Neidio i'r prif gynnwy

2. Adeiladu to newydd (ee ar gyfer estyniad)

Bydd yn ofynnol i do newydd allu:

  • gwrthsefyll y tywydd
  • atal tân rhag ymledu o un eiddo i eiddo arall
  • cynnal llwythi (pwysau)
  • atal colli gwres (inswleiddio)
  • cael ei awyru er mwyn atal anwedd (yn y rhan fwyaf o achosion)
  • cael draeniau digonol

Defnyddir dau fath o do yn gyffredinol:

  • to ar oleddf – Caiff teils neu lechi eu defnyddio, a chaiff gwagle ei greu oddi tano fel rheol
  • to gwastad – Bydd fel rheol yn cynnwys ffeltin sydd ar ychydig bach o oleddf er mwyn caniatáu i ddŵr glaw ddraenio oddi arno

Er mwyn dangos eich bod yn cydymffurfio â gofynion y Rheoliadau Adeiladu, bydd angen manylion llawn y to newydd – gan gynnwys manylion y deunyddiau, eu meintiau a'u priodweddau o ran perfformiad.

Gorchudd

Dylai'r deunyddiau a ddefnyddir i orchuddio'r to fod yn wydn, a dylent allu gwrthsefyll elfennau'r tywydd.  Yn achos to ar oleddf, bydd y math o deilsen neu lechen y byddwch am ei defnyddio yn dibynnu'n rhannol ar ba mor serth neu wastad yw goleddf y to.  Os yw'r to yn agos i ffin, sy'n wir fel rheol, dylai fod gan y to briodweddau hefyd sy'n cyfyngu'r perygl y gallai tân ymledu ar draws y ffin.

Awyru

Nid oes angen awyru pob to. Nid oes angen awyru to sydd â system to cynnes, lle caiff y deunydd inswleiddio ei osod uwchlaw'r distiau neu'r ceibrennau. Fel arall bydd angen awyru'r to, a gelwir y system yn 'system to oer'.

Wrth awyru to, dylai fod modd i'r aer fynd i mewn yn un pen a theithio drwy'r to i'r pen arall lle gall fynd allan.

Rhagor o wybodaeth

Pwysau (Llwyth)
Gwydnwch thermol (Inswleiddio)