Neidio i'r prif gynnwy

Disgrifiwch ac eglurwch effaith y cynnig ar blant a phobl ifanc

Cefndir

Mae'r asesiad effaith hwn yn ymwneud â'r Rhestr ddrafft o Sefydliadau Ôl-16 Arbennig Annibynnol ('rheoliadau drafft ISPI') a gyhoeddwyd ar gyfer ymgynghoriad ar 10 Ebrill 2020; daeth yr ymgynghoriad i ben ar 30 Mehefin 2020.

Mae Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 ('Deddf 2018') yn gwneud darpariaeth ar gyfer fframwaith statudol newydd i gefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol ('ADY'). Bydd yn disodli'r ddeddfwriaeth bresennol sy'n ymwneud ag anghenion addysg arbennig ('AAA') ac asesu plant a phobl ifanc ag anawsterau a/neu anableddau dysgu ('AAD') mewn addysg a hyfforddiant ôl-16.

Ymhlith pethau eraill, mae Deddf 2018 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru sefydlu, cynnal a chyhoeddi rhestr o sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol yng Nghymru a Lloegr ("y rhestr").

Ystyr Sefydliad Ôl-16 Arbennig Annibynnol (ISPI) yw sefydliad sy'n darparu addysg neu hyfforddiant i bobl dros oedran ysgol gorfodol ac sydd wedi'i drefnu'n arbennig i ddarparu addysg neu hyfforddiant o'r fath i bobl ag anghenion dysgu ychwanegol. Fodd bynnag, ni all fod yn:

  • sefydliad o fewn y sector addysg bellach
  • ysgol annibynnol wedi'i chynnwys yng nghofrestr ysgolion annibynnol Cymru (a gedwir o dan adran 158 o Ddeddf Addysg 2002 (p. 32))
  • sefydliad addysg annibynnol (o fewn ystyr Pennod 1 o Ran 4 o Ddeddf Addysg a Sgiliau 2008 (p. 25)), wedi ei gynnwys yng nghofrestr sefydliadau addysg annibynnol Lloegr (a gedwir o dan adran 95 o'r Ddeddf honno), neu
  • Academi 16 i 19

Mae Deddf 2018 yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau ar gyfer cynnwys y rhestr gyhoeddedig; gofynion y mae’n rhaid i sefydliadau gydymffurfio â hwy fel amod o gael eu cynnwys ar y rhestr; a gofynion y mae’n rhaid cydymffurfio â hwy i aros ar y rhestr (gan gynnwys gofynion i Weinidogion Cymru gymeradwyo trefniadau yn y sefydliad a newid trefniadau o'r fath). Mae hefyd yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru dynnu'r sefydliad oddi ar y rhestr a rhoi hawl i berchnogion sefydliadau apelio i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn erbyn penderfyniadau.

Bwriedir i'r rheoliadau ISPI drafft gael eu gosod gerbron Senedd Cymru ym mis Hydref 2020, gyda’r bwriad o weld prif ddarpariaethau Deddf 2018 a’r rheoliadau yn cychwyn o hydref 2021. Mae hyn er mwyn rhoi digon o amser i bob ISPI wneud cais i gael ei gynnwys ar y rhestr a chael penderfyniad ynghylch y cais hwnnw cyn cychwyn y Ddeddf ym mis Medi 2021.

Ar hyn o bryd nid oes rhestr gyfatebol o dan y system bresennol. Fodd bynnag, mae cytundeb ariannu ar gael sy’n nodi amodau'r cyllid, gan gynnwys amodau penodol fel ansawdd y ddarpariaeth.

Eglurwch sut y mae’r cynnig yn debygol o effeithio ar hawliau plant

Effaith y cynnig ar fywydau plant

Fe gafodd y gwaith o ddatblygu'r cynigion ar gyfer y rheoliadau ISPI drafft ei lywio gan y bwriadau polisi y tu ôl i'r Ddeddf a hawliau Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn ('CCUHP').

