Neidio i'r prif gynnwy

4. Gwydnwch thermol

Bydd y ffaith bod gan y waliau wydnwch thermol yn cyfyngu ar y gwres y bydd yr adeilad yn ei golli o'i ardaloedd mewnol ac yn ei ennill o'r amgylchedd y tu allan.  Bydd y deunyddiau a ddefnyddir yn pennu'n union sut y cydymffurfir â'r gofynion, ac yn gyffredinol gall gwneuthurwyr ddarparu rhyw fath o gyfarwyddyd ar gyfer eu cynnyrch.

Waliau ceudod

Gellir llenwi'r ceudod yn llawn neu'n rhannol â deunydd inswleiddio (dylid ymgynghori â'r gwneuthurwyr cyn bwrw ymlaen). Os caiff ei lenwi'n rhannol bydd angen bwlch aer fel rheol, y bydd ei faint yn amrywio'n ôl y cynnyrch penodol a ddefnyddir i adeiladu ac inswleiddio'r waliau. Dylai'r deunydd inswleiddio fynd o leiaf 150mm islaw lefel y cwrs atal lleithder.

Waliau solet

Yn gyffredinol caiff y waliau hyn eu hinswleiddio drwy osod rhyw fath o elfen thermol ar y tu mewn a rendro'r tu allan. Bydd trwch y cynnyrch yn dibynnu ar drwch y bloc a'r math o floc a ddefnyddir.

Elfennau thermol

Fel rheol, byddai angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu i wneud newidiadau sylweddol i elfennau thermol, a byddai angen i ddeunydd inswleiddio thermol yr elfen gael ei uwchraddio i safon resymol. Caiff waliau eu diffinio'n elfennau thermol gan Reoliad 2(3) Rheoliadau Adeiladu 2010.

Bydd y graddau y caiff y gwaith ar yr elfen ei reoli, a graddau'r gwaith uwchraddio y mae ei angen, yn dibynnu ar y pethau y mae'r elfen yn eu gwahanu (h.y. beth sydd bob ochr i'r elfen) ac i ba raddau y bwriedir adnewyddu'r elfen. Yn gyffredinol, pan mae'n ei adnewyddu yna dylid ei uwchraddio, lle mae'n gost effeithiol i wneud hynny, at y safon a nodir yn y ddogfen gymeradwyo. Gweler adran 5 ac Atodiad C o Ddogfen Gymeradwy L1B.

Caiff cyfieithiad o'r diffiniad yn Rheoliad 2(3) Rheoliadau Adeiladu 2010 ei nodi yma er cyfleustra.

(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr y term "elfen thermol" yw wal, llawr neu do (ond nid ffenestri, drysau neu ffenestri to) sy'n gwahanu rhan o'r adeilad a dymherir yn thermol ("y lle tymherus") oddi wrth:

     (a) yr amgylchedd allanol (gan gynnwys y ddaear); neu
     (b) yn achos lloriau a waliau, rhan arall o'r adeilad:
          (i) nad yw'n dymherus;
          (ii) sy'n estyniad sy'n perthyn i ddosbarth VII Atodlen 2; neu
          (iii) lle bo'r paragraff hwn yn berthnasol, a dymherir i dymheredd gwahanol,

ac mae'n cynnwys pob rhan o'r elfen rhwng yr arwyneb sy'n ffinio â'r lle tymherus a'r amgylchedd allanol neu ran arall o'r adeilad, yn ôl y digwydd.

(4) Dim ond i adeilad nad yw'n annedd y mae paragraff (3)(b)(iii) yn berthnasol, lle caiff rhan arall yr adeilad ei defnyddio at ddiben nad yw'n debyg neu nad yw'r un fath â'r diben y defnyddir y lle tymherus ar ei gyfer.

Mae cyfarwyddyd pellach ynghylch y mater ar gael yn Nogfen Gymeradwy L1B sy'n ymdrin â:

  1. Cyfarwyddyd ynghylch adnewyddu’r elfennau thermol (Adran 5 ar dudalennau 17-18)
  2. Esboniad ynghylch pryd y bydd gwaith adnewyddu yn arwain at ofyniad i uwchraddio deunydd inswleiddio, a pha waith ychwanegol a allai fod yn ofynnol (gweler Atodiad C a thabl C1 ar dudalennau 45-48).

Dylech ymgynghori'n llawn â'r Rheoliadau a'r Ddogfen Gymeradwy, ac os oes gennych unrhyw amheuaeth, dylech ofyn am gyngor cyn dechrau ar y gwaith. Nid yw'r diffiniad o elfen thermol yn cynnwys ffenestri, drysau neu ffenestri to.