Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Rhaid anfon pob Asesiad Effaith ar Hawliau Plant i CRIA@llyw.cymru 

Disgrifiwch ac eglurwch effaith y cynnig ar blant a phobl ifanc

  • sut y bydd y cynnig yn effeithio ar fywydau plant, yn gadarnhaol ac yn negyddol? 
  • sut y bydd y cynnig yn effeithio ar wahanol grwpiau o blant (e.e. plant sydd wedi dioddef profiadau niweidiol mewn plentyndod, plant sy'n byw mewn tlodi, plant ag anabledd, plant sy'n byw mewn aelwydydd Cymraeg a phlant mewn addysg cyfrwng Cymraeg ac ati)? 
  • pa dystiolaeth y gwnaethoch ei defnyddio i lywio eich asesiad, gan gynnwys tystiolaeth gan blant neu eu cynrychiolwyr? 
  • sut ydych chi wedi ymgynghori â phlant a phobl ifanc? Os nad ydych chi wedi gwneud hynny, eglurwch pam
  • pa dystiolaeth arall fyddai'n llywio'r asesiad? 

Cefndir

Mae Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) (Diwygio) 2020 yn gwneud darpariaeth i asiantaethau mabwysiadu asesu a chymeradwyo darpar fabwysiadwyr fel rhan o broses dau gam newydd ar gyfer y trefniadau asesu a chymeradwyo hynny. Mae'r rheoliadau yn nodi'r broses ar gyfer asesu addasrwydd pobl i fabwysiadu plentyn ac addasrwydd plant i gael eu mabwysiadu o fewn terfyn amser penodol. Daeth Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) (Diwygio) 2020 i rym ar 1 Ebrill eleni. 

Oherwydd pandemig COVID-19, codwyd pryder gan randdeiliaid mabwysiadu mewn perthynas â'r gallu i gydymffurfio â rhai o'r gofynion a amlinellwyd yn y broses fabwysiadu dau gam newydd a gyflwynwyd gan y Rheoliadau newydd.   

Er bod y sector mabwysiadu wedi newid ei brosesau a'i ffordd o weithio yn gyflym er mwyn sicrhau y gellir parhau i ddarparu gwasanaethau yn ystod y cyfnod digynsail hwn (gan gynnwys defnyddio technoleg o bell i sicrhau bod cymorth mabwysiadu ar gael o hyd a bod swyddogaethau fel paneli penderfyniadau mabwysiadu yn parhau i weithredu), roedd anhawster o hyd o ran cwblhau rhai o'r gwiriadau asesu angenrheidiol y mae'n ofynnol i asiantaethau eu cynnal (fel gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ac asesiadau meddygol) o fewn y terfynau amser a ddynodir gan y rheoliadau hyn. 

Fel rhan o'r broses dau gam newydd, byddai'r holl wiriadau statudol sylfaenol ar gyfer pennu 'cymhwysedd' unigolion i gael eu hasesu fel mabwysiadwyr yn cael eu cynnal yn ystod cam un o'r broses newydd a dim ond ar ôl cwblhau'r gwiriadau yn foddhaol y gellir dechrau'r broses ffurfiol o asesu 'addasrwydd' (a gynhelir yn ystod cam dau). Mae'r gwiriadau cam un hyn yn cynnwys y canlynol:

  • yr asesiad meddygol drwy feddygon teulu a gaiff wedyn ei adolygu gan Gynghorwyr Meddygol er mwyn iddynt wneud sylwadau arno
  • gwiriadau DBS gan yr Heddlu
  • gwiriadau diogelu a gwiriadau angenrheidiol eraill gan Awdurdodau Lleol
  • geirdaon gan gyflogwyr (a geirdaon eraill)

Bydd yr hyblygrwydd yn golygu y gellir cynnal cam 1 a cham 2 o'r broses asesu ar yr un pryd. Felly, gellir casglu gwybodaeth y mae'n rhaid ei chasglu ar hyn o bryd yn ystod cam 1 y broses gymeradwyo yn ystod cam 2. 

