Yn y canllaw hwn
6. Awyru
Wrth osod wal fewnol newydd, dylid gofalu nad ydych yn gwaethygu materion eraill megis awyru.
Os bydd ystafell newydd yn cael ei chreu wrth ychwanegu wal fewnol, dylid cymryd camau hefyd i sicrhau bod yr ystafell sy'n bodoli eisoes yn cael ei hawyru'n ddigonol. Bydd lefel yr awyru y mae ei hangen yn dibynnu ar y math o ystafell.
Dyma'r rheolau cyffredinol ar gyfer awyru ystafell:
Llwyrawyru – gwneir hynny drwy agor y ffenest. Fel rheol, dylai arwynebedd yr agorfa gyfateb i o leiaf 1/20 o arwynebedd llawr yr ystafell a wasanaethir, oni bai ei bod yn ystafell ymolchi. Os felly, gall yr agorfa fod o unrhyw faint.
Awyru adeilad cyfan – fe'i gelwir hefyd yn awyru araf, a gellir ei ymgorffori ar dop fframiau'r ffenestri neu drwy ryw ddull arall. Bydd yr arwynebedd yn amrywio yn ôl y math o ystafell:
- Ystafell ymolchi – 4000mm²
- Pob ystafell arall – 8000mm²
Fel rheol bydd angen y ddau ddull hyn o awyru, ond efallai y bydd dulliau eraill hefyd yn dderbyniol os bydd y Corff Rheoli Adeiladu yn cytuno â nhw.
Ffaniau echdynnu mecanyddol
Dylid rhoi ffan echdynnu fecanyddol mewn unrhyw gegin, ystafell amlbwrpas, ystafell ymolchi/cawod neu doiled newydd lle nad oes ffenest y gellir ei hagor, er mwyn lleihau anwedd a chael gwared ag arogleuon. Caiff perfformiad angenrheidiol y ffaniau echdynnu hyn ei fesur fel rheol ar ffurf litrau'r eiliad (l/e) fel a ganlyn:
- Cegin - 30l/e os yw uwchben yr hob a 60 l/e os yw mewn man arall.
- Ystafell amlbwrpas - 30l/e.
- Ystafell ymolchi/cawod - 15l/e, ac yn parhau i weithio am 15 munud ar ôl i'r golau gael ei ddiffodd os nad oes ffenest y gellir ei hagor.
- Toiled - 6l/e, ac yn parhau i weithio ar ôl i'r golau gael ei ddiffodd.
Gallai cyfraddau eraill fod yn berthnasol os yw'r system awyru'n gweithio'n barhaus.