Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 29 Tachwedd 2013.

Cyfnod ymgynghori:
8 Medi 2013 i 29 Tachwedd 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Manylion am y canlyniad

Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 143 KB

PDF
143 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Mae'r ddogfen ymgynghori hon yn ceisio eich barn am y cynigion ar gyfer rheoliadau'n ymwneud â hysbysu am ddyddiadau tymhorau ysgol.

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o’r anawsterau y mae nifer o deuluoedd sy’n gweithio’n galed ledled Cymru yn eu hwynebu o ganlyniad i amrywiadau yn nyddiadau tymhorau ysgol ac felly gwyliau’r ysgol.

Er mwyn rhoi sylw i’r mater hwn mae newidiadau deddfwriaethol i’r modd y caiff dyddiadau tymhorau ysgol eu pennu wedi’u cynnwys yn y Bil Addysg (Cymru) a gyflwynodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 1 Gorffennaf 2013. Mae’r Cynulliad wrthi’n craffu ar y “Bil” ar hyn o bryd ac yn amodol ar basio a derbyn Cydsyniad Brenhinol.

Mae’r newidiadau arfaethedig yn golygu y bydd yn rhaid i awdurdodau lleol hysbysu Gweinidogion Cymru am ddyddiadau tymhorau sydd wedi’u pennu ar gyfer pob ysgol a gynhelir yn eu hardaloedd nhw a bydd gan Weinidogion Cymru bŵer i wneud rheoliadau i’w galluogi i ddarparu ar gyfer sut bydd awdurdodau lleol yn rhoi gwybod iddynt am y dyddiadau hynny ac erbyn pryd.

Dogfennau ymgynghori

Dogfen ymgynghori , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 90 KB

PDF
90 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.