibl na fydd rhai triniaethau ar gael, a bydd sawnas ac ystafelloedd stêm yn gorfod aros ar gau.

Pa ganllawiau sydd ar waith ar gyfer gwasanaethau tatŵio a thyllu'r corff?

Rydym wedi gweithio gyda’r diwydiant i sicrhau y bydd canllawiau clir ar ffyrdd priodol o weithio (busnesau gwasanaethau cysylltiad agos: canllawiau’r coronafeirws i weithleoedd).

Yn amlwg, wrth ddarparu gwasanaethau cyswllt agos nid yw'n bosibl, yn gyffredinol, cadw pellter cymdeithasol. O ganlyniad, bydd angen i ddarparwyr gwasanaethau wisgo cyfarpar diogelu personol. Bydd disgwyl ichi roi eich manylion cyswllt. 

Rydym yn cynghori'n gryf yn erbyn cael tatŵs ar yr wyneb neu gael gwared arnynt, a hefyd tyllu'r tafod, y geg, y gwefusau, y trwyn, yr aeliau neu’r foch.

Chwaraeon a gweithgareddau awyr agored

Pa gyfleusterau chwaraeon a hamdden sy’n cael aros ar agor?

Caniateir i'r holl gyfleusterau chwaraeon a hamdden, ar wahân i ganolfannau sglefrio ac alïau bowlio, fod ar agor. Disgwylir i weithredwyr y cyfleusterau gymryd pob mesur rhesymol i reoli risg a chadw pellter cymdeithasol.

A fydd chwaraeon proffesiynol a chwaraeon elît yn parhau?

Bydd chwaraeon proffesiynol a chwaraeon elît yn cael parhau. Bydd gwylwyr yn parhau i gael eu gwahardd rhag mynychu digwyddiadau chwaraeon.

A yw'r cyfyngiadau ar gynulliadau o fwy na phedwar o bobl yn berthnasol i chwaraeon ac ymarfer corff?

Caiff unrhyw un gymryd rhan mewn chwaraeon neu ymarfer corff mewn grŵp o hyd at 30 o bobl yn yr awyr agored neu 15 o bobl o dan do, os yw hyn yn rhan o weithgaredd wedi'i drefnu a reolir er enghraifft gan gampfa, canolfan hamdden neu glwb chwaraeon. Bydd hyfforddwyr a swyddogion yn cael eu cyfrif fel rhai sy’n cymryd rhan fel arfer felly dylai’r terfyn o 30 neu 15 eu cynnwys nhw. Fodd bynnag, bydd unrhyw un sydd yno i drefnu neu i gefnogi’r gweithgaredd, sy’n gweithio neu’n darparu gwasanaeth gwirfoddol, hefyd yn cael bod yn bresennol ac nid oes rhaid eu cyfrif fel rhan o’r terfyn o 30 neu 15. Mae plant o dan 11 oed hefyd wedi’u heithrio o’r uchafswm sy’n cael ymgynnull, ac nid yw’r cyfyngiadau ar niferoedd yn berthnasol os yw’r gweithgaredd wedi’i drefnu’n benodol ar gyfer datblygiad neu les plant (at y dibenion hyn, mae hynny’n golygu unrhyw un o dan 18 oed).

Caniateir cynulliadau o grwpiau ac unigolion ar yr un pryd, o dan do ac yn yr awyr agored, os oes digon o le i wneud hynny yn ddiogel ac yn annibynnol.

Mae gan drefnwyr a’r rhai sy’n gyfrifol am yr eiddo gyfrifoldeb i gymryd pob cam rhesymol i leihau’r risg o ledaenu coronafeirws, gan gynnwys sicrhau bod digon o le i gadw pellter cymdeithasol. 

A yw digwyddiadau chwaraeon yn cael eu caniatáu?

Ni chaniateir trefnu digwyddiad lle bydd mwy na 30 o bobl yn bresennol ar yr un amser yn yr awyr agored, neu 15 o bobl o dan do. Ni chaniateir digwyddiadau gyda thonnau o wahanol ymgeiswyr, neu ymgeiswyr yn dechrau ar wahanol amseroedd os oes risg o dorri’r rheolau ar yr uchafswm o 30 o bobl yn ymgynnull yn yr awyr agored neu 15 o bobl o dan do.

