Neidio i'r prif gynnwy

Adran 1. Pa gamau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham?

Y cefndir

Mae Pwysau Iach: Cymru Iach yn egluro ein strategaeth a'n gweledigaeth 10 mlynedd i atal a lleihau gordewdra ledled Cymru. Yn 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar Amgylchedd Bwyd Iach a oedd yn ymdrin ag amrywiaeth o fesurau sy'n cael eu hystyried o dan y strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach. Mae'r asesiad effaith isod yn ymwneud â Rheoliadau Bwyd (Hyrwyddo a Chyflwyno) (Cymru) 2025, sy'n bwrw ymlaen â thri o'r cynigion yr ymgynghorwyd arnynt yn 2022. Nod y rheoliadau hyn yw annog y diwydiant bwyd i gynhyrchu a hyrwyddo cynhyrchion iachach ac, wrth wneud hynny, ei gwneud yn haws i ddefnyddwyr wneud dewisiadau iachach.

Mae'r data'n dangos: 

Mae'n amlwg bod angen gweithredu. Fodd bynnag, mae atal gordewdra yn her gymhleth, ac mae llawer o ffactorau'n cyfrannu ar lefelau unigol, cymunedol, cymdeithasol a byd-eang.

Yr amgylchedd bwyd

Mae ein hamgylchedd bwyd wedi datblygu mewn ffordd sy'n rhoi blaenoriaeth i gyfleustra dros iechyd. Mae hyn yn cynnwys canolbwyntio ar fwydydd hawdd a chyflym, sy'n aml yn rhoi llawer o egni ac yn cynnwys llawer o fraster a siwgr, ac sy'n fwy fforddiadwy weithiau.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae camau wedi'u cymryd i annog y diwydiant i sicrhau bod y bwyd y mae'n ei werthu yn iachach ac yn cynnwys llai o galorïau (drwy raglenni lleihau calorïau, siwgr a halen Llywodraeth y DU) a labelu cynhyrchion i helpu pobl i wneud dewisiadau mwy gwybodus ac iachach (er enghraifft, drwy labelu maeth ar flaen pecynnau). Mae'r cam gweithredu hwn wedi'i gyflwyno ledled y DU yn wirfoddol. Er bod y diwydiant bwyd wedi gwneud rhywfaint o gynnydd o safbwynt ailfformiwleiddio cynhyrchion a darparu opsiynau iachach o ganlyniad, nid yw'r gwaith hwn wedi'i wneud na'i gynnal yn gyson. Ac eithrio labelu maeth ar flaen pecynnau lle mae nifer defnyddwyr yn uchel (ar tua dau draean o fwydydd wedi'u rhagbecynnu), nid yw dulliau gwirfoddol yn y maes hwn wedi cyflawni'r newid angenrheidiol. Er enghraifft, dim ond 52% o'r holl dargedau cyfartalog a nodwyd yn rhaglen lleihau halen 2014 i 2017 y llwyddodd cynhyrchwyr a manwerthwyr i’w cyrraedd.

Mae llawer o resymau pam nad yw camau gweithredu gwirfoddol yn llwyddo bob amser nac yn sicrhau'r newid sydd ei angen. Un o’r prif resymau yw bod diffyg cysondeb wrth roi'r camau ar waith yn arwain at sefyllfa anghyfartal. Mae Rheoliadau Bwyd (Hyrwyddo a Chyflwyno) (Cymru) 2025 wedi'u cynllunio i adeiladu ar gamau gweithredu gwirfoddol, sicrhau cysondeb, rhoi eglurder a helpu i ddarparu amgylchedd siopa iachach i'r defnyddiwr. Bydd y rheoliadau hefyd yn helpu i gadw'r sefyllfa yn gyfartal ar gyfer y diwydiant bwyd, gan sicrhau nad yw'r rhai sy'n gwneud ymdrech i gynyddu argaeledd a hyrwyddo opsiynau iachach o dan anfantais o'i gymharu â’r rhai nad ydynt yn gwneud ymdrech o'r fath.

Basgedi siopa iachach

Yn benodol, mae strategaethau marchnata a hyrwyddo mewn siopau yn effeithiol iawn o ran dylanwadu ar ddewisiadau prynu bwyd. Mae 40% o'r bwyd a diod sy'n cael eu prynu mewn siopau yn y DU yn cael eu gwerthu fel rhan o hyrwyddiad, a'r ganran hon yw'r uchaf yn Ewrop. Wrth edrych ar y ffigurau diweddaraf cyn coronafeirws (COVID-19) ar gyfer Cymru[troednodyn 1], ymddengys bod tactegau hyrwyddo yn fwyaf cyffredin ar gyfer cynhyrchion sy'n cynnwys llawer o fraster, siwgr neu halen, er enghraifft bisgedi (33.9%) a melysion (36.1%).

Mae hyrwyddiadau mor effeithiol fel bod manwerthwyr yn dewis gwerthu rhai cynhyrchion sy'n cael eu prynu’n rheolaidd (a elwir yn eitemau gwerth allweddol) am golled er mwyn ein denu i'w siopau. Drwy wneud hyn, maent yn gobeithio y byddwn yn gwneud ein siopa bwyd wythnosol neu fisol yno gan gynyddu eu cyfran o'r farchnad siopa bwyd.