Cwblhawyd cyfres o asesiadau effaith wrth ddatblygu Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) ('y Bil'), gan gynnwys asesiad o’r effaith ar hawliau plant. Cyhoeddwyd yr asesiadau effaith ym mis Rhagfyr 2016 wrth gyflwyno'r Bil ac fe'u diwygiwyd drwy gydol cyfnod y craffu deddfwriaethol ar y Bil. Gan fod y rheoliadau hyn yn cael eu gwneud o dan Ddeddf 2018, ystyriwyd effaith bosibl y darpariaethau sy'n ymwneud â rheoliadau ISPI fel rhan o ddatblygiad y Bil ac adlewyrchir hyn yn yr asesiadau effaith priodol.

Mae'r asesiad hwn o'r effaith ar hawliau plant mewn perthynas â’r Rheoliadau ISPI drafft yn asesu effaith y prosesau, y gweithdrefnau a'r gofynion a ragnodir yn y rheoliadau drafft, ar blant a phobl ifanc.

Nod y rheoliadau ISPI drafft yw creu system genedlaethol sy'n rhoi sicrwydd bod pob ISPI yng Nghymru a Lloegr yn bodloni'r meini prawf gofynnol sy'n ymwneud ag ansawdd y ddarpariaeth dysgu ychwanegol a ddarperir ynddo. Bwriad y Ddeddf a'r rheoliadau a wneir o dan y pŵer hwn yw darparu sail hirdymor i system statudol newydd ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc ag ADY drwy sicrhau bod awdurdodau lleol yn lleoli pobl ifanc mewn sefydliadau sy'n hyfyw o ran ansawdd y ddarpariaeth y maent yn ei darparu.

Bydd system genedlaethol yn rhoi lefel o sicrwydd i Lywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol a theuluoedd mai dim ond mewn ISPI sydd wedi bodloni set gyson o feini prawf gofynnol y rhoddir dysgwyr/pobl ifanc. Dylai hyn gael effaith gadarnhaol ar blant a phobl ifanc. Nod cyhoeddi rhestr o ISPI yng Nghymru a Lloegr yw helpu i roi sicrwydd i awdurdodau lleol y bydd y ddarpariaeth addysgol yn y sefydliadau a restrir yn ddigonol i ddiwallu anghenion rhesymol addysg a hyfforddiant pobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY).

Bydd angen i'r ISPIs ar y rhestr fodloni gofynion penodol. Caiff hyn ei fonitro er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio wrth gynnig darpariaeth o’r ansawdd sydd ei hangen.

Mae gofynion y rheoliadau ISPI drafft yn canolbwyntio ar atal plant a phobl ifanc rhag colli cyfleoedd addysgol a'r cyfle i gyflawni eu potensial, drwy sicrhau eu bod yn derbyn y ddarpariaeth y mae eu ADY yn galw amdanynt, mewn ffordd amserol ac effeithlon, gan eu galluogi i gymryd rhan mewn dysgu ac elwa arno.

Gan gofio mai er eu mwyn nhw y mae’r system gymorth newydd, rydym hefyd wedi ceisio cynnwys plant, pobl ifanc a'u teuluoedd wrth ddatblygu'r system ADY yn gyffredinol, drwy gynnal digwyddiadau ymgysylltu wedi'u targedu. Nid yw'r rheoliadau penodol hyn yn effeithio'n uniongyrchol ar blant a phobl ifanc gan mai rheoliadau technegol ydynt sy'n ymwneud â phroses ymgeisio, lle gall perchennog ISPI wneud cais i fod ar restr Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, o ganlyniad i hyn, bydd ISPIs ar y rhestr yn gymwys i dderbyn dysgwyr a ariennir gan awdurdodau lleol, a all fanteisio ar ddarpariaeth addysgol arbenigol wedi'i theilwra i'w hanghenion. Felly, bydd y rheoliadau'n gwahardd awdurdodau lleol Cymru rhag rhoi pobl ifanc mewn ISPIs nad ydynt ar y rhestr. Mewn geiriau eraill, rhaid i ISPI fod ar y rhestr er mwyn anfon pobl ifanc sy'n cael eu hariannu gan awdurdodau lleol Cymru yno. Bydd y rheoliadau yn cael eu hategu gan ganllawiau anstatudol i gynorthwyo partïon â buddiant ac eraill i wneud cais.