A ellir chwarae chwaraeon tîm yn yr arwyr agored bellach?

Caiff unrhyw un gymryd rhan mewn chwaraeon neu ymarfer corff mewn grŵp o hyd at 30 o bobl yn yr awyr agored neu hyd at 15 o bobl o dan do, os yw’n rhan o weithgaredd a drefnwyd gan gampfa, canolfan hamdden neu glwb chwaraeon er enghraifft. Bydd hyfforddwyr a swyddogion yn cael eu hystyried fel unigolion sy’n cymryd rhan ac felly dylai’r terfyn o 30 neu 15 eu cynnwys nhw. Fodd bynnag, caiff unrhyw un sydd yno i drefnu neu i gefnogi’r gweithgaredd, os ydynt yn gweithio neu’n darparu gwasanaeth gwirfoddol, hefyd fod yn bresennol ac nid oes rhaid eu hystyried yn y terfyn o 30 neu 15. Mae plant o dan 11 oed hefyd wedi’u heithrio o’r uchafswm sy’n cael ymgynnull, ac nid yw’r cyfyngiadau ar niferoedd yn berthnasol os yw’r gweithgaredd wedi’i drefnu’n benodol ar gyfer datblygiad neu les plant (at y dibenion hyn, mae hynny’n golygu unrhyw un o dan 18 oed).

Mae Chwaraeon Cymru yn gyfrifol am ystyried gwneud dynodiadau pellach o athletwyr elît i alluogi cynnal mwy o chwaraeon tîm wedi’u trefnu yn yr awyr agored os yw’r uchafswm o 30 person wedi bod yn gyfyngedig. Bydd hyn yn cael ei wneud yn ofalus a fesul cam a bydd canllawiau clir ar gael gan gyrff llywodraethu’r chwaraeon i ddiogelu’r holl gyfranogwyr.

A gaf i fynd i ddigwyddiad chwaraeon yn Lloegr? 

Ni chaniateir mynychu digwyddiad chwaraeon fel gwyliwr ar hyn o bryd mewn unrhyw leoliad. Nid oes hawl i wneud hynny yn yr ardaloedd yn Lloegr sydd yn haen 3, yr ardaloedd yn yr Alban sydd ar lefel 3 neu’n uwch, nac yng Ngogledd Iwerddon.

A oes caniatâd i wylwyr fynd i ddigwyddiadau chwaraeon yng Nghymru? 

Bydd gwylwyr yn parhau i gael eu gwahardd rhag mynd i ddigwyddiadau chwaraeon.

A gaf i adael Cymru neu deithio i Gymru i fynychu digwyddiad chwaraeon neu i gymryd rhan mewn campau neu ymarfer corff?

Mae cyfyngiadau ar deithio i mewn i Gymru ac allan o Gymru. Gweler yr adran deithio am ragor o wybodaeth. Yn benodol, nid yw cymryd rhan mewn chwaraeon neu ymarfer corff yn cael ei ystyried yn esgus rhesymol yn gyffredinol i deithio rhwng Cymru ac ardaloedd o Loegr sydd yn haen tri, ardaloedd o'r Alban sydd ar lefel tri neu’n uwch, na Gogledd Iwerddon.

Mae rheolau penodol yn berthnasol i athletwyr elît sy'n hyfforddi ac yn cystadlu, neu i unrhyw un sy'n darparu hyfforddiant neu gymorth arall i athletwr  elît, neu sy'n darparu cymorth mewn digwyddiad chwaraeon lle mai dim ond athletwyr elît sy'n cystadlu. Bydd gan unrhyw un sy'n ymwneud yn broffesiynol â chwaraeon hawl hefyd i adael Cymru neu i ddod i mewn i’r wlad o unrhyw ran o'r DU lle bo angen, oherwydd bod hyn yn cael ei ystyried fel gwaith ac felly’n cael ei ganiatáu i bawb. 

