Mae’r canllaw hwn ar gyfer holl leoliadau addysg yng Nghymru yn cynnwys ysgolion y wlad ac ysgolion preifat, ynghyd â sefydliadau addysg bellach ac uwch fel colegau a phrifysgolion.
Cynnwys
Dylid darllen y canllaw hwn ar y cyd â Casglu Deunyddiau Gwastraff ar Wahân ar gyfer Ailgylchu: Cod Ymarfer Cymru. Mae’r canllaw hwn yn darparu cyngor ategol ar gyfer sectorau unigol ac ni ddylid ei ddarllen fel canllaw ar ei ben ei hun.
Pam mae angen ichi ailgylchu
O 6 Ebrill 2024, bydd y gyfraith newydd yn golygu bydd yn rhaid i holl weithleoedd gyflwyno’r deunyddiau canlynol ar wahân i’w hailgylchu a threfnu i’r gwastraff gael ei gasglu ar wahân i wastraff arall.
Beth i’w ailgylchu
- Papur a cherdyn;
- Gwydr;
- Metel, plastig, a chartonau a deunyddiau eraill tebyg (er enghraifft, cwpanau coffi);
- Bwyd – unrhyw safle sy’n cynhyrchu 5kg neu fwy o wastraff bwyd mewn saith diwrnod yn olynol;
- Cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach (sWEEE) heb eu gwerthu a
- Tecstilau heb eu gwerthu.
Mae’r cyfyngiad 5kg o wastraff bwyd yn berthnasol i unrhyw gyfnod o saith diwrnod. Os ydych yn cynhyrchu mwy na 5kg o wastraff bwyd mewn unrhyw gyfnod o saith niwrnod, yna mae’n rhaid iddo gael ei gyflwyno ar wahân i’w gasglu. Os nad ydych yn cynhyrchu mwy na 5kg yr wythnos yna dylid monitro hyn i gyfrif am unrhyw newidiadau ar y safle, er enghraifft cynnydd mewn lefelau staffio neu fyfyrwyr.
Dim ond ar gyfer gwastraff tebyg i wastraff o’r cartref a gynhyrchir gan weithleoedd y mae’r gyfraith hon yn berthnasol, hynny yw, gwastraff a geir mewn cartrefi fel arfer ac a gaiff ei gasglu’n arferol o ymyl y ffordd.
Mae rhestr lawn o ddeunyddiau ailgylchadwy y dylid eu cyflwyno ar wahân i’w hailgylchu ar gael yma: Casglu Deunyddiau Gwastraff ar Wahân ar gyfer Ailgylchu: Cod Ymarfer
Fel cynhyrchydd gwastraff, mae’n ofynnol ichi gynhyrchu nodyn trosglwyddo gwastraff. Yn y rhan fwyaf o achosion, fodd bynnag, bydd eich casglwr gwastraff yn gwneud hyn i chi. Dylech ei wirio’n ofalus i sicrhau bod y disgrifiad o’r gwastraff sy’n cael ei gasglu’n gywir. Ni chaiff eich casglwr gwastraff anfon unrhyw un o’r deunyddiau wedi’u gwahanu i dirlenwi neu losgi. Dylech ystyried gofyn i'ch casglwr gwastraff am dystiolaeth reolaidd o gyrchfannau prosesu terfynol eich deunyddiau a wahanwyd.
Mae’r gyfraith newydd yn gwahardd gwaredu unrhyw symiau o wastraff bwyd i lawr y sinc neu’r draen i garthffosydd. Mae’n golygu na chewch ddefnyddio unedau mwydo mewn sinciau sy’n torri neu’n malu gwastraff bwyd a’i anfon i lawr y draen.
Er na fydd yn anghyfreithlon ichi gael uned mwydo, peiriant dad-ddyfrio, neu dechnoleg gwaredu gwastraff bwyd arall tebyg, bydd yn anghyfreithlon ichi eu defnyddio i anfon gwastraff bwyd i garthffosydd.
