Yn y canllaw hwn
7. Rhagor o wybodaeth: gwydnwch thermol (inswleiddio)
Gellir inswleiddio to mewn dwy ffordd:
- dec cynnes: caiff y deunydd inswleiddio ei osod ar ben y ceibrennau/distiau, ac yna caiff gorchudd y to ei osod ar y deunydd inswleiddio. Nid oes angen i'r mathau hyn o doeau gael eu hawyru.
- cec oer: caiff y deunydd inswleiddio ei osod rhwng y distiau/ceibrennau neu rhwng distiau'r nenfwd yn achos to ar oleddf. Mae angen i'r toeau hyn gael eu hawyru.
To gwastad
- Dec cynnes: Mae'r math o ddeunydd inswleiddio ar gyfer dec cynnes fel rheol yn ddeunydd caled, a bydd y trwch yn amrywio'n dibynnu ar fanyleb y gwneuthurwr. Caiff y deunydd ei osod dros ddistiau'r to, a chaiff pren (pren haenog allanol fel rheol) ei osod ar ei ben. (Bydd y trwch yn amrywio'n ôl manyleb y gwneuthurwr.) Yna, caiff gorchudd y to ei osod dros y pren haenog.
- Dec oer: Bydd y trwch y mae ei angen o ddeunydd inswleiddio yn amrywio'n dibynnu ar y deunydd y dewiswch ei ddefnyddio a manyleb y gwneuthurwr. Dylid gadael bwlch awyru, sef 50mm fel rheol, rhwng wyneb uchaf y deunydd inswleiddio ac wyneb isaf gorchudd y to er mwyn caniatáu i'r aer lifo drwodd. Dylid darparu tyllau awyru (naill ai yn y bondo neu'r wal sy'n ymestyn uwchlaw lefel gorchudd y to). Dylid ychwanegu croen anwedd at wyneb isaf y deunydd inswleiddio, a dylid ei dacio'n sownd wrth y distiau cyn gosod y plastrfwrdd yn ei le.
To ar oleddf
- Dec cynnes: Caiff y deunydd inswleiddio ei osod dros y ceibrennau, ac yna caiff ffeltin ei osod ar ei ben. Yna caiff yr ais a'r teils eu gosod yn sownd drosto. Bydd trwch y deunydd inswleiddio yn amrywio'n dibynnu ar fanyleb y gwneuthurwr.
- Dec oer: Gellir gosod y deunydd inswleiddio rhwng y ceibrennau, neu gellir ei osod rhwng distiau'r nenfwd. Bydd trwch y deunydd inswleiddio yn y ddau achos yn amrywio'n dibynnu ar y deunydd a ddefnyddiwch a manyleb y gwneuthurwr. Dylid gosod fentiau yn y to, ar hyd y bondo yn y tu blaen a'r tu cefn, neu o'r naill ochr i'r llall. Os caiff y deunydd inswleiddio ei osod rhwng y ceibrennau, dylid gosod fentiau ar hyd crib y to hefyd.