Ystyrir hefyd ei bod yn rhesymol gadael Cymru neu ddod i mewn i’r wlad o unrhyw ran o'r DU i gymryd rhan mewn gweithgaredd wedi'i drefnu neu i hwyluso gweithgaredd o’r fath, ar gyfer datblygiad neu les plant, os yw hynny'n angenrheidiol.  

Wrth adael Cymru neu ddod i mewn i’r wlad, bydd angen ichi sicrhau hefyd bod y rheswm sydd gennych dros wneud hynny yn cael ei ganiatáu yn ôl y rheolau yn yr ardal benodol yn y wlad y byddwch ynddi. 

A oes hawl i gynnal dosbarthiadau ymarfer corff i grwpiau o dan do, hyd yn oed gyda mwy na phedwar o bobl?

Oes. Gellir cynnal dosbarthiadau ymarfer corff ar gyfer grwpiau o hyd at 15 o dan do, ond dylai’r rhai sy’n gyfrifol amdanynt ystyried pa mor dda y mae’r ystafell wedi’i hawyru ac a oes digon o le yno i sicrhau bod pellter corfforol o 2m yn cael ei gynnal.

Caniateir i gynulliadau o hyd at 15 o bobl gael eu cynnal yr un pryd o dan do, os oes digon o le i wneud hynny yn ddiogel ac yn annibynnol.

Rydym yn disgwyl i bob mesur rhesymol gael ei gymryd i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â'r feirws. Mae hyn yn golygu cadw pellter corfforol a chyfyngu ar ryngweithio wyneb yn wyneb, a gwell hylendid (glanhau a rhannu cyfarpar, golchi dwylo a hylendid anadlol ac ati.) (ar GOV.UK)  O ganlyniad, efallai na fydd rhai dosbarthiadau yn gallu ailddechrau ar hyn o bryd.

A yw’r cyfyngiadau ar niferoedd yn berthnasol i chwaraeon ac ymarfer i blant o dan 18 oed?

Does dim cyfyngiad ar nifer y plant o dan 18 oed sy’n cael cymryd rhan mewn chwaraeon a drefnwyd neu ei hwyluso, ar gyfer datblygiad neu les plant. Rhaid i’r gweithgaredd gael ei drefnu gan gorff cyfrifol fel clwb chwaraeon, corff cyhoeddus, elusen neu gampfa neu ganolfan hamdden. Yr unig beth a allai gyfyngu ar nifer y plant o dan 18 oed sy'n gallu cymryd rhan yn gyfreithiol yw ffiniau'r lleoliad a'r angen i ddigon o oedolion fod yn bresennol i oruchwylio.

Ni ddylai unrhyw oedolion sy’n bresennol yn ystod y gweithgareddau hyn, ond sydd ddim yn cymryd rhan yn uniongyrchol neu’n hwyluso’r gweithgareddau, aros yn yr ardal pan gynhelir y gweithgaredd. Dylid cyfyngu ar gefnogwyr ac arsylwyr y gweithgareddau i’r bobl sydd angen bod yno yn unig. Er enghraifft, rhieni neu warcheidwaid plant y mae angen iddynt fod yno at ddibenion iechyd neu ddiogelu.

A gaf i weithio gyda hyfforddwr personol, gan gynnwys mewn campfa?

Cewch. Caiff cyfleusterau hamdden o dan do, gan gynnwys campfeydd, aros ar agor a chaniateir cynnal hyfforddiant personol. Rhaid i'r cleient a'r hyfforddwr ddilyn yr un rheolau â phawb arall. Rydym yn disgwyl i bob mesur rhesymol gael ei gymryd i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â'r feirws. Mae hyn yn golygu cadw pellter corfforol a chyfyngu ar ryngweithio wyneb yn wyneb, a gwell hylendid (glanhau a rhannu cyfarpar, golchi dwylo a hylendid anadlol ac ati). Mae’n ofynnol gwisgo gorchudd wyneb hefyd, er bod eithriadau ar gyfer y sawl sy’n gwneud yr ymarfer (gweler isod). O ganlyniad, efallai na fydd rhai gweithgareddau yn gallu ailddechrau ar hyn o bryd.