Bydd yn rhaid i holl ddeiliaid gweithleoedd gyflwyno deunyddiau ailgylchadwy ar wahân yn gywir i’w casglu gan eu dewis o gasglwr gwastraff. Mae hyn yn wir p’un a ydych yn berchennog, yn rhentu, neu’n prydlesu eich eiddo.
Mae ymgymryd ag ailgylchu mewn lleoliadau addysg yn dod gyda’r fantais ychwanegol o gyflwyno materion amgylcheddol i genhedlaeth newydd a normaleiddio ymddygiad ailgylchu i sicrhau ei fod yn cael ei wneud gartref, yn yr ysgol, ac yn nes ymlaen mewn bywyd yn y byd gwaith.
Sut i ddeall eich gwastraff ac ailgylchu’n well
Er mwyn canfod y gwahanol fathau o wastraff y mae eich sefydliad yn ei gynhyrchu, cynhaliwch archwiliad gwastraff trwy gerdded o amgylch gwahanol fannau megis ystafelloedd dosbarth neu weithleoedd, swyddfeydd, ffreuturau neu geginau, i archwilio cynnwys biniau gwastraff cyffredinol ac amlygu unrhyw ymdrechion i leihau gwastraff neu ailgylchu sydd eisoes ar waith. Ar eich safleoedd, efallai mai dyma’r mannau sy’n fwyaf tebygol o gynhyrchu gwastraff:
- Ffreuturau a cheginau – gwastraff bwyd a deunyddiau pacio;
- Ystafelloedd staff – gwastraff papur a deunyddiau pacio;
- Swyddfeydd Cyffredinol – papur;
- Ystafelloedd dosbarth a mannau gweithio – papur a gwastraff bwyd a
- Tir allanol fel caeau chwarae ysgolion, campws y coleg neu’r brifysgol – gwastraff bwyd a deunyddiau pacio.
Efallai y bydd sefydliadau addysg hefyd yn cynhyrchu mathau o wastraff peryglus, fel paent, olewau neu gemegau sy’n galw am wasanaeth casglu gwastraff arbenigol.
Atal gwastraff yn y lle cyntaf
Bydd lleihau neu atal faint o wastraff yr ydych yn ei gynhyrchu’n helpu i arbed arian a lleihau maint y biniau y bydd eu hangen arnoch.
Dyma rai awgrymiadau i’ch helpu i leihau eich gwastraff:
- Rhoddi stoc ormodol neu stoc heb ei werthu – gallwch roi gwarged bwyd i elusen neu gael oergell ar gyfer staff i ddal cynnyrch y gallant ei fwyta neu ei gludo adref am ddim. Mae Canllaw ar gael ar GOV.UK sut mae’n rhaid i fusnesau bwyd gael gwared ar fwyd a chyn ddeunyddiau bwyd.
- Defnyddiwch ddulliau marchnata di-bapur;
- Prynwch nwyddau eilgylch, nwyddau y gellir eu hail-lenwi neu eu hailddefnyddio pan bynnag fo’n bosibl;
- Darparwch ffynhonnau dŵr i staff a myfyrwyr eu defnyddio a defnyddiwch gwpanau, llestri a chyllyll a ffyrc ailddefnyddiadwy;
- Ar gyfer diodydd tecawê, anogwch eich cwsmeriaid i ddod â’u cwpan ailddefnyddiadwy eu hunain drwy godi tâl am gwpanau untro
- Sicrhewch cyn lleied â phosibl o ddeunydd pacio ar eich bwyd a diod tecawê a bod y deunydd pacio a gaiff ei ddefnyddio yn ailgylchadwy neu’n ailddefnyddiadwy ac
- Os ydych yn cyflenwi bagiau rhoddion ar gyfer Wythnos y Glas, rhowch roddion ailddefnyddiadwy fel cwpanau coffi, poteli dŵr neu fagiau siopa cotwm.