Effaith y cynnig ar wahanol grwpiau o blant

Mae plant a phobl ifanc ag ADY o dan anfantais benodol o gymharu â'r rhai nad oes ganddynt ADY. Mae lefelau cyrhaeddiad addysgol ymhlith y rhai sydd ag ADY yn sylweddol is na'r cyfartaledd ac mae eu cyfleoedd mewn bywyd yn cael eu amharu'n sylweddol o ganlyniad. At hynny, mae plant a phobl ifanc y cofnodir bod ganddynt AAA ar hyn o bryd ddwywaith yn fwy tebygol o fod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim â'r rhai nad ydynt yn gymwys.

Mae darpariaethau Deddf 2018 a'r rheoliadau ISPI drafft yn rhoi sicrwydd i blant a phobl ifanc y bydd y ddarpariaeth arbenigol sydd ei hangen arnynt mewn ISPI, pe bai hyn yn cael ei enwi fel eu Darpariaeth Dysgu Ychwanegol ar eu Cynllun Datblygu Unigol (CDU), yn cyrraedd y meini prawf gofynnol tra'n darparu ar eu cyfer.

Yn fras, mae Darpariaeth Dysgu Ychwanegol ar gyfer person tair oed neu drosodd yn golygu darpariaeth addysgol neu hyfforddiant sy'n ychwanegol at, neu'n wahanol i, yr hyn a gynigir yn gyffredinol ar gyfer eraill o'r un oedran.

Yn fras, mae CDU yn ddogfen sy'n cynnwys disgrifiad o anghenion dysgu ychwanegol unigolyn a'r ddarpariaeth dysgu ychwanegol y mae anhawster neu anabledd dysgu'r person yn galw amdano.

Ymgynghori â phlant a phobl ifanc

Y prif ymgynghoriad a gynhaliwyd mewn perthynas â'r system ADY newydd oedd yr un a gynhaliwyd ar gyfer Bil drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru). Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 6 Gorffennaf a 18 Rhagfyr 2015.

Cyhoeddwyd dogfen ymgynghori ar gyfer plant a phobl ifanc ynghyd ag esboniad hawdd ei ddarllen o'r Bil drafft. Roedd y dogfennau hyn yn ategu gweithdai pwrpasol gyda phlant, pobl ifanc a'u rhieni/gofalwyr. Cynhaliwyd cyfanswm o 23 o weithdai.

Yn ystod y gweithdai, cafodd barn plant a phobl ifanc ei gasglu ar wahân i farn eu rhieni/gofalwyr er mwyn sicrhau bod eu sylwadau yn cael eu cofnodi'n gywir. Cynhaliwyd 19 o weithdai ar gyfer plant a phobl ifanc mewn 16 o leoliadau, gyda chyfanswm o 222 o gyfranogwyr. Cynhaliwyd gweithdai mewn ysgolion arbennig, ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd, lleoliadau addysg bellach ac uned cyfeirio disgyblion, yn ogystal â gyda grŵp o blant sy'n derbyn gofal a phlant a addysgir yn y cartref.

Roedd pedwar gweithdy ar gyfer oedolion â buddiant uniongyrchol yn y ddeddfwriaeth; gyda chyfanswm o 45 o oedolion yn cymryd rhan. Roedd y sesiynau'n cynnwys grŵp o ofalwyr maeth, grŵp cymorth o rieni plant â datganiad, grŵp blynyddoedd cynnar a grŵp o rieni sy'n addysgu gartref.

Yn ogystal â'r gyfres o weithdai gyda phlant, pobl ifanc a'u gofalwyr, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ddau ddigwyddiad cenedlaethol yn y Gogledd a’r De, gyda 158 o bobl yn bresennol; ac fe gyflwynodd raglen o sesiynau anffurfiol wedi'u targedu gyda rhanddeiliaid allweddol o bob rhan o'r gwasanaethau cyhoeddus a'r trydydd sector.

Datblygwyd dogfen ymgynghori hawdd ei darllen a fersiwn i blant a phobl ifanc mewn perthynas â’r Cod ADY drafft a'r rheoliadau drafft, gan gynnwys rheoliadau drafft CADY, gan Lywodraeth Cymru i'w cyhoeddi yn ystod 2019. Cafodd yr holl sylwadau ac adborth a gafwyd gan blant a phobl ifanc yn ystod y cyfnod ymgynghori eu hystyried a'u defnyddio i fireinio'r rheoliadau fel oedd yn briodol.