A oes angen imi wisgo gorchudd wyneb wrth wneud ymarfer corff mewn canolfan hamdden neu gampfa?

Gan fod campfeydd a chanolfannau hamdden yn fannau cyhoeddus o dan do, bydd angen ichi wisgo gorchudd wyneb pan fyddwch yn mynd yno a bydd angen ichi barhau i'w wisgo, yn dibynnu ar beth y byddwch yn ei wneud. Os byddwch yn paratoi i wneud ymarfer corff, yn newid neu'n cymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd nad yw'n egnïol, yn enwedig pan fyddwch mewn cysylltiad agos â phobl eraill, bydd angen ichi wisgo gorchudd wyneb.

Ond mae’n bosibl y bydd amgylchiadau lle bydd cynllun y safle a natur yr ymarfer corff rydych yn ei wneud yn golygu na fyddai'n rhesymol disgwyl ichi wisgo gorchudd wyneb. Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn cynghori na ddylid gwisgo gorchudd wyneb wrth wneud ymarfer corff oherwydd y gall chwys wlychu gorchudd wyneb yn gyflymach, gan ei gwneud yn anoddach anadlu a galluogi micro-organebau i dyfu’n gyflymach. Mae'n cynghori mai'r mesur ataliol pwysig wrth wneud ymarfer corff yw cadw pellter corfforol oddi wrth eraill.

Fel rhan o'r mesurau y bydd angen i weithredwr y gampfa neu'r ganolfan hamdden eu rhoi ar waith i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws, bydd angen iddynt ystyried pryd yna fyddai’n briodol gofyn i bobl wisgo gorchudd wyneb a pha gamau lliniaru y gallai fod eu hangen. Bydd disgwyl iddynt roi rhagor o wybodaeth ichi am y systemau sydd ar waith a'r hyn y bydd disgwyl ichi ei wneud.

A oes rhaid i staff a'r cyhoedd wisgo gorchudd wyneb mewn canolfan hamdden neu gampfa?

Oes. Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith hefyd i staff sy'n gweithio yn y rhannau hynny o safleoedd o dan do sy'n agored i'r cyhoedd wisgo gorchudd wyneb tra byddant yn y mannau hynny, ond gan ddilyn yr un eithriadau ag sy'n berthnasol i gwsmeriaid.

Pa fesurau sydd ar waith i'w gwneud yn ddiogel i ganolfannau hamdden a phyllau nofio fod ar agor?

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau i helpu gweithredwyr cyfleusterau i baratoi ar gyfer ailagor cyfleusterau o dan do ac yn yr awyr agored ym mis Mehefin. Ers hynny rydym wedi gweithio mewn partneriaeth â Chwaraeon Cymru, Cymdeithas Chwaraeon Cymru, cyrff llywodraethu megis Nofio Cymru a'r sector. Mae gweithredwyr hamdden hefyd wedi cytuno i rannu arferion gorau a gwersi a ddysgwyd gyda'i gilydd, er budd pawb sy'n gweithio yn eu cyfleusterau ac yn eu mynychu.

Bydd yn rhaid i'r holl gyfleusterau sy'n gymwys i ailagor sicrhau bod y canllawiau hyn yn cael eu dilyn a rhaid iddynt gynnal asesiadau risg. Disgwyliwn i bob mesur rhesymol gael ei gymryd i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â'r feirws. Mae hyn yn golygu cadw pellter corfforol a chyfyngu ar ryngweithio wyneb yn wyneb, a gwell hylendid (glanhau a rhannu cyfarpar, golchi dwylo a hylendid anadlol ac ati) (ar GOV.UK). O ganlyniad, efallai na fydd rhai gweithgareddau hyfforddi, ac ni ddylai sawnas ac ystafelloedd stêm agor. Bydd disgwyl ichi hefyd roi manylion cyswllt.

Sut y mae meysydd chwarae’n cael eu cadw’n ddiogel?