Efallai y bydd cost ynghlwm â gwneud y newidiadau hyn ond gallai cynyddu faint rydych yn ei ailgylchu leihau eich costau gwaredu gwastraff yn y tymor hir.
Sut i gydymffurfio â’r gyfraith ailgylchu newydd
Os ydych eisoes yn casglu ac ailgylchu’r holl ddeunyddiau fel sy’n angenrheidiol dan y gyfraith newydd, efallai na fydd rhaid ichi wneud unrhyw beth arall. Argymhellwn ichi ddarllen Casglu Deunyddiau Gwastraff ar Wahân ar gyfer Ailgylchu: Cod Ymarfer i wirio’n sicr eich bod yn gwneud popeth y mae angen ichi ei wneud. Mae hyn yn cynnwys rhestr o’r holl fathau penodol o bethau y mae’n rhaid eu hailgylchu;
Sut i drefnu gwasanaeth ailgylchu newydd
Os bydd angen ichi drefnu gwasanaeth ailgylchu newydd, mae’n werth ystyried y canlynol:
- A fydd angen ichi gael casgliadau ar adegau penodol o’r diwrnod neu’r wythnos er mwyn cyfrif am newidiadau yn symiau gwastraff a sicrhau diogelwch y safle. Cofiwch y gall cerbydau casglu gwastraff fod yn beryglus i ddisgyblion neu fyfyrwyr os bydd angen iddynt deithio ar draws ardaloedd sydd â llawer o draffig cerddwyr;
- a yw’r swm neu’r math o wastraff rydych yn ei greu yn amrywio yn ystod y flwyddyn, er enghraifft, ystyriwch a oes angen casgliadau arnoch yn ystod gwyliau diwedd tymor neu hanner tymor.
- Beth yw swm neu fath y gwastraff rydych yn ei gynhyrchu’n rheolaidd? A yw hynny’n newid yn ystod y flwyddyn? Er enghraifft, lleihad dros gyfnod y Nadolig neu wyliau ysgol. Efallai bydd angen i’ch gwasanaeth casglu, yn cynnwys y nifer o finiau a pha mor aml y bydd angen eu gwagio, fod yn hyblyg;
- Efallai mai ychydig yn aml fydd yn gweithio’n well i chi. Mae’r rhan fwyaf o gasglwyr gwastraff yn cynnig cynwysyddion o wahanol feintiau, yn cynnwys sachau ar gyfer rhai mathau o wastraff. Unwaith y byddwch yn dechrau ailgylchu, efallai y byddwch yn gallu lleihau maint eich biniau gwastraff cyffredinol;
- Siaradwch gyda’ch casglwr gwastraff presennol am eich anghenion ailgylchu newydd. Bydd angen iddyn nhw fod yn ymwybodol o’r gyfraith newydd a sicrhau bod y gwasanaethau y maen nhw’n eu cynnig yn cydymffurfio a
- Gallech hefyd gael dyfynbrisiau gan amrywiaeth o gasglwyr er mwyn cael y pris gorau a’r gwasanaeth sy’n fwyaf addas i chi.
Os mai ysgol awdurdod lleol ydych chi, mae’n bosibl y bydd trefniadau ar y cyd yn cael eu gwneud ar gyfer yr holl ysgolion yn eich ardal cyngor chi. Mae’r gyfraith yn berthnasol i holl eiddo awdurdodau lleol, felly mae’n bosibl y bydd caffael ar lefel corfforaethol yn digwydd i leihau amser ac ymdrech ar draws amrywiol adrannau neu adeiladau.
Gall sefydliadau yn y sector cyhoeddus ddefnyddio cytundebau contractau fframwaith a gaiff eu caffael gan sefydliadau prynu proffesiynol fel Hwb Caffael Cydweithredol Cymru (Gwerthwch i Gymru) i gaffael nwyddau a gwasanaethau, gan arbed amser ac ymdrech i chi, ynghyd ag arian o bosibl.