Er bod hyrwyddiadau yn gallu rhoi'r argraff eu bod yn arbed arian i ddefnyddwyr, mae data'n dangos eu bod yn gallu cynyddu gwariant defnyddwyr tua 20% mewn gwirionedd. Mae'r cynhyrchion hyn yn annog pobl i brynu mwy nag yr oeddent wedi bwriadu ei brynu yn y lle cyntaf. Hefyd, mae gwaith ymchwil yn dangos bod hyd at 83% o'r eitemau sy'n cael eu prynu fel rhan o hyrwyddiad pris yn enghreifftiau o brynu byrbwyll, gyda dim ond 17% wedi'u cynllunio.[troednodyn 2] Er enghraifft, mae tua hanner yr eitemau siocled sy'n cael eu prynu yn cael eu gwerthu fel rhan o hyrwyddiad. Yn y bôn, mae'r hyrwyddiadau amleitem hyn yn arwain at wariant ychwanegol o £75 yr aelwyd y flwyddyn.[troednodyn 3] Mae hyn, yn ei dro, yn cael ei wrthbwyso gan £61 o brynu nad yw'n gynyddrannol, felly cyfanswm effaith hyrwyddiadau amleitem yw gwariant ychwanegol cyffredinol o £14. Mae gorfwyta'r cynhyrchion hyn yn sbarduno'r tebygolrwydd cynyddol o glefydau sy'n gysylltiedig â gordewdra yn ddiweddarach mewn bywyd. 

Er y gall pobl brynu eitemau sy'n cael eu hyrwyddo ar y rhagdybiaeth y bydd y swm ychwanegol a brynir yn cael ei wrthbwyso gan lai o bryniannau yn ddiweddarach (gydag arbedion cost yn yr hirdymor), nid yw hyn yn ystyried y penderfyniad isymwybodol i fwyta mwy pan fydd mwy ar gael. Gall hyn arwain at gynnydd mewn amlder a lefelau bwyta a allai arwain at fwyta gormod o galorïau.[troednodyn 4] Ar ben hynny, wrth gymharu cartrefi â phentwr mawr o fwyd a chartrefi heb bentwr o'r fath, canfyddir bod cartrefi â phentwr mawr yn bwyta llawer mwy yn ystod yr wythnos gyntaf ar ôl prynu'r pentwr na chartrefi heb bentwr o'r fath. Pan gaiff y gwahaniaeth cymharol yn y swm sydd ar gael o fewn cartrefi ei ostwng, mae'r gwahaniaeth hwn yn y lefelau bwyta rhwng cartrefi yn diflannu. Credir bod y lefelau bwyta cynyddol hyn yn digwydd oherwydd bod pentyrrau mawr o fwyd yn fwy gweledol, yn enwedig oherwydd eu bod yn aml yn cael eu storio mewn lleoliadau gweladwy yn y cartref. 

Gall hyrwyddiadau pris ar gynhyrchion â lefelau uchel o fraster, siwgr a halen arwain at orfwyta nwyddau sy'n gysylltiedig â thueddiad uwch i brynu yn fyrbwyll[troednodyn 5], a chyfrannu'n sylweddol at fagu pwysau.[troednodyn 6] Mae defnyddwyr Cymru yn cydnabod dylanwad hyrwyddiadau o'r fath ar eu harferion prynu, ac yn ôl arolwg barn Ymchwil Canser roedd 86% o'r ymatebwyr yn credu bod bargeinion sy'n cynnig bwyd ychwanegol yn cael effaith ar faint o fwyd nad yw'n iach y maent yn ei brynu. Yn ôl arolwg 2016 y cylchgrawn Which?,[troednodyn 7] y prif beth roedd defnyddwyr am i fanwerthwyr ei wneud oedd cynnwys mwy o fwydydd iach mewn hyrwyddiadau.

Gall lleoliad cynhyrchion ddylanwadu'n fawr ar ein dewisiadau bwyd hefyd. Canfu astudiaeth yn 2018 gan y Gynghrair Gordewdra fod 43% o'r holl gynhyrchion bwyd a diod a leolir mewn mannau amlwg, megis arddangosfeydd wrth fynedfeydd siopau, mannau talu, pen draw'r eil, neu unedau arddangos annibynnol yn gwerthu bwydydd a diodydd llawn siwgr.[troednodiadu 8] Defnyddir y math hwn o farchnata yn eang yn y DU i hyrwyddo bwydydd â lefelau uchel o fraster, halen a siwgr, ac mae'n cael dylanwad mawr iawn ar blant a phobl ifanc.[troednodyn 9] Mae’n annog pobl i brynu yn fyrbwyll, sy'n gyfrifol am rhwng 45% a 70% o'r holl fwyd sy'n cael ei brynu, ac 80% o'r hyn a brynir mewn rhai categorïau.[troednodyn 10]

Hefyd, nododd astudiaeth y Gynghrair Gordewdra fod gan rai archfarchnadoedd gyfran uwch o fwyd a ddiodydd llawn siwgr yn y mannau talu nag eraill, yn amrywio o 30% mewn un archfarchnad fawr i 73% mewn archfarchnad arall, a bod llai nag 1% o'r cynhyrchion bwyd a diod a oedd yn cael eu hyrwyddo mewn mannau proffil uchel yn ffrwythau neu lysiau. Mae'r dystiolaeth hefyd yn awgrymu bod gosod cynhyrchion mewn lle amlwg yn cynyddu'r tebygolrwydd y bydd pobl yn eu prynu yn annibynnol ar unrhyw ostyngiadau mewn prisiau, gan ddangos bod gosod cynnyrch mewn lle amlwg yn golygu bod pobl yn rhagdybio'n anghywir eu bod yn cael gwell gwerth am arian. Mae cynhyrchwyr bwyd yn talu premiwm i osod eu cynnyrch yn y mannau hyn am y rheswm hwn.