Cefndir deddfwriaethol

Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) (Diwygio) 2020

Mae Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) (Diwygio) 2020 ("y Rheoliadau Diwygio") ar y cyfan yn diwygio Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005 ("Rheoliadau 2005") drwy amnewid Rhan 4 newydd (Dyletswyddau Asiantaethau Mabwysiadu o ran â Darpar Fabwysiadydd). Mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth i asiantaethau mabwysiadu asesu a chymeradwyo darpar fabwysiadwyr ac fe'i diwygir er mwyn cyflwyno proses dau gam newydd ar gyfer y trefniadau asesu a chymeradwyo hynny. 

O dan y Rheoliadau hyn, mae'r Rhan 4 newydd (Dyletswyddau Asiantaethau Mabwysiadu o ran Darpar Fabwysiadydd) yn nodi'r canlynol: 

  • darpariaeth i asiantaethau mabwysiadu asesu a chymeradwyo darpar fabwysiadwyr drwy gyflwyno proses dau gam newydd am gyfnod penodol ar gyfer y trefniadau asesu a chymeradwyo hynny, y gellir ei ehangu o dan amgylchiadau penodol. Yn ystod Cam Un (y broses cyn asesu, a gaiff ei chyfyngu i ddeufis), cynhelir yr holl wiriadau rhagnodedig, gan gynnwys gwiriadau cofnodion troseddol a gwiriadau iechyd. Yn ystod Cam Dau (y penderfyniad asesu, a gaiff ei gyfyngu i bedwar mis), bydd yr asiantaeth fabwysiadu yn gwneud penderfyniad am addasrwydd y darpar fabwysiadydd
  • yn cyflwyno proses garlam er mwyn caniatáu i rai rhieni maeth neu fabwysiadwyr maeth blaenorol penodol symud yn syth i broses asesu Cam Dau

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 

Defnyddir y pŵer yn adran 174(7) Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 hefyd. Mae adran 174 yn ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdodau lleol roi gweithdrefn cynrychioliadau ar waith er mwyn ystyried cynrychioliadau (gan gynnwys cwynion) gan bobl benodol ac mae isadran (7) yn caniatáu i reoliadau wneud darpariaeth bellach mewn perthynas â'r weithdrefn honno. 

Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 

Mae Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 ('Deddf 2016') yn darparu'r fframwaith statudol ar gyfer rheoleiddio ac arolygu gwasanaethau gofal cymdeithasol a rheoleiddio'r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae'n galluogi Gweinidogion Cymru i ragnodi, drwy reoliadau, y gofynion i'w gosod ar ddarparwyr gwasanaethau ac unigolion cyfrifol mewn 'gwasanaethau rheoleiddiedig' sydd yn rhinwedd adran 2 (1) (d) ac atodlen 1 paragraff 4, yn cynnwys asiantaethau mabwysiadu gwirfoddol ac asiantaethau cymorth mabwysiadu na chânt eu gweithredu gan awdurdodau lleol. 

Effaith oedi wrth wneud penderfyniadau a lleoli 

Mae oedi wrth leoli plant â theuluoedd mabwysiadol yn ystod achosion gofal yn golygu bod yn rhaid i'r plant fyw mewn sefyllfa o ansicrwydd am gyfnod hwy drwy gydol y broses gan y byddant yn parhau'n rhan o'r system faethu. 

Yn aml, mae angen ymyriadau arbenigol ar blant sydd wedi cael eu cam-drin a'u hesgeuluso er mwyn ymdrin â chanlyniadau'r driniaeth honno, yn ogystal â chanlyniadau eu gwahanu o'u teulu genedigol. Un o ganlyniadau oedi wrth wneud penderfyniadau yw bod plant, wrth iddynt fynd yn hŷn, yn llai tebygol o gael budd o'r ymyriadau hyn, neu y bydd angen ymyriadau mwy arbenigol arnynt am gyfnod hirach. 

Yn achos plant a gaiff eu gosod i'w mabwysiadu, gall oedi gael effaith andwyol ar y tebygolrwydd y cânt eu mabwysiadu. Mae'r tebygolrwydd y caiff plentyn ei fabwysiadu yn lleihau bron i hanner am bob blwyddyn y ceir oedi (Selwyn et al, 2006) a'r oedran y bydd plentyn yn ymuno â theulu newydd yw'r newidyn a gaiff yr effaith fwyaf ar ganlyniadau mabwysiadu. Mae llesiant emosiynol ac ymddygiadol plant hefyd yn effeithio ar y tebygolrwydd y cânt eu mabwysiadu; po leiaf yr anawsterau emosiynol ac ymddygiadol a fydd ganddynt, y mwyaf tebygol y byddant o gael eu mabwysiadu. 