Mae gofyn i bob perchennog neu weithredwr gymryd pob mesur rhesymol i leihau lledaeniad y coronafeirws. Rydym wedi darparu canllawiau sy’n gofyn i berchenogion a gweithredwyr gynnal asesiad risg a chyflwyno camau ymarferol i leihau’r risg o drosglwyddo’r coronafeirws - ailagor meysydd chwarae plant a mannau chwarae awyr agored.  Bydd angen i bob perchennog neu weithredwr roi’r canllawiau hynny ar waith ar gyfer y cyfleusterau y maent yn gyfrifol amdanynt, gan ddibynnu ar yr amgylchiadau ac ar sut y mae’r cyfleusterau hynny wedi’u gosod a’u cynllunio. Bydd angen ystyried maint y maes chwarae a’r math o gyfarpar sydd yno a sut y mae’n cael ei drefnu, ei redeg a’i reoli.

Does dim modd dileu risg yn llwyr. Er hynny, mae chwarae yn yr awyr agored o fudd mawr i blant ac mae ailagor parciau’n helpu plant gyda’u hiechyd meddwl, eu hiechyd corfforol a’u lles. Mae llai o risg o drosglwyddo coronafeirws mewn amgylcheddau awyr agored.

Mae rhieni a gwarcheidwaid yn cael eu hannog i ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros gadw pellter cymdeithasol ac arferion da o ran hylendid, er enghraifft drwy annog y plant i olchi neu ddiheintio’u dwylo, i beidio â bwyta nac yfed mewn parciau, i lanhau cyfarpar â’u clytiau glanhau eu hunain, ac i sicrhau mai dim ond niferoedd bach fydd yn y parciau ac yn defnyddio’r cyfarpar ar yr un pryd, gan wneud hynny drwy ddefnyddio’r cyfarpar yn eu tro a mynd i’r parciau ar adegau llai prysur.

Symud tŷ

A gaf i symud tŷ?

Cewch. Rydym yn argymell y dylai’r tŷ gael ei lanhau’n drylwyr cyn ichi fynd yno os nad yw wedi bod yn wag am o leiaf dri diwrnod cyn hynny. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar symud tŷ yn ystod pandemig y coronafeirws.

A oes unrhyw gyfyngiadau ar fynd i weld tai, a thrafodion eraill y farchnad dai?

Na, codwyd y cyfyngiadau ar fynd i weld eiddo  ddydd Llun 9 Tachwedd. Caiff darpar brynwyr a thenantiaid wneud trefniadau priodol gyda landlordiaid, asiantau neu berchnogion i fynd i weld eiddo. Dylai pawb sy'n rhan o'r broses ddilyn canllawiau ar gadw pellter cymdeithasol a golchi dwylo a hylendid anadlol.

Mae unrhyw un sydd yng Nghymru, boed yn byw yma neu'n teithio yma, wedi'i rwymo gan y rheolau hyn. Fodd bynnag, mae teithio i symud tŷ, neu weithgaredd cysylltiedig arall, yn esgus rhesymol dros ddod i mewn i Gymru. Yn yr un modd, gall pobl sy'n byw yng Nghymru deithio i Loegr at ddibenion symud tŷ neu weithgarwch cysylltiedig arall. Mewn achos o’r fath, bydd angen ichi gydymffurfio ag unrhyw gyfyngiadau a allai fod yn berthnasol i chi mewn rhannau eraill o’r DU. Mae rhagor o wybodaeth ar symud tŷ yn ystod pandemig y coronafeirws.

A gaf i drefnu i gynnal arolwg morgais neu brisio yn fy eiddo?

Cewch. Mae gwerthwyr tai, syrfewyr a gweithwyr symud dodrefn yn cael mynd i eiddo pobl eraill. Rhaid iddynt gymryd pob mesur rhesymol i atal y coronafeirws rhag lledaenu, ac rydym yn argymell hefyd y dylent ddilyn y canllawiau ar weithio yng nghartrefi pobl eraill.