Gall prifysgolion a sefydliadau addysg uwch a phellach ddefnyddio fframweithiau contract a gaiff eu caffael gan Gonsortiwm Prynu Addysg Uwch Cymru (HEPCW) neu drwy gytundebau y DU gyfan a sefydlwyd gan Gonsortia Prynu Prifysgolion neu’r UK University Purchasing Consortia (UKUPC), endid a grewyd gan yr wyth consortiwm prynu yn y DU sy’n cefnogi caffael cydweithredol o fewn Addysg Uwch a Phellach.
Lle ar gyfer eich biniau
Mae’n bwysig ichi ystyried ble a sut byddwch yn storio eich gwastraff ac ailgylchu.
Sicrhewch fod cynwysyddion a mannau storio gwastraff:
- yn ddiogel a hygyrch i bobl, yn cynnwys defnyddwyr sydd ag anableddau, a’ch casglwr gwastraff;
- ddim mewn lleoliadau sy’n peri rhwystr, perygl tân neu’n rhwystro llwybrau dihangfa;
- yn darparu digon o gapasiti i ymdopi â’r mathau a’r symiau o wastraff a deunyddiau ailgylchadwy’r ydych yn eu cynhyrchu a’u storio rhwng casgliadau;
- ddim wedi’u lleoli wrth ymyl ardaloedd paratoi neu storio bwyd am resymau diogelwch a hylendid;
- yn agos i ble caiff y gwastraff ac ailgylchu ei greu;
- yn daclus, yn lân, a heb lanast neu wastraff rhydd ac
- yn cael eu diogelu gyda chaeadau sy’n cau’n sownd, ac nad ydynt yn caniatáu i wastraff neu ailgylchu ddianc.
Mae’n bwysig:
- labelu eich biniau ailgylchu i osgoi halogiad. Gallwch ddefnyddio labeli oddi ar wefan y Busnes o Ailgylchu a
- atal dŵr rhag cael ei halogi gan wastraff wedi’i storio.
Bydd dilyn y canllaw a’r cyngor hwn hefyd yn helpu osgoi problemau rheoli plâu.
Ar safleoedd mwy, efallai y byddwch am hurio neu brynu peiriant buwndelu i gywasgu deunyddiau fel deunydd pacio cardbord. Bydd angen ichi wirio bod eich casglwr yn fodlon â hyn ac a oes unrhyw gyfyngiadau ar bwysau’r bwndeli y gallech eu cynhyrchu. Efallai bydd eich contractwr yn gallu darparu peiriant bwndelu a hyfforddiant.
Os ydych yn defnyddio peiriant bwndelu, efallai y bydd angen ichi gofrestru “esemptiad gwastraff” gyda Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Gwastraff bwyd a hylendid
Yn anorfod, bydd ysgolion, colegau a phrifysgolion sydd â ffreuturau neu geginau yn creu gwastraff bwyd mewn symiau mwy na’r sefydliadau hynny nad ydynt yn paratoi a choginio bwyd ar y safle.
Wrth gynllunio eich casgliadau gwastraff bwyd yn eich lleoliad addysg, efallai y dymunwch ystyried gasglu gwastraff bwyd o’r gegin ar wahân i’r gwastraff a gesglir yn y “tu blaen” neu ardaloedd cyhoeddus. Gallai hyn eich galluogi i reoli faint o ddeunydd anghywir sy’n mynd i’r biniau’n haws, a lleihau’r risg o halogi biniau bwyd allanol cyfan.
Mae canllawiau ar Gyfoeth Naturiol Cymru ar wastraff bwyd i'ch helpu i waredu gwastraff yn iawn i fodloni'r gyfraith Dyletswydd Gofal gwastraff presennol.
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd hefyd yn darparu canllawiau sy’n golygu bod angen ichi:
- storio bwyd mewn cynwysyddion y gellir eu selio sydd yn:
- soled, a digon cryf i ddal gwastraff bwyd;
- mewn cyflwr da – h.y. heb ddifrod neu holltau a allai alluogi plâu i gyrraedd y gwastraff neu achosi gollyngiadau ac
- yn hawdd eu glanhau a’u diheintio.
