Neidio i'r prif gynnwy

Beth allwch chi a busnesau ei wneud yn ystod yr argyfwng a beth sy'n digwydd os byddwch yn torri'r deddfau newydd hyn.

Cyffredinol

Pa gyfyngiadau sydd ar waith?

Mae pedwar prif beth:

  • Nid yw rhai busnesau penodol yn cael agor
  • Ni ddylai pobl ymgynnull o dan do gydag unrhyw un nad yw'n aelod o'u haelwyd (neu eu haelwyd estynedig) heb reswm da
  • Lluniwyd rheolau ynglŷn â chadw pellter rhwng pobl pan fyddant yn mynd allan (cadw pellter cymdeithasol neu gorfforol)
  • Ni chaiff pobl ymgynnull mewn mannau cyhoeddus ac eithrio gydag aelodau un aelwyd neu aelwyd estynedig arall, heblaw ar gyfer gweithgareddau awyr agored wedi’u trefnu.

A gaf i deithio i Loegr nawr?

Cewch deithio i Loegr ac i fannau eraill yn y Deyrnas Unedig a’r tu hwnt. Cofiwch fod cyfyngiadau gwahanol mewn rhannau eraill o'r DU ac y bydd gofyn i chi eu dilyn. Dylech wneud yn siŵr eich bod yn gwybod beth yw’r rheolau hynny cyn teithio.

Aelwydydd estynedig

Beth yw aelwyd estynedig?

Dwy aelwyd yn cael dod ynghyd i ffurfio aelwyd estynedig. Mae hynny’n golygu y bydd y bobl sy’n byw yn y ddwy wahanol aelwyd yn dod yn rhan o un aelwyd estynedig, o dan y rheoliadau coronafeirws

Bydd ganddynt yr un rhyddid cyfreithiol ag sydd gan bobl sy’n byw mewn aelwyd unigol ar hyn o bryd – er enghraifft cael cwrdd â’i gilydd o dan do, cael cyswllt corfforol ac aros yn nhai ei gilydd.

Beth yw diben creu aelwyd estynedig?

Y syniad yw caniatáu i deuluoedd neu ffrindiau agos sydd wedi bod ar wahân dros y misoedd diwethaf ddod ynghyd a mwynhau cwmni ei gilydd unwaith eto.

Bydd y trefniadau hyn ar gyfer aelwydydd estynedig yn help ar gyfer trefniadau gofal hefyd. Yn arbennig, gallent helpu rhieni sy’n gweithio drwy ddarparu gofal plant anffurfiol dros fisoedd yr haf wrth i fwy o fusnesau agor eu drysau a dychwelyd i drefniadau gwaith ffurfiol. Gallai’r trefniadau hyn hefyd helpu pobl eraill sydd â chyfrifoldebau gofal.

A oes terfyn ar nifer y bobl a gaiff fod mewn aelwyd estynedig? 

Nac oes. Nid oes terfyn ar nifer y bobl a gaiff fod mewn aelwyd estynedig, ar yr amod eu bod i gyd yn byw yn y ddwy aelwyd sy’n uno. 

Dim ond dwy aelwyd sy'n cael ymuno â'i gilydd i ffurfio aelwyd estynedig, a dim ond un aelwyd estynedig y gellir ei ffurfio. 

Bydd y cyfyngiadau hyn ar nifer yr aelwydydd yn helpu i atal y feirws rhag lledaenu.

Sut rydw i’n dewis pa aelwyd arall i baru â hi?

Mae dewis pwy i greu aelwyd estynedig â nhw yn benderfyniad pwysig, ac fe allai fod yn benderfyniad anodd i lawer o bobl.

Does dim ffordd gywir nac anghywir o benderfynu. Ond, mewn gwledydd eraill sydd wedi defnyddio’r dull hwn, mae astudiaethau wedi dangos ei bod wedi bod o gymorth i bobl ystyried y canlynol:

  • Meddyliwch pwy sydd angen cymorth fwyaf, yn hytrach na dim ond ceisio meddwl pwy rydych wedi colli bod yn eu cwmni.
  • Meddwl am y risgiau – caiff pobl sy’n gwarchod eu hunain fod yn rhan o aelwyd estynedig, ond bydd hyn golygu bod mwy o risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.
  • Meddwl am y canlyniadau – os bydd unrhyw un yn yr aelwyd estynedig yn datblygu symptomau coronafeirws, bydd gofyn i bawb hunanynysu, o leiaf nes bydd canlyniadau prawf ar gael. Bydd hyn yn effeithio ar rai pobl yn fwy nag ar eraill, ac mae angen ystyried hyn yn ofalus.

Beth os na allaf i a’r bobl rwy’n byw gyda nhw gytuno pa aelwyd y dylem baru â hi?

Rhaid i bawb sy'n byw yn y ddwy aelwyd sy'n ffurfio'r aelwyd estynedig berthyn i'r un aelwyd estynedig. Felly, rhaid i'r holl oedolion yn y ddwy aelwyd gytuno i'r penderfyniad i greu'r aelwyd estynedig. 

A gaf i newid y trefniant ac ymuno ag aelwyd arall?

Na chewch. Unwaith y byddwch wedi ffurfio aelwyd estynedig gydag aelwyd arall, ni chewch newid y trefniant ac ymuno ag aelwyd arall yn ei lle. Diben hyn yw lleihau'r risg o ledaenu’r coronafeirws. Ni chewch newid aelodau'r aelwyd ’chwaith.

A gaf i ffurfio aelwyd estynedig gydag aelwyd yn Lloegr?

Cewch, ond bydd angen i'r trefniadau gydymffurfio â'r rheolau yn y ddwy wlad. Mae'r rheolau sy'n berthnasol yn Lloegr ar gael yma.

Rwy’n byw mewn tŷ amlfeddiannaeth – a oes rhaid i bawb yn y tŷ gytuno i fod yn rhan o’r un aelwyd estynedig?

Nac oes - yn yr amgylchiadau hyn mae pob un ohonoch yn aelwyd ar wahân. Ond os oes gan bobl eu lle preifat eu hunain ond eu bod yn rhannu cyfleusterau fel ystafelloedd ymolchi, ystafelloedd byw neu geginau, gallai’r coronafeirws ledaenu drwy’r tŷ hwnnw.