Gall achosion mynych o symud rhwng lleoliadau gofal dros dro waethygu'r niwed a wnaed i ddatblygiad plentyn o ganlyniad i gamdriniaeth neu esgeulustod cynnar. Mae gwaith ymchwil wedi dangos bod ansefydlogrwydd mewn gofal yn aml yn cael effaith andwyol sylweddol: gall waethygu anawsterau emosiynol ac ymddygiadol, achosi ansefydlogrwydd pellach, canlyniadau addysgol gwael, diweithdra ac oes o dlodi. Gall yr anawsterau emosiynol ac ymddygiadol hyn gynyddu'r tebygolrwydd y bydd lleoliad mabwysiadu yn methu. Mae Barnardo's yn ategu'r pwynt hwn drwy nodi y dylid ystyried anghenion sefydlogrwydd fel mater diogelu. Mae pwysigrwydd gwneud penderfyniadau amserol a dod o hyd i deulu mabwysiadol mewn ffordd amserol, a phwysigrwydd parchu angen y plentyn am sefydlogrwydd a pharhad, yn enwedig yn ystod blynyddoedd cynnar iawn bywyd plentyn, yn ffactorau pwysig y dylid parhau i'w hystyried yn ystod yr argyfwng. 

Felly, mae'n hanfodol bod cyn lleied o oedi â phosibl wrth leoli plentyn â rhieni mabwysiadol yn ystod argyfwng COVID-19. Mae Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru, ynghyd ag asiantaethau mabwysiadu yng Nghymru, wedi gweithio'n galed yn ystod y blynyddoedd diwethaf i leihau'r cyfnod o amser y mae'n ei gymryd i leoli plentyn â'i deulu mabwysiadol. Mae'n bwysig sicrhau na chaiff y momentwm hwn ei golli yn ystod y pandemig, gan fod y plant hyn ymhlith y plant mwyaf agored i niwed yng Nghymru a bod ganddynt anghenion cymhleth. Bydd darparu parhad a sefydlogrwydd iddynt yn eu galluogi i ffynnu a manteisio ar yr un cyfleoedd bywyd ag unrhyw blentyn arall, gan eu galluogi i fyw bywydau llawn a bodlon. 

Cynnig 

Bydd y trefniadau hyblyg i gynnal prosesau Cam 1 a Cham 2 ar yr un pryd yn helpu i liniaru rhywfaint o'r pwysau y mae asiantaethau mabwysiadu yn ei brofi wrth gasglu gwybodaeth a chynnal y gwiriadau angenrheidiol er mwyn cymeradwyo darpar fabwysiadwyr o fewn y terfynau amser a ddynodir yn y Rheoliadau heb ofni y dygir achos yn eu herbyn am dorri'r gyfraith o ganlyniad i hynny. 

Bydd cynnig rhywfaint o hyblygrwydd i asiantaethau yn ystod argyfwng COVID-19 yn caniatáu i rai gwasanaethau barhau i fwrw ati â'r hyn y gallant, gan olygu felly gall asiantaethau weithredu'n gyflymach unwaith y daw'r argyfwng i ben. 

Sut y bydd y cynnig yn effeithio ar fywydau plant, yn gadarnhaol ac yn negyddol?

Gall unrhyw oedi wrth brosesu a chymeradwyo ceisiadau darpar fabwysiadwyr gael effaith andwyol ar y plant a'r bobl ifanc sy'n rhan o'r system ofal ar hyn o bryd ac yn aros i gael eu mabwysiadu. 

