Daeth yr ymgynghoriad i ben 3 Hydref 2016.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 370 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym am gael eich barn ar reoliadau drafft a chanllawiau statudol ynghylch y cynlluniau ardal sy’n ofynnol o dan adran 14A o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae Deddf 2014 yn ei gwneud hi’n ofynnol i awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol ddatblygu cynlluniau ardal sy’n pennu’r amrywiaeth a’r lefel o wasanaethau y byddan nhw’n eu darparu yn dilyn cynnal asesiad o’r anghenion gofal a chymorth o fewn eu hardaloedd.
Rydym yn ymgynghori ar reoliadau drafft a chanllawiau statudol ynghylch cynlluniau ardal.