Felly dylech fod yn ymwybodol, os bydd pob un ohonoch yn creu aelwydydd estynedig, y gallech fod yn cynyddu’r risg i chi eich hun (ac i eraill). Ein cyngor yw y dylech ystyried yn ofalus iawn a ydych am greu aelwyd estynedig yn yr amgylchiadau hyn.

Rwy’n rhannu cyfrifoldeb rhieni gyda rhywun nad ydw i’n byw gydag ef – a fydd y plentyn yn cael ei ystyried yn rhan o’r ddwy aelwyd estynedig?

Os yw cyfrifoldeb rhieni yn cael ei rannu, gall y trefniadau presennol barhau a chaiff y plentyn symud rhwng y ddau riant, ac felly rhwng aelwydydd y ddau riant.

Ni ddylai'r newid i'r rheoliadau o ran aelwydydd estynedig gael effaith ar hyn, a dylid ystyried bod y plentyn yn rhan o aelwyd neu aelwyd estynedig y rhiant y mae’n gydag ef ar unrhyw adeg benodol – mewn geiriau eraill os yw un o’r ddau riant, neu’r ddau, yn ffurfio aelwyd estynedig gydag aelwyd nad yw'n cynnwys y rhiant arall, gallai'r plentyn barhau i symud yn rhydd rhwng y rhieni a bod yn rhan o'r ddwy aelwyd estynedig (hynny yw, nid oes rhaid i'r plentyn gadw pellter cymdeithasol o fewn yr aelwyd estynedig, pa riant bynnag y mae gydag ef).

Gweld pobl nad ydynt yn rhan o’ch aelwyd estynedig

Pwy gaf i gwrdd â nhw yn yr awyr agored?

Caiff aelodau dwy aelwyd estynedig (ac unrhyw ofalwyr) gwrdd yn yr awyr agored, cyn belled â’u bod yn cadw at reolau cadw pellter cymdeithasol. Nid oes rhaid cwrdd â’r un bobl o’r un aelwyd bob tro. Mae’r risg o gael eich heintio yn isel os cedwir at y rheol 2 fetr yn yr awyr agored, ond nid yw risg isel yn golygu dim risg o gwbl, felly er y cewch chi wneud hyn, ystyriwch a ddylech ei wneud.

A gaiff aelodau o un aelwyd estynedig gwrdd ag aelodau o fwy nag un aelwyd estynedig arall yn yr awyr agored, ar yr amod eu bod yn gyfarfodydd ar wahân?

Cânt. Ond dim ond aelodau o un aelwyd estynedig arall y cewch gwrdd â nhw ar y tro, a rhaid gwneud hyn yn yr awyr agored. Rhaid cadw at fesurau cadw pellter cymdeithasol hefyd.

Faint o bobl y caf i eu gweld ar yr un pryd?

Cyn belled mai dwy aelwyd estynedig yn unig sy’n cwrdd, does dim cyfyngiad ar y nifer o bobl sy’n cael cwrdd â’i gilydd yn yr awyr agored ar yr un pryd. Ond nid yw ymgynnull gydag aelodau o fwy nag un aelwyd estynedig arall yr un pryd yn cael ei ganiatáu yn rheoliadau’r coronafeirws ar hyn o bryd.

A gaiff ffrindiau neu deulu o aelwyd estynedig arall ddod i’m cartref?

Ni chaniateir hyn fel arfer, oni bai mai cerdded drwy’r tŷ i gyrraedd man arall sydd yn yr awyr agored y maen nhw, neu os oes ganddynt reswm dilys dros fod yno, fel rhoi gofal.

Pam mae’r rheolau yn dweud y caiff pobl gwrdd yn yr awyr agored ond nid o dan do?

Rydym yn dysgu rhagor am y feirws bob dydd, ac rydym yn gwybod bod y risg o’i drosglwyddo yn is yn yr awyr agored nag o dan do – mae’r feirws yn goroesi am funudau yn yr awyr agored ond yn gallu goroesi am oriau ar arwynebau o dan do. Fodd bynnag, nid yw risg is yn yr awyr agored yn golygu nad oes dim dim risg. Mae’n hollbwysig o hyd ein bod yn cadw pellter cymdeithasol.

Os wyf yn cwrdd â rhywun o aelwyd arall yn eu gardd, a gaf i ddefnyddio eu toiled?

Dylech geisio peidio â gwneud hyn – po fwyaf y byddwn yn mynd i mewn i gartrefi pobl eraill ac yn cyffwrdd â phethau, y mwyaf yw’r risg o ledaenu’r feirws. Os oes rhaid ichi ddefnyddio’r cyfleusterau mewn cartref arall, dylech lanhau’r toiled a’r sinc yn drylwyr cyn ac ar ôl eu defnyddio. Dylech olchi’ch dwylo yn drylwyr ac ni ddylid rhannu tywelion llaw.

Nid wyf yn rhan o’r un aelwyd estynedig â rhywun, ond rwy’n credu bod arnynt angen gofal neu gymorth gen i – a gaf i ymweld â nhw?

Mae gennych hawl i roi gofal neu gymorth i rywun sydd ei angen, fel person hŷn, plentyn neu oedolyn agored i niwed, hyd yn oed os nad ydynt yn rhan o’ch aelwyd estynedig. Mae hyn yn cynnwys bod o dan do gyda nhw. Ond dylech ystyried a oes ffynonellau cymorth eraill ar gael. Cewch hefyd ymweld â rhywun ar sail dosturiol os oes angen.

Wrth ystyried a oes angen ymweld â rhywun y tu allan i’ch aelwyd estynedig, yn enwedig o dan do, dylech gofio bod cyfrifoldeb ar bob un ohonom i sylweddoli’r risgiau i ni, ein teuluoedd, ein ffrindiau ac i’n cymunedau ehangach yn sgil y feirws.

Bydd angen i bobl benderfynu beth sy’n rhesymol iddyn nhw, yn unol â’r egwyddor gyffredinol. Cofiwch mai diben y cyfyngiadau parhaus yw atal y feirws rhag lledaenu, gan gynnwys i’r bobl sy’n bwysig inni.