Bwyta'n iachach y tu allan i'n cartrefi

Mae ail-lenwi diodydd llawn siwgr am ddim yn nodwedd o rai bwytai a thafarndai cadwyn. Fel arfer, mae'r diodydd hyn yn cael eu prisio i ymddangos fel opsiwn sy'n cynnig gwerth da am arian o'i gymharu â phrynu un eitem, megis potel o ddiod feddal, gan annog pobl i'w prynu. Hefyd, mae'n bosibl y bydd y cyfle i nôl eu diodydd eu hunain, ynghyd â'r dewis o 26 o fathau a blasau, yn apelio at blant. Yn 2015, cyhoeddodd y Pwyllgor Cynghori Gwyddonol ar Faetheg (SACN) adroddiad ar garbohydradau ac iechyd, a oedd yn argymell y dylid haneru faint o siwgr y mae pobl yn ei fwyta fel rhan o'u cyfanswm calorïau dyddiol o 10% i 5%, a lleihau faint o ddiodydd melys llawn siwgr sy'n cael eu hyfed. Nododd yr adroddiad fod yfed diodydd llawn siwgr yn arwain at gynnydd mewn pwysau nad yw'n iach ymysg plant a phobl ifanc, ac mae'n gysylltiedig â risg uwch o bydredd dannedd, gyda 28% o blant yn dioddef o bydredd dannedd erbyn iddynt droi'n bump oed. Ymysg oedolion, mae gormod o siwgr yn arwain at fwyta gormod o galorïau, cynnydd mewn pwysau a gordewdra.

Dangosodd ffigurau o'r arolwg deiet a maeth cenedlaethol, fel y cyfeiriwyd atynt yn adroddiad SACN, mai diodydd llawn siwgr sy'n cyfrannu yn fwy na dim (30%) at y siwgr sy'n cael ei fwyta gan blant 4 i 10 oed. O'i gymharu â'r argymhelliad newydd gan SACN, roedd plant a phobl ifanc yn bwyta ac yn yfed tua 3 gwaith yn fwy o siwgr na'r hyn a argymhellir, ac roedd llawer ohono'n dod o ddiodydd siwgr uchel. Nid yw'r calorïau sy'n cael eu hyfed o ddiodydd wedi'u melysu â siwgr yn cynnwys llawer o werth maethol. Mae'r diodydd hefyd yn cynnwys lefelau uchel o siwgrau rhydd,[troednodyn 11] ac yn tueddu i beidio â bodloni teimladau llwglyd o'i gymharu â bwyd solet. O ganlyniad, gall cyfanswm y diodydd sydd wedi'u melysu â siwgr sy'n cael eu hyfed gynyddu tra gall cyfanswm y bwyd sy'n cael ei fwyta ac sy'n cynnwys mwy o galorïau maethol leihau, gan arwain at fagu pwysau a gordewdra cynyddol dros amser.

Beth mae Rheoliadau Bwyd (Hyrwyddo a Chyflwyno) (Cymru) 2025 yn ei gynnwys?

Mae'r rheoliadau yn cyfyngu yng Nghymru ar bob hyrwyddiad yn y mannau gorau ac ar sail swmp ar gyfer bwydydd penodedig sy'n cynnwys lefelau uchel o fraster, halen a siwgr gan fanwerthwyr bwyd a diod mawr i ganolig. Bydd ail-lenwi diodydd llawn siwgr am ddim yn cael ei gyfyngu hefyd.

Cyflawni yn erbyn amcanion y rhaglen lywodraethu a'r amcanion llesiant

Datblygwyd y rheoliadau hyn fel rhan o strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach Llywodraeth Cymru. Mae cyhoeddi strategaeth gordewdra o'r fath yn ddyletswydd statudol a osodwyd ar Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017. Nod y rheoliadau yw newid arferion deietegol, sydd hefyd yn gysylltiedig â'r uchelgeisiau a nodir yng Nghynllun Sero Net Llywodraeth Cymru.

Nid yw camau gweithredu gwirfoddol gan y diwydiant i helpu'r cyhoedd i wneud dewisiadau iachach (er enghraifft, ailfformiwleiddio, labelu maeth) wedi cael yr effaith a ddymunir ar newid deietegol. Y rheoliadau hyn fydd y cam cyntaf o ran sicrhau sefyllfa gyfartal drwy gyfyngu ar gyflwyno a hyrwyddo bwydydd llai iach.

Bydd y rheoliadau yn gwneud cyfraniad pwysig at gyflawni yn erbyn ymrwymiad Llywodraeth Cymru i leihau anghydraddoldebau iechyd, ac yn helpu i roi pwyslais parhaus ar rôl atal. 

Cenedlaethau’r dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol inni weithio'n unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy. Mae Rheoliadau Bwyd (Hyrwyddo a Chyflwyno) (Cymru) 2025 yn cefnogi'r egwyddor gyffredinol hon yn uniongyrchol, sef gwneud ymyriadau cadarnhaol yn awr, er budd pobl sy'n byw eu bywydau yng Nghymru yn y dyfodol.

Hirdymor

Nod y rheoliadau yw symud yr amgylchedd bwyd tuag at opsiynau iachach fel rhan o ddull sawl elfen sy'n canolbwyntio ar sut y gallwn gyflawni ein nodau deng mlynedd a nodir yn Pwysau Iach: Cymru Iach. Wrth inni fwrw ati i roi'r strategaeth ar waith, byddwn yn barod iawn i brofi dulliau newydd o weithredu a dysgu wrth fynd ymlaen er mwyn gwella'n barhaus. Byddwn yn defnyddio'r dystiolaeth orau sydd ar gael i sefydlu ystod o ymyriadau effeithiol i gynorthwyo'r amodau sydd eu hangen i effeithio ar iechyd ein cenedl yn yr hirdymor.

