Neidio i'r prif gynnwy

Yn y canllaw hwn

3. Waliau sy’n cynnal llwyth

Mae wal sy'n cynnal llwyth yn cynnal elfennau eraill o'r adeilad, megis y canlynol (sef yr elfennau mwyaf cyffredin):

  • Y to – weithiau caiff rhan o strwythur y to, a fyddai'n cynnwys distiau'r nenfwd yn ardal yr atig, ei chynnal gan waliau mewnol.
  • Wal uwchben – os oes wal arall yn union uwch ei phen, gallai'r wal fewnol fod yn cynnal y wal honno
  • Distiau llawr – weithiau caiff distiau llawr eu hymgorffori mewn wal fewnol, neu byddant yn gorwedd ar ei phen.

Dyma'r rhannau mwyaf cyffredin o adeilad y gallai wal fewnol fod yn helpu i'w cynnal. Fodd bynnag, mae llawer o bethau eraill y dylid chwilio amdanynt. Er enghraifft, gallai'r corn simnai fod wedi'i ddymchwel ar y llawr gwaelod.  Gallai trawst fod wedi'i osod ar draws wyneb isaf gwaelod y corn i'w gynnal, a gallai'r trawst fod yn gorwedd ar wal fewnol er mwyn trosglwyddo'r llwyth i lawr i'r sylfaen.

Gellir cyflogi syrfëwr neu beiriannydd adeiladu i gadarnhau a yw'r wal yn un sy'n cynnal llwyth, ac i ddylunio trawst wedyn i ddarparu ar gyfer y llwyth dan sylw.

Trawst(iau)

Cynhaliaeth strwythurol

Dylid dylunio'r trawst i ddarparu ar gyfer y llwythi yr oedd y wal yn eu cario'n wreiddiol. Yna, bydd angen i'r trawst dan sylw gael ei gynnal gan ddau o gynheiliaid eraill (waliau fel rheol) sy'n gallu trosglwyddo'r llwythi i'r sylfeini. Fel rheol, dylai o leiaf 150mm o unrhyw drawst newydd fod yn gorffwys ar y wal bresennol ar y naill ochr a'r llall i'r agorfa, ac mae'n debygol y bydd angen i'r wal bresennol sy'n cynnal y trawstiau gael ei chryfhau er mwyn ei hatal rhag cael ei gwasgu.  Efallai y bydd hynny'n golygu gosod ardal o goncrit dwys (a gastiwyd ymlaen llaw neu yn y fan a'r lle), a elwir yn garreg gynnal, i wasgaru'r llwyth. Bydd maint cerrig cynnal yn amrywio'n dibynnu ar amgylchiadau'r achos dan sylw. Byddai'n ddoeth siarad â syrfëwr neu beiriannydd adeiladu cyn dechrau ar unrhyw waith.

Diogelwch tân

Os yw'r trawst o ddur, dylid ei ddiogelu rhag tân fel rheol fel ei fod yn gallu gwrthsefyll tân am 30 munud (os caiff ei fesur mewn prawf safonol). Gellir diogelu'r trawst rhag tân mewn nifer o wahanol ffyrdd, ond y ffordd fwyaf cyffredin yw defnyddio dwy neu ragor o haenau o blastrfwrdd sydd wedi'u gosod yn briodol – y bydd eu trwch yn dibynnu ar fanyleb y gwneuthurwr.

Pe baech yn ffafrio trawst pren agored, byddai angen cyfrifiad fel rheol i ddangos beth yw gallu cynhenid y trawst i wrthsefyll tân – bydd hynny'n dibynnu ar faint y trawst a'r math o bren. Yn gyffredinol mae gan drawst concrit, sydd wedi'i atgyfnerthu fel rheol gan ddur y tu mewn iddo, ddigon o nodweddion sy'n ei alluogi i wrthsefyll tân, cyhyd â bod y dur wedi'i orchuddio'n ddigonol gan y concrit.