Beth ydych chi’n ei olygu wrth ‘sail dosturiol’?

Efallai fod gennych resymau tosturiol dros ymweld â rhywun. Er enghraifft, efallai fod y person hwnnw'n cael trafferth gyda'r cyfyngiadau yn gyffredinol, yn dioddef o salwch corfforol neu feddyliol, wedi cael profedigaeth, neu eich bod yn pryderu am ei les yn gyffredinol.

Ymhlith y pethau eraill a allai gael eu caniatáu mae ymweld â phobl sy’n byw neu’n aros mewn cartref gofal, mewn lleoliad byw â chymorth, neu mewn cartref gofal plant neu sefydliad troseddwyr ifanc. Ym mhob achos, bydd rhaid i'r darparwr gwasanaeth gymryd camau diogelwch a chadw pellter priodol cyn caniatáu ymweliadau. Dylech gysylltu â nhw cyn ichi deithio yno.

A oes hawl cael picnic neu farbeciw gydag aelwyd estynedig arall?

Oes, os byddwch yn aros yn yr awyr agored. Dylech gadw pellter cymdeithasol a sicrhau nad ydych yn rhannu eitemau gydag aelodau’r aelwyd estynedig arall, er enghraifft platiau, cwpanau a phecynnau bwyd. Bydd unrhyw eitem sy’n cael ei throsglwyddo rhwng aelodau dwy aelwyd estynedig yn cynyddu’r risg o ledaenu’r feirws.

A oes angen cadw pellter corfforol o hyd?

Oes. Mae’n hanfodol cadw pellter cymdeithasol wrth gwrdd ag unrhyw un nad yw’n perthyn i’ch aelwyd (neu eich aelwyd estynedig), er mwyn atal y feirws rhag lledaenu.

A gaf i deithio i barciau, traethau, atyniadau i ymwelwyr a llecynnau hardd i gwrdd ag aelodau cartref arall?

Cewch, ond dylech ofalu eich bod yn cadw pellter corfforol ac yn dilyn arferion da o ran hylendid dwylo. Dylech hefyd geisio peidio â defnyddio toiledau a chyfleusterau eraill a rennir (os ydynt ar gael).

Mae rhai atyniadau a llecynnau hardd ar gau, a rhai meysydd parcio hefyd, felly chwiliwch am wybodaeth cyn teithio.

A ddylwn i wisgo gorchudd wyneb wrth gwrdd ag aelodau cartref arall?

Darllenwch ein cyngor ar orchuddion wyneb.

Rwy'n rhannu cyfrifoldeb rhieni am fy mhlentyn – a gaiff y plentyn ymweld â'r person arall?

Caiff. Cewch barhau â pha drefniadau bynnag sydd gennych eisoes os ydych yn rhannu cyfrifoldeb rhieni am eich plentyn gyda pherson arall. Ond, os oes gennych symptomau coronafeirws, os ydych yn hunanynysu am ryw reswm arall, neu’n gwarchod eich hun, dylech aros gartref ac ni ddylai plant ymweld â chi.

Ymweld â lleoedd

Gyda phwy y caf i fynd ar fy ngwyliau?

Ar hyn o bryd, cewch fynd ar wyliau gyda'r bobl yr ydych yn byw gyda nhw (aelodau o'ch aelwyd eich hun) neu aelodau o'ch aelwyd estynedig os ydych wedi cytuno i ffurfio un. Mae hyn yn helpu i leihau'r risg o drosglwyddo’r feirws. 

Bydd y trefniadau hyn yn cael eu hadolygu'n gyson.

Pa fath o lety sydd ar agor yng Nghymru erbyn hyn?

Mae gan lety hunangynhwysol hawl i agor, sef unrhyw lety lle nad oes gofyn i westeion rannu cyfleusterau ymolchi, toiledau na cheginau. Er enghraifft, bythynnod a charafannau gwyliau, gan gynnwys rhai carafannau teithio a chartrefi modur a lletyau glampio sydd â’u ceginau a’u hystafelloedd ymolchi eu hunain na fydd unrhyw westeion eraill yn eu defnyddio. 

Yn y categori hwn hefyd mae mathau eraill o lety â gwasanaethau, er enghraifft llety gwely a brecwast neu hostel sydd ag ystafelloedd en-suite ac sy’n gallu mynd â phrydau bwyd i’r ystafell. Bydd y mesurau cadw pellter cymdeithasol a chorfforol yn dal yn berthnasol, a bydd gofyn i ddarparwyr gymryd pob cam rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.

A fydd y bwyty a’r bar ar agor mewn llety hunangynhwysol?

Mae bariau, bwytai a chaffis yn cael agor yn yr awyr agored, a bydd darparwyr llety hefyd yn cael mynd â phrydau bwyd a diodydd i ystafell wely ymwelydd, gan ddilyn y mesurau cadw pellter cymdeithasol a chorfforol.

A gaf i fynd â fy ngharafán/cartref modur i faes carafannau?

Cewch, cyhyd ag y bo gan eich carafán/cartref modur ei gyflenwad dŵr ei hun ar gyfer cawod, defnyddio’r toiled a choginio. Bydd cyfleusterau sy’n cael eu rhannu, heblaw pwyntiau dŵr a gwastraff, ar gau. Mae hyn yn cynnwys toiledau, blociau cawodydd, cyfleusterau golchi dillad, clybiau nos, pyllau nofio a mannau chwarae i blant.

A gaf i fynd i wersylla?

Ddim eto. Mae’r Prif Weinidog wedi dweud wrth wersylloedd a busnesau eraill sydd â chyfleusterau sy’n cael eu rhannu, i baratoi i ailagor o 25 Gorffennaf os bydd yr amodau’n caniatáu hynny.

Pam mae rhai lleoliadau yn cael blaenoriaeth dros eraill?

Mae’r penderfyniadau wedi’u gwneud gan gadw nifer o ystyriaethau mewn cof – ac yn bwysicaf oll, iechyd a diogelwch pobl, ar sail y dystiolaeth wyddonol am risgiau trosglwyddo’r coronafeirws.