Atal

Mae atal yn ganolog i ddyluniad y rheoliadau hyn. Eu nod yw galluogi pobl i wneud dewisiadau bwyd iachach a dileu sbardunau yn yr amgylchedd bwyd sy'n cymell defnyddwyr i brynu bwyd llai iach sydd, mewn symiau gormodol, yn wael i'n hiechyd deietegol ac yn debygol o'n gwneud ni'n sâl yn feddyliol ac yn gorfforol.

Integreiddio

Wrth ddylunio'r rheoliadau hyn a'r rhaglen waith ehangach y maent yn rhan ohoni o dan y strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach, rydym wedi gweithio gyda chyrff cyhoeddus ac adrannau eraill Llywodraeth Cymru i ddod ag ystod o nodau polisi at ei gilydd a sicrhau bod ein camau gweithredu yn ategu ac yn cefnogi'r saith nod llesiant yn uniongyrchol. Wrth inni ystyried cymryd camau pellach i wella iechyd ein hamgylcheddau bwyd a gwerthuso effaith y rheoliadau hyn unwaith y byddant mewn grym, byddwn yn parhau i ystyried sut y gallwn sicrhau bod ein nodau a'n hamcanion yn cyd-fynd ag amcanion presennol ehangach ar draws gwahanol gyrff cyhoeddus.

Cyfranogiad

Er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni'r nodau llesiant ac yn dylunio cynnig polisi llwyddiannus, rydym wedi ymgysylltu ag ystod eang o randdeiliaid sy'n cynrychioli buddiannau amrywiol. Mae'r ymgysylltiad hwn wedi bod ar ffurf dau ymgynghoriad cyhoeddus, yn ogystal â dulliau ymgysylltu mwy anffurfiol. Rydym hefyd wedi gweithio'n agos gyda'r diwydiant a rhanddeiliaid cyrff gorfodi i gynhyrchu'r canllawiau technegol sy'n nodi sut y dylid gweithredu'r rheoliadau.

Cydweithio

Pan gynhaliwyd ein hymgynghoriad gwreiddiol ar amgylchedd bwyd iach yn 2022, fe wnaethom gytuno i greu'r amodau cywir i syniadau trawsnewidiol a chydweithio ffynnu. Drwy gydol y broses o ddatblygu polisi, rydym wedi parhau i weithio gyda'n partneriaid a'n grwpiau cenedlaethol allweddol ar draws y diwydiant i sicrhau bod yr hyn rydym yn ei gynnig yn ymarferol i bob grŵp yr effeithir arno. Wrth inni ystyried cymryd camau pellach mewn perthynas â'n hamgylchedd bwyd, byddwn yn parhau i gynnwys partneriaid cyrff cyhoeddus, y trydydd sector ac arweinwyr cymunedol i fireinio'r holl opsiynau polisi posibl. 

Costau ac arbedion

Mae'r rhain wedi'u nodi ar wahân yn ein hasesiad effaith rheoleiddiol.

Adran 2. Beth fydd yr effaith ar lesiant cymdeithasol?

Pobl a Chymunedau

Rydym yn disgwyl i'r rheoliadau gael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd bwyd o fewn cymunedau, gan symud dewisiadau deietegol pobl tuag at gynhyrchion iachach drwy gynyddu argaeledd a gwelededd bwydydd â lefelau isel o fraster, halen a siwgr. Y bwriad polisi y tu ôl i'r rheoliadau yw gwneud y dewis iachach yn ddewis haws i holl ddefnyddwyr Cymru. Fodd bynnag, gwyddom fod gan y rhai ar incwm is ddeiet llai iach na'u cymheiriaid mwy cyfoethog ac felly rydym yn rhag-weld y bydd y mesurau yn cael effaith gymharol fwy cadarnhaol mewn cymunedau ar incwm is.

Ystyrir effaith lawn y rheoliadau ar bobl a chymunedau fel rhan o'r:

Prawfesur gwledig

Nid yw camau gweithredu gwirfoddol gan y diwydiant i helpu defnyddwyr i wneud dewisiadau iachach (er enghraifft, ailfformiwleiddio, labelu maeth) wedi'u cyflawni'n gyson nac wedi cael yr effaith a ddymunir ar newid deietegol. Bydd y rheoliadau yn sicrhau sefyllfa gyfartal drwy orfodi'r cyfyngiadau sy'n ymwneud â hyrwyddo a lleoli bwyd llai iach, a chymell busnesau bwyd i ailfformiwleiddio bwydydd i'w gwneud yn iachach.

Nid oes angen mawr i gynnal prawfesur gwledig mewn perthynas â Rheoliadau Bwyd (Hyrwyddo a Chyflwyno) (Cymru) 2025, gan na ragwelir y bydd gwahaniaeth sylweddol yn yr effaith y bydd y newid yn ei chael ar bobl sy'n byw mewn ardaloedd gwledig, o'i gymharu â'r rhai sy'n byw mewn ardaloedd mwy trefol. Yr unig rai a allai weld gwahaniaeth yn yr effaith yw'r rhai sy'n byw mewn cymunedau gwledig a allai fod yn fwy tebygol o brynu eu bwyd gan fanwerthwyr llai a allai fod y tu allan i gwmpas y rheoliadau.