Ym mis Mawrth 2020, ymgynghorwyd ar reoliadau ISPI a gallwn gadarnhau, er bod yr ymgynghoriad wedi'i dargedu, iddo fod ar gael ar-lein i'r cyhoedd ei ystyried. Fodd bynnag, gan mai rheoliadau technegol yw'r rhain sy'n ymwneud â chofrestru ISPIs, nid oedd angen ymgynghori’n benodol â phlant a phobl ifanc, gan nad yw'r rheoliadau hyn yn effeithio arnynt yn uniongyrchol. O ganlyniad, nid ydym wedi cael unrhyw adborth gan blant a phobl ifanc. Fodd bynnag, cawsom adborth gan randdeiliaid, ac er nad yw wedi arwain at unrhyw newidiadau gofynnol ar gyfer y rheoliadau, rydym wedi ymgorffori newidiadau fel rhan o'r canllawiau anstatudol.

Effaith gyffredinol ar hawliau plant

Fel sy'n ofynnol gan Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, datblygwyd y rheoliadau ISPI drafft gan Weinidogion Cymru gan roi sylw dyledus i ofynion CCUHP a'i Brotocolau Dewisol.

Nod Deddf 2018 ei hun yw gwella gwasanaethau i blant a phobl ifanc yn sylweddol a gwella hawliau'r plentyn o ran addysg a dysgu. Datblygwyd y darpariaethau a nodir yn y rheoliadau ISPI drafft gyda hawliau plant a phobl ifanc mewn golwg.

Erthyglau perthnasol CCUHP a’r ffordd y caiff hawliau dan yr erthyglau hyn eu cefnogi

Ystyriwyd erthyglau CCUHP a'r canlynol sydd fwyaf perthnasol/â chysylltiad anuniongyrchol â rheoliadau ISPI.

  • Erthygl 2: Peidio camwahaniaethu
  • Erthygl 3: Budd y plentyn
  • Erthygl 23: Plant anabl
  • Erthygl 28: Addysg
  • Erthygl 29: Nodau addysg

Nod y Rheoliadau ISPI drafft yw sicrhau bod plant a phobl ifanc sydd angen darpariaeth mewn ISPI yn cael y ddarpariaeth angenrheidiol i ddiwallu eu hanghenion dysgu fel y nodir yn eu CDU (erthyglau 2, 28 a 29).

Mae'r Rheoliadau ISPI drafft yn ceisio sicrhau bod plant a phobl ifanc yn medru manteisio ar ddarpariaeth o ansawdd mewn perthynas â'r ddarpariaeth dysgu ychwanegol a nodir yn eu CDU, a rhoi sail tymor hwy i system statudol newydd drwy sicrhau bod awdurdodau lleol yn lleoli pobl ifanc mewn sefydliadau sy'n hyfyw o ran ansawdd y eu darpariaeth (erthyglau 28 a 29).

Bydd y Rheoliadau ISPI drafft, drwy system genedlaethol, yn rhoi lefel o sicrwydd i Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a theuluoedd mai dim ond mewn ISPIs sydd wedi bodloni set gyson o feini prawf gofynnol y rhoddir dysgwyr/pobl ifanc, gan sicrhau bod darpariaeth dysgu ychwanegol y dysgwyr/pobl ifanc yn cael ei fodloni (erthyglau 23, 28 a 29).

Mae'r rheoliad ISPI drafft yn canolbwyntio ar atal plant a phobl ifanc rhag colli cyfleoedd addysgol a'r cyfle i gyflawni eu potensial, drwy sicrhau eu bod yn derbyn y ddarpariaeth y mae eu ADY yn galw amdani mewn modd amserol ac effeithlon, gan eu galluogi i gymryd rhan mewn dysgu ac elwa ohono (erthyglau 3, 23, 28 a 29).

Effaith negyddol y cynnig ar hawliau plant

Ni nodwyd unrhyw effaith negyddol y byddai’r cynnig hwn yn ei chael ar blant a phobl ifanc.