Gwyddom fod bod o dan do ac mewn cysylltiad agos ag eraill yn cynyddu’r risg o drosglwyddo’r feirws. Rydym wedi ystyried  y dystiolaeth sy’n dangos sut y mae pobl yn defnyddio lleoliadau, sut y bydd lleoliadau yn gallu rheoli diogelwch y cyhoedd, a’r hyn rydym yn ei wybod am fodelau busnes arferol i benderfynu pa fathau o leoliadau a ddylai ailagor yn gyntaf.

Byddwn yn parhau i gadw golwg ar effaith ailagor ar y lefelau trosglwyddo a byddwn yn parhau â’n dull gofalus, fesul cam.

Bwytai, caffis a thafarndai

Beth fydd y newidiadau wrth i fwytai, caffis, bariau a thafarndai agor yn yr awyr agored o ddydd Llun 13 Gorffennaf?

Rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r sector lletygarwch i lunio nifer o fesurau i helpu staff a chwsmeriaid pan fydd bariau, tafarndai a bwytai yn agor yn yr awyr agored o ddydd Llun 13 Gorffennaf.  

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Gosod uchafswm ar nifer y bobl sy’n cael bod mewn safle ar yr un pryd, ac am faint o amser y maent yn cael bod yno;
  • Bwyta ac yfed wrth y bwrdd yn unig, gan gadw’n gaeth at y gofynion cadw pellter cymdeithasol a chorfforol;
  • Cyflwyno canllawiau i sicrhau nad yw unrhyw strwythurau neu lochesau dros dro, fel pebyll mawr, yn effeithio ar natur ‘awyr agored’ llesol yr ardal, a bod o leiaf dair ochr yn agored a bod y gofynion cadw pellter cymdeithasol yn cael eu dilyn.

Bydd modd cael mynediad i doiledau o dan do, ond bydd gofyn cael trefn fwy cadarn ar gyfer eu glanhau.

Pryd y bydd bwytai, caffis a thafarndai yn agor o dan do?

Byddwn yn adolygu effaith a llwyddiant y broses o agor yn yr awyr agored dros yr wythnosau nesaf, ac wrth gynnal yr adolygiad 21 diwrnod nesaf o'r rheoliadau byddwn yn penderfynu a fydd busnesau lletygarwch yn cael ailagor o dan do o 3 Awst ymlaen – a hynny hefyd ar sail yr amodau a'r dystiolaeth ddiweddaraf.

Pa atyniadau fydd ar agor a pha rai fydd yn dal ar gau?

Mae atyniadau awyr agored wedi agor a bydd y rhan fwyaf o atyniadau o dan do yn cael agor o 13 Gorffennaf. Mae hyn yn cynnwys tai hanesyddol, canolfannau ymwelwyr ac atyniadau eraill o dan do. Bydd y gofynion cadw pellter cymdeithasol a chorfforol yn dal ar waith a bydd gofyn i atyniadau gymryd pob cam rhesymol i leihau lledaeniad y coronafeirws.

Mae'n rhaid i atyniadau dan ddaear aros ynghau am y tro oherwydd y risgiau sy'n gysylltiedig â'r amgylcheddau hyn. Rydym yn dal i weithio gyda'r atyniadau hyn i’w helpu i ailagor yn ddiogel.

Adloniant

Pryd y bydd sinemâu yn ailagor?

Caiff sinemâu awyr agored a sinemâu ‘gyrru i mewn’ ailagor o 13 Gorffennaf a bydd gan sinemâu o dan do hawl i ailagor o 27 Gorffennaf, os bydd yr amodau’n caniatáu hynny.

Mae sinemâu yn amrywio o sinemâu aml-sgrin mawr i ganolfannau celfyddydau cymysg a sinemâu bach annibynnol. Rydym yn cydnabod nad yw caniatáu i sinema ailagor yn golygu y bydd yn gwneud synnwyr yn fasnachol i bob sinema wneud hynny - penderfyniad i’r busnesau unigol fydd ailagor pan fydd yn briodol ac yn ddiogel i wneud hynny, gan ystyried gofynion y gyfraith a’r canllawiau sy’n cyd-fynd â hynny.

Pryd y bydd theatrau neu neuaddau cyngerdd yn ailagor?

Rydym wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer ailagor cyrchfannau diwylliant a threftadaeth fesul cam, sy’n cynnwys canllawiau ar gyfer ailagor theatrau a neuaddau cyngerdd.

Pryd y bydd amgueddfeydd, orielau a gwasanaethau archifau yn ailagor?

Rydym wedi awgrymu y bydd amgueddfeydd, orielau a gwasanaethau archifau yn cael ailagor o 27 Gorffennaf, cyhyd ag y bo’r amodau’n parhau i fod yn ffafriol. Mae canllawiau wedi’u datblygu gyda chyfraniad gan y sector, i helpu amgueddfeydd, orielau a gwasanaethau archifau i ddechrau cynllunio i ailagor.

Teithio a thrafnidiaeth gyhoeddus

A gaf i yrru i'r arfordir neu i gefn gwlad?

Cewch, er y gallai rhai atyniadau a llecynnau prydferth fod ar gau o hyd. Mewn rhai ardaloedd hefyd, mae’n bosibl y bydd cyfyngiadau ar barcio ceir neu y bydd ffyrdd wedi eu cau er mwyn rheoli nifer yr ymwelwyr. Rydym eich cynghori i chwilio am wybodaeth am yr ardal leol cyn teithio. Mae hefyd yn dal i fod yn synhwyrol osgoi ardaloedd y byddech yn disgwyl iddynt fod yn orlawn, neu osgoi ymweld â hwy ar adegau prysur.

A gaf i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus?

Cewch. Ond mae llai o wasanaethau trên ac mae llai o le ar lawer o fysiau er mwyn sicrhau y gall pobl barhau i gadw pellter cymdeithasol. Rydym yn argymell gwisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus. Dilynwch y canllawiau ar ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

A fydd disgyblion a gyrwyr yn gorfod gwisgo goruchudd wyneb ar gludiant ysgol?

Gweler ein cyngor ar orchuddion wyneb.

A gaf i rannu car neu roi lifft i rywun?