Dengys data gan y Gymdeithas Siopau Cyfleustra (ACS) fod tua 37% o siopau cyfleustra wedi'u lleoli mewn cymunedau gwledig, lle mae'r siop yn aml yn cynrychioli'r unig opsiwn siopa sydd gan y gymuned leol. Mae 34% o siopau cyfleustra yn rhan o grŵp symbol, sydd o fewn cwmpas y polisi, fodd bynnag, mae siopau cyfleustra nad ydynt yn rhan o grŵp symbol wedi'u heithrio. Pan fo cymunedau gwledig yn cael eu gwasanaethu gan fanwerthwyr sydd wedi'u heithrio rhag y cyfyngiadau oherwydd eu maint, efallai y bydd ychydig yn llai o newid cadarnhaol yn yr amgylchedd bwyd. Mae tystiolaeth o'r Rhaglen Mesur Plant Genedlaethol yn amlygu bod nifer yr achosion o ordewdra yn uwch mewn ardaloedd trefol o'i gymharu ag ardaloedd gwledig. Mae hyn yn tynnu sylw at y ffaith, er bod llawer o siopau cyfleustra (y rhai hynny sy'n fusnesau bach neu ficro, neu o dan 2,000 troedfedd sgwâr) wedi'u heithrio rhag y polisi, a'u bod yn siopau sy'n aml yn cynrychioli'r unig opsiwn siopa mewn ardaloedd gwledig, fod nifer yr achosion o ordewdra yn is mewn cymunedau gwledig.

Fel rhan o'r broses ymgynghori a gynhaliwyd yn 2022 cyn datblygu'r rheoliadau, gwnaethom gasglu enwau a chyfeiriadau e-bost grwpiau blaenoriaeth ymysg y cyhoedd at ddibenion rheoli cyfres o grwpiau ffocws lle casglwyd barn pobl. Roedd cydbwysedd yn y grwpiau o ran demograffeg ac roedd aelodau mor amrywiol a chynhwysol â phosibl, gan gynnwys pobl o gymunedau gwledig.

Iechyd

Sut (naill ai’n gadarnhaol neu’n negyddol) ac i ba raddau (effaith sylweddol/cymedrol/bach) y bydd y cynnig yn effeithio ar benderfynyddion iechyd?

Rydym yn disgwyl i'r cynigion hyn gael effaith gadarnhaol sylweddol ar benderfynyddion iechyd. Mae tua 60% o oedolion yng Nghymru bellach dros eu pwysau neu'n ordew, gyda chwarter y rhain yn cael eu hystyried yn ordew. Mae'r data yn dangos nad yw plant ac oedolion yng Nghymru yn bwyta deiet cytbwys. Mae’r Arolwg Deiet a Maeth Cenedlaethol yn dangos ein bod yn bwyta gormod o siwgr, braster dirlawn a halen. Rydym yn bwyta gormod o galorïau hefyd, ond dim digon o ffibr, ffrwythau a llysiau.

Mae argaeledd, gwelededd a phris cynhyrchion mewn amgylchedd manwerthu yn siapio'r bwydydd rydym yn eu bwyta ac mae'r bwydydd sy'n cael eu hyrwyddo'n aml yn wael i'n hiechyd. Er enghraifft, canfu astudiaeth 2018 y Gynghrair Gordewdra fod 43% o'r holl gynhyrchion bwyd a diod a leolir mewn mannau amlwg, megis arddangosfeydd wrth fynedfeydd siopau, mannau talu, pen draw'r eil, neu unedau arddangos annibynnol yn gwerthu bwydydd a diodydd llawn siwgr. Drwy symud i ffwrdd o leoli a hyrwyddo bwydydd sy'n uchel mewn braster, halen a siwgr, mae'r polisi hwn yn ceisio cefnogi pobl Cymru i ddewis cynhyrchion iachach mewn siopau bwyd ac ar-lein.

Er nad ydym yn disgwyl i'r rheoliadau gael effeithiau cadarnhaol uniongyrchol ar benderfynyddion iechyd ar lefel y boblogaeth, yn y tymor hir rydym yn disgwyl iddynt gefnogi pobl i fyw bywydau hirach ac iachach, a hynny'n rhydd o glefyd sy'n gysylltiedig â deiet. 

A allai fod effaith iechyd wahaniaethol ar grwpiau penodol?

Mae'r polisi hwn wedi'i gynllunio i fod o fudd i iechyd pob grŵp cymdeithasol ac mae'n hanfodol ar gyfer iechyd a llesiant uniongyrchol a hirdymor ein poblogaeth. Mae'r categorïau bwyd a diod sydd wedi'u targedu gan y cyfyngiadau hyn yn canolbwyntio ar fwydydd sy'n cyfrannu'n sylweddol at faint o siwgr a chalorïau y mae plant yn eu bwyta, ac sy'n aml yn cael eu hyrwyddo'n helaeth. Yn hynny o beth, mae'r polisi yn cymryd ymagwedd ataliol tuag at wella iechyd plant yn benodol. Rydym yn gwybod, os na fyddwn yn gweithredu i wella canlyniadau iechyd y cyhoedd, y bydd y tueddiadau presennol yn parhau. Bydd hyn yn golygu y bydd mwy o bobl yng Nghymru yn marw cyn pryd oherwydd canser, clefyd y galon, clefyd yr afu neu iau a diabetes math 2. Bydd anabledd ac afiechyd yn effeithio'n andwyol ar fwy o fywydau. Hefyd, mae gordewdra yn cael effaith negyddol ar ein hiechyd meddwl sydd, mewn llawer o achosion, yn dechrau o oedran ifanc ac yn arwain at ganlyniadau ac effeithiau gydol oes.