Mannau addoli, priodasau a phartneriaethau sifil, mynwentydd ac angladdau

Beth yw’r rheolau ar gyfer gwasanaethau crefyddol?

Mae addoldai'n cael ailagor ar gyfer addoli cymunedol, ond mae dyletswydd ar y rhai sy’n gyfrifol am y man addoli i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws a rhoi gwybodaeth i bobl sy'n mynychu sut y gallant leihau'r risg. Gellir cynnal seremonïau hefyd, naill ai fel rhan o weithred addoli gymunedol neu fel digwyddiadau ynddynt eu hunain. Bydd disgwyl i bobl gadw pellter corfforol a dilyn arferion da o ran golchi dwylo a hylendid anadlol.

Os yw addoldy yn rhy fach i ymgynnull yn ddiogel ynddo, mae’n bosibl y gellir trefnu i hyd at 30 o bobl ddod ynghyd yn yr awyr agored gyda mesurau priodol ar waith.

A oes rhaid i mi wisgo gorchudd wyneb wrth fynychu gwasanaeth crefyddol?

Oes, mae addoldai yn fannau cyhoeddus o dan do ac felly bydd y gofynion o ran gwisgo gorchudd wyneb yn berthnasol yno fel mewn mannau cyhoeddus eraill. Rydym o’r farn fod gan y rhai sy'n arwain addoliad neu seremoni esgus rhesymol dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb os na allant wneud hynny'n effeithiol tra'n gwisgo un, ar yr amod eu bod wedi cymryd camau lliniaru digonol eraill megis cadw pellter o 2m oddi wrth bobl eraill bob amser a gwisgo feisor.

A yw pob lleoliad priodas neu seremoni partneriaeth sifil posibl ar agor erbyn hyn?

Ydynt, gall pob safle sydd wedi'i drwyddedu i weinyddu priodas neu ffurfio partneriaeth sifil agor ar gyfer seremonïau priodas a phartneriaethau sifil. Fodd bynnag, bydd angen cymryd pob mesur rhesymol i leihau'r risg o ledaenu'r feirws ar y safle.

Os ydych yn bwriadu priodi mewn lleoliad lletygarwch megis gwesty, bydd yn ofynnol iddo gau erbyn 6pm, oni bai’ch bod eisoes wedi gwneud eich archeb cyn 6pm ar 4 Rhagfyr. Os felly, caiff y lleoliad aros ar agor tan 10pm.

A oes cyfyngiadau ar nifer y bobl sy'n cael mynychu seremonïau?

Bydd y nifer a fydd yn gallu mynychu seremoni o dan do yn cael ei gyfyngu gan gapasiti'r lleoliad lle mae'n cael ei gynnal, gan gadw’r mesurau cadw pellter cymdeithasol mewn cof.    

Er mwyn sicrhau bod y rheolau’n cael eu dilyn o ran uchafswm y nifer a all fynychu’r seremoni, rhaid i hynny fod drwy wahoddiad yn unig. Gweler y canllawiau perthnasol ar seremonïau priodas a phartneriaeth sifil.

A oes angen gorchudd wyneb mewn seremonïau priodas a phartneriaeth sifil?

Bydd angen i westeion wisgo gorchudd wyneb, ond o ystyried pwysigrwydd y seremoni i’r cwpl, a lefel y risg dan sylw, rydym o’r farn ei bod yn rhesymol i'r cwpl dynnu eu gorchuddion ar gyfer cusan, gwneud yr adduned, cerdded at yr allor a thynnu lluniau o dan do, ac ar gyfer y “ddawns gyntaf", cyn belled â bod mesurau eraill ar waith i ddiogelu pobl sy'n mynychu'r seremoni rhag y risg o ddal y coronafeirws, er enghraifft, dylai gwesteion gadw 2m i ffwrdd oddi wrth y cwpl bob amser.

Beth yw'r rheolau ar gynnal derbyniadau?