Mae'n well osgoi rhannu car gyda rhywun nad ydych yn byw gydag ef. Os ydych yn rhannu car, eisteddwch mor bell â phosibl oddi wrth eich gilydd yn y car a gadael y ffenestri’n agored. Dilynwch y canllawiau hyn ar deithio'n ddiogel.

A gaf i gymryd gwersi gyrru nawr?

Rydym am i bobl gael parhau â’u gwersi cyn gynted ag y bydd yn ddiogel iddynt wneud hynny, ac rydym yn cydweithio’n agos â’r Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA) i weld sut y gellir gwneud hynny.

Siopa a bwyd

Pa siopau sydd ar agor?

Caiff pob busnes manwerthu agor os ydynt yn gallu cydymffurfio â’r ddyletswydd i gadw pellter corfforol yng nghyfraith Cymru. Dylai pobl osgoi teithio’n ddiangen ac osgoi mannau prysur, yn enwedig o dan do.

A gaf i deithio mor bell ag y mynnaf i fynd i’r siopau?

Cewch, ond mae pobl yn dal i gael eu cynghori i osgoi teithio diangen ac osgoi mannau poblog, yn enwedig o dan do.

A gaf i fynd i siopa gyda fy ffrindiau?

Os ydych am gwrdd â phobl nad ydynt yn perthyn i’ch aelwyd neu’ch aelwyd estynedig, dim ond yn yr awyr agored a chan gadw pellter corfforol y cewch wneud hynny, gan fod y risg o drosglwyddo'r feirws yn llawer mwy o dan do.

Cewch siopa yn yr awyr agored, er enghraifft mewn marchnadoedd awyr agored, gyda phobl o'ch aelwyd neu’ch aelwyd estynedig (os ydych wedi ffurfio un), a/neu gydag un aelwyd arall.

Dylech siopa o dan do ar eich pen eich hun neu gydag aelodau o’ch aelwyd neu’ch aelwyd estynedig (os ydych chi wedi ffurfio un).

A gaf i fynd i’r siopau os ydw i’n gwarchod fy hun?

Nid ydym yn argymell y dylech fynd i siopa os ydych yn gwarchod eich hun.

Gwasanaethau cysylltiad agos

Mae siopau trin gwallt a siopau barbwr yn cael agor o ddydd Llun 13 Gorffennaf – ydy hyn yn ddiogel?

Bydd siopau trin gwallt a siopau barbwr yn cael ailagor yng Nghymru o 13 Gorffennaf, ar y sail eu bod yn cymryd pob cam rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r feirws.

Dyma enghreifftiau o rai o’r mesurau:

  • Gweithredu ar sail apwyntiad yn unig, sy’n golygu na chaiff neb ddod yno heb apwyntiad
  • Darparu gwasanaethau sy’n thorri a thrin gwallt y pen yn unig
  • Gwisgo cyfarpar diogelu personol, er enghraifft feisor.

A yw gweithwyr trin gwallt yn cael dod i’m cartref?  

Mae gweithwyr sy’n ymweld â chartrefi i drin gwallt yn cael ailddechrau gweithio o ddydd Llun Gorffennaf 13, o dan yr un amodau â siopau trin gwallt a siopau barbwr.

Maen nhw wedi cael eu cynghori i gysylltu â’r cwsmer cyn cyrraedd y cartref, i drafod y camau y mae angen eu cymryd i ddarparu’r gwasanaethau yn ddiogel.  

Wrth drin gwallt rhywun yn ei gartref, mae’n bosibl na fydd modd cadw pellter o 2m bob amser. Felly, mae gweithwyr sy’n mynd i gartrefi pobl i drin eu gwallt yn cael eu cynghori i wisgo feisor i’w diogelu.

A gaf i fynd i’r siop trin gwallt gyda fy ffrindiau?

Rydym yn cynghori cwsmeriaid i fynd i’w hapwyntiad ar eu pen eu hunain os oes modd, i sicrhau bod y rheolau pellter cymdeithasol yn cael eu dilyn.

Mae ein cyngor i siopau trin gwallt a siopau barbwr yn awgrymu’n gryf y dylent, wrth drefnu apwyntiad, ofyn i bobl ddod ar eu pen eu hunain.

Pryd y bydd salonau harddwch yn ailagor?

Rydym yn gofyn i’r gwasanaethau cysylltiad? Agos hyn, gan gynnwys salonau harddwch, baratoi i ailagor o 27 Gorffennaf. Bydd y penderfyniad terfynol i ailagor y sectorau hyn yn dibynnu ar yr amodau diweddaraf, ac ar adborth gan y sector trin gwallt, yn ogystal â’r cyngor gwyddonol a meddygol diweddaraf.

Os yw fy siop trin gwallt ar agor, a gaiff hefyd ddarparu gwasanaethau eraill fel trin fy ewinedd?

Ddim eto. Dim ond gwasanaethau sy’n gysylltiedig â thorri neu drin y gwallt y pen y bydd salonau trin gwallt yn cael eu darparu.

A gaf i ddefnyddio gwasanaethau tylino, acwbigo neu electrolysis?

Ddim eto. Rydym yn gofyn i bob gwasanaeth arall sy’n dod i gysylltiad agos â phobl, gan gynnwys tylino, aciwbigo ac electrolysis, baratoi i agor ar 27 Gorffennaf. Bydd y penderfyniad terfynol ynghylch ailagor y sectorau hyn yn dibynnu ar yr amodau diweddaraf ac ar adborth gan y sector trin gwallt, yn ogystal â'r cyngor gwyddonol a meddygol diweddaraf.

A gaiff safleoedd sba agor?

Ddim eto. Pan fydd y mathau o wasanaethau a ddarperir mewn sba yn cael eu caniatáu, rydym yn disgwyl iddynt gael ailagor er mwyn darparu’r gwasanaethau hynny. Mater i’r busnesau unigol fydd penderfynu pryd i ailagor. 

Pryd y bydd gwasanaethau tatŵio / tyllu’r corff yn cael agor?

Ddim eto. Rydym yn gofyn i bob gwasanaeth arall sy’n dod i gysylltiad agos â phobl agor ar 27 Gorffennaf. Bydd y penderfyniad terfynol am ailagor y sectorau hyn yn dibynnu ar yr amodau diweddaraf ac ar adborth gan y sector trin gwallt, yn ogystal â'r cyngor gwyddonol a meddygol diweddaraf.