- symud gwastraff bwyd a sbwriel arall o ardaloedd cyn gynted â phosibl a
- bod â digon o gyfleusterau storio gwastraff i storio a gwaredu gwastraff bwyd a sbwriel arall i’w cadw’n lân.
Sicrhewch fod unrhyw newidiadau a wnewch yn cael eu cynnwys yn eich Systemau Rheoli Diogelwch Bwyd.
Os yw eich casglwr gwastraff bwyd yn caniatáu ichi ddefnyddio bagiau leinio compostadwy, sicrhewch fod eich bagiau leinio yn cydymffurfio â BS EN 13432. Mae’r safon hwn yn golygu bod yr holl wastraff bwyd a gaiff ei anfon i’w brosesu’n fasnachol yn gorfod bodloni’r safonau iawn.
Gallwch gyfeirio at ein canllaw ar gyfer y sector lletygarwch a fydd yn rhoi rhagor o wybodaeth am gasglu gwastraff bwyd i’w ailgylchu.
Ymgysylltu â staff a disgyblion
Wrth sefydlu cynllun ailgylchu, dylech ymgysylltu â:
- y person sy’n gyfrifol am gaffael nwyddau a gwasanaethau;
- Gofalwyr neu weithwyr sy’n gyfrifol am wagio biniau mewnol i gynwysyddion allanol, neu sy’n cysylltu â chasglwyr gwastraff neu ailgylchu;
- staff glanhau i sicrhau bod gwastraff yn cael ei sortio’n gywir a gofyn iddyn nhw roi gwybod i’r gofalwr neu’r tîm rheoli am faterion fel biniau’n gorlifo neu halogiad. Gallant hefyd ddweud a oes gennych chi’r capasiti gwastraff cywir neu os oes angen mwy arnoch;
- Staff arlwyo mewn ceginau ar y safle i leihau gwastraff bwyd drwy reoli dognau a chynhyrchu gormod o wastraff bwyd a gwastraff anochel;
- Darparwyr Rheoli Cyfleusterau (os oes rhai) i sicrhau bod gwasanaethau ailgylchu’n cael eu darparu;
- mae staff tir neu stadau angen gwybod am newidiadau i gasgliadau, ynghyd â lleoliadau biniau y byddant yn eu defnyddio wrth gyflawni eu dyletswyddau, h.y. codi sbwriel neu wagio biniau sbwriel allanol;
- staff dysgu a Chydlynwyr Eco-Sgolion sy’n gallu cysylltu gwersi â’r gweithgareddau ailgylchu hynny y mae angen i ddisgyblion gymryd rhan ynddynt a
- Swyddogion Cynaliadwyedd (sy’n gyffredin mewn lleoliadau addysg uwch a phellach), sydd fel arfer yn adrodd ar faterion amgylcheddol a chynaliadwyedd megis rheoli gwastraff ac yn ymgysylltu yn eu cylch.
Defnyddiwch adnoddau y Busnes o Ailgylchu wrth ymgysylltu â’ch staff, disgyblion, neu fyfyrwyr.