Ar gyfartaledd, yn achos plentyn sy'n derbyn gofal ac a gaiff ei fabwysiadu, mae'n cymryd tua blwyddyn rhwng yr adeg y daw'r plentyn hwnnw yn rhan o'r system ofal a'r adeg y bydd yn symud i mewn at ei deulu mabwysiadol. Gall unrhyw oedi wrth ddod o hyd i deulu mabwysiadol i blentyn (yn enwedig yn achos y plant hynny y nodwyd eu bod yn anodd eu lleoli) achosi niwed parhaus. Mae Llywodraeth Cymru yn ymdrin â'r materion polisi hyn drwy weithio gydag asiantaethau mabwysiadu fel Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru i gefnogi mentrau sy'n targedu mabwysiadwyr penodol i'w hannog i ymgymryd â lleoliadau mabwysiadu anodd ac i'w helpu wrth recriwtio/cymeradwyo darpar fabwysiadwyr drwy gydol y pandemig. 

Bydd cynnig hyblygrwydd fel rhan o'r system asesu a chymeradwyo dau gam ar gyfer darpar fabwysiadwyr yn galluogi asiantaethau i barhau i ystyried darpar fabwysiadwyr yn effeithiol drwy gydol pandemig COVID-19. 

Bydd y trefniadau hyblyg cydamserol rhwng y ddau gam hefyd yn golygu y gellir parhau i gynnig system effeithlon, yn enwedig pan gaiff darpar fabwysiadydd ei baru â phlentyn ar ôl cael ei gymeradwyo. Byddant felly yn caniatáu i asiantaethau mabwysiadu leihau unrhyw achosion posibl o oedi lle y byddai plant yn aros yn y system ofal am gyfnod hwy nag sydd ei angen. 

Sut y bydd y cynnig yn effeithio ar wahanol grwpiau o blant (e.e. plant sydd wedi dioddef profiadau niweidiol mewn plentyndod, plant sy'n byw mewn tlodi, plant ag anabledd, plant sy'n byw mewn aelwydydd Cymraeg a phlant mewn addysg cyfrwng Cymraeg ac ati?)

Prif nod gwasanaethau mabwysiadu yw darparu lleoliadau sefydlog i blant sy'n derbyn gofal, er mwyn gallu diwallu eu hanghenion ar gyfer gwasanaethau mabwysiadu a chyflawni eu canlyniadau llesiant personol. 

Caiff y rhan fwyaf o'r plant a gaiff eu mabwysiadu eu symud o'u teulu genedigol gan eu bod wedi profi trawma fel rhan o'r teulu hwnnw; mae canran uchel o blant a gaiff eu mabwysiadu wedi dioddef profiadau niweidiol yn ystod plentyndod fel camdriniaeth ac esgeulustod. I lawer o blant, mae hyn yn dechrau yn y groth, drwy gael eu hamlygu i alcohol, sylweddau eraill a cham-drin domestig. Gall fod risg geneteg uwch hefyd y bydd rhai plant a gaiff eu mabwysiadu yn wynebu anawsterau datblygiadol (fel ADHD neu gyflyrau ar y sbectrwm awtistig) ac anawsterau iechyd meddwl. Mae nifer uchel o blant hefyd sydd wedi cael profiad o fyw mewn amodau tlodi. 

Mae'r weithdrefn fabwysiadu ar gael i bob plentyn os ystyrir mai dyma fyddai'r penderfyniad gorau er mwyn i'r plentyn gael sefydlogrwydd. Caiff lleoliadau mabwysiadu eu cymeradwyo er budd y plentyn a phan fyddant yn diwallu ei anghenion unigol, felly mae'n rhaid i asiantaethau mabwysiadu ystyried hil, crefydd a diwylliant y plentyn yn ystod y broses baru. Byddai angen parchu'r angen i leoli plentyn sy'n siarad Cymraeg â theulu sy'n siarad Cymraeg pe ystyriwyd o ddifrif bod hynny o fudd i'r plentyn. 

Felly, bydd y cynnig yn cefnogi pob plentyn gan ei fod yn galluogi'r broses fabwysiadu i barhau yn ystod argyfwng COVID-19 a thrwy hynny, ganiatáu i blant gael eu paru a'u lleoli gyda'u teuluoedd parhaol. 

Pa dystiolaeth y gwnaethoch ei defnyddio i lywio eich asesiad, gan gynnwys tystiolaeth gan blant neu eu cynrychiolwyr?