Chwaraeon a gweithgareddau awyr agored

Pa gyfleusterau chwaraeon a hamdden sydd ar agor bellach?

Mae pob cyfleuster chwaraeon a hamdden awyr agored, heblaw meysydd chwarae a champfeydd awyr agored, yn cael agor. Disgwylir i weithredwyr y cyfleusterau gymryd pob cam angenrheidiol i reoli risgiau a sicrhau y cedwir pellter corfforol. Dim ond gydag aelodau o’ch aelwyd eich hun (neu’ch aelwyd estynedig) ac aelodau o un aelwyd neu aelwyd estynedig arall y byddwch yn gallu cymryd rhan yn y gweithgareddau hyn, heblaw eich bod yn cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi’i drefnu.

Pryd y bydd meysydd chwarae’n cael agor?

Bydd meysydd chwarae’n cael ailagor o 20 Gorffennaf. Mae’n bosibl y bydd angen mwy o amser ar rai perchenogion a gweithredwyr i baratoi ar gyfer ailagor yn ddiogel. Mater i’r rhai sy’n gyfrifol am y mannau hyn fydd penderfynu a yw’n ddiogel iddynt agor, ac mae’n bosibl y byddant yn penderfynu eu cadw ynghau am y tro. 

Sut y bydd meysydd chwarae’n cael eu cadw’n ddiogel?

Bydd gofyn i bob perchennog neu weithredwr gymryd pob cam rhesymol i leihau lledaeniad y coronafeirws. Byddwn yn darparu canllawiau a fydd yn gofyn i berchenogion a gweithredwyr gynnal asesiad risg a chyflwyno camau ymarferol i leihau’r risg o drosglwyddo’r coronafeirws. Bydd angen i bob perchennog neu weithredwr roi’r canllawiau hynny ar waith ar gyfer y cyfleusterau y maent yn gyfrifol amdanynt, gan ddibynnu ar yr amgylchiadau ac ar sut y mae’r cyfleusterau hynny wedi’u gosod a’u cynllunio. Bydd angen ystyried maint y maes chwarae a’r math o gyfarpar sydd yno a sut y mae’n cael ei drefnu, ei redeg a’i reoli.

Does dim modd dileu risg yn llwyr. Er hynny, mae chwarae yn yr awyr agored o fudd mawr i blant ac mae ailagor parciau’n helpu plant gyda’u hiechyd meddwl, eu hiechyd corfforol a’u lles. Mae llai o risg o drosglwyddo coronafeirws mewn amgylcheddau awyr agored.

Bydd rhieni a gwarcheidwaid yn cael eu hannog i ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros gadw pellter cymdeithasol ac arferion da o ran hylendid, er enghraifft drwy annog y plant i olchi neu ddiheintio’u dwylo, i beidio â bwyta nac yfed mewn parciau, i lanhau cyfarpar â’u clytiau glanhau eu hunain, ac i sicrhau mai dim ond niferoedd bach fydd yn y parciau ac yn defnyddio’r cyfarpar ar yr un pryd, gan wneud hynny drwy ddefnyddio’r cyfarpar yn eu tro a mynd i’r parciau ar adegau llai prysur.    

A oes rhaid i blant barhau i gadw pellter cymdeithasol mewn meysydd chwarae?

Bydd rhieni, gwarcheidwaid a phlant hŷn yn cael eu hannog i gadw pellter cymdeithasol. Bydd cadw pellter cymdeithasol yn anodd i blant ifanc ac i blant â chyflyrau penodol, a dylai rhieni eu hannog i wneud hynny i’r graddau mwyaf posibl, heb beri gorbryder i’r plant. Caiff parciau awgrymu terfynau uchaf o ran y niferoedd a gaiff eu defnyddio ac o ran am ba hyd y caiff plant chwarae er mwyn helpu i leihau cysylltiad ag eraill a’i gwneud yn haws i blant gadw pellter cymdeithasol.

Bydd rhieni a gwarcheidwaid yn cael eu hannog i ystyried pa mor brysur yw parc cyn ymweld ag ef, a hefyd i ddefnyddio’u crebwyll ynghylch a yw’n ymarferol cadw pellter cymdeithasol ar yr adegau hynny. 

Pryd y bydd canolfannau chwarae o dan do i blant yn ailagor?

Mae canolfannau chwarae yn bwysig i les plant. Fodd bynnag, mewn canolfannau o’r fath mae llawer o ffactorau sy’n golygu bod risg fawr o ledaenu’r feirws. Er enghraifft, mae nifer fawr o bobl yn cyffwrdd yr un arwynebau ac mae’n anodd cadw pellter cymdeithasol. Hefyd, os oes sŵn mawr yno, mae’n bosibl y bydd pobl yn gweiddi i gael eu clywed, ac fe wyddom fod hynny’n cynyddu’r risg o ledaenu’r feirws.

Byddwn yn trafod gyda gweithredwyr y canolfannau hyn i weld pa reolaethau y gellir eu rhoi ar waith i’w galluogi i ailagor, ond nid oes gennym ddyddiad ar gyfer.

Pam nad yw rhai cyfleusterau o dan do ac yn yr awyr agored yn cael agor o hyd?

Rydym yn dysgu mwy am y feirws bob dydd ac rydym yn gwybod bod y risg o’i drosglwyddo yn is yn yr awyr agored nag o dan do, Fodd bynnag, nid yw llai o risg yn golygu dim risg. Hyd yn oed yn yr amgylchiadau hyn, mae’n hanfodol ein bod i gyd yn cadw pellter corfforol er mwyn parhau i atal y feirws rhag lledaenu. 

Mae mwy o risg trosglwyddo mewn rhai cyfleusterau awyr agored pan fo arwynebau neu offer yn cael eu rhannu rhwng pobl, er enghraifft meysydd chwarae a champfeydd awyr agored. 

Gyda phwy y caf i wneud chwaraeon neu ymarfer corff?