Gellir cynnal derbyniad ar gyfer hyd at 15 o bobl o dan do. Pan fydd y derbyniad yn digwydd o dan do, bydd angen ei gynnal mewn safle a reoleiddir (fel tafarn, bwyty, gwesty neu ganolfan gymunedol) ac mae cyfyngiadau ar y math o weithgaredd y gellir ei gynnal – er enghraifft ni ddylid chwarae cerddoriaeth uchel, a dylid gweini unrhyw fwyd a ddarperir wrth y bwrdd yn hytrach nag mewn bwffe. Nid yw’r cyfyngiadau ar y rhai sy’n cael bod yn bresennol yn cynnwys plant o dan 11 oed na’r staff sy’n gweithio yn y digwyddiad.

Os ydych yn bwriadu priodi mewn lleoliad lletygarwch megis gwesty, tafarn neu fwyty, bydd yn ofynnol iddo gau erbyn 6pm, oni bai’ch bod eisoes wedi gwneud eich archeb cyn 6pm ar 4 Rhagfyr. Caiff derbyniadau a gafodd eu harchebu cyn hynny barhau tan 10pm (a’r lleoliad i gau erbyn 10:20pm).

Ni chaniateir gwerthu nac yfed alcohol ar y safle yn ystod y derbyniad.

Bydd canllawiau wedi’u diweddaru ar gynnal derbyniadau priodas ar gael cyn bo hir.

Mae aelod agos o'r teulu wedi marw ac mae angen i mi drefnu'r angladd – beth ddylwn i ei wneud?

Gall angladdau fod yn brofiad gofidus, ac mae effaith y coronafeirws yn ei gwneud yn anoddach fyth i wneud trefniadau ymarferol. Cyhoeddir canllawiau wedi'u diweddaru ar angladdau cyn bo hir.

A gaf i fynd i angladd?

Cewch, ond mae'n rhaid ichi gael gwahoddiad. Mae'r niferoedd wedi'u cyfyngu oherwydd yr angen i gadw pellter cymdeithasol. Nid yw’r cyfyngiadau cyffredinol ar gynulliadau o fwy na phedwar o bobl yn berthnasol i angladdau.

A oes hawl i gynnal gwylnos neu fath arall o gynulliad yn dilyn angladd?

Caiff hyd at 15 o bobl ddod ynghyd at y dibenion hyn (nid yw’r terfyn hwn yn cynnwys plant o dan 11 neu staff sy’n gweithio yn y digwyddiad). Os yw o dan do, bydd angen i'r crynhoad ddigwydd mewn safleoedd a reoleiddir (fel cyfarwyddwyr angladdau, tafarndai, bwytai, gwestai neu ganolfannau cymunedol) ac mae cyfyngiadau ar y math o weithgaredd y gellir ei gynnal – er enghraifft ni ddylid chwarae cerddoriaeth uchel, a dylid gweini unrhyw fwyd a ddarperir wrth y bwrdd yn hytrach nag mewn bwffe.

O 4 Rhagfyr ymlaen, rhaid i wylnosau a gynhelir mewn safleoedd trwyddedig megis tafarn, bwyty neu westy, ddod i ben erbyn 6pm ac ni chaniateir gwerthu na chyflenwi alcohol i’w yfed ar y safle ar unrhyw adeg.

Bydd canllawiau wedi'u diweddaru ar angladdau ar gael cyn bo hir.

Llyfrgelloedd a chanolfannau cymunedol

A yw llyfrgelloedd yn cael aros ar agor?

Caniateir i lyfrgelloedd aros ar agor. Fodd bynnag, mae'r penderfyniad ynghylch agor pob llyfrgell unigol yn ddewis i'r awdurdod lleol perthnasol.

A yw canolfannau cymunedol yn cael aros ar agor?

Caniateir i ganolfannau cymunedol aros ar agor. Fodd bynnag, mater i’r rhai sy’n gyfrifol am ganolfannau unigol yw penderfynu agor ai peidio. Ein neges yw nad yw’r ffaith eich bod yn cael agor olygu y dylech wneud hynny.

Mae rhai canolfannau wedi penderfynu aros ar gau oherwydd y risg o drosglwyddo’r feirws neu o beidio â chael digon o aelodau staff neu wirfoddolwyr i agor yn ddiogel. Mewn rhai achosion gellir darparu gweithgareddau'n ddigidol neu'r tu allan.

