Yn y canllaw hwn
3. Diogelwch tân
Yn dibynnu ar y pellter rhwng y wal a'r ffin ag eiddo cyfagos, efallai y bydd angen hefyd i'r wal allu gwrthsefyll tân (er mwyn cyfyngu ar effeithiau tân sy'n ymledu o eiddo cyfagos neu i eiddo cyfagos).
Bydd arwynebedd y waliau y caniateir iddynt allu gwrthsefyll tân i raddau llai neu i raddau na wyddys (a elwir yn ''ardaloedd na warchodi'') – megis agorfeydd ar gyfer ffenestri neu ddrysau – yn dibynnu ar ba mor agos yw'r elfennau hynny i'r ffin.
Os bydd y wal hefyd yn cario llwyth, gan ei bod yn cynnal to neu lawr uwch ei phen, bydd angen iddi allu gwrthsefyll tân ni waeth beth fo'r pellter rhyngddi a ffin.