Yn y canllaw hwn
5. Cynhaliaeth strwythurol
Gall waliau mewnol gael eu hadeiladu o wahanol ddeunyddiau, megis fframwaith coed, fframwaith metel neu waith maen. Wrth adeiladu wal fewnol newydd, dylai fod rhywbeth oddi tani sy'n ddigon cryf i'w chynnal, ni waeth a yw'r wal yn un sy'n cynnal llwyth ai peidio.
Waliau nad ydynt yn cynnal llwyth
Yn achos waliau fframwaith coed neu fframwaith metel, bydd yn dderbyniol fel rheol iddynt gael eu cynnal gan y distiau llawr presennol (nid yr estyll), naill ai drwy ddarparu dist llawr dwbl dan y wal os yw'r distiau a'r wal yn rhedeg ochr yn ochr â'i gilydd, neu drwy osod y wal ar draws y distiau presennol os yw'r distiau llawr ar ongl o 90° i'r wal. (Yn y ddau achos, efallai y bydd amgylchiadau'n codi lle gallai fod angen cynhaliaeth ychwanegol. Felly, argymhellir yn gryf y dylech ofyn i syrfëwr neu beiriannydd adeiladu gadarnhau a yw'r distiau llawr yn ddigonol i gynnal y wal.)
Yn achos waliau gwaith maen, sy'n drymach, gallai fod angen i'r distiau llawr fod yn fwy neu gallai fod angen darparu trawst newydd, sy'n fwy tebygol. Os yw'r llawr wedi'i wneud o goncrit, bydd yn anodd mesur trwch a chryfder y llawr. Felly, oni bai eich bod yn hollol siŵr o'i drwch a'i gryfder, byddai'n ddoeth codi'r wal ysgafnaf posibl.
Waliau sy'n cynnal llwyth
Mae'n debygol y bydd y gynhaliaeth y mae ei hangen ar gyfer wal sy'n cynnal llwyth yn fwy helaeth, yn dibynnu ar y llwyth y bydd y wal newydd yn ei chynnal.
Ar gyfer wal newydd ar lawr uchaf tŷ cyffredin, mae'n annhebygol y bydd defnyddio'r distiau llawr presennol yn ddigonol i ddarparu cynhaliaeth i'r wal, oherwydd mae'n fwy na thebyg y bydd pwysau'r wal ynghyd â'r llwyth y mae'n ei gynnal yn fwy na'r pwysau y gall y distiau ei gynnal. Gallai hynny olygu gosod trawst newydd a ddylai gael ei gynnal yn ddigonol hefyd.
Ar gyfer wal newydd ar lawr gwaelod tŷ cyffredin, bydd y gynhaliaeth y mae ei hangen yn dibynnu ar adeiladwaith y llawr presennol. Os yw'n llawr pren, bydd ystyriaethau tebyg i'r ystyriaethau ar gyfer wal newydd ar lawr uchaf adeilad yn berthnasol (gweler uchod). Fel arall, gellir darparu sylfaen newydd dan y llawr, er y gallai gwneud hynny fod yn anodd oherwydd diffyg lle dan y llawr. Mae'n debygol hefyd y bydd angen sylfaen newydd, hyd yn oed os yw'r llawr wedi'i wneud o goncrit, oni bai y gellir dangos bod y llawr yn ddigonol i gario'r llwythi newydd hyn.
Wrth godi wal newydd a gaiff ei hadeiladu ar slab neu sylfaen newydd sy'n gorffwys ar y ddaear, dylid sicrhau ei bod yn cynnwys cwrs atal lleithder sydd o leiaf 150mm uwchlaw lefel y ddaear. Os caiff y wal ei ffurfio drwy lawr concrit presennol, dylid sicrhau nad oes toriad yn y croen atal lleithder, drwy gysylltu'r cwrs atal lleithder ag unrhyw groen atal lleithder yn y llawr presennol. Mae hon yn broses anodd ei chyflawni heb ddifrodi'r croen neu'r llawr.
Os yw'r wal newydd yn mynd drwy lawr pren presennol, dylid rhoi sylw i un agwedd allweddol, sef yr angen i sicrhau bod unrhyw bren newydd sy'n cyffwrdd â'r wal newydd neu a gynhelir ganddi yn gorwedd uwchlaw lefel y cwrs atal lleithder. Yn ogystal, os oes system awyru yn y gwagle dan lawr pren crog, mae'n debygol y bydd angen brics tyllog yn y wal er mwyn cynnal llif yr aer drwy'r gwagle.