Cyflwynodd Cymdeithas Mabwysiadu a Maethu Cymru (AFA Cymru) a Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru bapur yn amlinellu'r sefyllfa bresennol o ganlyniad i'r pandemig ac yn darparu data a oedd yn gysylltiedig â nifer y darpar fabwysiadwyr yr effeithid arnynt pe câi'r broses fabwysiadu ei hatal, ynghyd â data yn cadarnhau nifer y plant sy'n aros i gael eu lleoli â theuluoedd mabwysiadol. Cadarnhaodd y wybodaeth hon y byddai effaith andwyol ar blant yn y system ofal pe câi'r broses fabwysiadu ei hatal oherwydd methiant i fodloni gofynion y Rheoliadau. 

Felly, bydd yr hawddfreintiau yn cael effaith gadarnhaol gan y byddant yn galluogi'r broses fabwysiadu i fynd rhagddi yn ystod pandemig COVID-19. 

Sut ydych chi wedi ymgynghori â phlant a phobl ifanc? Os nad ydych chi wedi gwneud hynny, eglurwch pam

Nid ymgynghorwyd â phlant a phobl ifanc. Mae'r mater hwn yn ymwneud ag effeithiau argyfwng COVID-19 ar allu asiantaethau mabwysiadu i gydymffurfio â'r holl ofynion a osodwyd gan y broses asesu dau gam newydd a amlinellwyd yn Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) (Diwygio) 2020. 

O ganlyniad i natur frys y sefyllfa, ymgynghorwyd ag asiantaethau mabwysiadu a gwasanaethau mabwysiadu gwirfoddol. Ni chaiff y newid proses unrhyw effeithiau negyddol ar y plentyn; unwaith y bydd darpar fabwysiadydd wedi'i gymeradwyo, caiff plentyn ei leoli yn y ffordd arferol. 

Mae'r newid hwn yn galluogi'r gwasanaethau 'arferol' i barhau, felly ni ddylai effeithio'n uniongyrchol ar blant a phobl ifanc. Fodd bynnag, bydd peidio â chaniatáu hyblygrwydd yn y trefniadau rhwng y broses dau gam yn effeithio ar y cyflenwad o ddarpar fabwysiadwyr sy'n rhan o'r system, a fydd yn ei dro, yn atal y plant agored i niwed hyn rhag cael eu lleoli mewn amgylchedd teulu cefnogol a gofalgar. 

Pa dystiolaeth arall fyddai'n llywio'r asesiad?

Cymeradwywyd y broses hon gan yr Adran Addysg ac mae'n cael ei chyflwyno yn Lloegr ar hyn o bryd. 

Eglurwch sut mae'r cynnig yn debygol o effeithio ar hawliau plant

Yn yr adran hon, mae angen asesiad sy'n rhoi barn wybodus ynghylch effaith debygol y cynnig ar hawliau plant o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Mae'n hollbwysig eich bod yn osgoi'r dybiaeth bod y canlyniadau y bwriedir eu cael, fel y'u nodir uchod, yr un peth â'r effaith a ragwelir ar hawliau plant. 

Bydd angen i chi ystyried yn ofalus sut mae'r canlyniadau y bwriedir eu cael yn cysylltu â hawliau plant a pha effaith a gânt. Efallai y rhagwelir effeithiau sy'n wahanol i'r canlyniadau y bwriedir i'r cynnig eu cael. 

Dylech wneud y canlynol: 

  • nodwch pa erthyglau o'r Confensiwn sydd fwyaf perthnasol i'r cynnig
  • eglurwch a yw'r cynnig yn cynyddu i'r eithaf, yn cefnogi neu'n hyrwyddo hawliau plant o dan y Confensiwn, ac os ydyw, sut y gwna hynny, gan wneud cysylltiadau rhwng y canlyniadau a nodwyd yng nghwestiwn 1 a'r hawliau rydych wedi'u nodi
  • cofiwch fod hyrwyddo hawliau plant yn cynnwys: cynyddu mynediad plant at eu hawliau, neu wasanaethau a/neu adnoddau sy'n rhoi mynediad at hawliau, neu alluogi plant i gymryd rhan a manteisio ar eu hawliau. Dylech egluro sut mae'r cynnig yn cyflawni'r amcanion hyn, os o gwbl
  • eglurwch unrhyw effaith negyddol ar hawliau plant sy'n codi o'r cynnig, gan gynnwys unrhyw ostyngiad mewn adnoddau sydd ar gael i gefnogi polisïau neu raglenni
  • wrth ystyried pob un o'r cwestiynau uchod, sicrhewch eich bod yn cadw mewn cof sut y bydd y cynnig yn effeithio ar hawliau gwahanol grwpiau o blant (e.e. plant sy'n byw mewn tlodi, plant ag anableddau ac ati)
  • cyfeiriwch at unrhyw wybodaeth neu dystiolaeth sydd wedi llywio eich asesiad, gan gynnwys yr hyn a gasglwyd gan blant neu eu cynrychiolwyr

