Neidio i'r prif gynnwy

6. Pwysau (llwyth)

Dylai'r wal fod yn ddigonol i allu trosglwyddo llwythi, er enghraifft, trosglwyddo llwyth ei phwysau ei hun neu'r to y mae'n ei gynnal yn ddiogel i'r sylfeini.

Linteli

Os caiff agorfa ei chreu mewn wal, bydd angen cynnal y strwythur uwchben yr agorfa, hyd yn oed os yw'n eithaf bach. Defnyddir linteli i gynnig cynhaliaeth o'r fath fel rheol, mewn un o ddwy ffordd:

  1. Un lintel (o ddur fel rheol, a deunydd inswleiddio'n rhan ohono) sy'n cynnal dalen fewnol a dalen allanol wal geudod.  Fel rheol, bydd y lintel hwn hefyd yn badell wal geudod, sy'n cyfeirio lleithder allan o'r ceudod drwy haen allanol y wal.
  2. Dau lintel (o ddur neu goncrit), gyda'r naill a'r llall yn cynnal un ddalen o wal geudod. Mae'n debygol y bydd angen deunydd inswleiddio thermol a phadell wal geudod ar wahân.

Yn achos waliau solet, mae'n arfer da defnyddio lintel lle gellir gosod deunydd inswleiddio er mwyn osgoi anwedd.

Dylai fod lle addas ar gael i bob lintel orffwys ar y wal sydd bob ochr i'r agorfa. Byddai'n ddoeth ymgynghori â'r gwneuthurwr neu beiriannydd ynghylch cael lintel o'r maint cywir, a chael y lle gorffwys cywir ar ei gyfer.