Pa weithgareddau y mae hawl i’w cynnal mewn canolfan gymunedol?

Nid oes cyfyngiad penodol ar y mathau o weithgareddau, ond rhaid iddynt gael eu trefnu gan glwb neu gorff cydnabyddedig o fewn y terfynau cyfreithiol ar y niferoedd sy'n mynychu, ac nad yw'n cynnwys gwerthu nac yfed alcohol.

Byddem yn annog trefnwyr i ystyried a oes angen i'r gweithgaredd ddigwydd o dan do, yn enwedig os yw wedi’i gynnal yn llwyddiannus dros y we neu yn yr awyr agored dros y misoedd diwethaf.

Y trefnwyr fydd yn gyfrifol am gymryd pob cam rhesymol i leihau'r risg y bydd y rhai sydd ar y safle yn dod i gysylltiad â’r coronafeirws neu fod y feirws yn cael ei ledaenu.

Ystyrir bod canu, llafarganu, gweiddi neu chwarae offerynnau chwyth yn weithgareddau risg uchel, a dylid eu hosgoi yn gyffredinol, yn enwedig o dan do, hyd yn oed pan gedwir pellter corfforol a defnyddir gorchuddion wyneb. Os bydd y gweithgareddau hyn yn cael eu cynnal, rhaid i’r trefnwyr gymryd camau lliniaru helaeth, neu fel arall, mae’n bosibl y byddant yn methu â chyflawni eu dyletswydd statudol i gymryd pob mesur rhesymol i atal y coronafeirws rhag lledaenu. Mae canllawiau ar ymarfer, perfformio a chymryd rhan yn y celfyddydau perfformio bellach wedi’u cyhoeddi.

Gweler ein canllawiau ar ganolfannau cymunedol i gael rhagor o wybodaeth.

Gorfodi a dirwyon

Pwy sy'n gorfodi'r cyfyngiadau?

Caiff y cyfyngiadau eu gorfodi gan swyddogion gorfodi awdurdodau lleol a'r heddlu yn bennaf.

Beth gaiff swyddogion gorfodi wneud?

Cânt gyhoeddi hysbysiadau cosb benodedig neu argymell erlyn mewn llys ynadon. Yn ogystal, mae ganddynt bwerau eang i gymryd camau ymarferol i wasgaru cynulliadau, ei gwneud yn ofynnol i bobl fynd adref a chael mynediad i eiddo.

Beth os na chymerir camau rhesymol i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â'r coronafeirws mewn safle neu weithle?

Mae swyddogion gorfodi yr awdurdodau lleol bellach yn gallu cyflwyno hysbysiad gwella mangre. Bydd hyn yn ei gwneud yn ofynnol i'r person sy'n gyfrifol am y safle (a elwir yn ‘fangre’ yn y ddeddfwriaeth) gymryd camau penodedig ac, os na chymerir y camau hynny, gall swyddog gyflwyno ‘hysbysiad cau mangre’ a fydd yn golygu y bydd yn rhaid cau'r safle. Mae modd iddynt bellach gyflwyno hysbysiadau cosb benodedig, yn dechrau o £1000 ar gyfer trosedd gyntaf a bydd y ddirwy yn cynyddu gydag unrhyw droseddu pellach.

Pan fo angen, gall swyddog hefyd gyflwyno hysbysiad cau mangre hyd yn oed os na chyflwynwyd hysbysiad gwella mangre o'r blaen.

Felly, os na fydd pobl yn cydymffurfio, gellir cau'r safle.

Beth fydd yr heddlu yn ei wneud?

Bydd yr heddlu yng Nghymru yn trafod â phobl, yn esbonio beth sydd angen iddynt ei wneud ac yn eu hannog i gydymffurfio. Ond rhoddwyd pwerau i'n heddluoedd a byddant yn eu defnyddio – caiff y cyfyngiadau eu gorfodi os na fydd pobl yn ymateb.