Nodir y trefniadau ar gyfer cynllunio gofal a lleoli plant sy'n derbyn gofal yn Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015 a'r Cod Ymarfer Rhan 6 ar Blant sy'n Derbyn Gofal a Phlant sy'n cael eu Lletya. Mae'r Rheoliadau Gwasanaethau Maethu yn darparu'r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer y ffordd y dylai darparwyr gwasanaethau maethu awdurdodau lleol, y trydydd sector a'r sector preifat ddiwallu anghenion plant a gaiff eu lleoli gyda'u gofalwyr maeth.

Erthyglau

Mae'r cynnig hwn yn rhoi sylw priodol i ddyletswyddau o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP), gan ystyried yr erthyglau canlynol yn bennaf:

Erthygl 1 – mae gan bob un o dan 18 oed yr holl hawliau yn y confensiwn

Erthygl 2 – Mae'r Confensiwn yn gymwys i bob plentyn waeth beth fo'i ethnigrwydd, rhywedd, crefydd, galluoedd, waeth beth y mae'n ei feddwl neu'n ei ddweud, ni waeth pa fath o deulu y daw ohono

Mae'r diwygiadau hyblyg i'r Rheoliadau yn gymwys i bob awdurdod lleol yng Nghymru ac i asiantaethau mabwysiadu gwirfoddol wrth arfer eu swyddogaethau mewn perthynas â phlant sy'n derbyn gofal a phlant sy'n cael eu lletya. Maent yn pennu sut y bydd awdurdodau lleol yn asesu ac yn cymeradwyo darpar fabwysiadwyr ac, i'r un graddau, sut y byddant yn sicrhau eu bod yn diwallu anghenion gofal a chymorth y plentyn a gaiff ei baru, sy'n cynnwys rhoi ystyriaeth ddyledus i etifeddiaeth, ethnigrwydd, crefydd a dewis iaith y plentyn. 

Erthygl 3 – Dylai pob sefydliad sy'n ymwneud â phlant anelu at yr hyn sydd orau i bob plentyn

Bydd y trefniadau hyblyg ar gyfer y broses asesu a chymeradwyo dau gam ar gyfer darpar fabwysiadwyr yn galluogi awdurdodau lleol i fwrw ati â'r broses fabwysiadu. Bydd hyn o fudd i'r plentyn gan y bydd yn sicrhau bod cyflenwad o ddarpar fabwysiadwyr yn barod i gael eu paru â rhai o'r plant mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas er mwyn gallu trefnu lleoliadau ar eu cyfer. Bydd hyn yn sicrhau y caiff eu hanghenion sylfaenol eu diwallu ac y cânt gynnig yr un cyfleoedd bywyd â phlant eraill. 

Erthygl 4 – Dylai llywodraethau sicrhau bod yr hawliau hyn ar gael i blant

Bydd y trefniadau hyblyg ar gyfer y broses asesu a chymeradwyo dau gam ar gyfer darpar fabwysiadwyr yn sicrhau bod cyflenwad o fabwysiadwyr ar gael. Bydd hyn yn creu hawl gyson i bob plentyn yng Nghymru gael y cyfle i gael ei leoli â theulu mabwysiadol a fydd yn galluogi'r plentyn i gael yr un cymorth a'r un cyfleoedd bywyd ag unrhyw blentyn arall. 