Rhaid ichi wneud chwaraeon neu ymarfer corff ar eich pen eich hun, gydag aelodau o’ch aelwyd neu eich aelwyd estynedig (os ydych wedi ffurfio un) a/neu gydag aelodau o un aelwyd neu aelwyd estynedig arall.  

A oes hawl i gynnal dosbarthiadau chwaraeon awyr agored?

Oes, ond ni chaiff mwy na dwy aelwyd neu aelwyd estynedig gymryd rhan yr un pryd, a rhaid sicrhau y cedwir pellter cymdeithasol bob amser.  

Pryd y bydd campfeydd awyr agored yn cael ailagor?

Bydd campfeydd awyr agored yn cael ailagor o 20 Gorffennaf ymlaen ond mae’n bosibl y bydd angen mwy o amser ar rai perchenogion a gweithredwyr i baratoi i ar gyfer ailagor yn ddiogel. Mater i’r gweithredwyr fydd penderfynu a ydynt o’r farn ei bod yn ddiogel iddynt agor ac mae’n bosibl y byddant yn penderfynu cadw’r mannau hyn ynghau am y tro. 

Sut y bydd campfeydd awyr agored yn cael eu cadw’n ddiogel?

Y perchennog neu’r gweithredwr fydd yn gyfrifol am sicrhau bod y cyfleusterau’n cael eu defnyddio mewn ffordd ddiogel a chyfrifol. Mae egwyddorion ar sut i baratoi ar gyfer ailgydio mewn hyfforddiant ac ailddechrau chwarae, ac ar sut i reoli cyfleusterau yn ddiogel, i’w gweld yn ein canllawiau ar gyfer chwaraeon, clybiau a chyfleusterau. Bydd y rheini’n helpu perchenogion a gweithredwyr i benderfynu pryd y bydd yn ddiogel ac yn ymarferol iddynt agor eu campfa awyr agored.

Pryd y bydd campfeydd o dan do, canolfannau hamdden a phyllau nofio’n ailagor?

Cyn yr adolygiad nesaf o’r rheoliadau ar 30 Gorffennaf, byddwn yn cynnal trafodaethau manwl gydag awdurdodau lleol a gweithredwyr eraill er mwyn deall sut y gall campfeydd o dan do, canolfannau hamdden, stiwdios ffitrwydd a phyllau nofio gyflwyno camau a fydd yn caniatáu iddynt agor yn ddiogel.

Beth ydych chi’n ei olygu wrth sôn am weithgareddau grŵp wedi’u trefnu?

O ddydd Llun 13 Gorffennaf mae modd cynnal gweithgareddau awyr agored, gan gynnwys chwaraeon tîm a dosbarthiadau chwaraeon i hyd at 30 o bobl.

Rhaid i’r gweithgaredd fod yn yr awyr agored ac wedi’i drefnu gan fusnes, corff cyhoeddus, mudiad elusennol neu glwb, neu gan gorff llywodraethu’r gamp neu’r gweithgaredd.

Dylai’r sawl sy'n trefnu'r gweithgaredd fod wedi cynnal asesiad risg priodol.

A gaf i drefnu gweithgareddau grŵp fy hun?  

Mae angen i'r gweithgaredd gael ei drefnu gan fusnes, corff cyhoeddus neu sefydliad elusennol, clwb, neu gorff llywodraethu cenedlaethol y gamp neu’r gweithgaredd.  

Beth yw'r rheolau ynglŷn â mynd allan ar fy nghwch?

Cewch deithio y tu hwnt i'ch ardal leol ar eich cwch, ac nid oes cyfyngiadau erbyn hyn ar ble y cewch ddocio. Caniateir hefyd i chi ac aelodau o'ch aelwyd neu’ch aelwyd estynedig aros dros nos ar eich cwch. Dim ond gyda chriwiau o bobl o’r un aelwyd neu aelwyd estynedig y dylid gwneud y gweithgareddau.

Rydym yn cynghori pobl sy'n defnyddio cychod i fod yn ystyrlon o'r effaith y gallent ei chael ar bobl eraill sy'n defnyddio'r dŵr, ac i beidio â rhoi pwysau diangen ar yr RNLI, gwylwyr y glannau a'r gwasanaethau brys. 

Symud tŷ

A gaf i symud tŷ?

Cewch. Rydym yn argymell y dylai’r tŷ gael ei lanhau’n drylwyr cyn ichi symud yno os nad yw wedi bod yn wag am o leiaf dri diwrnod cyn hynny. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y canllawiau ar symud tŷ yn ystod y pandemig.

A gaf i fynd i weld tŷ?

Cewch fynd i weld tŷ os yw’n wag ers tri diwrnod neu os yw wedi’i lanhau’n drylwyr. Mae’n bwysig nad oes aelodau o fwy nag un aelwyd i mewn yn y tŷ yr un pryd, gan fod hyn yn cynyddu’r risg o drosglwyddo’r coronafeirws. Rhaid ichi gadw pellter cymdeithasol a dilyn arferion hylendid dwylo da bob amser.

Caiff asiantau gosod, gwerthwyr tai a landlordiaid ddal i ddangos eiddo i bobl drwy ddulliau rhithwir.

Pryd y byddwch yn caniatáu i bobl fynd i weld tai unwaith eto?  

Rydym yn cynnal trafodaethau manwl am agor y farchnad dai, ac rydym yn gobeithio gallu gwneud hynny o 27 Gorffennaf ymlaen.

A gaf i drefnu i gynnal arolwg morgais yn fy eiddo nawr?

Cewch. Mae gwerthwyr tai, syrfewyr a gweithwyr symud dodrefn yn cael mynd i dai. Mae angen iddynt ddilyn y canllawiau ar gadw pellter cymdeithasol a chorfforol yn y gweithle.

Mannau addoli, priodasau a phartneriaethau sifil, mynwentydd ac angladdau

Beth yw’r rheolau newydd ar gyfer gwasanaethau crefyddol?

Caiff addoldai agor ar gyfer addoli cymunedol, ond mae dyletswydd ar y rhai sy'n gyfrifol am y man addoli i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws ac i roi gwybod i’r bobl sy'n bresennol sut y gallant leihau'r risg. Gellir cynnal seremonïau hefyd, naill ai fel rhan o addoliad cymunedol neu fel digwyddiadau ar wahân. Bydd disgwyl i bobl gadw pellter cymdeithasol a chorfforol a dilyn arferion da o ran hylendid dwylo a hylendid anadlol. 