Bwriad y polisi hefyd yw lleihau anghydraddoldebau iechyd gan ein bod yn gwybod bod y cyfraddau gordewdra mwyaf yn bresennol mewn cymunedau lle mae lefelau uwch o amddifadedd. Er ei bod yn ymddangos bod hyrwyddiadau yn gwneud cynhyrchion yn rhatach, maent hefyd yn cynyddu faint o fwydydd a diodydd rydym yn eu prynu ac yn eu bwyta neu yfed – cynnydd o oddeutu un rhan o bump. Drwy symud hyrwyddiadau i ffwrdd o gynhyrchion llai iach, rydym yn gobeithio annog manwerthwyr i hyrwyddo dewisiadau iachach sy'n fforddiadwy i'r rhai sydd ar incwm is. Fodd bynnag, mae hwn yn faes cymhleth i'w ystyried sy'n cael ei archwilio ymhellach fel rhan o'r asesiad o'r effaith ar iechyd a'r asesiadau effaith eraill a gynhelir i gefnogi'r gwaith o ddatblygu'r rheoliadau hyn.

Os ydych yn nodi effeithiau iechyd sylweddol

Gellir dod o hyd i asesiad llawn o'r effaith ar iechyd.

Preifatrwydd

Nid yw'r rheoliadau hyn yn cynnwys prosesu gwybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod unigolion.

Adran 3. Beth fydd yr effaith ar lesiant diwylliannol a’r Gymraeg?

lesiant diwylliannol

Rydym wedi dod i'r casgliad na fydd y rheoliadau hyn yn cael unrhyw effaith sylweddol ar lesiant diwylliannol.

Y Gymraeg

Gellir dod o hyd i asesiad llawn o'r effaith ar y Gymraeg.

Adran 4. Beth fydd yr effaith ar lesiant economaidd?

Mae Asesiad Effaith Rheoleiddiol llawn wedi'i gwblhau ar gyfer Rheoliadau Bwyd (Hyrwyddo a Chyflwyno) (Cymru) 2025. Mae crynodeb o'r effeithiau a nodwyd wedi'i ddarparu isod.

Busnesau, y cyhoedd ac unigolion

Yn y tymor hir, rydym yn disgwyl i'r rheoliadau gael effaith gadarnhaol sylweddol ar y cyhoedd. Mewn termau ariannol, amcangyfrifir bod y buddion iechyd i'r boblogaeth yn werth tua £6.67 biliwn dros gyfnod o 25 mlynedd. Bydd y buddion hyn yn cael eu gwireddu drwy ostyngiad mewn cyfraddau marwolaethau cynamserol yn sgil cyflyrau iechyd sy'n gysylltiedig â deiet, fel diabetes math 2. Mae ffigurau a adroddwyd gan y Sefydliad Bwyd yn dangos bod bwyd iachach, maethlon bron i deirgwaith yn ddrytach na chynhyrchion llai iach a bod cost y cynhyrchion iachach hyn wedi parhau i godi yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Drwy symud i ffwrdd o hyrwyddo cynhyrchion llai iach, ein nod yw annog manwerthwyr bwyd i hyrwyddo bwydydd iachach ac annog ailfformiwleiddio bwydydd â lefelau uchel o fraster, halen a siwgr a all fod yn niweidiol i iechyd pobl.

Rydym yn disgwyl i'r rheoliadau gael effaith gymedrol ar fanwerthwyr a gweithgynhyrchwyr bwyd. Efallai y bydd angen i fanwerthwyr bwyd sydd o fewn cwmpas y cyfyngiadau addasu eu systemau TG i gydymffurfio â'r rheoliadau ac efallai y byddant hefyd yn gorfod talu costau ymgyfarwyddo ac asesu cynnyrch. Rydym yn amcangyfrif y bydd manwerthwyr yn colli £269 miliwn dros 25 mlynedd. Gall gweithgynhyrchwyr cynhyrchion braster, halen a siwgr uchel (HFSS) yr effeithir arnynt gan y cyfyngiadau hyn golli £136.75 miliwn mewn elw yn ystod yr un cyfnod.

Y sector cyhoeddus, gan gynnwys llywodraeth leol a chyrff cyhoeddus eraill

Rhagwelir y bydd y rheoliadau yn cael effaith gadarnhaol sylweddol ar y GIG a lleoliadau gofal cymdeithasol dros y 25 mlynedd nesaf drwy leihau morbidrwydd a marwolaethau sy'n gysylltiedig â gordewdra. Mewn termau ariannol, bydd yr effaith hon yn cyfateb i arbediad o £639.3 miliwn i'r GIG ac arbediad o £618.2 miliwn i'r sector gofal cymdeithasol. Disgwylir i fuddion ychwanegol godi o ailfuddsoddi'r arbedion hyn mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i leddfu'r pwysau ar wasanaethau a gwella gofal cleifion yn ehangach.

We anticipate that enforcement bodies will be minimally negatively impacted by the regulations. We assume a small transitional cost and ongoing revenue costs for enforcement bodies to ensure the regulations continue to be observed. It is anticipated that this will equate to £413,251 over a 25 year period. We intend to continue working with enforcement bodies ahead of the regulations coming into force in 2026 to minimise any negative impacts.

Y trydydd sector

Ni fydd y rheoliadau hyn yn cael fawr o effaith ar sefydliadau'r trydydd sector.

Effaith ar gyfiawnder

Cwblhawyd asesiad llawn o'r effaith ar y system gyfiawnder ar gyfer y rheoliadau hyn. Yng ngoleuni'r asesiad hwn, penderfynodd Gweinyddiaeth Gyfiawnder Llywodraeth y DU na fyddai'r rheoliadau yn cael fawr o effaith ar y system gyfiawnder.

Adran 8. Casgliad

Sut y mae pobl, y mae'r cynnig yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt, wedi'u cynnwys yn y gwaith o'i ddatblygu?