Erthygl 6 – Mae gan bob plentyn yr hawl i fywyd. Dylai llywodraethau sicrhau bod plant yn goroesi ac yn datblygu mewn ffordd iach

Bydd y trefniadau hyblyg ar gyfer y broses asesu a chymeradwyo dau gam ar gyfer darpar fabwysiadwyr yn sicrhau bod cyflenwad cyson o fabwysiadwyr ar gael.  Bydd hyn yn cynnig y cyfle i leoli plentyn â gorchymyn lleoli â theulu mabwysiadol a fydd yn darparu'r holl gymorth a gofal sydd eu hangen arno i gyflawni ei ganlyniadau llesiant personol. Bydd yr awdurdod lleol yn darparu'r holl gymorth sydd ei angen ar y plentyn a'r teulu mabwysiadol er mwyn sicrhau bod y lleoliad yn llwyddiannus ac er mwyn galluogi'r plentyn i barhau i ffynnu. 

Erthygl 8 (amddiffyn a chadw hunaniaeth) 

Caiff y plentyn neu'r person ifanc ei gefnogi gan ei rieni mabwysiadol i gynnal cysylltiadau teuluol, gan gynnwys cysylltiadau personol a chysylltiadau uniongyrchol â'i rieni genedigol a'i frodyr a'i chwiorydd (yn amodol ar unrhyw gyfyngiadau a osodwyd gan y llysoedd). 

Erthygl 12 (parch tuag at farn y plentyn)

Gall y plentyn neu'r person ifanc fynegi ei farn yn rhydd yn ystod pob cam o'r broses, a chaiff ei gefnogi i leisio ei farn. Rhoddir ystyriaeth briodol i farn y plentyn neu'r person ifanc wrth wneud penderfyniadau. 
Erthygl 13 (rhyddid mynegiant) 

Caiff y plentyn neu'r person ifanc wybodaeth briodol am y lleoliad mabwysiadol, sy'n addas ar gyfer ei oedran a'i lefel dealltwriaeth, a chymorth i ddeall y wybodaeth hon. 

Erthygl 19 – Dylai llywodraethau sicrhau y caiff plant ofal priodol, a'u hamddiffyn rhag trais, camdriniaeth ac esgeulustod gan eu rhieni neu unrhyw un arall sy'n gofalu amdanynt

Mae'r trefniadau hyblyg ar gyfer y broses asesu a chymeradwyo dau gam ar gyfer darpar fabwysiadwyr yn cefnogi Erthygl 19 gan ei bod yn golygu y gellir lleoli plentyn â theulu mabwysiadol. Caiff y broses ei rheoleiddio er mwyn sicrhau y caiff pob plentyn ei amddiffyn rhag trais, camdriniaeth a niwed. Mae awdurdodau lleol yn darparu'r holl gymorth angenrheidiol er mwyn diogelu'r plentyn wrth i'r lleoliad fynd rhagddo. 

Erthygl 20 – Mae'n rhaid i blant na all eu teulu eu hunain ofalu amdanynt dderbyn gofal priodol, gan bobl sy'n parchu eu crefydd, eu diwylliant a'u hiaith

Pan fydd awdurdodau lleol yn ystyried gwneud trefniadau ar gyfer lleoliad mabwysiadu, mae'n rhaid iddynt ystyried hil, crefydd a diwylliant y plentyn. Mae'n rhaid i'r Gorchymyn Mabwysiadu ystyried unrhyw help y byddai ei angen ar y plentyn er mwyn parhau â'r cysylltiadau hyn. 

Erthygl 21 – Pan gaiff plant eu mabwysiadu, rhaid rhoi blaenoriaeth i'r hyn sydd orau iddynt. Mae'r un rheolau yn gymwys pa un a gaiff y plant eu mabwysiadu yn eu gwlad enedigol neu os byddant yn mynd i fyw mewn gwlad arall

Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 yw'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer mabwysiadu o hyd. Mae'n ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdod lleol ddarparu gwasanaeth mabwysiadu, gan gynnwys gwasanaeth mabwysiadu rhwng gwledydd yn ei ardal ac i sicrhau y caiff gwasanaethau mabwysiadu o ansawdd uchel eu darparu'n gyson ledled Cymru. 