A gaf i drefnu priodas neu bartneriaeth sifil nawr?

Cewch, mae addoldai a swyddfeydd cofrestru yn agored i weinyddu priodas neu i ffurfio partneriaeth sifil cyn belled ag y dilynir y canllawiau ar gadw pellter cymdeithasol. Fodd bynnag, nid yw hyn yn cynnwys dathlu'r achlysur drwy gynnal gwledd briodas neu ymgynnull yn gymdeithasol mewn ffordd arall gyda theulu a ffrindiau.

Mae aelod agos o'r teulu wedi marw ac mae angen i mi drefnu'r angladd – beth ddylwn i ei wneud?

Gall angladdau fod yn brofiad gofidus, ac mae effaith y coronafeirws yn ei gwneud yn anoddach fyth i wneud trefniadau ymarferol. Cyhoeddwyd canllawiau ar angladdau i awdurdodau lleol.

A gaf i fynd i angladd?

Cewch, ond mae'n rhaid ichi gael gwahoddiad. Mae'r niferoedd wedi'u cyfyngu oherwydd yr angen i gadw pellter cymdeithasol.

A gaf i fynd i fynwent i ymweld â bedd aelod o'r teulu?

Cewch. Ond dylech sicrhau eich bod yn dilyn y canllawiau ar gadw pellter corfforol wrth wneud hynny.

Y gofynion ar fusnesau a pherchnogion safleoedd

Mae’r gofynion i fusnesau gadw pellter o 2 fetrau rhwng pobl wedi cael eu newid – beth mae hynny’n ei olygu?

Rhaid i fusnesau, a phob adeilad a safle arall sydd ar agor i’r cyhoedd, barhau i gymryd pob cam rhesymol i gadw pellter o 2 fetrau mewn safle, neu wrth aros i fynd i mewn i safle, heblaw’r rhai sy’n perthyn i’r un aelwyd neu aelwyd estynedig.

Fodd bynnag, wrth i fwy o fathau o fusnesau a safleoedd ailagor, rydym wedi cyflwyno gofynion ychwanegol y mae'n rhaid i fusnesau eu dilyn er mwyn lleihau'r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.

Mae'r rhain yn cynnwys cadw at safonau hylendid ac osgoi ymwneud yn agos â phobl, wyneb yn wyneb, os oes modd. Rydym hefyd wedi cyflwyno dyletswydd i ddarparu gwybodaeth i'r rhai sy’n mynd i mewn i safleoedd neu sy’n gweithio ynddynt ynglŷn â’r camau i’w cymryd osgoi dod i gysylltiad â’r feirws.  

Mae angen cadw at y dyletswyddau hyn, boed yn bosibl cymryd camau rhesymol i sicrhau pellter o 2 fetrau rhwng pobl ai peidio. 

Os nad yw'n rhesymol cadw pellter o 2 fetrau, bydd rhaid i unrhyw un y mae’r ddyletswydd yn berthnasol iddo gymryd camau eraill i leihau'r risg. Gallai hynny gynnwys gosod rhwystrau corfforol neu aildrefnu cynllun yr ystafell neu’r dodrefn er mwyn lleihau cysylltiad agos wyneb yn wyneb. Mae rhagor o ganllawiau yma ar y mesurau y dylid eu cymryd.

A ydych yn dal i ddweud wrth y cyhoedd am gadw pellter o 2 fetrau rhyngddynt a phobl eraill heblaw aelodau eu haelwydydd?

Ydym – pryd bynnag y bo modd, rydym yn argymell bod pobl yn dal i gadw pellter o 2 fetrau rhyngddyn nhw ac unrhyw un nad yw’n rhan o’u haelwyd (neu eu haelwyd estynedig, os ydych wedi ffurfio un) ac i gymryd camau i sicrhau bod cyn lleied â phosibl o amgylchiadau lle nad yw hynny’n bosibl.

Gorfodi a dirwyon

Pwy sy'n gorfodi'r cyfyngiadau?

Caiff y cyfyngiadau eu gorfodi gan swyddogion iechyd yr amgylchedd awdurdodau lleol a'r heddlu.

Beth gaiff swyddogion gorfodi ei wneud?

Cânt gyhoeddi hysbysiadau cosb benodedig neu argymell erlyn mewn llys ynadon. Yn ogystal, mae ganddynt bwerau eang i gymryd camau ymarferol i wasgaru cynulliadau, ei gwneud yn ofynnol i bobl fynd adref a chael mynediad i eiddo.

Beth fydd yr heddlu yn ei wneud?

Bydd yr heddlu yng Nghymru yn ymgysylltu â phobl, yn esbonio beth sydd angen iddynt ei wneud ac yn eu hannog i gydymffurfio. Ond rhoddwyd pwerau i'n heddluoedd a byddant yn eu defnyddio – caiff y cyfyngiadau eu gorfodi os na fydd pobl yn ymateb.

Beth yw'r cosbau ariannol?

Mae rheoliadau'r coronafeirws yn cynnwys darpariaethau ar gyfer cyhoeddi hysbysiad cosb benodedig os bydd unigolion yn torri'r rheoliadau, gan gynnwys dirwy o £60; bydd hyn yn codi i £120 am ail drosedd ac yn parhau i ddyblu ar gyfer troseddau dilynol, hyd at uchafswm o £1,920. Fodd bynnag, os caiff yr unigolyn ei erlyn, caiff llys orfodi unrhyw ddirwy (nid oes uchafswm).

Rydym yn gobeithio y bydd pobl yn deall difrifoldeb y sefyllfa rydym yn ei hwynebu ac y byddant yn cydymffurfio â'r rheoliadau, heb orfod eu cosbi.

A gaiff lefel y dirwyon ei chynyddu yng Nghymru?

Rydym wedi cynyddu dirwyon ar gyfer troseddau dilynol, ac yn adolygu’r dirwyon yn barhaus. Os bydd yr heddlu o'r farn bod angen dirwyon uwch, caiff hyn ei ystyried.

Rhannu’r dudalen hon