Rydym wedi ymgysylltu'n llawn â rhanddeiliaid allanol allweddol, y cyhoedd a meysydd polisi trawslywodraethol ar bob cam o'r gwaith o ddatblygu a chyflwyno'r cynigion a nodir yn Rheoliadau Bwyd (Hyrwyddo a Chyflwyno) (Cymru) 2025. Yn 2022, fe wnaethom gynnal ein hymgynghoriad cyhoeddus cyntaf ar y cynigion ac roedd ymgysylltiad helaeth â rhanddeiliaid a'r cyhoedd yn cyd-fynd â'r ymgynghoriad hwn. Roedd hyn yn cynnwys: 

  • digwyddiadau i randdeiliaid yn benodol ar gyfer y diwydiant bwyd a chyrff anllywodraethol
  • grwpiau ffocws ar gyfer ein grwpiau blaenoriaeth ymysg y cyhoedd
  • ymgysylltu yn ehangach â'r cyhoedd gan gynnwys digwyddiadau sioe deithiol

Nod y digwyddiadau ymgysylltu â rhanddeiliaid oedd casglu adborth manwl gan randdeiliaid a chael gwybodaeth a dealltwriaeth gan gynrychiolwyr o'r diwydiant bwyd a chyrff anllywodraethol. Roedd y grwpiau ffocws yn canolbwyntio ar y grwpiau blaenoriaeth canlynol:

  • plant oed cynradd hŷn (10 i 11 oed)
  • plant oed uwchradd
  • pobl ifanc (16 i 25 oed)
  • rhieni a gofalwyr (o fabanod i bobl ifanc yn eu harddegau)
  • pobl o grwpiau economaidd-gymdeithasol C1, C2, D ac E
  • pobl sy'n mynd ati i golli pwysau
  • pobl o gefndiroedd du ac ethnig leiafrifol
  • pobl 45 oed a throsodd

Yn 2024, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad arall ar reoliadau drafft a dull gorfodi arfaethedig. Prif gynulleidfa'r ymgynghoriad hwn oedd cyrff yn y diwydiant a chyrff gorfodi yr effeithiwyd arnynt. Fe wnaethom ymgysylltu â'r cyrff hyn yn anffurfiol, ochr yn ochr â'r ymgynghoriad, i ofyn am eu barn a'u cael i ateb ymholiadau. Fe wnaethom hefyd sefydlu grwpiau ymgysylltu â grwpiau yn y diwydiant a grwpiau gorfodi i gydgynhyrchu'r canllawiau a fydd yn cyd-fynd â'r rheoliadau i sicrhau eu bod mor ddefnyddiol â phosibl i'r rhai y bydd angen iddynt gydymffurfio neu fonitro cydymffurfiaeth â'r cyfyngiadau.

Mae ein hymgysylltiad ar bob cam o'r broses datblygu polisi wedi llywio'r cynigion terfynol a nodir yn y rheoliadau. Mae asesiadau effaith unigol hefyd wedi cael eu llywio gan drafodaethau gyda rhanddeiliaid mewnol a deialog benodol â rhanddeiliaid arbenigol allanol. Bydd yr asesiadau effaith hyn yn cael eu hadolygu a’u diweddaru wrth i wybodaeth a thystiolaeth newydd am effaith ddod ar gael.

Beth yw’r effeithiau mwyaf arwyddocaol, y rhai cadarnhaol a'r rhai negyddol?

Bwriad y rheoliadau yw datblygu amgylchedd bwyd iachach i wneud y dewis iach yn ddewis hawdd i ddefnyddwyr Cymru. Mae hyn yn rhan o ddull sawl elfen a nodir yn y strategaeth genedlaethol Pwysau Iach: Cymru Iach ac mae'n ategu ein dull cyffredinol o fynd i'r afael ag agweddau ar newid amgylcheddol ac ymddygiadol er mwyn helpu i leihau ac atal gordewdra ledled Cymru.

Rydym yn gwybod bod gordewdra bellach yn un o’r prif achosion marwolaeth cyn pryd y gellir eu hatal. Os bydd y tueddiadau presennol yn parhau, bydd mwy o bobl yng Nghymru yn marw cyn pryd oherwydd canser, clefyd y galon, clefyd yr afu neu iau a diabetes. Bydd anabledd ac afiechyd yn effeithio'n andwyol ar fwy o fywydau. Hefyd, mae gordewdra yn cael effaith negyddol ar ein hiechyd meddwl sydd, mewn llawer o achosion, yn dechrau o oedran ifanc ac yn arwain at ganlyniadau ac effeithiau gydol oes.

Ar lefel y boblogaeth, rydym yn prynu ac yn bwyta gormod o fwydydd â lefelau uchel o fraster, halen a siwgr. Mae hyn yn cael effaith andwyol ar ein hiechyd. Drwy frwydro yn erbyn rhai o'r ffactorau amgylcheddol sy'n effeithio ar ddewisiadau deietegol pobl, nod y rheoliadau yw helpu pobl i fyw bywydau iachach, a hynny'n rhydd o glefydau sy'n gysylltiedig â deiet.

Fel y nodir yn ein hasesiadau effaith, rydym wedi ystyried yn ofalus a allai cyfyngu ar hyrwyddo eitemau bwyd llai iach effeithio'n negyddol ar y rhai mewn grwpiau economaidd-gymdeithasol is. Er bod ein hasesiadau wedi dod i'r casgliad nad ydym yn disgwyl i'r rheoliadau gael effaith negyddol ar y grŵp hwn, rydym yn bwriadu parhau i asesu'n ofalus unrhyw effeithiau posibl ar ôl cyflwyno'r rheoliadau.