Erthygl 23 – Dylai plant ag unrhyw fath o anabledd gael gofal a chymorth arbennig er mwyn iddynt allu byw bywyd llawn a bodlon

Wrth arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â phobl anabl y mae angen gofal a chymorth arnynt, mae'n rhaid i awdurdodau lleol sicrhau y caiff eu hanghenion llesiant emosiynol a chorfforol eu diwallu bob amser. 

Erthygl 24 (iechyd a gwasanaethau iechyd)

Caiff anghenion iechyd ac anghenion datblygiadol plant mewn lleoliadau mabwysiadol eu diwallu

Erthygl 28 – Mae gan bob plentyn yr hawl i addysg. Mae'n rhaid i addysg gynradd fod am ddim. Mae'n rhaid i addysg uwchradd fod ar gael i bob plentyn. Mae'n rhaid i drefniadau disgyblu mewn ysgolion barchu urddas dynol plant. Mae'n rhaid i wledydd mwy cyfoethog helpu gwledydd tlotach i gyflawni hyn

Erthygl 29 – Dylai addysg ddatblygu personoliaeth a thalentau pob plentyn i'r eithaf. Dylai annog plant i barchu eu rhieni, a'u diwylliant nhw eu hunain a diwylliannau eraill

Mae'n rhaid i awdurdodau lleol sicrhau y caiff amrywiaeth sylweddol o wasanaethau eu darparu i bob plentyn a pherson ifanc (sy'n cynnwys plant sy'n derbyn gofal, plant a gaiff eu lletya a phlant a fabwysiadwyd). 

Erthygl 33 – Dylai'r Llywodraeth ddarparu ffyrdd o amddiffyn plant rhag cyffuriau peryglus  

Erthygl 34 – Mae'n rhaid i lywodraethau amddiffyn plant rhag achosion o gam-drin a chamfanteisio rhywiol 

Erthygl 36 – Mae'n rhaid i lywodraethau amddiffyn plant rhag pob math arall o gamfanteisio a allai achosi niwed iddynt

Diben cyffredinol y Rheoliadau yw diogelu a hyrwyddo llesiant plant a fabwysiadwyd a'u galluogi i adfer a gwella o niwed yn y gorffennol. Mae'r broses o leoli plant i'w mabwysiadu yn anelu at hyrwyddo canlyniadau llesiant personol, sy'n cynnwys eu hamddiffyn rhag camdriniaeth ac esgeulustod. 

Mae lleoli plentyn agored i niwed, y mae angen gofal a chymorth arno i'w helpu i ddatblygu ac i gefnogi ei ganlyniadau llesiant, â theulu mabwysiadol sefydlog a chefnogol yn hollbwysig o ran cefnogi'r plentyn hwnnw. Mae llais y plentyn yn rhan greiddiol o'r broses asesu, cynllunio ac adolygu ac mae'n rhaid i awdurdodau lleol/asiantaethau sicrhau ei fod yn cael rhywfaint o ddewis o ran y gwasanaethau a fydd yn ei gefnogi unwaith y bydd gorchymyn mabwysiadu/lleoliad wedi'i ddyfarnu, gan sicrhau y gall ddylanwadu ar ansawdd a chyfeiriad y cymorth y bydd yn ei gael. 

Mae effeithiau cadarnhaol allweddol y cynnig hwn yn cynnwys y ffaith y bydd plant yn cael eu paru'n gyflymach â theuluoedd mabwysiadol addas, yn hytrach na'r oedi presennol a achosir gan COVID-19, ac y bydd y cyfnod o amser y byddant yn ei dreulio yn y system ofal felly'n lleihau. 

Bydd newidiadau i'r broses asesu a chymeradwyo ar gyfer darpar fabwysiadwyr hefyd yn gwella'r wybodaeth a'r cymorth a roddir i ddarpar fabwysiadwyr, plant, pobl ifanc a'u teuluoedd am y gofal a'r cymorth sy'n gysylltiedig â'r gwasanaethau a ddarperir iddynt. Yn ogystal, byddant yn rhoi cyfle gwirioneddol iddynt leisio barn am y broses fabwysiadu a'r gofal a'r cymorth a gânt (drwy adolygiadau) gan ddarparwr y gwasanaeth. 

Ni nodwyd unrhyw achosion o wrthdaro ag unrhyw erthyglau yn CCUHP.