Neidio i'r prif gynnwy

4. Rhagor o wybodaeth: inswleiddio ac elfennau thermol

Fel rheol, byddai angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu i wneud newidiadau sylweddol i elfennau thermol (wal, llawr neu to), a byddai angen i ddeunydd inswleiddio thermol yr elfen gael ei uwchraddio i safon resymol. Caiff wal, llawr neu to eu diffinio'n elfennau thermol gan Reoliad 2(3) Rheoliadau Adeiladu 2010 (fel y'u diwygiwyd)).

Bydd y graddau y caiff y gwaith ar yr elfen ei reoli, a graddau'r gwaith uwchraddio y mae ei angen, yn dibynnu ar y pethau y mae'r elfen yn eu gwahanu (h.y. beth sydd bob ochr i'r elfen) ac i ba raddau y bwriedir adnewyddu'r elfen. , lle mae'n gost effeithiol i wneud hynny, i’r safon y nodir yn y ddogfen gymeradwyo. Gweler adran 5 ac Atodiad A o Ddogfen Gymeradwyo L1B.

Caiff cyfieithiad o'r diffiniad yn Rheoliad 2(3) Rheoliadau Adeiladu 2010 (fel y'u diwygiwyd) ei nodi yma er cyfleustra.

(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr y term "elfen thermol" yw wal, llawr neu do (ond nid ffenestri, drysau neu ffenestri to) sy'n gwahanu rhan o'r adeilad a dymherir yn thermol ("y lle tymherus") oddi wrth:

     (a) yr amgylchedd allanol (gan gynnwys y ddaear); neu
     (b) yn achos lloriau a waliau, rhan arall o'r adeilad:
          (i) nad yw'n dymherus;
          (ii) sy'n estyniad sy'n perthyn i ddosbarth VII Atodlen 2; neu
          (iii) lle bo'r paragraff hwn yn berthnasol, a dymherir i dymheredd gwahanol,

ac mae'n cynnwys pob rhan o'r elfen rhwng yr arwyneb sy'n ffinio â'r lle tymherus a'r amgylchedd allanol neu ran arall o'r adeilad, yn ôl y digwydd.

(4) Dim ond i adeilad nad yw'n annedd y mae paragraff (3)(b)(iii) yn berthnasol, lle caiff rhan arall yr adeilad ei defnyddio at ddiben nad yw'n debyg neu nad yw'r un fath â'r diben y defnyddir y lle tymherus ar ei gyfer.

Mae cyfarwyddyd pellach ynghylch y mater ar gael yn nogfen gymeradwy L1B yn yr adran ar gyfer Defnyddwyr Proffesiynol yn y Porth hwn, sy'n ymdrin â:

  • Cyfarwyddyd ynghylch elfennau thermol (Adran 5 ar dudalennau 17-18)
  • Esboniad ynghylch pryd y bydd gwaith adnewyddu yn arwain at ofyniad i uwchraddio deunydd inswleiddio, a pha waith ychwanegol a allai fod yn ofynnol (gweler Atodiad A a thabl ar dudalennau 21-23).

Dylech ymgynghori'n llawn â'r Rheoliadau a'r Ddogfen Gymeradwy, ac os oes gennych unrhyw amheuaeth, dylech ofyn am gyngor cyn dechrau ar y gwaith. Nid yw'r diffiniad o elfen thermol yn cynnwys ffenestri, drysau neu ffenestri to.

To ar oleddf

Caiff gosod deunydd inswleiddio rhwng distiau’r nenfwd. Eto, bydd trwch y deunydd inswleiddio yn amrywio'n dibynnu ar y deunydd dewiswyd.

Os nad oes nenfwd i’r to caiff gosod y deunydd inswleiddio rhwng y ceibrennau a chaiff awyru ei gynnal fel disgrifiwyd uchod – dylid gosod fentiau ar hyd crib y to hefyd i ganiatáu awyru trwyadl.

Am ganllawiau pellach inswleiddio toeau, gweler dogfen gymeradwy L1B.