Rydym hefyd yn ymwybodol o'r costau a allai effeithio ar fusnesau a chyrff gorfodi o ganlyniad i'r newid deddfwriaethol hwn ac rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i weithio gyda grwpiau rhanddeiliaid yr effeithir arnynt i leihau'r effeithiau hyn a nodi mesurau lliniaru lle bo hynny'n briodol.

Yn sgil yr effeithiau a nodwyd, sut y bydd y cynnig yn cyfrannu cymaint â phosibl at ein hamcanion llesiant a’r saith nod llesiant ac yn osgoi, yn lleihau neu’n lliniaru unrhyw effeithiau negyddol?

Bydd lleihau lefelau o ordewdra a gorbwysau ledled y boblogaeth yn un o ganlyniadau allweddol y rheoliadau, a bydd hyn yn helpu i gyfrannu'n sylweddol tuag at gyflawni'r nodau a nodir yn y strategaeth ddeng mlynedd Pwysau Iach: Cymru Iach, a ddatblygwyd yng nghyd-destun Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ac er mwyn cefnogi'r Ddeddf honno. Drwy ail-lunio'r amgylchedd bwyd fel ei bod yn haws i ddefnyddwyr wneud dewisiadau bwyd iachach, nod hirdymor y polisi yw atal mwy o bobl rhag datblygu salwch sy'n gysylltiedig â gordewdra. Yn ei dro, gobeithir y bydd hyn hefyd yn helpu i leihau'r bwlch sy'n ehangu o ran anghydraddoldebau iechyd, gan greu cymdeithas iachach, fwy cyfartal i bawb. Mae hyn yn cefnogi egwyddor gyffredinol Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn uniongyrchol, sef gwneud ymyriadau cadarnhaol yn awr, er budd pobl sy'n byw eu bywydau yng Nghymru yn y dyfodol.

Mae'r cynnig yn cyfrannu tuag at nodau llesiant y ddeddf o dan Gymru iachach drwy:

  • mae'n sicrhau bod amgylcheddau bwyd yn y sector manwerthu yn gwneud y dewis iach yn ddewis hawdd i ddefnyddwyr Cymru
  • mae'n cymryd dull ataliol o leihau cyfraddau gordewdra a nifer y bobl sy'n dioddef o gyflyrau iechyd sy'n gysylltiedig â deiet

Ar gyfer Cymru fwy cyfartal mae'r cynnig hefyd:

Mae'r asesiadau effaith rydym wedi'u cwblhau yn ceisio mynd i'r afael â'r mater cymhleth o wneud newidiadau i'r amgylchedd bwyd a fydd o fudd i bob defnyddiwr ac yn cynyddu fforddiadwyedd a  hygyrchedd opsiynau iachach. Er mwyn sicrhau bod y cynigion yn llwyddo i gefnogi camau tuag at y nodau llesiant, byddwn yn ystyried sut y gellir ymgorffori'r rheoliadau hyn mewn pecyn o fesurau gwirfoddol, cyllidol a rheoleiddiol ehangach ar gyfer amgylcheddau bwyd, fel rhan o'r strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach. 

Sut y bydd effaith y cynnig yn cael ei monitro a'i gwerthuso wrth i'r gwaith fynd rhagddo, ac wedi iddo gael ei gwblhau?

Bydd proses werthuso gadarn yn cael ei rhoi ar waith yn dilyn cyflwyno Rheoliadau Bwyd (Hyrwyddo a Chyflwyno) (Cymru) 2025. Nod hyn fydd deall a yw'r rheoliadau wedi llwyddo i wireddu'r manteision disgwyliedig i iechyd y cyhoedd ac a fu unrhyw effeithiau negyddol anfwriadol o ganlyniad i'r cyfyngiadau.

Troednodiadau

[1] Kantar Worldpanel Take Home Purchasing | 52we data to 29 December 2019.

[2] Martin, L, Bauld, L & Angus, K. (2017). Rapid Evidence Review: The Impact of Promotions on High fat, Sugar and Salt (HFSS) Food and Drink on Consumer Purchasing and Consumption Behaviour and the Effectiveness of Retail Environment Interventions. Edinburgh: NHS Scotland.

[3] Hill, R. et al. Kantar. An analysis of the role of price promotions on the household purchases of food and drinks high in sugar. 2019.

[4] Chandon P, Wansink B. (2002). When are stockpiled products consumed faster? A convenience-salience framework of post-purchase consumption incidence and quantity. J. Mark. Res. 39:321–35.

[5] 0 Muruganantham G, Bhakat RS. (2013). A review of impulse buying behavior. International Journal of Marketing Studies, 2013 April 22;5(3):149.

[6] Mendoza JA, Drewnowski A, Christakis DA. (2007). Dietary energy density is associated with obesity and the metabolic syndrome in US adults. Diabetes care. 2007 April 1;30(4):974-9.

[7] Which? (2016). Should retailers do more to promote healthier food?

[8] The Obesity Health Alliance. (2018). Out of place: The extent of unhealthy foods in prime locations in supermarkets.

[9] University of Stirling. (2015). The impact of food and drink marketing on Scotland’s children and young people.

[10] BRQ Business Research Quarterly. (2015). Merchandising at the point of sale: differential effect of end of aisle and islands.

[11] Mae siwgrau rhydd yn cynnwys monosacaridau a deusacaridau a ychwanegir at fwydydd a diodydd gan y gwneuthurwr, y cogydd neu'r defnyddiwr, a siwgrau sy'n bresennol yn naturiol mewn mêl, suropau, sudd ffrwythau a sudd ffrwythau o ddwysfwyd.