Syniadau ychwanegol ar gyfer prifysgolion a cholegau
Gallech ehangu’r ymgysylltu a negeseuon ynghylch ailgylchu ymysg myfyrwyr a grwpiau staff ehangach drwy:
- roi mwy o finiau ailgylchu mewn mannau sydd â llawer o bobl yn mynd heibio ac ardaloedd sy’n cynhyrchu mwy o wastraff, fel yr Undeb Myfyrwyr, swyddfeydd neu fannau gwaith, siopau coffi neu ffreuturau;
- labelu biniau fel bod defnyddwyr yn gwybod beth ellir ac na ellir ei ailgylchu a sicrhau bod deunyddiau’n cael eu gwahanu’n gywir a’u bod yn wag (h.y. heb wastraff bwyd a diod ynddynt);
- darparu neu ddiweddaru mapiau’r campws i nodi mannau ailgylchu yn ogystal â’r hyn a gaiff ei dderbyn i’w ailgylchu ym mhob lleoliad;
- sicrhau eich bod yn cysylltu â phob carfan o fyfyrwyr bob blwyddyn academaidd fel bod negeseuon ynghylch ailgylchu’n cael eu rhannu’n barhaus ac mewn amrywiaeth o fformatau. Darparwch wybodaeth am ailgylchu: ym mhecynnau croeso’r glas, defnyddiwch eich gwefan, rhowch bosteri o amgylch y campws a’r neuaddau, ac anfonwch wybodaeth ailgylchu i fyfyrwyr drwy ebost a
- lleihau anghysondebau rhwng y gwasanaethau ailgylchu sydd ar gael ar y campws ac oddi arno er mwyn lleihau dryswch i fyfyrwyr. Cysoni labeli biniau a gofyn i landlordiaid preifat ddarparu gwybodaeth i denantiaid newydd ar y gwasanaethau ailgylchu a gwastraff a ddarperir gan y cyngor lleol.
Adnoddau a gwybodaeth ychwanegol
Ysgolion
Lansiodd Cymru yn Ailgylchu ymgyrch ailgylchu mewn ysgolion ym mis Medi 2023 ac mae’n cynnig amrywiaeth o wybodaeth, cyngor ac adnoddau i fachu diddordeb disgyblion a rhoi ailgylchu ar waith.
Mae EcoSgolion yn rhaglen fyd-eang a gaiff ei darparu yng Nghymru gan Cadw Cymru’n Daclus. Cynlluniwyd y rhaglen i annog ac ysbrydoli pobl ifanc i wneud newidiadau amgylcheddol cadarnhaol i gymuned eu hysgol.
Mae Let’s Go Zero yn ymgyrch newid hinsawdd ar gyfer y DU gyfan i helpu ysgolion fod yn ddi-garbon erbyn 2030. Mae’r ymgyrch yn darparu gwybodaeth, adnoddau, astudiaethau achos a gweminarau i gefnogi ysgolion.
Prifysgolion
Mae cefnogaeth ar gyfer sefydliadau addysg uwch a phellach ar gael gan yr EAUC (Environmental Association for Universities and Colleges). Maent yn darparu amrywiaeth o adnoddau a gwybodaeth yn arbennig ar gyfer y sector addysg ôl-16.
Gwasanaeth Bwyd
Mae gwaharddiad ar Blastigion Untro yn cynnwys cyllyll a ffyrc plastig, ffyn troi diodydd, nwyddau polystyren a gwellt yfed.
Guardians of Grub – adnoddau ar gyfer y sector bwyd a lletygarwch i helpu lleihau gwastraff bwyd.
Ar gyfer help a chefnogaeth i fusnesau bwyd, yn cynnwys lleoliadau addysg, i gymryd camau wedi’u targedu i weithredu ar leihau gwastraff yn eu gweithrediadau eu hunain, eu cadwyn gyflenwi a chan ddefnyddwyr, mae’r Pecyn adnoddau map llwybr lleihau gwastraff bwyd (WRAP) yn cynnig camau ymarferol. I weld beth mae eraill wedi’i gyflawni o ddilyn y pecyn adnoddau lleihau gwastraff bwyd gweler Astudiaethau achos lletygarwch a gwasanaethau bwyd (WRAP)
Ar gyfer unrhyw fwyd nad oes mo’i angen mwyach ond sy’n dda i’w fwyta o hyd, mae’r Surplus food hub (WRAP) yn darparu gwybodaeth ar sut i gynyddu ailddosbarthu gwarged bwyd.
I gael arweiniad ar roi’r gyfraith newydd ar waith mewn lleoliadau gwasanaeth bwyd yn eich ysgolion, colegau a phrifysgolion, gweler hefyd ein Canllaw ar gyfer y Sector Lletygarwch a Gwasanaethau Bwyd.